Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
21 articles on this Page
_--D I N B Y C B.
D I N B Y C B. rr Llwyddiant.-Da genym ddeall fod Mr. D. W. Davies, cutter gyda Mr. J. Thomas, clothier, Higher street, wedi llwyddo i enniil y gradd-ly^hyr "o deilyngdod yn y dosbarth cyntaf, gydaganrhydedd, am dori dillad bonedd- igesau a boneddigion, yn y Ministers Cutting Academy, Llundain. Cyfarfod Pregethu.- Nos Fercher a dydd Ian cynnaliodd yr Annibynwyr eu cyfarfodydd blynyddol yn nghapel Lon Swan, pan y preg- eth Nyd 1 gy nulieidfaoedd llioso; an y Parchn. H. Elfed Lewis, M.A., Llundain ac R. Rees, Alltwen. Cafvyd cyfarfod rhagor 1. Cyfreithiol.—Y mae y swydifeydd newydd cyssylltiedig â'r llythyrdy yn y dref hon wedi cael eu cyrnmeryd gan y Mri. W. R. Evans a Jones, cyfreithwyr, Rhuthyn. Deallwn y bydd i'w busnes gae! ei gario yn m'aen ,,mewn cys- tylltiad A Mr. Price Williams, cyfreithiwr. Ptnnodiad. Yn nghyfarfod Pwyllgor y Gwallgofdy, dydd Lam, pennodwyd y Parch. H. Humphreys, rheithor Henliar, yn gaplan Eglwysig y sefydliad hwnw, yn lie y Parch. Daniel Davies, rheithor Dinbych, yr hwn sydd ar symmud i Wrecsam.
MARWOLAETH MR. WILLIAM WILLIAMS,…
MARWOLAETH MR. WILLIAM WILLIAMS, Y GRAIG. BOREU ddydd Llun, Hydref 21ain, bu farw y g&r adnabyddus hwn. Cyrhaeddodd yr cedran teg o 69 mlwydd oed. Dioddefodd ]awer oddi wrth anhwylderau corphorol y blynyddoedd diweddaf y bu efe byw, ond y drugaredd oedd ei fod wedi ei fendithio a cliyfansoddiad cynmiharol gryf, yr hyn a'i galluogodd i'w gwrthsefyll am cyhyd o amser. Heb law hyny cafodd y driniaeth dyneraf, a phob ymgeledd gan ei wraig, Mrs. Williams, yr hon a fu yn hynod o ffyddlawn a thirion o hono hyd y diwedd, yr hyn a allodd hon hi a'i gwnaeth.' Cafodd ein anwyl frawd ymadawedia y-fm. iiit o fod gyda clirefydd am Rynyddoedd, a glynodd yn ffyddLlwn iawn hyd y gallai yn y cylch yr oedd wedi ei gyf- addasu iddo hyd y diwedd. Gwnaeth wasanaoth pwysng gyda chyssyllt- ia-iau arianol yr eglwys ac yn yr ystyr hono yr cedj yn un o'i cholofnau cryfaf hi Am ddifadwyd ef yn Hwyr y blynyddoedd diweddaf i werthfawrogi dim ar wasanaeth y cyssegr: yr o, dd wed' myned yn drnm iawn i glywed, etto daliai i gredu mswn bod yn esirtmpl er nad oedd yn clywed oinio ranan amryvviol y gwasanaeth, ac fod gan yr \rglwydd lwybrau eraill i gludo beudithion i'w blant ef heb law y glast yn unig. Bylchir teulu, eglwys, a chynimydogaeth yn ei farwolaeta. Yr oedd yn naturiol siarad- us, a gwnai ei hunan yn hynod o rwydd a rhydd mewn cwinni ac yn mhlith ei gymmydog- ion a'i gydnabod. Dymunwn heddwch i'w Iwch hyd foreu y codi, a nawdd Duw fyddo ar ei weddw a'i berthynasau oil.
: Y TEMLWYR DA.
Y TEMLWYR DA. Nos Wener diweddaf bu aelodau Teml Caled- frya o U rdd y Temlwyr Da yn dathlu 35ain rulynedd o sefydliad eu tend, trwy gynnal swper a chyfarfod amrywiaethol yn Bodawen. Daeth nifer liosog iawn o aelodau ac eraill ynghyd, a threnliwyd noson ddyddorol. Uwasanaethwyd wrth y byrddau gan amryw o chwiorydd y Deml. Llywyddwyd y cyfarfod gan y Prif Dentfydd (Mr. J. Tregoning), ac yn nghwrs ei anerchiad cyfeirtodd at y safle lewyrchus yr oedd y Demi ynddi ar hyn o bryd, a r gwaith di a wneid ganddi. 1 r oedd yn dda gmddo weled un chwaer yn bresenno]-r hon oedd yr unig aelod o'r deml oedd yn cymmeryd rhan yn ei tefydl- iad, bymthengmlyned ar hngaiuyn oI-sef Mrs. Hughe", Vale Street. V r nedd y chwa r hon wedi bod yn ffyddfawn i'r Deiiil ar hyd y blyn- yddoedd, ac yr oedd gan ei sêl hi Jawer i'w wneyd &'r llwyddiant oedd yn bod ar y Demi heddyw. Dymnnai ei llongyfarch hefyd ar y ffaith ei bod y flwyddyn hon yn btdwar ugain mlwydd oed; a hyderai y caffai lawer blwyddyn etto i weithio o blaidlTemlyddiaeth, a phob ael. os da yn y dref. Wedi hyny aed yn nlten gyda'r rhaglen a ganlyn C&n, Gwlad y Delyn,' Miss L. H. Evans. Adroddiad, Mr. Herbert Williams, Temple Bar. Can, 'Llwybr y Wyddfa' Miss Bessie Tregon- hg, ac encoriwyd hi. Adroddiad, Miss Lizzie Edwards. Cn, Cwm Llewelyn,' Mr. John Williams. Adroddiad, Mr. John Hughes. Ctn, Miss L. H. Evans. Adroddiad, Mr. Edward Roberts. Yr oedd dwy gyhdleuatth wedi eu rhoddi gogyfer A'r cyfarfod, sef unrhyw adroddiad, a chyfansoddi pennillion i'r Chwaer Husrhes,' y buddugol ar yr adroddiad ydoedd Mr. John Hughes. Yr oedd wyth o feirdd wedi canu i'r Chwaer Hughes, a darllenwyd beirniadaeth Mr. David Owen arnynt gan Mr. J Morris Jones; y budd- ugol ydoedd Mr. William Davies (gyda Den- sons), a chyflwynwyd iddo 'gadair dderw' a gwobr. Nid oedd modd cadeirio y bardd, am fod y ga 'air yn rhy fechan. Llongyfarchwyd y bardd gyda phenniil'gan Mr. John Roberts, (Densons). Beirniadwyd yr adroddiadau gan Mr. D. M. Roberts (gynt o Colwyn Bay a chafwyd ad- roddiad digrifol ynghr d a chan ganddo, er mawr fwynh-d i'r gyimulleidfa. Terfynwyd y cyfarfod trwy ganu Hen Wlad fyNhadau,' Mr. John Williams yn canu yr anawd. Cyfeiliwyd yn ystod y nosoo gan Miss Tre- goning a Miss M. E. Evans, Chapel Street.
