Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Hide Articles List
7 articles on this Page
Y CWMWL.
News
Cite
Share
Y CWMWL. ?Cyflwynedig i'm c?/tttH, y Parch E. 6. Davies. Abertridwr, yn ei Mt'ctet? ar ol priod annwyl. GWELAIST y cwmwl yn torri, Cefaist dy hun yn y llif Yn rhuthr ofnadwy y tonnau Collaist drysorau dirif: Sawl hwyrnos, gyfaill, y buost Ar lawr yn ddiobaith glan ? Mawr oedd dy ing, fel Ei eiddo Ef roes dy galon ar dftt). Gwelaist y cwmwl yn torri, A byth nid anghofi'r awr Nid oedd oleuni na chysgod Ar Iwybrau yr anial mawr Bryd hynny, a hi yn d'ymyi, Cedwaist dy feddwl yn lân- Chadd ing ond gloywi dy galon, Na phoen ond melysu'th gan. Gwelaist y cwmwl yn torri, A hithau, bryd hynny, ymhelll O na—nid ymhell, fy nghyfaill, Breswylwyr y wlad sydd well: Pan gurai y dymestl gryfaf, Pan grynai dy galon iach, Daeth miwsig ei hemyn i'r Aber, I ti ac i Ai wyn bach. Gweiaist y cwmwl yn torri, A'th adael i ing a braw; Oad, gyfaill, pwy luniodd y cwrnwl, Ac onid yw yn Ei law? Cardd yn ei gysgod-addola Can odditano yn hy'; Cei gymorth y Gwr Goiidus,' A gweddi d'anwvlvd fry. I Maesycwmwr. E. B. POWELL.
- - -_-_ - -SMYRNA, LLANGAIN.…
News
Cite
Share
SMYRNA, LLANGAIN. i j Mae yr eglwys uchod wedi adeiladu capel newydd yn ddiweddar, a diau mai efe yw y capel harddaf a mwyaf cyfleus sydd gennym fel Annibynwyr yn holl rannau gwledig y sir. Saif ynghylch hanner y ffordd rhwng Caerfyrddin a Llanstephan, mewn gwlad fras yngolwg y Tvwi a'r mor. Y mae eisteddleoedd ynddo i 450. Costiodd dros £ 2,000. Y mae ynddo beiriannau cynhesu, organ ddrudfawr, acetylene gas, a festri wrth y talcen ucbaf o'r tucofn i'r pulpud, a gellir gwneud yr ystafell yn nn a r capel ar achlysuron arbenoig, os bydd galw am hynny. Y mae y Parch J. John, y gweinidog, a'r eglwys wedi cydweithio yn rhagorol. Yr oedd y swm anrhydeddus o 21,200 wedi ei gasglu ganddynt erbyn hwyr ail ddydd cyf- arfodydd yr agoriad, yr hyn a gytnerodd le Awst 18fed a'r 19eg, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn James Charles, Cadeirydd yr Undeb—un o blant Smyrna; Elvet Lewis, M.A, Llundain; D. M. Davies, Waunarlwydd; S Thomas, Salem, Llandeilo; Rhys Williams, Maenclochog Samuel Williams, Glandwr W. D. Rowlands (M 0), Caerfyrddin ac Ungoed Thomas (B), Caerfyrddin. Gwelsom y parsonau canlynol yn bresennol ddydd yr agoriad:—Parchn D. R. Davies, Gibeon; Evan Jones, ficer, Llangain; J. P. Evans, Penygraig; T. W. Morgan, Philadelphia; D. G, Williams, St. Clears; Dyfnallt Owen, Heol Awst; — Thomas (B), Llanstephan; Thomas (M C), Treforris; Gomer Williams—un 6 blant Bethel, Llanstephan Mr John Hinds, A.S cfec. Daeth tyrfaoedd ynghyd i weled ac i glywed. YMWELYDD.
