Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Advertising
I. Basgedaid o'r Wlad. LLEF O'R NANT, SEF N ANT NANT- LLE.—Byr ysgafn gy-Iltudd gafodd yr hen gymrawd, Robart Thomas, Pembroke," Pen y groes. Sadwrn o flaen y Nadolig clacldwyd ei weddillion ym mynwent Ri, e dyw Sant, Llanllyfni. Yr oedd yn 79ain oed. Y Parch. J. M. Williams, yn gwasanaethu Cyrdd:tu eystadleiiol llwyddianus gafwyd Nos Nadolig' yn Bethel (M.C.), Calf aria (B) a Soar (A). Cyrddui arbennig i'r plant. Nos Fawrth llanwyd Neuadd Dref Pen y Groes i weld a gwrando ein cwmui lleol yn perfformio drama boblogaidd Y Ferch o Gefn Ydfa. Pawb yn canmol.-—-—Gwas- anaethwyd yng nghwrdd pregethu hanner blynyddol EilwysAnnibynnol, YnysMeudwy, Pontardawe, gan ein cyfaill y Parch. R. W. Jones, Cilgwyn. Trist i'r oithaf oedd y newydd am gwymp y llencyn ieuanc hardd, Preifat T,)m Hunt, Ty'n Weirglodd, Pen y Groes. Brod n o'r Brifddinas oedd Tom, ond prioci-,dd ag un o rianedd Pen y Grees, a mawr oedd ei hofiter at yr ardal. Ei oed yn 19. Yn Ffrainc yr oedd.-Cyi)gerdd rhagorol gafwyd yn Saron, Llanwnda, Rhag. 30. Methodd Mr. Owen Jones, Y.H. Green Bank, a dod i gadeirio, ond yn anfon rhodd iawn. Arweiniwyd gan Mr. O. W .Jones, Pen y Groes. Beirniaid y Canu, Mr. O. Llew Owain; yr Adrodd, Mr. G. J. Roberts (swyddog Presenoldeb DosbarchCaernarfon). Yr unawdydd goreu oedd Mr. D. D. Jones, Llanllyfni, yn canu Gahcad y Tywysog. Yr adroddwyr goreu, dan 18 oed: Miss Katie M. Owen, Tal y Sarn, yn adrodd Ystyriwck y lili. Hyhi hefyd yn enr. ill arganupenhill- ion telyn. Adrodd i bob oed, Mr. J. R. Williams, Rhosgadfan, yn adrodd Ymweliad yr Ysbnilwyr. Cafwyd caneuon swynol hefyd gan Miss Gwennie Jones, Glanrhyd Miss K. Lewis, Bont Newydd a Mr.. J. H Jones, Llan Dvvrog. Cyfeilydd Mr. R. Richard, Organydd Salem, Caernarfon. Ceuirgorsaf Nantlle am ysbaid yn ystod y rhyfel. Daeth cannoedd o'r plai-t gartref i dreulio'r Nadolig. -Ilu or De a Lerpwl a mannau eraill. -Blwyddyn Newydd Dda i'r plant sydd ar wasgar, yn enethod a bechgyn. Yr un modd i'r BBYTHON gydi dioleli -i'r Gol. medrus am ei eiriau caredig am y si-py-ii anfonwn i'r Fasged--y Fasgedaid o'r Wiad wrth gwrs, nid yr un sydd gan y Gol. wrth ei ochr. Gwnawn ein goreu i'ch cadw'n ddiddig blant, a thipyn o newyddion o'r Nant. LLANIESTYN, LLEYN.—Uu o fech- gyn yr ardal hon oedd y Parch. E. D. Evans, B.A., Fflint, a fu farw mor sydyn Rhag.24. Cymerwyd ef yn wael nos Wener, a bu farw'r Saboth. 0 Fethesda yr oedd ei rieni, ond buont yn gwasanaethu fel ysgolfeistr ac y.jgolfeiatres yn Llaniestyn. Gorffwyd gwedd- illion y ddau ym mynwent henaf< «1 Llande- gwning. Derbyniodd ein cyfaill ieuanc ei addysg yn Ysgol Sir Bottwnog a Choleg Llanbadr, lie graddiodd yn B.A. Ordein- iwyd ef ym Mangor, ac ymsefydlodd fel curad yn Fflint, ond torrwyd ef i lawr cyn deel seu ar ei waith yn 23 mlwydd oed. Claddvyyd yntau hefyd wrth ochr ei rieni. CydymdeirDlir a'r weddw ieuanc. Disglair fu ei yrfa, ac yr oedd ei ddyfodol i fod felly hefyd. Galwyd ef ymaith oddiwrth ei waith yn sydyn,. Anodd gwyb,)d paham- ceir gwybod eto yn llawn ar ol hyn. O'R HEN SIR -SEF SIR -F'ON.