Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
Hide Articles List
10 articles on this Page
TV YR ARGLWYDDI.
News
Cite
Share
TV YR ARGLWYDDI. DYDD LLUN, Mai POf,.(I--Oymmerodd yr Argl- wydd Ganghellydd ei eisteddle am chwarter wedi pedwar. Cymmerodd Esgob Newcastle, yr hwn a gyf lwynwyd i'r Ty gan Esgob Rochester ac Esgob Llandaf, y lift, "&o., ar el waith yn cymmeryd ei sgdd yn y Tf. Darlienwyd Meaur Ffordd Haiarn Porthmadoc, Beddgelert, a Deheu y Wyddfa y drydedd waith. Drygau Cyngwystlo (Betting). Cynnygiodd Esgob Henffordd benderfyniad, er pennodi Pwyllgor Detholedig i wneyd ymchwiliad i'r cynnydd oedd yn cymmeryd He ar gyngwystlo oyhoeddus a pha un a oedd yn bossibl cario allan unrhyw fesurau deddfwrol cyfaddas er attal y drygau oedd yn cael eu hachosi trwy hyny. Cefnogwyd y penderfyniad gan Iarll Aberdeen, Archesgob Caergaint, ac e.igob newydd Llundain, yr hwn a sylwodd ei fod wedi bod yn byw am lawer o flynyddoedd mewn cymmydogaeth lie yr oedd llawer o weithwyr yn trigiannu, a'i fod wedi cael profiad personol o'r drygau a gynnyrchid trwy gyngwystlo yn mysg gweithwyr. Arglwydd Salisbury, tra yn cydymdeimlo ag amcanion y siaradwyr blaenorol, ac yn cydnabod pwysigrwydd y cwestiwn, a ddywedodd nad oedd yn meddwl ei bod yn bossibl ymwneyd a'r mater trwy ddeddfwriaeth, gydag unrhyw obaith am lwyddiant. Byddai iddynt, efe a chwanegai, ym gymmeryd a busnes enfawr 09 aeat hwy yo erbyn teimladau a dymuniadau corph mawr y bobl. Nis gallai y Llywodraeth ymgymmeryd tig unrhyw gyfrifoldeb ynglyn a'r ymehwiliad hwn nac ym- rwymo y byddai iddynt roddi ar y deddflyfrau y oyfryw ddeddfau a allai y pwyllgor eu hargym- mhell. Cyttunwyd ar y penderfyniad heb ymraniad. Trydydd Darllcniad. Darllenwyd Mesur Cyfreithloni Priodasau a Mesur Rheoleiddiad Gweithiau Alkali y drydedd waith a pbasiwyd hwy. Gohiriodd y Tk am ugain munyd wedi saith.
TY Y CYFFREDIN.
News
Cite
Share
TY Y CYFFREDIN. DYDD LLTTN, Mai 20fel--Cymmerodd y L-lef- arydd y gadair am dri o'r gloch. Poblogaeth Ysgotland. Yr Arglwydd Ddadleuydd a ddywedodd, wrth atteb Mr. J. Ellis, ei fod yn cael ei hysbysu gan Gofrestrydd Cyffredinol Ysgotland mai poblog- aeth Y sgotland ar ddydd y cofrifiad ydoedd 4,470,937. Yr A d-daliad, G'} incaidd. Mr. A. Balfour a hysbysodd Mr. Harwood fod y swm oedd yn myned i gael ei ofyn gan China oddi ar y wlad hon, ar gyfrif y trafferthion di weddar, yn cael ei sylfaeDU yn hollol ar y costau yr aed iddynt? ynglyn h'r mater hwn. Yr oedd y cwestiwn o pa fodd i aicrhau y cyfryw drefmadau i dalu y swm hwnw yn y modd a wnai effeithio leiaf ar faenach y ddwy wlad yn cael ei ystyried gan y Llywodraeth. Mesur Cvorw, Mr. A. Balfour, mewn attebiad i Mr, Chaplin, a ddywedodd nad oeddynt wedi cyrhaedd cyfnod o'r senedd-dymmor etto ag oedd yn gyfleus iddynt wneyd mynegiad pendant o berthynas i'r Meaur Cwrw. MEsuR CYLLID. Syr H. Fowler, yr hwn a dderbyniwyd gyda I chymmeradwyaeth gan yr Wrthblaid. a gynnyg- iodd benderfyniad yn dadgiD fod y T, tra yu barod i wneyd darpariaeth digonol ar gyfer anghenion milwrol a llyngesol yr ymherodraeth, o'r farn fod cynnygion cyllidol y Llywodraeth yn rhai y teimlid gwrthwynebiad iddynt mewn perthynas A threthiad a dyled, a'u bod yn debyg o effeithio yn niweidiol ar ddiwydiaunau a masnach, ac nad oeddynt yn arddangos y cynnildeb hwnw yr oedd y cynnydd enfawr ag oedd wedi eymmeryd He yn ddiweddar yn y treuliau rheolaidd yn galw am dano. Aeth Syr H. Fowler yn mlaen i alw sylw at y cynnydd oedd wedi cymmeryd lie yn nhreul iau y wlad. yr hwn, yn ystod y gweinyddiad pres- ennol, oedd wedi codi o 105 i 120 o filiynau. Beirn- iadodd gynnygion y Llywodraeth er cyfarfod a'r treuliau, a chondemniodd y dreth ar Jo fel nn oedd yn cynnwys pob drwg a allai fod ynglyn a tholl. Dadleuai fod y treuliau yn codi yn ol graddfa di angenrbaid a pheryglua ao annogai fod cynnildeb yn cael ei arddangos yn mysg pob adran o eiddo y Llywodraeth Syr M. Hicks-Beach a ddywedodd ei bod yn eithaf eglur, oddi wrth eiriad y penderfyniad, a'i araetb, fod Syr H. Fowler yn cyttuno a'r hyn oedd yn brif nodwedd y Gyllideh-treulian y rhyfel. Yna aeth yn mlaen i amddiffyn y tollau newydd oedd yn cael eu CYDDVg ganddo. Cyd- nabyddodd nas gallai y wlad barhau i godi y treuliau fel yr oedd wedi gwneyd am y chwe blynedd diweddaf heb osod ein cynllun arianol yn y perygl mwyaf ond nid oedd yn gweled y gellid dadrys y cwestiwn ar linellau araeth Syr H. Fowler. Cariwyd y ddadl yn mlaen gan Mr. Haldane, Syr E. Vincent, Mr. Labouchere, Mr. T. G. Ashton, ac eraill. Mr. J. Redmond a ddadganodd y byddfti i'r aelodau GwyddeHg arddangos eu gwrthwynebiad i'r cwestiynau mawr oedd yn gorwedd wrth wraidd ft Gyllideb, ond nad oeddynt yn foddlawn i bleid eisio dros y gwelliant. Wedi i Mr. Bryce siarad gohirlwyd y ddadl. Cododd y Ty am bum munyd ar hugain wedi banner.
