Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
[No title]
0 SIR FON.—Wale ferw gwylit yr ethol- iad wedi myned, ac ambell un yn oeri, a dyiod ato'i hun, fel y mab atradion gynt. Sibrydir mai caled yr ymgyrch rhwng y ddau Farchog ac os yr eiff yr hen gvnrych- iolydd i mewn, mai porth CYlyng fydd hi arno, a fawr o le i orfoleddu. Caed ami i gyfarfod cynhyrfus, a dyna sylw cyrhaedd- gar a ddywedodd y Doctor John Williams o r Bryn yn Llangefni Yr wyf wedi ¡ annerch dau nea dl i o gyfarfodydd yn y I sir yn barod, rhai yn lied gynhyrfus. Diolch am gael dod yn ol i wareiddiad." Derbyn- iodd y Parch. T. Arthur Jones, B.A. (M.C.), Gwalcbmai, alwad daer oddiwrth eglwvsi Llangriptiolus i ddyfod yno i'w bugeilio ac y mae yntau wedi cydsynio. Ar ol cystudd hir, ba farw Mrs. Jane Hughes, ¡ Farmers St., Llannerch y Medd, yn ddwya deugain mlwydd oed, gan adael priod a f naw 0 blant, a'r ieaengaf ond tri mis ar ddeg oed. IVod Mr. John Evanb, Tyddyn Bach, Amlwch, ym marw'n wraig ieuanc vinweddol iawn; a phythefnos cynt yr oedd hi yn a-wyl ei brawd ym mynwent Llan- I faes--m »ngre hunell John Elias, Demosthenes Cymru. Dyna ergyd drom i henaint oedd uaarw priod y patriarch Thos. Roberts, Penterfyn, Cae'rmeirch, Bodedern-ar ol eerdded y daith mor ddygn a phell gyda'i gilydd a hi'n ei adael ar ymylon Canan- yn hen wr unig pedwar ugain ac wyth Tristyd mawr ddaeth i ran y Pte. y. E. Pritchard, Cefn Rhos, Llanfair P.G.—yn eyrraedd adre o Ffrainc, ac yn mynd i Bentrefoelas i gyrohu'i briod a'i faban bach; y bychan del yn cael ei gymryd ymaith gan y chwiw, a'i fam yn ei ddilyn mor ddisymwth. Gwr y mae s6n am ei "Wrhydri yn ardal Bryndu ydyw Mr. Tom Row- lands gynt o'r Ty Coch,yn ennill y ddwy M," ac yn cael y fah ddihangfa, ,Xn un o saii h yn y warchffos, chwech yn cael eu lladd, a dim ond Tom yn cael ei gadw'n fyw. Aeth ar unwaith i hysbysu'r &wyddog o'r perygl yr oedd y gatrawd i gyd ynddo, gan ei hysbysu nad oedd ond un llwybr o ym- wared o'u blaen, ac anturiodd o'i wirfodd i gerdded y llwybr hwnnw, gyda bomb yn ei law gan ei hyrddio i ganol y gelyn. Di- ddorwyd Cymdeithas Lenyddol Ebenezer (M.C.), Caergybi, gan y Parch. R. P. Wil- iams, Tabernacl (A.), ag anerchiad nodedig o gryf ac addysgiadol ar Wersi Bywyd Oliver Cromwell a'r Piwritaniaid i'r oes hon. Ac ym Methel (B.), yr un dref, bu Mr. W. O. Jones, Bangor, yn darlithio ar Llwfrdra a Gwroniaeth. Dyna enw annwyl oedd yn destyh anerchiad yng Nghymdeithas Lenyddol y Cefn Bach, gan Mr. W. R. Jones, Llanfair, oedd Richard Owen y Diwygiwr. Wedi i lawer Syr farw, bydd y syml Richard Owen fyw. Yng Nghaergybi codwyd llong o'i- enw'Ben Lee a suddodd.yn y porthladd tua dwy flynedd yn ol; a bellach gwelir tli'n nofio eilwaith. Ond llawer hawddach codi llong na chodi dyn syrthiedig, a cheir Ilawer mwy o help i'w chodi hi nag i godi'r t-uan fo ar lawr.—Llygad Agored.
