Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

TAITH I'R AIFFT.

News
Cite
Share

TAITH I'R AIFFT. GAN MR. J. R. ARTHUR. CAIRO: PRIF YSGOL MAHOMETANAIDD. EIN cyfeiriad nesaf yn Cairo oedd Teml El Azhar-Univer- sity fwyaf, harddaf, a phwysicaf Mahometaniaeth. Prif Ysgol ydyw hon a chofnodion clir o'i gwaith a'i gweithrediadau o'r flwyddyn 970. Mae gwychder yr adeilad yn ddiarhebol ac ofer i mi, pe caniatai gcfod, fuasai ceisio rhoi desgrifiad o hono gan mor orwych ydyw. Perthyna iddo chwech o byrth a chynteddau. Wrth y fynedfa i bob Teml Fahometanaidd, ceir gwyliedyddion i ofalu na bydd i esgid dyn gyffwrdd a'r llawr. Un amod mynediad i mewn ydyw diosg yr esgidiau oddiam y traed a rhoi slippers anqlygus yn eu lie. Neu os myner, gellir gadael yr esgidiau a dodi par o slippers clumsey drostynt. Ni wrthwynebir gadael y benwisg yn y Temlau Mahometanaidd. Chwardd yr Arabiaid wrth weled teithiwr yn tynu ei het ac eisiau gadael ei esgidiau am ei draed. Nid ydyw gwisg y pen, vn ol eu golygiadau hwy, yn cyffwrdd ar adeilad—yn y to na'r liawr, ac felly nid yw gwisg y pen yn ei halogi—ond mae yr esgidiau, a rhaid eu diosg. Cynghorwyd ni i beidio a siarad yn uchel, nac ar boen ein bywyd i chwerthin o fewn i'r adeil- ad rhag i ni, drwy hyny, ddigwydd aflonyddu ar fyfyrdodau yr efrydwyr a chynhyrfu eu teimladau i roi derbyniad angharedig i ni. Wedi talu y dretb, ac addaw wrth y guide a'n dygodd at y Coleg gvdymffurfio a'r rheolau, y cyngborion, a'r seremoniau, cafwyd camu dros y trothwy yn nghwmni Arweinydd Swyddogol y Coleg i brif University y byd Mahometan- aidd. Wedi myned i mewn yr oedd y Teithiwr yn cael ei anrhegu a golygfeydd hynod ddyddorol. Tybir am adeilad sgwar arutbrol fawr yn cael ei gynal gan 380 o golofnau anferth—a'r colofnau hyny wedi eu llunio allan o wahanol fathau o feini, amrywiol hefyd eu ffurf a'u cynllun. Wrth ddilyn yr arweinydd swyddogol canfyddem fod y rhan helaethaf o'r adeilad hwn, wedi ei derfynu yn adranau—ac yn yr adrnau hyny y cyferfydd efrydwyr talaeth, tiriogaeth, neu wlad neillduol i astudio. Er fod yr arweinydd swyddogcl yn gwisgo badge ar ei fraich ac yn hawlio uchel- bris am ei wasanaeth yr oedd yn hollol ddifudd i ni. Amlygwyd iddo yn garedig gan un o'n cyd-deithwyr fod ei iaith yn annealladwy i ni. ac yn fuan wedi hyny cafodd hyd i fachgen cyflym oddeutu ugain oed. Yr oedd hwn yn meddu gwybodaeth dda o'r iaith Saesoneg a gwirfoddolodd i gymeryd lie yr arweinydd Swyddogol. Disgybl ydoedd mewn dosbarth Duwinyddol, gadawodd yn ewyliysgar ei wersi i ddyfod i'n cyfarwyddo. TEBYG I YSGOL SUL. YN ngyntedd allanol y Coleg Iled-orwedd- ai tyrfaoedd o ddyn- ion mewn llaeswisgoedd gwynion, fel rheol yn dyrau o dri i fyny i ddwsin a'u gorchwyl hwy oedd dysgu darllen fel cymaint a hyny o blant mewn Ysgol Sul. Prif orchwyl y myfyrwyr yno ydyw astudio y Koran- Beibl Mahomet- ond gwelir math o lechau gan rai dosbarth. iadau yn gwneyd sums. Meddylier felly am filoedd o ddynion yn nghyntedd allanol yr ad- eilad yn dysgu yn y dull hwn ac mor agos i'w, gilydd fel y mae yn anhawdd i'r teithiwr gerdded rhyngddynt, ond nid yw hyn yn ddim at yr hyn a welir mewn adran arall. Yn nesaf gwelwyd oddeutu