Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
[No title]
News
Cite
Share
Nid oes un miliwnydd yn Iceland. Er fod pawb o radd isel nid oes neb yn pwyeo ar y plwyf, Ychydig neu ddim drwgweithredwyr sydd yno. Y mae Bwrdd Ysgol Macclesfield yn bwriadn herio y gyfraith a'r Llywodraeth yngl^n & dyfarn- iad y Barnwr Cockerton parheir i gario yn mlaen y dosbarthiadau gwyddonol to leithol. -z. ,_U_
CYMMANFA GYFFREDINOL Y METHODISTIAID…
News
Cite
Share
Mawlai, Cassia. Traddodwyd anerchiadau I ^yYJpa°rchf Gnffith^ElUs! Bootle, wrth adolygu agwedd gyllidol y gymdeithas ar ran y pwyll- gor, a ddadganodd, oddi eithr fod yna gynnydd svlweddol yn cymmeryd lie yn nghasgliadau vr echwsi, nad oedd ganddynt ddim 1 w wnevd ond galw rhai o'r cenhadon yn ol, a lleihau y costau. Canlyniad yr appel y flwyddyn ddiweddafyny Gymmanfa Gyffredm- ol ydoedd codiad yn nghyfartaledd y tanys- crifiadau o ddimai y pen. Y Parch. Evan Roberts, Dolgellau, a gyn- nvoiodd, a'r Parch. W. Evans, Pembroke Dock, a gefnogodd benderfyniad yn rhwymo y o-ymmanfa i beidio arbed unrhyw drafferth i (Idvllu derbyniadau y Bwrdd Cenhadol. Hysbyswyd fod y Parch. Eobert Evana yn o-lynu at ei benderfyniad i beidio dychwelyd i'r maes cenhadol, a derbyniwyd ei ymddi- swyddiad fel cenhadwr gyda gofid, a dadgan iad o werthfawrogiad uchel y gymmanfa or gwasanaeth oedd wedi ei estyn yn Cassia am agos i bum mlynedd ar hngain. t Penderfynwyd fod y pwyllgor gweithiol yn ymgymmeryd a'r gwaith yn ddioed o nodi un i lenwi ei le Gwnaeth y Bwrdd Cenhadol amrhyw aw- srvmiadau gyda golwg ar gyhoeddi cyfres o lyfrau cenhadol, i gael eu hysgnfenu gan y cenhadon Cymreig. i Cafodd y mater ei drosglwyddo, er ei ystyried yn mhellach, i bwyllgor y llyfrau. Pennodwyd y Parch. Dr. R. O. Morris, Birkenhead; Mr. William Evans, Elm Bank; a Mr. W. Bebb, Liverpool, ar y pwyllgor gweithiol.. Llenyddiaeth y Cyfundeb. Cyfiwynodd Mr. Evan Evans, Aberystwyth, adroddiad y pwyllgor llyfrau, yr hwn a ddang- osai fod cyhoeddiadau y flwyddyn yn cynnwys 16,000 o gopiau o lawlyfr Dr. Cynddylan Jones ar Efengyl loan, a 23,000 o gopiau ar y prawf lyfrau ar yr an pwngc gan y Parch. T. E Roberts; 5,000 o gopiau o'r Blwyddlyfr, a 5,000 o'r Almanac a'r Directory. Yr oedd y llyfr emynau a'r llyfr tonau i'r eglwysi Saesnig wedi cael ei gyhoeddi, hefyd, ac yr oedd 'Dar J liIjh Davies,' gan y Parch. W. M. Lewis, Ty n- llwyd, yn y wasg. Annogwyd y Parch John Hughes, Liverpool, i ddarparu llaw-lyfr ar yr athrawiaeth ac yr oedd y mater o gyhoeddi, yn Saesneg a Chymraeg, lawlyfr ar hanes y cyfundeb yn cael ei ystyried. Yr oedd adrodd iad y Llyfrfa yn foddhaoi. Yr oedd yr enmll- ion ar oruchwyliaeth y llyfrau yn 1900 yn 2,098/). 12s. 7 £ c., ac yr oedd y fantolen yn dangos fod yr 61-eiddo yn fwy na r ddyled ar yr Slain o Ragfyr diweddaf, yn 14,772p. 8s. 9c. Adroddiad Ystadegol. Cyfiwynodd ystadegwyr y cyfundeb y Parch, doseph Evans, a Ddinbych, a J. T. Morgan, Uarn-adroddiad dyddorol, yr hwn a ddangosai, tra nad oedd yna ond tua 300 o gapelydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Nghymru ar ddechren y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fod ganddynt yn awr 1,572 o gapel- ydd, gydag 879 o adeiladau eraill, ar wahftn oddi wrth dai capelydd, a 188 o dai gweinidog ion. Yr oedd yna gynnydd eleni o 18 yn nifer tai y gweinidogion; ond yr oedd y cynnydd wedi cymmeryd lie mewn rhanbarthau poblog- aidd", lie yr eedd digon o dai. Yr oedd y sir- oedd eraill ar ol yn yr ystyr hwn; a chwynai yr ystadegwyr, yn mhellach, tra yr oecld yna gynnydd o 51 yn nifer y capelydd a yswiriwyd, yr oedd un ran o dair o gapelydd y cyfundeb yn parhau heb gael eu hyswirio. Yr oedd y cymmunwyr yn awr yn rhifo 158,114--cynnydd ar y flwyddyn flaenorol o 2,086. Yr oedd yna gynnydd yn nifer y gwrandawyr o 4,079, yr hyn oedd yn gwneyd y cyfanrif yn 319,261. Yr oedd aelodau o'r cynnulleidfaoedd oedd heb fod yn aelodau eglwysig yn rhifo 86,314 Yr oedd y casgliadau at y weinidogaeth am y flwyidyn ddiweddaf yn 96,511p. 3s. 9c—lleihSd o 450p. 17s. 10c. ar y flwyddyn flaenorol. Cyfanswm y casgliadau at y genhadaeth, 12,042o. 18s. lc.— lleifUd o 1,172.0. 