Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Llanrwst. !

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Llanrwst. St. Mary.—H( Parch. T. Felix; 6, Parch. J. Morgan. St. Crwst.—10.30., Parch. J. Morgan; 6, Parch. T. Felix. Seion,- Parch. J. M. Jones, Bangor. Scotland Street.—Parch. T. O. Jones, Yspytty. Tabernacl .-Parch. W. C. Williams. F-,I)ellezer. -Parch. Horeb.—Parch. W. G. Williams, Eglwysbach. St- James.—Rev. H. Jones, Colwyn Bay. I enuel.—Mr. Francis, Carnarvon. Yn ystod y bregeth yn nghapel Horeb nos Sabbath diweddaf, cafwyd Unawd Cysegredig gan Miss Jones, Confectioner, Station Road. CYFARFOD TERFYNOL.—Ymgasglodddros 200 o bobl ieuangc Cymdeithas Lenyddol Seion at eu gilydcl nos Wener diweddaf i derfynu y tym- or. Yr oedd gwledd ardderchog wedi ei phar- atoi yr hon oedd yn cael ei rhoddi gan Miss Jones, Tynycaeau (is lywyddes) Mri Tudor Williams. W. H, Jones a Phillips, Bank Build- Ings, a Mr Walter Roberts, y Banc. Cyn dechren ar y wledd i'r corph cafodd y meddwl. ei wala o Anerchiad rhagorol gan y gweinidog y Parch \V. Thomas, ei destyn oedd—"Pa fodd y gallaf fod yn hapus?" Buasai yn dda genym allu ei rhoddi i'n darllenwyr ond ni chaniatta ein gofod, ond y mae yn dda genym ddeall nad yw ifyned ar goll, ymae Mr Roberts, Avon- dale yn garedig iawn wedi addaw dwyn y draul o'i hargraffu a'i rhauu i'r bobl ieuangc. Di- olchwyd yn gynes i Mr Thomas ar ran yr ael- odau gan Mr W. Williams, County School (Lly- wvdd y gymdeithas); a Mr W. Hughes, Gwern- for. Ar gynygiad y Parch W. Thomas a chef- nogiad Mr Hughes talwyd yr un diolchgarwch i Lywydd y gymdeithas am ei ffyddlondeb gyd- a'r gymdeithas a phob achos da arall. Yna awd i ysgafnhau y byrddau llwythog oedd yn gwenu arnom, a chafwyd caneuon ac adrodd- iadau gan Misses Thomas, George Street Roberts, Poplar Grove; Mr Hughes a Griffiths, Londou House; Lloyd, Borthwen Rd. a Tom Ellis, Denbigh Street; E. P. Jones, Station; O. Evans-Jones, Taidra E. Pughe, "Rhedegydd" Office. Wedi i Mr J. Richard Jones gynyg diolchgarwch i garedigion y gymdeithas, arwein- niodd Miss joues, London House, "Hen Wlad fy Nhadau," a therfynwyd noson ddityr dros ben. Cyfeiliwyd gan Mrs Jack Williams a Mr T. Lewis Roberts. Fel hyn y canodd Miss E. A. Evans, George Street i'r gymdeithas:- Noddwn ein gwyl Lenyddol,—yn wastad Hi estyn i'r dynol; Gyda'r rhin'gedy ar ei ol I dyfu feddyliau dwyfol. CYNGHERDD Y COR UNDEBOL.—Yr oedd y Church House wedi ei lanw hyd yr ymylon nos Iau diweddaf, i wrandaw ar y Cor Undebol yn rhoddi perfformiad o'r "Ddinas Sanctaidd," dan arweiniad y Proff. D. D. Parry. Cymer- wyd yr Unawdau gan Miss Mary King Sarah Talsarn; Miss Josephine Williams. Llangefni; Mr. Evan Lewis, Capel Curig: a Mr. Arthur Penrhyn, Blaenau Ffestiniog. Gwnaeth y Cor a'r Unawdwyr eu rhan yn ganmoladwy, ac yr oedd gymeradwyaeth gawsant yn ddigon o ernes fod y dref yn disgwyl ychwaneg o'r un un peth. Treuliwyd yr ail ran yn amrywiaethol fel y canlyn :-Unawd, "Blow, blow thou wintry wind," gan Mr. Arthur Penrhyn, encor, a canodd "The Yeomans Wedding Song." Unawd Sing, Sweet Bird," gan Miss Mary King Sarah, encoriwyd, a canodd Love the Pedlar. Cydgan