Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
YR EWYTHR GWEDDW A'II NITH.
YR EWYTHR GWEDDW A'I NITH. YN Mrawdlys Manchester, ddydd Mawrth, o flaen y Barnwr Cave, a rheitbwyr cyffredin, dygal Miss Mary Eva Richardson gynghaws yn erbyn tenia y diweddar Mr. J. Richardson, o'r Elms, Newark, am ad-daliad o herwydd fod cyttundeb a wnaethid wedi ei dori, fel yr bODid. Yn ol ystori yr achwynyddes, yn 1891, aeth Mr. Ri. chardson, yr bwn oedd yn ewythr iddi, ar olcolli ei wraig, yn hynod ddigysnr ac annedwydd. Talai ymweliadau a bedd ei wraig, ac appeliodd at yr achwynyddes ar iddi ddyfod ato ef i fyw, gan daln iddi ddeg punt yn y mis am arolygn ei d" a bod yn gymdeithes iddo ef, gan addaw gwneutnnr darpariaeth ar ei chyfer yn ei ewyllys ddiweddaf. Yr oedd efe y pryd hwnw o ddeutu deng mlwydd a thrigain oed. Yr achwynyddes, yr hon oedd, yr adeg hono, yn ennill 80p. yn y flwyddyn fel governess 110 athrawes mewn teulo, a gymmerodd amser i ystyried y cynnygiad ac a ymgynghor- odd A'i rhieni, pa rai, am nad oeddvnt yn dewis sefyll ar ei flordd i wella ei hun, fel y tebygent, a roddasant en cydsyniad. Aeth hithau i fyw gyda'i hewythr yn gynnar yn y flwyddyn 1892, ac arosoddj gydag] ef hyd ddiwedd y flwyddyn. Yn mhen peth amser ar ol hyD, aeth yr ewythr i ddqchreu cwvno nad oedd ei wp yn gwbl wrth ei foda a dywedai hefyd nad oedd y gegin, chwaith, yn cael et chadw yn ddigon glftn. Ar y pryd hwn, yr oedd hi yn cael ei gwyliau, ond addaw- odd ddyfod yn ei hot ar unwaith. Yn ei hol y daeth ond yn mis Hydref, efS a ddywedodd wrtbi y gallai hi fyned, ac felly y gwnaeth hithan. Yn 1894, bn farw Mr. Richardson ac yn ei ewyllys-yr oedd efe yn r goludog-nid oedd unrhyw ddarpariaeth yn cael ei gwneyd ar gyfer y nitb. Yn erbyn hyn, dadleuid nad oedd dim cyttun- deb wedi ei wneyd yn mhellach na'r cyttundeb ynghylch deg punt yn y mis o gyflog fod hyny yn gyflog rheaymol iawn a bod yr ewythr wedi dyweyd nad oedd hi, pan y byddai efe farw, i gael ei tbaflu yn sydyn ar ei hadnoidau ei hun, ond fod rhyw beth yn cael ei roddi iddi byd nes y gallai hi gael lie newydd. Dygodd y theithwyr eu dedfryd o'i phlaid, gydag iawn o 250p. Dy. wedodd y barnwr y cymmerai efe amser i ystyried y mater, a gorchymynodd iddo gael ei ddwyn dan ei sylw yn mrawdlys Liverpool.
[No title]
Y mae cwmni meusydd anr gorllewin Awstral- ia wedi eyboeddi 118g o 37}c. y cant ar y cyfran- ddaliadan.
Diewyddiadau yr W ythnos.I
Diewyddiadau yr W ythnos. I RHAID i'r Ffrangcod wneyd eu meddyliau i fyny fod eu gwaitb wedi ei dori allan ar eu cyfer yn Madagascar. Ymddengys fod y trefniadau i gludo y milwyr a'r cad-ddarpar- iadau yn nodedig o ddiffygiol; a chyn pen ychydig otto, bydd y tywydd gwlawog wedi deehreu yn yr ynys, yr hyn a fydd yn sicr o fod yn rhwystr, os nad yn attalfa hollol ar bob gweithrediadau miiwraidd. De- chreuodd Ffraingc ar y rhyfelgyrch hwn fel y decbreuodd ar ryfelgyrch Tonquin, ac ar y rhyfel rhyngddi a'r Alrnaen, chwarter canrif yn ol, gyda chalon ysgafn; ond, i sylwedyddion craff ymddengys yn debyg mai ychydig iawn o anrhydedd nac elw a ellir ei ennill trwyddo, tra y mae y draul yn sicr o fod yn anferth ac i wlad ag yr ydoedd ei chyllideb ddiweddaf yn dangos diftyg, nid yw hyny yn rhagolwg dedwydd o gwbl. Conderanir newyddiaduron Pryd- ain yn dost gan y newyddiaduron Ffrengig am ei hyfdra yn beiddio cynghori y Ffrangcod i beidio ymddwyn yn llymdost tuag at y brodorion, gan ei gorchymyn i edrych gartref, a dyweyd fod Prydain yn ddyfnach na neb arall yn y camwedd hwn. Cydnabyddwn fod gormod o wir yn yr edliwiaeth front hon; ond gwadwn mai Prydain sydd yn y camwedd ddyfnaf. 