Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Hide Articles List
9 articles on this Page
Cydnabyddiaeth. j i
News
Cite
Share
Cydnabyddiaeth. i Derbynia Merthyr Tydfil Adroddiad sydd wedi ei Broil. j Ar ol darllen yr adroddiad eanlynol o eiddo'r preswylydd hwn o Ferthyr Tydfil, rhaid eich bod yn teimlo'n argyhoeddedig. Mae'r feddyg- iniaeth honno roddodd iachad chwe blynedd yn 01, a'r hon sydd wedi^'cadw'r arenuau mewn iechyd byth er hynny, yn sicr o fod yn un y gellir ymorffwys ami. Darllenwch y dystiolaeth. Ar Awst iofed, 1911, dywedai Mr. T. Price, yr hwn sydd yn byw yn ymyl capel Salem, 60 Heolgerryg, Merthyr Tydfil' Cefais annwyd trwm ddwy flynedd yn ol, yr hwn a effeithiodd ar fy arennau. Am amryw wythnosau ar ol hynny cefais yr anhawster mwyaf i ddilyn fy ngwaith fel garddwr, a phan ddychwelwn adref yn yr hvvyr teimlwn mor Uuddedig fel ag y gor- fodid fi i orwedd ar yr esmwythfainc i esmwythau fy nghefn. Yn wir, yr oedd y poenau'n greulon. Treiais feddyginiaethau heb gael yr un budd. Yna dechreuais gyda Doan's Backache Kidney Pills, ac nid oedd raid i mi gymryd ond un blwch. Erbyn yr amser y gorffennais ef yr oeddwn drachefn yn holliach. Er nad wyf byth yn awr heb Belennau Doan yn y ty, da gennyf ddweyd nad wyf wedi cael un ymosodiad difrifol o'r anhwylder ar ol hynny. Gallaf yn onest eu cymeradwyo hwynt. (Arwyddwyd) T. Price.' Ar yr 17eg 0 Chwefror, 1917-yn agos i chwe blynedd yn ddiweddarach-dywedai Mr. Price:- Ilachaodd Pelennau Doan fi o anhwylder yr arennau dros chwe blynedd yn ol, ac yr wyf wedi cadw yn glir o'r aftechyd byth er hynny.' Os ydyw pob annwyd a rhyndod yn effeithio ar eich cefn a'r gyfundrefn droethol, os yw'r ymegniad lleiaf yn eich gwneud yn flinedig, os ydych yn teimlo'n drymaidd ac yn annaturiol o gysglyd, neu yn dioddef oddiwrth y grafel, y garreg, y crydcymalau, dyfrglwyf neu'r llwyn- wst, bydd i Doan's Backache Kidney Pills eich cynorthwyo chwi fel y cynorthwyasant Mr. Price. Gellir eu cael gan yr holl werthwyr, neu am 2/9 y blwch oddiwrth Foster-McClellan Co., 8 Wells-street, Oxford-street, London, W. 1. Peidiwch a gofyn am belennau at y cefn neu'r arennau, ond gofynnwch yn eglur am Doan's Backache Kidney Pills, yr un fath ag a gafodd Mr. Price. 8
Adulam, Merthyr Tydfil.
News
Cite
Share
Adulam, Merthyr Tydfil. Priodas y Gweinidog —Dydd Mawrth, Medi'r 18fed, unwyd mewn priodas y Parch, T. Sinclair Davies, Adulam, Merthyr, a Miss Blodwen Williams, merch i'r diweddar Mr. David Williams, masnachwr, 16,. Union-street, Merthyr Tydfil. Cymerodd y gwasanaeth priodasol le yng nghapel y priodfab, yn yr hwn y cymerwyd rhan gan y Parchn. W. A. Jones (B.), Seion, a J. Jones, Bethesda, Merthyr (Cadeirydd yr Undeb Cymreig). Rhoddwyd y briodasferch ymaith gan Mr. Timothy D. Davies, Somerset Place, cyfaill i deulu y briodferch. Actiwyd fel morwyn priodas gan Miss E. Maude Davies, 6, Union-street,Merthyr, ac fel gwas priodas gan Mr. David Davies, Llanelli, brawd y priodfab. Yr oedd y briodas- ferch a'i bridesmaid wedi ymwisgo yn hardd a destlus, ae yn tynnu cryn sylw ac edmygodd y dorf o ewyllyswyr da oedd yn bresennol; ac yr oeid cawodydd o coitf etti yn aros y priodfab a'r briodfereh y tuallan i'r capel ar ddiwedd y seremoni, a thrachefn yn nrws cartref y briodfereh. Y mae'r anrhegion yn lluosog a chostus, ac yn dangos fod y Parch. T. Sinclair Davies a'i briod mewn parch mawr. Ymadaw- odd y pAr ieuanc am eu mis mel i Borthcawl yn swn llongyfarchiadau eu ffrindiau lawer. CYMYDOG.
