Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
I -Y OYl-lXWYSIAD. j
I Y OYl-lXWYSIAD. j Yr Etholiadau yii NghyLtru 3 Genedigaethau, &o., 4 Prif Erthyglau Yn MUoethder y Frwydr 4 4 Newyddion Cymreig. 5 Llandyssul, a'r Cylohoedd 5 Telegrams Arthur Llwyd 5 6 Barddoniaeth 6 Cerygydruidion 6 Yr Etholiadau Cyffredinol 7 Coinodion Cyffredinol 8 Kewyddion Eiholiadol 8 Gorllewinbarth Sir Ddinbych Budùugoliaoth dderchog, &0. 8 Newyddion Diweddaf ° htarehoadoedd, &0. & Hysbysiadau li 2
IYR ETHOLIADAU YN I NGHYMRU.
YR ETHOLIADAU YN I NGHYMRU. SIOMEDIG ac anffafriol y mae yr ymgyrch wedi troi hyd yn oed yn y Dywysogaeth, fel yn mhob man arall. Er hyny, y mae gwahaniaeth mawr rhyngddi a'r rhanau craill o'r ynys hon. A ni yn disgwyl y cawsem Gymru, ar derfyn yr ymdrochfa hon, yn 'Gymru Lân,' 'Cymru Bur,' Cymru Wen,' a Cliymrit Gyfan!' wele, y mae hi wedi rhoddi cam pellach yn 61 i'r 'Oesoedd Tywyll.' A pha gyfrif a ellir roddi am hyn ? Amryw gyfrifon nad ydynt yn adlewyrchu dim ond anghlod ar iiloedd o etholwyr gwagsaw, a mwy fyth o hyny ar etholwyr Eglwysig—tafarnyddol a Thoriaidd-fu yn arfer eu dylanwadau mall i'n gwrthwynebu. Gwlaneni, a phob hudol- iaethau Eglwysyddol yn nwylavv medrus ciwradiaid a merchettos y Friallon-barilau ilawnioii o I ddiod 'yn cael eu gwaghau yn rhad ae am ddim i bob tafarn o'r bron mewn gwlad a thref, oeddynt yn elfenau o nerth ofnadwy yn ei rym yn erbyn Cyfiawnder a Diwygiad. Yn)u mysg, yr oedd anffydd- londeb Ymneillduwyr proffesedig; y rhai fu yn gwcithio ac yn pleidleisio yn erbyn y blaid sydd wedi sicrhau i ni ein rhyddid i addoli em Duw a'n Gwaredwr yn ein dull syml cin bunain, ac o blaid ymgeiswyr na roddai dim mwy o foddhad i rai o honynt na chym- mcryd rhan weithredol mewn lladrata oddi arnom bob ysgrepyn o ryddid a hawlfraint grefyddol, politicaidd, a chymdeithasol, yr ydys yn eu mwynhau, or gwaethaf gelyn- iaeth eu plaid hwy yn y blynyddoedd a aethant heibio! Dyma y dylanwadau sydd wedi peri ein siomedigaethau, ac wedi dar- ostwng eymineriad rhanau o'r hen wlad anwyl yn is nag y bu yn y blynyddoedd diweddaf. Deued y darllenydd gyda ni i gymmeryd trem ar faes y frwydr. De. chreuwn gyda MERTHYR TYDFIL, am mai yno—eleni, fel tair blynedd yn 01- y bu yr ymdrechfa gyntaf. Yno yr oedd pedwar o ymgeiswyr ar y maes am y ddwy sedd y caniateir i Merthyr, Aberdar, a Mountain Ash i anfon gwyr i eistedd yn- ddynt; sef, y ddau hen aelod (y Mri. D. A. THOMAS, a W. PRITCHARD-MORGAN — Rhyddfrydwyr, wrth gwrs, a'r ddau a gaw- sant y mwyafrifau trymaf trwy y deyrnas dair blynedd yn ol); Mr. H. C. LEWIS (mab ystiward