Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Diaconiaid Ddoe a Heddyw.

News
Cite
Share

Diaconiaid Ddoe a Heddyw. GAN GRIFFITH JOHN. VII. Ymhen tua deng mlynedd wedi'r hyn nodwyd yn yr ysgrif ddiweddaf ymaelodais ym inrawd- oliaeth 0-, eglwys wledig, gref o ran rhif, a chyfagos i'r gweithfaoedd. Fy ngalwedigaeth eto a'm dygodd i'r lie hwii, ac o bosibl ar dymor pwysicaf fy mywyd, oblegid daethwn yma i ymaflyd mewn gwaith oedd i fod fy maes llafur o hynny hyd fy medd. Am tua thair blynedd yn flaenorol bftm yn rhagbaratoi mewn cylch o fywyd ac mewn lleoedd oeddynt yn orlawn o ddylanwadau cyffrous, a thueddol i greu uchel- gais yn yr ieuainc i ymgais am ragoriaeth. Gyda golwg ar un o'r lleoedd hynny, nid oes le ym Mhrydain i'w gymharu ag ef i gynhyrchu awydd am wneud enw da ac ennill safle o anrhydedd ymhlith dynion. Mae hanes yn ei orffennol ac yn ei wneuthuriad megis ar eu goreu i arwyddnodi'r amgylchoedd ag ysbryd can an- farwol Longfeliow-Excelsior. A meddiannodd cyfaredd y lie hwnnw fy enaid i fesur helaeth. Teimlwn yn wastadol pan yn rhodio ei heolydd fel pe buasai ysbrydoedd goreugwyr y canrif- oedd yn cyniwair trwy'r awyrgylch, a phrofodd fy arhosiad yn yr amgylchoedd hynny yn chwyl- droadol yn fy hanes olynol oblegid pan ddych- welais oddiyno teimlwn fy mod yn ddyn newydd yng ngwir ystyr yr ymadrodd. Math o orfod- aeth barodd i mi anturio felly o gartref fy mab- oed. Ar ddydd Nadolig, 1867, yr oeddwn yn gwbl foddhaus ar fy sefyllfa, fy rhagolygon am hamgylchiadau. Ond trannoeth, megis ar amrantiad llygad, estynnwyd allan orwelion fy meddwl, a chyfododd ynof obeithion ynghyda disgwyliadau, fel y penderfynais gefnu am byth ar y dull yr arferais ymdeithio ar yrfa bywyd. Ond yr oedd y ffaith fy mod wedi ennill fy noc er pan oeddwn yn ddeuddeg mlwydd oed wedi fy ngadael yn resynnol o anwybodus ac yn anaddawol iawn fy sefyllfa. Heblaw hynny, aelwyd eithriadol Gymreig oedd eiddo fy rhieni: ni siaredid nemawr frawddeg Saesneg o dan eu cronglwyd hwy, a Chymry pur fuont fy nghym- deithion o'm crud i fyny. Er hynny oil, i un o drefi mawrion Lloegr y bwriadwn ymfudo i ddechreu fy mywyd newydd. Ond yn rhaglun- iaethol—'does dim cyfrif arall am y ff aith- llwyddais yn fy amcanion oil, a chefais fy hun ar yr amser penodedig yn llafurio ymhlith rhyw 140 o bobl ieuainc, ac ond un o bob 30 ohonynt yn Gymry. Ac yn yr amgylchiadau ac o'r cy^ylltiadau uchod y cyrhaeddais 0-. Dywedwyd eisoes ei bod yn eglwys gref mewn rhifedi: rhifai'r aelodau o gylch 350. Y pryd hwnnw yr oedd y gweinidog yn wr don'ol iawn, ac yn adnabyddus iawn ar hyd sitoedd Deheu- dir Cymru—yn un yr oedd galw ami am ei wasanaeth yng ngwyliau mawrion yr eglwysi. Ond er y rhifai'r aelodau 350, ni welais erioed fwy nag ugani yn bresennol mewn ewrdd gweddi neu gyfeillach. Yn yr eglwysi eraill y