READ ARTICLES (16)

News
Copy
Meysydd Lien a Chan. [Gan HOMER."] I TOR MESUR. Ofer fyddai dechreu ymlid a beirdd y mesurau rhyddion ynghylch tor mesur. Mae torri pob mesur yn grybilion yn rheol gyda hwy, ac ymffrostiant yn eu camwaith. Prawf o athrylith ryfeddol yw afreolaidd-dra felly. Mae rhoi llinell ddeuddeg sillaf i ateb un saith sillaf yn gosod arbenigrwydd mawr ar y gwaith. Dyry clyfrwch felly mawr ar y g-wait drwydded i'r bardd i gyd-eistedd a' r beirdd mawr; a chan fod yn hawdd torri mesur, fel llawer o bethau eraill, a chan fod y chwant am enwogrwydd mor gryf a chyffredinol, tor mesur yw'r peth amlycaf o ddigon ym marddoniaeth rydd y beirdd newydd." Ni byddai ond ofer i mi geisio argyhoeddi'r beirdd hyn o'u Irosedd, a gadael iddynt fyned rhagddynt yn bennoeth wyllt ar y dragwyddol heol yw'r peth goreu a cheir eu gweled yn y man yn ysgrifennu paragraffau byrion yn He llinellau, yn ol arfer eu meistri, sef beirdd y Saeson. Gellir disgwyl, fodd bynnag, i r cyngan- eddwyr ymgadw o fewn terfynau mesur; ond yr wyf yn ofni eu bod hwythau, fel mae gwaetha' r modd, yn dechreu TORRI DROS Y CLODDIAU. I Gwelais yn ddiweddar lilws mawr o englynion yn cynnwys y bai o dor mesur," a hoffwn adgoffa'r cynganeddwyr hynny fod tor mesur yn fai mawr a gwrthun. Mae'n ddigon hawdd deall y demtasiwn i arfer llinellau anghyfunhyd. Wedi i'r bardd gael llinell wyth sillaf go gref, dyweder, teimla mai gormod o aberth ar ei ran yw ei throi heibio, am ei bod "o sill yn rhy hir, fel y dywed Ceiriog. Mae'n bwysig ir bardd ieuanc, yn enwedig, gofio mai'r peth iddo y v llysu pob llinell y metha aï chael i'r hyd gofynnol; ac as gwnaiff hynny, fe wel cyn bo hir nad yw bwrrw llinellau o'r fath o'r neilltu yn aberth o gwbl. Nid yw.:c ffaith foci rhai o englynwyr enwocaf Cymru wedi syrthio i r un camwedd yn ddigon o reswm dros i neb ddilyn eu harfer hwy. Cofier mai andwyo pob englyn—waeth pa mor bert y bo—a wna tor mesur. Ceir lliaws o emgkreifftiau o dor mesur yn englynion Dewi Davhesp, Trebor Mai, a Dewi Atfon. Wele ddwy enghraifft o'i bigion, y cyntaf ar ol Robert Thomas, Llidiardau," a'r llall er cof am John Jones, Talsarn — Hynotaf blenityn natur ,-eithriadol Bregethwr od, ffraethbur; y Os ai i bant, ar antur, Bwrlymai o'r pwll ryw berl mawr pur. Clogwyni coleg An,lan-wnaeth ryf,,dd Athrofa i loan; A'l yn null gwron allan- Mawr wr Duw, rhoes Gymru ar dan." Ymddengy. i mi fel petai'r bardd yn ym- kfrydu yn y bai hwn. Trebor Mai, yntau yn bur chwannog o syrthio i'r bai o "dor mesur. Ceir Iliaws o enghreifftiau ohono yn ei englnyion, ond dim byd tebig i' r eiddo Dewi Arfon. Wele enghraifft neu ddwy:— Darfu swn lecsiwn y wlad,—newidiwyd I Y nwydau anwastad, I A llwodraeth y lladrad, Am lai swn a mwy o leshad. Llewygawl fechgyn llegach Yn crynhoi bwyd efo'u cym bach." A dyma linell rhy fer:— Yn awr, r dd, annedd ddu, Y n bIas i bob lesu." Dichon nad oedd Dewi Havhesp lawn cyn ddyfned yn y camwedd, ond nid yw yntau. n ddieuog o grito dipyr. r ir <:rr., ¡W iu r, dcr ear yn ei ett^iynion, a difcwyctd \.)n. b-i-c bob aaue< pan na byddai 66 yn yr hwyl." Fel y canlyn yr englynodd I r Wawr :— Euraid liw draw ar y wybr dlos-pur wawl Yn llarpio'r erch himos; Heirdd wenau'n gwancio'r ddunos— I LInn coron aur yn llyncu' r nos." Englyn dychrynllyd yw hwnyna-peth anghyffredin o hyll ar destyn nodedig o dlws. Dyma enghraifft araliI o dor mesur ganddo:— Gwr da, igwas'naethgar, diwyd,-yw'¡r E goetha ddaearfyd; [gweithiwr, A gwron disegwryd, Cyfiawn o barch-asgwrn cefn byd." Os rheol, rheol, neu beidio byth a son am dani," fel y dywedodd yr un gynt. Fe ystyrir y tri englynwr a enwyd yn bencamp- wyr yn eu celf, a diau fod cryn gamp ar lawer o'u henglynion; ond rhaid i mi gyf- addef na ddeallais i erioed paham y rhestrid Dewi Arfon gyda' r ddau arall. Y mae Dewi Havhesp a Threbor Mai ymhell o'i flaen, ym marn llawer, ac yn fy mam innau. Sut bynnag, y mae llawer o ddarllen ar waith y beirdd hyn, a'm hamcan wrth gyfeirio-at y bai hwn yn eu hemglynion oedd rhoi r beirdd ieuamc ar eu gwyliadwriaeth. Os dymunir, efelycheT eu naturioldeb, ond gocheler eu beiau. Ni cheir y bai o dor mesur yng ngweithiau'r hen feirdd. Yr oeddynt hwy yn ofalus iawn o hyd eu llinellau. Nis ceir ychwaith yng ngweithiau beirdd goreu heddyw. Ni chymerai prif englynwr yrVoes hon lawer am gyhoeddi englyn a thor mesur ynddo. Er mwyn gweled cyrnaint rhagorach yw englyn cywir na'r rhai a ddyfynnwyd, craffed ar yr englynion a ganlyn:— Nid y plas yw nod plesr ,-nid i hwn Y daw hedd bob amser; Ond ty'n llawn gobeithion ter Sydd baradwys ddibryder." -Berw. I "ALAWON CYMRU. Maent fel galar ar eu hynt,-a hanes Yn gyfnnach ynddynt: Toredig ddwyster ydynt— Lief y gwaed fu'n llifo gynt." -Eifion Wyn. YNGOLEU'R LLOER. O. r glannau oep gwelwn "i——y gwenyg Gwyn:on yn ymdorri; Ac 0, laned goleuni Arian ylloer yn y IIi! — Williams.

