Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
LLYTEYRAU Y MILWYK*I
LLYTEYRAU Y MILWYK* I I LLITH Y CAPLAN A. W. I DAVIES. Annwyl Gwynfryn, Hyd yn hyn ni welais fawr o'r hen Ddinas gysegredig, gwelais rhyw lain ohon-i y Sadwrn, a bum hyd rhai o'i hystrydoedd culion, a thrwy rai o'i phyrth, nad elai camel drwyddynt ,Ar un olwg, lied tlawd yw, a'r trigolion heb fod yn lan iawn eu harferion, ag yn ddiameu y mae'n ddinas ar ei phen ei hun. Nid oes swn na dwndwr llaw- weithfeydd o'i mewn, mae yna ddigon o siopau, ychydig yn drefnus, ond y llu yn. fler ac anel- wig yr olwg arnynt. <' Dinas crefydd yw, er fod digon o grafangu am bres o'i mewn, a budrelwa, ond y mae hyn hefyd ar linellau crefydd. Ni welais erioed y fath gasgliad o bobi, amrywiol ac od eu diwyg, a'r fath amrywiaeth wynebau, a'r cyfan yn edrych yn henafol, hyd yn oed y bechgyn, fel pe yn perthyh i'r oesau gynt. Awgryma popeth y lie, a'r trigol ion, eu bod fel pe yn perthyn i'r oesau gynt, at hynny awgryma yr olwg ar y trigolion, nad oes y fath beth ag unoliaeth o'i mewn. Nid cenedl welir, ond cynrychiolaeth o lu o wahanol genedloedd-rhyw museum dynol o'r gorllewin a'r dwyrain. A gwelir hefyd gynrychiolwyr gwabanol ganghennau Cristionog- aeth, yn yr offeiriaid lu sydd yma, yn Roegiaid, Russiaid, Armeniaid, Aiphtiaid, Abbysiniaid, Syriaid, a Rhufain Pabyddol; a Phrotestan- iaeth, at hynny, gwahanol gang. hennau o'r Eglwys Fohametanaidd. Mae y lie yn dryfrith o Eglwysi bach a mawr, a'r gystadleuaeth yn "llym rhwng yr Eglwys Rufeinig a Groegaidd. Mae rhai eglwysi hardd iawn, ac y Mae yma un o. demlau mwyaf godidog Mohamet Mae y He yn fyw o draddodiadau a ffurf- iau, ac ofergoeliaeth, a llu o'r Eglwysi yn fudr dywyll, fel gwyll yr hwyr yn glos i anadl dyn gan y Ilu Ilusernau losgir; ac addoliad ym mynd ymlaen bob awr o'r dydd. Y mae llawer o chantio ym rnhob gwasanaeth, yn y cywair lleddf. Roeddwn ar neges fach o linell blaen y rhyfel yng nghyfeiriad Jericho, aethum i odre y ddinas, i'vv chwr dwyreiniol, mae hen eglwys yno, a chati fod gennyf hamdden bach, troais i mewn, canys dywed traddodiad mai yno claddwyd "Mair màm yr lesu," a gwelais fan tybiedig ei bedd. Gwasanaeth Arminaidd elai ym- laen, a phe deallwn yr iaith, prin gaHwn addoli gan lu y seremoniau rhyfedd. Dinas henaint crefydd yw, a'r pwys pennaf ar yr allannol;ar aral I fyd. Mae yma luoedd lawer o fynachod a mynachesau, a'u myn- achdai; crefydd awgrymir i ddyn ymhob man, a phob man cysegredig sydd yma, a phob colofn neu adeilad bron godwyd, oherwydd crefydd codwyd y cyfan. Er hynny, teimla dyn rhyw asbri rhyfedd yn ei feddiannu. Lie bynnag y mae Gethsemane, a'r man y bu'r lesu yn yr awr gyfyng honno yn gweddio y weddi ddy- falaf"; Me bynnag y mae Calfaria a man ei fedd a'i adgyfodiad, os nad ellir nodi yn bendantfy llecyn, y mae Jaynyn cyffroi yspryd dyn yn rhyfedd mai yma y bu Efe yn dysgu dioddef a marw, a byw er ein mwy n. Gellwch feddwl mae rhyw deim- ladau go rnyfedd feddiannai dyn yn rhyfela tua Bethlehem. Daeth un ataf, swyddog gwrol, ac ni honna dduwioldeb, er