Arglwydd BUTE—Syr WM. THOMAS LEWIS), fel ymgeisydd y Toriaid; a Mr. ALLEN UPWARD (llenor galluog), a ddaeth allan ar ei gyfrifoldeb ei hun, fel Ymgeisydd Llafur annibynol. Ni wnaeth yr etholaeth hon agos cystal y tro hwn ag y gwnaeth y tro blaenorol, ac fel yr arferai wneyd pan yr oedd yr anfarwol HENRY RICHARD yn un o'i chynnrychiolwyr. Y mae'n ivir ddarfod i'r. ddau hen aelod gael eu dychwelyd yn anrhydeddus; ond cyr- haeddodd y Tori y tro hwn I farciau' na ddaeth yr ymgeisydd Toriaidd yn agos atynt dair blynedd yn ol. Y pryd hwnw, ni chafodd Mr. BENJAMIN FRANCIS WIL- LIAMS ond ychydig dros 2,300 o bleidleis- iau; tra y cafodd mab y barwnig ystiward- yddol dros chwe mil a hanner. Am Mr. UPWARD, nid oes angen dyweyd chwaneg na'i fod ef, yn amlwg, yn well awdwr llyfr- au nag ydyw o ymgeisydd sencddol. Dyma fel y safai yr ymgeiswyr ar derfyn y dydd:— Mr. D. A. THOMAS (R) 9,250 W. P. MORGAN (R) 8,554  H. C.LEWis (T). 6,525 UPWARD (Lla£ur) 659 Y mae genym un awgrym i'w roddi i'n I cyfeillion yn Merthyr. Bydded iddynt I sefydlu Cymdeithas Ryddfrydig gref ) fewn y cylcli. I'r ddau aelod, hefyd, y mae genym awgrym:- ffyned chwaneg o gar- iad brawdol rhyngddynt a'u gilydd. LLEYN AC EIFIONYDD. Yn y rhanbarth hwn, ni bu ymdrechfa. Methodd y Toriaid a chael nab yn ddigon ffol i sefyll. Am hyny, etholwyd Mr. BRYN ROBERTS yn ddiwrthwynebiad. Yr un diwrnod, yr oedd ei wrthwynebydd tair blynedd yn 01, WILLIAM HUMPHREYS, o Abercin, o flaen yr ynadon yn .Nghaernar- fon. Diangodd y g\r hwn o'r wlad. De- allwyd mai i Awstralia yr aethai; ac anfon- wyd heddgeidwad yno ar ei ol. Daliwyd ef, a dygwyd ef dros y weilgi fawr i sefyll ei brawf. Nid oedd caion yn y Toriaid, gan hyny, i wrthwynebu y tro hwn. CWM RHONDDA. 1 Cerdded y cwrs' heb neb i'w aflonyddu a gafodd Mabon (Mr. WILLIAM ABRAHAM) hofyd, yn y CWln, Felly dair blynedd yn ol. Mr. RICHARD MORRIS, o Bentre Ys- trad, oedd wedi meddwl gwneyd ymgaisam y sedd y ddau dro; ond gwelodd nad oedd obaith iddo mewn pryd. ABERTA W E. Yr ydym yn cywilyddio yn wirioneddol wrth feddwl fod hen sedd y Radical pybyr, y diweddar Mr. DILLWYN, wedi syrthio i feddiant Tori, er i hwnw fod yn nai i'r hen wron. Trwy fwyafrif o dros bedwar cant, gorchfygwyd Mr. BURNIE gan Syr JOHN DILLWYN LLEWELYN. Ar hyd y blynydd- oedd, y mae y barwnig hwn yn dra uchelgeisiol am anrhydedd seneddol. Ar pedwerydd tro, llwyddodd. Gwasanaethodd Mr. R. D. BURNIE yr etholaeth yn rhagorol fel olynydd i un o'r Rhyddfrydwyr goreu yn y senedd Brydeinig. Ond cafodd yr etholwyr ddigon arno y tro hwn. 1Y maent wedi penderfynu rhoddi cyfleusdra i Syr