News
Copy
I Nodion Teithiwr. Yn herwydd amgylchiadau anorfod, rhaid gohirio ein nodion hyd y rhifyn nesaf. I" Caffed amynedd ei pherffaith waith," yna ceir caredigrwydd Mr. Luther Howells, ein ymweliad a Tycroes, Maesyrhaf, a Gwaun- fain, Saron, ynghyd a dyfodiad etifedd Bryiv hawddgar ar ymweliad a'i rieni caredig; a chyn gorffen ein taith, ein ymweliad a Market Hall, Caerfyrddin, y Felinwen, a Nant- garedig. Hyd hynny, byddwch wych oil, medd JOHN F. JAMES. Llwyncelyn, Llandeilo. 0

Advertising
Copy
Mrs. Clara E. Slater's forthcoming visit to AMMANFORD. Responding to the requests of many sufferers, I Mrs. CLARA E. SLATER has decided to pay a short visit to Ammanford, the date of which will be announced later. I Her APPI iances have Cured and Relieved I OVER 100,000 CASES OF RUPTURE and other Female Complaints. I If you suffer from any abdominal complaint, send now for my Free Booklet ?"?? £ FrL-e Boolilet contains pnceless :n- );< form'ation on' women's ''i internal complaints, and will be sent on receipt ~F'f of 2d. stamps to cover #■- .'i, « postage. It also explains with the aid of illustra- ?.< ''?)?t?jL/)??'?? tions how Internal >.1.J'" 1 W,eaknesses of ail kinds, -c If.- •?,J! Misplacement, etc" can ? '1 'be cured WITHOUT ?? J OPERATIONS OR INTERNAL IN- STRUMENTS. The latter cause cancers and tumours, and should be avoided at all costs. Mrs. Clara E. Slater, of Soóth- port and London, will visit Ammanford and nearby towns shortly. Send for full addresses and appoint- ments to- Mrs. CLARA E. SLATER, F9, Cromwell House, High Holborn, ✓ London, W.C. Established 25 Years. Deafonir y Croruef yn wytL;<>sc] y '.«ythyrdj i urnhyy ^ytesriad am 4/4 y 1 ? r v Swyddya, h j bi-e.adyn, ceu • flwyddy.1, 1:.1, ¡ uai.

