Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Advertising
< IjfPHItof 1 Tn dew OLD pOST PLACI C O. CURO smfllm) LARGEST SF!.£CTION" LOWEST PRICES TELEPHONE 3075 ROYAL
Advertising
For HOME-MADE BREAD, Economical CAKES, PUDDINGS and PIES, the Best BAKING POWDER In the World 18 LBORWICK'Sj
YSIAFELLYBEIRDD.
YSIAFELLYBEIRDD. Y cyahyrchion gogyfer a'r golofn hon i'w cyfeirio—PEDROG. 217 Prescot rd., Liverpool. IAITH GOMER. laith garpiog iawn' a mydryddiaeth wallus dros ben,—drwg gennyf orfod dywedyd. CYNGHRAIR H-EDDWCH.-Pa reswm sydd mewn cynnyg inni gan o 158 o linellau —heblaw ei bod yn gyffredin iawn ? Da chwi, cynhygiwch eto, ac yn fyrrach. Yr wyf o'm calon yn dymuno i holl ddar. llenwyr y Golofn hon-Nadolig Llawen 1 GYMERADWY.—Ymholiad y Doethionp Diolfih am Heddwch, Gwawrddydd Heddwch, Claddu'r Cleddyf, The Roamer, Blodwen F'Anwylyd. Y NADOLIG. 1 TVRED, Nadolig tirion,-deffro fyd a pher fawl angylion Caed Hedd i'r Wyl annwyl hon Godi o'r Armagedon PEDROG. BORE NADOLIG. ENGLYNA mewn congl unig-ger y nant Garwn i'n arbennig; Caed hwyl nefol, freiniol frig, Y dalent ddydd Nadolig. Anadlu can genhedlig,—mwynhau llwydd Mewn lie cysegredig; Byw yn ddoeth heb neb yn ddig 0 deulu'r Wyl Nadolig. Hau hadau iach puredig-yn y gys, Mewn gardd ddiwylliedig, Tocio'r gerdd yn y werdd wig a dwylaw glan Nadolig. Yna aros am un orig-ymysg Gwyr mawr goleuedig; Cyd-dynnu heb ddadlu'n ddig, Yn deilwng o'r Nadolig. Byw.yn addas wr boneddig—heb wall, Ger bwrdd arlwyedig, Heb ofni ceisbwl dwl, dig. Na dyled y Nadolig.jQâ11i Nodweddu fel Cristion diddig-neu was lesu bendigedig, Fel na b'o cur, dolur dig, Yn dilyn Gwyl Nadolig. Y diweddar PENBRYN FARDD CLYCHAU NADOLIG. I- I BWCLE, 1917. I MAE tada'n dod adre'r Nadolig At Laura ag Emyr a Men Ae 0 1 am y croesaw caredig, Yr anwes a'r gusan dros ben; Ding, dong, gana clych eglwys Bwcle, Ding, dong, etyb clych Penarlag; Ond cyn olywa'i glych Dyffryn Nantlle, Bydd amal i gadair yn wag. BKYSTE, 1918. I MAE tada'n dod adre'r Nadolig, At Robert ag Emyr a Men Ond O mae fy Laura garedig ? Mae'i hanwes a'm cusan dros ben ? Ding, dong, ganaclych eglwys Bryste, Ding, dong, etyb clych Penarlag, Ond wyla hen glych Dyffryn Nantlle Pand cadair fy Laura sy'n wag. HEN ALBYM. I Ni'm dawr am wawl-arlun o'm Laura, Ferch dydd, ar barwydydd ei bro 'Roedd hon uwch eul foddion celfyddwyr, Gan natur y'i cedwir mewn co'; Mae'i delw yn albym ei Deulyn, Mae'i gwen ar afalien yr allt; A'r awel droes erddi yr ewyn fiii§ v Lliw'r blodyn—ne' gwyn yn ei gwallt. Nantlle. G. W. FRANCIS Y LLWYBR TROS Y LLI. I HENo'r mor sy'n dawel lonydd, Gwynlli'r lloer sy'n llathru'r don Cryn