bum i yn aelod, caffai cyrddau'r wythnos,' fel yr enwid hwynt, le mawr ym meddwl cyfangorff yr aelodau; ac ni wneid fawr cyfrif o'u hesgeul- uswyr yn wir, amheuid dilysrwydd crefydd y cyfryw rai gan y sawl a ddygent fawr sel dros y ffydd. Ond gweithredai pobl 0-- yn dra gwahanol yr oedd ei swyddogion hi, gan mwyaf, mor esgeulus o gyrddau'r wythnos a'r lliaws. Yr oeddwn erioed wedi arfer mynychu moddion gras yn ei holl amrywiaeth felly y gwneuthum hefyd yn 0-. A deuthum mor ewyllysgar i wneud fy rhan, os nad yn fwy felly, nag ar unrhyw adeg o'r blaen. Ond pan y meddyliaf am y blynyddoedd y bum mewn cysylltiad ag 0-, synnaf mor lleied argraff adawodd yr amser hwnnw ar fy nghalon a'm meddwl. Yn bresennol ymddengys i mi fy mod ymhlith fy nghyd-aelodau fel dieithryn o wlad estronol: nad oedd ynddynt ddim a orchmynnai i mi ddangos fy ngoreu iddynt hwy, na dim ynof finnan ychwaith a alwai allan y goreu oedd ynddynt hwythau. (Er gwaethed yw dynion, mae rhyw oreu ymhob dyn y gamp yw ei gael allan.) Ni welais argoel o gwbl y credai neb yn yr eglwys y gallaswn i fod o unrhyw was- anaeth i'r eglwys nac i'r ardal. Felly, pan ddaeth yn gyfleus i mi, ymadewais, a gwneuthum hynny yn orfoleddus. A phrofodd fy ysgariad a'r lie yn fantais ddigymysg i mi, a chredaf hefyd fod eraill wedi manteisio trwy i mi ymddwyn felly. Cyffredinedd nodwedslai gymeriad O——. Nid oedd o'i mewn yr un dyn a safai'n uwch na'r lliaws. Ac os and wyf yn camgymeryd yn fawr, pobl grefyddol gyffredin, fel rheol, yw'r rhai mwyaf eiddigeddus o'i gilydd, a pharotaf o bawb hefyd i ddifenwi a difrio ei gilydd. A rhai felly gefais i bobl 0- ar yr ychydig aelwydydd yr arferwn droi i fewn iddynt yn achlysurol. Gwyddent am wendidau a ffaeleddau ynghyda ffolinebau pawb, ond yr eiddynt hwy eu hunain. Iselwael, mean, oedd eu syniadau fel pawb pobl eiddigeddus. Yr oeddynt yn arbennig felly yn y cynhorthwy roddent i'r mudiadau a'r cym- deithasau crefyddol. Mae'n amheus gennyf a gyfrannent £ 20 mewn blwyddyn tuagat yr achos- ion hynny. Ac er mai ychydig, os dim, oedd dyled y cap el, cyflog gwaradwyddus o fach a gaffai'r gweinidog. Ond yr oedd ymlilith y diaconiaid un hen frawd a deilyngai ei alw yn gymeriad yr oedd yn begynnol wahanol i bawb eraill o'i gyd-ael- odau. Ar yr adeg yma yr oedd yn fwy na 70 mlwydd oed, ond mor fachgennaidd ei ysbryd ac mor rhadlon ei dymer a'r ieuengaf yn yr eglwys. Meddai ar ddawn ymadrodd rhyfeddol iawn atebai i'r dim ddywediad o eiddo y diweddar Arglwydd Salisbury "The dilatory drip of desultory talk.' Deuai geiriau o'i enau megis y daw y dyferynnau dwfr allan o bistyll y plwyf. Wrth gwrs, yn ystrydebol hollol y siaradai, oblegid gwr trylwyr anllythrenllog ydoedd. Ond pan orffennai frawddeg, neu pan roddai fynegiant i syniad, ofer fuasai dychmygu beth ddywedai nesaf, oblegid nid oedd