-J),vna loes drom i ardal Burwen ac Amlwch fu marw'r Capten Morgan, Brynllwyd. Gwr tirion a pharod ei gymwynas, a diacon a chefn llydan i achos y M.C. yn y Burwen am yn agoR i dd iugain mlynedd. Dirwestwr eiddgar o'i grud i'w fedd, ac er wedi teithio llawer ar frig y don, cadwodd ei grefydd yn ddilwgr. Hunodd yn fab pump a phedwar ugain oed. Ei weddw'n fyw, a'r fodrwy, a ddaliodd m)r gron am dair blynedd a thrigain, wedi ei thorn Yng ngwyl J bregethu Annibynwyr Beaumarisy Nadolig, gwasanaethai y Parch. O. Jones, Nant Ffrancon. Ar ddau utgom per a glywyd yng nghapel Pont yrarw.Llanfachraeth,oedd y Parchn. J. W. Williams, Bethel, Caer ybi, a J. Arthur Jones, Bangor. Yng Nghexihadaeth Genedlaethol yr Eglwys, yng Nghemaes, caed cipdrem ar oes y Milflwydd- iant ar radd fechan, pan welwyd holl weinidogion Ymneilltuol y cylch yn yr oedfa yn gwrand) mor rasol, ac yn cyd-addoli mor ddiddig a brawdgar.Mae bwriad yng Ngha srgybi i goai cofgolofn yn y Pare Newydd i arwyr cwympiedig y Rhyfel oddiyno, ond ni chodir yr un golofn cyn uched ei bri a'r absrth a ddangosodd y b3chgyn. Dwys yw galar y Parch. Rheid- iol Rob-aris a'i briod o golli en mab gobeithiol Emrys. pan namyn un ar hugain oed. Bu am fiwedd lawer yn Sanatorium Llangefni, a mawr fu'i ymdrech i ymadfer, ond hen elyn dymliaeth a orfu. A Gwvlfa yr ewythr iddQ o frawd i'w dad-Dyna hynod oedd i filwr o Fangor godi darlun y pen-adroddwr Deiniol Fychan oddiar faes y gyflafan yn Somme. Tudalen gyntaf Yr Adroddwr a godwnd' ac wyneb Deiniol Fychan mor hawddgar ami, heb i droed y gclyn: ei faeddu, na'i dan ei ddeifio. -Dolur i deimlad bro Llanfachraetl oedd marw cyrmar Mr. G. T. Jones o'r Welsh Gitards-mab Mr. Wm. Jones, Cwmeisian Ganol. Cafodd ai glwyfo yn Ffrainc, a dauwyd ag ef i wella i ysbyty ym Mhrydain, ond ar ol gwella o'i glwyfau cymerth hen glefyd diollwng y darfodedigaeth afael amo, ac ar ol nychu encyd, daeth y diwedd, yn ddwy ar hugain oed.-Y dydd c'r blaen derbyniais gerdynNadolig oddiwrth gefnder i mi o Salonica bell, lie y mae efe er's yn a ros i flwyddyn. Efe'r brerethwr disglair ac yn gadeirfardd ieuanc. Mr. H. D.Owen, Pearlios, ger Porthaethwy. A dyma un o'i banillion, newydd golli ei fam :— Yng nghanol yr hwyl a'r llawenydd, Meddyliwch am un an bell dro, By hwnt i derfysgoedd y Werydd- Yn alltud o'i wenwlad a'i fro Ai eira. orchuddia fy ngwiagoedd ? Ai'r glaw wna ddistewi fy nghan ? Mor wag fydd fy merd heb y gwleddoedd, Mor oer fydd fy mhabell heb dan. Nos dydd Nadolig, darlithiai Pedr Hir Bootle, ar Cynddelw yn neuadd Cei aes; y He'n llawn, a phob genau a chlust tua'r llwyfan o'r dechreu i'r diwedd. Diolchwyd i'r cadeirydd am ei rodd haelionnus. Llygad Agored. LLJTHFAEN.