JOHN. Bydd yn edifar iawn ganddynt cyn pen y flwyddyn eu bod wedi rhoi eu hym- ddiried mewn pleidydd i weinyddiaeth gym- mysgryw SALISBURY a CHAMBERLAIN. Y tro nesaf, myn Abertawe ddychwelyd yn ol i'w hen wersyll, ni gredwn. I BWRDEISDREFI PENFRO. Y rhai hyn, fel Caerfyrddin, a feddwasant mewn mwy nag un ystyr ar Doriaeth, gan daflu eu dylanwad i ochr caethiwed a thy- wyllwch. Er i Mr. EGERTON ALLEN brofi ei hun yn gynnrychiolydd ffyddlawn iddynt am dair blynedd, bu yn well ganddynt ym- ddiried eu hachos pwysig i filwr goludog o'r enw y Cadfridog LAURIE; yr hwn, pan oeddynt mewn ystad fwy goleuedig, a wrth- odasant trwy fwyafrif o dri dros ddeucant. Y waith hon rhoddasant iddo fwy o 159, a hyny mewn pol oedd yn llawer mwy na'r un blaenorol. Wele y ffigyrau;- Y Cadfridog LAURIE (T) 2,719 Mr. ALLEN (R) 2,560 Mwyafrif 159 BWRDEISDREFI MYNWY. Er eu clod, daliodd y rhai hyn yn gan- moladwy yn nghanol y rhyferthwy mawr, gan gadw y sedd i'r Rhyddfrydwyr. Fel I hyn y safai y pleidleisiau Mr. SPICER (R) 3,743 UNDERDOWN (T) 3,589 Mwyafrif 154 Mr. ALBERT SPICER a gipiodd yr ethol- aeth oddi ar y Toriaid dair blynedd yn ol, gan orchfygu Syr GEORGE ELLIOT gyda mwyafrif o 293. Daeth rhai cannoedd yn chwaneg i'r etholfeydd y tro hwn j yr hyn a ddengys fod yr afael sydd gan Mr. SPICER ar yr etholaeth wedi dyfnhau, er cymmaint ydoedd nerth y dylanwadau gwrthwynebol iddo. BWRDEISDREEI MALDWYN. Teimlid dyddordeb neillduol yn yr hyn a wneid gan y bwrdeisdrefi hyn y tro hwn. Yr oedd y ddau ymgeisydd yn newydd; ond yr oedd un o honynt yn meddu mantais arbenig, am ei fod yn fab i'w dad yr Uchgadben PRYCE-JONES, mab Syr PRYCE PRYCE-JONES, yr hen aelod. Ond gftr an- adnabyddus i'r etholwyr hyd o fewn ych- ydig wythnosau yn ol, ydoedd Mr. OWEN PHILLIPS, ei wrthwynebydd Rhyddfrydig. Bu farw y gwr a ddewisasai y Rhyddfryd- wyr i flaenori eu cad; sef, Mr. WILLIAMS ae y mae yn ammheus a allasai y barwn- igol fab wneyd y gwaith a wnaeth pe bu- asai y boneddwr hwn, oedd yn gymmydog, ar flaen y fyddin. Ychydig iawn o wyth- nosau a gafodd Mr. PHILLIPS i ymgydna- byddu a'r etholwyr. Cymmered ef ddigon o hamdden i wneyd hyny yn y misoedd nesaf, ac fe ddaw i'r wyneb; a chaiff yr uch- gadben deimlo gofwy. Naw-ar-hugain yn chwaneg na'i dad a gafodd y major, tra yr oedd nifer pleidleiswyr Mr. PHILLIPS rai ugeiniau yn lliosocach nag a gafodd Mr. HANBURY TRACEY. Y ffigyrau y tro hwn oeddvnt:— Yr Uchgadben PRYCE-J ONES (T) 1,435 Mr. 0. PHILLIPS (R). 