ABERMAW. I
News
Cite
Share
ABERMAW. I Yr Ymwelwyr.—Cafwyd tymor put lwydd- iannus eleni yn y lie hwn. Ymwelwyd a'r He gan luoedd o wahanol fannau. Teimlai pawb eu bod yn ddiogel yma rhag I adar a physgod Germani. Ymadawiad.-Chwithdod mawr sydd ar ol y Parch W. Glandwr Morgan, gweinidog y Saeson yma. Wedi dros naw mlynedd o lafur ffyddlon, ymadawodd ddechreu'r mis hwn i gymeryd gofal eglwys yn Birmingham. Brawd hoff oedd efe gan bawb. Cafodd gyfarfod ymadawol cynnes anrhegwyd ef & phyrsaid o aur, ei briod a gwlawlen, a'i eueth fach a chwrlid teithio. Dilyned bendith y Nef ei lafur yn ei gylch newydd. Marwolaethau —Bydd yn ilin gan lawer heblaw cyfeillion Siloam ddeall fod yr hen frawd Mr Cavid Jones yn ei fedd. Ba'n ar- weinydd y g&n yn Siloam am lawer blwyddyn. Nid yn ami y ceid un tebyg iddo meddai ar allu rhyfedd i drydanu'r cantorion, nes en galluogi i ganu'n gynnes lawer tro am ras Dnw. Bu'n gystuddiol yn hir, ond cadwodd heb rwgnach yn erbyn y drefn. Ychydig fisoedd yn ol anrhegwyd ef gan yr eglwys a chodaid 0 aur fel arwydd o werthfawrogiad o'i wasanaeth ffyddlon. Hyderid yn fawr y cawsem ef yn ol drachefn at ei waith; ond galwyd ef at ei wobr, ac efe yn 73 oed. Duw fo'n dirion o'i weddw unig.-Ba farw hefyd Miss Eliza Richards, chwaer i Mrs Capten Williams, Belgrave, a Mrs Adams, Llys Meirion. Genedigol oedd hi o ardal y Bont- ddu, ond pan yn 15 oed aeth i Lundain Bu'n gwasanaethu gyda theuluoedd uchaf y wlad ar hyd ei hoes yn fawr ei pharch. Nid yn ami y cyfarfuom a chymeriad tlysach; yr oedd yn foneddiges Gristionogol heb amheuaeth. Bu'n aelod ff yddlon yn Fetter-lane, ac wedi hynny yn King's Cross. Yn Belgrave y ba farw, yn 67 oed, a chladdwyd hi yn ymyl ei rhieni ym mynwent Llanaber.
Advertising
Advertising
Cite
Share
SILOH, PENYBANC.—Cynhaliodd yr eglwys hon ei chyfarfodydd progetha eleni ar y 12 fed a'r 13eg cyfisol, pryd y mwynhawyd gwasan aeth y Parchn n. Curwen Davies, Siloam, a T. Esger James, Aberteifi Cafwyd hin ddymunol a gwenau yr Arglwydd drwy y cyfarfodydd. You Ca n Rely on Clarke's BU Pills as a You Can Rely on Safe and Sure Remedy, in either Sex, for all Acquired or Constitutional Dis- charges from Urinary Organs, Gravel, Pains in the Back and kindred complaints. Over 50 Year's Success. Of all Chemists, p j arke's 4/6 per box, or sent direct, post \? 1 p iK/ C n'bo free, for Sixty Penny Stamps by n j 4 11 the Proprietors-The Lincoln & B41 Pills Midland Counties Drng Co., Ltd., Linooln. (wum moM MBBQCgT)
.ARAETH RYMUS. j
News
Cite
Share
ARAETH RYMUS. j Un felly gafwyd gan y Prifathro T. Rees, M.A., Bangor, yng Nghyfarfod y Bobl leuainc yn Sasiwn Pwllheli, prydnawn Iau, Medi 9fed. Brawdol ac anrhydeddus oedd gweld y Prifathro yn mhulpud enwad cryfa'r Gogledd, ac yn mynd trwy ei waith mor urddasol yn un o gyfarfodydd pwysicaf eu hnchel-wyl. Yr oedd capel eang Penmount yo oriawn. Golygfa hardd iawn. Daliodd y Prifathraw ar ei gyfle, a gwnaeth ddtfnydd rhagorol ohono Ei fater ydoedd 'Yr Addoliad Cyhoeddus' Yr oedd ynddi dri pheth neilituol-goleuni, gwres a grym Araeth yn ennill y rheswm ac yn deff ror gydwybod. Credwn y erys ei dylan- wad yn hir ar feddwl a chalon llu o'r rfaai a'i gwrandawodd. Fe daiai'n ardderchog pe trefnai Cynghorau yr Eglwysi Rhyddion drwy'r wlad gyfarfodydd undebol i glywed yr araeth hon. Mae ynddi neges arbennig i'r dyddiau hyn. Dylem fel Enwad fod yn falch o'r Prifathro. Diolch yn fawr i chwi, 4 Gwr Daw oeddech i'r dyrfa yn Sasiwn Pwllheli.