News
Copy
LlwyddCywirdeb; neu, Arthur Wyn, Cletwr Coch. NOFEL GYMRAEG, GAN HOMER". (Buddugol). I (Cedwir pob hawllrint). 1 PENNOD VII. Ar ol yr ystorm ysgythrog ac enbyd y soniasom am dani, torrodd y wawr mor ffres ag erioed bore drannoeth, gan ddatguddio ystrywiau y mellt, y gwynt a'r glaw ymhob cyfeiriad. Cyn deg o'r gloch yn y bore yr oedd y newydd wedi ei daenu trwy yr holl ddyffryn fod dau drafaelwr wedi, cael eu lladd ar yr heol, Tafain y Baxa Cekch." Ymdyrrai ugeiniau o bobl, yn hen ac ieuanc, i'r fan o bob cyfeiriad o'r wlad. Yr oedd un o'r ddau ddyn yn hollol farw, ond yr oedd anadl y Hall ar brydiau yn dawnsio ar yr ewyn coch oedd air ei wefusau, a deallai y rhai cyntaf a welsant y trueiniaid ef yn dweyd mewn bloesgni marwol: Wedi ein lladd, wedi ein lladd gan ddihiryn! Wedi colli ein llestri arian a' n haur i gyd!! Yr wyf yn marw, Q! fy ngwraig a'm plant annwyl! YT wyf yn y farn O! fy Nuw, trugarha Ar gefn ei farch porthiantus a nwyfus, un o r rhai cyntaf a gafodd yr olygfa ydoedd yr Yswain I fan. Cyn pen nemawr o funudau yr oedd ynct ddegau yn syllu gyda llygaid ya ffynhonnau o ddagrau, a chalonnau cyn- hyrfus, a' r ddau bellach wedi huno yn yr angau am byth, heb allu dweyd cymaint a gair ar eu holau i gyhuddo neb am gyflawni yr ysgelerdtr. Nid oedd neb yn adwaen yr un or trueiniaid, ond cafwyd digon ar y cerbyd 1 brofi mai teithwyr dros swyddfa oriadurol fawr yn Llundain oeddynt, a'u bod ar eu ffordd trwy Llandyssul i Gaerfyrddin a Sir Forgannwg; tybiai rhai mai wedi yfed gormod yr oeddynt, a' u bod wedi myned i ffraeo âï gilydd, ac mewn ffyrnigrwydd wedi lladd ei gilydd. Ond beth am y ceffyl? Ymha le yr oedd eu nwyddau? Daeth swyddogion y Llywodraeth i'r fan, a chymer- asant y cyrff i Gastell yr Esgair, ac yn dra buan daethpwyd o hyd eu bod wedi eu hysbeilio o aur ac arian a rhyw lestri drud- fawr oeddynt yn gludo i Eglwys Llandyssul. Ar ymyl y ffordd gerllaw y cerbyd dryll- iedig, darganfyddwyd cyllell lefn a miniog, ac yr oedd yn amlwg ei bod wedi bod yn cael ei- defnyddio gan yr ellyll a gyflawnodd y brad. Cyfodwyd yor erfyn, ac ar ei charn rhuddgoch yr oedd y ddwy lythyren, G.W. wedi eu cerfio mewn dull anghel- fydd. Eto, yn eithaf. amlwg. Creodd darganfyddiad y gyllell gynnwrf neilltuol ymhlith y lliaws, oblegid yr oedd yn eglur fod yr offeryn yn eiddo 1 rywun yn Nyffryn Cletwr neu un o'r cymoedd cyfagos. Mawr oedd y dyfalu pwy allasai fod y mwrddwr neu'r mwrddwyr. Yr oedd y bobl gyd wedi myned i syndod. Ynghanol y dorf gyffrous a siaradus yr oedd Wil Hirben (fe! y gelwid ef), â.i dafod ifel olwyn drydanol, a'l lygaid gleision saraffaidd a melltennog yn fflacliio tan ei fynwes dros ei emrynt. Sibrydai wrth y nesaf ato: Yr wyf yn adwaen y gyllell, neu yr wyf yn credu hynny, beth bynnag; ond nid wyf am ddweyd dim, canys y mae yn fater cynnil." Y dyn, os ydych yn ei hadwaen, dylech ddweyd yr hyn a wyddoch ar unwaith, yn hytrach na chelu y Wel, yr wyf yn sicr o fod yn ei hadwaen yn dda, ac y mae yn y dorf amryw eraill a fedrant gyd-dystiolaethu, pe byddent mor onest a gwneud hynny." Gonest, yn wir; yr ydych chwi mor an- onest a neb, onite byddech yn dweyd ar un- waith pwy ydyw perchennog y gyllell, yn He dweyd, a