cant o ddosbarthiadau, ar boll ddisgyblion yn swatio o amgylch ei Hathraw. Dysga y dosbarthiadau hyn amryw ganghenau o wybodaeth megis Mathematics, Hanesiaeth, Koran, Ieithoedd, &c,, ond y drefn a'r dull Amrywia disgyblion sydd yn mhob dosbarth o 15 i 40 oed neu fwy. Eis- teddant oil fel ieir o flaen neu o gylch yr Athraw, ac ail adroddant eu gwersi i'r Athraw neu gwrandawent arno yn rhoi darlith iddynt. Yr oedd y dwndwr yn yr adeilad bron yn syfrdanol, ac ni chlywai dust yr anghyfarwydd ddim ond swn miloedd o leisiau dynol fel swn dyfroedd lawer. Sylwyd ar ddosbarth yn siglo ac yn ysgwyd eu cyrph i acenadau eu geiriau, yn ymarllwys allan yn y dull hwn y gwersi a gymerwyd t mewn i'r cof. Yr oedd yr athraw yntau hefyd yn siglo ei gorph yn ol a blaen mewn cydgord a'i ddisgyblion. Gerllaw y dosbarth hwn, yr oedd un arall yn chantio yn ddiwyd ac nchel ac felly yn cymhwyso a pharatpi eu hunain i adrodd i'w Hathraw yr hyn a ddysgwyd yn flaenorol ganddynt. Sylwyd mewn adran arall ar Athraw yn anerch ei ddosbarth yn daer a gwresog gan siglo ei gorph felpe dan ddylanwad ysbrydoiiaeth a'i ddisgyblion yn hoeHo eu golygon ar ei wyneb- pryd yn gwrando a'i holl egni ac yn cydsiglo eu cyrff yn drefnus. FOB OED, CENEDL, A LLIW. YN y dosbartRiadau hyn gwelir pob oedran rhwng 12 a 80 oed. Crwydra canoedd ohonynt i'r Coleg hwn o'r pentrefi cylchynol i gasglu elfenau gwybodaeth — ac fel Epictetius gynt, yr hwn a enillai ei fara drwy dynu dwfr yn yr hwyrddydd mewn trefn i fod yn rhydd i roddi ei bresenoldeb wrth draed athronwyr ei ddydd, dysgant private pupils i siilebu ac ysgrifenu pan fydd y Coleg hwn wedi ei gau, a thrwy hyny galluogir hwy: gynal eu hunain ag anghenion corphorol tra yn dilyn y darlithoedd yn yr El Aghar. Nid oes neb yno yn ddistaw, ac y mae y gallu o glywed a sylwi ar yr hyn a ddywedir gan Athraw a disgybl yn ymddangos i'r teithiwr yn orchest, ac yn arferiad nas gall y rneddwl Prydeinig ei ddirnad a'i amgyffred. Wrth feddwl am hyn tybiwn y buasai y distawrvydd sydd mor hanfodol i ni i fyfyrio, yn anfantais fawr i fyfyrwyr Coleg El Aghar i gylyngu eu sylw ar eu gwersi. Wrth grwydro o gwmpas yn mhlith y miloedd efrydwyr gwelir segurwyr o amgylch yn chwerthin a siarad, a genethod cellweirus o gwmpas y cynteddau yn chwyddo'r dwndwr. Cyfarfyddir hefyd ac amryw o Arabiaid ac Aifftiaid yn bwyta yn gynil bryd o fara neu gnau y pipwydd (Chestnuts), ac eraill yn cysgu a'i mantelli drostynt, a llu o werthwyr dwfr yn nyddu drwy yr efrydwyr ac yn mesur yr elfen yn gynil a'i cwpanau pres. Dywedir fod dysgawdwyr mewn seryddiaeth yma yn dal i ddysgu fod yr Haul yn myned o amgylch y ddaear. Os felly, nid ydynt ond yn eu dysgu yn yr hyn y mae llu o fy nghydgenedl yn gredu, o leiaf mae ein dull o fynegu hyny yn ategu ein bod oil yn credu felly—yr Haul yn codi, yr Haul yn machludo. Sut bynnag, dengys yr olygfa geir oddimewn i'r sefydliad hwn nad ydyw yr Aifft yn llai awyddus na chenhedloedd ereill i ddysgu pob dosbarth, pob oed, yn mhlith pob cenedl a ddewisiant ddal ar y cyfleusderau. Mae yr addysg yn rhydd i bob plaid, sect a chenedl fel y dengys lliw croen y Myfyrwyr. Fel y crybwyllwyd eisoes, buasai ymgais at ddesgrifio