Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

— —————— —————— in. AT EIN…

NODIADAU WYTHNOSOL.

NODION 0"R -CYLQH.

News
Cite
Share

NODION 0"R CYLQH. Boreu ddydd Llun, aethum i fyny i'r chwarel Rhiwbach, gan fod Trengholiad i'w gynal yno ar gorff ein cyfaill tawel a diymffrost Mr John Jones, Isfryn, Trawsfynydd, yr hwn a alwyd ymaith mor sydyn. Yr oeddym yn y lie cyn un-ar-ddeg o'r gloch, gan i ni gael ein cario ran o'r ffordd ar y gwageni trwy hynawsedd Mr Humphries, y perchenog. Gan nad oedd y Trengholydd yn cael ei ddisgwyl hyd haner awr wedi dau o'r gloch, awd i edrych a oedd llyniau y Gamallt yn aros eu lie; ac ar ol cael boddlonrwydd ar y mater hwnw, cawsom olwg ar anedd-dai a chiniawdy y Chwarel. Yn sicr y mae y rhai hyn yn gynllun i'r holl wlad. Pob dim yn ei le a'r oil yn eithriadol o lan- weithus. Deallwn fod rheolau manwl wedi eu gosod i lawr gan Mr Humphries, ac nad yw yn caniatau i fwy na dau fod yn yr ystafelloedd pobpeth yn cael eu darparu at gysur y sawl fod yno, a'r oil godir am y lie yw naw ceiniog yn yr wythnos. Sylwasom hefyd fod awr o amser ciniaw yn cael ei ganiatau. Hyfryd iawn i'w gweled pethau mor ddymunol yn y lie, a bod Mr Humphreys mor awyddus i wneyd ei weithwyr yn hapus yno. Bu dwy ddamwain hynod yr wythnos hon, y naill yn Rhiwbach, fel y nodir uchod, a'r llall yn y Diphwys. Profodd y ddwy yn angeuol, a tharawiad ar- y pen oedd yn y ddau le. Yn y Rhiwbach yr oedd sylw wedi ei alw at y perygl ac yn mhen haner awr wedi hyny daeth y gwaethaf. Dylasai y rhew gael ei symud yn y fan pan oedd y swyddogion yno, neu yn union- gyrchol wedi hyny: yn sicr cyn myned i weithio odditano. Ond hawdd yw bod yn ddoeth wedi i beth ddigwydd. Yn yr achos arall, deallwn fod y cyfaill ieuanc yn bwriadu myned i'r Am- erica yn mhen rhyw dair wythnos, a dywedodd ddydd Sadwrn fod yn gas ganddo feddwl am fyned i'r lie i weithio. Yr oedd yn Llywydd Ysgol Sul Ebenezer (W), a nos Sul yr oedd yn arwain y cyfarfod ar ol yr oedfa, pryd y dywed- odd Fod yn well tori y cyfarfad yn ei lfas," trwy ganu emyn. Yna rhoddodd y geiriau hyn allan: "Tragwyddoldeb mawr yw d'enw, I Ti yn fuan fydd fy lie," &c. Yr oedd y geiriau yn brofiad iddo cyn chwech o'r gloch dranoeth. Diau i'w farwol- aeth sydyn fod yn ogoniant sydyn iddo ef. Rhyfedd fel y mae y nefoedd yn ein cyfarfod i ddyrysu ein cynlluniau bychain. Efe wyr beth sydd oreu. Y mae gan ein cyfaill ieuanc Mr Louis Rob- erts gynt o'r Swyddfa hon, lythyr rhagorol ar y i" Diwygiad yn y "Daily Dispatch" am ddoe. Sieryd yn gryf ar y cyfarfodydd cyhoeddus a'r amlygrwydd gormodol roddwyd i deimladau arwynebol yn ystod yr adeg yr oedd y don fawr yn ysgubo y wlad. Nid yn y nifer a ychwanegwyd at rif eglwys, yr oedd gweled gwir werth y Diwygiad, ond yn mywyd yr unigolion yn eu cartrefi yno yr oedd dyn wedi ei ddiorchuddio o'i huganau cyhoeddus, ac yn ymddangos fel dyn,—tad, priod, neu frawd. Cydolygwn yn hollol a'r sylwadau a wnai, a rhoddodd eu darlleniad foddhad mawr i ni. Diau yr erys effeithiau y Diwygiad ar unigolion ac ardaloedd. Prydnawn dydd Mawrth eisteddai y Llys Methdaliadol yn y Blaenau, a dydd Mercher yn Portmadog. Yr ydym yn dodi hanes y blaenaf yr wythnos hon, a rhoddwn y llall yr wythnos nesaf. Nis gallwn lai na dywedyd gair am y Llys cyntaf. Canlyniad eullibio cymydoges oedd methiant Griffith Griffiths yn ol ei addefiad ef ei