Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

Y GOGLEDD.

News
Cite
Share

Y GOGLEDD. Dydd Sadwrn agorwyd y ffordd haiarn ys- gafn o Llandudno i Colwyn Bay a theithiodd gryn lawer ar hyd-ddi yn ystod y dydd. Dydd Llun Oyniialiodd Ymneillduwyr Ban- gor eu diwrnod diolchgarwch blynyddol am y cynhauaf. Cauwyd y siopau a'r ysgolion el- fenol. Cafodd y Parch. Robert Thomas, gweinidog gyda'r Annibynwyr, Abermaw, alwad i wein- idogaeth eglwysi Annibynol Cemmaes a Llan- fechell, sir Fon. Cedwid dydd Llun diweddaf yn ddiwrnod o ddiolchgarwch am y cynhauaf trwy yr oil o sir Fon. Yr oedd yr ysgolion a'r siopau wedi cael eu cau ar y diwriiod. Penderfynir i'r anrheg gan blwyfolion Gwrecsam i'w diweddar ficer, Canon Fletcher (yn awr o Marchwiel) gymmeryd ffurf o ddar- lun mewn olew, ac anerchiad. Pregethwyd yn nghyfarfod blynyddol y Wesleyaid yn yr Abermaw, nos Fawrth a dydd Mercher, gan y Parchn. W. 0. Evans, Rhyl; ac R. Jones, Caernarfon. Traddododd Syr W. H. Preece araeth nos Sadwrn, i aelodau Guild yr Eglwys, yn Nghaernarfon, ar ei Bleserdaith i Ddeheudir Affrica gyda'r Gymdeithas Brydeinig.' Gwerthwyd y ty rhydd-ddaliadol a adna- byddir wrth yr enw Glanydon, Ty gwyn, ger Deganwy, gan Mr. F. J. Sarson, mewn ar- werthiant cyhoeddus, am 370p. i Mr. Hayes, Liverpool. Nos Sadwrn a'r Sabbath cynnaliwyd gwas- anaeth arbenig i agor capel Presbyteraidd Saesnig yn Bagillt, ger Treffynnon. Y preg- ethwyr oeddynt:—y Parchn. Dr. Griffiths, Treffynnon; ac R. F. Crockett, Liverpool. Y mae y Parch. Evan Jones, ficer Llanfair Caereirion, wedi derbyn bywoliaeth Wydd- grug, a gynnygiwyd iddo yn ddiwedcfar. Felly, bydd i Mr. Jones ddychwelyd fel ficer i blwyf lie y bu yn gwsanaethu gynt fel ciwrad. Hysbysodd Maer Pwllheli Gynghor y dref hono, ddydd Mawrth, iddo ef a'r Ysgrifenydd Trefol gael ymgom pellach gyda Llywydd Bwrdd Masnach, mewn perthynas i rodd chwanegol tuag at weithiau y porthladd, ac iddo gael derbyniad ffafriol. Penderfynodd adran Treffynnon o Bwyllgor Addysg sir Ffiint, dydd Llun, wneyd ymchwil- iad llawn i fynegiad fod plant mewn rhai rhanau o ranbarth Caerwys, nad oedd eu rhieni byth yn eu hanfon i'r ysgol hyd nes y byddent wedi pasio eu naw mlwydd oed. Ar ei ymneillduad o heddlu sir Drefaldwyn, ar ol 27 o flynyddoedd o wasanaeth, anrheg- wyd y Rhingyll Heddgeidwadol Poole, Tra- llwm, gan ei gydswyddogion, ag oriadur aur a chadwen. Y Prifgwnstabl Holland ym- gymmerodd a'r gwaith o gyflwyno yr anrheg- lon. Yn Nghaernarfon, dydd Sadwrn, plediodd gwraig briod, o'r enw Sarah Jones, Ynyswen, Llanberis, ei heuogrwydd o ladrata glo oddi ar ochr y ffordd haiarn. Daliwyd hi yn y weithred gan heddgeidwad. Rhwymodd yr ynadon hi drosodd, a rhoddasant orchymyn iddi dalu rhan o'r costau. Bu farw Mr. T. Howes Roberts, Llanelwy, ddydd Mawrth. Yr oedd Mr. Roberts yn ddyn cyhoeddus tra adnabyddus; ac yr oedd wedi bod yn llenwi y swydd o gadeirydd Bwrdd Gwarcheidwaid Llanelwy a Chynghor Dosbarth Gwledig Llanelwy am lawer o flyn- yddoedd. Yr oedd: yn Geidwadwr blaenllaw. Yn Ngwestty y Goron, Pwllheli, dydd Mercher, cynnygiodd Mr. Robert Parry ar arwerthiant y fferm rhydd-ddaliadol a adna- byddid fel Caeau Brychion, 'tua deg acer, ger Pwllheli. Gweithredai Mr. 0. Robyns Owen, cyfreithiwr, dros y gwerthwyr. Y cynnyg uchaf oedd 580p., a thynwyd yr eiddo yn ol. Bu farw Mr. Richard Meredith Jones, gynt rheolwr Bangc Gogledd a Deheudir Cymru yn Liverpool, braiddl yn sydyn, yn nghartref ei frawd, Mr. Edward Meredith Jones, Regis Place, Gwrecsam, nos Sabbath. Yr oedd Mr. Jones, yr hwn oedd yn 79 mlwydd oed, wedi bod mewn cyssylltiad a Bangc Gogledd a De- heudir Cymru yn mron ar hyd ei oes. Cym- merodd ei gladdedigaeth le yn nghladdfa bwr- deisdrfef Gwrecsam, dydd Mercher.

. Y DEHEU.

,:L.....--.___-----.-.------------------'-PRESTATYN.

i TREGARON.

CYFARFODYDD PREGETHU. Lt

CAERDYDD.

TRALLWM.

[No title]

TELEGRAM ' V.''

WYDDGRUG.

PORTHAETHWY.

TROSEDD GWALLGOFDDYN.

BWRDEISDREFI FFLINT.