TY YR ARGLWVDDI.
News
Cite
Share
TY YR ARGLWVDDI. DYDD MAWRTH, Mai 2Iain.-Cymmerodd yr Arglwydd Ganghellydd ei eisteddle am chwarter wedi pedwar. Cwestiwn y Llythyrdy yn Twrci. Ardalydd Lansdowne a ddywedodd fod mater yr anghydwelediad 0, senedd rwrci, o berthyn- as i gwestiwn y Llythyrd, yn cael ystyriaeth ddyfal y Galluoedd oedd yn dwyn cyssylltia.d k hyny. Y Galluoedd d China. Gwnaeth Arglwydd Lansdowne fynegiad o berthynas i China, cyffelyb i'r un a wnaed gan Arglwydd Cranbourne yn y Ty arall. Attal Commisiwn Anghvfreithlawn mewn Masnach. Cyflwynodd yr Arglwydd Ganghellydd fesur byr, yr hwn a fwriedid i gymmeryd lie yr un a dynwyd allan gan y diweddar Arglwydd Brif Farnwr, i attal commisiwn anghyfreithlawn mewn masnach. Eglurodd na byddai yna iin. rhyw siawns i basio mesur helaeth yn ystod y senedd dymmor hwn. Darlienwyd y mesur y waith gyntaf. Y Rhyfel a'r Swyddja Ryfel. Galwodd Arglwydd Lovat sylw at sefyllfa y mapiaii oedd gan yr awdurdodau at eu gwasan- aeth yn Neheudir Affriea, ac aeth yn mlaen i feirniadu gweithrediadau eraill mewn cyssyllt iad & gwe inyddiad y rhyfel. Darfu i Arglwydd Raglan ac Ardalydd Lans- downe atteb y sylwadau a wnaed gan Argl. JbOYftt. Dctdqaniad y Brenin. Ardalydd Salisbury a gynnygiodd fod pwyll- gor detholedig yn cael ei bennodi i ystyried y dadganiad gofynol oddi wrth y Teyrn, ar ei esgyniad, trwy Fesur Hawliau, ac i adrodd pa un a ellid eyfnewid yr iaith, mewn modd man- teisiol, heb leihau ei eff eithiolrwydd tuag at gadw i fyny yr olyniaeth Brotestanaidd. Amlygodd Arglwydd Spencer ei foddhad fod Arglwydd Salisbury yn synumul gyda'r mater hwn. Cyttunwyd ar y penderfyniad. Gohiriodd y Ty am chwarter i saith, hyd y lOfed o Fehefin.
TY Y CYFFREDIN.
News
Cite
Share
TY Y CYFFREDIN. DYDD MAWRTH, Mai 2 lain- -Cymmerodd y .Llefarydd y gadair am ddau o'r gloch. Cyflwynodd Mr. Lloyd George ddeiseb oddi wrth 'Synod' Wesleyaid Gogledd Cymru yn ffafry mesur er gwahardd gwerthu diodydd meddwol i bJant o dan 16eg mlwydd oed. Cwmni y De Beers a Gwarchau Kimberley. Mr Chamberlain, mewn attebiad i Syr C. Furness, a ddywedodd fod hawliau Cwmni y De Beers yn cyrhaedd y swm o54,000p., yrhwn oedd yn codi o warchauad Kimberley, o dan ystyriaeth. Saethu Carcharor Bwraidd yn St. Helena. Mr. Brodrick, mewn attebiad i Mr. C. Shaw, a ddywedodd nad oedd yna unrhyw wirionedd yn. y mynegiad a gyhoeddwyd yn y Review of Reviews, fod carcharor Bwraidd wedi cael ei saethu yn farw yn St. Helena, tra mewn gwas anaeth crefyddol. Yr oedd y carcharor y cyf. eiriwyd ato yn gwneyd ymgais i ddringo dros dir oedd yn amgau ei wersyll a. gvvifrau cyn toriad gwawr un boreu. China. Gwnaeth Arglwydd Cranborne, mewn atteb- iad i Mr. Walon, "fynegiad cyffredinol ar y sefyllfa yn China. Dywedodd fod y Llywodr- aeth yn dymuno, iiior bell ag yr oedd yn bos- sibl, i gymmedroli gofynion yr ad-daliad, ac i ochel niwed i fanteision masnachol y wlad hon. Ar ol ymdrin a'r cwestiwn o gospedigaeth a gariwyd allan ar swyddogion Chineaidd blaen- llaw, dywedodd Arglwydd Cranborne fod eisoes dres 3,000 o gorphlnoedd Prydeinig o dan orchymyn i adael China, ac y chwanegid at y nifer hwn gan gorph Iliosocach cyn pen "llawer o fisoedd, yr oedcf yn gobeithio. Yr oedd y Llywodraeth wedi gwneyd cynnrychiol iadau i Lywodraeth Rwssia o berthynas i'r tir yr oedd anghydwelediad yn ei e-ylch yn Tient- sin, ac yr oedd eu hattebiad hwy yn cael ei o, ddisgwyl. MESUR CYLLID. Yn y ddadl ar welliant Syr H. Fowler ar y penderfyniad t ail ddarllen Mesur y