gan y Cor "The Songs of the Virkings." Unawd "Nirvana," Mr. Evan Lewis, enncoriwyd a canodd "The Veteran Song." Unawd "Angus Mac'Donald," Miss Josephine Williams, encoriwyd a chanodd Unwaith eto'n Nghymru Anwyl." Unawd, "Father o O'Flynn," gan Mr. Penrhyn, encor- iwyd a canodd I Fyny bo'r Nod." Cydgan gan y Cor The Village Blacksmith," Mr. Ed. Jones, Dolgarrog, yn cymeryd yr Unawd. Dipyn yn Seisnigaidd oedd y wledd, tybed nad oedd caneuon Cymreig. CYfeiliwyd gan Mrs Watling Mr. B. J. Rich, a Mr. Morris Williams, The Library, yn Ysgrifenydd, a gwnaeth waith godidog. Y mae trigolion y dref a'r wlad yn llawenychu fod y Milynydd rhadlon Mr. Robert Edwards wedi cael awenau y Felin Isa i'w ddwylaw ei hun. Welldone Bob. Y mae y darllithiwr ieuangc Mr. Caradoc Mills yn cael galwadau parhaus y dyddiau hyn i ddarlithio. Y mae trigolion Trefriw yn cael y fraint o'i glywed nos Wener y Groglith. Heddyw (dydd Gwener), y mae y dyn fu yn difyru ei hun trwy dori ffenestri masnachdal Llanrwst, yn sefyll ei brawf yn Mrawdlys Dinbych. Hefyd hwnw gyhuddid o ladratta ieir o Pandy Tudur. CYFARFOD PREGETHU.—Y mae Eglwys Ebenezer (A), wedi rhoddi gwahoddiad i'r Parchn. D. Wynn Evans, Caer; a H. R. Will- iams. Colwyn Bay i gadw eu Cyfarfod Pregethu blynyddol, Gwener y Groglith. Ac Eglwys Horeb (W), yn disgwyl y Parchc, David Jones, Liverpool; a Richard Jones, B.A., Bwlchgwyn, i draethu yr hen hen hanes Sul a Llun y Pasg. Y mae rhagolygon addawol iawn am gyfarfod cystadleuol dan gamp yn Carmel, ger Llanrwst Gwener y Groglith. SOUTH AFFRICA.-Dr-g genym i ni beidio croniclo hanes y ddarlith ardderchog gafwyd yn Nghapel Horeb, nos Iau, Mawrth 22, gan y Parch. D. Gwynfryn Jones, Llandudno. Eg- lurwyd y ddarlith trwy gyfrwng lluserh, yr hon arolygid gan Mr, W. O. Williams, Llandudno. Yr oedd hon y ddarlith oreu glywson erioed, a cadwodd dorf luosog yn ddifyr am ddwy awr a haner. Llywyddid yn ol ei fedr arferol gan y meddyg rhadlon Dr. Williams, Penmachno. Y mae Mr. Isgoed Jones a Miss Jones, Plas- yndre,' wedi dychwelyd adref, ar ol bod yn y Canary Island am ddau fis. Edrycha y ddau yn dda. NOSON DDIFYR.—Dyna gafwyd yn nghapel y Tabernacl nos Wener diweddaf, dan lywyddiaeth y boneddwr rhadlon Mr. Jones, N. & W. Bank. Cymerwyd rhan mewn canu, ac adrodd gan blant y Band of Hope, ac y mae rhywun yn cymeryd llawer o drafferth gyda hwy. Hefyd cafwyd Darlith ragorol gan Mr. Caradoc Mills, ar "Ymhlith y bydoedd pell." Y mae ef yn boblogaidd iawn fel darlithwr. Mwynhawyd ei sylwadau yn fawr. Eglurid y Ddarlith drwy gael darluniau ar y canvas. ETO.-Nos Fawrth, ymgynullodd plant Gobeithluoedd Seion a'r Ysgol Genhadol yn Watling Street, i'r Lecture Room, i gyfranogi o wledd o de roddwyd iddynt gan nifer o garedigion. Am 7 o'r gloch cynhaliwyd cyfarfod amrywiaethol, pryd y cafwyd caneuon ac adroddiadau gan y plant, a bu Mr, Alfred Hughes, Compton House, yn garedig iawn' o roddi Magic Lantern Entertainment iddynt, yr hon fwynhawyd yn fawr. Llywydd y cyfarfod ydoedd Mr. D. J. Williams, Board School. Y FFAIR.—Yr oedd y Ffair ddydd Mercher yn boblogaidd iawn. a gwerthwyd^nifer dda o wartheg, ond cwynid yn fawr fod y prisiau yn isel. Hyderwn y gwnaiff pethau wella yn fuan. YSGOL SIROL LLANRWST.