LLYS YR YNADON SIROL.
LLYS YR YNADON SIROL. CYNNALIWYD y lljs hwn dydd Mercher, ger bron y Mil. Mesham fyr hwn oedd yn llyw- yddu), Cadben Cole, Mr. E. 0. Watkin Davies, a Mr. Bennett Jones Y Diweddar Filwriad Lloyd Williams. Darbyniwyd llythyr oddi wrth Mr. J. R. Lloyd Vk il iams, b?andfoid Lodge, Wavertree, yn diolch, ar ei ran ei hun a'r teulu, i'r ynadon am eu cydymdeimiad a. liwy ar farwolaesh eu tad. Cyhuddiad o Ladl ata Plwm yn Llansannan. Gwysiwyd Mr. Joseph Williams, Cae Coed, Llansannan, am ladratt swm o blwm, tiddo Mr. Wynne Yorke, rhanbeichenog o ystad Dyffryn Aled. Erljmid gan Mr. A. O. Evans, ac amddiffyn- id gan Mr. O. R. Moseley. Wrth osod ffeithiaa yr achos ger bron dy- we'odd Mr. Evans fod y darn o blwm dywed- udig yn pwyHo 28 pwys, ac yr oedd yn werth 10s Ar y lOied o'r mis hwn dychwelai Mr. Wynne Yorke adref tua phump o'r gloch, 311 jighwmni ei is geidwad helwriaethol; a phan yn ymyl tai y ccvn gwelodd y diffyuydd yn •cerdded 0 i flaen. Y foment y gwelodd Mr. Yorke cerddodd yn gyflymach. Dechreuodd Mr. Yorke deimlo yn ddrwgdybus, ac attaliodd y dyn. Yn nghwd y diffynydd yr oedd y darn o Slwm dywededig, hen gloc, a chrwyn cwningod.! Gwelwyd y boreu canlynol fod y plwm yn ffitio y lie yr oedd yr erlyniad yn honi ei fod wedi cael ei gymmeryd; sef, o do un o'r adeiladau allan. Rhoddodd Mr. Wynne Yorke ei dystiolaeth i gadarnhan y mynegiad uchod. Wedi nyny rhoddodd Mr. Ryecroft Olkes, goruchwyliwr ystid Dyffryn Aled, a Join Williams, yr ts-geidwad helwriaethol, ac Ebenezer Barlow, a'r Heddgeidwyad Davies, eu tystiolaeth dros yr erlyniad. Dadleuai Mr. Moseley, gan nad oedd y plwm wedi cael ei tori ymaith, nas gallai fod ar yr adeilad ac felly, nad oedd yna un trosedd o dan yr adran o'r gyfrrith yr oedd yn cael ei ddwyn yn mlaen. Y cadeirydd a ddywedodd eu bod hwy wedi ystyried y dystiolaeth, a'u bod oil yn cyttuno, o dan yr adran o'r gyfraith grybwyllwyd, nas gellid c el y diffynvdd yn euog; ac felly, y rhoddid iddo fantaiso'r ammheuaeth a chafodd yr achos ei daflu all n. Presennoldeb yn yr Ysgclion. Gwnaeth John Pritchard, B' >tty L'is, Nant. glyn, ei ymddangosiad i atteb i wfs yn ei gyhuddo o heidio anfon bacligen yr osdd efe yn cymmery J ei ofal i'r ysgol. Mr. Roier Pryce, y swyddo* presennoldeb, a ddywedodd mai y presennoldeb am gyfnod neilluol ydoedd 152 allan o 209. Yr oedd y diffynydd wedi ael ei wysio i ymddangos o flaerj y Uywiawdwyr ar yr 8fed o Hydref, ond ni wnaeth ei ymddangosiad. Dirwywvd y diffynydd i h. a 3s. o gostau. Gwysiwyd Thomas R. Jones, Rhiwlas, Saron, am drosedd eyffelyb, end ctfocld yr achos ei ohirio am fis. Hugh Evans, ftermwr, Pantychwarel, By'chau, a wysiwyd am drosedd eyffelyb. Dirwywyd y diffynydd i 61., gan gynnwys y y costau. Otvrthoi Cmiatau caiv Ci heb Drwydded, Gwrthwynebodd yr heddgeidwad Williams, Nantglyn, i Price Roberts, Llythyrdy y Bylchau, gael cadw ci heb drwydded, am y rheswm nad oedd ganddo ddigon o ystoc, a'i fod wedi talu am drwydded yn tiaenorol. Dyma y drydedd waith i'r achos gael ei wrandaw. Gwrthododd yr ynadon ganiatau y cais.