yn swyddog a dynoliaeth rhagorol-" Padre!' imeddai, nid wyf yn hoffi y drych- feddwl o ymladd ym Methlehem." Buom yn, ymladd yn galed rhwng I HebrQnaBethlehem, ond gweith- iwyd allan gynllun y rhyfel, fel na fu angen rhyfela ym Methlehem. Aeth llu o ergydion ein gynnau drosti, ond heb gyffwrdd a charieg o'i rnewn, ac wedi i ni unwaith symud y gelyn, dilynasom mor gyflym ar ei wartha, fel na chafodd amser i ymladd rhwng Bethlehem a Jerusalem. Aetiiom ar ei ol, a daethom i darawiad ag ef yng ngwaelod y mur dw/reiniol o'r ddinas. Yr oedd wedi cymeryd ei safle ar Fynydd yr Olewydd, a ninnau ar gopa twr, dan gysgod y mur. Deuai yr ergydion mdn yn gawod dros ein pennau, gan daro yn erbyn hen fur Tiberias, a dis- gynilawrheb ddimniwed. 'Roedd tftn eul- gynau peiriannol yma yn erchyll. Borea drannoeth, y Llun, gyda'r gvYyil, symudasom hwy i'r bryniais a'r mynyddoedd rhwng yr Olewydd a Jericho. Bu hefyd ysgarmes tua Bethphage a Bethania. Teimlwn yn ysgarmes yr Olewydd ein bod mewn Gethse- mane fach, oherwydd uoledd a drwg calan y byd. Y bore Liar hwn o flaen yr Ol- ewydd, wrth jrYCh tr y ddinas, gwelwn enfys yn fwa euraidd, ac ymyl arian yn pontio drosti, un pen i gyfeiriad Bethlehem a'r Hall i gyfeiriad Bethel. Er gwaethaf y rhyfel hon, a'i dig a annwn, eto mae gobaith "cymod byd ynddo Ef." Am ysbald wedyn ar yr Olew- ydd, ac o gyfeiriad Bethphage a Bethania yr ymladdem, fel mae dyn yn cono taith olaf yr lesu drwy y lleoedd bach yma, a'i eiriau pan welodd Efe y ddinas: Efe a wyl- odd drosti, a phe gwybuaset tithau, ie, yn y dydd hwn, y pethau a berthynent i'th heddwch, eithr yn awr maent yn guddiedig oddiwrth dy lygaid." A golygfa fawreddog sydd ar y ddinas o ben yr Olewydd ei mur iau, a'i thyrrau, a'i heglwysi a'i thai, nid yr un adeiladau, eto rhoddant i ddyn, argraff byw o ddylanwad yr olygfa ar feddwt yr lesu, a thynged dyfodol y ddinas. Ac o'r He yr wyf yn awr gwelaf y pentref feach tawel, cysglyd, ar fryncyn bach, lie 'roedd y teulu hoff caredig Lazarus, a'i ddwy chwaer He enciliedig, a thynfa naturiol i'r lesu, o ragrith a ffurfioldeb y dydd blinai ysbryd, a thwrf y bobl. Yn y pellter gwelaf o ben y mynydd Jericho, lie 'rhoes olwg i'r dall, Bartimeus, ithaid tewi yn awr, yn y rhyfel yr ym, yn swn ergydion, ac ym- drech galed, ond o drugaredd bach yw ein colledion. Yr ym wedi ennill y Haw uwchaf ar y gelyn, ac ym meddu y safleoedd goreu, ac yn raddol ei wthio ymhella^h o'r ddinas, lie mae llaw trwm ei orthrwm a'i greulonder wedi bod yn fawr a thost iawn. Mae y bechgyn hoff yn hynod o hyderus a goddefgar yn eu cystudd, a'r cyfan yn hiraethu am wawr heddwch. Y mae y croeso gawsom wedi bod yn hynod, tynnai ddwfr o lygaid dyn: rhai mewn Seisnig sathredig, God wae you lluch- ient flodau a dail olewydd atom, rhai a dagrau yn dylifo fel defnyn- nau gwlith i lawr eu gruddiau. Dyddiau rhyfedd yw rhain, ac mae meddwl dyn mewn pair heb wybod beth i'w ddweyd, ond ymddiried yn Nuw fel rhai y dyddiau gynt. Cohon serchog, A. W. DAVIES, C.F., Att. 175 Welsh Regt. 159 Infantry Brigade, 53 Division, E.E.F.