Cyllid, priodolai Syr R. T. Reid gynnydd ein treuliau i'r ysbryd ymosodol a chwerylgar oedd yn y wlad. Mr. Hanbury a ddadleuai, ar y llaw arall, fod y treuliau cynnyddol ar y llynges a'r fyddin yn angenrheidiol er amddiffyn y tiriog- aethau Prydeiaig. Mr. Chaplin a annogai Ganghellydd y Drys- orfa i ail ystyried yr effaith a gawsai y doll ar lo ar y mathau gwaelaf o 16. Syr Henry Campbell Bannerman a ddywed- odd na byddai yn beth arierol na chyfieus i ddadleu y rhyfel ar y gwelliant presennol, ond y dylid cael cyfleusdra i hyny yn fuan, gan fod yna ddymuniad cyffredinol yn mron am hedd- weh ar delerau haelfrydig ac anrhydeddus, yn gystal a rhai fyddai yn derfynol a boddhaol. i na aeth yn mlaen i sylwi ar y cynnydd cyflym oedd yn cymmeryd lie yn y treuliau milwrol, a beiai y Llywodraeth am eu gwein yddiad di-ofal. Mr. Balfour, yr hwn a ddirwynodd y ddadl i fyny, a ddywedodd fod y Llywodraeth Rydd- frydig, pan aethant allan o swydd, wedi gadael pump neu chwech o gwestiynau pwysig rhyng- om ni a'r Galluoedd milwrol mawr heb eu pen dertynu, ac y gallasai pob un o honynt, pe yn cael eu camdrin, achosi rhyfel. Yn ngoleuni digwyddiadau diweddar, ac yn ngwyneb y tynu mawr oedd wedi bod ar y fyddin yn y rhyfel diweddar, yr oedd yn ystyriedmai ynfydrwydd oedd gadael i'r fyddin syrthio yn ol i'r cyflwr yr oedd ynddi pan aeth y Llywodraeth Rydd- frydig allan o swydd. Ymranodd y TY rhyw ychydig cyn saith o'r gloch. Dros welliant Syr H. Fowler 123 Yn erbyn 300 Mwyafrif yn erbyn 177 Ni chymmerodd y Gwyddelod, ac amryw Ryddfrydwyr, ran yn yr ymraniad. Ar gynnygiad Mr. John Morley gohiriwyd y ddadi ar y prif gwestiwn hyd dydd Iau. Gohiriwyd yr eisteddiad hyd naw o'r gloch. EISTEDDIAD HWYROL. Ail ymgyfarfyddodd y Tk am naw o'r gloch. Dysgu yr Iaith Wyddelig yn yr Ysgolion. Galwodd Mr. Doogan sylw at y cwestiwn o ddysgu yr iaith W yddeIig yn ysgolion yr Iwerddon; a chynnygiodd benderfyniad yn dadgan ei bod yn hanfodol dwyn y cynllun dwyieithog i mewn i'r ysgolion. Mr. Thomas O'Donnell a gefnogidd y pen. derfyniad. Mr. William Jones, wrth gefnogi y pender- fyniad, a ddywedodd fod Cymru wedi cael ei chydnabod, nid yn unig fel erfyn effeithiol o ddiwylliant, end fel moddion o addysg. Yr oedd ei llwyddiant wedi bod mor hynod, fel y darfu i'r prif arolygwr (yr hwn oedd yn Sais, ac felly heb feddll syniad Cymreig o gwbl) ddadgan yn e adroddiad, mai 'un canlyniad y cynnydd tarawiadol mewn rhagonaeth yn mhob rhan, ac mewn Saesneg yn arbenig (clywch) Da genyf weled fod yr athrawon ymarferol yn 'ceisio cydnabod' fod gwybodaeth gyfun- drefnol o'r iaith Gymraeg yn help mawr i fyfyriwr Cymreig i ddysgu ieithoedd eraill. Nid y wybodaeth 0'1 Gymraeg, ond yr anwy- boda'eth o honi, sydd yn profi yn Thwystr i fyfyrwyr Cymreig (cymmeradwyaeth mawr) Pe buasai yr aelod anrhydeddus ar yr ochr arall yn gwybod mai yr iaith Geltaidd oedd y cyfrwng goreu i sicrhau gwybodaeth o'r ieith- I oedd rhamantaidd, buasai yn dysgu y Wydd- elaeg i'w blent yn (clywch, clywch). Yr oedd hyn yn cael ei egluro yn yr ysgolion elfenol a chanolraddol yn Nghymru, lie y ceid allan fod yr ysgolheigion yn dysgu y Ffrangcaeg, ac ieithoedd eraill tebyg, trwy y Gymraeg yn llawer gwell na thrwy y Saesneg. Yn sicr, yr oedd y cyfryw iaith yn foddion effeithiol o ddi- wylliad; ac yn sicr, gellid dysgu y plant Gwydd- ehg hyn yr un modd trwy gyfrwng iaith oedd eisoes yn adnabyddus iddynt tel iaith eu mam. Nid oedd y penderfyniad yn amcanu at ddi ddymuy Saesneg (clywch, clywch). Yr hyn oedd ei