Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

CYLCHDAITH DOLGELLAU AC ABERMAW.I,

News
Cite
Share

CYLCHDAITH DOLGELLAU AC ABER- MAW. I, Cynhaliwyd y cyfarfod chwarterol, prydnawd dydd Mercher, Ionawr 9fed, yn Abermaw. Yr oedd yn bresennol, y Parch E. J. Parry (Aroiygwr), Parch. D. Thomas, Dolgellau, Parch T. G. Ellis, Harlech, Mri D. Meredith, U H., a J. R. Williams, Goruchwylwyr, a ,chynrychiolaetl-i dda o rai o'r eglwysi. Dechreuwyd y cyfarfod gan yr Aroi- ygwr a'r Parch T. G. Ellis. DatganwycHIawenydd dros y cyfarfod gan yr Aroiygwr, ac eraill, o weled y Parch David Thomas yn ein plith, ac atebwyd. mewn geiriau pwrpasoi gan Mr Thomas. Darllenwyd c.ofnodion y cyfarfod di- weddaf, a chadarnhawvd hwy. Datganwyd llawenydd fod y brawd Robert Griffith wedi gwella ddigon da i fod yn y cyfarfod.. Diolchwyd i Mri Wm. Jones, Gwyn- fa, a J. Pryce Jones am eu gwasanaeth fel archwilwyr cyfrifon y Genhadaeth Dramor, a dymunwyd arnynt archwilio y cyfrifon eleni eto. Diolchwyd i'r Parch T. G. Ellis, a chyfeillion eraill, am eu hymdrech mawr gyda'r Watchmght yn Harlech, fel y trodd allan yn ilwydcliant mawr. Dyled Eglwys Dyffryn.—Pasiwyd i'r Parch T. G. Ellis ac eraill i gymeryd mewn llaw, gyda brodyr eglwys Dyffryn, i edrych beth ellir wneud, ac i roddi caniatad iddo ef a'r Arolygwr i ymweled a rhai o frodyr y Gylchdaith er cael rhoddion personol i glirio y ddyled. Cafwyd ar ddeall gan Mr J. Pryce Jones fod cyfrifon yr Ysbyty mewn safle foddhaol. Diolchwyd i Mr Jones am ei wasanaeth, a phasiwyd ef i barhau yn ei swydd am flwyddyn arall. Pasiwyd yn unfrydol i roddi £5 o War Bonus i'r tri gweinidog. Diolchwyd i'r ddau Oruchwylwyr am eu gwasanaeth, a phasiwyd hwy yn un- frydol am flwyddyn arall. Pasiwyd yn unfrydol ofyn i Mrs Williams, Penarth, a ydyw y Note of Hand" ar gael, a phwy yw yr enwau sydd arno. ■ • » Pasiwyd i bob eglwys gael gwyhod faint fydd dyled y Gylchdaith i'r Bwrdd Chwarterol, ar ol i rai eglwysi glirio y ddyled sydd arnynt. Datganwyd cydymdeimlad dwfn y cyfarfod a'r Parch D. Thomas ym mar wolaeth ei annwyl fab, Lieut. Heber Thomas, ar faes y rhyfel; hefyd a theu- luoedd y diweddar Mr John Barnett, un fu yn flaenor am ddegau o flynyddoedd yn Ebenezer, Dolgellau; John Jones, Libitary, Abermaw, un o weithwyr goreu y Gylchdaith; a Mrs Lloyd, Belle View, Harlech. Siaradwyd gan amryw yn rhagorol iawn am y rhai uchod. Wedi terfynu y cyfarfod gan yr Arol ygwr, ymneilltuwyd i gael te, yr hwn a roddwyd yn garedig gan Mr a Mrs R. Lloyd Williams, a diolchwyd yngynnes iddynt, ac i'r chwiorydd caredig ddaeth- ant i weinyddu ar y frawdoliaeth. I I I YSG.

PWLLHELI.-

I TOWYN. J

CYLCHDAITH DINBYCH.

I ASHTON-IN-MAKERFIELD.