hun, er ei fod mewn dyled i'r swmo dros /44 ar wahan a chyn hyny. Mynodd fyned yn mlaen i ymladd mewn achos nad oedd gronyn o obaith iddo enill, ac nid oedd dim ond ei ystyfnigrwydd ef ei hun a'i briod yn peri na fuasai wedi gwrandaw ar gyfarwyddyd ei gyfreithiwr i wrandaw yr achos yn Llys y Manddyledion, neu settlo. Na ni fynai dim ond myned ar ei ben i dynu ei hun ac eraill pe gallasai i helbul. Yn ychwanegol at hyny, yr oedd yn mhell o fod yn glir yn ei atebion. Nid oedd" yn cofio" neu nid oedd yn deall" neu "glywed" oedd y cysgod roddai am ei gymysgedd gydag ateb Mr. Tobias. Golyga'r achos braidd yn dywyll yn nglyn a'r awgrym cryf roddwyd am symud y dodrefn," &c.Yr oedd arholiad O. Hughes yn un manwl iawn, ac yr oedd hyny heb hysbysu ei gyfreithiwr na'r derbynydd swyddogol am amryw bethau y gwasgwyd arno yn eu eylch. Gan nad yw yr arholiad wedi ei gau, ni ddywed- wn ddim yn mhellach. Mewn achosion fel y ddau uchod y mae lie y cyfreithwyr amddiffynol yn myned yn hynod o 'anhawdd ac anymunol yn amI. Fel y gwelir yn hanes y Cynghor Dinesig, y mae pwngc Llythyrdy y Blaenau "yn y gwynt" o hyd. Yn ol adroddwyd yno, bu yr awdur- dodau yn gwneyd cais am amryw fanau yn ddi- weddar i gael symud y Llythyrdy iddynt, a gofynent am gynorthwy y Cynghor Dinesig gyda chael lie. Nos Wener fe ddywedwyd yn eglur "mai mater o dalu rhent" yn unig oedd wrth waaidd yr awydd i symud, ac nid dim anhwylusdod perthynol i'r adeilad I presenol. Os felly y mae yr holl ardal yn unllais yn erbyn symud y Llythyrdy o'r fan y mae yn awr. Y mae yn y He mwyaf canolog yn bosibl i'r holl ardal, a phaham na wna y Llywodraeth foddloni i dalu ardreth resymol am adeilad o'r fath at ei gwasanaeth ? Mantais yr ardal yn fasnachol a chymdeithasol ddylai fod yn mlaenaf a phenaf peth mewn golwg ac nid osgoi talu ychydig o rent, a hyny gan awdurdodau Coron Prydain Fawr. Y mae y Perchenog yn barod i fyned i'r draul o wneyd yr holl gyfnewidiadau a ofynir a hyny er mwyn cyfarfod a mantais gyffredinol yr ardal, er y golyga aberth mawr o du ef i wneyd hyny. Dylai hyny foddloni pawb cysylltiol a'r Llyth- yrdy, a sicr yw y selir y peth a chymerdwyaeth y dref o gwr i gwr. Hyfrydwch mawr i ni ydoedd cael gair ddoe o Dyffryn Conwy, yn gwireddu yr hyn a ddywedasom am ofal cyfeillion Trefriw a'r holl Ddyffryn am gadw y Sabbath. Anhegwch i'r eithaf ydoedd eu cyhuddo o fod yn euog o bysgota ar hyd yr afonydd wrth y degau ar y Suliau, a dylai y gwr a enllibodd yr ardal fod yn ddigon cywir i alw ei eiriau yn ol. Wrth son am y gymydogaeth hon, gwelwn fod y cyfeillion yn Llanrwst yn mlaenaf o'r holl wlad yn eu dyngarwch gyda phorthi y plant tlodion sydd yn y dref. Dyma waith ddaw a boddhad i galon y sawl a'i gwna, ac enilla hefyd sylw ffafriol ynefoedd. Nis gallesid cael Ysgrifenydd llawnach o yni ac ymroddiad na Mr. W. Lloyd Roberts, Avondale (gynt o Swyddfa'r"Rhedegydd.") Y maeei deimladau tyner at y tlawd yn eithaf gwbyddus, a'i sel o blaid yr hyn gymer mewn llaw yn ddi-derfyn. Mae llwyddiant y symudiad yn sicr ond ei gael ef i'w gymeryd i fyny yn galonog, fel y gwna yn yr achos hwn. Y mae ganddo lu o gynorthwy wyr Hawn awydd i wneyd eu rhan yn hyn o beth. Bydd eu henwau yn perarogli yn nghof y plant wedi iddynt hwy yn bersonol, hwyrach, gael eu dodi yn eu distaw fedd. Melus cofio nad oes bedd i ddaioni.

Dyledwvr yn cofio dim.I

ACHOS OWEN HUGHES.