eisieu ydoedd, cyrhaedd meddwl y plentya i amcanion addvsgol Gwyddent hwy yn Nghymru, er eu cywilydd a'u gofid, fod dysgu y Gymraeg yn cael ei wahardd hanner can mlynedd yn ol; ond, yn ffodus, yr oedd hyn oil wedi newid, a gallai yr athraw yn awr dynu I allan a dysgu meddwl yr ysgolor trwy iaith oedd yn wybyddus iddo. Yr oedd astndio y Gymraeg yn eu hysgolion wedi profi yn help effeithiol i ddysgu y Saesneg. Dyna yn hollox yr hyn oedd yr aelodau anrhydeddus o'r Iwerddon |yn ei hawlio i'r iaith Wyddelaeg (cymmeradwyaeth). Yr oedd yn gweled rhai aelodau anrhydeddus yn bresennol a wyddent am Rydychain. Nid oedd rhai ysgolorionCym- reig wedi gwnaed enw iddynt eu hnnain, ac wedi gadael eu marc yn Rhydychain yn ystod y chwe blynedd diweddaf, am eu bod yn gwybod y Saesneg, ond am eu bod yn gwybod pob peth oedd yn dwyn cyssylltiad a llenyddiaeth a diwylliadeu gwlad frodorol (cymmeradwyaeth) Nid oedd y rhai a gefnogent y pendei-f ytiiad hwn yn dymuno troi y genedl W yddelig yu genedl Saesneg, yr oedd ganddynt eisieu addysgu y dychymmyg yn gystal a'r deall, addysgu y deall heb esgeuluso addysgu y cydymdeimlad. Gobeithiai y rhoddai y prif ysgrifenydd sylw effeithiol i'r cwestiwn. Wedi i Mr. Wyndham a Mr. J. Redmond gymmeryd rhan yn y ddadl cyttunwyd ar y penderfyniad, Dadsdliefyad yr Eglivys yn Nghymru. Rhyw ychydig funydau cyn hanner nos, galwodd Mr. Osmond Willams sylw, mewn ychydig eiriau, at gwestiwn yr Eglwys Sefydledig yn Nghymru; a cbynnygiodd, yn gymmaint a bod Eglwys Loegr yn Nghymru wedi methu cario allan ei hamcan proffesedig fel moddion i gefnogi manteision crefyddol y Cymry, acnad oedd yn gweinidogaethu ond i leiafrif bychan o'r boblogaetb, fod ei pharhld fel Eglwys Sefydledig yn y Dywysogaeth, yn afreoleidd- dra ac yn angh'yfiawnder na ddylai fodoli ddim yn mhellach. Mr. William Jones a gefnogodd y pender- fyniad; ond yr hwn, model bynag, a siaradwyd allan gan Mr. Banbury. Gohiriodd y Ty am dri munyd wedi hanner nos.
TY Y CYFFREDIN.
News
Cite
Share
TY Y CYFFREDIN. DVOD M'EROHETT, JJfai 22ain --Cymmerodd y Llefarydd y gadair am hanner dydd. Tai Gwell i Lafurwyr Amanlhyddol yr Iwerddon Mr. J. P. Farrell a gynnygiodd ail ddarileniad Mesur Diwygiadol Cyfresthiau Llafurwyr (Iwerdd- on), amcan pa nn ydoedd rhwyddhau, a chario allan y gweithrediadau o dan y cyfreithiau pres- ennol, er darparn tai i lafurwyr amaethyddol mewn rhanbuthau gwledig, ar delerau rhatach. Cwynai yn erbyn yr oediad oedd yn cymmeryd lie o dan y drefn bresennol. Cadben Donelan a gefnogodd y me3ur, a dywed- odd mai prif amcan y mesur ydoedd ceisio attal y dylifiad o'r boblogaoti* ienangc oedd yn cymmer- yd lie yn barhaus i'r trefydd. Dadleuai y gwnai bii y rhyfel am un wyohnos gario allan amcanion y mesur hwn. ac y cawaai yr arian eu defnyddio i lawer gwell amcan. Mr. Daly a gredai y byddai i'r mesur hwn, trwy wella sefyllfa y llafurwyr. effeithio er attal y llif eiriant o ymfudiaath oedd yn cymmeryd lie yn y wlad. Mr. O'Shstughnessy a wnaeth appel at y Llyw- odraeth am iddi edrych gyda chydymdeimlad ar fesur unig amcan pa un ydoedd gwella sefyllfa y llafurwyr gwledig yn yr Iwerddon. Cymmerwyd rhan yn y ddadl gan Mr. Healy, Mr. Atkinson, Mr. T. W. Russell, a Mr. Atkin. son (y Dadleuydd Cyffredinol dros yr Iwerddon), yr hwn a ddywedodd nas gallai y Llywodraeth roddi ei chefnogaeth i'r mesnr. Ymranodd v Tv, a phleidleisiodd. Dros yr ail ddarileniad 137 Yn erbyn 223 Mwyafrif yn erbyn 86 I Cidodd y T £ am chwarter i chwech o'r gloch.
TY Y CYFFREDIN.