1,351 Mwyafrif 84 Hwn ydyw y mwyafrif lleiaf a gafodd unrhyw ymgeisydd yn Nghymru, gyda'r eithriad o Mr. HUMPHREYS-OWEN (27), a Syr JOHN JONES-JENKINS (52); yr hyn a ddengys pa mor sigledig ydyw gorsedd yr Uchgadben PRYCE-JONES. Y mae yma addewid am oruchafiaeth y tro nesaf! DOSBARTII ABERTAWE. Cadwodd y dosbarth hwn ei gymmeriad yn anrhydeddus, er fod yno dri o ymgeiswyr ar y maes am un sedd. Mae yn amlwg oddi wrth y canlyniad mai nid Toriaeth sydd gan y Rhyddfrydwyr i'w hofni yma, yn gymmaint a Phlaid Llafur. Dewis-ddyn y Rhyddfrydwyr oedd Mr. DAVID BRYN- MOR JONES, yr aelod blaenllaw ar y Ddir- prwyaeth Dirol Gymreig; a'r hwn, yn y senedd ddiweddaf, a gynnrychiolai Stroud, yn swydd Gloucester. Drwg genym fod y sedd hon, oedd yn ddiogel iddo ef hyd yn oed yn nghanol y rhyferthwy presennol, "yn ol pob golwg, wedi syrthio i ddwylaw y gelynion. Ymgeisydd y Toriaid oedd y Milwriad WRIGHT. Ond mynodd y gweithwyr ddwyn allan eu blaenor hwy, Mr. HEDLEY, yn erbyn Mr. JONES, er ei fod ef yn wir gyfaill i'r gweithiwr. Er y cyfan, yr oedd mwyafrif y Rhyddfrydwyr hyd yn oed ar I yr ymgeisydd annibynol' dros ddeunaw cant, ac ar y Milwriad Toriaidd yn ddwy fil, namyn un. Wele'r pleidleisiau Mr. BRYNMOR JONES (R) 3,850 HEDLEY (LI) 2,081 Y Milwriad WRIGHT (T) 1,851 CAERDYDD. I Rhaid cvmmeryd amryw ystyriaethau i esbonio gorthrechiad y Rhyddfrydwyr yn Nghaerdydd; yn mysg pa rai y dylem enwi 'Y Bir,' 'Eglwysyddiaeth,' a'r Babaeth.' Mynai offeiriaid y ddiweddaf i'r etholwyr bleidleisio i'r dyn oedd yn barod i wario arian y wlad i gynnal yr ysgolion 'gwir- foddol,'—neu mewn geiriau eraill, yr Ysgol- ion Enwadol-i ddysgu eu hopiniynau ofer- goelus hwy; ac aeth cannoedd o Wyddelod yn erbyn y g\r oedd yn barod i wneyd cyf- iawnder a gwlad eu genedigaeth hwy. Nis gwyddom pa mor bell yr aeth gwaith Syr EDWARD REED yn chwareu cymmaint gyda'r etholaeth-weithiau yn ystrangcio, bryd arall yn ymddiswyddo-yn ei erbyn. Colli sedd a ddylasai fod yn un ddiogel i'r Rhyddfrydwyr fu y canlyniad, pa fodd bynag, fel y dengys y ffigyrau Mr. J. MACLEAN (T) 8,386 Syr E. REED (R) 7,562 Mwyafrif 824 SIR ABERTEIFI. I Rhwydd gyfaddefwn ein bod wedi ofni am Geredigion y tro hwn. Nid am ein bod yn credu am foment fod Toriaeth wedi ennill gronyn o dir mewn gwlad sydd wedi gwrthdystio cymmaint yn erbyn gormes y degwm; ac ychydig o ■ gyfrif a roddem, hefyd, ar boblogrwydd Mr. HARFORD, yr ymgeisydd Toriaidd; canys gwelsom 'y Cardies' cyn hyn yn myned yn erbyn gwyr llawer mwy poblogaidd nag efe er. mwyn myned gyda'u hegwyddorion-pe ond y diweddar Mr. DAVIES, o Landinam, er eng- raifft. Ofnem, yn hytrach, 0 herwydd yr vmrwygiad bygythiedig yn y gwersyll Rhyddfrydig-ar yr hyn y sylfaenai y Toriaid eu hunig