ei llwybr arian disglair Ar y genlli' ger fy mron. Yma'n syllu ar ei degwch Daw i'm meddwl ar y lan Gariad Un rodiannai'r tonnau At galonnau ofnus gwan. Pe bai nghamre'n ddigon ysgafn Imi rodio'r llwybr llaith, Hwyrach tiriwn wlad y pethau Gollais lawer blwyddyn faith. Mae'r teganau garwn gymaint ? Mae'r breuddwydion na ddont mwy ? Dim ond hiraeth heddyw erys, Ni fedd amser falm i'm clwy'. Oedaf yma hyd y bore, Mwy ni raid im' wylo'n ffol Am y pethau gollaf beunydd— Ni ddwg dagrau hwy yn ol, Tros y dyfroedd sy'n gwahanu Llwybr goleu sydd gerllaw,— Caf bob peth o werth a gollais Wedi glanio'r ochr draw. T. MORRIS OWEN. £ LM, Factory, Pembre, Caerfyrddin, [ BABAN. I DEL ei wedd ar aelwyd Ittn,-a difyr Ei dafod yw baban Iddo'i ddedwydd fam ddiddan A lunia gu lawen gan. Prestatyn. COLLEN. Y CHWYLDROADWR. Down Tools," onid dyna tad—a safon Y Bolshevik anfad ? Un â'i lais yn boen i'w wlad, g|g=« A naws her sy'n ei siarad.  GGS EILIR ALED. Y BLUEN EIRA. GWEN ernes hugan oerni,—hoew ei dull, A'i dawns drwv wybrenni; Hyd goed car yf gafn oedi,— Ar y lawnt, mor wyl yw hi. Derch aelod o'r ucheledd,—un ysgafn, Wisgi, glaer ei sylwedd Fel aderyn gwyn, teg wedd, Daw ar fin dor fy annedd. W. PRYS OWEN. I BETHLEHEM, CWMGARW. AELWYD i'r saint breswylio,—Cysegr aur, Ac lesu Grist ynddo; Yr enaid fwydir yno, Hawlia fraint uwch niwl ei fro. Blaengarw. DYFNAN. PAN DDAW'R BECHGYN ADREF. I PAN ddaw'r bechgyn adref, O! 'r gorohian fydd Meibion goreu fagwyd wedi dod yn rhydd. Cenir ar y bryniau, dawnsir ar y dd6l, Cedwir gwyl trwy'r Deyrnas pan ddaw'r meib yn ol. Pan ddaw'r bechgyn adref yn eu hoi o'r gad, Fe esmwythir calon liawer main a thad. Dagrau afon gofid drydd yn ffrwd o hedd Pan y trydd y milwr adref heb ei gledd. Gwraig y milwr welir, gyda'i thyaid plant, Yn cyweirio'i thelyn a rhoi yn dyn bob tant; Gwenant ar ei gilydd, soniant am eu tad; D'wedant wrth y baban pwy sy'n dod o'r gad. S'ii aA nt i'w gwrdd i'r orsaf, oriau cyn ei ddod Parotont eu hunain i roi iddo glod. Pan y daw i'r golwg, O !'r fath londer fydd! Gwraig a phlant yn rhedeg i'w gusanu'n rhydd. Plentyn ar bob ysgwydd, arall ar ei fraich, Yntau 'ngwres ei gariad ddim yn teimlo'r baich Pan ddaw'r bechgyn adref yn eu hoi o'r gad, Ni bydd prin y croesaw iddynt drwyy wlad. Liscard. ELIAS PIERCE. CARIAD. I FFYDD, Gobaith, Cariad; y tri hyn, Yw grasau'r saint ar Seion fryn, Ond pennaf gras y Duwdod yw,— Ei gariaa Ef at ddynol ryw. Cariad yw hanfod Daw ei hun, A lit odd allan at y dyn; Cans felly carodd Duw y byd, A gostiodd iddo Ef mor ddrud. Cariad ddatguddiwyd ar y pren, Lie trengodd pur Dywysog nen Fe'n prynodd ni a'i werthfawr