0 leiaf, nid gan Ffraingc y mae yr hawl i ddwrdio am ei chyBghori yn y cyfeiriad hwn gan unrhyw wlad dan haul. Heb fyned fwy yn ol na'r ymgyrch presennol i Mada- gascar, ni raid petruso dyweyd fod y rhyfel di-achos a di-fantais hwn yn waradwydc oesol ar enw da unrhyw wlad wareiddiedig. A all y Ffrangcod gywilyddio 1 Yr ydym yn ofni na allant. Y maent wedi caledu gormod mewn pechod. Ychydig ddyddiau yn ol, aeth tri ar ddeg o ef.ydwyr Coleg Princeton, yn U nol Dalaethau yr America, i diriogaeth eang Afon y Gareg Felen, ar fedr dysgu cyfrin- ion daeareg y rhanbarth hynod hwnw. Yn lie cario eu gwaith yn mlaen, yn ol eu dyhewyd, modd bynag, wele daliwyd a chaethiwyd y tri ar ddeg gan yr Indiaid coehion sydd yu preswylio y diriogaeth, ac mewn cyflwr digofus iawn tuag at bobl wynion, am fod y llywodraeth yn gommedd iddynt gael hela y bwystfilod gwylltion sydd yno. Teifl y llywodraeth, yn ddoeth, ei haden dros y bwystfilod, i amCotn gwydd- onol. Modd bynag, bydd clywed am dynged y tri efrydydd ar ddeg yn rhwym o fod yn attalfa ar gannoedd, yn ystod yr haf presennol, i fyned i fwynhau eu gwyliau yn y gororau hyny. Yn swydd Forfar, yn Ysgotland, ennill- odd y Rhyddfry d wyr f ud dugoliaet hardderch- og. Mewn etholiad eitbriadol a fu yno ar ganol y tymmor, collwyd ysgdd, yr hyn a burodd syndod mawra chyffredinoJ. Tair sedd ar ddeg yn unig a gollwyd ac a ennill- wyd mewn etboliadau eithriadol; y Toriaid a'r Undebwyr yn cipio naw oddi ar y Rhyddfrydwyr, a'r Rhyddfrydwyr yn cipio pedair oddi ar y glytnblaid gymmysg. O'r naw a gollwyd ganddynt, y mae y Rhydd- wyr wedi adfeddiannu pump sir Forfar, sir Linlithgow, Grimsby, Huddersfield, a I Brigg; llwyddodd y Toriaid i gadw dwy- Walworth a Henffordd ac y mae y canlyn- iad yn y ddwy arall-eanolbarth Norfolk a sir Inverness-yn anhysbys tra yr ydym yn ysgrifenu. Mewn perthynas a'r pedair sedd a ennillwyd gan y Rhyddfrydwyr. Mewn etholiadau eithriadol, llwyddodd y blaid i gadw dwy-Colchester a Pontefract; collasant Walsall; ac yn He cham cymmer yr etholiad le heddyw (dydd Glwener.) Tra y mae hi yn amlwg yn ammhossibl (o'r hyn lleiaf, yn uniongyrchol) i Arglwydd SALISBURY wrandaw ar ddadwrdd adran o'i ganlynwyr, ac adgyfansoddi ei weinyddiaeth, bydd y mwyafrif rhyfeddol o fawr sydd wedi ei sicrbau iddo yn rhwym o'i gwneyd yn anhawdd iddo gydsynio a dymuniadau Mr. CHAMBERLAIN, a phennodi Mr. FINLAY yn Ddadleuydd Cyffredinol yn ei weinydd- iaeth. Yn y mater hwn, cefnogir Mr. CHAMBERLAIN yn gryf gan y Due o DDYFN- BINT; ac nid yw y I g*r o Firmingham yn debyg o gymmeryd ei rwystro i wasgu hawl ei gyfaill i'r swydd gan unrhyw wrthwyneb- iad a ddichon gael ei godi gan ganlynwyr cyffredinol y' Prifweinidog, ar feingciau cefn y Toriaid. Dan yr amgylchiadau, edrychir yn mlaen gyda liawer ci ddyddor- deb ar y swydd hon, a'r pennodiad iddi, gan 'y rhai sydd oddi ailan.' Am fuddugoliaeth Mr. LLOYD-GEORGE yn mwrdeisdrefi Arfon, ysgrifena y Daily News fel y canlyn Fel y mae yn syn sylwi, y mae mwyafrif Mr. LLOYD-GEORGE yn mwr- deisdrefi Arfon yn nodedig o agos at y mwyafrif a gafodd yn 1892. Y pryd hwnw, 196 ydoedd. Yn awr 194 ydyw. Ond, efe a chwyddodd III ar nifer ei bleidleisiau. 