obaith. Da gan ein calon fod yr ofnau hyn oil wedi troi yn ddi-sail; ae y mae y canlyniad wedi profi uwch law pob ammheuaeth fod 'Calon Gardi Land' mor iach ag y bu erioed. Nid ydyw mwyafrif Mr. VAUGHAN DAVIES yn gym- maint ag eiddo Mr. BOWEN-ROWLANDS, yr hwn a drechodd Mr. WILLIAM JONES, Bir- mingham, gydag yn agos i ddwy fil (1,971). Er hyny, efe a wnaeth ei ran yn ardder- chog, fel y dengys y ffigyrau eanlynol Mr. VAUGHAN DAVIES (R) 4,927 Mr. HARFORD (T) 3,748 Mwyafrif 1,179 Bellach, caiff yr yswain o Dan-y.bwlch, I a fu ddeng mlynedd yn ol yn ymgeisydd i'r Toriaid yn erbyn Mr. DAVIES, Llan- dinam, ac a orchfygwyd yn druenus, gyf- leusdra braf i gau pob genau o'r rhai sydd yn siarad yn ammheus am ddidwylledd ei Ryddfrydiaeth, trwy fodyn ffyddlawn mewn pleidleisiau a phresennoldeb yn y ty. I CANOLBARTH MORGANWG. Mr. SAMUEL T. EVANS, fel o'r blaen, sydd i gynnrychioli yr etholaeth bwysig hon, yn ol dedfryd bendant mwyafrif o dros ddwy fil a hanner. Buasai colli gwasanaeth gwerth- fawr y dyn galluog hwn yn cael ei deimlo trwy Gymru benbaladr. Am ei fod wedi profi ei hun yn aelod mor dda, gwnaeth Toriaid y rhanbarth bob ymdrech, teg ac annheg, i'w flino, a pheri colled arianol iddo. Gwyddent nad oedd chwaneg na hyny o fewn cylch eu gallu. Y tro blaenorol, yr oedd ei fwyafrif dros bedair mil: a llwydd. asant hwythau, trwy fir, breib, a chelwydd, i dynu llawer arno i lawr. Ond, ni siglasant ei orsedd. SAM EVANS ydyw'r dyn' o hyd yn Nghanol Morganwg, fel y prawf y dad- ganiad swyddol a wnaed ddydd Gwener, fel y canlyn:— Mr. S. T. EVANS (R) 5,612 Mr. J. E. VAUGHAN (0). 2,935 Mwyafrif 2,677 Da iawn Bron ddau am bob un i'w wrth- wynebd. DEHEUBARTH SIR FVNWY. Unwaith yn rhagor, profwyd fod gan gyfoeth a dylanwad teulu pendefigaidd afael gref ar feddyliau rhanbarth amae.thyddol o fath hwn. Anhawdd fuasai i'r Rhyddfryd- wyr gael nmgenach ymgeisydd na Mr. CLIFFORD CORY; ond mynodd yr etholwyr ail ddewis y Milwriad MORGAN, brawd Ar- glwydd TREDEGAB, am y pedwerydd neu y pummed tro, gan roddi iddo, er ei holl aug- hymmhwysderau, chwaneg o fwyafrif mewn p61' lliosog iawn. Mr. C. F. MORGAN (T) 5,815 Mr. CORY (R) 5,203 Mwyafrif 612 Ai hyd byth y myn y rhanbarth Cym- raeg hwn orwedd yn rhwym yn hualau Toriaeth, a llyfifetheiriau y bendefigaeth 1 Pa bryd yr ymgyfyd yr etholwyr mewn nerth i'w dryllio ? BWRDEISDREFI SIR FFLINT. Dyma un o'r ymdrechfeydd caletaf trwy yr holl deyrnas, yn y bwrdeisdreti hyn. Yr oedd y Toriaid wedi penderfynu cipio yr etholaeth, am unwaith, i'w dwylaw. Ni chafodd Tori yr hyfrydwch (iddo ef) o'u camgynnrychioli er pan basiwyd