Advertising
mmmr womah 8 WTLD Mod 2 -tamp' for ow js page lUcMrated Boot C joct?mm? ve?abie infmnatibn how all i.fresmMiit? ..d SU¡)F 5nrl) not/ be rntiroly avadsd or tttnoro-: > I)t MmpJc Recoromonded hyeabseat PknicsAi Kit ili- '-nlr '-e'e Sure And (ireamnt BT<«3y. te ? of jjs, Mp PAUL BL^NwHA^ID Hoatte, BcI« tD l «uc, i.GNiiCfif
I Clep y Clawdd
I Clep y Clawdd Gan YR HITTYN. Armistis Gartrefol.—Pdiyfedd mor dawel y Clawdd wedi'r etholiad. Wythnos gyfan wedi mynd, ac nid oes neb bron yn sôn gair am yr etholiad. Mae pawb yn llwyr gredu mai v Pen Hv/smon bach aiff a hi, yn fuddug- oliaethtuhwnt. 'D oes dim ond synnu y y ffordd hon fod rhai wedi cymryd ochr mor chwithig i'w daliadau cyntefig arkrol. Hwyrach y dont i'w hiawn bwyJl eto. Dirwestwyr yn cael cwymp oddiwrth ras. Teimla'r dirwestwyr yn ddig iawn fod rhai o'u nifer-a'r rhai hynny wedi bod mor fiaen- llaw gyda dirwest yn y gorffonnol- -%vedi troi eu cofjiau fel petae, gan sefyll yn syth ar Iwyfannau i bleidio ochr hen dafarnwyr a diotwyr. Felly y dywed y Glep amdanynt. Syrthio oddiwrth ras' dirwestol yw peth fel hyn. Dywedir fod y rhai yma wedi colli en dylanwad am byth yn y cylch ar lwy- fannau dirwest. Gresyn o beth hefyd, a hwythau wedi bod trwy y blynyddoedd ymhlith y blaenorion, ac wedi cyflawni gwaith canmoladwy mewn llys a chynghrair. Ciws y gethern.-Peth cyffredin y dyddiau hyn—wedi cael heddwch, ac fel y mae y Nadolig yn agoshau-yw gweld ciws hirion o wehilion cymdeithas tuallan i siop wirod a thafarndai yn disgwyl am dros awr ac ychwaneg am agor drysau. Dyma rai o bethau bwrnaf Gwrecsam. Gwelir hefyd filwyr wrth yr ugeiniau ynghyd a genethod ieuanc, yn heidio tua drysau cefn tai'r fall i gael diod. Beth ddaw o beth fel hyn ? Rhaid ymgodi eto yn unfryd i osod y drwg hwn i lawr-yn awr yw'r adeg. Chwifiwn luman Dirwest, a chodwn ein lief. Nadolig i Dduw, ac nid i ddiafol. Oni ddylid cael odfeuon crefyddol priodol ym mhob ty addoliad ar y dydd hwn, i ddiolch i'r Arglwydd am ein harbed, a gofyn am Ei arweiniad yn y dyfodol, sy mor llawn o anhawsterau a pheryglon ? Na fydded i ni fel Ymneilltuwyr fod yn ol yn hyn. Rhaid adfeddiannu'r gwyliau cysegredig hyn onide ant yn wyliau croch i ddiafol. Ni fu erioed fwy o angen adfeddiannu'r Nadolig nag yn awr. Mor dda'u gweld, druain !—Gwelir milwyr a morwyr wrth y caririoedd ar ein heolydd Wedi dyehwoiyd yn oi o eafn ufiern. Mae gan bob un ei stori ramantus, a chalonrwygol, yn neilltuol y rhai a fu n garcharorion yn yr Almaen. Rhai wedi cael triniaeth arw, ac oni bai am garedigrwydd rhyw un neu gilydd ni fuasent wedi dychwelyd i ddweyd yr hanes. Da'u gweld yn edrych cystal, er garwed yr heldrin. Nadolig llawen i.ddynt. Here y Deurioii.