Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

GWEINYDDIAETH GREF.

News
Cite
Share

GWEINYDDIAETH GREF. HYSBYSASOM yn y rhifyn diweddaf fod Mr. BALFOUR w di cyflwyno ei ymddiswyddiad fel Prifweinidog i'r brenin; fod ei fawrhydi wedi ei dderbyn; a'i fod hefyd wedi anfon at Syr HENRY OAMPBELL BANNERMAN, gan orchymyn iddo ffurfio Gweinyddiaeth Rydd, frydig yn lie yr un Doriaidd. Wrth gwrs, n' t5 ni ddywedodd y Brenin EDWARD wrth Syr HENRY, mewn cynnifer a hyny o eiriau- I Ffurfiwch Weinyddiaeth Ryddfrydig.' Nid oedd angen iddo ddyweyd dim o'r fath wrtho. Del\lla y ddan eu gilydd yn drwy- adl ar y pen hwnw. Oydsyniodd 'OB.' ar unwaith, er fod rhywrai wedi darogan mai gwrthod a wnai, ar yr esgus mai Mr. BAL- FOUR a ddylai fod y Prifweinidog i appelio at y wlad. Erbyn hyn y mae y Weinydd- iaeth newydd wedi ei ffurfio; a chyn y daw hyn o dan lygad y darllenydd, bydd seliau swydd wedi eu cyflwyno i'w gwahanol swyddogion, a Llywodraeth yr ymherodr- aeth nad yw yr haul byth yn machlud arni yn weithredol yn eu dwylaw. Nid ydym yn petruso dim ynghylch pen- awd ein herthygl fel disgrifiad cywir o honi. Gweinyddiaeth gref ydyw mewn gwirion- edd. Am hon nis gellir dyweyd yr hyn a ddywedid am y Weinyddiaeth ddiweddar, mai I Gweinyddiaeth o Is-Ysgrifenyddion, ag eithrio ei Phrifweinidog,' ydyw. Nid Gweinyddiaeth o fechgynos mewn gwlad- weiniaeth sydd wrth y llyw heddyw Hob law hyny, llongyfarchwn Syr HENRY OAMP- BELL BANNERMAN o herwydd ei lwyddiant yn crynhoi ynghyd Weinyddiaeth mor gyn- nwysfawr. Wrth hyny golygwn ddau beth, nid amgen, dwyn i mewn iddi gyn- nrychiolwyr teg o bob adran o'r farn a'r teimlad sydd yn nodweddu y Biaid Rydd- frydig yn y dyddiau presennol; ac hefyd, dewis ei ddynion i swyddau ag y gellir dy- weyd, oddi wrth yr hyn a wyddom am danynt, sydd yn cyfatteb i'w hanianawd a'u dyhewyd; ac am hyny, swyddau ag y gellir yn rhesymol disgwyl i'r dynion brofi eu hunain yn swyddwyr effeithiol ynddynt, Taerodd y newyddiaduron Tornidd lawer yn ystod yr wythnos ddiweddaf mai aphlaid ymranedig yr oedd gan y Prifweinidog ne- wydd i ymwneyd, a phrophwydeot yr an- hawsderau mwyaf ar ei tfordd i ffurfio ei Weinyddiaeth. Gwyddom, wrth gwrs, nad ydoedd hyn oil namyn I breuddwyd gwrach wrth ei hewyllys.' Dyna a ddymunasent hwy. Aruthr ydyw eu siom gan hyny, pan yn canfod mor hwylus yr aeth Syr HENRY trwy yr oil o'i waith pwysig. Am ba beth y prophwydant hwy yn nesaf ? Ni'n dawr. Ond, yr ydym yn dyfalu Y ddfirogan nesaf fydd-ymranu pan y dechreuant hwy weithio Wel, ceir gweled hyny hefyd, os cwn fyw Nad oes ymraniadau yn y blaid yn awr a brofwyd hwnt ammheuaeth gan y rhestr o aelodau yn ei I Gabinet,' ac eraill, a gyf- lwynodd y Prifweinidog i'r Brenin nos Sul diweddaf. Yr holl arweinwyr Rhyddfrydig ydvnt yn cydweithredu yn galonog. Ag eithrio Arglwydd ROSEBERY, wrth gwrs. Gwell ganddo ef barhau i I arddu ei gwys mewn unigrwydd.' Efe ei hun pisu yr ymadrodd. Ymraniad, yn wir! Pwy a faidd s6n am ddim o'r fath pan geir Syr EDWARD GREY a Mr. HALDANE yn aelodau biaenllaw mewn gweinyddiaeth ag y bu y Torïaid yn taeru hyd lesni gwyneb nas gallent gyd-dynu am awr a. Syr HENRY CAMPBELL-BANNERMAN. Ymraniad, yn wir, meddwn etto, pan y mae Mr. ASQUITH, Mr. MORLEY, Mr. LLOYD-GEORGE, a Mr. JOHN BURNS yn myned i eistedd wrth yr un bwrdd! Yn sicr, rhaid i'r Toriaid ddy- chymygu rhyw gawd arall o edliwiadau ac ensyniadau. Ddaw hi ddim y ffordd