Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

TRAWSFYNYDD. \ I

News
Cite
Share

TRAWSFYNYDD. I GWAELEDD.—-Drwg iawn genym ddeall am waeledd Mr. William Davies, Plas Cadben. Y mae ef yn un o wyr anwylaf y plwyf, a hyny argyfrif ei ragoriaethau fel dyn a christion. Boed iddo bob Honder meddwl ac ysbryd yn ei gystudd, ac adferiad buan i fyn'd a dod eto yn ein plith.—Hefyd, drwg genym ddeall am gyudd maith a phoenus Mr. J. D. Jarett, Werngron. Cofir yn dda am dano fel un o ddynion amlycaf yr ardal pan wasanaethai fel Gwarcheidwad a Goruchwylydd y Tlodion, yn nghyd a llanw lluaws o swyddi eraill yn ein plith. Mae ein cydymdeimlad cywiraf gydag ef a'i briod yn ei gystudd trwm. ER COF .-Gyda gofid dwys yr ydym yn cof- nodi marwolaeth ein cyfaill gwir a ffyddlon, Mr. William Jones, Bronasgellog, yn ei 76 mlwydd o'i oedran. Nis adwaenasom wr cywirach a mwy dihoced nag ef, Ac yr oedd ei synwyr cyffredin cryf, a'i argyboeddiadau dyfnion yn ei wneyd yn un o ragorolion ein gwlad. Nid oedd yn siaradus ac ymhongar ond yn ddyn tawel a diymyrgas: un o'r gwir frodorion Cymreig a'r rhai yr hoffwn gyfarfod bob amser. Yr oedd ganddo law gywrain nod- edig gyda gwneyd cawelli mawn," a phethau cyffelyb, ac yn un a gredai mewn cadw i fyny yr hen nodweddion teuluoedd Cymreig. Cafodd ef a-i briod diwyd a serchog, y pleser a'r fraint o fagu tyaid o blant ydynt yn addurn gwlad fel meibion a merched. Cawsom y fraint lawer- oedd o weithiau o dreulio ami i awr ar yr ael- wyd gyda hwy, ac wedi bod yno deimlo nad oedd y gymdeithas wedi gadael dim amgen na'r dylanwad goreu ar y meddwl a'r galon. Caf- odd gynhebrwng dyn mawr mewn ardal, ddydd Llun, pryd y gweinyddwyd wfth y ty gan y Parch. J. D. Richards, ac yn yr Eglwys a'r fynwent gin y Parch. D. Davies, Rheithor. Yn y dorf fawr yr oedd y Parch. D. Hughes (M c), y Parch J. Phillips a Mr J. Griffiths (B). Heddwch i lwch y peredn didwyll, a nodded dros yr holl deuJu-C. YSGOLDY NEWYDD.—Y mae "Ysgoldy" neu Gape! newydd i'w godi yma, a bu ein gweinidog parchus, y Parch. D. Hughes, yn traddodi pregeth yn yr hen adeilad cyn ei dynu i lawr. Llawer cyfarfod dymunol iawn a gafwyd yn yr hen ysgol, ac edrychir yn mlaeri at gael rhai cyffelyb yn y newydd yr hwn fydd yn barod at ddiwedd yr haf. YSGOL Nos.-Ar derfyn tymor yr Ysgol Nos, cafwyd swper campus nos Wener, wedi ei ddarparu gan Mrs. Jane Hughes, Penygareg Street, pryd yr eisteddodd tua deg aV hugain wrth y byrddau. CanmoHd y wledd yn fawr gan bawb a gyfranogodd o honi. Ar ol y wledd, cafwyd cyfarfod amrywiaethol difyrus nodedig o dan lywyddiaeth Mr. D. W. Davies, Church Square, a Mr. J. R. Jones, yr Ysgol- feistr yn arwain. Cafwyd canu, adrodd, &c., a phawb mewn hwyl ragorol. DAMWAIN.-Da genym ddeall fod Mr. Jones, tad ein Cyngorydd Dosbarth poblogaidd (Mr. D. Tegid Jones, Goppa), yn gwella yn dda ar ol y ddamwain a gafodd trwy gael ei daraw gan y ceffyl. SALEM.—Cynhaliodd Cymdeithas Gwyr Ieuaiogc Salem eu cyfarfod olaf o'r tymor nos Iau, o dan tywyddiaeth Mr. D. Roberts, yr hwn odd y llywydd am y flwyddyn. Cafwyd papur rhagorol ar John Bunyan" gan Mr. R. G. Jones, Cae'rdelyn, a chymerwyd rhan gan yr aelodau mewn canu, adrodd, ac areithio. Cafwyd cyfarfod campus.

- - 1-?-?-?, ---T-BETTWSYOOED.…

IFOOTBALL.I

Advertising