dweyd, a dweyd dim." Nid yw y lie hwn yn lie i warthruddo yr un cyme/iad, heb fod yn sicr." Dywedwch yn eglur pwy ydych yn feddwl, neu mae doethineb yn galw amoch am dewi, a thewi am byth." Yr ydych chwi, beth bynnag, yn edrych yn debig iawn i ddyn drwg. Mae arogl cerryg beddau ar eich dillad, ac euogrwydd yn gwmwl ar eich wyneb." Tewch." Gwybod, yr wyf yn gwybod, a gallaf wneud fy llw ar gam yr offeryn." Pwy? Gruffydd Wyn, y Cletwr, biau y gyllell, ac os nad wyf yn camsynied, y mae ei enw wedi ei gerfio ganddo ef ei hun yn ei cham." Gruffydd Wyn, y Cletwr, yn Ilofrudd?" Yr adyn diegwyddor, peidiwcha dweyd y fath gabledd; mae Gruffydd Wyn yn un o'r cymeriadau diniweitiaf a disgleiriaf a fedd y wlad. Na, y mae yn annichonadwy i peth hwíi fod yn wir." Hym. Cymerwch bwyll; mae pob cymeriad yn bur hyd nes y ca ei brofi yn beth arall." Ni ddywedais mai efe yw y l'lofrudd; ond gwnaf fy llw mai efe yw perchennog y gyllell." Ie," ebai lLais arall yn ei ymyl, mae y dyn yn dweyd y gwir; eto, nid yw hynny yn profi mai Gruffydd Wyn yw y Ilofrudd." Erbyn hyn, yr oedd ystorm o siarad am Gruffydd Wyn, ac aeth yr hyn oedd yn cael e: ddweyd meg.is ar adain mellten i gluistiau swyddogion y Llywodraeth. Nid oedd y cyhuddedig yn bresennol, yr hyn eilchwyl oedd yn gwneud y peth yn waeth, ac yn fwy tebig i wirionedd i feddwl y drwgdybus. Yr oedd y dorf mor gynhyrfus, fel y dilynasant swyddogion y Llywodraeth i' r Cletwr. Yr oedd Gruffydd Wyn, y noson flaenorol, wedi bod allan yn yr ystorm ar ol ei anifeiliaid; ac yn an ffodus, wrth groesi un o'r gwrych- oedd gerllaw y ty, wedi torri archoll ddofn yn ei law, ac felly mewn poen dirfaw.r. Y r oedd wedi clywed y bore hwnnw am yr erchylltra ar y ffordd, ond yr oedd dyfodiad y fath dorf at ei dy yn ddirgeJwch iddo. Yn y wybyddiaeth fod gallu y deyrnas o'u plaid, aeth y swyddogion i'r adeilad yn hollol ddiofn, a dywedasant eu neges, yr hyn oedd yn ddigon i gyffroi pob dyn euog. Ond nid felly y gwnaeth yn ei gysylltiad a Gruffydd Wyn. Cawsant chwilio y ty yn fanwl, heb gael y gwrthwynebiad lleiaf; ond ni chawsant yr un prawf o euogrwydd yn ei breswylydd. Chwiliwyd y tai allan drachefn, ond heb fod yn ddim gwell. Mae un tty gwair eto, ar waelod y Ddô] Wenith,' ebai un o'r dyrfa, ac y mae yn rhaid ei chwilio." Aethpwyd yno, ac er syndod ugeiniau, mewn ychydig funudau daeth y swyddogion o hyd i lestri arian, a gymerasid, yn ddiddadl, oddiar y ddau drafaeliwr, oblegid yr oedd enw EgSfcys Llandyssul wedi ei gerfio arnynt mewn modd cywrain, yr hyn a bender- fynodd fod yn rhaid fod a fynno Gruffydd Wyn a'r llofruddaeth. Aethpwyd yn ol i'f Cletwr, a chymerwyd y pen-teulu druan i fyny ar y dybiaeth ei fod yn euog o lofruddio yr anffodusion. Rhoddwyd prawf arno o flaen yr Ynadon yn Llandyssul y dydd can- lynol. Yr oedd y gyllell a chaffaeliad y llestri, ynghyd a'r archo ll oedd yn ei law, yn ei gondemnio. Tracioclwyd ef I aros ei brawf ym mrawdlys flynyddol y Sir, yr hon oedd i gymryd lie ymhen chwe mis. Yr oedd Gruffydd Wyn yn ddyn mor gywir ym mam cyfoethogion y cymoedd, fel y pleich. niwyd ef allan o' r carchar hyd amser y prawf, er fod hynny yn groes i'r tyfraith; ond beth yw cyfraith lie bo arian? (l barhau). »