ANRHEGU Y PARCH DANIEL DAVIES,…
ANRHEGU Y PARCH DANIEL DAVIES, Y RHEITHOR. Dydd Linn diweddaf cynnaliwyd cyfarfod, o dan lywyddiaech y warden Eelwysig hynaf (Mr. Humphreys Roberts) o Eglwyswyr Din- bych, i gann tiarwel i'r Parch. Daniel Davies- yr hwn sydd yn symmud i Wrecsam, ar ol llaf, urioam ddeng mlynedd yn Ninbych. Cymmer- odd y ffarwel y ffurf o anrheg, tuag at yr hwn yr oedd 132p. 4s. wedi ei danysgribo ac wedi i tray arian haidd gael ei bwrcasu, gydag arys- griten briodol arno, gosodwyd y gweddill mewn pwrs. Cymmerwyd rhan yn y cyfarfod gan y Mil. Mesham, Mr. J. P. Lewis, Mr. John Dav- ies, Mr. C. Cottom, yr Ysgrlfenydd Trefol (Mr. J. P. Jones, ac eraill o'r plwyfolion, y rhai a gyfeiriant "t y gwaith oedd wedi cael ei wneyd gan y rheithor tra yn trigiannu yn en inysg I yfeiriodd y rheithor, mewn anerchiad ffar- wel, at y cydymdeimlad parhaus a r gefnogaeth estynwyd iddo gan bobl yr Eglwyslo bob dosbarth a dadganodd y teimlad o ofid oedd yn ei feddiannu wrth ymadael o'u plith.
.. EBION 0 NANT G ON W Y.
EBION 0 NANT G ON W Y. Y BRTCHEUYN a'r trawst sydd yn blino trigolion rhanau neillduol o gylch yr ohebiaeth hon. Cwyna rhai o olynwyr y Benjaminiaid llaw-chwith yn erbyn beichio y wlad i threthi, trwy adeiladu adeilad i gadw ysgol rydd i ddysgu y plant mewn addysg uwehraddol, heb son am hnalau crefyddol un math o enwadaeth. Mae yn yr ardal ddigon o addoldai i ddysgu crefydd i'r plant. Nid ydyw yr hyn a ellir ddysgu o grefydd i r plant yn yr ysgol yn cael dim mwy o effaith nag a ga tywallt dwfr ar gefn ceiliogwydd. Ni welodd neb un math o ddylanwad ymarferol ar y plant ar ol iddynt dreuho dyddiau, misoedd, a blynyddoedd i ddysgu yr hyn a elwir I crefydd' yn yr ysgol. Dysger addysg feunydd ol yn yr ysgol, ac yna fe dderfydd yr ymrafael yn chwap. Nid ydyw rheolwyr yr Ysgolion Cenedlaethol yn meddu yr awdnrdod i wneyd cyttundeb i adael allan addvsg Eglwysig o'n hysgolion. Daeth y meddyl- ddrych o'r ysgolion hyn i feddwl gwr neu wyr penboeth Eglwys:g y byddai yn fnddiol cael ysgolion o fath y rhai hyn yn y wlad fel math o genhadaeth Eglwys'g i ddysgu a lledaenu addysg Eglwysig, ac i Eglwyseiddio —nid Onstionogeiddio—y trigolion. Gwyr y Benja- miniaid hyn, o'r hyn lleiaf dylent wybod, mai i'r cyf- ryw ddyben, yn benaf, y cynlluniwyd ac y cychwyn- wyd yr ysgolion hyn. Nid ydyw yr Ysgolion Cenedlaethol yn meddu un arlliw a annibyniaeth. Maent yn cael eu rhwymo, ben, traed, a dwylaw, gan ammodau. yr ymddiriedaeth (y trust-deed'). Nid ydynt yn meddu yr hyn a elwir rhyddid yr ewyllys. Y maent mor gaeth ag unrhyw garcharor. Maent dan rwymau gorfodol a rheol ben- dant i ddysgu addysg Eglwysig i bob plentyn a ddelo i'r yssrol. Mae gwyron y mesur Ileiaf yn doriad ar yr ymddiriedaeth, ac yn peryglu yr ymddiriedaeth yn y fath fodd fel ag i'w gwneyd yn ddi-rym. Ni fedd y rhai nad ydynt yn dewis i'w plant gael addysg Eg- lwysig ond un llwybr allan o'r coed-un ffordd o ym- wared sicr, gwneyd defnydd o Adran Cowper-Temple' —tynu y plant allan i anadlu awyr iach, neu, yn hytrach, en cadw allan, pan y mae hanner awr yr hualau Eglwysig mewn gweithrediad. Nid oes un Y sgol Genedlaethol yn rhydd. Ni fedd y rheolwyr hawi i ddewis y prifathraw, nac, yn wir, yr athraw cynnorthwyol, heb iddynt fod yn Eglwyswyr; o'r hyn lleiaf, felly y maent wedi gwneyd yn mhob amgylchiad. Os ydyw offeiriad Penmachno a'i gyd reolwyr yn or- awyddus am arbed traul a dwyn beichiau ar yr ardal, a chwanegu at y trethi, geill ysgoi hyny yn hawdd Tafled yr ysgol i fyny, ac yna fe fydd i hyny ddwyn i'r ardal heddwch a chymmydogaeth dda. Os na wneir hyn, mae yn sicr mai ysgol arall a fynir. Fe ddaeth yr ysgol, o'r fath ag ydyw, i Benmachno nid yn gyfun- wedd a dymuniad y bobl, ond trwy waith clerigiaeth wenieithus yn gweithio i mewn i lewys yr uchelwyr, gan eu hud-ddenu ag ymadroddion teg i'w cefnogi hwy gyda rhoddion mewn tir ac arian at adeiladu Ysgol Genedlaethol. Gallesid, yr adeg hono, gyfrif y plant a fynychent eglwys y plwyf ar fysedd un Haw, tra plant y rhai a fynychent y gwahanol addoldai Ymneillduol yn ddim llai yr adeg foreu hono na chwech neu saith ugain. Cafwyd tir gan y diweddar Filwriad Douglas Pennant-nid oedd wedi ennill yr urdd-enw yr adeg hono o Arglwydd Penrhyn; ac am y fath weithredoedd a'r rhai hyn yr ennillodd iddo ei hun a'i olynwyr yr anrhydedd. Ni safodd ar hyn chwaith, ond lledaenodd roddion fel cenllusg i gynnal i fyny ysgolion o fath y rhai hyn, ac i ddal i fyny ac i ledaenu Eglwysyddiaeth —egwyddorion y cariadns frodyr.' Trwy weniaeth, dichellion, a