Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

- SiacedFraith.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

SiacedFraith. "DYlllA BRIODAS A BRIWSION I" EBE'R BRAIN.—Yr oedd yna briodi yn Eglwys Wlaclol Harlech ddydd Mercher yr wythnos ddiweddaf, sef Lifft. Miller, R.N., mab Syr John Miller, Hyde Park, Llundain, a merch Mr. a Mrs. More, Crown Lodge, Harlech. Tynnodd swn y sidan a'r ysblander lawer o bobl i syllu ar y ddefod yn 'r eglwys neu ynteu, o ddiffyg lle'r fan honno, i lygadu a chlustfeinio oddiar hewl a rhiniog tuagat yr harddwch gwisg a phlethiad Ffrancaidd oedd am y wraig ifanc a'i llosgwrn o forynion a dyma'r brain yn hcdeg yno'n un haid fawr o'r Castell, i grawcian eu dymuniadau da i'r ddeuddyn, ac i ddweyd os gadewai'r ddau dipyn o friwsion y wiedd ar ea holau i'r adar duon, y cyfrifid hynny'n gyfiawndor iddynt. G W YLIWCH D YNHAITR CORT Yi\T.-Y mae'r pwnc Gwahardd ynteu Prynu'r Fasnach Fcddwol ?" yn ysgar caredigion Dirwest, ac yn oeri hen gyfeillgarwch mewn rhai mannau. Y mae rhywbeth hudol iawn yn rhesymau'r prynwyr, ac v mae calon a phen dyn yn barod i fynd yn bur bell er mwyn cael rhoi\ feg ar y Fasnach Felltigaid sy'n gymaint c'wilydd inni fel gwlad ac Eglwys. Ond ofn y Prynu yma sydd ar ddyn, er cymaint o ysgrifau da o'i blaid a welir draw ac yma, canys nia Lloyd (J-eorge dirwestol ei fryd fydd wrth ben pob g Nein- ydaiaeth; a pha sicrwydd sydd gennym pan ddaw Gweinyddiaeth arall i awdurdod, nad mwy gwir nag erioed fydd geiriau Cowper yn The Task :— Vain the attempt To advertise in verse a public pest, That like the filth with which the peasant feeds His hungry acres; stinks, and is of use. The Excise is fattened with the rich result Of all this riot. And ten thousand casks, For ever dribbling out their base contents, Touched by the Midas finger of the State, Bleed gold for ministers to sport away, Drink and be mad then 'Tis your country bids. Gloriously drunk, obey the important call; Her cause demands the assistance of your throats. Ye all can swallow, and she asks no more. Go dda, 'r hen Gowper ysbrydol ei flas 'Does dim fel golud am dynhau'r cortyn am wddf y wlad. YR OEDD YN BR YD I HENRY OWEN GAEL EI DRO.—Yn dda iawn gennyf fod ei garedigion a'i edmygwyr wedi cael ar eu calon godi tysteb i Mr. Henry Owen, 12 Edward Street, Caernarfon-gwr yr wyi yn ei adnabod yn dda, y treuliais ami i noson yng Nghymdeithasau Llenyddol y dre i'w wrando, i ddadleu weithiau o'i blaid, weithiau'n ei erbyn, ac yntau'n cymryd atoch—ac ati !-yn llawn mwy pan fyddech yn ei erbyn na phan fyddech o'i blaid. Ag yntau'n ddall, y mae'n rhyfedd mor helaeth ei wybodaeth ac eang ei ddiwylliant; ac am sirioldeb, wel, 'd oes neb ond y Parch. J. Puleston Jones all chwerthin yn amiach ac yn uwch, a hynny'n hir, fel y bydd ambell afon yn gwynnu'n fil o donnau man wrth neidio dros ei cherrig. Y mae Henry Owen yn wleidydd da; yn llenor cyfarwydd; ac yn ddiwinydd mwy na llawer un sy'n byw ar bregethu. Clywais lawer o son am ddosbarth darllen Daniel Owen, ond ni chefais y fraint o fod ynddo ond bum yn yr un dosbarth a Henry Owen, a gallai'r eglwys werthu'i chloc, a chael priédaamdano o ran dim oedd o'i eisiau yn y dosbarth lie byddai Henry Owen, John Griffith" y dwr," Robt. Roberts a Thremlyn. Nid dosbarth y Rhageuw ai pwy ydi'r efe yn yr adnod hon ?" a rhyw hongian babiaidd gyda phob rhyw bitw a