—Yn Festri y M.C. nos Nad- ilig, cynhaliwyd cyngerdd gan Gor Plant (45 mewn nifer), dan arweiniad Mr. W. H. Roberts, y Llythyrdy. Perfformiwyd can- awd gy,.egredig Givaredwr y Plant (E. Mason, Mup.Bac-.), yn ddwy ran. Y prif gymeriadau oedd Misses Maggie W illl am;, Grace E Simmons, Florrie Williams, Kate A. Owe.n Dinah M. Roberts, Laura J. Roberts, a'r Mri, Matt Williams, .T Jones Owen, Wm. H.Owens. Perfiormiad neilltuol o dda, a'r arwcinydd medrus wedi cael llafur caled i ddysgu'r platn inor efieithiol. Y rhan olaf yn amrywiol canwyd Iesu. Cyfaill fenaid cu. gan Miss Margaret Owen deuawd, Ar lan afonydd Babel, Mr. Robert Baedon a Miss Jennie Jones Llwybry Wyddfa, Mr. H. E. Roberts adroddiad, Y Milwr, Miss Nell Jones, Llan- aelhaearn unawd, Plentyn Duw, Miss E. Edwards Cwsg, jy mldentyn, Miss Annie Jones Baban diwrnod oed, Mr. R. Bawm. Detholiad o alawcn Cymreig gan y cyfeilydd, E. T. Hug'ies, A.L.C.M., TreAor. Terfynwyd trwy i'r cor ganu ton o waith y cyfeilydd, Mae'r plant yn hoff o ganu. Cynhulliad rhag- orol, a theimlwn yn ddyledus i'r brawd a'r chwaer, Miss E, Edwards a Mr. W. H. Rob- erts, am eu llafur diflino gyda'r plant. Y llvwydd oedd J. O. Jones, Ysw. (Arifog), a chafwyd araitn bwrpasol ganddo. Cyfeil- iwyd gan Miss E. Edwards, Llithfaen, ac E. J. Hughes, A.L.C.M. Yr oedd yn wledd ragorol, ac yn cydfynd ag ysbryd yr wyl. E. Aidan Davie-s. CYNGERDD CROESOSW ALLTCyn- haliwyd cyngerdd mawreddog yn neuadd y Y.M.C.A., No. 1, gwersyll Park Hall, nos Boxing Day. Breintiwvd y gwersyll a doniau o'r radd flaenaf. Dyma'r rhai a wasanaethai: Miss Hilda Cragg-James, seprano canodd gynifer a deg o weithiau, ac nid oedd ddigon gan y dyi-fa,-rhai(I oedd iddi ganu drachefn a thrachefn. Canodd ei gwr hefyd, sef Mr. Mayer,-y ddau o Birkenhcad. Cawsom y fraint aruchelhdyd o glywed Mr. J. H. Jones, Gol. Y BRYTHON, yn adrodd yn gampus ac nid yn unig yn adrodd, ond yn egluro'r darnau b')b tN. Adroddodd bedair gwaith Hefyd Corp. Tom Lloyd (yntau o B'head) a'i gyfaill, yn canu'n beraidd iawn. Cawsom noswaith i'w chofio ac ar y diwedd, estynnodd y Parch. Christmas Jones, sy'n gofalu am y gwaith, galennig sylweddol i'r bechgyn, a rhoddwyd diolch trwy dairhwre iddo arr. y gofal a gymer tros gysur y bechgyn. Diolchwyc i bawb am eu gwasanaeth, a roddid yn rhad gan bob un ac nid yn unig hynny, ond addawodd y Golygydd ddod i bori'r gwersyll a'i ferlyn cyn bo hir, a daw'r doxiau eraill yma'n fuan eto. Diolchwn hefyd i Mr. Arthur Venmore, Ler- pwl, am ei rodd dywysogaidd o ddau gini at y treuliau gyda'r lliaws eraill.—Un o'r bechgyn. TREFFYNNON Yr wythnos ddiweddaf (nos Fawrth) bu cyfeillion Rehoboth, Me, Treffynnon, yn anrhegu eu gweinidog, y Parch J E Davies, a thysteb a cheque ar ei 21ain flwydd o wasanaeth fel bugail Hefyd, derbyniodd Mrs Davies a'r plant roddion addas i'r amgylchiad Llywvddid gan Mr J P Jones Mr J Roberts yn ysgrifennvdd yn absenoldeb Mr Lloyd Williams a Mr D T Roberts, y Banc, yn drysorydd Cafwyd anerchiadau gan amryw gyfeillion a gweinidogion y dref, a the rhagorolJ o flaen y cyfarfod Llongyfarchvryd Mr Dd Owen, un o blant yr eglwys, ar ei waith yn ennill gradd D Sc