gyswllt o fath yn y byd o'r gair cyntaf hyd y diweddaf yn yr hyn lefarai. Yn wir, rhyw ola padrida yn wastadol oedd ei weddlau a'i anerchiadau yn y gyfeillach. Ond yr oedd yn hynod o ffydd- lon i foddion gras eithriadol fyddai ei absen- oldeb, ac mor eithriadol a hynny fyddai ei adael allan o waith yng nghyrddau'r wythnos. Ac yn sicr anwylid R.S. gan bawb a ddeuent i gyffyrddiad ag ef: yr oedd mor ddiwenwyn a lion ei ysbryd lie bynnag y byddai. R.S. ar ei liniau.—'Arglwydd da, dyma ni wedi dod heno eto i drio gweddio. Faint o ni sy yma, 'rwyt Ti yn gwbod yn iawn. Mae'r llwch hwli yn ofni fod 16t ohono fe heb fod yma. 'Rwy'n ofni dod a rhyw bethe i'r cwrdd gweddi rhag i'm brodyr a'm chwiorydd wybod mor ddrwg w i. Ond rho gymorth Dy Ysbryd nawr i ni gyda'n gilydd i ddangos 'n hunen bob tipyn i Dy Fawredd. Wel, a dweyd y gwir wrthyt Ti, wn i ddim beth sy ishe arna i 'm hunan, chwaeth- ach ar y rhai erill sy nawr ger Dy fron. 'Rym ni'n wastad pan ar 'n gliniau yn gweyd fod arno ni ishe maddiant. Os, os, ac ishe maddiant mawr hefyd, pe na base ond am bechode'r dydd heddi. Gad i ni gal maddiant ta beth gedwi'n ol. Kin Tad graslon, chwilia'n clone ni heno, a cartha mas ohoni nhw bob peth sydd yn gas genyt 'i weld e. A mae yna rai pethe sy'n gas yn 'n golwg ni. Tyn i mas bob peth cas fel y bo ni'n bobl well. Mae'n dda gen i fe dwl y gelli Di, trwy ddwr a gwad Calfari, 'n gneud 'n berffeth wyn ryw bryd j R.S. yn y gyfeil 'lach. Wel, frodyr a chwi- orydd, dyma gwpwl bach ohonom wedi dod unwaith eto. Ond yw yn syndod nad oes mwy o lawer ? Er 'i bod nhw wedi cadw draw, gwnawn y gore o'r cyfle. Myiiwn ryw fendith ynddo. Mae Mr. pan fydd e'n pregethu, yn trio'n bendithio ni ond all e ddim, os na fydd yr Un Mawr y tu cefen iddo fe. A mae Mr. -c- yn amal yn ffaelu, ac mae'n gwbod hyny hefyd. A 'rym nine'n gwbod fodje'n ffaelu. Ond os yw Duw yn cal shawns arno ni heno, fe gawn fendith werth ei chal. O'wn ni'n meddwl bore heddi am Beth debygwch chi am Grist ? Yn wirionedd i, dyna sy'n penderfynu pob peth wedi'r cwbwl. Weda i wrthych chi beth debygaf fi ant dano Fe. Mae E' mor fawr ymhob peth fel nad o's gyda fi ddim i'w wneud ond ewmpo wrth 'i draed E' a gweyd Iesu mawr, gwna beth fynno Ti ohono i. 'Dw i o fawr gwerth i Ti, debygaf fl. Ond 'rwyt Ti mor ardderchog, fel mae shawns i mi ddod yn rhwbeth yn Dy ofal Di." Tebyg iawn fod geno chi rhwbeth gwell i'w ddweyd am Grist. A gwedaf hyn hefyd 'rwy'n twyllo'm hunan 'n fawr os nad yw E' a mine 'n nabod '11 gilydd. Mi greda i nes fy marw 'mod i wedi cal rhwbeth ganddo Fe, ne falle oddiwrtho Fe, na cholla i byth. Ac mae'n 6d gen i os nad yw E' wedi cal rhwbeth geno i, neu ynddo i, y mae E'n falch am dano. Ond dyna, weda ddim rhagor heno, ne fydd ddim amser i chithe i weyd tipyn.'

-___- -__._-_. _-, - Ni Chewch…

[No title]