-Mor brudd gweld cy- maint o gloffion ac anafus ar yr heolydd mewn caci, Cynorthwyir rhai gan ( U ffrindiau i droedio'r ffordd, cludir eraill mewn cerbydau i'r pwrpas, a chynhyddu y mae eu nifer o ddydd i ddydd fel y mae y bechgyn yn dychwelyd. Bydd gweled y rhai hyn yn dwyn nodau'r rhyfel yn eu cyrff yn ddolur calon am genhedlaeth gyfan. Ar Bren garw'r Groes.-Dywed y Glep fod yna filwr tua chymydogaeth Brymbo wedi cael ei groeshoelio draed a dwylaw yn Ffrainc gan yr Ellmyn, • Mae wedi dych- welyd yn fyw trwy drugaredd, ond analluog fydd, meddir, i wneud fawr o ddim. Dyma waradwydd ar genedl, ymostwng i groeshoelio milwr, ond dyma anrhydedd hefyd ar filwr o Gymru, sef iddo gael ei osod ar bren garw'r groes, fel ei Geidwad gynt. Dyna ichwi ?fo/tod /—Dywedir fod pedwar o filwyr wedi eu cuddio gan wreigan garedig yn Ffrainc am bedair blynedd, a'u bwydo, er fod swyddogion Ellmynig yn mynychu'r ty bob dydd bron. Haeddai'r wraig hon y Groes Filwrol yn siwr. Dywed y G'ep mai gwr o gymdogaeth Gaergwrle oedd un j ohonynt, a phan ddychwelodd wedi pedair blynedd, ar ol cael ei roi i fyny, a chyrraedd gartref, cafodd fod ei wraig wedi ail briodi a gwr arall ers dwy flynedd. Ni ehlywai0 sut y gwneir yn W'. A'i ginio yn f' qesail.—Gwelir pawb yr wythnos hon yng Ngwrecsam a gwydd neu dwrci tan ei gesail. Ambell un yn edrych yn ysmala iawn. Mor fuan y mae pobl wedi dyfod ar delerau da a thwrci." N; fyddant yn hir cyn cofleidio'r Ellmyn. Cewch weld mor gyfnewidiol yw dyn.
I Ein Genedl ym lanosinlon.
I Ein Genedl ym lanosinlon. Cenhadon y Sul nesaf. I Y METHODISTIAID CALFINAIDD Moss SIDE-10.30 a 6.30, J H Lloyd Wliliams PENDLETON—10J50 R E Jones, Oidliam, TI R Williams HEYWOOD ST.—10.30 R Williams, 6 E Rogers VICTORIA PAHK—10.30 E Rogers, 6 R E Jones FAKNWORTH—2.30 J B Williams STOCKPORT—10.30 a 6, T T Jone,; WARHINFTTOJF—10.30 a 6, J H Morri?, Lerpwl ASHTON-UNDER-LYNK—H Rees Jones, Manceinion YR ANNIBYNWYR I OHORLTON RD.—10.30 a 6.15 Caplan Waldo Roberts I BOOTH ST.-10.30 a 6.15, J M Williams LD. DPNCA\ ST.—10.30 a 6.16 1 QUEEX'S RD.—2.30. HOLLINWOOD—2.30 a 6.1), J T Davies Y WESLEAlD I DEWl SANT—10-30 J E Williams, 6 J S Williams HOREB—10.30, J T Ellis. 6 J D Owen SEION—10.30 J Fel." 6 J E Williams BEULAH—2.30 J S Williams, 6.30 J T Ellis CALFARIA—10.30 W G Jones, 6 John Felix WEASTE—10.30 f).30 W G Jones Y BEDYDDWYR. I ?P.MEDLOCEST.