I. Basgedaid o'r Wlad.
Ffetan y Gol. Cofied pawb fo"tt atifon i'r Ffticlti t mlli dyma'r gair sydd ar ei genau:-I NITHIO'R GAU A NVTHU'R GWIR. C'lennig I ANNWYL OL.—Er nad wyf lenor dillyn, na hawl i ddim ond bod yn ddistaw, eto, wedi d-trllen Y BRYTHON heddyw, ffrwyth eich myfyrdodau hedegog,—ond hededog yng nghanol y Nef—ni aUaf bsidio a'ch llongyfarch fel Golygydd a chalon ei wlad, yn gystal a'i phen, yn wastad ger ei fron. Mi gredaf i fod yr Ysbryd Glan mor sic r wrth eich penelin ac yn arwain eich 11a w a'ch meddwl, a'r apostolion. Yn oes yr Expediency hon, diolch am wroniaid cydwybod. Hi-r, hir y bo heb eisiau bedd- jaen ichwi; ond pan- ddel, doder uwch y ewbl arall a fo arno-" Ni lygrasom ni neb." Dymuniadau pur ac annwyl, PLENYDD. Proclamasiwn. At Olygydd Y BRYTHON. SYR.—A fyddNCh chwi cystal a hysbysu d irllenwyr Y BRYTHON (yn enwedig yr Onomalo hiwmoraidd, a htwddxar, sy'n ysgrifennu mor cd o ffeind) fy mod i, ar ol ystyriaeth ddwys a phwyllog, wedi pender- fynu gad1.el i bobl alw Sir Daniel Owen y Sir Pflint am blwc eto,—o leiaf hyd nes y terfyno y rhyfel, gan ddymuno blwyddyn newydd clda i chwi i gyd. DANIEL OWEN JONES. li 17 Sefton Square, Lerpwl. Fel catb i gythraul. At Olygydd Y BRYTHON SYR,—Dyma un o hen ddywediadau y werin a erya hyd. heddyw ar lafar gwlad. Fe glywir ami i hen gymeriad gwledig yn dweyd wrth edrych ar ddyn yn cael ei gymryd o'i anfodd, neu'n gn>es i'w ewyllys Mae o yn mynd fel cath i gythral." Dro yn ol ceisiwn loffa ychydig Len Gwerin yn Lleyn, a deuthum ar draws dau neu dri o hen gymeriadau pur gofus, a'r rhai hynny wedi bod yn gwrando darlith yn hen gapel y Dinas, ar y gangen yna o lenyddiaeth. Yn eu plith yr oedd un o ffrindiau Golygydd Y BRYTHON (gwyr ef amdano), a dyma'r ystyr a roddai ef i'r hen ddywediad yna:— Dywed mai "Fel caeth i gythraul ddylai fod, ac nid fel cath "-yr e wedi coHi ei sain yn caeth sy'n cyfrif am hynny. Ar hyd a lied gwlad Lleyn fe geir lliaws o olion hen- afiaethol yn perthyn i'r cyfnod Derwyddol. Ar dir un fferm. ceir ol y Gromlech, ar ff erin arall yr allor, ae ar un arall y man lie cleddir y meirw. Ac ar ffin fferm B ryno dol, a fu unwaith yn hen balasty. ceir lie a elwir yn "Perthan y Bwbach." Yn ol Drych y Prif Oesoedd, gwneid y bwbach o wiail wedi eu plethu ar ffurf dyn anferth ei faint, a'i draed a'i ddwylo ar hyd. Ac wrth hwn y cylymid y drwgweithrcdwyr i'w llosgi i'r duwiau. Yn ymyl y bwbach bob amser yr oedd y gistfaen lie cadwent y drwgweith- ) redwyr neu ereill i aros eu tynged. Galwent [ y bwbach yn