Advertising
Copy
FREE TO LADIES. Free to Ladies. Wise women should write jmmediately for Free Sample vi' the Triumph" Treatment and "The Manual of Wisdom." All irregularities cured wiincut Medi:ine by our New Method. Success Guaranteed in every case. Acta nsfantly where all else has failed. So wl,y worry ? Titcilanageress: Kb BRASSEUR SURGICAL Co. Ltd.. ttoept. V.M.), :?e<b(ta,? <jtf.3?Bt<trSt Birmingham i \),. p"? l .r-

Advertising
Copy
DEAFNESS And Noises in the Head. IF YOU ARE A SUFFERER-G. to your Local Druggist and order CONCENTRATED SOURDAL: price 219 per tin Thi ? Nw ?,M??y gives almost immediate relief, and quickl^effects a permanent cure. It penetrate to the actual seat of the complaint, and has completely cured many cases which were consired hopeless. If your Chemist does not yet stock 'SOURDAL', do not accept any substitute, buS send money-order for a supply direct to the SOURDAL DISTRIBUTING Co., 38 STATION ROAD, CROYDON, SURREY, ENGLAND, and a package will be mailed per return, with full directions. A PPLlCA TIONS for Agencies to Sell The Amman Valley Chronicle in the Villages of East Carmarthenshire should be forwarded to the Manager, Amman Valley Chronicle Office, Quay Street, Ammanford. .>i2.c" "1'4::a

News
Copy
I LLANDOVERY INDUSTRIAL CO-OPERATIVE I SOCIETY. A meeting of the newly-formed branch of the Industrial Co-operative Society was held at the Town Hall, Llandovery, on Monday evening, when the following officials were elected:- 'Chairman, Mr. Albert James, College View; vice-chairman, Mr. Fox, Crow Hill. A strong committee, conr- sisting of fout representatives each of the farmers and rallwaymen and out- side workers, was formed. It was decided that the secretary communicate immediately with the Society's architect with a view of acquiring as branch premises either the Crown Stores or Pl asydderwen, and to procure his report thereon. It was f zirther'decided that all s hare- holders should pay their respective sums of money due for shares at the next meeting of shareholders. A vote of thanks was accortled Mr. Jack James, who ha" -ared out ■; duties of temporary- sc -rt-.cL,

News
Copy
Llandovery Gossip. [By CIW BOWDDWR.") On Sunday morning the earth was enveloped in a mantle of snow, and the Mayoral procession was formed at the Town Hall under conditions heightened by the Mayor's scarlet robe, which one might be forgiven if he jumped to the conclusion that Father Christmas and his merry men were rehearsing for the Yule-tide festivities. Captained by Mr. D. T. Morgan, Pentre House, the Town Fife Band played the Corporation to church. They gave the necessary touch of liveliness to the occasion. Probably there was none more in- terested in the day's proceedings than the young scholars at the National School. There was a touching little incident illustrative of this. As early as ten o'clock a small boy, bent on being in good time, hied to the churchyard under the impression that it was the meeting place. Having remained there for some time in the bitter cold, he came to the conclusion that he had arrived too late, and returning to his hom, gave vent to tears. His happiness knew no bounds when his mistake was explained to him, and with a still smaller brother, who kept repeating that he wanted to see the mah fach garbed in at red coat, rushed to the Town Hall to join in the welcome to the master. Gradually faces that we have not seen for a long time are reappearing. The latest arrivals are Messrs. Davies, Bon Marche, and Fred Roberts, son of Aid. T. Roberts, J.P. They have just been demobbed, and look well. The event of the week in the local publishing world is the appearance of Vol ander's book of poetry. It contains many pieces suitable for recitations which are topical. The demand for the work is very great, and Mr. Isaac Harries, Towy Press, Llandilo, finds the greatest difficulty in meeting the clamour of the public for copies. A show, hoop-l as, penny shies, and hand-driven roundabouts visited the town on Fair Day. The aristocratic— or should I say autocratic )—element on the Council have driven big merry-go- round proprietors in the way of sites so much from pillar to post in the past, that they have for some years now given the place a wide berth. So we have to be thankful for small mercies in this direction. The result has been that young people from the town and the country around gathered their pence together and spent them at Llandilo Fair. This is a good way to increase; the prosperity of a town. Aid. T. Watkins, J.P., is Llan- dovery's first Deputy Mayor. He was first appointed 14 years ago this November by Mr. Pryse-Rice, and under him served for 12 years. I am sorry to note that the Alderman has not enjoyed good health of late. May he speedily recover, and with the return of mild weather resume his public duties, and for the remainder of the year suffer no pain or sorrow. Housing schemes all over the King- dom are still very much in the air. Dr. Addison and his staff appear to be far abler talkers than performers. Dancing is the rage of the moment at Llandovery. Classes are being run at the Public Hall and the Church House. In both places, I hear, the devotees of the terpsichorean art are on the increase. The Mayor (Councillor M. H. Nichols) and the Mayoress are giving the movement a lead. The public-houses, for the first iime for years, enjoyed an extension of hours from 10 to 10 on Monday. It was evident that the beer has not yet I reached its old-time strength, for very few drunks were in evidence. ¡ My sympathy with Mr. Pussyfoot Johnson. The man who hit the old man must have been a brutal coward. I would say this evert if I was a drunkard. It is likely that he will lose the sight of the injured optic. It was a graceful act on the part of Councillor Daniel Jones, the ex-Mayor, to propose his successor, and he did it too in such a way as to win the com- mendation of all present in the Council Chamber. Miss Madge Deans, daughter of P.S. and Mrs. Deans, who was one of the first ladies from the town to volun- teer for active service, has just been demobilised. Valuable war work was also rendered by Mrs. Deans and Miss Muriel Deans. Latest: What has become of the German gun) A local demobbed ms* c reo a farmer that 't was a mammoth pea shooting mach.e come tor iLv, fl.

