Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

MYNYDD SEION, LERPWL.

News
Cite
Share

MYNYDD SEION, LERPWL. Y Gymdeithas Lenyddol.—Er pan ysgrifenwyd o'r blaen, cafwyd amryw gyfarfodydd rhagorol. Y cyntaf mewn pwynt o amser, oedd anerchiad ar "Emynyddiaefch Cymru," gan y Parch David Adams, B.A., Grove Street. Beth bynnag arall ydyw Hawen—ac y mae'n rhagori mewn ilawer cyfeiriad-y mae ef yn feirniad craff, annibynnol, a diddei- bynwyneb. Profodd felly yn yr anerch iad uchod. Dangosodd ragoroldeb, a diffygion ein hemynyddiaeth, yn enwed- ig cynyrchion Pantycelyn, a gynwys- ant syniadau diwinyddol amrwd a ehyfeiliornus. Arferai Mr Edward Lloyd, Flakner Square, ddod gydag Hawen ar ei ymweliadau blynyddol a'r Gymdeithas, ond y mae'r g" rboneddig hynaws hwnnw ers misoedd bellach wedi myned oddiwrth ei waith at ei wobr. Mae gweithwyr goreu'r nef Ym marw yn eu gwaith Ond eraill ddaw'n ei lie Ar hyd yr oesau maith." Y r" arall hwnnw yn yr engraifft hon oedd mab enwog y boneddwr ymadaw- edig, sef yr Athro J. E. Lloyd, M.A., Prifysgol Bangor. Cafwyd ychydig sylwadau tra diddorol ganddo ef, ac yn eu plith ei atgol am ei ymvveliad- cyritai a'r Gymdeithas pan yn faehgenyn, i wrando ar yr Eglwys Bach yn areithio ar Ddamcaniaeth Datblygiad." Ym- wel yn achlysurodd a'r Mynydd o hyd yng nghwmni ei fam deilwng, ac nid unwaith na dwywaith y cafwyd ei was- anaeth gwerthfawr ym mhwipud yr eglwys hon. Troes y rhyddymddiddan a gafwyd ar Yr Eglwys a'i Httthrawiaeth "—- Mr T. Amos Hugbes yn agor-yn fath ar Seiat Brofiad fuddiol ac adeiladol iawn Yn y cyfarfod hwnnw ffarwel- iai Mr R. Pierce Jones a'r Gymdeithas ar ei ymadawiad i fyw ym Manchester. Colled dfiirfawr yw ei golli ef, nid yn unig yn y Gymdeithas, ond yn yr eglwys yn gyffredinol. Anodd cyfarfod a brawd mwy amryddawn, ewyllysger, a dihoced. Er maint ei brysurdeb fel swyddog uchel dan y Bvwdd Masnach, gwasanae hodd yr achoe yn dra effeith iol mewn gwahanol ffyrdd. Bu ei briod hawddgar hefyd yn hynod o ffydd- I03 a gweithkar-yn deilwng o draddod- iadau goreu ei rhieni yn Roman Road, Llundain. Bendith y not a ddilyno'r teulu rhagorcl hyn i'w cartref newydd. Cafwyd rbyJdymddiddan bywiog ryfeddol ar Yr Eglwys a Dirwest," a agorwyd yn gryf a deheig gan Mr Rowland Elias. Gresynwyd fod yr achos Dirwestol yn cael ei glwyfo'u nhy ei garedigion—fod arweinwyr crefydd yn ymrannu ac yn yrpgecru a'u gilydd, yn lie ymuno i ddifodi gelyn mawr tin gwlad. Mae'r gelyn yn ymgryflN.u..a.'r Philistiaid yn crechwen, tra mae ar- weinwyr dirwest a chrefydd yn sarhau ac yn baeddu eu gilydd. Ow Ow!

- BAGILLT.

I ,PWUHEU AR CYLCH. I

i I LLYSFAEN.

CORRIS UCHAF.

[No title]

ABERMAW.

I :NODION 0 1DDOLGELLAU.1

Advertising