Gythraul," a'r sawl oedd yn y gistfaen yn aros ei dynged yn Caeth." Felly yr un argraff a geir wrth edrych arddyn yn cael ei gymryd i rywbeth o'i anfodd ag a geid ar y caeth yn cael ei gymryd o'i gist- faen i'r bwbach i'w losgi. Hefyd yr oedd ym mhob palas, yn yr hen amser, was yn cael ei gadw, a hwnnw'n ffafryn y teulu, ac a elwid gan y werin yn "ffwI y plas." Yr oedd boneddwr yn byw ym mhlas Brynodol, ac un diwrnod clafychodd, a bu farw ac yn hytrach na hiraethu a phoeni ar ol ei feistr, dawisodd y gwas gael ei roi yn y bwbach a'i losgi gan y credai, ond iddo ef gael marw'n ddigon buan ar ol ei feistr, y cawsai ei le fel ffwl iddo yn y byd arall. Cafodd un dymuniad—cadd ei losgi. Ond pwy a fedr ddweyd a gafedd y llall ? Hwy- rach mai nid yr un ystyr a ddyry ardaloedd ereill i'r hen ddywediad Fel cath i gythral." IJanystumdwy. MEGAN DW YFOR.
Ffetan y Gol.
I Pence # Envelopes FOF CHURCH COLLECTION Good Quality. Correctly Numbered b\ Special Machine. Hugh Evans 6 Sons, Brytbcn' Office; Liverpool.
Advertising
PILOTS' CONCERT, PHlLHARMONIC- HALL. Mr. KINGSTON JONES was reSponsible4 for some of the BEST FEATURES of the entertainment.—IAverpoof Courier. k-, ST SILOA CONCERT, MOSTYN.-Mr, KINGSTON JONES. in his humorous skeïches had his audience rollicking with laughter, and his dramatic power was brilliant. PrestatYI1 Weekly. CRANE HALL CONCERT, December 4th, 1916. Mr. KINGSTON JONES contributed recitations at the piano, and a dramatic recital, "Together," by John Oxenham, which won the heartiest applause.- Daily Post and Mercury.
[No title]
Kingston Jones Gold Mcdallillt, Professor of Elocution Concerts- -Entertainer-A djudica tor Welsh Bed English. NOSON GYFAN mewn ADRODDIADAU ARBENNIG: Dwys, DIGRlF a DRAMATIG, yn cvnnwys Yr adroddiad enwog a hyflforddiadol Tmicelifld Ned Flowe a Llundain (yn para tri chwarter awr) z. hefyd A ed Ffowe a'r Codi Blamoriaid, SleddfGit Fav.'r Llangollen, Crist yn goste^u'r Dymestl, Y Milwrr a'r character adroddiad enwog, Modryb Modlan. DANFONWCH AM FARN Y WASG. KINGSTCN-JONES, 27 Ciifton Road East, Tuebrook, Liverpool. k W. tlUGHES.o. lxmT (Arwiptnvdd I Catis pir Xfhaptl M.O. Prinfes Road), Arweinydd Cymanfaoedd Canu. Beirniad, ac Arholwr. Parotoir Jt mgeiswyr at Dysty3(jrifa u uweÀtM Coleg 11 Solla, Hen Nodiant, a Roltø. 