Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

HYN A'R LLALL 0 BABILONI FAWR.

News
Cite
Share

HYN A'R LLALL 0 BABILON I FAWR. GAN EYNON. I Cafwyd llawer' tro ar fyd er pan ysgrif- ennais o'r blaen. Daeth y gwyliau heibio, a chefais y fraint o dreulio y rhan fwyaf ohonynt yn yr Hen Wlad. Cefais Gwrdd Chwarter dedwydd iawn yn Nhrewen, lie yr oedd y frawdoliaeth wedi dod ynghyd yn gryno. Mae'n hen bryd i eglwys barchus Trewen i fynnu capel teilwng o'r oes a'r ardal, Cafwyd pregethu cryf, gafaelgar- cystal pregethu ag erioed at eto chwith oedd gweled y lleoedd gweigion yn rheng- oedd y pulpud. Rhai fel Job Miles a Morgan Evans wedi blaenu, ac wedi cyr- raedd pen y daith eraill fel J. M. P.' yn teimlo baich henaint, er ei fod pan welais ef ddiweddaf fel llane o ran hoender ac ieuengrwydd ysbryd. Hir oes iddo Y peth rhyfeddaf o bopeth oedd y cynull- iadau mawrion-y capel yn llawn dan sang,' a'r bobl yn gwrando fel am eu bywyd. Ardderchog, yr hen sir 1 Gan nad beth am siroedd eraill Cymru, y mae hen sir enwog y Cardi yn parhau yn ffyddlon i'r Efengyl. Cefais dro hefyd am LIan- drindod a phan yn pregethu yn Notting- ham un Saboth deuthum i gyffyrddiad ym mherson un o'r diaconiaid a mab yr an- farwol John Ambrose Lloyd. Cerddor hefyd fel ei dad, ond bellach yn byw er's blynyddau ym myd y Sais. Maddeuer y cyfeiriadau personol yma. Gair neu ddau gyda Haw ydynt ar y ffordd at y testyn. Yn wir y mae yna wmbredd o destynau yn aros eu tro yr wythnos hon. Y cyntaf yw ymddiswyddiad y Parch R. J. Camp- bell o bulpud y City Temple. Rhyw dair blynedd ar ddeg yn ol, ar nos Saboth, cefais y fraint a'r anrhydedd o ddarllen o bulpud y City Temple fod Mr Campbell o Brighton (y pryd hwnnw) yn derbyn yr alwad i fod yn olynydd i'r hen frenin, Joseph Parker Yna daeth yn bur fuan alabalw fawr y Ddiwinyddiaeth Newydd,' ac am ddeuddeg o flynyddau cafodd pech- aduriaid uniongred fel fi eu cau allan o bulpud y City Temple. Rhyw ddau fis yn ol, modd bynnag, bum eto unwaith yn sefyll o flaen eynulleidfa y City Temple ar nos Sul, acyn dweyd yrHen, Hen Hanes.' Erbyn hyn, goreu'r modd, y mae yr hen gweryl diwinyddol hwnnw wedi ei gladdu, a'r gyfrol anffodus h o n n o ar y New Theology newydd ei galw yn ol! Arwydd- ion digamsyniol fod ein cyfaill yn gweled pethau mewn goleu newydd ac fel mater o ffaith, nid oes ar hyn o bryd ddyn mwy ysbrydol ei weinidogaeth yn sefyll ar uchel- fannau y maes. Gresyn iddo aros mor hir efo'r eibau yn y wlad bell. Gwyddom oil fod llawer iawn o'r mystic a'r breuddwydiwr yn Mr Campbell, ac nid doeth yw ei farnu yn ol safon y sgwar a'r ewmpawd. Y mae wedi bod yn ddeddf iddo ei hun bob cam, ac anawdd yw iddo redeg mewn dwbwl harness gyda neb arall. Beth fydd y cam nesaf ? Dywedir ei fod a'i wyneb ar Eglwys Loegr. Synnwn i ddim. Yn un peth, y mae y baich yn y City Temple yn un llethol dros ben, ac y mae iechyd ein brawd yn annigonol i gario y gwaith ymlaen yn hwy. Nid oedd neb ar y cychwyn yn tybio y gallasai ei gario am ysbaid mor hir. Fel mater o ffaith, nid yw y City Temple mor llawn y dyddiau hyn ag ydoedd yn nyddiau Parker, ac nid yr un dosbarth o bobl sydd yn tyrru yno. Clywais Stanley Jones yn adrodd yn ei ffordd ddoniol ei hun y dydd o'r blaen am frawd o ffermwr, ar brydnawn Cymanfa yn ddiweddar, yn dadleu y priodoldeb o roddi hen bergethwr ae un ieuanc i breg- ethu gyda'u g i 1 y d d yn yr un o d f a Paham,' meddai, na roddwch chwi rai o'r hen garters yma i gydbregethu gyda'r cobs ? Wel, yn amser Parker, carters oedd yn gwneud i fyny y gynulleidfa ond ar hyn o bryd cobs yw y