-?O.Ma6.30, 1 LOXGSIC'HT- UNDEBOL I ECCLES—vv Felix, Uundam • I "MEWN ANGHOF NI CHANT FOD," I ebe'n Prifardd am y dewrion a syrthiodd dros eu gwlad. Daw'r cof amdanynt yn reddfol inni rywsat wrth nesu at wyl y Nadolig. Er mynd o'r dyddiau, erys yr hiraeth eithr er cryfed yr hiraeth, mwy yw ein gobaith, fel yr. ydyrn yn arfer hyfder mawr, nes sylweddoli mai nid yn ffosydd Ffrainc y mae ein brodyr CJ, ond ar Fryn- iau Gwynion Tir y Bywyd. I gofio am- danynt, ac i ddiolch am yr Heddwch ddaeth inni dnvyd-dnnt, y daeth Cymry'r ddinas ynghyd i Hardman St. nos Ferchor ddi- weddaf. Llvwyddv yd gm y Pa ch. J. Felix. Darllenwyd rhannau o Air Duw gan y Parch. Ellis Williams, ac arweiniwyd mewn gweddi gan y Parch. J. Morris. Yna dar- llenwyd—a'r gynulleidfa ar ei thraed- enwau'r bechgyn a brofodd yr Aberth Eithaf. Altrincham, Thos. Donegal, Howell I Williams. Booth St., R. F. Griffiths, Harold Parry, Aneurin Roberts, J. R. Roberts, George Williams, Robert Williams, Evan H. Williams. Chorlton Rd., T. G. Davies, Arthur Evans, R. Powell, G. A. Roberts. Church Lane, Owen Taylor. Gore Street, Ernest E. Jones, Isaac M. Jones, W. Tudno Jones, J. O. Roberts. HaTdman St., D. Lewis. Heywood St., J. D. Williams, J. Griffith. Ld. Duncan St., H. Frimstone, W. E. Pickering. Longsight, A. Dowding, Hughie Roberts. Manley Park, Anearin M. Evans, D. Thomas. Medlock St., R. L. Jones. Moss Side, Harold Hughes, J. E. Haghes, O. C. Jones, R. W. Jones, Ll. Lewis, T. Yale Lloyd, T. J. Owen, Hugh Parry, Alun Pritchard, Dd. Rees, Elwyn Roberts, Hugh Williams (Llandudno), Hugh Williams (Manceinion). Openshaw, John Evans, W. A. Griffiths. Pendleton, H. R. Davies, Emrys Edwards, Hywel Williams. Queen s Rd., Rd. Ambrose, Thos. Roberts, Victoria Park, R. J. Jones, W. H. Williams. Wedi darllen yr enwau, canwyd y Dead March, ac ofirymwyd gweddi gan y Parch. J. H. Lloyd Williams, B.A. Cafwyd anerch- iad grymus iawn gan y Parch. Robert Williams—anerchiad an cododd i dir uchel nes gweled aberth y bechgyn yng ngoleu'r Efengyl, gan ein galw i wasanaethu ein hoes yn deilwng o'u haberth drad. Mr. Williams wedi bod allan yn Ffrainc, ac yn gwybod trwy brofiad y byd yr oedd ein bechgyn ynddo. Offrymwyd y weddi der- fynol gan y Parch. M. Llewelyn. Canwyd yr emynnau a ganlyn yn y eyfariod:- 0 Arglwydd Dduw Rhagluniaeth, Iesu, lesu, rwyt ti n ddigon, Gwél uwchlaw cymylau amser, Mor ddedwydd yw y rhai trwy ffydd, Iesu, Cyfaill f'enaid cu, 0 fryniau Caer- salem ceir giveled. Y canu dan aiweiniad Mr. R. M. Williams, a Miss D. E. Jones wrth yr organ. Cyfarfod a naws a chysur yr Efengyl ynddo ojr dechreu i'r diwedd, ac yn gwneud un yn ddiolchgar fod yna Efengyl. Ac oni ddylem ddiolch fod y flwyddyn yn marw yn swn carolau'r Nadolig ac nid fel y bu'r blynyddoedd diweddaf-yn SWLl rhuadau r megnyl ?—EINON.