News
Cite
Share
TY Y CYFFREDIN. DVDD IAu, Mai 23,tin. —Cymmerodd y Llef- arydd y gadair am dri o'r gloch. Codi Aur yn y Transvaal. Mr. Chamberlain, mewn attebiad i Mr. Moss, a ddvwedodd mai cyfanswm gwerth yr aur a god- wyd yn y Transvaal yn 1897ydoedd 11 653,0OOp. am y flwyddyn 1898, prisid yr hyn a godwyd yn werth 16,014,000p. ac am y naw mis cyntaf o'r dwyddyn 1899 yr oedd cyfanswm gwerth yr hyn a godwyd tua 14,500,000^. Codi Mwn Aur yn Nghymru Mr. Moss a ofynodd i Ganghellydd y Drysorfa beth oedd y swm o deyrn doilaeth (royalty) a god- wyd gan y Llywodraeth oddi ar Mr. Pritchard Morgan, pan yr agorwyd mwnglawdd aur Gwyn fynydd, yr hwn a saif yn agos i Ddolgellau, Gogl- edd Cymru a beth oedd cyfanswm y deyrn-doll- aeth a dalwyd i'r Llywodraeth ar y mwnglawdd hwn ? Syr M. Hicks-Beach a ddywedodd maiy deyra- dollaeth gyntaf a godwyd ar f wDglawdd aur Gwyn- fynydd ydoedd un ran o ddeg ar hugam, neu 3 y cant Gostyngwyd ef wedi hyny i un ran o han- ner cant, neu 2 y cant. Cyfanswm y teyrndollau a dalwyd i'r Goron ar y mwnglawdd aur er pan yr oedd wedi cael ei agor, cyfnod o 131 o flynydd. oedd, ydoedd 2 242p 16s 5c. Mr. Moss a ofynodd i Ganghellydd y Drysorfa beth oe(,d y ovianswm a dalwyd ir Llywodraeth am fees. &c., a phrydieaoedd ciddn mwngloddiau aur yn Ngogledd Cymru, heb law mwnglawdd aur Gwynfynydd, a beth oodd eyfanswm cynnyrch aur yn Ngogledd Cymru. Syr M. Hicks-Beach--t Cyfanswm yr hyn a dalwyd i'r Goron yn v flwyddyn i fyny i'r 31ain o Fawrth diweddaf, felfees, ydoedd 2 lalrl 9s 6c ac am ardrethoedd gweithredoedd a theyrndoll- aeth, 2 131p 16 2c Cyfanswm yr aur a gyn- nyrchwyd am y flwyddyn bono ydoedd 11,609^ o wnsau Ni dderbyniwyd dim oddi wrth fwn- ghwdd aur Gwynfynydd am y flwyddyn ddy wededig Aelod Neioudd. Cymmerodd Mr. D. D. S'aeehan, yn cael ei gyf- Iwync. gau y Cadben Donalan a Mr. P. O'Brien, y lift a' F&id dros Ganolbarth Cork, yn lie y di- weddar Dr. Tanner. GWYLIATJ Y SULGW\'H Mr, Balfour a gynnygiodd fod y T, ar ei waith yn codi ddydd Uweaer, yn gohirio hyd dydd lau, Mehefia 6ed, Yn nghwrs y ddadl a gymmerodd le ar ol hyny, dangoawvd fod Mesur Gwraig Drangcedig. a Mesur Gwerthu D'nd i Blant, a Mesur Dysgybl- aeth yr Eglwys, i !awr am wythnos i ddydd Mercher nesaf a chynnygiwyd gwelliant fod y Ty vn ail ymgynnull ar y diwrnod hwnw. Wedi i amryw gymmeryd rhan yn y ddadl hon vmranwyd. Dros y gwelliant 166 YN erbyn 196 I Mwyafrif y Llywoirac-th 30 Derbyniwyd y Hi <yr iu hyn gyda. chymmerad- wyaeth mawr oddi wrth yr Wrthblaid. Yn y ddadl a gymmerodd Je, yn ddilywol i hyny, ar y pr;f gwestiwu, cyttunwyd ar y panderfyniad i ohirio dros y Sulgwyn. Missua CYLLID. Yn nghwrs v ddadl a gymmerodd le ar ail ddar- ileniad Mesur Cyllid, dywedodd Mr. John Morley, yr hwn a dderbyniwyd gyda chymmeradwyaeth mawr gan yr Wrthblaid, ei fod yu temdo fod y Gyllideb, yr hon a gyflwyn- wyd ya yr argyfwng hwn o ryfel f%wr, yn no y cyfeirid ati yn ein banes cyllidol. Y bennod gyntaf ydoedd, y oynllan newydd yr oeddym wedi cael ein harwain iddo. Nid oedd yna ond dwy ffordd i gario allan gynoiideb—un ai trwy ddilyn, yn ei fanylios, flwyddyn or ol blwyddyn, neu trwy osod mewn awdurdod Ganghellydd y Drysorfa, yr hwn ? fynai gpel ei ffordd ei hun gyda golwg ar dreoliadau. Ood nid oedd efe yn gwel- ed, yn ngwyueb tymmheredd preseocol pob! y wlad hon, o ba le yr oedd y gaJlu cynnyrchiol o gynnil- deb ya y Ty hwn i ddyfod. Yr oedd gwaed wedi cael ei dywa'ilt, miloedd o wragedl wedi cael eu gwneyd yn weddwon, a miloedd o blant yn amddi- faid, ac yr osdd miliynau o bunnau wedi cael eu iluchio i'r llyngclyn, wrth ddilyn polisi o ynfyd- rwydd mawr. Mr. A. Chamberlain oedd y, nesaf i siarad, yr hwn a amddilTynodd bolisi rhyfel y Llywodraeth. Credai ef y byddai i'r bold oedd wedi cefnogi y Llywodraeth gyda go!wg ar y rhyfel ar y dechreu barhau yn eu cefnogaeth hyd y diwedd. Ymranodd y Ty a chaed Dros yr ail ddarileniad 236 Y u er byn 132 Mwyafrif 104 Gohiriodd y Ty am bum munyd ar hugain i un, 0
\ TY Y CYFFREDIN
News
Cite
Share