RHANBARTH PENYBONT.I
News
Cite
Share
RHANBARTH PENYBONT. Gwyliau Pi-egethit.-Y Parchn. T. Hirwaun Jenkins, Nantymoel, a Dr. Lloyd Morgan, Pontardulais, fu ym Mrynmenyn ddechreu Medi; y Parch. J. Phillips, Mountain Ash, in y geanad ym Methania, Cwmogwy, Medi 15fed a'r 16eg; tra y Parchn. D. J. Lewis, B.A., Tumble, a Gwiiym Rees, M A., Merthyr, fu yn pregethu yn y ddwy iaith yn y Tabernacl, Penybont, Medi 18fed a'r 19eg. Bethel, NantymoeL- Y newydd louna yr eglwys hon yw llwyddiant y chwaer hynaws Miss Tabitha Evans, sydd wedi ei chodi i bregethu yma, yn ei hefrydiau ar gyfer ei gwaith o estyn Jlewyrch Seren Bethlehem i blant broydd tywyll y pagan. Fel arwydd syml o edmygedd ei chydieuenctyd yn ei chartref, anrhegwyd hi yn ddiweddar Ag amryw gyfrolau drudfawr.-Newydd ddy- chwelyd o'r gwersyll ym Mhenfro mae Mr. Gregory gyda phroflad eangach o'r natur ddynol. Nodweddid y dynion ieuainc a aberthent gysuron cartref gan hapusrwydd a gwroldeb, ac wrth weini arnynt angerddolwyd ei gydymdeimlad a chyni, a dadebrwyd ynddo egnion newydd i wasanaeth Tywysog Heddwch. Gwelodd wen a deigryn yn nadleniad gwron- iaeth ac egwyddor. Heolycyw.-Cynrychiolir y rhandir hwn ym myddin ein gwlad gan gyfartaledd a gystadla yn deg ag unrhyw gwr o'r Dywysogaeth, ac arddeogys y preswylwyr nawdd cynnes i ffoad- uriaid oddiar ddechreu yr ornest. Pan ymwel un o'r dewrion a'i gartref telir gwarogaeth iddo nid mewn banllef a thabwrdd, eithr ag arwyddlun drudfawr fydd yn ysbrydiaeth goffaol iddo yn ei ymdrech dros ryddid a chyfiawnder. Y diweddaf i'w anrhydeddu fig arddwrn-oriawr gan ei lu cyfeillion odd Mr. Iwan Evans, mab diymhongar Mr. J. Evans (Oenin), ysgolteistr, a diacon diwyd ym Methel, lie profodd Iwan mewn amryw gylchoedd y rhagoriaethau hynny enillodd iddo air da gan wirionedd cyn ei ymrestriad. Un o gynorth- wywyr ei dad yn yr ysgol oedd efe pan ddaeth y w9"s i'w alw allan. Noson y cyflwyniad ym Methel, datganodd y Parch. D. J. Hywel, ei weinidog, edmygedd yr ardal ohono am ei wroldeb yn sefyll dros hawliau dynoliaeth. Mrs. Thomas, Tynwaun, amwisgodd Iwan, pan y pallodd iaith am fod y galon yn rhy lawn i'r tafod lefaru.-Arfer Ysgolion Sul Bethel a Heolaethog ddechreu Medi bob blwyddyn yw treulio eu dydd gwyl ger y mor, ond oherwydd drudaniaeth cludiad, &e., cafwyd gwyl dS wir lwyddiannus yn yr Hen Bethel. Treuliwyd yr hwyr mewn cystadleuaeth ddifyr dan lywydd- iaeth y gweinidog. Ebenezer, Aborcynffig.-Sul a Llun, Medi'r 16eg a'r 17eg, pregethwyd ym mhrifwyl yr eglwys hon gan y Parchn. Joseph James, B.A., Llandysilio, a S. Williams, Glandwr. y Parch. W. Evans, B.A.—Llongyfarchiad brwd i'r gwr diymffrost uchod ar ei etiledd- iaeth newydd i'w awen loyw. Arwr y Fenni a Birkenhead bellach, a gorchest arall yn dwyn ei fcheyrnged i'w athrylith goeth.