4s. 11c. Casglwyd at ddyled- ion capelydd, 79,411p. 16s. 5c. Cyfanswm y casgliadau tuag at bob amcan, 283,803p. 12s. 6c. -Ileihfid o ddim ond 276p. 17s. 2c. Diweddai yr adroddiad gyda;r crynodeb a ganlyn o'r ystadegau am y flwyddyn 1900:- Eglwysi, 1,363; capelydd a lleoedd i bregethu, 1,572; adeiladau i gadw Ysgolion Sabbothol, 879; tai gweinidogion, 188; gweinidogion, 823; pre- gethwyr, 408; diaconiaid, 5,690; cymmunwyr, 158,144; plant yn yr eglwysi, 232,947; der- byniwyd yn aelodau—o had yr eglwys, 4,024; etto o'r byd, 3,687 trwy lythyriu, 14,326- cyfanrif, 22,637; collwyd o'r eglwysi-trwy f arwolaethau, 2,643; trwy lythyrau, ]4,481: trwy wrthgiliad, 2,878 cyfanrif, 20,749; Ysgolion Saobothol, 1,664; cyianrif yr aelod- au, &c., yn yr ysgolion, 201,766; gwran dawyr, 319,261. Yr oedd y cyfrifon arianol fel y canlyn: Tuag at y weinidogaeth, 96,511p. 3s. 9c.; y cenhadaeth, 12,042p. 18s. lc; y drysorfa gynnorthwyol, 3,159p. 168. 3c.; trysorta y tlodion, 3,177p. 2s. 5c.; casgliadau at ddyledion y capelydd, 79,411p. :16s. 5c.; Ysgol- ion Sabbothol, 8,428p. 7s. 4c rhenti eisteddle- oedd, 27,708p. 9s 7c.; ac amlyw gasgliadau eraill; y cyfanswm, 283,903p. 12s. 6c neu Ip. 158. lOfc. ar gyfartaledd i bob aelod. Y ddy- led bresennol ar gapelydd ydoedd 343,290p. os, 4c. Pwyllgor Seneddol ac Eiddo. Cyflwynwyd adroddiad y pwyllgor hwn gan Mr. Jacob Jones, Rhyl, yn yr hwn y cyfeirid at y golled a gafwyd trwy farwolaethMr. John Jones, Llanfyllin. Yr oedd y pwyllgor wedi gofyn i Mr. John Owen, Llandinam, i lenwi y swydd 0 ysgrifenydd. Cyfiwynodd y pwyll- gor, hefyd, benderfyniad, yn dadgan yr angen- rheidrwydd 0 gael cyfraith seneddol i orfodi tirfeddiannwyr i werthu tiroedd i godi capel y'dd, lie yr oedd angen, ac i werthu rhydd- ddaliad y tiroedd oedd yn dai yn awr ar bryd- les- ac yn dymuno cydweithrediad yr holl enwadau Ymneillduol Cymreig ynglyn a'r mater hwn. Morivyr Cymreig meivn Porthladdoedd A mericanaidd. Cymmerodd dadl le ar gais a dderbyniwyd o'r America, am gynnorthwy i gario y gwaith cenhadol yn mysg morwyr Cymreig yn New ): ork. Ar y diwedd penderfynwyd fod y gym- manfa yn tanysgrifio 10p. yn y flwyddyn at yr amcan hwnw. Y Llyfr Emynau a Thonau Saesnig. Pennodwyd ar bwyllgor, cynnwysedig o'r Parchn. J. Morgan Jones, Caerdydd; J, J. Roberts, Porthmadog; yr HenadurlJ. Jones- Griffiths, Penygraig E. P. Jones, Rhyl a Mr. R. B. Ellis, Bontnewydd, i gyfarfod pwyllgor aweithiol y llyfrau, a'r Parch. T. G. Owen, Liverpool, er dwyn yr anghydwelediad ynglýn a cbyhoeddiad y llyfr i derfyniad. YSiJ rifenydd y Gymdeithas Gena-dol. Yr oedd 130 geisiadau wedi eu derbyn am y swvdd o ysgrifenvdd y Gymdeithas Genhadol Dramor oad nid oedd yn ymddangos fod un o'r ym^eiswyr yn meddu ar yr holl gymmhwys- derau "ofynol. O, dan yr amgyichiadau, pen- derfynodd y gymmanfa ofyn i'r pwyllgor oweithiol wneyd trefniadaa 1 gario gwaith y swydd hyd y Gymmanfa Gyffredinol nesaf. Pennodwyd pwyllgor, hefyd, i gelsio sicrhau dyti cyximhwys i'r swydd yn y cyfamser. Yr Arholiad CyfuiideboL Cyflwynodd y Parch. Edward Parry, Dref- newydd, a'r Parch. J. Davies Parry, eu hadrodd- iad, fel arholwyr, mewn cyssylltiadag Ysgolion SabbothoI y cyfundeb. Yroedd pedwar ar bymtheg a thrigain o ymgeiswyr wedi bod o dan arholiad, ac yr oedd 73 wedi pasio. Dy- farnwyd y bathodyn aur i Mr. J. R. Evans, Aberllefeni, Gorllewin Meirionydd, yr hwn oedd wedi cael 188 o farciau allan o 200 fel y nifer uchaf. Ennillwyd y bathodyn arian gan J. G. Jones, sir Frycheiniog (178 o farciau), a r bathodyn bronze gan H. Hughes, Llanrhyddlad, Mbn (177 o farciau). CYFARFODYDD CYHOEDDUS. Cynnaliwyd amryw gyfarf)dydd cyhoeddus yn ystod y dydd. Yny prvduawn llywyddai y Parch. J. J. Roberts, y cyn-ly wydd, dros gyfarfod cyhoedd- us i'r bobl ieuaingc, yn mha un y siaradwyd gan y P-Lrehn. W. Thomas, Llanrwst; R. J Rees, Caerdydd; a J. Glyn Davies, Casnewydd. Yn yr hwyr, yn nghapel y TabernacI, yr oedd cynnulliad gorlawn yn gwrandaw ar y cenhadon oedd newydd ddyfod drosodd i'r wlad hon. Cymmerwyd y gadair gan lywydd y gymmanfa. Yr oedd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gyn- nal, ar yr un adeg, yn nghapel Siloh, er cefn- ogi dinvest a'r symmudiad ymosodol. Llyw- yddid gan y Prifathraw Prys. Yn mysg y siaradwyr yr oedd y Parchn. Seth Joshua, Caerdydd; Dr. Monro Gibson, Llundain; Dr. James, Manchester; Evan Jones, Caernarfon, ac eraill. DYDD IAO. Cariwyd y gweithrediadau yn mlaen heddyw boren yn nghapel Siloh. Adroddiad Pwyllgor yr Ysgol Sul. Cyfiwynodd y Parch. T. Levi, Aberystwyth, adroddiad pwyllgor yr Ysgol Sul, yr hwn a hys- byeai fod yr ysgolion yn gyffredinol mewn sefyllfa