TREFFYNNON. I
News
Cite
Share
TREFFYNNON. I Rhodd Marw-goffa.—Yr wythnos ddiweddaf anrhegwyd ysgoldy eglwys Gynulleidfaol Heol-y-Capel & llyft canu nowydd, sef I CaD,- iedydd yr Ysgol Sul,' yn yr hen nodiant, at wasanaeth yr offeryn yn yr Ysgol Sul. Cyf- lwynwyd yr anrheg uchod gan yr hen frawd ffraeth a'r Cristion cywir Mr Edmund Rees, Greenfield street, aelod o'r eglwys uchod, or cof am ei annwyl briod, Mrs Rees, yr hon fu farw er's dros flwyddyn bellach. Trwy law ein hannwyl chwaer, Miss Catherine Williams, Tudor Villa, y derbyniwyd y rhodd, yr hon sydd yn blaenori yn yr ysgoldy, ae wedi gwneud gwaith da ymysg y plant or's blyn- yddoedd bellach, ac yn parhau felly yn yr un cylch mor egniol ag erioed, a'i hya drech a'i gel drcs addysgiad y plant a'u hymddygiad yn y ty yn gyfryw nad oes ail iddi. Y mae deil- iaid yr ysgoldy yn dra diolchgar i Mr Rees am ei anrheg werthfawr, yr hyn fydd yn gaffaeliad mawr gyda'r canu, gan obeithio y bydd iddo gael troulio ei nawnddydd tawel yng nghym deithas yr Hwn y mae yn Ei garu mor fawr. Miss Rosina Davies. --Nos Sidwrn a'r Sul diweddaf, ymwelodd y foneddiges uchod 4'n tref, ac yr oedd ei henw yn ddigun o warant i dynnu tyrfaoedd at eu gilydd i'w gwranio, ac ni ckafodd neb ei siomi ynddi y tro hwn eto Y mae enw Miss Davies yn annwyl iawn yn y dref a'r gymdogaeth hon ac wedi bod felly er's blynyddoedd lawer bellach. Prawf o hynny oedd y cynulliad ddaeth ynghyd nos Sadwrn, er fod ychydig o wahaniaeth yn y gynulleidfa eleni i'r hyn ydoedd pan oedd Miss Davies yma ddiweddaf, gan fod cymaint o'n dynion ieuainc i ffwrdd trwy y gymdogaeth yn herwydd y rhyfel ofnadwy a'r tywallt gwaed sydd yn cymeryd He yn y dyddiau hyn, Er mor anawdd ydyw cael cynulliad nos Sadwrn, fe ddaeth niter dda i wrando ar Miss Davies, a sicr yw mai ffyddloniaid Seion yn y gymdog- aeth oedd yn bresennol, ac enwadaeth wedi mynd o'r golwg. Dechreuwyd y gwasanaeth nos Sadwrn gan y Parch J (5 Davies (M C), Rehoboth, ac esgynnodd Miss Davies i'r pulpud, a chafwyd pregeth syml ac ymarferol gaoddi, nes oedd dagrau ar ami i rudd. Dilyn- wyd gan gan doddedig oedd yn cymeryd gafael ynnom. Teimlai pawb iddynt gael tal da am ddod ynghyd. Er ysgafnhau gwaith y Saboth i Miss Davies, sicrhawyd gwasanaeth gwerth- fawr Mr Gwespyr Jones, o'r dref hon, bore Saboth, grtn yr hwn y cafwyd pregeth ragorol, ae ar ddiwedd y gwasanaeth cafwyd can gan yr Efengyles. Am ddau o'r gloch y prydnawn