mwyafrif mawr. Cymhwysed pawb y ddameg yn ei ffordd ei hun. Nid yw Campbell ei hun yn gwadu y si ei fod am symud i'r gorlan Sefydledig. Bydd canoniaeth, gyda 12 pregeth y flwyddyn, yn ei daro i'r dim. 0 dro i dro y mae wedi anfon negeseuon at y Pab o Rufain fel pennaeth y byd Cristionogol' i apelio ato am wneud hyn ac arall. Apeliodd ato yn ddiweddar i alw am heddwch ar y Cyfandir, gan gydnabod y Pab fel arweinydd y byd Cristionogol Dyma un prawf arall o'i ansefydlogrwydd. Dywedaf eto, os ca fyw yn ddigon hir, synnwn i ddim na welir ein brawd yn cymeryd cam pellach hyd yn oed na'r cam yn ol i fynwes yr Hen Fam. Pwy ddaw yn ei le i'r City Temple ? Synnwn i ddim nad Jowett fydd y dyn. Enw arall sydd ar dafod pawb y dydd- iau hyn ydyw enw Lloyd George. I dde- chreu, gofaler peidio credu hanner y non- sense welir yn y newyddiaduron y dyddiau hyn. Y mae papurau Northcliffe, a'r Morning Post, a rhyw ddau neu dri eraill cyffelyb yn siglo nef a llawr, heb son am y lie arall, i geisio gwthio Conscription ar y wlad. Defnyddiant bob math o foddion —dim yn rhy wael-i gario'r maen hwn i'r wal, ac y maent y dyddiau hyn yn brysur iawn yn brolio Lloyd George-ar ol ei regi yn enw eu holl dduwiau-ac yn ei osod i fyny fel rival i Asquith. Ond nid oes neb y tuallan i Bedlam am a wn i yn dadleu dros newid ceffylau ar hyn o bryd, pan y mae yr holl fyd gwareidd- iedig yn ymladd am ei fywyd. Mae Llafur, drwy enau Mr J. H. Thomas, wedi dweyd y drefn yn blaen wrth y cynllwynwyr, ac wedi rhybuddio yn bendant nad oes gor- fodi i fod ac os cynygir hynny, yr aiff hi yn strike dros yr holl wlad Gobeithio nad yw y gwr wynebodd beryglon y Town Hall yn Birmingham yn llyncu athraw- iaethau Northcliffe, Curzon a Milner. Cof- ier eto mai rhyfel bapur yn bennaf ydyw hon. Ar yr un pryd drwg gennyf weled Dafydd frenin yn cyfeillachu fel hyn a'r Philistiaid Y nefoedd a'i gwaredo rhag dilyn esiampl Joe Chamberlain, a chefnu ar ei orffennol gogoneddus Lie mae Datgysylltiad a Dadwaddoliad bellach ? Yn yr un fan yn union ag o'r blaen. Ca'r ddau fesur mawr-Home Rule i'r Iwerddon, a Datgysylltiad i Gymru— aros eu tro hyd derfyn y rhyfel.' Dyna oedd ateb Arglwydd Crewe i Esgob Llan- elwy y nos o'r blaen. Pan ofynnwyd iddo ymhellach pa ystyr i'w roddi i'r ymadrodd terfyn y rhyfel,' gofynnodd am amser i ystyried y mater. A dyna lie y saif pethau ar hyn o bryd. Gall misoedd lawer iawn basio rhwng gweinio'r cledd ac arwyddo cytundeb heddwch. Cawn wybod maes o law, efallai, pa un ai y blaenaf neu yr olaf a olygir wrth derfyn y rhyfel.' Un peth sydd sicr ddigon—fod tynged y ddau fesur, yr un Cymreig a'r un Gwyddelig, yn hongian wrth yr un lliijyn. Fe safwn neu fe syrthiwn gyda'n gilydd. Ac nid oes llywodraeth yn ddichonadwy yn y wlad hon feiddia anwybyddu'r Cymro a'r Gwyddel, heb son am anwybyddu y Par- liament Act. Felly credwyf fod ein Mesur Cymreig yn hollol ddiogel, ond fod yn rhaid i ni aros rhyw ronyn yn hwy cyn y daw i'w lawn oed. Wfft i'r Kaiser a'i griw mileinig Efe sydd yn gyfrifol am yr holl aflwydd, ac nid oes amser i ddim arall ar hyn o bryd ond cael pen yr anghen- fil hwn i'r llawr. Gofidus iawn yw fod bechgyn Morgannwg mewn mannau 3-11 ymladd mor gyndyn am eu hychydig sylltau pan y mae eu brodyr draw yn y trenches yn marw wrth y cannoedd dros eu gwlad. Bydd gwaed tyrfa fawr o'r dewrion ar ddwylaw y strikers hyn. Braidd na thrown i yn Conscriptionist rhag blaen pe gellid yn y ffordd honno roddi bias y tan a'r bwledi i'r llwfriaid hyn sydd yn rhyw ganu ffidil pan y mae y Iwd mawr ar dan.'

Advertising

POB OCHR I'R HEOL. I