gorthrwm y planwyd, y lledaenwyd, ac y cadwyd yr ysgolion hyn i fyny yn y gwahanol blwyti Ile nad yw y trigolion oil ddim o'r auedd nac o'r fath argyhoeddiad Mae y rhai sydd yn gwneyd cymm iint ag sydd yn eu gallu i ddal ac i gadw yr ysgolion hyn i fyny, ac i dderbyn rhoddion o'r Llywodraeth am ddysgu plant YmneiJIdllwyr-plant nad ydynt hwy na'u rhieni yn twllu drws' yr eglwys agos byth; ac etto, y maent yn ddigon parod i gymmeryd y rhoddion am eu dwyn i fyny yn yr ysgol Eglwysig, ac yn egwyddorion yr Eg- IwyA y maent hwy a'u tadau wedi cefnu ami er's rhai oesau. Maent fel hyn yn tueddu i hau hadau cenfigen, ac i gynnal i fyny anghydfod i chwerwi nwydau y naill blaid tuag at y llall yn euog o wneyd cymmaint ag a allont i gren gelyniaeth, dygasedd ac anhariadoldeb yn mhlith y werin a'r miloedd, fel nas geill nn o honom sydd yn syllu ar byngciau dansoddol o fath y rhai hyn ddeall pa'sut yn y byd y gallant gyd-uno yn y byrdwn clochyddol, Gwared ni, Arglwydd daionus I' Mae y rheolwyr hyn, yn eu dallineb ac yn eu byddar-, dod, yn clochdardd ac yn dadwrdd ynghylch y bwgan treth, a chodi y trethi heb ystyried mai hwynthwy sydd yn gyfrifol am, ac yn euog o ddwyn hyn oddi am- gylch. A ddisgwylir i blant Ymneillduwyr fynychu ysgol lie y maent yn gorfod ymostwng a phengrymu i'r athrawiaeth mai Sismaticiaid a heresiaid o'r fath fwyaf melldigedig ydyw eu rhieni ? Mai cyrchle plant y fall ydyw y capeli, ac nad oes un adeilad ag yr ar- swyda clerigwyr Eglwys Loegr fyned o fewn ei fnriau yn fwy na'r capel, cyrchle y Sismaticiaid gwaethaf a anadlodd awyr erioed ? Mae un yn disgwyl fod rheolwyr yr Ysgolion Cenedl- aethol yn hysbys ddigon o gynnwysiad Uyfr a elwir 1 St. Ronan's Well' Yr oedd Meg Dods yr unig un a feddai westty i groesawu dyeithriaid yn St. Ronan's Well. Nid oedd un gwestty arall yn nes at ei hnn hi nag o fewn un filldir ar bymtheg. Yr oedd Meg y fath un gyda'i gwestty ag y ceir clerigwyr Eglwys Loegr j gyda'u hysgolion Eglwysig. Dim mwy na llai o ryddid a geid yn ei gwestty nag a ystyriai hi yn briodol, ac yn anhebgorol angenrheidiol; ac os tynai un ac arall yn erbyn ei bwa, llefai:—' Troop off, wi' ye to another public.' Wrth gwrs, gwyddai Meg yn dda nad oedd un arall yn gyfleus heb daith o ychydig yn llai nag ugain milldir. Methwyd a dygymmod ag arwedd unbenol a gor- thrymus Meg. Gwnaed pob ymgais 1 ddarbwyllo Meg i ganiatau mwy o ryddid gyda diod a lluniaeth, ond trfjdd y cyfan allan yn ofer. Ni wnai Meg na rhveh na gwellt. Mynai hi ei bod yn deall yn llawer gwell beth oedd yn Hesio ac yn fwyaf adeiladol. Ni chaniatiai ryddid i neb i wahaniaethu ac os codai un ei lais a'i gloch, Troop off wi' ye/ &c., fyddai y lief a'r llais awdurdodol; ac os nad a'i allan yn chwap, byddai ei glustiau a'i lygaid ymaith yii. ddisvvta. Codwyd lluoedd o westtai eraiil heb fod yn mhell yn St. Ronan's Well oddi wrth yr un y dygai Meg fasnach yn mlaen. Cwynai Meg yn erwin yn erbyn y draul, ac achwynai fod un gwestty yn fwy na digon. Nis gellid gwadu hyny. Ni fuasai neb yn dewis cael un arall pe buasai Meg yn ymddwyn yn weddaidd, ac mewn trefn. Hyny nis gellid cael ganddi wneyd. Diwedd yr hnnes ydyw, i'r fasnach gael ei thynu ymaith o westty Meg, fel na cheid neb yn 'twllu' ei drws. Gwelai feibion uchelwyr, y rhai y deuai eu tadau i'w gwestty hi yn wastad i wledda, yn dilyn yr un cwrs a'r offeiriad a'r Lefiad; ac, mewn iaith aorcalonus, llefai Meg:—' Their fathers wad not have done the like of., it. ta a loan woman'—' Fuasai eu tadau fawr yn gwneyd peth fel yna gyda dynes un g heb un ceFn.' Nid wyf am draethu dim chwaneg. Yr wyf yn dis- gwyl fod hyn yn ddigon iddynt ganfod pa rodd i gael llwyr ymwared o'r bwgan 'treth.' Nid ydyw yn rhesymol i ddyrnaid gael yr hawl i lywol-raothu y lliaws; ac os ydyw y dyrnaid yn ddoeth, ac yn aHuog i weled eu hunain fel y maent mewn gwirionedd, bydded iddynt roi eu hysgol, a phob un yr un fath, 1 fyny i'r Cynghor Sirol. Yr oeddwn wedi meddwl galw sylw un o'r frawdol- iaeth at chwedl arall gin Nathaniel Hawthorne, yn dwyn yr enw 'Moss from 'n Old Manse.' Nis gwn ai o ddoethineb y mae ambell ddynyn mwsoglyd yn neidio i'r adwy, ac yn estyn benthyg ei hun i gynnal i fyny hualau gorthrwm. Ni fu i un gael safle o un pwys yn ysgol Penmachno, nac yn un o'r ysgolion Eglwysig, heb iddo, neu. iddi gefnu ar egwyddorion ei rieni, neu ei rhieni. Ni raid i un wneyd felly gyda'r ysgolion rhyddion. Nid bod ynglyn ag enwad neillduol ydyw y cyrnmhwysder, ond rhagori mewn dysg feunyddiol, a gallu i gyfranu addysg. ELTS'O'H NANT.