70 KINGSLf:.Y:R OAD LERPt* J. HALTON MORRIS, Popular Welsh Tenor,. For terms, apply 7 GRAMPIAN ROAD, Fairfield, LIVERPOOL UNIQUE OPPORTUNITY. MARKF1ELD,Breeze-Ilill, Bootle—Market gar- deners, poultry-keepers, and others should inspect this at once immediate possession owing to decease of late occupier no ingoing less than- 3 miles from centre of Liverpool fine old detached. Residence, in splendid condition, with 4 acres of productive land, greenhouses, stables low rental for duration of war or a fixed term of years.- Apply Bootle Estate Office, 52 Stanley Road- Telephone 2°5 Bootle. dNWTD, PESWCH, flNFLUENZA-Mae y rhain gyda ni bob amser. Pair hinaawdd gyfnewidiol fod llawer o ddioddef oddiwrth Beswch, Bronchitis, Pat, Dolur Gwddf, Crygni, Caethdra, Difiyg Anadi. Y mae'r hen feddyginiaeth DAN,'IES'S COUGH MIXTURE eto ar y blaen, ac yn cael ei gwerth- fawrogi yn fwy nag erioed, bob amser wrth law, ym felys, yn cynhesu y frest, ac yn rhyddhau'r phlegm, Bydd dose mewn pryd yn ddigon. is. i id. a M. 9/ (postage, 3^.)-HUGH DAviza, Chemist, Machynlletjj SARZINE BLOOD MIXTURE. CROEN IACH A GWAED PUR.—Dyna yrhyo y mae Sarzine Blood Mixture yn ei sicrhau, a dim arall. Nid yw yn honni gwella popeth fel Yi nTcee Patent Medicines, ond os blinir chwi gan groett afiach, ysfa, pimplet, toriad allan, tcurvy, doluriau peadduynod, etc., yn tarddu o waed drwg ac amhur, mynnwch botelaid o Sarzine Blood Mixture gan y druggist nesaf atoch, 2s. gd. y botel, neu gyda 34. at y cludiad yn ychwanegol oddiwrth y perchennog— HUGH DAVIES, Chemist, Machynlleth.  4       ?????7?Z????<J?v/??y?y ? CCCCCDccccaaaCCCCCODCCCCCC ? ? B Q C 6U!NEA GOLD WEDDING RINGS I Half-doz best Electro-plated Q o GUINEA COLD WEDDING RINGS I Spoons given to each 0 from 7/6 to 60/- | &efo" aV„gh a C BALL'S LUCKY ENGAGEMENT RINGS at prices to suit all D a y a ■ a BALL'S LUCKY WEDDING RING DEPOT, C a v Finger-Size Cards Post Free 33, London Road, LIVERPOOL. C 00000000000000000000000000 CYFEIRIAD NEWYDD (Change of Address) D. R. JONES (Alaw Madog), 25 RadstocK Road, Liverpool. Dealer in PIAKOS, ORGANS, and HARMONIUMS, MUSIC PUBLISHER, &c. Catalogues Free on application. Terms Cash, or on easy payments to suit Customers, Orders by Post are promptly attended to. Tuning and Repairing aSpeciality. Town and Country visited. —- — — « Dwy gan Newydd yn barod, Pris Swilt yr un. Trwy'r Post, 1 /1. Saf i fyny dros dy Wlad (Stand for thy Country), W. T. David. Sop. neu Tenor. Mab y Milwr (The Soldier's Son), D. E. Williams, G.R.A.M. Contralto neu Bass. Geiriau Cymraeg a Saesneg. Hefyd, y mae i hon eiriau cysegredig, Jerusalem Newydd (The New Jerusalem). For Bedsteads and Bedding. W. WHITTLE SON & STOTT, LTD., 116, 118 120 WHITECHAPEL, LIVERPOOL. 0 0 a j Telephone S2137 Royal.