0 ganlyniad, chwyddodd yr ochr arall nifer eu pleidleisiau 113; ac felly, gwelir fod y pleidiau wedi eu rhanu yn glds iawn yn y bwrdeisdrefi hyn. Fod yr ymdrechfa yn myned yn un boeth iawn ydoedd amlwg oddi wrth y telegramau rhwng Mr. LLOYD- GEORGE a'i oruehwyliwryehydig cyn y polio, ac a ledaenwyd fel llawlen ddydd yr ethol- iad At Mr. LLOYD-GEORGE oddi wrth ei oruchwyliwr etholiadol- Y Toriaid a led- aenant lawlen yn hind eich bod chwi wedi dyweyd nos Fercher, yn Nefyn, eich bod yn ddiammodol yn eich gwrthwynebiad i'r rhoddion i'r ysgolion Pabaidd, ac wedi galw I y Babaeth yn I grefydd uffernol.' Pellebr- weh attebiad ar unwaith, er mwyn gwadiad.' Attebiad oddi wrth Mr. LLOYD GEORGE at ei oruchwyliwr:—'Y mae yn gelwydd oywilyddus. Pwy fu yn ymladd am rydd. freiniad y Pabyddion ? Y Rhyddfrydwyr.' Fotiwch i Mr. LLOYD-GEORGE.' Wedi ei ddewis gyda'r mwyafrif lleiaf o bawb (ag eithrio Mr. HUMPHREYS OWEN), nis gall Syr JOHN JONES JENKINS, mewn un modd, deimlo fod ei orseddfaingc ef yn ddiogel yn mwrdeisdreti Oaerfyrddin a Llanelli; a phan ddaw yr etboliad cyffredin- ol nesaf, na syned ac na chwyrned ef os bydd y Rhyddfrydwyr yn aflonyddu ar ei heddweh, ac yn ei ddodi unwaith yn rhaor yn y llwch. Ni pherthyn i ni, yn y fan hon, ymholi am yr achosion pa ham y dod- wyd y barwnig Undebaidd hwn ar uchaf y pinacl yr wythnos ddiweddaf. Pertdyn hyny yn benaf i Ryddfrydwyr y bwi-deis- drefi eu hunain. Yn y cyfamsar—o hyn hyd yr etholiad cyffredinol-hwy a ddylent bsrffeithio eu trefniadau, a chadw bywyd a gweithgarweh yn eu gwersyll. Os bydd hyny yn ddymunol gan yr Uchgadben JONES a hwythau, rhaid iddynt gadw mewn agos gyffyrddiad a'u gilydd. Os nad ydyw eu hen aelod galluog a ffyddlawn am ym- ladd y frwydr y tro nesaf, hwy a ddylent ar unwaith, heb ymdroi dim, ymofyn am Ryddfrydwr a Ohymro. Ilawn mor dwymn- galon ag yntau yn ei le i flaenori eu cad. Gyda llaw, pa beth yw y sibrwd hwn a glywir genym am Syr J. J. JENKINS; sef, nad yw efe yn Dori, neu yn hytraeh yn Undebwr, ond ar un pwnge yn unig, hyny yw, ar fater Ymreolaeth i'r Iwerddon? Ar bob pwngc arall, meddir, ae yn enwedig ar fater mawr Oymru Dadsefydliad fe chwanegir, Rhyddfrydwr trwyadl yw efe. Pa sail a ddichon fod i'r sibrwd hwn 1 Ai nid fel cefnogydd i weinyddiaeth Arglwydd SALISBURY y rhoddai Toriaid y bwrdeisdrefi hyn eu pleidleisiau iddo 1 Os mai cwestiwn y Gwyddel oedd yr unig wahaniaeth rhyng- ddo a'r Uchgadben JONES, a ydyw yn debyg y buasai y bobl hyn yu.pleidleisio iddo ? Am orchfygiad Mr. SNAPE yn Heywood, a buddugoliaeth Mr. KEMP, rhaid rhoddi diolch, debygid, i esgob Pabaidd Salford. Antonodd hwn lythyr at ei offeiriaid, i'w ddarllen yn yr eglwysydd, yn mha un y cynghorai yr etholwyr i bleidleisio 'dros lwydd penaf a goreu' eu plant, a rhoddi eu pleidleisiau yn unig i'r hwn sydd wedi ym- rwymo i weled ar fod cyfiawnder yn cael ei wneyd yn y senedd i ysgolion enwadol y wl ad.' Yn y gymmydogaeth ei hun, esbon- id hyn fel gorchymyn i'r Pabyddion i bleid- io Mr. KEMP, yr ymgeisydd Udebaidd; a pharodd y digofaint mwyaf yn eu plith, ond ni theimlent yn ddigon cryfion, er hyny, i ddiystyru y cynghor esgobol. Os ydyw yr esgobion Pabaidd hyn yn myned i ddefn- yddio eu dylanwad 'ysbrydol' i gael gan yr etholwyr bleidleisio dros eu mympwyon eu hunain, llawn bryd yw eu hesgymmuno o'r wlad. Clywsom lawer o edliw ysgriw y seiat;' ond, y mae Ymneillduwyr Cymru mor lan ag angylion oddi wrth y cyhudd- iad. Yn Eglwys Rhufain, modd bynag, ceir hi yn amlwg a digel. A ydys yn myned i'w goddef 7 Gwrthododd llywodraeth gweriniaeth Ffraingc eu goddef i wneyd yr un peth yn gymmhwys. Pa ham y goddefir eu hystrangciau yn Mhrydain 1 Bydd