I Tabernaol, Pontycymer.
News
Cite
Share
Tabernaol, Pontycymer. Uchelwyl.-Nos Sadwrn-a dydd Sul, Medi y 15fed a'r 16eg, bo y Pareh. T. Eynon Davies, Llundain, yma yn arlwyo bwrdd Efengyl y Groes, a chafwyd gwledd felus. Rhoddwyd datganiadau chwaethus yn ystod yr odfeuon gan Miss M. A. Harries, Abertawe, wyres i Mr. S Harries, un o ddiaconiaid yr eglwys uchod. Y Parch. D. Hughes.-Ar wawriad yr hydref, bydd talar chwarter canrif y gweinidog da hwn ynglyn a'r eglwys hon yn y golwg. Wrth adolygu y cyfnod hwn, gwelir fod ei ymdrechion wedi eu coroni 4 llwyddiant amlwg. Dymunwn iddo gael nerth i ddal ymlaen eto i borthi praidd y Tabernacl am gyfnod maith. Miss C. Hughes.-Merch y Parch. D. Hughes a'i briod hawddgar yw y foneddiges ddisgiaer hon o ran ei galiuoedd a ilednais ei hysbryd. Llongyfarchwn hi ar ei llwyddiant yn pasio arholiad addysgol ynglyn A, Choleg Rhydychain. Mae leuan, ei hannwyl frawd, yr hwn sydd ysgolor cain, ym mhair Salonica bell. W AETH PWY.
GALWADAU.
News
Cite
Share
GALWADAU. EGLWYSI SARON, BEDWAS, A PHBNIEL, TRE DOMOS.—Y mae'r ewysi uchod wedi rhoddi galwad unfrydol ii Mr. D. Richards, M.A., Caerdydd, i ddyfod i'w bugeilio yn yr Arglwydd, ac y mae'r brawd annwyl wedi ateb yn gadarnhaol. Pob llwyddiant iddo. Rhoddir hysbysiad o'r Oyfarfodydd Ordeinio yr wythnos nesaf. Arwyddwyd dros yr eglwysi-T. Hari-is a T. Williams, Ysgn.
CYFARFODYDD.
News
Cite
Share
CYFARFODYDD. WERN, ABKRAPON ,—Pregethwyd yng nghyfarfodydd blynyddoj yr eglwys hon, Medi'r 9fed a'r IOled, gan y Parchn. Prifathro T. Rees, M.A., Bangor, a J. Phillips, Mountain Ash Gwelwyd nifer dda o weinidogion y cylch yn bresennol, a chvmerwyd rhan gan y Parchn. T. Ogwen Griffiths a D. Marlais Davies, a Mri. D. J. Evans, Coleg Bala-Bangor, a W. S, Griffiths, Coleg Caerfyrddin. Llywydd- wyd, fel arfer, gan ein parchus weinidog, y Parch. John Griffiths.
Y NOS.
News
Cite
Share
Y NOS. Nos oedd cyn hanes iddi,'—heb addurn, Cyn Bydded goleulli I,law Ion fu'11 codi'r llenni, Wele yn awr oleu i ni. .jy?*ixos, ysblander nell-a welir Ar ael ddu yr wybren Y nos oer, lloer, a seren, Yn orwych byth a geir uwchben. Tylorstown. EDWARD HARRIES.