flodeaog. Pwyllgor Llyfrau. Cynnygiodd y Cynghorwr S. N. Jones, Aber- tlleri, fod eyfarwyddyd yn ciel ei roddi i bwyllgor y llyfrau i ystyried y raddfa o daliadau i awduron; ond penderfynwyd i'r mater gael ei adael i bwyll- gor y cyllid. Rheolau y Cyfundeb. Y Parch. T, Gwynedd Roberts a gyncygiodd fod llyfr bychan yn cael ei gyhoeddi, yn cynnwye holl reolau y cyfundeb a bod pwyllgor y rheolau yn cael ei ofyn i'w casglu a'u trefnu. Cyttunwyd ar hyny. Y Gymdeithas Ddirwestol. Cyflwynodd y Parch. W. Lewis, Pontypridd, yr adroddiad a ganlyn PUMMED ADRODDIAD Y GYMDEITHAS DDIRWESTOL GYFUNDEBOL. Cyfarfu y Pwyllgor Gweithiol ddwywaitb., a'r Pwyllgor Cyffredinol unwaith, yn ystod y flwyddyn, pan y bu dan eu sylw amryw faterion perthynol i'r gymdeithas. Y Gyfres Wen.-Cafwyd mai araf y mae:y wlad yn rhoddi derbyniad i'r Gyfres Wen, a bod yr anturiaeth, hyd yma, yn golled arianol. Argraphwyd 14,000 o gopiau; ond nid oes ychydig gyda yr hanner wedi eu gwerthu. Trefnwyd i geisio dwya y Gyfrts i fwy o sylw, a cheisiwyd gan Bwyllgor Undeb yr Ysgol Sab- bothol i gydweithredu yn hyn. Dymunir, hefyd, ar i'r gymmanfa arfer ei dylanwad er cael gan y cyfar- fodydd miaol i drefnu moddion i'w gosod yn nwylaw aelodau a gwrandawyr ein heglwysi. Teimlir ei bod yn nodedig o bwrpasol, a bod ganddi genadwri, yn enwedig i bobl ieuaingc ein gwlad. Enwyd personau i barotoi llyfrau chwanegol yn y Gyfres ar faterion, megys: 'Llyfrau i'w clarllen,' 'Addysg yr aelwyd,' 'Gw £ r ieuaingc yr ysgolion,' 'Peryglon bywyd trefol,' 'Holwyddoreg ar ddirwest ac iechyd.' Y Curdiaii' Ymrwymiad.—Yn yr adroddiad diwedd- af hysbyswyd fod mesurau wedi eu cymmeryd i ddar- paru cardiau ymrwymiad at wasanaeth y cangen- gymdeithaaau a'r Gobeithluoedd; erbyn hyn yr ydys wedi sicrhau cerflunydd i barotoi designs, ac byderwn y cyhoeddir hwynt, bellach, yn ddioedi. Yr Arholiad Dirwestol.—Wedi ystyriaeth faith gan Is-bwyllgor, ac ymddiddan pellach yn y Pwyllgor Cyff- redinol, methwyd gweled y fEordd yn glir i sefydlu arholiad dirwestol cyfundebol am y prexennol; ond dymunir rhoddi annogaeth daer i'r Gobeithluoedd a'r cymdeithasau dirwestol i drefnu arholiad lleol neu airol hyd nes y gellir sefydlu un cyfundebol. Crelyddwyr a Di tdydd Meddwol.-Bu ymdriniaeth ar arferiad yr ofnir bod llawer o aelodau, ac hyd yn oed rhai swyddogion, ein heglwysi yn euog o honi; sef, cadw diodydd meddwol yn eu tai, yr hyn sydd wedi profi yn gymmaint profedigaeth i lawer o eglwysi ein gwlad, ac wedi arwain i ganlyniadau mor ddifrifol. Pasiwyd y penderfyniad canlynol gyda golwg ar hyn, i'w gyfiwyno i'r Gymmanfa Gyffredinol:- Ein bod yn dymuno galw sylw mwyaf difrifol ein swyddogion a'n haelodau at yr arferiad beryglus sydd yn ffynu yn mhlith Iliaws o deuluoedd o gadw y diod- ydd meddwol yn eu tai. Drwy hyn gosodir profedig- aeth o flaen holl aelodau y teulu, ac o flaen cyfeillion, ac eraill, a fyddo yn talu yinweliad a'r teuluoedd, ar y rhai y eymmhellir y diodydd hyn; profa yr arferiad hon yn iliv ami yn ddinystr i'r rhai gweiniaid; gwyddis am liawa o amgylchiadau yn mha rai y darfu i ddynion ieuaingc, ddinystriwyd tan y diodydd meddwol, yma-fer gyntaf a hwy yn nhai aelodau parchus ein heglwysi. Bernir, hefyd, fod y cynnydd difrifol yn yr ymarferiad o'r diodydd hyn yn mhlith gwragedd yn ddyledus, i fesur helaeth, i r arferiad hon o gadw y diodydd yn y tai, a'u gwneyd yn rhan o'r croesaw a roddir i gyfeillion a fyddo yn galw; drwy yr un arferiad cynnyrchir yn y plant ar yr aelwyd y syniad o ddiniweidrwydd y diodydd y maent yn gweled eu rhieni a chyfeillion yn eu harfer, a syrth- faiit hwythau, yn ol llaw, i'r un arferiad, ac yn rhy ami dilynir yfed cymmedrol y rhieni gan feddwdod cyhoeddus y plentyn. Yn wyneb y pethau hyn, yr ydym yn taer erfyn ar ein holl aelodau i gadw eu tai yn lan oddi wrth y llygredigaeth hwn rhag temtio aelodau y teulu, yn ogystal a dyeithriaid a groesawir ganddynt, ac i feithsin yn eu plant atgasedd iachus at y diodydd d nystriol hyn; ac yr ydym yn galw ar ein holl swyddogion, nid yn utiig.eu hunain i roddi esampl deilwng°yn y pc-th hwn, ond, hefyd, i ddefnyddio pob moddiona chyfleusdra i argymmhell y ddyledswydd hon ar ein haelodau,' Cenhadaeth Ddirwestol Gylamserol. -Pen lerf ynwyd gofyn i'r gymmanfa i geisio gan y cyfaifodydd misol i wneuthur un ymdrech fawr gyfundebol trwy drefnu wythnos o gyfarfodydd i weddio ac i areithio, gyda'r amcan o gynnhyrfu ein heglwysi i fwy o weithgarwch gyda r achos dirwestol. Awgrymir mis Tachwedd fel adeg gyfleus i gynnal y cyfarfodydd. Yr Aches Dirwestol a'n Heglwysi.