Advertising
Copy
BROKEN HEARTS MADE SOUND AS EVER I I <NMMMNNMMMMMMNMNMMMMMMMMMMMMMMMMNMNMNMMMNMMMNNNNNNMMNMNMNNNM All you have to do is to get married and then Furnish the Home from the Immense Stock held by that well-known old-established Firm by far the Largest Furnishers in the Principality BE AN & COMPANY, LTD.: Swansea, Llanelly, Cardiff, c. They hold at their numerous Branches everything required for Complete Furnishing from Tea Spoons to Pianofortes, warrant every article, sell at most moderate prices, and deliver free up to 200 miles from all Branches.

News
Copy
AT EIN GOHEBWYR AC ERAILL. t Y sgri/au, Barddoniaeth, Nodion, Hanesion, a Gohebiaethaa i'w hartion cyn GYNTED YN YR WYTHNOS ag y byddo modd i'r Golygydd, Cronicl DYFFRYN Aman," AMANFORD. (

News
Copy
[Er ein bod yn rhoddi pob cyfleustra i ohebwyr ddatgan eu barn ar gwestiynnau lleol, nid ydyw hynny i olygu ein bod yn cydsynio a' u daliadau.—Gol.]

News
Copy
Nid ydym yn ymrwymo i ddychwelyd unrhyw ysgrif annerbyniol os na anfonir amlen a stamp gyda chats am hynny ar y pryd. Cofier hyn, gan y rhoddir toll drom i'r fasged bob wythnos. Rhaid bod yn fyr ac i bwynt.— Gol.

News
Copy
I NODION O'R BLAENAU A'R CYLCH. Er yn chwilio yn fanwl Mr. Gol., o wythnos i wythnos am rhyw newydd yn eich papur clodwiw o'x lie hwn, .rwy.n methu dod i gyffyrddiad a dim o'r fath, ond yn geneu iawn. Yr oeddem ynsiarad a chylaill pa ddydd ynglyn a'r newyddiolll sydd yn ynddo. GofynodA i mi am a pha le yr oedd y rhai oedd yn arfer ysgrifennu i'r newydd- iadur hwn, sef Lusi Ann a'i merch, a Hedydd Caerbryn," a'r farn ddaethutn iddo ein dau oedd hyn, bod L.A." wedi marw a'i merch yn briod, a Hedydd Caer- bryn wedi cymeryd adenydd y gwynt a ffoi. Newydd blin iawn ydyw'r newydd gyntaf sydd gennyf, sef cofnodi marwolaeth yr hen frawd duwiol a pharchus, John James, Mount Pleasant, o r lie hwn, yr hyn a gymerodd le dydd Mercher, Tachwedd 5, yn 77 oed, ar I ol tair blynedd o gystudd caled, yr hwn a ddioddefodd yn dawel hyd y diwedd. Gadawodd i alaru ar ei ol un mab, sef y Parch. J. M. James, B.A., ficer St. Clears. Claddwyd el weddimon marwol y Sadwrn canlynoil ym mynwent Eglwys y. Plwyf. Gwasanaethwyd aT yr achlysur gan y can- lynol:—Yn y ty, y Parch. A. Britten, Gorslas; yn yr eglwys ac ar Ian y bedd, y Parch. D. W. Thomas, M.A., ficer, a J. LI. Thomas, B.A., curad. Nodded y Nef fo ar ei fab a'i deulu yn ei galar. GLOWR.

News
Copy
CAN Y PERERIN. I Blin yw teifhio'r maith ainialwch Ar hyd y nos, Mewn ystormydd a thywyllych, Ar hyd y nos; Eto, f'enaid gwan, nac ofna, Tyn ymlaen, na ddigalanna, Cai dy gynnal gan Jehofa, Ar hyd y nos. Os dy lwybr fydd ddyryslyd Ar hyd y nos, I Edrych ar y golofn danllyd Ar hyd y nos; Duw yn honno sydd i'th arwain, Ac i'th gadw ihag pob, damwain: Gwaedda di, fe glyw dy lefain, Ar hyd y nos. Gwylia'n ddyfal rhag gelynion, Ar hyd y nos, Sy' n amgylchu llwybrau Seion Ar hyd y nos; Bydd yn wrol a safadwy, Gwrthwyneba'r Hew rhuadwy, Rhuthrau hwn sydd yn ofnadwy Ar hyd y nos. Cofia'r Gwr fu yn dy ddeddfle Ar hyd y nos, Yn ymdrechu'n Ngethsemane Ar hyd y nos; Nodded pob credadyn egwan Ydyw'r Gwr, ei dwr a'i darian, Nes ei ddwyn i r "gynnes Ganaan, Lie na bydd nos. Rhydaman. JOSEPH WATERS. Rhydaman.