ANNERCH
News
Cite
Share
ANNERCH 1'r Parch. J. Tywi Jones, Glais (Gol. y Driaan' a Miss L. M. Owen (Moelona) areu, huniad mewn glan briodas yirEbenezer, Caerdydd, Aledi rat, 1917. I'R tawel a'r hawddgar Tywi-deuci Diwedd ar bob cyni Daeth i'w ran drwy fendith Rhi, Hardd ddynes gar ddaioni. Daioni dau a unir,-a'u. hynni Ddaw'n ennill i'n brodir; Lladd ar y gau, llwyddo'r gwi- O'u haelwyd beunydd welir. Y lienor yn awr ddaw'n llonnach,—a'r Gol. Nawr gawn yn ddedwyddach Ei gamre oil, Gymro iach, A byw allu a'n bellach. A hithau'r Ion Poeloiia,-ei thalent Goeth hawliodd barch Gwalia A all un dyn heb wella Efrydu un o'i llyfrau da ? 0 rhodded yr lor iddynt-hyd eithaf Fendithion byd. Drostynt Rhoed Ei wên a'i rad i'w hynt, A daionus law danynt. DnWI VYCHAN.
Llythyr Liundaink
News
Cite
Share
bump o blant, pedwar o ba rai ydynt yn aros heddyw. Yn 1891 etholwyd Mr. Jenkins yn ddiacon yn y Boro'. Bu'n weithgar a diwyd iawn gyda'i fasnach a'i grefydd, a llwyddodd yn ei holl gylchoedd. Bu'n drysorydd y Mudiad Ymlaen yn eglwysi Llundain. Rhoddodd was- anaeth ardderchog mewn llawer cylch. Nod- weddid ef gan ddyfalwch a gwaith. Dioddefodd ergydion o'r parlys. Ymddeolodd o fasnach. Bu'n hir yn orweddog. Daeth y diwedd yn sydyn fore Linn, Medi iofed. Y dydd Iau dilynol claddwyd ei weddillion ym medd y teulu yng Nghladdfa Gyhoeddus Tooting. Gweinyddwyd ar yr amgylchiad gan ei weinidog, y Parch. D. C. Jones. Ei fab hynaf sydd yn y fyddin yn Affrica, a'i ail ferch sydd yn South America. Boed nodded Duw i'w weddw a'i blant. Efe oedd yr olaf o deulu lluosog Llech-yr-odyn. Daeth toi-f fawr ynghyd i'w arwyl, o barch i'w fywyd llafurus a diwyd. Mr. Thomas Davies.—-Llun, Medi I7eg, hun- odd y brawd caredig uchod yn ei gartref, 2, Everington-street, Fulham, W., wedi cystudd trwm o'r cancer. Mab oedd i Mr. a Mrs. John Davies, Tirbach, Ivlanddewibren, sir Aberteifi. Ganwyd ef yno yn 1866. Bu farw ei dad pan oedd ef yn ieuanc, a chladdwyd ef yn Dlanddewi- brefi. Yn 1878 symudodd gyda'i fam i fyw i Irfoni_ a,' Dlanwrtyd. Cafodd addysg dda yno. Trodd allan i'r byd, a daeth i I/undain. Bu farw ei briod GorfFennaf, 1912, gan ei adael ef, dau fab, ac un ferch i alaru ar ei ho 1. Claddwyd hi yng Nghladdfa Gyhoeddus East Sheen. Cladd- wyd Mr. Davies yn yr un bedd. Aelod ffyddlon oedd yn eglwys Radnor-street, Chelsea. Yr oedd yn ddyn rhagorol, wedi darllen llawer, ac yn ffyddlon i draddodiadau goreu'r genedl yn ei defion a'i chrefydd. Mwynhaodd iechyd ardderchog dros ei oes hyd ei gystudd olaf. Methodd y mab hynaf, yr hwn sydd yn y fyddin yn Ffrainc, fod yn yr angladd. Daeth torf ynghyd o aelodau eglwys Radnor-street, a gwyr Cantref Buallt, ac eraill i'r cynhebrwng, ac amlygwyd parch mawr i'r teulu. Gwasan- aethwyd yn yr angladd gan y Parch. D. 0. Jones. Boed cwsg Mr. a Mrs. Davies yn dawel yn y graian ar finy Dafwys, a nodded y Dwyfol fyddo dros John, Arthur ac Elizabeth, a'r holl berthynasau. ill