Mesur y Diwygiad yn 1832. Ond eleni, yr oeddynt yn myned i wneyd yn sicr o honi. Nid arbedwyd y I moddion' Toriaidd arferol:- arian, cwrw, breibiau, a chelwyddau. Ac yr oedd Clerigwyr a Chiwradiaid y Fam, a Merchettos y Friallen yn bynod o brysur. Rhwymwyd Rhagluniaeth wrth olwynion eu cerbyd hefyd, gan daenu mai gwaith y Rhyddfrydwyr oedd dwyn marweidd dra a chyfyngder i fasnach y wlad. A daliwyd Mr H. LEWIS gan gyffrawd yr ymgyrch pan nad oedd ei galon friwedig wedi dechreu ymiachau o'i brofedigaeth lem. Dygasant eu gfir galluocaf i'r maes yn ei erbyn, a hen brofiedydd mewn ymladd etholiadau. Hwn oedd chweched ymddangosiad Mr. PENNANT yu ei gymmeriad o ymgeisydd. Ond aeth y cyfan yn ofer Mae CallestriA yn ei bwr- deisdrefi yn lan; a dyma fel y dylai fod hefyd gyda'r fath gynnrychiolydd medrus a chymmeradwy a Mr. HERBERF LEWIS. Dyma fel y safai pethau fel y cyhoeddwyd hwy ychydig fynudau cyn i'r Sabboth di- weddaf wawrio:— I Mr. HERBERT LEWIS (R) 1,828 „ PENNANT (T) 1,663 Mwyafrif 165 YNYS M6N. Ymneillduodd Mr. THOMAS LEWIS, hen gynrychiolydd ffyddlawn Ynys Mon; a thua blwyddyn a banner yn ol y dewisodd y Rhyddfrydwyr Mr. ELLIS JONES-GRIFFITH -y bargyfreithiwr Oymraeg ieuangc gwir alluog-yn ymgeisydd yn ei le. Nid oedd Mr. GRIFFITH heb wybod yn flaenorol am waith ymgeisydd; canys yn yr etholiad cyff- redinol, dair blynedd yn ol, efe a ymladd- odd frwydr ei blaid yn Toxteth, sef un o gadarn-leoedd Toriaeth Liverpool. Colli y dydd a wnaeth efe y pryd hwnw; ond trwy ei areithiau penigamp, a'i ymroddiad, efe a ennillodd sylw mawr ac arbenig. Yn Mon, yr oedd yn ngwlad ei enedigaeth, ac yn mysg ei bobl ei huu. Bu y Toriaid yn hir yn curo wrth ddrws hwn, a drws y llall, i ddyfod allan i flaenori eu câd. Caw- sant o'r diwedd gan Mr. RICE ROBERTS, 0 Langefni, i wneyd hyny — yr hwn, fel y rhelyw o'r ymgeiswyr Toriaidd yn Nghymru, sydd yn mhell o fod mewn cydymdeimlad ag anghenion y bob!. Er hyny, yr oedd Mr. ROBERTS yn ymgeisydd cryf: ond ni phryderai neb oedd yn adnabod Rhyddfryd- iaeth M6n am y canlyniad. A phrofwyd nad oedd angen pryderu pan gyhoeddodd yr uchel sirydd, ddydd Sadwrn, mai stad y p61' ydoedd :— Mr. E. J. GRIFFITH (R) 4,224 11 J. R. ROBFRTS (T) 3,198 Mwyafrif 1,027 GORLLEWIN SIR GAERFYRDDIN. Dair blyneddd yn ol, cafodd Mr. JOHN LLOYD MORGAN ei ethol yn ddi-wrthwyneb- iad dros y rhanbarth hwn. Ond, eleni, fel pe wedi llwyddo i gael gweledigaeth i'r dyfodol, a chanfod y diluw Toriaidd yn dyfod, penderfynodd y gwrthwynebwyr i ymladd; a chawsant gan foneddwr o'r enw Mr. BUCKLEY ddyfod i'r maes dan eu Human. Gweithiodd ef, a'i