—Y mae yn ofidus genym fod ein sefyllfa yngtyn a'r achos pwysig hwn etto mor anfoddhool. Fe weithiodd ein tadau yn ardderchog o'i blaid, ac fe fu eu llafur i'n gwlad o ddirfawr werth; ond er fod Iliaws mawr o honom ninnau yn' ddirwestwyr rhagorol, etto, gyda'r ym- ollyngiad a ddilynodd 7ymdrechion y blynyddoedd gynt, fe aeth yr achos yn ein plith yn bur ddilewyrch, ac yr oedd y ddiod yn cael ei rhwysg i'n hanrheithio. Hyderem y ceid cychwyniad newydd grymus gyda lefydliad Cymdeithas Ddirwestol y Cyfundeb ynglyn a'r Gymmanfa Gyffredinol; ac y gwneid ymdrech mewn cyssylltiad ft phob un o'n heglwysi i gael ein haelodau a n gwrandawyr, a phawb eraill a fyddent 0 fewn ein cyrhaedd, i roddi eu henwau ar ein llyfrau; a'r un modd y ceid enwau ein plant yn y Gobeithlu- oedd ar eu llyfrau hwythau. Ond hyd yma, y mae ein methiant yn hyn yn achos o ofid i ni. Wrth reswm, ni feddylia am lesteirio dim ar ein cydweith- rediad &'n cyfeillion o enwadau eraill yn yr ymdrech o blaid sobrwydd; ond pan y mae canghenau eraill o eglwy3 Crist, gan gynnwys Eglwys Loegr a'r Pabydd- ion, yn gwneyd y fath waith gwych o fewn eu cylch- oedd eu hunain, heb law a wnaht mewn cydweithred- iad &g eraill, ni fuasai yn llawer, yn sicr, i'r Method- istiaid a fuant yn gweithio mor egniol gyda'r achos 9 hwn ddyfod allan yn y blynyddoedd hyn yn gryf o'i blaid. Ond ni wnaethant. Y mae ein cyfeillion o enwadau eraill yn y deyrnas yn rhoddi cyfrifon calon- ogol am eu pregethwyr, a'u haelodau, a'u gwrandawyr, a'u plant sydd yn cymmeryd yr ardystiad dirwestol; ac y mae y cfrifon hyny ganddynt yn cynnyddu o flwyddyn i flwyddyn. Ond ni allwn ni osod ger bron unrhyw gyfrifon gwerth son am danynt. Mewn llawer man nid ydyw yn wiw genym wneyd unrhyw ymdrech; etto, y mae y Llyfr sanctaidd, sydd yn barliaus yn ein dwylaw, yn llawn o'r rhybuddion trymaf yn erbyn msddwdod, cyfeddach, a diota.' Nid ydym, chwaith, i anghofio nad ydoedd nerth meddwol diodydd gwledydd y Beibl ond eiddil mewn cymmhariaeth i'r gwlybyron alcoholaidd tanllyd a yfir yn y fath helaethrwydd yn y gwledydd hyn. Ac y mae y fasnach mewn diodydd meddwol, nad ydoedd yn bod yn y gwledydd hyny, yma wedi codi i'r fath gyfoeth, a nerth, a rhwysg, fel y mae yn llanw ein hardaloedd &'i themtasiynau. Ac echrydus ydyw y canlyniadau. Yr ydym yn gorfod diarddel llawer am feddwdod. Y mae l]e i ofni fod llawer mwy yn ein plith yn cael eu handw) o gan y ddiod nad ydyw ein dysgyblaeth yn"eu cyrhaedd, a mwy fyth wrth yfed, fel y tybiant, yn 'gymmedrol,' yn gosod ?u hunain ar lithrigfa sydd yn bur debyg o'u gollwng hwythau i'r un dyfnder ag y mae myrddiynau yn suddo iddo yn barhaus. Hyderwn yn fawr y bydd i r Gymmanfa Gyffredinol wynebu yr achos hwn gyda difrifoldeb teilwng o'i bwysigrwydd, ac anfon cenadwri gyda golwg arno, ag y gellid gobeithio y bydd iddi, dan fendith yr Arglwydd, beri diwygiad mawr. Cenadwri Ddirwestol i'r holl Eglwysi.—Wedi ym- driniaeth fanwl ar ystad dirwest yn ein heglwysi, pasiwyd fod cylch-lythyr oryf yn cael el ddanfon at yr holl eghvysi, yn galw mewn modd arbenig arnynt i ymddeffro gyda'r mudiad dirwestol ar ddechreu y ganrif hon. Y cylch-lythyr i'w argraphu yn Gymraeg a Saesneg, ac i'w" ddarllen i'r eglwys a'r gynnullcidfa ar y Sabbath Dirwestol nesaf, sef yr olaf yn Nhach- wedd. Ein bod yn gofyn i'r Parchn. D. Rowland, Bangor, a'r Prifathraw Prys, Trefecca, i'w barotoi; a'i fod i'w arwyddo gan lywydd y Gymmanfa Gyffred- inol, lly wydd ion y ddwy gymdeithasfa, ynghyd a llywydd ac ysgrifenydd y Gymdeithas Ddirwestol. Mcsury Pl,.int. penclerfytiitdau cryfion i'r senedd o blaid Mesnr y Plant,' ac arferwyd moddion i gael gan y cyfarfodydd misol a r eglwysi i wneuthur yn gyfTelyb; a dymunir ar y gymmanfa i wneuthur pob peth yn ei gallu er cael gan y senedd ei basio yn gyfraith y flwyddyn hon. Pennodwyd y Parchedigion Prifathraw O. Prys, Trefecca; Owen Owens, Liverpool; D. Meurig .Tones, Blaenafon, ynghyd &'r cynnullydd, i gynnrychioli y gymdeithas yn y gymmanfa nesaf. Dymunir adgofio y gymmanfa y bydd tymmor cyfarfyddiad y Pwyllgor Gweithiol yn Mhont y pridd ar ben y flwyddyn nesaf; ae awgrymir Ffeotiniog fel uian cyfleus i'r pwyllgor gyfarfod y tair blynedd dilynol. Cyflwynir y personau canlynol