TRISANT A'R CYLCHOEDD.
TRISANT A'R CYLCHOEDD. CYFARFODYDD DIOLOHGARWCH. NEILLDUOL bethau y cylchoedd ygia yn ystod yr wythnos ddiweddaf oeddynt cyfres o gyfarfodydd diolchgarwch, a gynnaliwyd gan y gwahanol enwadau c.efyddol Y mae y cyfarfod diolchgarwch yn vyl ag s\ dd bellach yn hen sefydliad ar dudalenau hanes. Arferid yn yr o,.sau boreuol, o dan yr hen oruchwyliaeth, edrych yn mlaen at wyl y cynhauaf' fel yr adeg neillduol i gyflwyno blaentfrwyth y cynhauaf fel oifrwm i Dduw am ei ofal mawr a'i drugaredd tuag at y genedl Iuddewig. Parheir i edrych yn mlaen etto yn yr oes bresennol gan yr hen a'r ieuangc yn ein heglwysi, gyda dymuniad calon ar i Dduw eu barbed hwy, er cael gweled a phresennoli eu hunain yn ei dy yr adeg y cynnelir yr wyl henafol hon yn eu plith. Flwyddyn ar ol bhvyddyn y mae ein rhwymedigaethau i ddiolch i Dduw (fel eu cymmwynaswr penaf) yn hanes pawb yn dyfod yn fwy pwysig a difrifol. Dylem gofio a sylweddoli mai nid trwy fynychu t.y yr Arglwydd ar yr wyl hon yn unig y mae cyflwyno diolch i Dduw am ei drugaredd a'i ddaioni rhagluniaethol tuag atom, ond trwy gyflwyno yn gysson aberthan diolch o natur ysbrydol trwy Grist, yr archoffelriad perffaith. Dydd Iau, Hydref 17eg, cynnaliodd eglwys M 0 Rhiwfelen ei chyfarfodydd y prydna'wn a'r nos. Oafwyd gwasanaeth y Parch David Jones, Rhydyfagwyr, yn nghyfarfod yr hwyr. Y dydd Gwener canlynol, Hydref 18fed, yn Eglwys Loegr Llantrisant. Cafwyd pregethau rhagorol yn ystod y ddau gyfarfod. Hefyd, yn eglwys M C Mynach cynnaliwyd cyfarfod- ydd diolchgarwch y prydnawn a'r hwyr. Dydd Sadwrn, Hydref 19eg, cyn .aliwyd cyfarfodydd o'r un natur yn eglwys M C Triaant. Er fod yr ardal yn bur wasgaros:, a'r hin ychydig yn anffafriol, yr oedd yno nifer ddymunol iawn yn bres- ennol. Yr oedd y Parch T Mason Jones, Ysbytty Ystwyth, yn bresennol, a chafwyd anerchiad pwrpasol ac addysgiadol ganddo yn nghyfarfod yr hwyr. Bendith Duw a fyddo ar yr oil o'r cyfarfodydd. GOHEBYDD.
LLANYMDDYFRI.
LLANYMDDYFRI. FFAIR MIHANGEL. CYNNALIWYD y ffair hon, yr hon a e'wir gan lafar gwlad yn Ffair Gfcyl Mihangel,' ar y dyddiau Mawrth a Mercher ond y tlair dydd Mawrth ydyw un o'r rhai pwysicaf a helaethaf yn y flwyddyn yn y dref, ac yr'* oedd eleni yn un o'r cyfryw yn mhob ystyr. Yr oedd ymwelwyr ynddi o bell ac agos, yn gystal ag o ardal- ymwelwyr ynddi o bell ac agos, yn gystal ag o ardal- oedd y Ai ynydd du, ac o'r tu arall o ardaloedd Llan. ddewibrefi, yn sir Aberteifi, a'r cylchoedd amgylch- ogylch, a Lloegr. Dangoswyd llawer o geffylau, y rhai a werthwvd, Ilawer o honynt, yn rhwydd am brisiau da. Ebolion, merlynod mynydd, o 3p 10c i 4p ceffylau gwaith fferm, eu hebolion am o 8p i lOp; 'coliers,'o 25p i 43p. Y goreu a ddangoswyd oedd un o ardal dawel Gosen, am yr hwn y caed 43p. Gwerthai da a'u lloi am o 12p i 15p. Yn y flair moch dranoeth nid oedd y moch at eu cadw yn myn'd yn dda, rhai certi o 15s 1 18s y pen. Moch byw i'r cigydd yn gwerthu am o 6s 9c i 7s yr ugain pwys. Yr oedd y ddau ddiwrnod yn hafaidd o ran yr hin, ac yr oedd hyn yn peri, feddyliwn, sirioldeb mawr yn ymddangosiad y lliaws, ac yn hon, hefyd, yr ymholir am ansawdd cyfnewid y gwasanaethyddion. D. Ap TYWI,
MERTHYR.
MERTHYR. YN llys yr ynadon yn Merthyr, dydd Llun, cafodd m*nwr, o'r enw Henry Daunton, i ddedfrydu i fiø o garehar, am droseddu de df- au arbenig y lofa. Dywedid fod dyn y i cerdded o gwmpas y lofa gyda lamp doredig, yr hon oedd yn oleu. Yr oedd tri chant ar ddeg o ddynion yn y lofa ar yr adeg. Sylwodd yr ynad cyBogedig y gallasai y diffyaydd chwythu yr holl le i fyny.
DWFR COCH AR YR WYN.