shiboleth oedd y dosbarth hwnnw, ond lie am fwvd crv a chylla digon cryfion i'w dreulio a'i droi'n fer ysbrydol. Ni wn i ar y ddaear prun ai Cydbleidydd ai beth ydyw Henry Owen heddyw, ond gwn mai Radical i'r cam fyddai, ac yn cael bias a chig ar Economeg lie na chlywn i a'm bath gymaint ag arogl, dim ond esgyrn moelion. Dannedd digon cryf i dorri at y mer oedd gan Henry Owen,—dyna'r gwahaniaeth, mae'n debyg. Gwelais ami olygfa hardd a hudol yn Lerpwl a Llundain a'r Canaries a Llydaw: do, ond y peth harddaf a welais erioed oedd gweld patriarchiaid Caernarfon, yn feibion ac yn ferched, yn hercian a'u pwys ar eu ffyn, a'r Beibl yn eu ceseiliau, tua'r moddion a'r Ysgol Sul, haf a gaeaf fel ei gilydd ac ymysg y rheiny, gwelid Henry Owen ddall; a'r ymwelwyr o Loegr yn sefyll i edrych amo to a'r lleill, ac yn holi ple'r oeddynt yn mynd. Mynd, wi c ebr y finnau, mynd y mae o i aadw'r hyn yr ydych chwi'n ei dorri'n dipiau gyda'ch sgawtio a'ch gwybeta gwamal a dibarch i deiinladau'r bobl y deuthoch i yfed mwyn- derau," gwlad dan sathru eu teimladau. Ydyw, y mae gyrfa Henry Owen yn un wen ar ei' hyd yn ddiddan yn ei ddellni; yn siarad ag aeon tre Caernarfon; yn cerdded a hone Caernarfon; wedi gwasanaethu'r dre, yn ei phopeth da a dyrchafol; ac yn gwir haeddu pob tysteb a gwrogaeth a rudder iddo. Fechgyn y dre a'r ardal, yr ydych ar daen led y byd, ac y mae llawer o ofyn ar eich caredigrwydd ond gwn y byddwch yn falch o glywed fod tro Henry Owen wedi dyfod o'r diwedd, ac y bwriwch eich rhodd a'ch bendith i god yr apel isod:— Tysteb i Alr. Henry Owen, 12 Edward Street, Caernarfon. SY-K,-Daeth i feddwl cyfoillion ac edmygwyr Mr. Henry Owen y priodoldeb 9 wneud tysteb iddo, fel amlygiad o'u g\yerthfawrogiad o'i lafur, ynghyd a'r rhan flaenllaw a gymerodd mewn gwa- hanol symudiadau Gwladol a Chrefyddol yn ei dref enedigol, tros ysbaid llawer o flynyddoedd. Er iddo gael ei amddifadu o'i olwg, bu'n ymdrechgar i ennill gwy- bodaeth eang, yr hyn a'i galluogodd i fod yn wr o gyngor a barn addfed ar wahanol faterion. I'r amcan o hy. rwyddo'r mudiad ffurfiwyd Pwyllgor, a derbyniwyd eisioes symiau sylweddol. Erfyniwn am eich haelfrydedd pellach, er sicrhau Tysteb deilwng. S. MAURICE JONES, Dolwar, Cadeirydd. T. G. OWEN, Trysorydd. G. O. GRIFFITH, Tanybryn, Ysg. Dyma rai tanysgrmadau sydd wedi eu cael :—Mri. Bryan, yr Aifft, Y,5 Mi. R. Gwyneddon Davies, Graianfryn, £ 5; Mr. Wm. Williams, Rhos Fair, £ 3 /3 • Mi. Griffith Jones, Cefn Hendre, 92 10 y Parch., David Hoskins, M.A., £ 2/2' y Parch. David O'Brien Owen, £ 2 /2 • Mr. E. W. Davies, A.S., £ 2 /2 Mr. J. M. Owen, Bronala, £ 2 /2 Mr. D. T. Lake, Y.H., £2/2/ yr Henadur J. R. Pritchard, Y.H., 1:2; Mr. Wm. Jones, Fern Villa, Llanwnda, t2; Mr. O. J. Elias, Pool St., t-2; Misses Davies, Ty Fry, £ 2 Mrs. Norman Davies, Quellyn, £1; Mr. S. Maurice Jones, Dolwar, ii /I Capt. Evan Jones, Wellington Terr., Mr. H. W. Roberts, Wasperton House, £ 1/1 /—; Mr. O. Jones, Trefiys, ;El /I/ Mr. W. Williams Jones, Bangor St., ti /I Mr. Rd. Williams, Bron Ceris, Mr. A. J. Williams, Plas Menai, Mr. Rhys Williams, Tan y Garreg, ;t I /I Mr. J. R. Hughes, Y.H., Gwynfa, £1 II j-; Mr. James Francis,- Erddig, £1 1 Mr. Henry Owen, 33 Bridge St., £ 1/1/ Mr. T. G. Owen, Pentir, Mr. G. O..Griffith, Tan y Bryn, Mrs. D. W. Davies, 21 /Misses Davies,7 /6; Moss Bank, £ l 18/6 Capt. W. Lewis, Goleufryn, £1; Mr. W. G Thomas, Y.H., ii; Dr. G. R. Griffith, £1; y Parch. David Jones, Bron y Maen, 10 /6; Mr. R. J. George, Bridge St., 10/6; y Parch. J. Puleston Jones, M.A., 10/6; Mrs. Pierce, Glan Dwr, 10/ Anfoner i'r neb fynnoch o'r tri sydd a'u henwau wrth vr apel. GOREU GRIGIEDYN: UN COLWYN BA Y.