yn fanwl y Coleg hwn a'i ryfeddodau yn golyguesbonio Mahometaniaeth, yr hyn, wrth gwrs, fuasai yn orchwyl anferth. RHIFEDI DEILIAID MAHOMET. ER mwyn cael rhyw syniad egwan am bwys- igrwydd y Coleg, nid aofuddiol fyddai ceisio rhoi trem, os gellir, ar y maes sydd yn oisgwyl wrtho am lafurwyr. Yn ol yr ystadegaeth ddi- weddaraf-yr hon a ymddanghosodd yn mhap- urau dyddiol Lloegr bhwddyn yn ol, rhifa Mahometaniaeth drijjs 267 miliwn o fodau dynol. Mae rhif mor aruthrol fawr fel nas gellir yn briodol synio am dano heb son am ei sylweddoli. Er cynorthwyo y meddwl i gael ryw syniad am dano, tybiwch eich bod yn dechreu eu rhifo. Pe y buasai aelod o grefydd y Koran yn pasio bob yn un ac un,—un bob munyd am 8 awr, Sul, Gwyl, a Gwaith, buasai rhaid i chwi fyw am 150 (152J) o flynyddoedd cyn y gallasech eu cyfrif-i gyd. Tybiwch eto eu bod wedi eu gos-od-ysgwydd wrth ysgwydd ac fod pob dyn yn 2 droedfedd o led ar gyfar- taledd—buasai aelodau crefydd y Koran felly, yn gwneyd llinell 25,284 o filldiroedd neu yn fwy na amgylchedd y ddaear o 284 o filldiroedd. A phe y dymunech we ed gwyneb pob un o honynt, buasai rhaid cerdded ddydd a nos, yn ol pedair milldir yr awr, am flwyddyn gyfan cyn y gallasech weled pryd a gwedd addolwyr y grefydd Fahometanaidd. Meddylier fel hyn eto—fod pob Mahometan yn teithio in single file drwy ddyffryn Maentwrog i Station y North Western ac am y train i Llandudno, a bod y cwmni yn cymeryd 276 ohonynt pob pum'munyd, Sul, Gwyl, a Gwaith,—buasai rhaid i'r fintai olaf aros am ddeg mlynedd yn Maentwrog cyn y cawsent fyned a gweled Llandudno. Tybiwch fod Paul yn cychwyn ar daith i fysg Mahometaniaid, ac iddo lwyddo i enill un bob munyd i gredu i'w genadwri, buasai yn ofynol iddo fyw am 500 o flynydd- oedd cyn y buasai wedi llwyddo i enill yr oil olionynt. I RHIF Y MYFYRWYR. 0 b'ith y boblog- aeth enfawr hon, yn 01 Baedaker at- rhywle 0 11,000 i 13.000 i goleg enwog El Azar, i ddysgu egwyddorion y Koran. Yr oedd syllu ar y fath adeilad aruthrol, ac edrych ar y colofnau uchelwych-rhodio drwy'r cynteddau eang-a gweled miloedd o fyfyrwyr, yn wyn, melyn, a du, yn eistedd yn dyrau ar byd a lied yr adeilad-Atbraw ar bob dosbarth, Koran yn mhob Haw bron, a murmur eu myfyrdod yn hyglyw o hirbell, nid yn unig yn ^olygfa bleserus i'r llygaid. end yn brawf ni gredwn anwadadwy o ddiwydrwydd, ac yn achlysur i lu o gwestiynau, yn nglyn a'r grefydd hon, gynyg eu hunain i'n hystyriaeth. Oni amlvgir yn yr holl ymprydio, gweddio, gorymdeithio, a'r pererindodau, y ffaith fawr y llecha o dan yr oil ysbryd crefydd ac ym- roddiad diledryw ? A oes cyfundrefp- o grefydd a ffurf ei chredo yn fwy llywodraethol, yn fwy nerthol a milwrus na'r hon sydd yn cael gan ei phroffeswyr yn gyffredinol, i wynebu yn wrol a phenderfynol beryglon a phrofedigaethau a theitbiau waith ar dir a mor, i ymladd a lladron, gwynebu yn eofn erchyllder y cholera, pläau arswydus, a phob enbydrwydd er cyrhaedd canolfan y grefydd sydd yn cyhoeddi "maeun Duw sydd ?" Tybed fod y grefydd sydd y funyd hon yn mouldio bywydau ac yn ffurfio cymeriadau, dros 267 miliwn o'r hil ddynol, ac yn cynrychioli gwahanol gen- hedloedd, llwythau ac ieithoedd yn gelwydd nen