i'w cymmeradwyo gan y gymmanfa yn swyddogion y gymdeithas am y flwyddyn ddyfodol:- Llywydd;—Y Parch. D. Rowlands, Bangor. Is-lywyddionMr. R. W." .Jones, Pengam, a'r Parch. G. Ellis, Bootle. Trysorydd:—Mr. James Roberts, Trefforest. Ysyrifenydâ:- Y Parch. W. Lewis, Pont y pridd. Pwyllgor Gweithiol:- Y Parchedigion Dr. Thomas Rees, Cefn; Dr. Aaron Davies, Barry; J. Morgan Jones, Caerdydd; J. Glyn Davies. Casnewydd; Rowland Morgan, Pen rhiw ceibr; Thomas Powell, Llantrisant; yr Henadur J. Jones-Griffiths, Pen y graig; y Meistri R. Prys Jones, Pont y pridd a J. Davies, Aberafon. W. LEWIS, Cynnullydd. Darlith Davies Dr. James, Manchester, a gylfwynodd adroddiad V pwyllgor a bennodwyd i enwi un i draddodi Darl th Davies' y flwyddyn nesaf. Dewiawyd y Prifathraw Prys ond yn ngwyneb y gwaith mawr oedd ganddo ar ei law yr oedd yn rhaid iddo wrthod y pennodiad a dymunwyd ar i'r pwyllgor wneyd ail ddetholiad. Pleidleisiav o Gydymdeimlad. Ar gynnygiad y Parch. W. James, Aberd&r, yn cael ei gefnogi gan y Parch. D. Rowlands, Bangor, pasiwyd penderfyniad yn dadgan y gwasanaeth mawr oedd y Parch. W. Williams, Abertawe, wedi ei estyn i'r cyfundeb, a'r golled fawr oeddynt wedi ei gael trwy ei farwolaeth. Anfenodd y gymmanfa ei chydymdeimlad, hefyd, &'r Parchn G. Williams, sir Benfro; D. Phillips, Abertawe a Dr. Griffith Parry, Carno-tri o gyn-lywyddion oedd yn awr yn wael eu hiechyd. Pwyllgor y Cyllid. Hysbysai Pwyllgor y Cyllid fod gan Bwyllgor y Llyfrau Al eiddo uwch law eu dyled o 12,000p. Cyttunwyd i ranu 1,000,11. rhwng cymdeithasfa- oedd Gogledd a Deheudir Cymru ac i dalv. 200p. am bum mlynedd i gyfarfod mibol Llundain. Corphoriad y Gymmanfa. Cyttunwyd, ar gynnygiad y Cynghorwr Davies, Penarth, i bennodi pwyllgor o Ogladd a Deheudir Cymru, i ystyried y priodoldeb 0 gorphori y gymmanfa. Pwyllgor Addysg. Y Parch. Griffith Ellis, Bootle, a gyflwynodd adroddiad y pwyllgor addysg, yr hwn sydd fel y canlyn ADRODDIAD PWYLLOOR ADDYSG. Anfonwyd at ysgrifenyddion y pwyllgorau yn y cyfarfodydd misol a'r HenaduJiaeihau y llythyr canlynol:— 10, PEMBROKE ROAT), BOOTLE, Mawrth 29ain, 1901. ANWYL FR WD, Hoffwn gael gwybod, os byddwch mor garedig, pa waith a anaed gan y Pwyllgor Addysg yr ydych chwi yn ysgrifenydd iddo yn ystod y fiwyddy n ddiweddaf. Y mae yr amsoraisoes wedi rhedeg yn rhy bell. fe allai, i tlw y pwyllgor ynghyd, a pharotoi 8,droddia.d ffurfiol: ond yr wyf yn hyderu y gellwch anfon hysbysrwydd erbyn diwedd yr wythnos nesaf o unrbyw ffeithiau newyddion mewn cyssylltiad ag addysg o fewn eich cylch; ac y rhoddweh, hefyd, unrhyw awgrymladau sydd yn ymgynnyg i'ch meddwl gyda golwg ar y pethau y dylid eu dwyn i mewn i'r adroddiad a gyflwynir i'r Gymmanfa Gyffredinol nesaf. Chwi a gofiwch mai y materion y gofynwyd am hysbysrwydd gyda golwg arnynt y blynyddau diweddaf oeddynt:- Nifer yr ysgolion, enwadol ac anenwadol, yn eich cylch y nifer o blant y Methodistiaid sydd yn mynychu ysgolion enwadol, a'r rhesymau pa ham y gwnant hyny cymmeriad yr addysg grefyddol mewn ysgolion enwadol; y detnydd a wneir o adran cydwybod dylanwadau Eglwysyddol mewn cyssylltiad âg Ysgolion Canolraddol, &c. Byddai yn dda genyf gael unrhyw wybodaeth bellach ar un neu chwaneg o'r pethau hyn yn ddioed. Yr eiddoch yn gywir, GRIFFITH ELLIS. Derbyniwyd attebion o bwyllgorau y cyfarfodydd misol canlynolLleyn ac Eifionydd, Dyffryn Conwy, Dyffryn Clwyd, Fflint, Dwyrain Meirionydd, Gor- llewin Meirionydd, Trefaldwyn Uchaf, Trefaldwyn Isaf, Liverpool, Gogledd Aberteifi, Deheu Aberteifi, Caerfyrddin, Gorllewin Morganwg, a Henaduriaeth Morganwg. Ni dderbyniwyd attebion o F6n, Arfon, Manchester, Penfro, Dwyrain Morganwg, Brycheiniog, Mynwy, na Llundain, na chwaith o Henaduriaethau sir Lancaster a Threfaldwyn. Dywed dau neu dri o'r pwyllgorau nad oes ganddynt ddim i'w chwanegu at adroddiadau blaenorol. Ond I oddi wrth eraill derbyniwyd bysbysrwydd tra dy- ddorol. Wele ychydig o enghreifftiau Dyffryn (,onwy.-f Yr unig waith a wnaed yn ystod y flwyddyn oedd rhoddi cychwyn effeithiol, o dan nawdd y cyfarfod misol i ysgol ddyddiol y Cyfyng, rhwng Penmachno a Dolyddelen. Da genyf eich hysbysu fod yr ysgol yn golygu bod yn llwyddiant diammheuol, ac yn gaffaeliad ammhrisiadwy i'r ardal fynyddig hono-lien ardal yr enwog Dr. Morgan, Wybrnant. Cydnahyddir hi gan y Llywodraeth; ac I os deil yn mlaen fel y mae wedi gwneyd hyd yma, ni ryfeddwn pe byddai yr uchaf el per centage yn Nghym. ru gyda golwg ar bressnnoldeb y plant. Pan ddaw blwyddyn i ben, bydd genym bennod o banes, mi a hyderaf, a all, c'i gwneyd yn hysbys, fod yn symbyl- iad i leoedcl eraill.' Fflint.