—Cynhaliwyd Cyfarfod Chwarterol y Llywodraethwyr dydd Iau diweddaf, pryd yr oedd yn bresenol y Mri. John Roberts (Is-gadeirydd) W. J. Williams, W. H. Williams, D. J. Williams, H. Owen, W. Owen, y Parch. John Morgan. Miss Jones, Mrs Jones. Mri. P. Mc'Intyre (clerc); a Thos. Griffith (clerc cynorthwyol),—Derbyniwyd esgusodion drosabsenoldeb ar ran y Cadeirydd. Parch. Wm. Thomas, Mil. Sandbach. a Mr. Thomas Williams, Trefriw.—Yn unol a'r Scheme pasiwyd i gofnodi sedd Mr. Owen Hughes (un o'r Llywodraethwr), yn wag o herwydd ei fod wedi eieddyfarnu yn fethdalwr. -Cafwyd trafodaeth ar y cynllun o ddewis Cadeirydd, a phasiwyd mai priodol fyddai ei newid bob blwyddyn.-Penderiynwyd fod y Prif-feistr i gyflwyno adroddiad ar y priodoldeb o gynwys dysgu elfenau Cerddoriaeth yn Time Table yr ysgol.—Hefyd"pasiwyd fod y Clerc i anfon at Mr J. C. Davies, M.A,, Cyfarwyddwr Addysg Sir Ddinbych, er gwybod ai oedd y Dosbarth a gynhelid yn bresenol ar ddydd Sadwrn, ar gyferl Is-athrawon yr Ysgolion Elfenol, i'w gynal ar ol y Pasg. DRAMA DDIRWESTOL.—Yn Ysgoldy Capel Methodistiaid nos Wener diweddaf, cafwyd gwledd na chlywsom ei gwell er's llawer blwyddyn, a credwnj pe byddai ychwaneg o wrth-weithio y drwg o ymyfed trwy y ddull ymarferol hwn o weithio buasal yn llawer mwy effeithiol- Y Penawd:oedd "John Barleycorn," cymerwyd rhan y gwahanol gymeriadau yn effeithiol gan ylMri. T. W. Evans, Thomas Parry, Evan Jones, William Jones, Thomas Griffith, D. C. Hughes, William Jones, John Roberts, J. R. Lloyd, W. R. Willtams. R. D. Jones, Rt. Williams, Lewis Pierce, Misses Kitty Roberts, Annie Evans, Jenny Hughes, Mri. Albert Jones, J. Makin Edward Roberts, D. W. Evans, Dd. Williams, Ellis Roberts, R. H. Jones, D. L. Hughes. Arolygydd yr Esgyn- lawr oedd Mr. D. M. Davies. Yr oedd yr ystafell yn orlawn, a phawb yn dymuno am weled y Cwmni yn cymeryd drama gyffelyb i fyny. CARMEL, GER LLANRWST, Nos Fawrth y 3ydd o Ebrill, cafwyd gwledd ragorol o De, Coffi. ynghydag amryfed fathau o gig-fwyd a danteithion, o dan arweiniad deuheuig ein parchus weinidog—Mr. H. Jones- Davies. Llywyddwyd gan Mr. Robert Lloyd, Nantwrach, Canwyd yn swynol iawn amryw weithiau gan Miss Ellis, ac hefydgan ei brawd, Mr. R. C. Ellis, y rhai ynewyllysgar adirodres addaethant i fyny i gynorthwyo a'r gais Mr. Owens. Diolchwyd o galon iddynt am eu parodrwydd. Cawsom anerchiadau pwrpasol iawn yn ystod y wledd, ac wedihyny. Cymer- odd amryw o blant y Band of Hope ran deilwng yn ystod y wledd, mewn adrodd, a chawsom ddadl, "Y Morwynion a'rMeddwyn," yr hon a encoriwyd. Yn wir yr oedd yr adroddiad naturiol iawn o'r ddadl ac yn hynod effeithiol mewn rhanau. Rhoddwyd araeth ddifyfyr, yn yr hon yr ymgeisiodd pedwar, y goreu oedd. Mr. O. Harker, NantyFedwen. Diolchwyd i'r chwiorydd am baratoi gwledd ardderchog, ac ymwahanwyd trwy ganu Dan dy fendith wrth ymadael." Gwerthwyd y gweddill o'r wledd i fyned i godi cronfa, neu at roddir gwobrwyon i blant y Band of Hope am eu ffyddlondeb.

I Hanes Buchedd Meirion.

I Anfadwaith Abererch

Blaenau -Ffestiniog.I

Advertising

ACHOS OWEN HUGHES.