Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

--I (3frid ydym yn dal ein…

News
Cite
Share

I (3frid ydym yn dal ein hunain yn gyfrifol am syn iadau ein Gohebwyr). CTLCHWYL LENYDDOL CYMRY BIRMING- HAM. &BI GOL.Yn eich rhifyn am Ionawr 30ain, y mae gohebydd a eilw ei hun Jonathan yn cyf- eirio at yr adroddiad a anfonwyd genym i'r Celt o "weithrediadau yr wyl ucho a dywed fod y sylw rhyfedd ac fnadwy a wnaed parthed y ddau destyn traeth wd, wedi ei wneud fel ychydig o spite." Nis-wn yn iawn beth a olvgir wrth. spite yn y fan yma, ond gallaf sicrhau Jonathan," neu Peter T. Jones a'r criw sydd yn pabellu ar gyffiniau Aston Park, fod yr hyn a. ddywedwyd yn yr adroddiad yn wirionedd safadwy, sef mai a.mcan j pwyllgor oedd trefnu ar gyfer dosbarthiadau gwahanol; a fy amcan wrth grybwyll y peth oedd "llunio gair i gall," ac os oedd "Jonathan" wedi syrthio i gamwri ac ymgystadlu a'r plant bach, a derbyn haner y wobr am ei draethawd, yr oeddwn yn ymsynio y gallai gair felly fod yn fanteisiol iddo. Y mae sylw neu ddau yn mhellach yn ysgrif gowliog y brawd hwn na ddylai gael pasio yn hollol ,ddisylw. Y mae yn dweyd fod Gohebydd yn ym- geisio ar un neu ragor o'r traethodau, yr hyn sydd gyfeiliornad hollol. Y mae Gohebydd yn ddigon hunanol i gredu pe byddai ef yn ymgeisydd na fyddai "Jonathan" na Mr Peter T. Jones (y bech- gyn sydd yn ddigon galluog i edrych ar ol eu hunwau, ac ar yr un pryd yn ddigon gostyngedig i ymgystadlu a'r plant bach, a derbyn haner y wobr am eu gwaith) yn cael y rhyfedd fraint" o'u cyfrif yn mysg y buddugwyr. Y gwirionedd yw hyn, fod Gohebydd, ac amryw eraill a arferent ymgeisio mewn eyfarfodydd o'r fath, wedi cilio o'r maes, a rhoddi eu lie i idosbarth ieuengach; ac yn y gystadleuaeth dan sylw, bechgyn o dan ddeunaw oed oedd yr oil o'r ymgeiswyr, namyn dau, a da y gwyr Mab Saul pwy oedd y rhai hyny, fel nad yw y fuddugoliaeth hon o'u heiddo yn un fawr a phwysig, ac nid oes achos iddynt chwythu cymaint ar eu hudgyrn, yn enwedig pan ystyriom pa fath gyfansoddiadau oedd yr eiddynt. Dyma eiriau y beirniad galluog, y Parch. T. P. Edwards (Caer- wyson), Bangor, yn ei feirniadaeth;—" Caraswn allu rhoddi gair cryf yn nghylch gwreiddioldeb y traethodau, eithr nis gallaf. Amlwg yw fod bron bob un o honynt wedi bod yn lloffa yn helaeth yn yr un maesydd, ac yn ddyledus i eraill am y rhan fwyaf o'u bysgrifau." Ar ol buddugoliaeth mor amheus, buaswn yn dysgwyl i'r bechgyn hyn fod yn bur ddystaw, beth bynag; ond gau eu bod wedi gweled yn dda agor yr achos yn y Celt, y mae yn degti'r darl'euydd ga.el y maaylion. Y mac "J on- athan yn eyfeirio at rwystrau sydd ar ffordd bechgyn ieuainc mewn eglwys neillduol, eithr gan nadyw yn enwi pa eglwys a feddylir, y mae yn anhawdd rhoddi eglurhad, ond ar yr un pryd, y mae yn ddirgelweh i mi pa fodd y gellir deall y frawddeg pan yr ystyriom nad yw y brawd Peter Tegid Jones na Jonathan yn dal cysylltiad nac yn mynychu unrhyw eglwys Gymreig, na Seisnig ychwaith, yn y dref hon, pa fodd y gwyr ef am y jhwystrau ? Galiaswn ymhelaethu cryn lawer ar y pen hwn, ond Gwell tosturio a pheidio rhoi fifon Ar ei war—mae'n rhy wirion." Am y gweddill o'r ysbwriel sydd yn ei- lith, gadawn iddo yn ddisylw y tro hwn, ac efallai fy mod wedi ymhelaethu iiawn ddigon, pan yr ystyr- iom mai "drwg yspryd" sydd wedi cynhyrfu Jonathan" i ysgrifenu, yn gystal a thaenu gwrachiaidd chwedlau ar hyd y dref, tebyg i'r hyn a flmai ei dad Saul gynt. Pe byddai ryw ganwr medrus gyda thelyn gymeryd trugaredd arno, ac ymlid yr ysbryd drwg i ffwrdd. fe ddichon y cawsem heddweh wed'yn. A gymer loan Einion hyn mewn llaw ?