Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

I NO D I ADA ii. j

News
Cite
Share

I NO D I ADA ii. Archesgob Canterbury. Yr wythnos ddiwetidaf yr oedd. yr Archesgob yn dathlu terlyn c-hwarter canrif o wisgo urddau esgobol. Er ei fod yn iau o ran, oed na llawer o esgobion, eto, yn nhrefn ei gysegriad, efe ydyw y pumed 'ar y rhestr. Gellir dweud fod Dr. Davidson, wedi mynd i mewn i'r cylch esgobol pan benodwyd ef yn Ysgrifenydd Cyfrinachol i'r Archesgob Tait;, yr hwn oedd yn gyfaill i dad Dr. Davidson. Henaduriaethwr enwog oedd tad Archesgob York. Henaduriaethwr j hefyd oedd teulu Dr. Davidson. Y moo Archesgob Canterbury yn deall y safle Eglwysig yn yr Albati yn gliriach a sicr ach na llawer o'r esgobion. Yr oedd yr Archesgob Tait hefyd yn ymchwilgar gyda golwg ar drefniadau crefyddol y t-ti allan i Eglwys Loegr. Yn y blynydd- oedd cyntaf anfonai ei ysgrifenydd cyf- rinachol yn fynych i wneud ymofyniad- au ynghylch gwasanaeth Byddin yr lacha-wdwriaeth er siampl, yn gystal ag ynghylch dadblygiadau crefyddol ereiH y dymunai wybod am danynt. Y mae cydnabyddiaeth eang â dynion a. phethau tu allan i Eglwys Loegr wedi bod o'r g\vasa.naeth rnwyaf i eangu cydymdeim- lad crefyddol yr Archesgob presenol. "a s Dynion ilVlawr Duw yn Mhell. Dr. W. E. Orchard, yn Nhaberaacl Whitfield, 'lefarodd eiriau fel hyn:—Nid oes ddynion mawr heddyw. N id oes neb ohonoin yn ddigon mawT i allu gweld yn gywir y pethau sy'n cymeryd lie yn awr, ac i fynegu gair Duw am danynt. Yr ydym yn galaru am nad oes ddynion o adeiladaeth apostolaidd. Ar yr ochr at-all yr ydym yn gweld mawredd. Dyn mwyaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd Nietzsche,—ac yr oedd efe yn wa-llgof. Y dyn mwyaf yn Ewrop yn awr ydyw y Kaiser-ac ynfytyn ydyw ef. Y dyn mwyaf yn y wlad hon— gwyddoch oil pwy ydyw—dyhiryn yw yntau. Pe na chredaswn yn Nuw o gwbl, buasvvn er hyny yrt cadw 1 fyny ryw arfer o weddi. Buasai genyf ryw le dirgel a desc wâg. a buaswn yno yn ysgrifenu fy mhechodau cudd, a chadwaswn enwau,—nid saint, oblegyd I ni roisid y rheiny i mi, ond enwau dyn- ion mawr wedi methu, fel y methaswn inau. Cadwaswn lyfrau yno y buasai grym ynddynt i rwbio halen dros ddyn nes cyraedd ohono bob archoll a. gwneud i ddyn 'losgi i'r byw. Pe gwnelai dynion hyn gwelent. eu bod yn agos i ganolbwynt diben bod, y byd, yn agos i ffynonell per- sonoliaeth, a'u bod wedi eu glanhau, yn I' daw el, ac wedi eu cysegru. Y Rwsiaid yn Ffrainc. I Ynglyn a'r rhyfel yn ddiweddar nici oes dim ag y mae mwy o ymddiddan calonogol wedi bod am dano na dyfodiad y minteioedd milwyr o Rwsia. i Ffrainc. Beth yw y nifer nid yw o gymaint pwys, ac eto rhaid bod niferlled dda wedi cyr- aedd. Y mae hyn yn arwydd gweledig. nad oes ond un ffrynt bel'lach i'r oil o'r