Advertising
orol iawn o'r cyn-weinidog, y diweddar Barch. 0. R. Jones, a fu'n ffyddlon i'r ddiadall an dros bym heug mlynedd cyn myned ohono Fry. Da oedd gan bawb ail weled ei wyneb siriol unwaith eto ar y ddaear. cyn, syllu arao mewn gogoniant. Tlws o both yw gweld darluniau ar barwydydd y cygegr- leoedd o'r "rhai a fu." Tro yn ei le, ac i bwrpas, oedd i'r plant gyflwyno'r darlun hwn o'u tad gofalus i'w hen ofalaeth. Afagnelau'r Nef ar Sinai.-Cafodd Carey, fab y Parch. W. B. Jones, rehearsal wrth droed Mynydd Sinai o'r hyn a gafodd yr lsraeliaid gynt, sef mellt a tharanau a thym- estl. 0 fraint ryfedd Elusennau'r Clawdd.—Llonnwyd calon lla- wer i dlawd gan elusan. tua'r Nadolig. Dos barthwyd cannoedd o doeynau yn y Rhos, ac uzeinia.'l'r ochr draw i vV re 2¡') am hefyd. Nid pethau enwad)I yw'r elusennau hyn, er eu bad wedi aros dan fawd yr offeiriaid am yn hir. Ceir mwy o degwch yn y rhaniad yn awr na chynt. Mae lie i weila etc- hefyd. Da fyddai i Ymneilltuwyr gadw llygad ar y Chanties, rlias iddynt syrthio'n ol i ddwylo enwadol. Ffeirad mewn Oapel-Bu ffeirad y Rhos ym i yng nghapel yr Annibynwyr Cyinraeg nos Wener ddiweddaf, yn llywvddu mewn cyng- erdd, sof cyngerdd y Gr;)e, Goch. Riyfedd fel y mae'r GM&s yil ennyn brawdgarwch ac yn tynnu pobl at ei gilydd. A minnau," msdd yr Iesu mawr, os dyrchefir fi oddiar y ddaear, a dynnaf bawb ataf fy hun ac o'u tynnu ato'i Hun y mae yn eu tynnu at ei gilydd hefyd. Hwyrach y gwelir y Dr. Preis yn egIwya y plwyi nesaf, yn Uvwydd i neu ynteu'n pregethu. Mae'r Milflwyddiant flwyddya yn ne3 yn awr nag y bu erioed o'r blaen. Cyngerdd y Groes Goch.-Caecl un o'r fath oreu yn y Rhos yr wythnos ddiweddaf y goreuon yn canu ac yn chwarae. Nid gwiw enwi neb) gan fod popeth mor rhagorol. Yr oedd y gwahanol ddarnau hefyd yn rhai awdirol [classic), wedi eu eyfansoddi gan vrft hyglod y byd cerddorol. Llwyddiant parSaith oedd y cyngerdd, a'r goreu a gaed yn y Rhos, er rhagored y cwbl, ers dyddiau lawer. Gwnaed clw da at amcan cywir. Ei-steddfodau'r Clawdd.—Mae'r rhai yma wedi b..d yn llu yn ystod yr wythnos a aeth heibio. Llewychus iawn fuont i gyd. Caed un da odiaeth yn yr Wyddgrug un arall ym Mrymbo, ac un hefyd yn y Cymmau, ac yng Nhefn Mawr. Da fai cael tipyn o'u manyl ion yn Y BRYTHON. Dymunol iawn fyddai i'r pwyltgorau gael dealltwriaeth ymhlith ei gilydd o bsrlhyna* i ddyddiad yr Eisieddfod ymhob lie, rhag fod dwy neu dair yn digwydd ar yr un dydd, ac felly'n milwrio'n erbyn ei gilydd. Nid da fod dwy, megis ym Mrymbo a'r Cym -tu, cyfagos i'w gilydd, ar yr un dydd. Rhaiid cael gwell trefniant yn y dyfodol. Er hynny, llwyddiant perffaith oeddynt, a'r eisteddfod flynyddol yn y Treuddyn hefyd. Priod y Prif yn noddi'r Morwr.—Enfyn Mrs. Lloyd Gaorge-" prid ein Prif,lyhyr gafaelgar a thyner iawn at eglwysi'r wlad ar ran y morwyr. Nid yw'r morwr wedi cael y sylw a haedda yn ystod y rhyfel hwn. Clodi Mrs. Lloyd George am ei ddwyn i sylw. Y mae hi, fel ei phriod byd-enwog,yn anwesu achoaion y gweiniaid a'r anghenus. Hyderwn y cefnogir hi gan eglwysi ei gwlad. Teilwng yw y tal. Sarjant Hywels.