waed, A'i aberth roes i ni iachad. Ffynhonnell bywyd byth i ni Fydd cariad Crist ar Galfari; Rhyfeddod pennaf Nef y nef Yw edrych ar ei gariad Ef. Cariad lanwo ein calonnau At yr Hwn a'n carodd ninnau, Nes ein dwyn i garu'n gilydd, Ac i'w garu E'n dragywydd. Liverpool. JOHN J. BEBB. Dyna wreigan wedn ydyw Mrs. Davies, 10° Ruabon Road, Gwrecsam, Y mae hi'n bedair ar ddeg a phedwar ugain oed; ac eto i gyd gwrthododd gymryd ei chludo i fotio mewn modur, a mynnodd gerdded bob cam i gwt y bleidlais. Gwrthododd ddweyd wrth ei chyfeillion agosaf i bwy y fotiodd ond gwyr pob un ei bod yn addoli Lloyd George tuhwnt i ne-b ond ei Cheidwad. Collodd Penmaenmawr un o'i tbrigolion mwyaf hysbys a pharchus ym marw sydyn Mr. P. H. Mc Clement, a drengodd heb braidd funud o boen nos Lun cyn y ddiweddaf. Prynhawn y diwrnod hwnnw cawsai game o biliard a chyfaill iddo.
Advertising
Prynir Dodrefn Outright for Cash, Distance no object. GREETHAM & SON (Est. 1848). Probate Court • Valuers 9 Marlowe Road, 18 Rydal Bank, Liscard, and 27 Newington, Liverpool. Ttl, 046 Royal.
Cynghrair y Cenhedloedd i…
Cynghrair y Cenhedloedd i all (j'lyinu'r Byd. [Gan y Parch. W. F. PHILLIPS, B.Litt.] III. 1 HEDDWOH oyffredinol wedi ei sefydlu ar gydweithrediad ewyllysgar rhwng cenhedi- oedd gwar,—dyna amcan mawr y Cynghrair yr ydys yn son amdano. Rhoi terfvn ar ryfel. Dwyn elfennau gwylltion y natur ddynol o dan reolaeth rheswm. Gorseddu cariad yn lie casineb,—arfer ymdairiedaeth yn lie drwgdybiaeth,—dilyn cydweithred- iad yn lie cystadleuaeth. Ni ddaeth i feddwl dyn erioed ddim godidocach na'r deltrycl hwn. Brwd yw'r ddadl mewn llawer tre a phentref heddyw ynghylch y moddion goreu i goffa gwrhydri'r dewrion a fu farw wrth y miloedd dros ryddid. Gor- weddant, gatrodau lawer ohonynt, mewn beddau di-enw yn y gwledydd estron hynny lie y collasant eu gwaed. Trannoeth y fuddugoliaeth, wele ni'n ymladd brwydrau etholiad, ac yn dinoethi y naill i'r llall rai o jjodwedaion salaf y natur ddynol. Ond huno'n dawel y maent hwy heno, heb na chur na braw i aflonyddu ar eu cwsg. Diau y cedwir eu coffadwriaeth yn iraidd o genhedlaeth i genhedlaeth. A ganodd Hedd Wyn am un ohonynt, gwir hynny amdanvnt oil Ei aberth »id â, heibio,—ei wyneb Annwyl nid a'n ango, Er i'r Almaen ystaenio Ei dwm dur yn ei waed o. Ond nid trwy naddu 'ohonom eu henwaa clodwiw mewn llythrennau breision ar golofnau o farmor y talwn ein dyled iddynt. Teml heddwch cyffredinol sylfaenedig ar eu haberth,—dyna'r unig gofgolofn deilwng ohonynt. Ond, yn dra sicr, nid ar chware bach y sylwedciolir y d6lfryd. Fe'i gwrthwynebir gan y dosbarthiadau hynny ymhob gwlad sydd wedi