I Y Llywodraeth Newydd' yn rhwym o ffurfio pennod ddyddorol pan aiff rhywun i ysgrifenu hanes yr etholiad cyff- redinol sydd yn darfod heddyw. Yn y blyn- yddoedd a aethant heibio, talu arian ar law, neu ddiod i'w hyfed ar y pryd, oedd y drefn (neu, yn hytrach, yr annhrefn), dan yr hen oruchwyliaeth. Ond, am fod Cyfraith y Llygredigaethau Etholiadol wedi ei phasio ar ol hyny, ni faidd y Toriaid chwareu eu prangciau yn y cyfeiriad hwn ddim yn hwy. Ond, y maent hwy mor amddifad o egwydd- or bur ag erioed. Wedi newid eu cynllun- iau y maent. Llwygrwobrwyo kg addewid- ion am waith a gwell cyflogau i bawb yn ddiwahaniaeth y maent yn ein dyddiau ni; ae mewn cymmydogaethau neillduol, cael ohwaneg o waith gan y llywodraeth fydd yr addewid. Mewn dull eithaf agored a digêl y chwareuodd y milwriad y cerdyn' hwn yn Leeds. Ond, ceir yr engraifft hyf o hyn, yn ddiau, mewn araeth a draddodwyd yn y rhan ddwyreiniol o Hull gan Syr SEGAR HUNT, A. s., y noson cyn agor y p61. Di- gwydda y dyn hwn fod yn gadeirydd y cwmni a biau y buarth mawr i adeiladu llongau yno. Ei ymdrech mawr, a'i amcan ef, bob amser, ydoedd cael cymmaint o waith i'r buarth ag ydoedd yn bossibl; a bydded iddynt, bellach, obeithio, Iwedi i gyfnewidiad gymmeryd lie yn y llywodr- aeth, y byddent hwy yn Muarth Earle ac yn Nwyrain Hull yn alluog, trwy wladlyw- iaeth Mr. GOSCHEN, i lenwi eu buarth & gwaith y Morlys.' Hysbysir yn swyddol mai Arglwydd ROBERTS fydd.olynydd Arglwydd WOLSELEY, pan ddaw tymmor gwasanaeth y gwr hwnw i ben fel llywydd y fyddin Brydeinig yn yr Iwerddon. Yn yr Ynys Werdd, bydd y pennodiad yn sicr o fod yn un poblogaidd. Edmygir a hoffir Arglwydd ROBERTS yn fawr yno, am ei fod wedi ennill y fath enwogrwydd fel cadlyw, ac yn enwedig am fod gwaed Gwyddelig yn rhedeg yn ei wyth- ienau. Yr hyn a fydd yn ennill i'r Iwerdd- on, yn yr ystyr hwn, a fydd yn polled i Frydain, am ei fod yn ein hamddifadu o un o'r ychydig filwyr o'r dosbarth blaenaf y gellir dethol cadlyw cyffredinol y Fyddin Brydeinig o'u plith. Y mae y Due o GAER- GRAWNT yn rhwym o ymddiswyddo, yn ol yr hyn a ddywedwyd gan Syr HENRY CAMP- BELL BANNERMAN yn Nby y Cyffredin y noson y gorchfygwyd y llywodraeth Rydd- frydig. Ni bydd swydd y cadlyw byth mwyach y peth y bu. Yn un peth, fe'i gwneir yn beth gwirioneddol, ac nid rhyw beth mewn enw yn unig. 0 hyn allan, rhoddir gr ynddi wedi profi ei hun yn filwr o'r radd flaenaf. Mae y cymmhwys- derau angenrheidiol oil yn y Cadfridog ROBERTS, ond, yn yr Iwerddon bydd ef allan o'r cyrhaedd. Mae yn debyg nad yw y Cadben FERRARII llywydd agerlong Eidalaidd, yn disgwyl i nob ei longyfarch am ei wroniaeth. Pan ydoedd ei lestr yn gadael Morgiifach Speriza nos Sadwn diweddaf, o dan ofal yr ail swyddog, hi a dderbyniodd ddyrnod tua'i chanol gan agerlong arall,'o'r euw yr Ortigia, Ar y pryd, yr oedd y Cadben FERRARI yn nghwsg yn ei grdgwely. Deffrowyd ef gan y gwrthdarawiad. Yn y fan, neidiodd allan, ac heb ofalu am ei swyddogion, ei griw, na'r 173 teithwyr oedd ar fwrdd ei lestr-am neb ond am ei hunan gwerthfawr -ymdaflodd dros ymyl y llong, a gwared- wyd ef, pan y collodd y rhan fwyaf o'r lleill eu bywydau. 'Hunangadwr aeth yw deddf gyntaf natur' pan na bydd anrhydedd yn dyfod i mewn i'r cyfrif. Ond, yn mhob man pan y daw, y mae llywydd llong, fel rheol, yn ystyried Man y perygFrnwyaf fel ei le priodol ef, ac mai hwnw yw y man anrhydedd;' ac am hyny, mai yr olaf, nid y cyntaf, i adael llong ar suddo a ddylai ef fod.
LLANDYSSUL, A'R CYLCHOEDD.