DWFR COCH AR YR WYN. Y mae tymmor yr afiechyd dinystriol hwn wedi dyfod etto a diau, o ddiffyg gofal, y bydd yn lladd ei filoedd etto. Dylai perchen- ogion defaid roddi y feddyginiaeth mewn pryd —' Lamb Drench Hugh Davies, Machyn- lleth. Cymmysger cynnwys un blwch mewn peint o laeth newydd, a rhaner rhwng ugain o wyn. Fel rheol y mae drenchio unwaith yn ddigon, ond gofala bugeiliaid da wneyd ddwy waith, o leiaf. Gan y Grocers, 6c. y bocs, neu oddi wrth y Percnenogion gyda'r 1 2 Post, 7!c. 6s. y dwsin. HUGH DAVIES, Chemist, MACHYNLLETH. 3530k3
[No title]
Cymmerodd Paris gofrifiad o'i choed. Y maent yn rhifo 87,000; neu un ar gyfer bob deuddeg ar hugaiu o'r trigolion.
Marchoad Yd Liverpool, dydd…
Marchoad Yd Liverpool, dydd Mawrth. Yr oedd cynnulliad cyramedrcl o fel in wyr a masnach- wyr yn bresennol. NoJweddid y fasnach" gan don dawel, ond sefydlog, mewn gwenith agos at law ac er nad oedd y prisiau cystal ag oeddynt dydd Sadwrn a I dydd Linn, fe wnaed swm bychan o fusnes, yn ol ttilt lc y canpwys 0 godiad ar dydd Gwener. Gwenith Aws- tralia, o 9s Ic i 9s 2c a gwenith Manitoba, 9s i 9s 2c y canpwys. BJawd yn bur sefydlog ei brisiau, gyda galw gweddol Blawd ceirch yn gadarn. Y fasnach mewn indrawn ychydig yn fwy tawel, yn ol o ddeutu y pris- iau diweddar. Indrawn Americanaidd cymmysgedig goreu, o Gs i 6s Oic y canpwys; indrawn Plate melyn goreu, o 5s 9c i 5s 10c indrawn Cinquantina, o 6s le i 6s 2c; indrawn Odessa, o 5s lIe i 5s 11 £ c; a phys Calcutta, 7s 4c y canpwys. Ffa Saidaidd, 338 6c y chwarter.
jMARCHNADOEDD YD LLOEGR.
MARCHNADOEDD YD LLOEGR. MANCHESTER, Hydref 22ain. Y fasnach mewn gwenith yn gadarn, ac yr oedd gwenith Manitoba o 2g i 3c drutach. Indrawn Ameri- canaidd cymmysg, o 6s 2c i G8 3e. Ceirch cartrefol yn ddrutach, gwerthai o 3s i 3s Ie. LEEDS, Hydref 22ain. Y farchnad yn fwy tawel i wenith cartrefol a thra- mor, yn ol o'ddeutu'r nn brisiau ag a ff ynent yr wyth- nos ddiweddaf. Haidd cartrefol a thramor at fragu yn gadarn, ond heh gyfnewidiad yn y prisiau. Indrawn a haidd at falu 3c y chwarter is. Ceirch cartrefol yn 3c drntach. Defnyddiau eraili at borthi yn dawel, ond y prisiau heb gyfnewidiad. Y prisiau terf.ynol :-Gwenith cartrefol, 38s 6c; etto, tramor, o 418 i 45s; ceirch, o 20s i 26s 3c ac indrawn, 28s 3c y chwarter.
------MARCHNADOEDD CYMREIG.
MARCHNADOEDD CYMREIG. CAERDYDD, Hydref II)eg.-Cymmerocld codiadau chwanegol le ddechreu yr wythnos, ond safod I pethau at ei diwedd. Gwenith cartrefol lawn Is y chwarter uwoh nag oedd wytbnos yn ol. Gwenith tramor radd yn is. Haidd at falu, hefyd, ryw gymmaint is. Ceirch ac indrawn yn sefydlog. Pys a ffa 3c uwch. CAERFYRDDIN, Hydref 12fed. Y cyflenwad o I ymenyn casgiau yn anghyffredin o fychan. Y galw yn dda am ymenyn o ansawdd. dewisol, gyda chodiad o I lawn e y pwys. Y prisiau o Is Oc y pwys. CASTELLNEWYDD EMLYN, Hydref 18fed.-Yr oedd y prisiau fel y canlynPyre (yn fyw), 7s yr 20ain pwys; perchyll, o naw i lleg wythnos oed, o 14s i 17s y pen; defaid (yn fyw), o 3c i 30 y pwys; wyn (yn fyw), o 4c i 4Jc y pwys; a lloi (yn fyw), o 3*c i 4c y pwys; flowls ieuaingc, o 3s i 4s y cwpl (5c y pwys yn fyw); ieir, o 2s i 2s 6c y owpl; hwyaid, o 4s i 5s y cwpl; wyau, lc yr nn; ymenyn ffres (yn rholiau), Is y pwys; etto, mewn llestri, o 110 i llie y pwys. DINBYCH, Hydref 23aiii.-Ffowls, o 3s 6c i 4s 6c a hwyaid, o 4s i 4s 6c y cwpl; wyau, wyth a naw am Is ymenyn fires, o Is i Is Ie y pwys; etto (hallt), llestri bach, Is y pwys; biff, o 6c i 9c y pwys myton, o 8c i lOo lamb, o 8c i 10c y pwys; moch tewion (yn fyw), 3c y pwys eirin damsons, 4c y chwart; afalau, o 2s 2 i 4s y cant (126); a phytatw, Is 6c y peeaid. LLANDEILO, Hydref 19eg.—Ymenyn, yn bwysi, Is 3c etto, mewn tybiau, Is 10; ymenyn adiodd, Is 3c y pwys. Wyau, d.eg am Is. Caws Cymreig, 4c caws Caerphili, 7c y pwys. Ffowls, 2s 6c hwyaid. 2s 6c. LLANIIWST, Hyd. 22ain.—Gwenith, ] Is 6e i -2060; haidd, o 9s i 9s 6c a cheirch, o 7s i 7s 6c yr h6b; ymenyn ffres, o Is lc i Is 2o y pwys; gwlân, o lljc i Is Oic y pwys; ffowls, o 3s 6c i 4s y cwpl; hwyaid, o 4s 60 i 5s y cwpl; wyau, 11 eg a 12eg am Is; pytatw, O 3s 6c i 4s y 112 pwys a blawd ceirch, o 37s i 38s, 240 pwys. LLANYMDDYFRI, Hyd. 18fed.—Blawd gwenith, o 33s 6c i 36s 6c ysacli o 280 pwys; bwyd cymmysg, 15s i 15s 6c y pwn; blawd ceirch, 2 Ie y pwys; cig eidion; o 7ic i 8c y pwys; pys hollt, l^c"y pwys; etto. gleision, 2Jc y pwys cwningod, o 7c i 8c yr un caws Cymru, o 4c i 5c y pwys ymenyn ffres, o Is i Is ley pwys ymenyn hallt, o lIe i Is y pwys; gw'an yn cadw at ei bris-o 9c i I I J(-, y pwys ffowls, o 3s 6c i 4s y ewpl; a hwyaid, o 4s i 5s y cwpl; wyau, deg ac lleg am swllt; pytatw, 5s 6c y canpwys. Gan fod y ffair boblogaidd— Ffair Gwyl Mihangel, fel ei gelwi'r—y dydd Mawrth canlynol, nid oedd y cynnuliiad mor fawr.