yr oedd Miss Davies yn pregethu yn Pisgah, Penypyllau, pryd y daeth cynulliad mawr ynghyd. Am chwech yr hwyr yr oedd eto yn pregethu yng nghapel Heol-y Capel, pryd y llanwyd y ty a chynulleidfa frwdfrydig. Yr oedd, rhyw eneiniad nefolaidd ar yr holl was an aeth o'r dechreu i'r diwedd, a gobeithio y bydd i'r Efeogyl a glywsom wneud lies i bawb ohonom. Yr Arglwydd o'i ddaioni a roddo fywyd, iechyd a nerth i Miss Davies am llyn- yddoedd lawer eto i fod o'r un gwasanaeth i'r Meistr Mawr ag y mae hi wedi bod yn y gorff onnol. J. T. W.
LLINELLAU ER COF AM FY MAM,
News
Cite
Share
LLINELLAU ER COF AM FY MAM, Sef Mrs Mary Jones, Trewreiddig, gerllaw Trefdraeth, sir Benfro. Ganwyd hi yng Nghilcenin, sir Aberteifi, a hanai o'r un teulu a'r Parch David Jones, Neuaddlwyd, y cen- liadivr cyntaf i Ynys Madagascar. UWCH angof mae atgof yn aros o hyd, Yn hanes dynolryw holl oesau y byd Daw atgof a phleser fel gwanwyn mwyn, mad, I lonui yr ysbryd a rhoddi mwynhad Daw hefyd a phrudd-der, fel ton ar 01 ton Aflonydd, anesmwyth o eigion y fron Daw pleser a phrudd-der wrth i mi roi cam Mewn atgof uwch angof wrth gofio fy mam. Nid oedd iddi hanes cynhyrfus yn bod, Ni cherddodd hyd lwybrau anrhydedd a chlod Ni wyddai am gynnwrf diorffwys y dref, Ar hyd yr heolydd ni chiywyd ei lief. Bu fyw yn nhawelwch encilion y wlad, Ei chartref a'i theulu oedd iddi'n fwynhad A chariad, fel aberth, yn llosgi yn fyw Ar allor yr aelwyd gysegrwyd i Dduw. Am gyfoeth daearol ni cheisiodd drwy'i hoes, Ond cerddodd yn llwybrau Calfaria a'r Groes Y llwybrau a nodir gan aberth bob un, A chroes i'w chyfodi, fel Iesu Ei Hun. Mae cysgod Calfaria yn estyn ymhell, A chysur, drwy aberth, yn uwch ac yn well Na golud anwadal: mewn crefydd ddinam 'Roedd cyfoeth a chysur a gobaith fy mam. Pan gerddai yn araf drwy gysgod y glyn, Ei gob Jth a'i daliai i'r lan y pryd hyn Er goddef hir gystudd, ni phallodd ei ffydd, Yn nos profedigaeth hi welai y dydd Yn torri ar fryniau tragwyddol y wlad Sy'n fywyd anfarwol o fythol fwynhad; A chiliodd yn dawel o'i blinder a'i phoen I fyw mewn gogoniant yng nghartref yr Oen. Gorffwysed dros hirnos yn dawel mown bedd, Nes gwawria y bore daw fyny mewn hedd; Murmuron yr awel a chwynfan y mor A siiant i gysgu anwyliaid yr lor. Angylion Jehofah, cenhadon y ne', Fo'n gwylio bob amser o amgyich y lie Ac na ddoed byth estron heb wylio ei gam, Rhag sathru'n ddiystyr ar feddrod fv mam. Llundain. TYSILIAN JONES.