fFfetan y GoleI
f Ffetan y GoleI I Teimiad ac Awgrym. SYB,—Yr wvf yn aelod distadi o Gym- deithas Genedlaethol Cymry Manceinion, ac yn ol fy nhocyn aelodaeth, mae gan y Gymdeithas 21 o swyddogion, yn cyhnwys aelodau y Cyngor. Fel rheol fe elwir aelod- au y Gymdeithas, iel y cvfrvw, ynghyd an- waith yn y flwyddyn i ethol swyddogion. Hefyd, fel rheol, fe elwir y Cyngor ynghyd unwaith yn y flwyddyn i enwi rhyw hanner dwsin o ddarlithwyr, ac, fel rheol, dyna'r gwaith ar ben. Onid yw nifer y swyddog- ion yn eithriadol luosog o'u cymharu a'r gwaith a wneir ? Ac oni fyddai'r enw Cym- deithas Lenyddol Gymraeg yn fwy priodol na Chymdeithas Genedlaethol ? LIywydd ac ysgrifennydd yn ddigon o swyddogaeth ? Sonnir mewn cylchoedd am yr angen mawr am Y.M.C.A. Gymreig ym Manchester. Oni allai'r Gymdeithas-yn enwedig y Cyngor -wneud rhywbeth ynglyn a'r mlidiad hwn ? Dichon fod gennvm lawer i'w ddysgi i odaiwrth Gymdeithasau Genedlaethol cenhedloedd eraill yn y ddinas, yn-enwedig y Caledonian Society,-Cymdeithas yr Ysgotiaid. DISTADL.
Trem 111-At ein Bpodyr. I
Trem 111-At ein Bpodyr. I ANNWYL Frodyr, pie bynnag yr ydych, gallwn, yn ddiamheuol, ar ran Gol. Y Brython, i berchenogion, ei weithwyr, a'i ddarllen- wyr oil, yn gystal ag ar ein rhan ein hun, ddymuno i chwi o galon,— NADOLIG LLAWEN
Helvnt v Cyfloith. I
Helvnt v Cyfloith. I NID hwn oedd y tro cyntaf. Na, yr oedd gennym ein dau achos da i gofio y tro cyntaf Yr oedd gormod o gyfeiriadau wedi eu gwneud gan gymdogion at y taffi a losgodd" i ni ei anghofio'n hawdd. A 11 o gl'n golsyn a wnaeth o hefyd Ail gynnyg oedd hwn, a beth bynnag a ddigwyddai nid oedd y cyf- laith i losgi y tro yma. Gwell fyddai hanner ei wneud na hynny. Noson bwysig felly oedd hon yn hanes fy nghyfaillWil a minnau. Noson oedd hi pryd yr oeddym i ysgubo dirmyg i ffwrdd, a ehyda hynny wneud enw i ni ein hunain. Yr oedd taffi y noson hon i fod yn gyfryw y cyfeiria1 plant yr ardal ato yn y dyfodol fel rhywbeth y clywsant s6n amdano. gan eu tad a'u mam-taffi Wil Ty Nant Gyda chadernid yn ei gam a her yn ei lygad, gafaelodd Wil yn y sospan, a thy- walltodd y siwgr iddi, y 'menyn, a'r triagl. Aros funud," meddwn, yr wyt ti wedi anghofio un peth yn barod." Anghofio meddai Wil, a syndod yn ei lais, anghofio be, dwad ? Fel yna yr oedd o gynnon ni o'r blaen." Taw," meddwn innau, paid a son am y tro hwnnw. Os na roi di dipyn o ddwr yn hwn fe losgith hwn hefyd." Cymerodd yr awgrym a thywalltodd gryn chwarter peint o ddwr i'r sospan. Cawsom hamdden i ofidio am ein gor-sel wrth ddyfrio'r taffi Ar y tan a'r sospan, a dyma ddechreu troi a throi a throi. Rhanasom y gwaith rhyngom. Pan oedd Wil wedi troi'n ddygn am chwarter awr suddodd i'w gadair ac amneidiodd arnaf i gario'r gwaith ymlaell. Neidiais innau i'r adwy, a thra'r oedd Wil yn dadebru teimlwn fy hun am y chwarter awr nesaf yn "gwneud history." Yr oedd yno danllwyth o dan braf, a'r