frodyr, yn egniol; ond cariodd Mr. MORGAN y dydd gyda phedwar ffigiwr. Wele y canlyniad 1 Mr. LLOYD MORGAN (R) 4,143 „ W. J. BUCKLEY (T) 3,104 Mwyafrif 1,040 Bydd Mr. LLOYD MORGAN yn debyg o gael llonydd ganddynt y tro nesaf. BWRDEISDREFI SIR GAERFYRDDIN. Trodd y rhod yn y bwrdeisdrefi hyn yn awr. Collodd y Rhyddfrydwyr y s6dd— yr hon, am fod yn nwy dref Caerfyrddin a Llanelli ddigon o Ymneillduwyr yn unig i gadw y sedd, a ddylasai fod yn berffaith ddiogel. Ond, ein cysur ydyw, mai dyma y mwyafrif lleiaf etto-dim ond 52-fel mai hawdd, ni a gooliwn, fydd eu dwyn yn 01. Gwnaeth yr Uchgadben JONES aelod peni- gamp ar hyd y tair blynedd diweddaf; ond dewiswyd Syr JOHN JONES-JENKINS yn ei le, gyda'r ffigyrau a ganlyn Syr J. J. JENKINS (T) 2,443 Yr Uchgadben JONES (R) 2,391 Mwyafrif 52 Byddai yn dda genym gael sicrwydd parthed y gwir am un sibrwd a ledaenir am y barwnig sydd wedi ei ddewis; sef, nad ydyw efe yn Dori ar nemawr ddim ond bwgan' Ym. reolaeth i'r Iwerddou, a'i fod yn Rhydd- frydwr trwyadl ar bwngc y Dadgyssylltiad, am ei fod yn Ymneilldiiwr. I BWRDEISDREFI SIR DDINBYCH. Methu ennill y sedd oddi ar y Toriaid a wnaethom ni yn y bwrdeisdrefi hyn. Er fod Mr. WALTER MORGAN yn ymgeisydd o'r radd flaenaf, ac er fod yn y pedair bwr- deisdrefi ddigon o Ymneillduwyr proffes- edig (heb son am Eglwyswyr Rhyddfrydig) i roddi cannoedd o fwyafrif iddo, methu a wnaethom. Nid oes dim yn eglurach na'r ffaith fod Mr. TUDOR HOWELL i ddiolch yn benaf am ei oruchafiaeth i Ymneillduwyr anffyadlawn. Heb eu help hwy, ammhossibl fuasai i un Tori gael buddugoliaeth mewn bwdreisdrefi ag y mae eu poblogaeth yn cynnwys amryw o Ymneilldiiwyr am bob Eglwyswr. Ond prif achos eu llwyddiant, fel y gVvyr pawb sydd yn gydnabyddus i Gwrecsam yn arbenig, oedd y BRECI! Di- oddefodd y trefi eraill oddi wrthi hefyd, i raddau pell; a gellir penderfynu mai i hyn y maent i briodoli eu llwyddiant. Dyma y ffigyrau Mr. TUDOR HOWELL (T) 1,833 WALTFR MORGAN (R) 1,604 Mwyafrif 229 DEHEUBARTH MORGANWG. Anferthol ydoedd y syndod pan y deall- wyd pa fodd y troisai canlyniad yr ymdrech- fa yn y rhanbarth hwn. Nid oedd yn bossibl i'r Rhyddfrydwyr feddu gwell ym- geisydd na Mr. ARTHUR JOHN WILLIAMS, yr hen gynnrychiolydd ffyddlawn dros y rhandir er pan wnaed ef yn etholaeth ar ei ben ei hun. Ar y Haw arall, anhawdd fuasai cael ymgeisydd llawnach o anghym- mhwysderau seneddwr na'r ymgeisydu Tori- aidd, yr Uchgadben W. QUIN. Ac etto, efe a ddewiswyd. Trowyd y mwyafrif an- rhydeddus o 918 dair blynedd yn olyn fwyafrif Toriaidd o 825 ddydd Gwener diweddaf. Y ddiod, a dylanwad landlord