—' Gallwn ddyweyd fod 300 yn chwaneg eleni ar lyfrau ein hysgolion a gwneir defnydd helaethach o adran cydwybod yn yr Ysgolion Eglwysig. Gwneir yma ymdrech arbenig i wella addysg ein pupil teachers, trwy sefydlu dosbarthiadau iddynt yn yr Ysgolion Car.olraddol, ac mewn rhtti manau trwy sefydlu dosbarthiadau canolog. Pupil teachers sir Fflint a safodd uchaf yn Ngogledd Cymru y ddwy flynedd ddiweddaf.' Dwyrain Meirionydd.—'Lleihau yn raddol y mae y nifer o blant y Methodistiaid sydd yn myned i Ysgol ion Cenedlaethol. Nid ydyw yr ysgolion hyny mor effeithiol a- y dymunem, a phar ofn y dreth i lawer foddloni ar ysgol wael yn bytrach na galw am Fwrdd Ysgol. Ac nid ydyw pob bwrdd mor ofalus ag y dylai fod, yn arbenig am ysgolion bychain mewn cyrau anghysbell. Y mae y pwyllgor wedi cymmeryd i fyny achos un gymmydogaeth fechan sydd yn dioddef o herwydd amddifadrwydd o gyfleusderau addysg- awl.' Gorllewin Meirionydd. Y mae etto amryw o blant y Methodistiaid yn mynychu ysgolion Eglwysig, er fod ysgolion anenwadol yr un mor gyfleus iddynt mewn rhai lleoedd. Ni wneir dim defnydd o adran cyd- wybod Deheu AbeHeifi —' Y mae yr ysgolion anenwadol yn ennill tir yn barhaus, ac amryw o ysgolion Eglwysig wedi cael eu cau.' Mewn amryw o siroedd dywedir fod brwydrau etholiadol poethion wedi cael eu hymladd yn ystod y flwyddyn; ac mewn rhai amgylchiadau, ni chafwyd y Methodistiaid mor ffyddlawn i w hegwyddorion ag y gallesid disgwyl; ond mewn manau eraill daetbant allan yn gryf a gwrol, a sicrhawyd buddugoliaethau gwerthfawr. Mewn rhai ardaloedd dywedir fod ymdrech yn cael ei gwneuthur, yn ol cynghor y Prif Weinidog, 1 gymmeryd meddiant o Ysgolion y Byrddau Tueddir y pwyllgor i ddwyn i sylw y gymmanfa ychydig o ffeithiau mewn cyssylltiad ag addysg elfenol wedi eu cymmeryd o adroddiad y Bwrdd Addysg y flwyddyn ddiweddaf (1899—1900). Yn Lloegr a Chymru yr oedd, yn 181)8-9, ar restrau yr ysgolion elfenol 5,672,403 o blant; ac yr oedd cyf- artaledd y presennoldeb yn 4,644,213. Fel y can- lyn :— Cyfartaledd yn Ar v rhestrau. bresennol. Mewn Ysgolion I Eglwysig 2,313,257 1,893,824 Etto Wesleyaidd 156,435 126,361 Etto Pabaidd 316,410 251,768 Etto Prydeinig, &e. 277,078 228,142 Cyfanrif mewn Ysgol- ion Gwirfoddol 3 063,180 2,500,095 Yn YsgolionyByrddau 2,609,223 2,144,118 Cyfanrif yn yr holl Ys- golion 5,672,403 4,644,213 Gwelir fod ar restrau Ysgolion y Byrddau yn agos i dri chan mil (295,666) yn chwaneg o blant nag oedd ar restrau yr Ysgolion Eglwysyddol. Wele ychydig o ffigyrau am Gymru a Mynwy :— Yn yr Ysgolion Gwirfoddol yr oedd lie i 153,550 o blant, ac yn Ysgolion y Byrddau i 275,619. Yn yr Ysgolion Gwirfoddol yr oedd o blant ar y rhestrau 123,270 ac yn Ysgolion y Byrddau, 262,958. Yn yr Ysgolion Gwirfoddol, yr oedd cyfartaledd y pres- ennoldeb yn 93,899, ac yn Ysgolion y Byrddau yn 205.851. Fel 'Ysgolion Gwirfoddol,' cyfrifir Ysgolion Eg- lwysig, Ysgolion Wesleyaidd—nid oes ond dwy o'r 'rhai hyn yn Nghymru a Blynwy-Ysgolion Pabaidd, ac Ysgolion Brytanaidd, ynghyd A rhai ysgolion eraill. Ystyrir y dylai fod lie i un ran o chwech o'r boblog- aeth yn yr ysgolion elfenol. Yn ol y cyfrif hwn yr oedd eisiew lie 1295 242 yn ysgolion Cymru a Mynwy; ac yr ydoedd ynddynt le, fel y gwelir uchod, i 429,169, Yn yr adroddiad a gyflwynwyd i'r gymmanfa ddiweddaf galwyd sylw at gyfartaledd y presennoldeb yn yr ysgolion. Yn siroedd Lloegr yr oedd cyfartaledd y presennol- deb vn 1898-9 yn 81 8. Yn siroedd Cymru nid oedd ond 76.9. Yn y County Boroughs yn Lloegr yr oedd yn 83.3. Yn y County Bo"oughs yn Nghymru yn 81.6. Yn sir Fynwy, yr oedd cyfartaledd y presennoldeb yn 76.6; ac yn y County Borough (Casnewydd) yn 79.8. Fel hyn y safai y oyfartaledd yn Nghymru a Mynwy yn y ddau adroddiad diweddaf :— 1897-8. 