arfer edrych ar fywyd o safle militariaeth. Golyga heddwch cyffredinol derfyn ar alwedigaeth miliynau o'n cyd- ddynion. G wyr pob dyn meddylgar fod rhyfel, yn ei baratoadau ac yn ei weithred- iadau, yn cynnyg i rai elw y tu hwnt i ddychymyg y mwyaf ariangar. Nid heb raid y gollyngant eu gofal ar eu bywoliaeth. Heblaw y rhain, cred eraill na ellir diddymu byddinoedd heb beryglu diogelwch eu gwledydd. Dyna ddadl Ffrainc y funud hon. At hyn oil, dylid chwanegu datganiad rhai o arweinwvr Prydain Fawr, sef yw hwnnw fod tynged militariaeth yn y wlad hon yn dibynnu ar yr hyn a wna cenhedloedd y Cyfandir a'u byddinoedd hwy. Rhydd yr ystyriaethau hyn le i ni gredu mai'n araf, ysywaeth, y eymer y byd ei gymell i gofleidio heddwch. A ninnau'n caniatau'r cwbl a ddywedwyd, dadleuwn yn gryf, serch hynny, y bydd Cynghrair y Cenhedloedd yn offeryn, yn nwylo arweinwyr o ewyllys da, (a) i wneuthur rhyfel yn anos nag, y bu ac, hefyd (b) i bartoi'r gwledydd oil i- droi cefn, yn raddol ond yn sicr, ar ryfel ac ar bopeth ynglyn a rhyfel. Goddefer inni bwysleisio, unwaith yn rhagor,—gosod terfvn llwvr ar rvfel, nid dim llai na hynny, sy'n deilwng o war- eiddiad. Ac hyd nes y ceir hyn, ofer y fuddugoliaeth a sicrhawyd eisoes ar elynion rhydaid. Wyneber y ffeithiau. Ymunodd rhyw ddeg ar hugain o genhedloedd—mawr a man, pell ac agos—a'i gilydd i wrthsefyll ymgais Prwsia i reoli'r byd. Ni fedd hanes ffaith ryfeddach na phwysicach. Daethant ynghyd o bedwar cwr y byd i ymladd brwydrau gwaedlyd yn erbyn gormes. Ai tybed na cheir y rhain yn awr yn barod i ymuno a'i gilydd, ac i gytuno ar ddau bwynt, sef (a) na bydd rhyfel byth mwy rhwngiounrhyw ddau, neu ragor, ohonynt hwy; ao hefvd (b) na chaiff unrhyw wlad arall fyned i ryfel heb wybod i sicrwydd ymlaen llaw y cosbir hi'n hallt am ei ffolineb? Ni fu rhyfel cydrhwng yr Unol Daleithiau a'r wlad hon ers dros gan mlynedd ? Pa- ham ? Am dderbyn ohonynt egwyddor cyflafareddiad yn y materion hynny a allsai fod yn achosion- cynnen. Pe bai'r cenhedloedd fu'n ymladd yn erbyn y P-werau Canol yn cytuno ar hyn, byddai hynny, heb ddim arall, yn ddigon i ddofi'r teimladau poethion, gwylltion sy'n esgor ar ryfeloedd. Dyma fy mhwynt i yn syml Fe gafwyd eisoes Gynghrair Cenhedloedd i ryfela yn erbyn gelynion rhyddid; ai nid dyletswydd y rhain ydyw ymffurfio'n gynghrair i sicrhau heddwch y byd ? Oni wneir hynny, mentraf ddywedyd y myn caredigion heddwch ymhob gwlad gael wybod i bwy y bydd yn rhaid priodoli'r methiant. Pe bai'r cenhedloedd hyn yn un o blaid heddwch, byddai'n beryglus i'r eithaf i unrhyw genedl arall weithredu'n groes iddynt. Gellir meddwl, mae'n wir, am