—CwnstabI yw'r Seargeant hwn, sy'n gwne id gwaith d t ar y Clawdd yma. Y mae'n ddyohryn i ddrwgweithredwyr, a da hynny y dyddiau hyn. Mae hwn yn sicr o ennill tir uchel-haedd-i hynny. Dywedir hefyd ei fod yn gapelwr heb ei fath. Mae gandd) fab yn y fyddin. Sgowtiaid Gwraig Sam.—Mwynhaodd y Sgowjiaid, sef Sgowtiaid tref Gwrecsam, arruerhwyjus a llawen y Nadolig. Buont yn adlonni eu rhiaint a'u cyfeillion yn ystod yr hwyr, a gwnaethant hynny hyd birffeith- rwydd, Yn unig prudd oeddynt oherwydd ym idawiad y meistr, y Sgowtfeistr H. P. Jones. Ond" meddent, gan fod raid ichi fynd, hwdiwch dvma ffon ichwi a chlopa arian iddi, rhag iddi fynd yn brin arnoch unrhyw adeg. Bydd gennym gof da bythol a.mdaoch, bIe byùnaó ybydd)ch." Diolch odd Mr. Jones yn gynnes iddynt. Dyma'r tro cyntaf i'rmeistrgael y ffon fe fu'r Sgowts tani lawer tro. Red Riding Hood.-Llawer o son a fu am hon trwy'r blynydd Jedd, ond ni chlywais erioed iddi fod mawn capel Methodist cyn yr wythnos ddiweddaf. Yn y "byd" y byddai hon, ond eglur ei bod wedi cael tro." Rhyfedd y cyfnewidiadau yn ystod y rliyfel. GobarTaio na fydd raid ei thorri allan o'r seiat eio. Dywedir ei bod wedi talu'n dda i'r achos eisoes, er cygilydd i laweroedd eraill Ym Mharc Stryd, Rhosddu, y mae Red Riding Hood wedi ymaelodi. Ymddiswyddiad y Doctor.Ar ol dros hanner can mlynedd yn y weinidogaeth, y mae Dr. Oliver, TreSynnon, wedi ym- ddiswyddo. Gwrieuanc o drem ac osgo yw'r Dr., ac wedi cyflawni coflaid o waith anode yn ei ddydd. Teilwnl yw o bob anrhydedd. Derbyniodd lawer, ond nid gormod. Efe hefyd yn un o flaenion oi enwad. Ni fu neb erioed mwy dygn nag ef gyda'rCyngorCenedl- aethol, a gwir haedda'r gadair. Dylasai fod w.3di ei chael. Pe bai Sais fe'i cawsai. Lluest i'r Lliaws.—Sonnir am adeiladu Cuts yn lie tai yn y cyjfiniau hyn, i gyfarfod anghenion y boblogaeth. Gwelir nad yw'r rhyiel yn gwneud fawr wahaniaeth yn y b oblogaeth, nac mewn gofyn am dai. Byddai adeiladu bungalows yn gaffaeliad mawr i dlodion y wlad, a hwyrach y byddai'r dref yn iachach. Gobeithio nad adeiledir byth efco dai y.i s-ryd--edd, ond pob tý, fel pob parch en ty, yn medd i ei dalcen ei hun. Y Oenhadaath Bapur.—Yr ydym yn ddiweddar wedi caelma hau newydd o genad- aet-hau.^ Cawrom y gyntaf gan Eglwys Loegr, ond y mae'n del yg na ddaeth fawr ohoni mae'r Hall yma gan y Methodistiaid Seisnig. Du'l hon ydyw darllen papur ar fater neilltuol bob wythnos, a heidio'r bobl vno i'w wrando, a siarad arno a gweddïo o'i herwydd. Cen- hadaeth ryfedd a gwreiddiol iawn yw hon, ac ofnir na fydd diwedd hon fawr amgenach na'r llall. Nid oes dim fel pre;e',hu ner'hol at greu diwygiad gwirioneddol yng nghymer- iadau pobl a moes gwlad. Gwell caclw at yr hen ddull sydd wedi gv/rieitd ein gwlad yr hyn ydyw. Yn ei dy dan ei do.—Hyn yw hanes dlweddaraf un o genhadon jjonnaf a mwyaf hoffus y Clawdd—y Parch. John Smallwood, Cymmau. Annifvr y w arno yn ei dv, a'r vsfa bregethu mor gryf ynddo. Hyderwn yr helac/hir arno'n fuan, ac y clywir ei lais bas per yn cyhoeddi megis eynt Y newydd am y dwyfol waed." Diolch i'r Gol. am ei air caredig yn y rhifyn diweddaf am yr Hutyn ANAD." ( o Tnt J t:W P-LLER:V < OLD POST OFPICE PLACa (QW9 CHUKOT STUEBT) LARGEST SELECTION -LOWEST PRICES TELEPHONE 3075 ROYAL.