Marchnadoedd a Ffeirlau Annifeillald.
Marchnadoedd a Ffeirlau Annifeillald. BIRMINGHAM, Hydref 22ain.-Y cyflenwad yn bur fychan dydd Mawrth, a busnes yn farwaidd. Y pris- jau :-Gwartheg Henlordd goreu, 6c y pwys gwartheg byrgom, o 6c i Gic; teirw a buchod, o 4c i 5c; my lit, o 8|c i 8fc mamogau a myherin, o 6c i 6fc; ac wyn, o 8c i y pwys. Yr oedd y fasnach mewn moch yn fywiog moch bacwn, 9s 2c yr 20aifi pwys; pyre, o 10s 3c i 10s 9c; hychod, o 7s 6c i 7s 9c yr 20ain pwys. SALFORD (Manchester), Hydret 22ain.-Mynega y Mri. Septimus Lambert a'i Fab, yn eu hadroddiad Wytbnosol am farchnad anifeiliaid Manchester fel y canlyn --Yr oedd iiifer y gwartheg a gynnygiwyd ar werth yn dangos cynnydd o 90ain, o'u cymmharu a'r wythnos ddiweddaf. Y rhan fwyaf o honynt yn rhai o ansawdd ailraddol ac is-rpddol. Yr oedd galw gweddol I' dda am warfheg dewisol o bwysau ysgeifn, yn ol prisiau diweddar; ond pob math arall yn qnbawld i'w gwerthii hyd yn oed am brisiau llawer is, a diweddu yn fflat iawn a ddarfu y fasnach mewn gwartheg wedi hanner en pesgi. Yr oedd y cyflenwad o ddefaid ac wyn lawer yn llai, a'r rhan fwyaf o honynt, fel yn achos y gwar- theg, yn rhai o ansawdd ganolig ac is-raddol. Rheoli yn hvnod o araf oedd y fasnach i bob mathau yrj, .ol -prisiau diweddar am'-fathau dewisol; ond' gyffa golwg ar famogau ac wyn hanner tewion, yr oedd y prisiau yr wythnos hon etto lawer is. Y farchnad yn diweddu yn wanaidd, a swm mawr o wyn is-raddol wedi eu gadael heb eu gwerthu. Y prisiau :-Gwartheg goreu, 6ic y p#ys; gwartheg ailraddol, 5J,c i 5|c bustych a heffrod hanner tewion, o 5c i 5|c y pwys. Defaid dewisol y gogledd-dir, o bwysau ysgeifn, 8c y pwys rhai trym- ach, o 7ie i 8ic; wyn mawr tewion, 8ic; rhai canolig, o 7c i 8c wyn Ysgotaidd wyneb-ddu, 0 6c i 6Jc; a Hoi, o 5c i 7c y pwys, a singcio'r offal. Nifer y cyflenwad —Gwartheg, 2,288-cynnydd, 90; defaid ac ftyn, 9,360 -Ileihad, 600; lloi, 133.
i ,FFEIRIAU CYMRU.
FFEIRIAU CYMRU. Y rhai a gynnelir yr wythnos ncsaf. Y GOGLEDD. Hyciref 28. Gwrecsam, Trefnewydd. —— 29. Caerwys, Bangor, Llanllechid, Trefnewydd. —— 30. Llanerfyl. —— 31. Sarnmeillteyrn, Llanfylliu. Tachwedd 1. Llansantffraid Glan Conwy, Treffynnon, Llanfair Caereinion. —— 2. Penrhyndeudraeth, Fflint. Y DEHEUDIR. Hydref 27. Llanarth, Abergwili. 28. Llanbedr Pont Stephan, Brechfa, Maegyfed. 29. Llantrisant, Cydweli, Llansadwrn, Maesy- fed, Crymmych. 30. Castellnedd, Llangynidr, Henfeddau. 31. Llandysul, Llanybvther- Tachwedd 1. Llangyfelach, Llanybyther. —— 2. Farmers (ger Llanwrda).
f~..'—— AMSER COLEU LAMPAU.
f —— AMSER COLEU LAMPAU. Hydref 27ain hyd Tachwedd 2i], PRYDNAWN 27. Sul 28. Llun 29. Mawrth 30. Mercher 5.38 31. Iau 5.36 1 Gwener 5.34 2. Sadwrn 5.32
[No title]
Dywed Mr. J. B. Robinson, perchenog mwn. gloddiau yn Neheu Affrica, fod mwngloddieu y Transvaal yn werth 1,000,000,()00p. o aur, etto y mae y cyfranddaliadau wedi gostwng i'r pwynt isaf ar ol y rhyfel.