News
Copy
RHIANNEDD DIHEDD Y TREFYDD. Rhiannedd anffodus y strydoedd, Merthyron i nwydau a brad, Byw maent yn y caddug a'r niwloedd Dan lenni o warth a sarhad; Mae pruddaidd gysgodion eu croesau Yn disgyn yn drwm ar eu taith, A gwewyr angeuol eu gwaeau A'i bwyntel yn cerfi dwfn graith. Eu llwybrau sy'n llymion a garw, Eu calon gan ingoedd yn friw, Ac atswn y stormydd blin, chwerw, Yn torri'n ddibaid ar eu clyw; Dim haul yn eu wybren, na glesni, Na llewyrch yr un seren gron; Llym donnau o wae sydd yn torri Ar oerion draeihellau eu bron. Mae'u bywyd dan gwmwl o warthrudd, A phechod yn hagru eu trem, A gwelw fel marw eu dwyrudd Yn oerni yr awel lem Wrth dreullo fath fywyd afreidiol, Trueni o'u cylch sy'n amgau, A suddo y maent hwy yn ddyddiol I farw mewn dyfnfor o wae. Mor chwerw yw storm eu treialon, Truenus yw atswn eu cri, A'u mynwes yn lluest gelynion, Euogrwydd yn uchel e-I rhu; Ynghanol eu ingoedd a'u a laeth Daw atgof fel angel ar hynt: A chredap fod dwyslef eu hiraeth Am fywyd dihalog fel cynt. I Iwybrau hudoliaeth a'u swynion Eu denwyd -gan liwiau oedd gain, Er chwilio ni chawsant o'r ceinion, Ond brathiad blaenllymion y drain; Yn treio mae lloniant eu bywyd, Yn deifio mae cochwrid eu grudd, A gwywo ar oer balmant adfyd Eu bywyd yn ddyddiol y sydd. Mae meddwl am ing eu trueni Y n gwneuthur fy ysbryd yn friw, A' r Eglwys mor brin ar ei gweddi Dros rhai truenusaf yn fyw Mor barod mae dynion Iw arddu, Yn hytrach na rhoi iddynt law, A llawer du adyn wna'u sathru, Heb deimlo ei galon mewn braw. Arafa, fy mrawd, 0! arafa, Paid sathru y truan dan draed; Dy chwaer yw, a Duw a ofynna Rhyw ddydd ar dy ddwylo ei gwaed1; Os trwm yw y byd yn eu mathru, Mae Duw yn eu caru bob un, A phara mae' r lesu i holi: Atolwg, pa le mae y dyn? Difalm yw y byd i'w dwfn glwyfau, Didostur i'w archoll a'u briw, Sarhad yw ymweld a'u hofelau Can lawer addolcunt eu Duw; Ond os, ydyw'r byd yn eu gwawdio, Mae'r lesu yn rhad ar Ea falm: Y n galw hwy- n dyner mae ato, Er rhoi yn eu genau hwy salm. Twyn, Garnant. J. W. JONES. I Tu?n, Garnant. j