fflarn- au'n dawnsio i fyny ac i lawr. A noson i dan oedd hi. Noson o Ragfyr. Gwynt- rhew-wynt oer-yn chwrlio oddiallan nes peri i ddyn wynfydu mai yng nghegin fawr TyNant yr oedd- ac nid ar y comin, yn destun gwawd i'r gwynt. Yn awr ac eilwaith chwib- anai hwnnw'n uchel ac yn fain fel pe bai'n aros ei gyfle i gael gafael arnom. Ac ni synnem ni ddim pe gwelem ei ddannedd gwynion yn 'sgyrnygu arnom drwy'r ffenestr. Yr oedd rhyw ias oer yn ein cerdded wrth i ni feddwl amdane Ond at y taffi :-Yr oedd fy stem i ar ben, a chyfododd Wil o'i gadair a thros" glwyddais y llv/y bren iddo. Wedi'r maith lafurio, llawenydd oedd ymneilltuo a chael yr hyfrydweh a'r hwyl o weled Wil yn bus- tachu ac yn troi, a chlywed ambell ochenaid yn dianc oddiwrtho. Yr oedd y sospan wedi bod ar y tan am dri chwarter awr pan gymer- ais yr awenau yn fy llaw eilwaith—ac nid oedd dim arwydd fod y taffi yn agos i barod. Yr oedd yn berwi, bid siwr, ers meityn ond yr oedd mor deneu a'r dwr a roisom ynddo. Cytunasom y gallai fod yn barod i'w dywallt o fewn dwvawr-hwvrach a. chalon dram daliasom ati bob yn ail. Mynych, mynych, y rhoddwyd prawf arno, ac er ei fod yn burion ei fias, 'chaledai o ddim. Yr oedd Wil yn dweyd yn groew y buasai'n well ganddo gorddi unrhyw ddydd na gwneud taffi Beth bynnag am hynny, 'doedd dim i'w wneud ond dyfalbarhau bellach onid oedd enw da Wil a minnau yn y cwestiwn? Ymhen yr awr ar ol hyn (myfi oedd wrth y llyw ar y pryd) cefais y mawr lawenydd o gyhoeddi fod y taffi'n dechreu t'wchu- yr oedd ei droi yn mynd beth yn anhawddach Parodd hyn i Wil—ac yntau rhwng cwsg ac effro yn lluddedig gan ei fawr lafur, a'i fraich ddeheu bron torri-parodd hyn iddo fywiogi drwyddo. Gioewodd ei lygaid, neidiodd ar ei draed, a gwelodd fod y pethau oedd yn y sospan mewn gwirionedd o'r diwedd yn ymdebygu i daffi "Mi gorff- enna i o," meddai Wil. Croeso iti,' medd- wn innau, "mi 'steddai' yn y fan yma am ryw awr tra y byddi di wrthi hi. Da chdi, rho bwniad i mi pan fyddi di'n barod." Bwriodd olwg arnat cystal a dweyd fy J mod i wedi methu am unwaith. Ac o drugaredd cyn pen h;r iawn dyma gyrraedd glan. "'Rwan arndani," meddai fy s nghyfaill, y taffi goreu a welaist ti erioed." J A chyda'r gair tywalltodd ef i'r ddysgl fawr f oedd gennym yn barod. Ac yn wir yr oedd ei liw a'i arogl yn tueddu i wirio geiriau Wil. Yr oedd buddugoliaeth yn yr awyr—tine concwest yn ein llais Gonchafiaeth o'r diwedd-taffi heb ei losgi Chvvibanai y gwynt oddiallan a char- lama i y ceffylau gwynion—erbyn hyn yr oedd yr eira yn dechreu dod i lawr. Gwran- dawem ar y miwsig a dyferaiein genauwrth feddwl am y taffi. Llai o ddwr y tro nesaf," meddwn i. "Llai o'r hanner," meddai Wil, ond gad iddo 'losgodd o ddim A.P.J. I
Advertising