LLANDYSSUL, A'R CYLCHOEDD. I YR ETHOLIAD CYFFREDINOL. Y STAB y cylchoedd hyn, fel hoil gylchoedd y wlad, yn Y.?tod y diwrnodau diweddaf, wedi bod yn liawn ?erw ethoUadol, Am y tro cyntaf er's peth amser, bellach, yr oedd y parti Rhyddfrydig yn un, ao yn ymiadd 4'r lde:d:r:Ih::Jd1otn uni al!idl:I;ti; I lliw. Dyna fel y dylai hi fod; a gobeithimn y oym- mer y Rhyddfrydwyr ddalen o lyfr y Ceidwadwyr yn hyn o beth. Nafydded i'r rhengoedd gael eu gwahanu mwyaoh; ond bydded pob Rhyddfrydwr ar ei oreu i gadw undeb yr ysbryd mewn cwlwm tangnefedd. Uweithiodd y ddau bartl yn gated iawn. Ni obynnal. iodd y Ceidwadwyr un eyfarfod, ond dibynent ar gan. fasio yn unig, tra y darfu i'r Rhyddfrydwyr gynnal IHaws o gyfarfodydd yn y cylchoedd; sef, yn Llan. dyssul, Capel Dewi, Tregroes, ac Aberbangc. Yn un, neu. chwaneg, o'r cyfarfodydd hyn, siaradodd y Parchn. T. James, T. Pennant Phillips, W. J. Davies, J. Tones, a Q, 0. Roberts; Cadben Davies, Rhydowen Fach; a'r Mri. Evan Davies, Gilfachronw; a D. Jones, Llwyngwyn. Llywyddodd Mr. W. James yn Llandyssul a Chapel Dewi; y Parch. T. Thomas yn Mhontsian; Mr. B. Davies, Blaenythaw, yn Nhre'r- groes; a'r Parch. D. Jones, Gwernllwyn, yn Aber- bange. Yr oedd y cyfarfodydd yn llwyddiannus dros ben, a'r gwahanol areithwyr yn eu hwyliau goreu. Ni chynnaliodd y Ceidwadwyr un cyfarfod, ond yr oeddynt yn dra ffyddiog y buasent yn ennill y fuddug- oliaeth, tra y credai y Rhyddfrydwyr y byddai hen sir Radiealaidd Cymru yn ffyddlawn i'w thraddodiad- au. Dydd Gwener, y 19eg or mis bwn, yr oedd gryn dipyn o frwdfrydedd yn I LLANDYSSUL. Yr oedd y dorfjn tyru at swyddfa y Llythyrdy, er cael gwybod y nowydd a phan ddaeth, ymfalohiai y hiuiil Ryddfrydig, tra yr oedd y Ceidwadwyr yn drist. Yn yr hwyr, ffurfiwyd gorymdaith drwy ystrydoedd ein tref, yn cael eu blaenori gan y^eindorf ddirwestol, o dan arweiniad Mr. D. H. Hughes. Yr oedd baner fawr ao ysblenydd, ac ami 'Vaughan Davies, 1,179,' yn cael ei chario o flaen yr orymdalth, a'r Mrt. D. Jones, argraphydd, a J. Thomas, y Siop, yn blaenori. Cariai y plant ruban glAs; sef, lliw y Rhyddfrydwyr yn yr ardal. Wedi gorymdeithio drwy yr ystrydoedd, dychwelwyd i'r Clwb Rhyddfrydig; ac yno, darllen- odd y Parch. W. T. Daries bellebyr oddi wrth Mr. Vaughan Daviep, yn dioloh i Ryddfrydwyr Llandyssul am y fuddugollaeth anrhydeddus. Wedi i Mr. Davies areithio, diolchwyd iddo yn gynnes, ar gynnygiad Mr. Lloyd. toddler, ao eiliad Mr. D. F. Hughes, teiliwr. Yna ffurfiwyd gorymdaith o dorches trwy y dref ao yna, gwahanodd pawb ar ol hyny wrth eu bodd fod hen sir enwog Aberteifi wedi dychwelyd Mr. Vaughan Davi? I'r senedd i gynnrychioli Rhyddfrydiaeth yno. Nos Badwrn diweddaf, dirfu i'r sein d orf ddirwe8tol fyned i I PONTWELLI, er dathlu buddugoliaeth Mr. J. Lloyd Morgan ar Mr. Buckley yn sir Gaeifyrddin; ac yr oedd yr ardal yn llawn llawenydd o herwydd dychweliad Mr. Morgan gyda'r fath fwyafrif. Y Farchnad.-Yr oedd yma farchnad dda ddydd Mawrth, Gorphen. 23ain. Yr oedd myn'd ar y moch, I-ai, defaid, WYD, ednod, a hwyaid. Mooh tewion, 5s, Oc y sobr; moch stores, o 18s. i 21 s. y pen; perohyll, 13a. i 16s,; lloi byw, 3.; defaid byw, 3c. y pwys; WYD, 3c.; ednod, o 3s. ilc. i 3s. 6c. y owpl; hwyaid, o 3s. 9c. i 4s. 6c. y owpl.