TY Y CYFFREDIN DYDD GWENER, Mai 24'Xin.-Cymme1'odd y Llefarydd y gadair am dri o'r gloch. F Doll Allforiadol ar L6. Syr M. Hicks-Beach, mewn attebiad iMr. D. A. Thomas, a ddywedodd nad oedd mewn sef- yllfa i wneyd mynegiad cyffredinol ar bwngc y doll ar 16 a allforid." Yr oedd yn rliaid gwneyd archwiliad ar yr holl gontracts.' Mesur y Rlustr Wladol. Ar y cynnygiad i ail ddarllen Mesur y Rhestr Wladol, galwai yr aelodau Gwyddelig am ymraniad. Cariwyd y penderfyniad trwy 149 o bleidleis- iau yn erbyn 38. Mesur Trosglwyidiad y Goron. Cafodd Mesur Trosglwyddiad y Goron ei ddadleu mewn pwyllgor; ac adroddwyd ef i'r Ty, heb unrhyw welliant. Cyflenwad. Y mffurfiodd y Ty yn bwyllgor ar amcangyf- rifon y fyddin. Ar un o'r pleidleisiau galwodd Mr. Lloyd George syhv at sefyllfa gwersylloedd yr ym- noddwyr yn Neheudir Affriea a chynnygiwyd gostyngiad yn y bleidlais ynglyn 6, gwasanaeth peiriannwyr oedd ar y maes Mr. Brodrick, mewn attebiad, a ddywedodd nad oedd ef am hbni fod y cyfleusderau a'r ym- borth a ddarperid yn cynnrychioli danteithion, )nd yr oedd y carcharorion a'r ymnoddwyr yn cael yr un gyfran ag oedd ein milwyr ninnau yn ei gael ar y maes. Cafodd y gwelliant ei wrthod. Cododd y Ty yn fuan ar ol canol nos.
BWROD GWARCHEIDWAID LLANELWY.
News
Cite
Share
BWROD GWARCHEIDWAID LLANELWY. CYNNALIWYD cyfarfod pytbefnosol y bwrdd hwn dydd Gwener, o dan lywyddiaeth Mr. R. LI Jones. Rheidweinydd Cynnorthwyol i Lanelwy Pennodwydy Rhingyll Langdon i'r swydd ucbod, fel olynydd i'r Arolygydd Pearson. RHEITHOR DINBYCH A'l DALTADAU AM GLADDU. Y Bwrdd yn glynu at ei benderfyniad Darlienwyd llythyr. dyddiedig yr 223.in o'r mis hwn, oddi wrth Reithor Dinbvcb, yr bwn oedd i'r perwyl a ganlyn :—' Darfu i Fwrdd y Llywodr- aeth Leol anfon copi i mi o'u llythyr ar y 9fed o'r mis hwn atocjh chwi, yn mha un y dywedant, yn groes i'ch dadl chwi, fod y gwarcheidwaid yn gyfrifol am y tfil am gladdu yn achosion tlodion tyddo yn derbyn cynnorthwy plwyfol, a bod swm y cyfryw dhl i gael ei benderfynu, nid gan y gwarcheidwaid eu hunain, ond gan dabl y taliadau oedd mewn grym yn y plwyf oedd yn dwyn cys- sylltiad & hyny. Yn y cyfamser yr wyf wedi bod yn disgwyl eich cheque i dalu y cyfrif, yr hwn a gyflwynwyd i chwi er s tro, a'r hwo oedd yn cael ei sylfaenu ar y raddfa a osodir allan yn Nhabl y Taliadau ond nid oes un ammheuaeth nad yd vw mater mor ddibwys wedi diangc eich sylw. By- derwyf y byddwch mor dda a thaiu y cyfrif hwn mor fuan ag y bydd yn gyfleus i chwi. Pan wneir hyn, byddaf yn barod i droi at fy nghvnnyg eyntaf i chwi-cyunyg y darfll i chwi ei wrthod gyda rhyw beth fel dirmyg—i ostwng y tS.1 am ghddu tlodion i 2s 6c., y swm a delir yn awr i i'mneilHuwyr.' Y cadeirydd a sylwodd fod y llythyr yn CVtl. nwys cyhuddiad fod y gwvcheidwaia wedi gwrthod y rheithor gyda dirmyg. Nid oedd efe yn gwybod a oeddynt yn hollol bared i hyny fyned allan yn rldi-hèr. Wedi i'r clerc ddarllen y penderfyniad a bas. iwyd yn flaenorol gan y bwrdd mewn perthyna s i'r mater hwn, dywedodd iddo fyned i Ddin- bych, er iddo geisio gweled y rheithor, ond yr oedd y diweddaf oddi cartref ar yr adeg. Gwelodd un o'r ciwradiaid, modd bynag, ac eglurodd iddo ef y eeiyllfa a gymmerwyd i fyny gan y gwarcheidwaid. Y cadeirydd a ddywedodd nad oedd y rheithor, yn ei lythyr, yn cyfeirio at y pender fyuiad oedd newydd gael ei ddarllen gan y clerc, ond dywedaei fod yn barod i droi yn ol at gynnyg a hfrnai ef oedd y gwarcheidwaid wedi ei gwrthod gyda dirmyg. Yn yr amgylch iad hwn yr oedd til yn cael ei godi am gladdu tlodion oedd yn blwyfolion Dinbych. Nid oedd y gweinidogion Ymneilldnol, na'r ficeriaid mewn un plwyf arall yu mha un yr oedd y tlodion oedd yn cael eu c'addu ya blwyfolion yn codi täl; a phan y byddai y corph yn cael ei anfon o'r Tlotty yn unig y codid tâJ. Yna galwyd ar reidweinydd dcsbarth Din- byeli gei- bron y bwrdd; ac mewn attebiad i gwestiwn dywedodd mai y bil cyntaf a dder byniodd ef gan y rheithor oedd am 2,. 