ence Envelopes. AT Y CASGLIAD EGLWYSIG. Wedi eu rbifo yn barod. Gan fod yn amlwg y bydd cryn brinder o'r uchod eleni, byddwn ddiolchgar i'r rhai yr arferwn eu cyflenwi am eu harchebion ar unwaith er mwyn inni drefnu mewn pryd. HUGH EVANS & SONS, Swyddfa'r "Brython," 356, 358 Stanley Rd., L'pool. A GOOD AND SERVICEABLE XMA'S PRESENT, The Fox Fountain Pen, 14ct, gold, PRICE BY Posir 5 Hugh Evans & Sons, 356-58 Stanley Road. Mr. j. HAL I ON MORRIS, The Popular Welsh Tenor, JSTATIONAL PRIZE WINNER Liver-pool Manchester & North Wales Concerts., also ADJUDICATOR. ADDRESS- 3 Wavertree Nook Rd., Liverpool. At Bwyilgorau Cyngherddau Cymru. Dynm gyfeiriad newydd D. R. JONES (gynt o Wteimi), BARITONE, 488 Cleveland St., Birkenhead. Derbynnir cyhoeddiadau Canu mewn Cyngherddar: ac Oratoiio. Fe gan ei hun, neu'n un o BartL (Pedwar) Cyngherdd Liawn. ar delarau rhesym- ol. û. W. BtGHES, ). & L.T.S.C {AtwtinM 9 Cm* 9R0 Mftoptt M.G. Prtmte Ahe;J)r Arweinydd Cymaokoedd Canu Beirniad, ac Arbolwr. Parotoir Ymgeiawyr at Dyatysgrifuu uwekitt Coleg y Solffia, Hen Nodiant a S'olffm. 70 KINGS!.EY ROAD IERPWL W. R. HUGHES (Organist Chatham St. C.M. Chapel), is open to receive pupils, PIANOFORTE AND ORGAN- THEORY and HARMONY. Address-25 Bedford Rd., Waltort KINGSTON-JONES 'fGold Medallist, Professor of Elocution ENTERTAINER-ADJUDIOATOR, Whole Evening given by Self (21 hours), Welsh or English. Write for Testimonials, Press Opinions and Specimen Programme. PUPILS TAUS TERMS MODIKATB, 27 Clifton Rd. E., Tuebrook, Lpooll, For Baths, Lavatories, Closets, Bras? FFittings, Lead Pipes, etc., apply to— JAMES CHEW & CO., Ltd., Plumbers' Merchants and Brass Founders. Tel. No. 58 & 60 PAPAADISIM STREET Sank 3402 LIVERPOOL. Manufacturers of Copper Cylinders, Boilers, Gas, Washing Boilers. Hiraeth Cymru am HEDD WYN Post Card Lliwiedig oddiar ddar- lun gan Mr. J. KELT EDWARDS. Pris 2g., trwy'r Post 2Jc. IVcael yn Swyddfa'r Brython." ooooooo poooooooooooooo OO GOOOOOO o O U t. rvyR si&nwcodD LU C" o 0. ????.?-.R ?. s?'M ???s m?""? t? ?? Ö GUINEA i-'1 ( o COLD § O WWEDDING// f f BALL'S A V\^BEST g LVCKY U\EUCTKO- § g Rio S \A1EDDIN" PlAi'E:[) 9 g WEDDING LUCKY'. ELECTRO" g g Ef?u e c;lVUI TO EACM 0 o SÄI. DIN" S ? rrs I 00 (rD (D/- OF A R-INC 0 0 0 u:s lun ENGAEN[NT RINGS I 0 0 AT fR?E§ ToS?ST M^ g 0 BALL" S LUCKY WEDDllfC tUNC DEpOy. 0 0 FINan 11%£ CAUl PoST rue:. 33, LOMDOW ROAD. LIVERPOOL. Q uo????ooooooooooooooooooooo?ooooo?K?j Jf!i!?)UJ MM <MUm?.LL.M ====)?tS"- EISTEDDFOD MOSIC &CT)UnoMEcA? ? Li??pool E!?! EUUfUU MU?tb Yn awr yn barod-Y Gan Wladgarol (The Prize Patriotic Song) of Birkenhead National Eisteddfod 1917, HOFF WLAL) VR UrOVRN ARIAN (Land of the Silver Trumpets) Geiriau Cymraeg (buddugol) gan y Parch. J. Lewis (Illtyd). English words by Rev. H. Elvet Lewis, M.A. Mu-ic by D-Afan Thomas. Price 2/1 post free. Suitable for Mezzo Soprano. Contralto, or Baritone. Selected for Special Baritone Competition, Prize £ 2/2/. at Corwen National Eistedd-Fod 1919. j PIAN08, ORGANS. HARM ONIUMS, &C, on easy terms. Best discount allawed for