Cyd-Alluoedd, ac fod y naill Allu yn ntynd i gyfranu i'r llall o'r hyn a fedd. I ddibemon ymarferol y mae adncddau Rwsia mewn dynion yn ddihysbydd; ond am resymau gwybyddus nis gall Rwsia gynyrchu muwnisiwn yn gyfartal. Fel arall yn hollol y mae gyda. Lloegi' a Ffrainc. Y mae eu cyflenwad hwy mewn dynion yn brin. Ond, gyda threfniad priodol, y inae eu gallu i ddar- pHr moddion rlyfel, i bob pwrpas, yn ddiderfyn. Hyfryd hefyd ydyw meddwl fod y symud llwyddianus fu ar y milwyr o Rwsia yn dystiolaeth ychwa.negol i'r feistrolaeth sydd gan y Cyd-Alluoedd ar y mor, ac yn dangos y geilir symud byddin- oedd ar adegau ac i leoedd y bydd mwyaf o angen am danynt. Pe gwybyddai pobl I, yr Almaen hyn parai ddychryn if holl wlad. I Y Crynwyr ag Erlidigaeth Grefyddol. Y mae "Cyindeithas y Cyfeillion" wedi anfon llythyr at y Prif Weinidog i alw ei sylw at erlyniadau dan Ddeddf y Gwasanaeth Milwrol sydd eisoes wedi dechreu,-cyfnod eto o erlidigaeth gref- yddol wedi cychwyn, a. dynion yn cael 1! eu cospi am fod yn bur i'w ffydd. I j lanhau y wlad oddiwrth y staen, deisyfir drwy y llythyr ar i'r Llywodraeth, hyd nes y gwneir ymehwrliad,-ar unwaith beri na byddo neb yn cael ei gymeryd i fyny, ac hefyd fod y dynion sydd wedi eu cymeryd i fyny a'u dedfrydu yn c-ael eu rhyddhau. Teimlid yn hyderus na, j fynai y Prif Weinidog i'r Ddeddf fod, yn I gyfrwng erlidigaeth grefyddol. j *>J: Gipsy Smith yn y Ffrynt. j Talodd Gipsy Smith ymweliad a'r milwyr yn y ffrynt. Yr oedd riifer da wedi ymgynull. Ar ol gofyn i'r bechgyn i ganu penlll o emyn adnabyddus, clech- reuodd adrodd hanes ei fywyd ei hun a hanes troedigaeth ei dad, a'i dderbyniad o Grist yn Waredwr, ac fel y cofleidiai [ y plant ar ol dychwelyd o'r oedfa gan ddweud ei fod yn caru'r Iesu, ac nad ( oedd yfed a thyngu i fod yn eu plith byth mwyach. Wrth wrandc), r hanes hwn yr oedd y bechgyn wedi eu rhwymo megys wrth ei wefusau, a chyda. dawn digyffelyb deuai a hwy yn nes, nes at Wrai-ed wr enaid. Yr cedd y yn orehfygol a r teimlad y tu hwiifc i ddisgrifiad. Yn awr, fy mechgyn anwyl, meddai, yr wyf yn teimlo yn sicr y car- pe-ii fod yn well dynion, ond a. oes genych ddigon o wroldeb i ddweud hyny? Pawb ohonoch ddymunai fod yn well dynion, ae a. ddymunai i mi wedido drost- ynt, a. wnewch chwi sefyll i fyny? Teimlai y caplan oedd yn bresenol fod y foment hono yn un enbyd—pa fodd yr atebenfc ? Ar ol eiliad neu ddwy safodd yr oH ohonynt i fyny fel un i dystio y carent fod yn well dynion. Awr i'w chofio a, noswajth fythgofiadwy. Syml iawn oedd pregeth y Gipsy, ond yr oedd ei yspryd yn angerddol.

; POBL A PHOBL.

Advertising

L —————————I London Tlme-taBie…

Advertising

RHYBUDD CYH OEDDU8

Advertising

IAT EIN GOHEBWYK.

j GORDDU YW BRIG Y |WERODON,"

I - 11 I CYMRU-DEFFRO! I I:I