Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Advertising

--- -11.5 o lawn am Niweidio.

[No title]

ANMHIVYLLEDD YN MHIVLLHELI.…

News
Cite
Share

ANMHIVYLLEDD YN MHIVLLHELI. Nid yw clymblaid Mr Lloyd George foddla\vn ar en hystryw i dorfynyglu Ysgolion Eglwysig a chreu gwrthryfel cenedlaethol. Ymogonedd- ant mewn rhysedd, hyfdra, a liaerllugrwydd. Eu hanfadwaith diweddaf ydoedd terfysgn ac achosi dadwrdd aniniiii-yllog yn nphyfarfod Mr R. A. Naylor, yr ymgeisydd Undehol dros Fwr- dersdrefi Arfan, yn Mhwllheli. Aeth nifer yno gyda'r amcan amlwg o atal y siaradv/yr i dra- g- dclodi èd cenadwri. Llwyddasant yn eu cais, a diau yr ymffrostiant am eu gorchest. Mewn annhrefn yr ymhyfrydant, ac y mae croesaw iddynt i'r clod amheus a ddymunant am eu hystryw. Hawlfraint pob dyn yw rhyddid llafar. Fel pob nawlfraint arall y mae i'r rhyddfd hwn ei amodau, nen elai yn ddiatreg yn ben-rhyddid peryglus. Ond os bydd dyn yn sefyll gerbron torf gan eu cyfarch yn foneddigaidd heb falais yn ei genadwri na drwg yn ei amcan, hawlia wrandawiad teg. Gellir derbyn neu wrthod ei syniadan, fel y myner, ond y mae ceisio llyffeth- eirio lleferydd neb pwy bynag trwy gren rhwystraeth, dadwrdd, neu annlirefn, yn gwbl groes i egwyddorion cyntaf tegwcli. Yn Mhwll- heli ceid siaradwyr na bu en boneddigeiddiach yn anerch cynulliad odid erioed; a pha farn bynag a goleddir am en syniadan gwleidyddol, rhaid cydnabod fod iddynt hawl arnynt ac mai eu braint yw eu mynegn. Ni ddichon undyn ychwaith amheu gonestrwvdd a gwerth en ham- canion. Aethant yno i drafod pynciau feddant berthynas ddiysgar a buddiant yr Ymherodr- aeth a;"r genedl; a gwelir oddiwrtli yr adroddiad nad oedd achos i neb anmhwyllo wrth eu gwran- daw. Eithr yn hytrach na rhoddi iddynt y gwrandawiad a deilyngent, crochlefodd v.glym- blaid annghoeth a rhagfarnllyd fel nad oedd modd parhau y cyfarfod. Apeliwyd drosodd a throsodd drachefn am dawelwch a thegwch, ond byddar oedd clustiau y cythryblwyr i gymhellion rhesymol. Yn nghanol y dadwrdd aeth rheswm yn fud, a chafodd culni ac ystryw oruchafiaeth ar farn a doethineb yn y cyfarfod Ond er llwyddo yn eu cais, eiddo'r terfysgwyr yw y gwaradwvdd. Ni anmharwyd yr un iot na'r un tipyn 0 barch y siaradwyr nag o werth yr egwyddorion yr aethant yno i'w trafod. Yn hytrach, syrth v gwawd a fwriadwyd iddynt hwv yn bentwr ar ben y rhai fu'n cyffrci ac a niweidient eu plaid eu hunain yn eu cais i ddrygu plaid arall. Ni Avnaeth dadwrdd a ther- fysg les erioed i'r rhai a'u hachosodd, ac y mae chwareu teg yn elf en rhy wertlifawr yir main 0 trigolion y Bwrdeisdrefi iddynt gymeradwyo ystrywiau gwarthus fel a weithredwyd yn Mhwllheli. Nid anfantais o gwbl i Mr Navlor a'i blaid fydd ynfvdrwydd o'r fath, a. phan ddaw dydd y prawf ceir gweled mor wrtliun i'r lluaws fydd ymddygiad penboethiaid diamyn- edd a diymenyda sy'n enill hynodrwydd diwerth drwy'r fath ffolineb.

. Y SEN ED D A'] GW AIT H.…

[No title]

Ynadlys Bangor.

Symudiadau Qweinidog'ioii…