6. ac un arall am swm cyffelyb i'r clochydd. Y cadeirydd A oedd y rhai yny mewn cyssylltiad a chladdn person tlawd o'r Tlotty ? Y rheidweinyddNag oedd, y tu allan i'r ty! Y'cadeirydd.Aydym i dalu i weinidog- ion Ymneillduol am gladdu tlodion tu allan i'r tf V Y rheidweinydd: -1 Nid yn Ninbych.' Yea eirydd;A ydym yn gwneyd mewn rhywle arall?' Y rheidweinydd: — Na: nid wyf yn meddw] Y cadeirydd Dvna ydyw y cwestiwn. Y mae y ficer hwn yn codi ttl am gladdu tlodion sydd yn derbyn cynnorthwy plwyfol y tu allan i'r ty, yr hyn y medr pob ficer ei wneyd.' Y rheidweinydd a ddywedodd iddo gyfiwyno y biliau am 2,. 6c. bob un oddi wrth y rheithor a'r clochydd i bwyllgor, yr hwn a'u dygoddger bron y bwrdd yn gyffredinol. Mewn attebiad i gwestiynau pellach, dywed- odd y rheidweinydd iddo, yn achos Margaret Roberts, roddi archeb am y bedd. Cvfanswm y bil ydoedd 8s. 6- sef, 33: 63. am y bedd, a 2-s. 6c. bob un i'r rheithor a'r clochydd. Y cadeirydd I A ddarfu i chwi erioed dalu am gladdu tlodion oedd yn derbyn cynnorthwy tu allan i'r ty, pan y rhoddasoch archeb am fedd ?' Y rheidweinydd :—'Naddo, erioed.' Mr. Joseph Jones a gynnygiodd eu bod yn glynu at y penderfyniad oedd wedi cael ei basio eisoes; ac os nad oedd y rheithor yn foddlawn i dderbyn yr 2s. 6c. a gynnygid vn mhob achos, ei fod yn cymmeryd y 'mater i rywlc arall. Mr. J. D. Jones a gefnogodd; a chariwvd y penderfyniad yn unfrydol, Cyfraith y Trethi Arna thyddol. Darlienwyd llythyr oddi wrth' glerc Undeb Conwy (Mr. Parry), yn amgau copio benderfyn- iad a basiwyd gan y bwrdd hwnw, yn gwrth dystio yn erbyn adnewyddiad Cyfraith y Trethi Amaethyddol, yr hwn nad oedd yn ddim ond deddfu ar gyfer dosbarth, yn gym- mamt ag nad oedd yn estyn mantais ond i'r dosbartli oedd yn nieddu tiroedd yn unig, ac yn gofyn i warcheidwaid Llanelwy roddi eu cefn- ogaeth idd,). i Yn 2-Y Si odd Mr. Joseph Jones fod penderfyn- iad cyffelyb yn cael ei fabwysiadu. Mr. Robert Davies, Prestatyn, a gefnogodd. Mr. J. D Jones, yr hwn sydd yn ffermwr mawr ar ystad Kinmel, a wadai fod y gyfraith yn estyn mantais i'r tirfeddiannwr ar draul anfantais i'r ffermwyr. H6nai ei fod yn warth- us 0 beth gwneyd y cyfryw fynegiadau, o blegid byddai 1 r holl ffermwyr oedd yn yr ystafell ddyweyd eu bod ar en mantais o r gyfraith. Cynnygiodd nad oeddynt yn go sod y penderfyniad ger bron y cvfarfod. Gefnogodd Mr. Parry, Bettws Mr. Edwin Morgin a ofynodd a ellid nodi iiiii liyiv eiigili-),ifft o'r i,han hono o'r wlad He yr oedd y tirfeddiannwyr wedi cymmeryd mantais ar y gyfraith. Y Parch. Dr Abel Parry a ddywedodd. mor bell ag yr oedd efe yn deall y gyfraith, ym- fr, ddangosai iddo ef nad oedd y tirfeddiannwyr a arferent ddychwelyd hyn a hyn y cant 0 ostyngiad yn eu rhenti, wodi gwneyd hyny ar ol i r gyfraith gael ei phasio Yn awr, wedi i'r ffermwyr gael eu rhyddhau mewn rhan o'r trethi, nid oeddynt yn cael dim yn ol wrih daln eu rhenti, yr hyn oedd yn eu gadael yn wraeth allan, am fod y cynnorthwv oeddynt hwy yn ei gael yn llai na r gostyngiad yn y rhenti Yna cyfeiriodd Mr Parry at achos a ddygwyd ger bron Tý y Cyffredin, pan y dywedodd Mr. Lloyd George fod Mr. Chaplin yn manteisio i'r swm o 700/7. yn y flwyddyn trwy i'r gyf- raith gael ei jihasio, ac ni chafodd hyny ei wadu Mr. J. D. Jones a ddywedodd nad oedd yna ddim gostyngiad wedi cymmeryd lie yn y rhent ar ystid Kinmel er's amryw flynyddoedd cyn i'r gyfraith gael ei phasio. Cadarnhawyd hyny gan Mr. Thomas Robarts, Lleweni, tenant arall. Y cadeirydd a sylwodd e; fod yn teimlo yn hwyrfrvdig i gymmeryd rhan yn y ddadl; ond nis gallai lai na dyweyd ei fod yn bwngc yr oedd pawb yn ei wyhod, cyn i'r gyfraith gael ei phasio, fod ystadau Bodelwyddan, Bodrhyddan, a llawer eraill, yn dychwelyd symiau o'u rhenti bob amser yn mron pan yr oeddynt yn cael eu talu, tra nad oeddynt wedi gwneyd dim ar ol hyny. Nid oedd y Due o Westminster, yr hwn oedd yn arfer dychwelyd symiau o'r rhenti yn rheolaidd, byth yn gwneyd hyny yn awr. Mr. T. Roberts, Trefnant, a sylwodd fod rhai tirfeddiannwyr yn cymmeryd mantais ar y gyfraith, tra nad oedd eraill yn gwneyd hyny. Y diwedd, modd bynag, fu gosod y pender- fyniad ar raglen y cyfarfod nesaf.