—Yr eiddoch, GOHEBYDD. [Dyna ben ar y ddadl hon. -GoL.] DOLYDDELEN. MRI GOL.,—Er nad oes ond un mis o'r flwyddyn 1885 wedi myned heibio, y mae eglwys Annibynol Dolyddelen wedi colli o fewn yr un hwn ddwy o'i eholotnau hynaf: Sabboth y lOfed e Ionawr, torodd angeu i lawr yr hen chwaer ffyddlawn Elinor Williams, Aberdwynant. Cafodd oes faith -82 0 flynyddoedd-mwy na'r addewid: "Os o gryfder y cyrhaeddir bedwar-ugain, eto ein north fydd boen a blinder." Cafodd hithau ei rhan o flinderau hen ddyddiau, ond dyoddefodd y cyfan yn ddirwgnach. Tra y gallodd bu yn ffyddlawn i'r moddion. Er i gystudd y misoedd a'r blyn- yddoedd diweddaf ei hanalluogi i fesur i ddod fel cynt i'r capel, yr oedd ganddi afael gref yn ei Gwaredwr. Cafodd gladdedigaeth barchus yn mynwent henafol Dolyddelen lonawr 14eg. Eto, Ionawr 27ain, bu farw yr henafgwr William Jones, Pentre'rfelin, ar ol cyrhaedd yr oedran mawr o 96—cant namyn pedair blynedd. Efe oedd yr hynaf yn Dolyddelen. Ond nid yn lluosogrwydd ei flynyddoedd yr oedd ei neillduolion ef yn ogymaint, ond yn ei fywyd crefyddol. Treuliodd oesfaithynngwasanaeth y reaches goreu," fel y galwai ef achos yr Arglwydd. Yr oedd yn ddyn o ddifrif. Gwnaeth y goreu o'r ddau fyd. Fel amaethwr, bu o ddifrif. Codai yn foreu, gwnai bob peth yn ei amser, a thrwy fod felly, er dechreu ei oes gydag ychydig, daeth i amgylchiadau cysurus. Treuliodd flynyddoedd cyntaf ei oes yn Bancog, Capel Garmon. Tra y bu yno bu ei dy yn llety fforddolion i genbadon hedd. Byddai croesaw i bob un o weision ei Arglwydd at ei fwrdd llawn. Hefyd, yr oedd yr achos yn Siloam yn agos at ei galon. Yr oedd wedi ymbriodi mor Uwyr a'r achos fel nad allai dim ddigwydd iddo na byddai, ei galon ef yn teimlo. Nid oes neb ond y Meistr mawr wyr y boen a gymerodd gyda'r achos yn Siloam. Bu yn ddiacon ffyddlawn yno am flynyddoedd, a phan symudodd i fyw i'r Coetmawr, Dolyddelen, ni oerodd ei sel, ac ni leihaodd ei weithgarwch. Cy- merodd ei le yn naturiol yn front yr eglwys yn Dolyddelen, a daeth i'w deimlo yn golofn gadarn tan yr achos. Yr oedd ganddo gydymdeimlad dwfn a phob rhan o'r gwaith. Cyfranai yn helaeth gyda chysondeb difwlch. Pe pawb mor helaeth yn 01 eu hamgylchiadau ag ydoedd ef, ni chaffai trysorfa ty yr Arglwydd fyned yn wag. Yr oedd ei brofiad helaeth, a'i farn addfed owerth mawr gan yr eglwys. Yn y bregeth, byddai ei yspryd bywiog, ei astudrwydd yn gwrando, a'i amen gwresog yn cael effaith ddymunol ar y pregethwr. Byddai yn wastad, o ran ei yspryd, yn barod i'r weddi gymdeithasol, ac 0 mor agos y gallai fyned at ei Dad Nefol. Yr oedd ei brofiad uchel a'i ddull bywiog yn y gyfeillach yn cynhyrfu pob calon i deimladau dymunol. Yr oedd yn Ysgrythyrwr mawr byddai ganddo gyflawnder o'r Beibl at ei alwad. Cynghorodd lawer arnom, a bu yn gefnogol i bawb amcanai wneud daioni. Ni roddai ef ei droed ar wddf neb na dim ond pechod. Yr oedd yn ballt wrth bechod. Llawer a siaradodd am y nefoedd—nad oes pechod yno i fline neb, ei bod hi yno yn Sabboth tragwyddol, dim r.ewid dillad Sab- bothol yno am ddillad gwaith, dim dydd Llun na'i ofidiau a'i ofalon, dim gauaf yno—-c Mae hi yno yn dragwyddol haf." Credwn fod. y disgybl ffyddJawn hwn i Iesu Grist wedi cael sylweddoli cymdeithas bersonol ei Waredwr. Bu yn ffyddlawn hyd angeu. Cafodd ei symud yn esmwyth i'r byd ys- brydol. Yn ei symudiad, gwnaed bwlch mawr yn eglwys Dolyddelen, ond mae y nefoedd wedi cael perl i goron lesu. Cyfoded Duw golofnau cedym eto yn eieglwys yw dymuniad ein calon. Claddwyd gweddillion y patriarch William Jones Ionawr 31ain yn Nghapel Garmon. Er gwaethaf yr ystorm daeth tyrfa fawr i'w hebrwng i'r bedd. Ynddo ef y sylweddolwyd y geiriau hysy, Ti a ddeui mewn henaint i'r bedd fel y cyfyd ysgafn o yd yn ei amser." Amddiffyn y Goruchaf fyddo dros ei weddw oedranus. W. ROBERTS.

[No title]

GAIR 0 FOR Y CANOLDIR. YNYS…