Germani'n gwrthod ymuno a'r Cynghrair, ao yn partoi i ddial ar ei gwrthwynebwyr. Byddai'n rhaid iddi wynebu dau allu cryf a phwysig, sef holl fyddinoedd Cenhedloedd y Cyng- hrair, ac hefyd yr hyn a eilw'r Sais yn Economic Boycott. Yn fy marn i, byddai'r ail yn ddigon ynddo'i hun i sicrhau methiant yr ymgais. Ond cred eraill y bydd gofyn cael byddin i weithredu yn enw'r Cynghrair i orfodi cenhedloedd rhyfelgar i ymostwng i'w lywodraeth. Perthyn i'r syniad hwn un gwendid pwysig. Cymer yn ganiataol y bydd yn rhaid i fyddinoedd barhau. Ni all y sawl a gar heddwch feddwl am hynny heb wrido. Ai er mwyn hyn y bu farw ein brodyr yn y rhyfel ofnadwy aeth heibio ? Mwy—os ar fyddinoedd y dibynnir yn y dyfodol pan gyfyd cenedl i ymosod ar arall, pa sicrwydd sydd y diddymir deddf gorfod milwrol, dyweder, yn y wlad hon ? Dim o gwbl. I'r gwrthwyneb, gellir mentro dweyd y bydd deddf gorfod yn rhan anheb- gor o fywyd y cenhedloedd fu'n ymladd mor ddhveddar-ac hefyd, sy'n ymladd yn awr—yn erbyn militariaeth Prwsia t A oes modd inni ddianc o'r perygl ? Oes yn ddiau. Gellir dianc trwy orfodi Germanf a'r cenhedloedd fo'n ymladd o'i hochr hi, i ddiarfogi.# I| sierhau hyn ni raid colli dafn;_o waedvjymhellach, na, dwyn galar i fynwesjo gwbl. Rhodded Prydain, Ffrainc, yr Unol Daleithiau ac Itali ar ddeall i Ger- mani yn glir a diamwys na bydd iddi le o gwbl yn nheulu'r cenhedloedd heb iddi' n gyntaf:-ddiarfogi. Os gwell ganddi aros I allan yn wyneb hyn o rybudd, yna rh odder ar ddeall iddi, ymhellach, na chaiff fwynhau cyfleusterau a breintiau cenedl rydd hyd nes y gwei ddoethineb. Byddai'n aiip-ichon- adwy i Germani lwyddo'n iasnachol pe ceuid porthladdoedd yr Ymherodraeth Brydeinig yn ei herbyn. Y mae yn ein dwylo'n awr offeryn all, o'i iawn arfer, orfodi'r Almaen i ddiarfogi, a thrwy hynny arwain i ddiarfogiad cyffredinol.
I Ffetan y Gol. I
I Ffetan y Gol. I "ofied pawb fo'n an/on i'r Ffetan nai dyma'r gair sydd ar ei genau Nithio'b GAU A Nythu'r OWIR. Tcpio r Twll. I SYR,-Fe fyddwch chwi ac eraill sy'n caru'r Hen Wlad yn s6n yn ami am y pwys o ddysgu'r iaith i'r had yn nhrefi mawr- ion Lloegr, ac yn hyrwyddo eisteddfodau a moddion cyffelyb i'r amcan hwnnw. Da iawn y gwnewch, a phob clod i chwi am hynny. Ond er pob ymdrech, y mae y dylanwadau allanol yn y trefi hyn yn gyfryw fel fod disgynyddion y Cymry mwyaf gwlad- gar yn Saeson glan o ran iaith ac arferion ymhen rhyw dair neu bedair cenhedlaeth. Y peth mawr y dylid ymdrechu i'w sicrhau ydyw gwellhad yn yr amgylchiadau yn yr Hen Wlad, fel na fvdd yn rhaid i'r bobl,yn enwedig y bobl ifane, ddylifo i Loegr er mwyn moddion cynhaHaeth. Yr oeddwn