Advertising
Llyfrau Ail Law. BARGEINION. Rhodder A ar yr amlen oddi- allan, a chyfeirier yr Archebion i— Rheolwr, "Y Gwyliedydd Newydd," Flint Mountain, Flint. Nodiadau Herber Sef Detholion o'r Nodiadau Misol byw, craff, ar wahanol bynciau i'r Dysgedydd gan y diweddar Barch Herber Evans, D.D. Addefir fod y Nodiadau hyn ymhlith y pethau goreu a ddaeth o law Herber n. erioed Y gyfrol cystal a newydd. Pris cyhoeddedig 3/6 trwy'r Post 2/- Pethau Newydd a Hen Gan Mr Delta Evans (Dewi Hir- addug), Llundain cyfrol werth- fawr iawn o draethodau, Moes- egol, Llenyddol, a Beirniadol. Cystal a newydd. Pris cyhoedd- edig 2/6; trwy'r Post 1/8. Holwyddorydd Diwinyddol Dr. Pope Cyfeithedig gan y Parch T. J. Pritchard. Cyfrol ddestlus o 494 o dudalennau, ac yn newydd hollol. Pris cyhoeddedig, 19/6 trwy'r Post, 4/6. Yr oedd Dr. Pope yn un o ddi winyddlon gall- uocaf y wlad, ac mai cyfeithiad Mr Pritchard yn feistrolgar a chlir. Cyfamod Heddwch Cyfrol wych iawn o bregethau gan hyodl a chryf Dr. Marvin R. Vincent. Pris cyhoeddedig 5/ cystal a newydd; trwy'r Post 2/4., Ma e'r gyfrol hon yn awr yn brin. Gnostfciaeth a Agnosticiaeth Cyfrol wiralluog o Bregethau gan Dr George Salmon. Mae yn y gyfrol 18 o bregethau gwir uchraddol. Cystal a newydd. Pris cyhoeddedig 5/6; trwy'r Post 3/3. Hwfa Mon Dan olygiaeth Mr W. J. Parry, Bethesda Cyfrol Goffa am yr hen wron" Eisteddfodol. Ceir ysgrifau ynddi fel y canlyn:- Hwfa fel Cymeriad Cymreig- Parch Rhys J. Huws; Fel Bardd ym Mesurau y Cyng- hanedd-Elfed Barddoniaeth Rydd Hwfa—J. T. Job; Fel Eisteddfodwr-Gwylfa. Ceir yn y gyfrol bigion o gyn- hyrchion y Prif Fardd enwog. Pris cyhoeddedig 3/6; trwy'r Post 2/3. By the River Chebaw Myfyrdodau ar Lyfr Ezeciel gan y Parch Elfed Lewis. Y mae gwelediad cyfriniol a barddonol Elfed ar ei oreu yn y gyfrol hon. Mewn cyflwr da. Pris cyhoedd- ig 3/6 trwy'r Post 2/3. Tire Ideal Ufe Bywyd, ynghyda detholiad o Bregethau neu Areithiau y di- weddar Proff. Drumond, wedi eu hysgrifennu a'u golygu gan Mr Robertson Nicoll. Mewn cyflwr da. Pris cyhoeddedig 6/- trwy'r Post 3/3. Christ in the Wilderness Tair ar ddeg o benodau yn ym- drin yn feistrolgar a diddorgl gyda Themtiad yr Arglwydd lesu yn yr Anialwdh," gan y Parch. L. H. Wiseman. Mewn cyflwr da. Trwy'r post, 1/10. Christ and the Times Cyfrol o Bregethau gan yr Arch- ddiacon Sinclair. Pris cyhoedd- edig 3/6 trwy'r Post 2/ Cys- tal a newydd.