ene, beth byn¡;g,' a defnyddio ymadrodd llafar gwlad ar DdySryn Olwyd Yn mysg y Toriaid y mae ymraniadau, ac hyd yn oed ymrwi giadau. Yn mysg y Rhyddfrydwyr ni fu erioed gymmaint o undeb ac ysbryd cydweithrediad. Er enghraifft, un ffaith eglur oddi wrth enwau aelodau y Weinyddiaeth newydd ydyw fod Masnach Rydd yn I blanc arbenig yn eu credo gwleidyddol. Nid oes yn eu mysg gymmaint ag un nad ydyw wedi dadguddio ei hun, dro ar ol tro, yn y modd mwyaf cyhoeddus, yn Rhyddfasnachwr diymmod. Am allu y Weinyddiaeth newydd ni raid petruso moment. Nid ammhriodol a fyddai cymmhwyso ati y disgrifiad anrhydeddus Z, y o un o'r gweinyddisethau blaenorol Gweinyddiaeth Talent.' A hono y dalent anhebgor i lanw eu cylchoedd newyddion. Yr ymffrost Dorïaidd wedi myned yn ffasiwn' yn y glymblaid y naill oddi wrth y Hall—ydoedd mai ganddynt hwy yn unig yr oedd y dalent wladweiniol. Pan oedd Mr. CHAMBERLAIN, Syr MICHAEL HICKS- BEACH, a Mr. RITCHIE, yn aelodau yn eu gweinyddiaeth gallasem ddygymmod i ryw fesur â/u honiad anwir. Ond, am Wein- yddiaeth nad oedd ynddi, ar ol gadael allan o honi y cyn Brifweinidog, ac hwyrach y cyn-Weinidog Tramor, ond Mr. BRODRICK, Mr. AUSTEN CHAMBERLAIN, Mr. LYTTLETON, Mr. GERALD BALFOUR, a rhai mamch hyd yn oed na hwy, yn aros, nid oedd yr haeriad yn ddim amgen na thrais, enllib, a chabledd ar wirionedd. Ac yn dystion o hyny cymmerer eu gweithredoedd. Ni fynwn sarhau y Weinyddiaeth newydd tnyyei chyferbynu am foment a'r un sydd newydd ddyfod i'w thrange. Coll amser yn gystal a sarhad a fyddai gwnsyd. Nid oes gymmhariaeth na chyferbyniad rhyngddynt, oni bae cymmharu a chyferbynu o honom un o fryniau iselaf y DywysogaeLh i'r Wyddfa, neu Gadair Idris, a hyny er mwyn galw sylw at iselder trum y naill ac ucbel- der copa y llall. Gadawer i ni fyned dros y rhestr (yr hon a geir mewn ffulf gryno mewn colofn arall). Dyna y Prifweinidog ei hun. Nid dyn yn eistedd ar y gamfa ydyw efe. Gwyr ei feddwl ar bob pwngc. Nid oes ganddo ar- awyd i neb, pwy bynag, wybod ar ba ochr i'r clawdd y saif efe ar Fasnach Rydd, Cwestiwn yr Ynys Werdd, nac unrhyw bwngc llosgawl' arall. Nid Arglwydd Ganghellydd opiniyngar, nac un a ddefnyddia ei swydd oruchel i wobrwyo ei ffryndiau a ffyddloniaid ei blaid ar wahan i allu a chymwhwysder sydd genym yn awr. Bydd Syr ROBERT REID yn sicr o gadw urddas y swydd i fyny heb ei lychwino ei hun, na goddef i eraill wneyd dim o r fath. A medda yr holl anhebgorion i wneyd y blaenor yn y gyfraith' fydd yn sicr o ennill parch a phoblogrwydd. Cydnebydd pawb fod yr iawn ddyn wedi ei osod yr y Swyddfa Dramor. Am gym- mhwysder Syr EDWARD GREY i fod yn Wein- idog Tramor nid gormod fyddai dyweyd fod hyd yn oed y Toriaid eu hunain yn eu cyd- nabod. Yr unig wrth-ddadl y gallant ei chodi yn erbyn y pannodiad arno ef ydyw, mai aeiod o y Cyffredin ydyw, pryd yr arferent hwy yo wastad dybio mai i DJ yi Arglwyddi y dylai pob Prifweinidog fyned i; ymofyn am y (Jweinidog hwn. Maetais' fawr fydd i'r Gweinidog Tramor fod yn aelod o Dy y Cyffredin, meddwn ninnau. Un peth arall nas dylem beidio ei ddyweyd am Syr EDWARD GREY ydyw, ei fod yn debyg o ennill ymddiried Ilywodraethwyr y gwled- ydd tramor y bydd ganddo i ymwneyd a hwy. Gwna Mr. ASQUITH Ganghellydd y Trysor- lys a fydd yn sicr o gadw i fyny draddod- iadau uchel y swydd pan oectd hi yn Dwylaw Mr. GLADSTONE a Syr WILLIAM HARCOURT, a chyn ei disgyniad i'r dyfuder ma.wr yn