1898-9. M6n 74.27 73.9 Caernarfon 76.21 75.6 Dinbych 72.67 72.9 Fflint L. 75.20 764 Meirionydd 76.12 76 7 Trefaldwyn 74.17 75.9 Aberteifi 72.97 74.2 Penfro 71.90 71.5 Caerfyrddin 7550 761 Morganwg 78.16 79.1 Brycheiniog 72 66 75.3 Maesyfed 7405 76.5 75.86 76.9 (Jounty Boroughs- Caerdydd 79.86 81.3 Abertawe 82.17 82.0 80.79 81.6 Mynwy 74.78 76.6 County Borough- Casnewydd 79.17 79.8 Gwelir fod y cyfartaledd yn siroedd M^n a Chaer- narfon, yn y Gogledd; ac yn Mhenfro ac Abertawe, yn y Do, rywfaint yn Is yn yr ail adroddiad nag ydoedd yn y cyntaf; and mewn rhai o'r siroedd eraill bu gwelliant amlwg Da genym ddeall am yr ymdrech a wneir mewn amryw o siroedd i ddwyn i gyrhaedd pupil teachers fanteision addysgawl effeithiol. Gwelir cyfeiriad at hyn yn yr adroddiad o sir Fflint; ac y mae yn sir Aberteifi ymdrech teilwng yn cael ei gwneuthur i gyfarfod angen pwysig y cyfeiriad hwn. Mewn cyn nadledd yn y Bala yn ddiweddar cyttunwyd i gym- meryd i fyny yr un gwaith. Dicbon y gwneir yn gyffelyb mewn siroedd eraill. Yn ddiddadl, y mae hwn yn un o brif anghenion yr adeg bresennol. Y mae Coleg Normalaidd Bangor yn parhau i wneuthur gwaith rhagorol, ac y mae ynddo yn awr le i 70 o efrydwyr—mwy o ddeg nag oedd yn arferol; a hyfryd ydyw deall fod yr eangiad hwn ar ei gyfleus- derau wedi ei gyssylltu mewn modd arbenig a choffad- wriaeth ei sylfaenydd gwladgarol, y diweddar Barch- edig John Phillips, Bangor. Ac y mae y trefniadau yn y colegau cenedlaethol yn gweithio yn rhagorol Yn bur sicr rhaid i ni oil dynu aUan ein hegnion i sicrhau presennoldeb mwy cysson ar ran ein plant yn yr ysgolion. Arwabinoddiwrthwelliantynymater hwn, y mae y trefniadeu mwyaf effeithiol yn rhwym o fod o dan anfantais ddifrifol. Y mae yn hollol eglur na ddangosir y difrifweh dyladwy i ddefnyddio y gallu a roddir yn ein dwylaw gan y gyfraith er sicrhau presennoldeb cysson y plant yn yr ysgolion. Dywedir wrthym mai mewn modd tra diofal y cyflawnir eu gwaith mewn rhai manau gan yr Attendance Oommitteet a bennodir gan Fyrddau y Gwarcheidwaid yn y lleoedd na oheir ynddynt Fyrddau Ysgol. Yr hyn sydd wedi cyffroi yr holl wlad yn ddiweddar ydyw dyfarniad Llys y Frenhines, a Llys Appel ar ol hyny, yn achoa Y Goron yn erbyn Cockerton Trwy y dyfarniad hwn cyhoeddir yn anghyfreithlawn dreuliau ar ganghenau uchaf addysg elfenol ag y mae yr awdurdodau addysgawl wedi bod trwy y blynydd- oedd yn rhoddi iddynt bob cefnogaeth. Ac nis gellir llai nag edrych ar y niwed sydd yn rhwym o ddeilliaw oddi wrth y dyfarniad gyda dycbryn, oddi eithr i ddeddfwriaeth effeithiol gael el sicrhau ar frys i'w attal. A'r ewestiwn a ofynir yn bryderus ydyw, A fydd i'r Llywodraeth bresennol gyfarfod yr anhawader mewn modd boddhaol?' Gwelir arwyddion nad ydyw yn bossibl eu camgymmeryd fod ei thuedd i gyfyngu ar effeithiolrwydd addysg elfenol yn hytrach nag i'w I I gefnogi. Ond nis gall fod amrywiaeth barn o gwbl am el dyledswydd yn y mater. Naill al trwy ddeddfwr. ijieth, neu trwy order in council) dylai drefnu i wneyd yn gyfreithlawn y treuliau sydd er's cymmaint C amter yn cael eu cymmhell ar Fyrddau Ysgol gan yr awdurdodau. Addysg Canoli-afldol.-Nid yAvynhawdd syhveddoli y chwyldroad sydd wedi cael ei ddwyn i mewn trwy Ddeddf Addysg Ganolraddol 1889 i fywyd Cymru. Yn yr adroddiad a wnaed yn 1881, gan bwyllgor Arglwydd Aberdar, dangosid nad oedd ar y pryd, yn mhob math o ysgolion y gellid eu galw yn ganolraddol, ond 4,036 o fechgyn; a tlia aanigonol ac aneffeithiol oedd y ddarpariaeth ar gyfer yr addysg i ferched. Ond erbyn hyn y mae wedi eu dwyn i fod, neu wedi cael eu mabwysiadu gan y Cyngliorau Sirol, 93 o ysgolion, yn y rhai yr addysgir 7,390 o fechgyn a genethod. Dengys y daflen ganlynol y ffigyrau am bedair blynedd Ysgolion Beehgyn. Genethod Cyfanrif. 1896 47 1,912 1,455 3,367 1897 80 3,420 3,007 6,427 1898 88 3,638 3,274 6,912 189 93 3,877 3,513 7,390 Teimlwn yn ddiolchgar am y gwaith a wneir gan yr ysgolion hyn. Nid ydyw yr anhawsderau ar ffordd eu llwyddiant etto wedi eu symmud yn llwyr; ond y mae y Oynghorau Sirol a'r Llywodraethwyr yn hollol ystyriol o honynt, ac yn dra ymdrecligar, hyd y byddo yn bossibl iddynt, i'w cyfarfod Y mae yn destyn diolchgarwch fod y dylanwadau cyssylltiedig & hwynt mor iachusol. Llawen ydym, hefyd, wrth weled y gwaith rbagorol ,o a wneir gan y colegau cenedlaethol. a'r llwyddiant di. ammheuol sydd wedi dilyn sefydliad y Brifyagol Gymreig. Wrth fwrw golwg gyffredinol ar y sefyllfa yr ydym yn cael mai yr un. i fesur helaeth. ydyw y materion sydd yn gofyn sylw arbenig y flwyddyn hon ag y cyfeiriwyd atynt yn yr adroddiad diwed laf. Dymunwn gyflwyno i'r gymmanfa y penderfyniadau can- lynol 1. 