Y GWRTHWYNEBYDD CYDWYBODOL.
Y GWRTHWYNEBYDD CYD- WYBODOL. Mr Golygydd. Darllenais atebiad y Parch Rhys Jones, i ysgrif Mr Hughes, Felin heli, ar y mater uchod, a dych mygwn mai dyn wedi gwylltio oedd Mr Jones, ac heb y oydym. deimlad lleiaf a'r bechgyn annwyl sydd yn gydwybodol waedu drosto. I'm tyb i, erys cyfroddiad Mr Hughes yn gadarna chlir pan a sothach fel hyn i ddifancoll trag- wyddol. Gresyn fod y mater hwn wedi ei ddwyn o flaen y Cyfarfodydd Chwarterol o gwbl, heb yn gyntaf ddod ag ef o flaen yr eglwysi trwy eu swyddogion. Credaf fod y Gweinidogion wnaethant hyn, wedi cymeryd gormod arnynt eu hunain trwy wnud hynny, er o dan gyfarwyddyd anffaeledig Cadeirydd Taleithiol. Amser a ddengys, pa safle a gymer yr eglwysi ar y mater, hwyrach y gallant wneud heb wasanaeth y rhai sydd yn cymeryd rhan mor flaenllaw yn y mater hwn, ac y cant fel rhai sydd wedi eu hesgus odi gan y Llywodraeth hyd yn hyn, amser i wisgo Khaki, er cyn orthwyo y bechgyn ann wyl. y maent wedi bod yn treio gweddio trostynt, ac y gallant trwy hynny gywllyddio dipyn ar yC.O's yma y maent yn ddistaw yn eu cyfiawn- hau. Er dangos pa ffordd, mae y gwynt yn chwythu, gallafddyweyd i Gyfarfod o Swyddogion Eglwys Croesoswallt boreu Sabboth di- weddaf (saith yn bresennol) basio penderfyniad unfrydol, yn condem- nio yn y modd m wyafllym. waith ein Gweinidogion yn dwyp y C.O's o flaen y Cyfarfod Chwarterol di- weddaf, ac fod y penderfyniad yn cael ei anfon i'r Arolygwr. Ofnaf had yw hyn ond dechreu, ac y gwel Mr Hughes, Felihheli, fod mwy o blaid nac yn ei erbyn. At hyn gallaf nodi fod cyn- bygydd y penderfyniad uchod yn Swyddog Milwrol, a dau o'r Swyddogion a bechgyn* I yn y fyddin,-un ^vedi syrthio yn aberth dros ryddid yr oll o honom, yn cynnwys y rhai sydd a chydwy bod rhy dyner i wneud eu dyled- swydd fel dineswyr teilwng. Croesoswallt. THOs EVANS. Mr Gol. Mewn ateb i gais G.A.D.yn y rhifyn diweddaf: 1. Rhoddaf iddo enwau'r person- au y gofyn ef am danynt ar ddau amod, (a) Ei fod ef yn cyhoeddi ei enw ei h un yn gyntaf; (b) Fy mod yn cael caniatad y personau dan sylw. 2. Nid oedd yr un o'r pedwar a bleidleisiodd yn erbyn yn digwydd bod a meibion yn y fyddin., Dylwn ddywedyd fod un wedi esbonio ar ol hynny mai mewn camgymeriad y pleidleisiodd fel y gwnaeth. Yr Eiddoch, E. TEGLA DAVIES. Me Golygydd-- Oriid. rawy gweddus fyddai i G.A D." pan yn gwaeddi mor uchel a ffyrnig am enwau pobf eraill, arwyddo ei enw priodol ei hun? A. yw hyn yn engraifft o ddewider (?) .y Gwrthwynebwyr Cydwybodol ? A phaham atolwg y mae G.A. D." mor awyddus i gael enwau y rhai o Gylchdaith Llanrhaiadr, tra yn son dim am y pedwar o Gylch- daith Oakfield Road ? ,Os bydd y brawd mor garedig a datguddio ei enw, feallai y bydd gennyf rhagor i ddweyd wrtho fo, a hynny uwch ben fy enw priodol innau. I Ydwyfyyr Eiddoch, DYFFRYK TANAT.