i, Syr, beth amser vn ol yn treulio ychydig ddyddiau mewn ardal fynyddig ac amaetli- yddol o'r Hen Wlad annwyl, ac yn digwydd eistedd yn ymyl giat y mynydd,-Ilecyn difyr, lle'r oedd y golygfeydd ysblennydd yn dyrchafu y meddwl ac yn santeiddio y dychymig, a'r awel yn dwyn iechyd a hoen i gorff ac ysbryd gan mor bur a fires ydoedd ar ol blwyddyn o "fwg mwll Llerpwll; a thra yn myfyrio a gofidio na chawn aros yno i ddiweddu nyddiau, a synnu mor ychydig o bobl oedd yn byw mewn lie mor braf, daeth un o hen frodorion yr ardal heibio ar gefn ebol,—hen fachgen barflaes, cryf, yn debyg iawn i un o broffwydi'r Hen Oruwchwyliaeth. Wedi ymgomio tipyn, gofynnais iddo "A ydych chwi'n cofio mwy o bobl yn byw yn y gymdogaeth yma nag sydd rwan ?" Diar annwl peidiwch a s6n," ebe yntau, ac yn dechreu enwi man ffermydd a thyddynod (enwau syber, cyffelyb i'r rhai y byddwch chwi'n dotio atynt), tri ar ddeg ar hugain i gyd. Medd- yliwch y nifer fawr yna wedi eu colli o un gymdogaeth A'r gwir ydyw fod y bobl ddylai fod yn byw yma yn diwyllio y tir ac yn magu teuluoedd cryf a Chymreig, wedi heidio i drefi mawr Lloegr, yn anadlu ei hawyr afiach, ac yn byw mewn rhesi o ryw fath ar focsus brics o dai mor ddi-swyn ac unffurf fel na allech yn hawdd ddweyd prun yw prun onibai am y nymbar A'u gwaith yw codi neu wneud nwyddau i dalu am jwydydd o wledydd tramor, bwydydd y gellid yn hawdd eu tyfu yn eu gwlad eu hun- ain Y mae amryw o adfeilion y tyddynod y cyfeiriais atynt yn aros. Gadewch imi enwi rhai sydd yn y gohvg o'r giat yma- Bryn Dybrith, Bryn Gwynt, Tan y Graig, Tan y Ffordd, Cefn Rhyd, Yr Oerfa, Pennant, Foty Bach, etc. Dyma hwy, a Drych o dristwch yw edrych drostynt." Dyma hen dy fu'n fagwrfa i do ar ol to o'n cyd-genedl yn yr amser a aeth heibio. Gadewch inni droi i mewn am funud. Dyma lawr y gegin, welwch chwi ? Yn y fan yna, mae'n debyg, yr oedd y gadair siglo, a dvma lie'r oedd y gadair freichiau. Pa sawl gweddi ddwys a esgvnnodd o'r llecyn yma at yr orsedd fry ? Pa sawl- 0 gysegr bach gwisga'r byd Fwynai e!fen nefolfyd Dan gronglwyd ordeiniwyd i Ddihalog gyd-addoli, Cainc angel cun yw cyngor Llafarwr uwch Llyfr yr lor Ac amenaa cymunol Ei fad rai'n dyfod ar ol." Pa sawl enaid a ddaeth i adnabyddiaeth o'r Gwaredwr a'i ryfedd ras ar y llawr yma ? Teimlaf eu bod yn ysbiio arnom y funud yma dros ganllawiau'r Gogoniant, ac anodd peidio a chredu nad oes rhyw bang yn mynd trwyddynt hwy hyd yn oed yn y Wynfa Wen wrth weld eu hen gartrefi yn y fath gyflwr. Gadewch inni fynd allan oddiyma ar flaenau ein traed, canys yn wir dymalfangre I santaidd DANIEL O. JONES. 17 Sefton Square, Lerpwl.
Bara Brith.
