Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

BLAENAU FFESTINIOG. I

News
Cite
Share

BLAENAU FFESTINIOG. I Y BEL DKOED.—Ddoe, yn Bangor, o dan nawdd y North Wales Coast Leaque, bu ym- drechfa cydrhwng East and West. Y diweddaf 3. orfu-4 goal yn erbyn 3. Cynrychiolid Ffes- tiniog gyda'r East gan Mri John Jones a W. Meirion Jones. Deallwn hefyd i John Jones "anfon y maen i'r wal unwaith, ac hefyd mae trwy lafur penaf Meirion Jones y cafwyd y ddwy goal arall. I„longyfarcIi\\ a y cjdau tir eu, isiad. PLESERDAITH.—Y mae Mr a Mrs D. White Phillips wedi cychwyn am bleser-daith i Portu- gal. Hyderwn y cant bob rhwyddineb a nawdd, fel ag i ddychwelyd wedi cael adne- wyddiad corph a meddwl. ENJLL.—Llongyfarchwn Mr David Griffith Williams, 8 Tanrallt Terrace, ar ei waith yn enill £ 25 y drydydd wobr yn nghystadleuaeth Cwmni y Star Tea. YR ARDDANGOSFA.—Y mae Schedules yr Arddangosfa allan o'r wasg, ac i'w cael gan yr Ysgrifenydd, Lewis Davies, Shop "y Gloch." Gwelwn fod y troliau yn cario, a'r dynion wrthi a'u holl egni gyda gwastadhau y cae (Newborough Park) at ei wneyd yn barod i gynal yr Arddangosfa. Y mae hwn yn troi allan yn un o'r lleoedd goreu yn yr holl wlad at yr amcan ei bwriedir, ac yn nodedig gyfleus yn mhob ystyr. Llongyfarchwn y Pwyllgor ar eu dewisiad doeth o'r lie, ac yn sicr y mae y dynion sydd yn aberthu i'w baratoi yn teilyngu diolch yr holl dref. Bydd y Pare hwn yn gaffaeliad mawr i'r gymydogaeth. Gan fod trysorfa yr Arddangosfa yn isel, nis gellir prisio gwasanaeth y rhai a gynorthwyant i'w chodi i fyny. Y mae bywyd newydd yn y Pwyllgor, a phawb fel pe yn benderfynol o fvnu cael Ardd- angosfa nad anghofir hi yn fuan ar gyfrif ei llwyddiant yn mhob ystyr. MAENOFFEREN. Cynhaliwyd Gwyl de lwyddianus iawn yn Ysgoldy Capel Maenofferen nos Iau diweddaf. Cefnogwyd y mudiad gan luaws mawr, a gwnaed elw da oddiwrtho. Nis gellir canmol gormod ar y darpanadau. Y SEINDORF.—Deng mynud i wyth boreu Sadwrn y Pasg, bydd Seindorf Arian Oakeley yn cychwyn am y Deheudir. Bydd croesaw i bwy bynag ewyllysia uno yn y daith i gael gwneyd hyny am 14j6,-pris y tocynau. Cynhelir Cyngerdd nos Sadwrn yn Neuadd I Drefol, Pontypridd. Y Sabboth cynhelir Cyngerdd Cysegredig am 3 30 yn y Forth, ac am 8 ya Pentre. Bordu Llun y Pasg cystad- leuir yn Mountain Ash am 10-30, ac am dri y prydnawn cystadleuir yn Abergafeini. Dych- welir ddydd Mawrth. Pob llwydd a rhwydd- ineb fo iddynt. MARWOLAETH.—Drwg genym glywed am farwolaeth Mrs Margaret Jones, priod Mr Evan Jones (Ab Devon), yn y Deheudir. Rhoddwn ragor o fanylion yr wythnos nesaf.

HARLECH.I

I.LLANRWST.,

CYNGOR DOSBARTH GEIRIONYOD.…

Family Notices

Advertising

PRIODAS MISS EVANS, LLYS I…