Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

HYN A'R LLALL 0 BABILON FAWR.…

News
Cite
Share

HYN A'R LLALL 0 BABILON FAWR. ?- Gan Uynon. Un o bregethwyr mwyaf poblogaidd y Brif- ddinas ar hyn o bryd yw y Parch. T. Phillips, Bloomsbury—un o fechgyn sir Benfro. Cymro i'r earn, ac nid oes gywilydd arno arddel yr Hen Wlad. Nid oes gan ein brodyr y Bedydd- wyr ei well. Cylch caled i weithio ynddo yw Bloomsbury. Yn amser yr enwog Dr. Brock yr oedd yno gynulleidfa gyfoethog a dylanwadol dros ben. Felly hefyd i raddau o dan weinidog- aeth yr hyawdl J. P. Chown. Ond eglwys i'r werin a'r miloedd yw Bloomsbury yn bresennol. Y Sul diweddaf, drwy fod ganddo Sul yn rhydd, aeth y gwevnidog allan i'r pr.ffyrdd a'r caeau i weled sut yr oedd pobl yn treulio'r Saboth ym Mhrifddinas y byd Cristionogol. Ymwelodd a'r parciau a'r tafarndai a'r cinemas, gan holi hwn a holi arall ynghylch yr hyn oedd yn ymgynnyg i'w feddwl ar y pryd. Cafwyd adroddiad o'r hanes ganddo yn ei bulpud y nos Sul canlynol, ac yr oedd yn stori ddiddorol dros ben. Cyfeiriodd at dri dosbarth —y Bohemiaid nad oeddent yn talu'r un sylw i bethau ysbrydol-y dosbarth gweithiol, yn wyr a gwragedd—a'r bobl unig a'r rhai digar- tref yn y ddinas fawr. Yr oedd yma filoedd Jawer o'r Bohemiaid, a'r cwestiwu mawr pres- ennol yw, Beth ddaw o'r rhai hyn pan fyddis yn creu byd cymdeithasol newydd ar ol y rhyfal ? Os rhain fydd i deyrnasu, beth am ein dyfodol ni ? Credai fod y syniad am Dduw a thragwyddoldeb o hyd yn bresennol vmhlith y dosbarth gweithiol, er na fynychant yr addol- dai; ac am yr unig a'r digartref—yn filwyr, ac yn ferched gweini, ac yn llanciau a llancesau— crefai ar yr eglwysi daenu aden garedig drostynt. Ac yn sicr, y mae Mr. Phillips yn ei le. Os am achub Prydain yn foesol a chrefyddol, rhaid i ni oil fel awdurdodau crefyddol ddechreu byd o'r newydd. Bu farw hen gymydog ernvog i mi gynt yn Glasgow, sef Dr. John Hunter, yma yn I/lundain vr wythnos ddiweddaf. Rhyw free lance yn byw yn hollol ar ei ben ei hun ydoedd Hunter o'r cychwyn. Mewn enw, Annibynnwr ydoedd, ond outsider bob amser. Nid oeddem ni fel gwein- idogion Glasgow yn cael dim o'i gymdeithas yn ein cyrddau misol. Felly hefyd yn lylundaiu pan y daeth i'r Weigh House. Rhywdro yn y ddinas fawr ar y Clyde gorchmynnodd i'r painter dynnu'r brwsh dros y gair Congregational, gan adael Trinity Church ar y notice booild yn unig. Ond bu'r diaconiaid yn effro, ac fe adferwyd yr hen enw yn ol-Trinity Congregational Church. Yn ystod y blynyddoedd cyntaf hynny yr oedd yn boblogaidd dros ben fel pregethwr. Mae'll wir nad oedd Trinity yn gapel eang, ond yr oedd yn 11awn. Yr oedd yn dderbyniol dros ben y pryd hwnnw ymhlith y Sosiniaid, ac yn eu seboni byth a hefyd. Yr oedd ei gydymdeimlad a hwy yn gryf drwy ei oes; ond y llinell bennaf yn ei gymeriad oedd ei benderfyniad i fod yn ddeddf iddo'i hun. Yma yn y Weigh House methiant mawr fu ei weinidogaeth, ac nid rhyw lwyddiannus