Advertising
'MAE POEN ANM FOL YN FY MHHN, AC YR WYF YN TEIMLO MOR r jAF A BILIOUS, FEL NAD WYF ZN GWYBOD ^ETH I'W WNEYD. Mae m loedd o Wyr a ^.wragedd, Llangciau, a Genethod o boh oedran, y I cae! eu poani yn un fafci, nes gwneyd bywyd yn bu- feichus. Pe bae pawb ya gwybod mor offeuhio; yw HUGHES'S 0 Blood Pills nid oedent un foment eu cymmeryd hwynt. Mae effeithiau y Pills hyn braidd yn wyrthiol. Maent yn rhoddi esmwythâd buan a iachad i'r DOLUR PEN BIlIQUSiiTE3S DIFFYG TRAUL XSELDER YSBRYD GWYNT PILES CLEFYD YR ARENAU AFU DRWG RHEUMATICS CORPHRWYMEDD POrN CEFN SCURVY CROENDARDDlAD ECZEMA Cofier fod gwreidd yn y drwg- yn y Gwaed, a bod yn rhaid Puro y Gwaed eyn y gellircael iachad gwirioneddoL At Buro y Gwaed nid oes dim eyffelyb iddynt. Maent yn cael effaith uniongyrchol a llwyddiannus ar yr holl gyfansoddiad. Y BOBL YN TYSTIO (DYFYNIAD O'R LLYTHYRAU). Syr,-Nis gallaf lefara yn rhy uchel am HUGHES'S BLOOD PILLS. Hwy a'm gwellhasant o ymosodiad llym iawn o Ddclur Pen, Biliousness, a chyflwr budr y cylla., a hyny mewn byr amser. Wigan. O. JAMES. Syr,-Yr ydwyf wedi bod mewn cyflwr gwan iawn am fisoedd laa,er-poeniii enbydns yn fy Arenau a'r Cefn, gyda Rheumat cs, Poen yn y Pen, Gwynt, Diffyg traul, a Chylla drwg. Yr oedd hyn oil yn cael ei achosi gan 'Yacd Drwg yn gwenvvyno yr holl gorph. Mi gefais wellhad buan drwy gymmeryd HUGHES S BLOOD PILLS. Pembroke terrace, Pontypool. WM. JONES. Syr -Yr wyf wedi bod yn ddloddefydd mawr gan boenau erchyll yn fy Mhen a'm Cefn, Gwynt, a Diffyg TranL Cefais fy annog i gymmeryd HUGHES S BLOOD PILLS, ac fe wnaethant ddaioni rhyfedd i mi. Yr wyf yn holliach. Elms streetj Ferndale. SARAH PHILLIPS. Mae'r Pills hyn yn gwneyd Daioni bob tro. 1t Wrth brynu gof}-ii"i-cb am 'HUGHES'S BLOOD PiiLS.' Myn- wch weled y Trade Mark, sef Llun Calon, fel hyn, AT bob Bocs. Heb hyn idid ydynt yn bur. ff I, A GWETH0DWCH BOB PETH m ARALL. Ar werth gan bob Chemist a Stores am Is. 1.3c., 2s 9c., a 4s. 6c., neu danfoner en gwerth mewn P. O. nen stamps at Jacob Hughes, M.P.S.L.D.S., Manufacturing Chemist, Penarth, Cardiff. J
ABERGELE.
ABERGELE. CWYN YN EEBYN Y CWMNI NWY. YN nghyfarfod misol Cynghor Dosbarth Aber- gele a Phensarn, nos Lu ri, hysbyeodd y su-veyor tod yna brinder nwy wedi bod, inewn canlyniad J gyi,ii.ewidiad;ut ,yq. ngweithiHU nwy y cwmni. A choswyd anghyfleusdra mawr am dair wyth- nos ac yr oedd y Lmpall cyhoeddus heb ga I eu goleuo am wyth noson. Derbyniwyd kair oddi wrth ysgrifenydd y cwmpeini yn priodoli y bai i't contractors.' Nid oedd y cwmpeini i'w beio yn y mater. Yr oedd amryw o aelodau y cynghor yn ys tyried nad oedd- yr eglurhad hwn yn un di- gon ol. Cynnygiodd Mr. Judson fod y cynghor yn gwneyd cofinod-ad o {.ondemniad o weithrediad y cwmni nwy wrth amddifaduy dref o nwy. Cafodd y cynnygiad hwn ei gario yn un- rydol.
MANCHESTER.
MANCHESTER. CRONFA NWY YN CAEL EI CHWYTHU I FYNY. TUA banner awr wedi pedwar prydnawn dydd Mawrth cymmerodd ffrwydrad dychrynllyd le yn muarth nwyddau Cwmpejni Ffordd Haiarn y Great Central, yn rhanbarth Ardwick o Man- chester. Ffrwydrodd cronfa mwy, eiddo cwmpeini y ffordd haiarn ac a ddefnyddid i gyflenwi cerbyd- au y ffordd haiarn & nwy, mewn modd sydyn, a hyny gyda'r fath nerth fel y cafodd t6 ysgol y cynghor yn y rhanbarth, yn ymarferol, ei chwythu ymaith. Cafodd ffenestri gweithiau a thai preifat o fewn cylch agosi filldir eu gwneyd ynichwilfriw; ac ofmd, ar y dechreu, fodjftry- chineb mawr wedi cymmeryd He. Cafodd agoli yr oil o'r ffenestri o wydr trwehus yu y eiopau en tori, o Ystorfeydd Cydweithredol Beswick yn Ashton Old Road hyd at y Clock Face Inn, gyferbyn a Gorton Read. Chwythwyd Mr Lee. rheolwr yr ystorfeydd, oddi ar ei sedd, wrth ymyl bwrdd ar draws yr ys- tafell, a tbailwyd amryw craill oddi ar eu traed. Llosgodd "William Mejlor, gweithiwr yn muarth cwmpeini y ffordd haiarn, yn drwm o gwmpas ei ben a'i freichiau. Yn n^wyneb nerth y ffrwydrad y mae yn syndod na fuasai y niweidiau yn liawer mwy difrifol. Argraphwyd a Chyhoeddwyd gan GEE a'i FAB (Cyf.), yn eu Hargraphdy, yn Strvt y Capel, Dinbych, dydd Sadwrn, Hydref 26ain, 1907.