nwylaw Mr. AUSTEN CHAMBERLAIN. Am y pennodiad ar Mr. JOHN MORLEY i Swyddfa yr India digon heddyw ydyw dyweyd fod yr India ei hun wedi dadgan yn groyw, mewn modd cyhoeddus, ei dymuniad mai efe a fyddai yn cael ei bennodi iddi. Yn lie Mr. ARNOLD-FOSTER yn y Swyddfa Rhyfel ceir Mr. HALDANE. Ei ben clir a'i allu diammheuol ef a'i cyfaddasa yn amlwg iawn i adennill ymddiried y fyddin i'r swyddfa sydd yn ei rheoleiddio. Bydd y cyfnewidiad yn ddirfawr yn y swyddfa hon, yn arbenig. Ac yn Swyddfa y Trefedigaethau yn ogystal bydd cyfnewidiad mawr. Y profiad a gafodd efe fel Rhaglaw yr India, a'i wybodaeth eang am Brydain hwnt i'r mor,' a wna Arglwydd ELGIN ef yn gynllun o Weinidog y Trefedigaethau yr ydym yn credu. M^n ef sychu ymaith waradwydd caethwamnaeth ar y Rand, yr ydym yn teimlo yn hyderus. Caiff y Llynges wr profiadol a chyfarwydd i'w rheoleiddio yn mherson Arglwydd TWEEDMOUTH Un felly fydd Mr. HERBERT GLADSTONE yn y Swyddfa GartrefoL Yr ydym yn falch neillduol o Iarll CAR- RINGTON fel Gweinidog Amaethyddiaeth. Nid o herwydd ei ffyddlondeb i Ryddfryd- iaeth yn unig. Efe oedd cadeirydd y I)dir- prwyaethDirol yn Nghymru. Efe, hefyd, yw yr unig dirfeddiannwr mawr sydd wedi rhoddi treial teg ar gynllun y man-ddaliadau amaethyddol ar ei etifeddiaeth ei hun. Pe y gofynasid i ni pwy a roddasem yn y Swyddfa Addysg dywedasem yn lied ddi- betrus—Mr LLOYD GEORGE. Ond, gan mai Mr. AUGUSTINE BIREELL fydd yn llywyddu belJach yno, Did ydym yn pryderu dim am y dyfodol. Gwna Mr. SYDNEY BUXTON Bostfestr Cyffredinol rhagorol. Ni bydd perygl iddo ef anghofio ei hun fel Arglwydd STANLEY, a galw enwau drwg ar y postmyn.' Dylai Ysgotland fod yn falch o'i Hysgrif enydd hithau. Un o'i meibion ieuaingc Rhyddfrydig mwyaf talentog ydyw Mi. JOHN SINCLAIR. Llawenydd a ddylai lanw calon yr Ynys Werdd, hefyd, am gael newid Mr. WALTER LONG am y Proffeswr BRYCE. Yn lie dyn di-n6d, heb nemawr allu, ac fel poblach fychain yn gyffredin, yn orlawn o ragfarn, caiff yn ysgrifenydd iddi ddyn ag y mae ei enw yn glodfawr trwy yr holl fyd, »c yn hysbys fel dyn parod ac awyddus i roddi i'r Gwyddelod yr hyn a gyfiawn haeddant, fel oenedloedd eraill y Deyrnas Gyfunol, ar lwybr iawnder. Yr ydym yn falch fod Mr. JOHN BURNS 0 fewn y Cylch Cyfrin. Yr Aelod Llafur cyntaf erioed i gael yr anrhydedd. Yn Mwrdd y Llywodraeth Leol efe a gaiff waiih wrth ei fodd ac efe a'i gwna yn onest. Os metha, y mae yn ddigon o ddyn i ymddi- swyddo. Yr ydym wedi gadael y pennodiad mwyaf dyddorol i ni yn Nghymru hyd yr olaf. An- fonasom ein llongyfarchiadau yn union- gyrchol gyda'r pellebyr i Mr. LLOYD GEORGE; ac yr ydym etto, yn y modd mwyaf oyhoedd- us, yn ei longyfarch, ac yn eidduno iddo lawer o flynyddoedd a nerth iechyd yn ddibrin i wneyd Llywydd dan gamp yn y Bwrdd Masnach. Efe yw y Cymro cyntaf o waed ac iaith, hyd y gwyddom ni, i gael ei alw i fod yn un o weinidogion blaenaf ei Fawrhydi. Boddhad cyffredinol a roddodd y pennodiad arno. Nid ydyw y dyrchafiad hwn ond yr hyn y mae ei wasanaeth i'r blaid wedi ei lawn deilyngu. Yn awr, i Syr HENRY CAMPBELL-BANNER- A,rA,Y, ai Weinyddiaetli Gref, dymunwn bob llwydd i wneyd y gwaith mawr a ddisgwyl- ir oddi wrthi, mewn dattroi gweithredoedd deng mlynedd o ormes, a dwyn diwygiadau angenrheidiol i weithrediad. Yr ydym yn ei dynghedu ef a hithau i gofio Cymru yn helaeth

Y RHYFEL-GRI WEDI EI| GODI!

HELYNT RWSSIA,

GORUCHAFIAETH Y GOL.

TRAMOR.