News
Copy
HEDDWCH. Ddelfryd cain tragwyddol gariad-Noddyd pob rhyw rinwedd mad,— Geidwad y dymuniad difrad—Gymwynasydd goreu gwlad; Ei deyrnasiad llawn doethinebrydd i'r byd ei fedydd tan Teyrnwialen barn ac undeb sy' n ei law gywreinferth lan. Dan ei gysgod y meithrinir purdeb a brawd- garwch gwir, Drygau fyrdd o hyd a gleddir yn ei ddylan- wadau îr: Rhodd y Nefoedd i'r ddynoliaeth i'w hwyluso ar ei thaith, Tua brodir hardd gwasanaeth,—tua'i chyfnod gwyn, di-graith. Heddwch-ange1 chwim givarcheid.101 wylia'r fwyn uchelgais lan Yn ei hud di-drai, ar hoso l mola'r Sant heb ddieithr dan, Rhodia'r byd i'w ryddid perffaith dan ei gyfarwyddyd pur; Hwylio, hwylio o'i galedwaith wna i'w Ganaan ber, ddi-gur: Canu y mae'r adar mwynion yn nhlysineb gwawrddydd glir, Pynciant nes gwefreiddio'r galon—pynciant nes adlonni'r tir; Byd di-gan fai byd di-heddweh wedi colli i goron glaer, Diadlonianc, dibrydferthweh, heb oleum U Mab y Saer Trig llawenydd, a diddanwch, yn ei fyw addfwynaf ddydd; A bendithion maws dyngarwch ledir trwy'i gynghorion rhydd: Nwydau ddoifr, 1 let hir dieter, ffoi i ffwrdd wna .r amcan gwael; Yn ei wenau didwyll tyner, fel y niwl o flaen yr haul, Grymus fel y llï diatal yw ei ymchwydd yn y byd Daw a' i rasol wen ddi-ddial i' n cartrefi mwyn o hyd; Adeg cynnwrf a Ilonyddwch, cadarn fel y graig ei lef; Dyma frenin pob hawddgarwch, a ffynhonnell llwydd pob tref. Yn fy enaid cyfyd hiraeth am dy wynddydd, Heddwch glan, Cryn fy ngobaith yn ei alaeth, ni all Weld trwy'r niwl a'r tan: Ond mi glywaf lais gweledydd—" Heddwch ga'r dyfodol mawr, Swyn ei glod wna synnu gwledydd gyda'i wen ddi-fachlud wawr." 0 gyfnod bendigedig! Llygad Ffydd Sy'n gweled glesni gwawr rhyw newydd ddydd, Rhyw loew ddydd, a gwawl yr heulwen dlos Y n ymlid ffwrdd am byth gysgodion nos, A sugno cysur mae fy nghalon friw W rth sisial drosodd wiw addewid Duw. Mae dyn yn rhuddo'r meysydd, gyda gwad, A lladd a sathru brawd i lawr dan draed; Anghariad fu yn cydio' n ngharn y cledd, A lief gwaed Abel eto gwyd o'r beddl- Diniwed waed yn gwaeddi ar i'r Ne'- I sibrwd Tangnef dros yr erchyll le Ac i galonnau drylliog mam a thad, Mewn hiraeth a chaledi drwy y wlad, Addewid Duw fel balm i'w clwyfau ddaw, A glofcwa'r bore yn y dwyrain draw. Nid byth mae r cledd a'i deyrnas i barhau- j U Ac ni bydd ryifel mwyach." Mae y gwae, Y loes, y poen, a'r adfyd oil i ffoi, Yn Eden dlos ca'r byd cyn hir ei droi, Daw byd, wrth droed y Groes, i weld yn g'ir Man nid trwy ladd mae c(yncro,-Carlad pur Yn ulO gwledydd daear-byd heb gledd, ,Y n U, g Heb ddrain ar flodau,-Heddwch ar ei sedd. Oi na thorrai Gwawr y Nef ar nos ein byd! 0 gyfnod euraidd! gwn y claw Yn berffaith mewn cyflawniad maes o law, Can's gwn gan bwy y rhowd addewid gun-, Yr Hwn sydd ddoe a heddyw, a byth yr IJD; A 'nghalon wyr yn dda na fethodd Ef I ddwyn i ben amcanion da y Nef; Os trwy anialwch blin arweini ni, Gofala'n tywys mewn i'r Ganaan gu, Bydd llewyrch Ei addewid ar fy nhaith, Yn perlio r dagrau ar fy ngruddiau llaith, Heb gysgod troedigaeth." Daw, fe ddaw i Yr amser hyfryd sydd yn gwawrio draw,— Swn rhyfel wedi gorffen-bydd pob cledd, Pob gwaewffon yn nwflo engyl hedd Yn sychau a phladuriau; daw pob gwlad I ffrwytho a blodeuo'n Eden fad. Tragwyddol gariad Duw sy'n tynnu'r byd A" ddenu i fyw i'r glan a'r gore o hyd; Ac wedi claddu brwydro, law yn Haw A'r uchaf cerdd y dyn i'r gwynfyd draw Anghariad, trais, a gormes, gyda'r cledd, A chas ac anghyfiawnder roi'r mewn bedd, Ac ni fydd son am wasgu'r gwan a'r tlawd, Yngoleu cariad bydd pob un yn frawd; Nid gwaed y werin wiw a nerth y cledd Fydd gallu'r deyrnas; na, bydd Baner Hedd Ac undleb gwir, a Th'wysog Tangnef gwiw, Yn arwain byd ,i Iwybrau gwell i fyw. O! mae fy enaid I Yn hiraethu am y dydd! 0 broffwydoliaeth hyfryd! F'enaid gwan, Er rhwystrau lu, gofala wneud dy ran Y disgwyl distaw, gyda'r credu cryf, Y gweithio cyson gyda chalon hyf, Sy'n agor drws y bore-bore mawr, | A llanw cariad Duw ar flaen y wawr, Yn adgyweirio tannau'r delyn friw, A'I rhoi mewn cydgord pur a thelyn Duw. Nid gwaedd l r gad, na rhyfel-gan fydd mwy, Ac ni rydd seiniau hon i' r galon glwy, Can's gore Nef a daear wet y dyn Yw caru arall fel efe ei hun Nid ymladd gyda-g arall mwy a wna, Ond ceisio trechu hunan, drwg ei bla: Bydd anial calon dyn, dan wenau Naf, Fel gardd yn llawn o Rodau tlysion haf. A Heddwch drwy y cread,—Amser mad Bydd byd yn deall ystyr iawn Ein Tad Wrth droed y Groes bydd cydradd—mawr a thlawd, A chalon dyn yn c'lymu yn ei frawd; Byd heb gledd, a dyn yn cerdded Gyda'r Dwyfol law yn Haw. U Dyma'r oriau Wyf yn ddisgwjJ fod gerllaw." Y TANT AUR. I