-Pwyllgor Chware Cricet Colwyn Bay wedi casglu cymaint a naw cant o bunnau er mis Awst diweddaf at wahanol achosion da a dyngar, a'u rhodd ddiweddaf oedd estvn pum punt ar hugain at anrhegion Nadolig i filwyr clwytedig. Dyna griciedyn go hawdd gwrando arno A hynny am ei fod yn lluchio tipyn ar y llwch aur. GRACE DULAIS ETO.—Merch y di- weddar Ddr. Gethin Davies, prifathro Coleg y Bedyddwyr ym Mangor, yw'r Miss Grace Dulais Davies, M.A., y dywedem hanes ei gorchest yn ein rhifyn diweddaf, sef yn ennill y wobr ganpunt oddiar bigion y Deyrn- as Gyfunol am draethawd ar Lon NoJelaidd Lloegr yn y 18fed Ganrif. Bendith arnat, Grace, yn'mynd a'r wobr dan synnu pob Gwyddeles a Saesnes a Sgoten a gystadlai a thi. Pe buaset yn nes yma, fe gurswn dy gefn fel y byddai'r diweddar Brifathro Thomas Charles Edwards, yn curo cefn pregethwr fyddai wedi pregethu wrth ei fodd o'i flaen, mewn oedfa ddwbl, lie buasai gwyr llai eu gras a'u dawn yn gwryddu o gynddaredd-yn fewnol felly. Ond dyna hi !-digon hawdd i Thomas Charles Ed- wards deimlo felly a churo cefn, ac yntau'n gwybod ei fod o'n mynd i godi ar ol ei frawd a chwythu pob sillaf o bregeth ei flaenorydd o ben a chalon y dyrfa. Onid yw'n anodd cael dim byd hollol ddigymysg yn y byd drwg a da yma MOB, MOR, I MI.Dyna ebe pob afon a red i'w chartref yn yr eigion yn ol can ddiail Roger Edwards a mor, mor, i mi ebe Alun, ail fab y Proff. Arnold, dysgwr Lladin ym Mhrifysgol Baugor, canys y mae newydd gwblhau cwrs dwy flynedd o longwra ar fwrdd y Conway ar y Menai; gan tynd drwy'i waith a'i arholiadau fel cyllell drwy ymenyn, a rhoi pob argoel y bydd o yn ilongwr a chapten gwerth mynd i'r mor i'w ganlyn a than ei ofal. Gwych gweld ambell lane dawnus fel hwn mor ddifalch, ac yn beiddio baw a phopeth er mwyn caledu ei hun gogyfer a'r byd, ennill ei damaid, ac nid pwyso'n foethus a babiaidd fel iorwg ar goeden ei dad a'i deiilu. Iechyd iti, Alun Gad imi weld dy gyrn, gael imi eu dangos hwy a'u harddwch i'r dwylo dandiaidd yma sydd yn feddalach na dim ond eu hymennydd. LLANDUDNO DDOE A HEDDYW.- Yr oedd hi'n ddiwrnod lladd mochyn" yn Ysgol John Bright ddydd Mercher di- weddaf, sef (1) i wobrwyo'r rhai aeth oreu drwy borth yr arholi, iawn ymddwyn -ac yn y blaen (2) i glywed hanes gwaith y flwyddyn gan y Prifathro O. Madoc Jones; ac yn (3) i glywed Dr. Dalton, a ddaeth i'r dre yn y fl. 1865, yn cyferbynnu pethau fel y maent heddyw rhagor fel yr oeddynt y pryd hwnnw. Dim ond un ysgol oedd yn y lle'r pryd hwnnw—yr Ysgol Eglwysig yn Church Walks, a honno'n fawr o gwt i gyd, a thair mil oedd nifer holl drigolion y dre.—Y mae yna amryw'n fyw'n y dre ac allan ohoni allai fynd ymhellach yn ol lawer na'r Dr., i'r adeg pan nad oedd dim ond cruglwyth a fwthynod wrth odre'r Gogarth a Thrwyn y Fuwch, a'r preswylwyr yn byw ar bysgota a hel cregin ac wyau adar y mor ac yn y blaen. Ond y mae wyau'r adar haf ddaw o Loegr yn fwy ac yn haws eu hel na'r rheini. Ae feu holir I Dyna'r gwahan- iaeth mwyaf sydd rhwng Llandudno Ddoe a Llandudno Heddyw.

Ochi am dri hen I gyfaill…

Basgødiidlir Wlad.

AR GIF. I

Advertising