'Ein bod yn cymmhell pwyllgorau yr holl gyfar- fodydd misol a'r Henaduriaethau i barhau yn eu hymdrech yn eu cylchoedd eu hunain gydag addysg. Gwelsant yn eglur yn ystod y blynyddoedd diweddaf fod yn bossibl dwyn i mewn ddiwygiadau gwerthfawr mewn modd distaw; ac ni ddylent, ar un cyfrif, laesu dwylaw. 2. I Ein bod yn cymmhell ein holl aelodau I barhau i wneuthur pob ymdrech sydd yn bossibl iddynt er sicrhau uwch cyfartaledd yn mhresennoldeb y plant yn yr ysgolion. Y mae ar law rhieni i ddwyn i mewn gyfnew- idiad mawr yn y mater hwn a gall ynadon, gwarcheidwaid plwyfol, a meddygon, yn eu gwahanol gylchoedd, estyn cymmhorth gwerthfawr. 3. 'Ein bod etto yn dymuno galw sylw at yr anfantais fawr y dioddefa ein gwlad oddi wrtbi o herwydd prinder y ddarpariaeth mewn ysgol' ion athrawol, ac yn dadgan ein hargyhoeddiad unwaith yn chwaneg mai dyledswydd y Ltyw- odraeth ydyw oyttenwi y diffyg. Mai anghyfiawn ydyw peidio caniatau adran cydwybod mewn colegau athrawol yn derbyn cymmhorth o'r cyllid cyhoeddus. 4. Ein bod yn cymmeradwyo yr ymdrech i ddar- paru manteision addysgawl i pupil teachers mewn amryw o siroedd, ac yn eymmbell yr holl siroedd i gymmeryd y mater hwn i fyny gyda phob difrifwch. 5. Ein bod yn cymmhell ein swyddogion a'n hael- odau i roddi pob cefnogaeth i addysg ddirwestol yn yr ysgolion. 6. 'Ein bod yn dymuno appelio yn y modd mwyaf difrifol at y Llywodraeth am iddi sicrhau arfrys ddeddfwriaeth effeithiol i symmud yr anhaws- derau sydd w,di cyfodi trwy y dyfarniad yn achos I Y Goron yn erbyn Cockerton ac estyn cymmhorth i Fyrddau Yagol i godi yr addysg, a'i gwneuthur yn fwy effeithiol, yn hytrach na chyfyngu mewn un modd ar eu gweithred- iadau. 7. Fod copi o'r trydydd a'r pummed penderfyniad yn cael ei anfon i'r Prif Weinidog. y Due o Ddyfneint. Svr John Gorst, Mr. Balfour, Syr H. Campbell Bannerman, Syr W. Harcourt, a'r holl aelodau Cymreig GRIFFITH ELLIS. Y Gymdeithas Yswiriol. Cyfiwynodd Mr John Williams, MOBB Bank, adroddiad y gvmdeithas uchod. Dangosai y drys- orfa godiad o 103w. ac vr oedd y drysorfa wrth gefn yn cyrhaedd 5 339p. Allan o gyfanrif o 1,350 o gapelydd, yr oedd 1,000 wedi cael eu bys. wirio. Casgliad yr Ugpigzfed Ganrif. Yn ol yr adrod Had a gyflwynwyd gan y Parch. T. J. Morgan, Garn, yr oedd trlgain mil n bunnau wedi cael eu haddaw at Drvsorfa yr Ugeinfed Ganrif—40 454p gan Olerld Cvmru. a'r gweddill gan Ddeheudir Cymru. Y swm a dderbyniwyd ydoedd 12,198p o Ogledd Cymru, a 2,300p. o Ddeheudir Cymru. Y Symmudiad Ymosodol. Y Parch. Lewis Ellis. Rhyl, a gyflwynodd adroddiad y Pwyllgor Ymosodol, yr hwn oedd yn cymmeradwyo awgrymiad o eiddo Dr. Pugh. eu bod yn cynnal wythnos o hunan-ymwadiad a bod y derbyniadau. mewn canlyniad i hyny, i gael eu fhanu rhwng y trysorfeydd adeiladu ac amcanion cyffredinol. Darlith Davies. Am bump o'r gloch cynnaliwyd cyfarfod yn nghapel Siloh, yr hwn oedd o dan lywyddiaeth llywydd y gymmanfa, pan y traddodwyd' Darlith Davies' gan y Parch. John Hughes, gweinidog eglwvs Fitzclarence, Liverpool, pwngc yr hon ydoedd Cydwybodolrwydd y Cristion.' Pregethu. Pregsthwyd yn yr hwyr mewn amryw o gapel- ydd v dref. Y pregethwyr oe(i,iynt:-y Parchn. W. James, Aberdar; John Roberts, Tai Hen, M6n T Rees, Cefn Prifathraw Prys, Trefecca a W. Jones, Porth Dinorwic. DYDD GWENER. Y PREGETHU. Ni ohynnaliwyd nnrhvw gynnadledd heddyw. Cafodd y diwrnod ei neillduo yn hollol i bregethu a ohafodd y miloedd a ymgynnullasant i'r dref ddiwrnod hynod o bråf, yr hyn oedd yn peri i rai deimlo yn ofidus am na chawsai yr odfeuon eu cynnal, yn ol yr hen arferiad yn Nghymru, yn yr awyr agored. Dyma drefn y pregethu Capel Siloh, 7 30 yn y boreu. y Parch. R. Hum. phreys, Bontnewydd am ddeg, y Parch. Grif- fith Ellis, Bootle, a'r Parch. Evan Jones, Caer- narfon am ddau? yn y prydnawn, y Parchn. Thomas Williams, Caergybi, a John Morgan Jones, Caerdydd; am ohweoh, yn yr hwyr, y Parchn John Hughes, Liverpool, a Francis Jones, Abergele. Capel y Tabernacl, am ddeg yn y boreu, y Parchn. W. Thomas, Llanrwst, a Dr. Cynddylan Jones, Caerdydd; am ddan yn y prydnawn, y Parchn. Ellis James Jones, Caernarfon, a William Jones, Porth Dinorwio am chweoh yn yr hwyr, y Parchn. Owen Owens, Liverpool, a Llewellyn Edwards, Llundain. Capel Salem, am ddeg yn y boreu, y Parchn. Thomas Charles Williams, Porthaethwy, a T. J. Wheldon. Bangor am ddau o'r gloch yn y pryd. nawn. v Parchn. W. J. Williams, Hirwain, a J. J. Roberts, Porthmadog am chwech yn yr hwyr, y Parchn. J. E, Davies, Llundain, a Robert Jones, Rhos.