I LLOEGR A DADSEFYDLIAD. I
I LLOEGR A DADSEFYDLIAD. DYNA enghraifft o'r pethau a ddywedir yn Lloegr Dorïaidd am Ddadsefydliad. Ysgrifenwyd a ganlyn gan un a eilw ei hun yn Barson Radi- ealaidd Y'mae nifer fawr o bai-soniaid Radicalaidd fel finnau, sydd oil yn awyddu o ddifrif am gael di. wygiadau cymdeithasol, ond y rhai sydd yn gryf en gwrthwynebiad i Ddadsefydliad, ae a fyddent yn sicr o bleidleisio yn ddibetrus yn erbyn un- rhyw blaid a gynnygiai hyny. Y mae Dadsef- ydliad yn beth da iawn i ddal i siarad am dano, ond byddai yn beth drwg iawn i'w wneyd yn weithredol. Wrth siarad am dano, y mae yn gorfod y blaid wrthweithiol yn yr Eglwys i gadw ofn barn gyhoeddus yn barhaus o flaen eu llyg- aid; ac felly, yn cadw pethau i symmud yn mlaen. Ond wedi iddo unwaith gael ei gyflawni, fe ddenai pob slopwr bychan Anghydffuriiol ar unwaith yn Geidwadwr, o blegid Dadsefydliad ydyw yr un peth sydd yn dal y cyfrif wrth y blaid Ryddfrydig. Nid oes gan y lliaws mawr o'r Ymneillduwyr unrhyw dnedd at ddiwygiad. au cymdeithasol mwy na'r Eglwyswyr, os cym- maint; a phan ennillid Dsdsefydliad, a phan ddechreuid siarad am ddiwygiadau cymdeithasol, fe fyddai iddynt yn ddiau bleidleisio yn Dorï. aidd. FeUy. byddai i'r Maid Ryddfrydig ym- orphwyaarDyntyngawgymmeriaddifrifol. Nid y parsoniaid, ond y tlodion, sydd yn ennill drwy y sefydliad. Nid ydym Bi yn malio dimai am y rhagorfraint dybiedig ond yr ydym yn gofalu llawer fod y tlawd yn cael darparu eu lleoedd addoli, ac na fyddom ni, fel pregethwyr, yn rhwym wrth logellau ein plwyfolion cyfoethog. Nid oes genym eisieu cadw y buddiannau hyn i ni ein hnnain yn hollol; a phe byddai unrhyw gynllun ymarferol yn dyfod drwy yr hwn y geilid gwastadan, nid i lawr, fel drwy Ddadsef ydliad, ond i fyny, y mae Ilawer o glerigwyr Rhyddfrydi a'i cefnogai yn dra chalonog.' Parson Torhidd i'r eithaf y gelwid;ye?' hwn yn Nghymru. i;')
[No title]
 Bu farw dyn o'r enw McCann, ?ra yn yr act 0 I osod ei groes ar y papnr balot, yh Cough, Dwyr I ainTytone.ddyddUnn.
- - -- - Y GOGLEDD.
Y GOGLEDD. Y mae y Parch. L. F. Ward, ciwrad Eglwys Genhadol Ruthin Road, Gwrecsam, wedi derbyn ciwradiaeth Glossop, ei gartref. Yn Rhosrobin, nos Fawrth diweddaf, oyflwyn- wyd pwrs o aur i'r Parch. J. Silas Evans, ts-ganon yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy, fel oydnabydd- iaeth am ei wasanaeth. Dydd Mawrth diweddaf, agorodd yr Arglwydd. es Waddolog Williams Wynn nodaohfa yn Ngwrec- sam, er budd Cymdeithas Genhadol yr Eglwys. Yr oedd yno lawer o bethau cywrain o lawer gwlad. Y mae W. C. Woodsworth, 17eg mlwydd oed, o Ysgoi GanoJraddol y sir, Dolgellan, wedi ennill ysgoloriaeth o ddeg punt ar hugain y flwyddyn am ddwy flynedd yn Ngholeg y Preceptors, ac wedi pasio amryw arholiadan pwysig eraill. Dygwyd William Humphreys, Abercin, o flaen yr ynadon yn Ngbaernarfon ddydd Mawrth, o dan y cyhuddiad o dori Cyfraith Methdaliad. Gohir- iwyd yr achos drachefn, a dygwyd y carcbaror ger bron ynadon Pwllheli ddoe (ddydd Gwener). Dywed Mr. Pennant ei fod am ymgeisio etto dros fwrdeisdrefi sir Fflint. Rhaid fod Mr. P. P. Pennant yn cael bias ar orchfygiad, o blegid dyma y chweched tro iddo gael ei guro. Yn ngwaelod y nant ae nid ar ei phen, y myn etholwyr y bwr- deisdrefi iddo fod, pa sut bynag. Yn Ngldfa Plfts Power, Gwrecsam, ddydd Mawrth diweddaf, syrthiodd swm mawr o ysbwr- iel ar ddyn o'r enw John Hughes, a lladdwyd ef. Dygwyd ei gorph adref mewn cerbyd; a phan oeddid yn ei dynn i lawr, symmudodd y ceffyl, ac aeth olwyn y cerbyd dros wddf bachgen bychan, o'r enw Powell, gan ladd hwnw hefyd. Cymmerodd yr amgylchiad blynyddol o ranu gwobrwyon le yn isgol St. Winifflred, Bangor, ddydd Mawrth. Llywyddid y gweithrediadan gan Ddeon Bangor; ac yn mysg y presennolion yr oedd Syr Llewelyn Turner a'i briod, Mrs. Langford Jones, y Cadben a Mrs. Stewart, y Prif- athraw Fairchild, y Milwriad Ruck, ao eraill. Hysbysir am farwolaeth y Milwriad George Me"Corquadale, yr argraphydd enwog ac adna- byddus i'r ffyrdd haiarn a r Ilywodraeth. Bn farw yn ei drigfod ar Ian y Fenai. Dyn wedi dyfod i fyny drwy ei ymdrechion ei hun ydoedd efe, a llanwai amryw swyddau tra phwysig. Bu efe yn Rhyddfrydwr, end troes yn Undebwr yn y flwyddyn 1885.
AELODAU LLAUUR.