GWYL DDIRWESTOL.
News
Cite
Share
GWYL DDIRWESTOL. Nos Fereher a dydd Iau Dyrchafael cynnaliwyd yr ftyl flynyddol uchod. Y gweinidogion a wasanaethent eleni oeddynt y Parchn. W. Roberts. Maentwrog (W.); H. Ifor Jones, Caer (A.); ac H Barrow William3, Llandudno (M C.). Cafwyd pregethau grymus ac effeithiol ganddynt, fel y canlyn Y Parch. If. Barrow Williams yn Moriah, Carris Uchaf; y Parch. H. Ifor Jones yn Aberllefenni a'r Parch. W. Roberts yn Siloh, Corris Yn ystod y dydd, ddydd Iau, cafwyd anerchiadau gwerthfawr ar ddirwest; a chanwyd amryw ddarnau o dan arweiniad y Mri. James Lewis (lago Idris), ac H. S. Roberts. Llywyddwyd gan Mr. John Lewis, y llywydd am y flwyddyn ddiweddaf.
CYMMANFA YSGOLION METHODTSTIAID…
News
Cite
Share
CYMMANFA YSGOLION METHODTSTIAID CALFINAIDD DOSBARTH CORRIS. Cynnaliwyd y gymmanfa uchod yn Bethania Corris Uchaf a chan fod yr bin mor ffafriol, daeth cynnull- iad rhagorol ynghyd a rhoddwyd derbyniad caredig i bawb gan yr ardalwyr hefyd. Yr oedd y gwahanol ysgolion wedi cyttuno yn mlaen llaw a Mrs. Rees, Bethania Terrace, i barotoi ym borth iddynt am bris rhesymol mewn manau priodol, yr hyn hefyd a wnaed i berffeithrwydd. Cynnaliwyd y cyfarfod cyntaf am ddau o'r gloch, o dan lywyddiaeth Mr Richard Owen, Corris; a chyf- arfod yr hwyr o dan lywyddiaeth y Parch. J. J. Evans Aberllefenni. Yn y prydnawn holwyd y plant gan y Parch, John Roberts, Corris, yn y Rhodd illani a'r dosbferth o dan 21ain oed gan Mr. E. T, Williams, Bethania, oddi ar loan ii. Yn yr hwyr holwyd y dosbarth hynaf gan Mr. D. Ifor Jones, yn yr Hyfforddivr (pen. x.). Cafwyd holi ac attebion buddiol ac adeiladol drag ben. Cafwyd adolygiad ar yr ystadegau hefyd gan Mr. H. Evans, Aberllefenni. Dangosodd Mr. Evans ein bod wedi ennil tir lawer mewn rhai pethau, a'n bod yn ddiffygiol mewn pethau eraill, yn euwedig mewn presennoldeb. Gresyn fod aelodau o n heglwysi yn esgeuluso yr Ysgol Sabbothol; ofnir fod hyn yn myned ar gynnydd, yn enwedig yn mysg y dosbarth hynaf. Dengys hyn fod genym dir lawer etto i'w feddiannu. Arweiniwyd y canu gan y Mri, Morris Ellis, Beth- ania; ac H S. Roberts, Corris. Cyfeiliwyd gan Miss L. J. Jones, Bethania, a Mr. J. Lewis, Rehoboth Y swyddogion dewisedig am y flwyddyn ddyfodol ydynt:—Gofalwr, Mr. D. Ifor Jones; llywydd, Mr. Richard Owen; trysorydd, Mr. Hugh Evans, ac yn ysgrifenvdd, Mr. J. R. Evans, Aberllefenni, yr hwn, hefyd, sydd wedi parhau yn ysgrifenydd llafurus am y ddwy flynedd ddiweddaf. Da genym ddeall ei fod wedi ennill Tlws Aur yr Arholiad Cyfundebol eleni, llong-yfarchwn ef yn galonog am hyn hefyd. Ennillwyd tystysgrifau, hefyd, am ddysgu allan y Rhodd Mam, yr Hohedydd Bach, a'r EFyfforddwr; ond y maent yn rhy liosog i ni eu henwi. Ennillwyd tystysgrifau, hefyd, am ddysgu Efengyl loan i-vii. Daeth trigain o dystysgrUau y cyfarfod misol am basio yn llwyddiannus yr arholiad ysgrifenedig, ac ennillwyd dwy o wobrwyon y cyfarfod misol; sef, Miss Margaret Jones (Rehoboth) yn ail ar yr Hg- fforddwr (pob oed); a Mr. William T. Jones, Aber- llefenni, yn gyfartal bedwerydd ar Efengyl loan (i rai din 2Iain oed). Gwobrwywyd am Eglaro Emyn, Mr. H. Williams (AD Ifiris), Rehoboth ac amryw eraill am atteb cwestiynau yn gyhoeddus o'r Rhodd Mam, yr Holied- ydd Bach, yr Hyfforddwr, a'r gwahanol arholiadau ysgrifenedig Ileol. Cafwyd cymmanfa lewyrchus. yn arddangos 61 llafur mawr yn mhob cylch. GOHEBYDD.