iawn fu yr ail ran o'i weinidogaeth yn Glasgow. Daeth yn ol i Iyundain wedyn yr ail waith, a bU'll pregethu am ychydig amser o dan nawdd y Sosiniaid yn yr Aeolian Hall i gynulleidfaoedd bychain o edmygwyr personol. Ac yr oedd ganddo edmygwyr personol lawer iawn, a'r Christian World yn eu plith. Pregethwr papur oedd Dr. Hunter, ond medrai roddi'r papur ar dan mewn ffordd effeithiol anghyffredin. Cladd- wyd ef yn Hampstead. Collodd fab yn y rhyfel, ac y mae'r mab arall yn weinidog yn Fglwys Loegr. Dr. Forsyth, hen gyfaill bore oes, fU'11 gweinyddu yn yr angladd. Mae'r Dr. Fort Newton, D.Litt., heb ddych- welyd o'r Amerig, a'r City Temple fore Sul yn byw ar supplies ar hyn o bryd. Miss Maude Roy-den, y gyd-weinidoges (aelod o Eglwys Loegr yw Miss Roy den) yn pregethu yn y nos. Ar hyn o bryd bydd cynulliadau cryfion yn cyrchu i'r deml i'w gwrando hi, a chlywais ei bod yn pregethu yn noble dros ben. Bore Sul diweddaf cyhoeddwyd fod gwsaanaeth bedyddio i fod. Miss Roy den, mae'n debyg, yn bedyddio. Dysgir ni fod popeth mawr yn dod o'r Amerig. Dyna lie cafodd dynion fel Jowett a Campbell Morgan eu darganfod. Dyma idea newydd arall yw hwn—-o'r Amerig eto--oi-id y mae'r hen City Temple wedi colli ei gogoniant oddiar pan gip- iwyd yr awdurdod gan y Philistiaid. Nis gall y sefyllfa bresennol barhau yn hir iawn. Yn ddiau un o bwerau'r pulpud Dlundeinig ar hyn o bryd yw Dr. Orchard. IJfe sydd yn y Weigh House lle bu Dr. Hunter am rai blyn- yddoedd, ac y mae'n rhaid cyfaddef fod Orchard yn llawer iawn mwy llwyddiannus yno na neb o'i flaen. Nid yw Dr. Orchard ychwaith yn enwadwr mawr. Fr yn Annibynnwr mewn enw-oddiar pan ffarweliodd a'r Presbyteriaid —-eto y mae llinell gref o'r Defodwr yn rhedeg drwyddo, ac y mae'n lied ddefodol yn ei ffordd o arwain yn y gwasanaeth. Yr wythnos hon fe ordeiniwyd dau arall yn gynorthwywyr iddo- y ddau yn B.D.—a phriodwyd hwy drannoeth yn wr a gwraig. Ant i fyw ymhlith y tlodion ac i weithio yn y slums, Nid oes dim ond dymuno'n dda i waith ardderchog fel hyn. Os na ddaw y bobl at yr Ffengyl, rhaid i ni gario'r Ffengyl at y bobl. Mae pawb ohonom yn holi beth fydd sefyllfa'r pleidiau politicaidd ar ol i'r rhyfel hwn fyned heibio. Anodd dweyd. Daw y dydd pan fydd yn rhaid i Radical fel Lloyd George, a Thori coch cyfan fel Curzon, ffarwelio a'i gilydd. Anodd uno dwr a than. Yr ymgais ddiwedd- araf i ffurfio plaid yw eiddo'r National Party, sef nifer fechan o hunan-etholedigion fel Page Croft a'r eyffelyb-hell apostolion Tariff Reform. 'Doe, yr un o'r hoelion wyth yn eu plith- dim ond sparbils, ac nid oes fawr obaith am hir oes i'r National Party. Mae'r enw yn enw da dros ben, ond chwerthinllyd yw fod dyrnaid o Doriaid trwyadl yn hawlio'r gair cenedl- aethol.' Pur debyg, ar ol i'r cymylau glirio, y bydd Plaid Llafur yn gryfach nag erioed ac y mae'n ddigon sicr y bydd plaid gyfer- byniol, gan nad beth fydd enw honno.

Cwmaman, Sir Gaerfyrddin.

I Jerusalem, Cded-duon.