Hide Articles List

6 articles on this Page

Llanrwst. !

I Hanes Buchedd Meirion.

I Anfadwaith Abererch

Blaenau -Ffestiniog.I

Advertising

ACHOS OWEN HUGHES.

News
Cite
Share

Methdalwr: Yr wyf yn dywedyd pobpeth ydwyf yn ei gofio. Mae yn anhawdd iawn coflo pobpeth." Bu yn gwneyd masnach yn Cambrian Stores, Denbigh Street, Llanrwst. Rhoddodd brydles ar y lie hwnw i Mr. John Owen wyth mlynedd yn ol. Yr oedd yn Melin y coed, felin, ty, fferm, ac wyth o dai. Glan Llyn Terrace y gelwid y tai, ac yr oedd eu hardrethi yn cyrhaedd 28p y flwyddyn. Jane Roberts oedd Perchenoges y lie, a gadawodd yr eiddo i gyd i'w mherch, sef ei wraig ef. Yr oedd lOOp o arian ar y lie y pryd hwnw, a chafwyd 600p arno gan y diwedd- ar David Hughes Tyngwern, Yr oedd ei wraig wedi marw er's tair blynedd, a chafodd y plant, pedwar o honynt, arian o newydd ar y lie y llynedd. Efe oedd wedi talu y llog hyd nes bu farw ei wraig, a'r plant dalasant wedi hyny, gan fod yr eiddo yn myned iddynt o dan ewyllys eu mham. Rhoddodd i fyny ei fasnach yn Chwefror am fod rhai o'r gofynwyr yn pwyso arno. Nid oedd yn sicr a oeddynt wedi dod arno, ond yr oedd yn eu hofni. Mr. Tobias Yn awr. Mae yn rhaid i chwi gofio eich bod ar eich llw i ddywedyd y gwir, fel yr oedd pethau, ac fel y maent yn awr. Oni ofynais i chwi pan ddaethoch i wneyd eich hun yn Fethdalwr a oedd y Bailiff i mewn, a dywed- asoch ei fod. A oedd ef i mewn a'i nad oedd ?" Methdalwr: Oedd, yr oedd wedi dod i mewn." Yr oedd tair o wartheg yn Melinycoed pan wnaeth ei hun yn Fethdalwr. Na, na un oedd yno," meddai drachefn. Yr oedd yno geffyl, dwy drol, a lurry, ac yr oeddynt yno o hyd. Bu iddo ddadgloi drws y swyddfa, ond ni chymerodd ddim oddiyno. Niwyddai ei fod yn troseddu wrth agor y drws hwnw. Yr oedd lease ar y Felin am 21 mlynedd. Enwodd y pethau perthynent i'r Felin Isaf. Gyda golwg ar Cambrian Stores, yr oedd prydles ar y He. Yr oedd wedi cytuno i brynu y lie ddiwedd yr haf diweddaf, a rhoddodd wystl o 13p i lawr. Gwnaeth hyny, er yn gwybod nad oedd ganddo ddim at dalu am y lie, heb eu benthyca. Credai y gwnelsai elw ar y fargen. 550p oedd y pris y cytunwyd aruo. Yr oedd ganddo tri ty Llanddoget y rhai a ardrethent i 12p y flwyddyn, ac yr oedd berchenog Ffridd elwid y "Fron." Wyth erw oedd hono, ac yr oedd yn werth 5p o ardreth blynyddol. Yr oedd 300p o arian ar y Tai a'r Fron. Yr oedd gan ei wraig dy yn 40, Gsorge Street, ardreth hwnw oedd 14p. 150p roddodd hi am dano, ac yr oedd gan merch Cefngadfa, Pentrefoelas, arian arno. Ni fu a wnelo ef o gwbl o'r ty hwn nac a'i ardreth. Adgyweirioddy Cambrian Stores a Melinycoed, ond yr oedd llawer o flynyddoedd er hyny. Yr oedd ganddo amryw Policies yn y Vt ocol t r Bank. Llanrwst. Yr oedi PQlicy i vd yn y N. & S. W. Bank, LIanrwst. vru done am 5p gan William Owen. yn ei ddyled o 50p, ac yr ne cl'V v yn settlo ycyfrif rhyngddynt. Yr oedd y Pw-icy am 200p a'i Surrender Value yn Op. Yn y fan hon, cyflwynodd Mr. Davies Jones iyfyr Bank i Mr, Tobias. I Mr. Tobias. Sut na fuasech rhwi wedi rhoddi hwn i mi o'r blaen? Sut yroeddych yn cuddio peth fel hyn oddiwrlhyf ? Y Methdalwr: "Nidoeddwn yn meddwl ei fod o unrhyw werth i chwk" Y Cofrestrydd: "Buasai o werth i chwi pc buasai y dyn yma'n marw." Mr. Tobias Yr ydych ar eich llw wedi dy- wedyd eich bod yn rhoddi i mi gyfrif o bob petn. eich eiddo a'ch dyled. A oes genych lawer o bethau fel hyn wedi eu cuddio ?'' Methdalwr: Nid wyf wedi cuddio dim, or.d y mae dyn mewn trafferlh fel hyn yn ffwdanus, ac yn anghofio llawer iawn o bethau." Nid oedd ganddo lyfrau Bangciau eraill. Yr oedd yn feichiau dros nifer fawr o bersonau, a nifer fawr drosto yntau. Symudwyd chwech o foch a heffer i Hendrewen, ty ei ferch. Ni roddodd orchymyn i'w symud, ond nid ymyrodd yn yr achos. Yr oedd ardreth am y Felin a'r Ty yn ddyledus i'r ferch. Yr oedd wedicael gwys gan Mr. Sargeant, Lerpwl, ac yn disgwyl y Bailiff » mewn. Wythnos cyn y methdaliad oedd hyn. Gan Mr. Watling y prynodd y fuwch am £12 10s, ond ni thalodd am dani. Yr oedd yn pyled-Mr. Watling o f 55. Aeth buwcha merlen i Mr. Watling at y ddyled hono. Symudwyd y pethau i Hendrewen ac i Mr. Watling wrth weled yr ystorm yn dod. Mr. Tobias: "A oeddych yn ystyried symud pethau fel hyn yn onest ? Methdalwr: D'wn i ddim beth sydd onest wedi cael fy nhwyllo gymaint fy hunan." Ychydig at dalu yr ardreth dyledus ydoedd y moch a'r heffer. Gohiriwyd yr Arholiad.