cash. TUNING and REPAIRING a speciality. Every Song (English or Welsh) may be_had here. List free on application. Postsgq Id. per copy. D. R. JONES (Alaw Madog), Specialities in Ladies' and Gentlemen's Neckwear, Motor Wraps, Rugs, Dressing Gowns, Umbrellas. D H. GRANT,    JrLF% i.Y. '?T?.?riLl? WOLFE-F HOSIER, GLOVER, SHIRT MAKER, &c., 6 Lime St., Quadrant, & 8 Manchester St;, ,I LTVIPIP POOL. 0 ø 0 0 0 a For Bedsteads and Bedding, w. WHITTLE SON & STOTT9 LTD., 156, 118 0 IO WHITECHAPEL, .LIVERPOOL. II 0*0 Telephone ^213 7 &#yai
Advertising
i,'r Gwaredwr. Ceir gweil cymorth i ffydd ac addoli yng nghyffes Tomos Fy Arglvydd a'm Duw." Ac fe ddyry Gwyl y Nadolig gyfie newydd inni ymgasglu 'nghyd ar ei aelwyd fawr-aelwyd a oleuir gan wynebau angylion. hawddgar, ac a lonnir a'u. Can. Na, nid Duw newydd a ddatguddiwyd yn yr Ymgnawdoliad. Mawr fu'r s6n am ddiwinyddiaeth newydd dro'n ol. Ond nid diwinyddiaeth newydd oedd gan yr angylion, eithr "newyddion" diwinyddiaeth—" y New_\ ddion Da, o lawenydd toawr, yr hwn a fydd i'r holi bobl." Yr hynaf yw'r newyddaf, Mae trugaredd Duw"o dragwyddoldeb i dragwydd- oldeb," ac mae hi hefyd lei y wawr-" bob bore o'r newydd." Mae'r Hwn sydd "cyn pob peth," yn ddechreu a diwedd i bob peth, yn "Hen-ddihenydd." Nid Duw newydd, nid gwirionedd newydd, ond datguddiad newydd a gafwyd yn yr Ym- gnawdoliad. Nid gwneuthur Duw'n drugar- og a wnaeth y Geni mwy na'r Croeshoeliad, eithr datguddio'r hyn ydoedd erioed. Teim- lir wrth ddarllen yr Hen Destament fod y eariad Dwyfol fel ymchwydd cefnfor, ac yn ceisio agorfeydd i ymarllwys yn fywyd a bendith i gyflwr trmenus dynoliaeth. A dyma un don fawr yn cael ei ffordd Gan weled y gwelais gystudd fy mhobl sydd yn yr Aifft, a'u gwaedd oblegid eu meistriaid gwaith a glywais canys mi a wn oddi wrth ea dolu'iau. A mi a ddisgynnais i'w gwaredu hwynt. Dyma'r Galon Ddwyfol yn cyffroi mewn eydymdeimlad a dynion. "A mi a ddis- gynnais i'w gwaredu hwynt." Onid oes yma rywbeth tebyg i osgo'r Duw Tragwyddol at yr Ymgnawdoliad ? Ac felly, o bryd i bryd, trwy'r oesoedd, trwy dadau a "phroffwydi," bu Duw'n datguddio i'r byd Ei feddwl a'i ras. Ond cyfyngedig oedd y cyfryngau dynol i gyd. Yn y Mab y cafwyd digon o ehangder i ho 11 gyflawnder y Duwdod breswylio'n gorfforol." Nid ton yma a thon acw, eithr cyflawnder y cefnfor i gyd. Wrth weld y Ilanw hwn yn dod i fewn y canodd angylion y Newyddion Da. Meddylied y byd a feddylio, cynllunied a gynllunio, dyfeisied a ddyfeisio, a gwnaed a wnelo, mae ei dynged yn rhwym wrth y modd y derbyn neu y gwrthyd Gan Nadolig y Crist. Mynegodd yr angylion yr unig amod posibl i dangnefedd g\nd0w_Lu,1 u pharhaol rhwng Duw a dynion, rhwng dyn- ion a Duw, a rhwng dynion a'i gilydd. Pan gyferfydd y Cyngor Heddweh, 0 na chlyw- ai'r rhai oil a eisteddo arno'r angylion yn eanu iddynt hwythau GOGONIANT YK Y GORCJCHAF I DLLTJW, AR Y DDARAR TANGNEFEDD, I DDYNION EWYLLYS DA