yn chwedl gyfrwys a thwyllodrus ? Cyd. nabydda pob Beirmad, mai teg ydyw dweyd ddarfod i'r proffwyd o Arabia gyflawni gwasan- aeth mawrwych i aches crefydd drwy ysgubo ymaith 360 o ddehvau a addolid gynt gan yr Arabiaid a chyhoeddi drwy wledydd y dwyrain mai Un Duw sydd" a hwnw yn unig a ddylid ei addoli. Syn gan rai glywed feallai- y credir yn gyffredinol yn mblith dysgedigion y byd heddyw, dynion sydd wedi gvvatio eu hoes i astudio crefydd y Koran, yr erys y gyfundrefn yma, yr ochr bon i'r bedd yn anesboniadwv ac mai goleuni y byd a ddaw yn unig a ddehongla brobiem y Mahometan- iaeth. Prin y rhaid dweyd mai golygiad llawer am Genbadaeth Mahomet yw ei bod yn chwedl dywyllodrus ond syniad rhai sydd fwy eu sel na'i gwybodaeth yw hynyoblegid nis gall neb heddyw wadu nl}. chelu y ffaith nad oedd gan Mahomet feddyiddrychau godidog ac arocanion goruchel. Ac fe erys y llyfr sydd vn corffori ei genhadaeth y Koran, Gair Duw, Ysgrythyrau Sanctaidd, Beibl fel yr edrycbir arno gan dros 267 miJiwn o breswylwyr y byd y .munydau hyn yn dystiolaeth arosol ei fod yn gynysgiaeth oruwchnaturiol. Os cynhyrfiadau dynol yn unig a; achJysuroqd feddylddrychau godidog y Koran, yna rhaid cydnabod eu bod mor brin, mor anghyffredin, mor eithriadol, yn banes dynolryw fel y cyfiawnheir y gosodiad fod BeibI Mahomet yn sefyll y nesaf peth at er nad yn wir waith a chynyrch ysbrydoliaeth. CEFNU AR EL AZHAR. TEIMLEM yn anfoddog wrth gael ein gorfodi gan amser i gefnu ar y sefydliad dyddorol hwn oblegyd nid oeddym yn  debygol mwyach o gael mantais gyffelyb i | bon i weled y faih adeilad a chyfundrefn add- ysgol mor eithriadol hynod. Ond clywid yr awrlais yn taro haner dydd a llais cyhoeddwyr yr awr weddi oddiar lwyfan y pinaclau uwch- ben y ddinas yn galw ar lafar ar ffyddloniaid y Koran i weddi;— Mawr ydyw Duw Tystio'r rwyf, nid oes Duiv ond Duw; Tystio'r rwyf, Mahomet yw Apostol Duw o dowch i weddi, o dowch i noddfa Nid oes Dduw ond Duw, Mawr ydyw Duw." Gwelid hwy yma ac acw yr adegau hyny yn eu cabanau a'u bwthynod yn offrymu eu gweddi- au a'r anian fasnachol drwy hyny am ychydig o funydau yn cael seibiant. Gwelir y Mahom- etaniaid yn myned drwy eu ffurfiau heb deimlo dim o'r swildod (ynte cywilydd ?) hwnw sydd yn gyffredin yn meddianati anianawd grefyddol deiliaid Cristionogaeth. Feallai fod rywbeth vn hyn sydd yn cyfrif am lwyddiant y grefydd ton oblegid ystyrir Mahometanaeth yn challenge i Gristionogaeth. Yn yr India ceir mwy o Fahometaniaid (62,458,077) dan ein llywodraeth nag y sydd yn proffesu Crist yn yr oil or Ymberodraeth Brydeinig (53,000,000: Cristionogaeth a Mahometaniaeth hefyd ydyw yr unig ddwy gyfundrefn o grefydd sydd heddyw yn anfon cenhadon allan i ymdrechu argyhoeddi y byd o bechod. A chyn pasio dedfryd ar grefydd y Koran, purion fyddai sefyll uwchben y geiriau hyny. "Dyma y rhai yr oeddym ni gynt yn eu gwatwar, ac yn ddiareb gwaradwydd." Nyni ffyliaid a fedd- yliasom fod eu buchedd hwy yn ynfydrwydd a'u diwedd yn anmharchus. Pa fodd y cyf- rifwyd hwy yn mhlith meibion Duw, ac y mae eu rhan hwy yn mhlith y Saint." (I'w barhau).

Y FASNACH LECHI.I

AT BWYLLGOR CYMDEITHAS GOR-AWL…

GWYL LLAFUR.

- - - - - - - - MARW YN Y…