AELODAU LLAUUR. Ni fydd llawn cymmaint o aelodau llafnr yn y senedd newydd ag oedd yn yr hen. Y mae Mr. Cremer, Mr. Keir Hardie, Mr. George Howell, Mr. James Rowlands, a Mr. Samuel Woods, wedi colli eu seddau. Y mae saith eraill, fodd bynag, wedi en hadethol:—Mri. W. Abraham (Mabon), Rhondda; Mr. Awstin, gorllewin Lim- erick; Mr. John Burns, Mr. Bart, Mr. Fenwick, Mr. Pickaid, a Mr. Havelock Wilson. Y mae hyn yh cyfiif am dddeuddeg o'r pymtheg aelod llafur oedd yn yr ben d. Nid ydyw y tri eraill —Mr. Arch, Mr. Crean, a Mr. J. Wilson (canol- barth Durham)-wedi bod yn y pol hyd yr adeg yr ydym yn ysgrifenu.
SIR FFLINT.
SIR FFLINT. I ARAETH GAN MR. SAMUEL SMITH. Nos Fawrtb, bu Mr. Samuel Smith, yr ymgeis. ydd Rhyddfrydig dros eir Fflint, yn anerch cyf. arfodydd yn Nbremeirchion a Chwitffordd. Yr oedd y cyfarfod yn y lie olaf yn iliosog anarferol; a chatodd Mr. Smith, gyda yr hwn yr oedd Mr. M. A. Ralli, Rhyl, dderbyniad ardderchog. Yn ei araeth, dywedodd Mr. Smith ei fod wedi cael ei daraw ar ei daith drwy Ogledd Cymru a'r ffaith fod pob y Gogledd yn glyno mor gadarn wrth eu hopiniynaa gwleidyddol; ac yr oedd hyny yn fwy nodedig fyth pan ystyrid pa mor wael yr aethai yr etholiad gyda'n plaid hwy yn y rhanau eraill o'r wlad. Gogledd Cymru oedd yr nnig ran o'r Deyrnas Gyfnnol lie na fu unrhyw gyfnewidiad ar y gynnryebiolaeth cyn hyny (clywch, clywch). Daliodd Gogledd Cymru ei thir; a phan gyfrifid y pleidleisiau i fyny, efe a gredai y c-id et bod hi wedi gwneyd cystai ag y gwnaeth hi dair blynedd ya ol. Yr oedd raid i Ddeheudir Cymru gymmeryd yr ail le. Gogledd Cymru ydoedd canolfan Rhyddfrydiaeth Gym. reig yn awr; yr oedd raid addef hyny. Ni chredai ef fod eu gwrthwynebwyr yn air Fflint yn disgwyl ennill y sedd ond dymunent dynu y mwyafrif i lawr, os gallent; ac yna, te aent o gwmpas i ddyweyd fod pobl sir Fflint wedi newid eu barn. Gorphwysai ar yr etholwyr i ddangos iddynt eu bod yn methu, drwy gyn- nyddu y mwyafrif Rhyddfrydig (clywch, clywch). HODai en gwrtbwynebwyr fod y llywodraeth ddiweddar wedi gwastralfu eu hamser i geisio cyfnewid cyfansoddiad y wlad, ac nad oedd gan- ddynt amser i'w treulio ar welliantau cymdeith- asol. Yr etholiad cyntaf a ymladdwyd ar gwest- iynau cymdeithasol oedd yr etholiad a ymladd- odd ef yn Liverpool, 30ain mlynedd yn ol a byth er hyny, yr oedd efe wedi rhoddi ei boll sylw i'r cwestiynau hyny (ctywcb, clywch). Wedi cyfeirio at ganiyniadau bendithiol Deddf y Cyng. horau Plwyf, dywedodd Mr. Smith fod gan y blaid Ryddfrydig beth arall mewn golwg a fuaeai yn gwelia cyflwr eymdeithasol y bobl yn ddir. fawr; ond yn anffodus, fe aethai hwnw yn mhell yn eu herbyn, Kis gallent gau eu Uygaid ar y Ifaith eu bod wedi cyffroi gwrthwynebiad ffyrnig y fasnacb feddwol, yr hon oedd yn tywallt arian a gwirod dros yr boll wlad, ac yn ymdrecbu llwgrwobrwyo rhai o'r etholwyr mwyaf anwy. bodus a ffol, a'u troi yn erbyn y blaid Ryddfryd- ig..Yr oedd y mesur yn un democrataidd, er lies y bobl, ac ni fwriedid ef i I ysbeilio y dyn tlawd o'i gwrw,' ond i'w alluogi i ddy- weyd pa fodd, pa bryd, a pha le y mynai ei gael. Etto, yr oedd y blaid Ryddfrydig wedi dwyn ar eu penau wrthwynebiad chwerwaf y bragwyr a'r distyllwyr cyfoethog; a dyna un rheswm pa ham ycollasent gymmaint o etholiadau yn Lloegr. Ni chredai efe yr achesai iddynt golli etholiadau yn Ngogledd Cymru (clywch, elywch)-o her. wydd gwyddai pobl Cymru fod y mesur er eu lies a'u budd, a'i fod yn cael ei ddwyn yn mlaen gan eu gwir gyfeillion (cymmeradwyaeth). Yr oedd y b!aid Ryddfrydig yn barod i gyflwyno y Mesur Tir i Gymrn ar yr un llinellau a'r meanr a gyflwynwyd gan Mr. Thomas Ellis ychydig Hynyddau yn ol. Cymmeradwywyd y mesnr hwnw gan y blaid Ryddfrydig Gymreig, a phen. nododd Mr. Gladstone ddirprwyaetb, yr hon a gasglasai lawer iawn o dystiolaethau, ar y rhai y seilid y mesnr. Yr oedd raid iddynt gymmeryd gofal na fyddai i'r hyn a wnaeth y blaid Rydd- frydig yB ystod yr hanner Can mlynedd diweddaf gael ei ddadwneyd (clywch, clywch). Nid oedd efe yn sier, wedi i'r blaid Ryddfrydig gael ei churo fel hyn, na welid rhai o'r petbau hyn yn cael en dadwneyd. Fe ellid, fodd bynag, ei attal drwy anfonURbyddfrydwyr c viion i'r senedd, fel y gellld clywed eu llais os cymmerid cam can ao fel y cat y wlad wybod beth oedd yn myned yn imlaen (cymmeradwyaeth). Yr oedd yn her. ffaith eglur fod Gogledd Cymru yn myned i wneyd hyn-hwy oedd yn myned I gadw'r gaer (cymmeradwyaeth uchel),
YN-MHOETHDER Y FRWYDR.