Bara Brith. Oedfa dda oedd yr oedfa," ebe rhyw ddyn wrth Wm. Ellis, Maen Twrog, ag ystyried mai oedfa ddau ar gloch oedd hi." Pw ebe'r hen oracl gwlithog, 'fydd yr Ysbryd Gian byth yn edrych faint fydd hi ar y gloch. Ac ebe fo, mewn seiat brofiad un noson "Trimmings yr anian newydd ydyw gweddi ac ympryd." Pechod parod Wm. Ellis oedd llusgo i'r cyfarfodydd yn hwyr a heglog ei dwrw, ac mewn Cyfarfod Misol un tro, a'r Hybarch Rd. Humphreys yno'n holi hanes yr achos, daeth mor agos a hyn at wendid yr hen sant Ydach chi'n dod at eich gilydd yn o bryd- lon i'r moddion acw, Wm. Ellis?" ebe Rd. Humphreys. Wel, Mr. Hwmffras bach, 'rydan ni'n mynd adre o bob cyfarfod yn daclus e£o'n gilydd," nes oedd yr holwr, er ei ffraethed, a'i draed i fyny ac yn siglo drwyddo. Dvma ddisgrifiad Wm. Ellis o'r Nefoedd Mi fyddwn yno fel porchell yng nghafn y felin-yng nghanol y blawd, ei geg o dan y bin, ac yn methu'n ei fyw a gwichian am ragor." Cymhariaeth a bias gwlad ami am fachu ac aros.
Advertising
ADVICE FREE Mrs. STEWART, Herbalist Lady Speeialist, 9 Guinea Street, Bristol, W. & J. VENMOREf Estate Agents Valuers, 200 SCOTLAND ffOt Liverpool TxLBPHOM) No. 4216 Royal (S l*Des). P. Lloyd Jones FUNERAL DIRECTOR, 364 Stenfey flood, L'peof. TBLBPHONS-261 BOeTLE TELEPHONE~57» AN FIELD. J. T. JONES, FtinercS Uiidertgktr8 EVERTON ?OAuhfey Street B EVERTON) and 55 BrecK Read. LIVERPOOL Funeral* peracnaMy "arrLrra angget"?" to all ppartes. t?ta?XHWOHmttM!)! ?S-as=?Bsaas.sEBt'<?,M?  DIM TALO YMLAXI LLAW. ARIAN YN FENTHYO (yn ddistaw bach), mewn symian baoii zier fa (heb fod llai na EIO) AS ADDAWEB Y BBNTHYCIWR SI HD BHFTDLWTD ARB 48 MLYSIDD, ao yn awr yn rho? Ii"8fcOCO YE FJiJiTHYG BOB BL WYDDE. Am dafien a thelerau ymofynner a George Payne a-I Feib,, < Crescent Road, Rhyl, a 16 School Lane, Liverpool, Dwy Action Song Cymreig Da. 'y' milwyr BYCHAIN (The Little Soldiers). Y MAMAU BYCHAIN (The Little Nurses). Gan Pedr Alaw. TONIC SOLFFA. 3g. yr un. Drwy'r post, 31c. HEN NODIA NT, Is.. yr nn. $ Drwy'r post, Is., Cystal a'r goreu a gwell Da Sawar a gyheeddif yn Sawneg. S-wyddfalr- Brvtlion," 356, 358 Stanley Rd., Liverpool. ,THE.REAL WELSH CURE I*SEsl BALSAM 1 B?MN WELLHA ? BESWCH ac ANWYD P Amhrisiadwy gyda ?/t??<. Mmjm Potelt 1/3 a 31- mt GAN WH FFERYLLWYR A CKOSERP  m COOl & TOWHSHEHQ GENTLEMEN'S Tailors & Outfitters. Special value in Men's Tweed and Serge Business Suits, made to order. 95/ 105/ 11. 0/mg smartly cut and well made. Men's Warm Winter Overcoats Single or Double Breasted. Splendid range of cloths. 90/=, 100/=, 120= 5/29 Byrom Street LIVERPOOL.