seddau drwyddo y diwrnod hwn. Aeth Doncaster ansefydlog i'w dwylaw, gydt mwyafrif o 141 Chesterton, yn swydd Caergrawnt, yr un modd, gan ddewis gwrthwynebydd y Dewisiad Lleol; a Mr. ALBERT BRASSEY, yr hwn sydd yn Dori, tra y mae ei frawd enwocach, Arglwydd BRASSEY, yn Rhyddfrydwr cysson, a gip- iodd un o ranbartha" swydd Rhydychain oddi ar blaid Iawnder. Yn Ngogleddbarth Gwlad yr Haf, nid oedd mwyafrif y Rhydd- frydwyr namyn 19; a pha ryfedd iddi yn awr droi yn ei hoi at Doriaeth ? Aelod yn meddu mwy o hynodion nag o bwyll gwleid- ydd da ydoedd Mr. CoNYBEARE, y Rhydd- frydwr a gynnrychiolai Camborne yn Ngher- nyw; a barnodd yr etholwyr ei bod yn bryd iddynt ei newid am Dori. 0 swydd Derby a Molton yn Nyfneint, ceir newydd- ion gwahanol, canys yn y ddau le hyn, gwelir fod y Radicaliaid wedi chwyddo eu mwyafrif. Y Rhyddfrydwr, Mr. CAMERON hefyd, er pob ofnau, a ddewiswyd yn Houghton-le-spring, swydd Durham. Heb fanylu, ond eyfeirio ein darllenwyr unwaith yn rhagor at ein colofnau eraill, gwelir yn amlwg fod y diluw yn ei anterth yn Lloegr; i fesur llawer llai yn Ysgotland; ac yn yr Iwerddon heb gael ei deimlo o gwbl, fel yn Ngogledd Cymru. Ar derfyn y dydd, dyma y sefyllfa:- Rhyddfrydwyr 128 ) 194 Gwladgarwyr 57 194 Parnelliaid 9 Toriaid 307 ) 364 Undebwyr 57 558 DYDD MERCHER. I Gwgu ar y Rhyddfrydwyr yr oedd ffawd haddyw etto. Collodd Mr. STEPHEN WIL- LIAMSON, y I Rhyddfrj dwr pur ac adna- byddus, oi sedd yn mwrdeisdrefi Kilmarnock yn brawf fod dylif y breci a chelwydd marw- eidd-dra masnach wedi twyllo hyd yn oed yr Ysgotiaid a gyfrifir mor bwyllus. Milwr di-nod a gariodd y dydd ar Mr. WILLIAMS, gan ennill 427 o fwyafrif iddo ei hun er fod y mwyafrif Rhyddfrydig yn 1892 yn 775. Ar y llaw arall, da genym fod Syr WILFRID LAWSON, apostol dawnus dirwest, yn ddiog- el er gwaethaf gwrthwynebiad neillduol. Disgynodd ei fwyafrif o 771 i 241, modd bynag, yn brawf o boethder y frwydr. Yn ngogledd sir Worcester, aeth y sedd yn aberth i'r Toriaid, gan droi mwyafrif Rhyddfrydig 1892 o 2,158 yn fwyafrif Toriaidd o 988. Wedi tynu ei fwyafrif i lawr i'r hanner y llwyddodd Mr. AUGUS- TINE BIRRELL, un o'r seneddwyr goreu yn y ty diweddaf, i gadw y sedd i'r Rhydd- frydwyr, yn ngorllewinbarth Fife. Codi ei fwyafrif yn llawn yr hanner a wnaeth Syr EDWARD GREY yn Berwick, Northum- berland, ar y Haw arall. Buasai yn gywil- ydd i etholwyr y rhanbarth hwn ollwng eu gafael o is-ysgrifenydd tramor medrus gweinyddiacth Arglwydd ROSEBERY. En- nillodd yr Undebwyr seddau yn Neheu- barth Ayr, bwrdeisdrefi Falkirk, ac Elgin, a Nairn-oll yn Ysgotland. Ar derfyn y dydd, safai y pleidiau fel hyn: Enniiliony Rhyddfrydwyr 18 I y Toriaid 99 Mwyafrif y weinyddiaeth 134 O'u cymmharu ag eiddo y Rhyddfrydwyr, y mae mwyafrif ennillion y Toriaid yn 81 —18 o 99-yr hyn, erbyn ei ddyblu, sydd yn 162 mewn ymraniad. Tyner o hyn yr 28 oedd gan y Rhyddfrydwyr wrth gefn ar ddechreu yr ymdrechfa, a cheir y ffigiwr a nodir uchod-134,