Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

PONTYPRIDD.

News
Cite
Share

PONTYPRIDD. Marwolaeth a Chladdedigaeth Mrs Elen Anwyl, —Prin y mae angen dweyd pwy oedd y wraig ragorol uchod, gan fod yr enw ynddo ei hun yn ddigon i wneud hynny, a llanwodd ei ystyr hyd yr ymylon ymhob modd. Ganwyd a magwyd Mrs Anwyl ym mhen draw ardal Lleyn, yn sir Gaernarfon, mewn lle o'r enw Penygraig ac er fod ymhell dros drigain mlynedd er pan adawodd yr ardal wledig honno, gadawodd argraffiadau dyfnion ac arhosol arni hyd ddiwedd ei hym- daith-yn fwy felly, ar rai ystyrron, nag un man arall y bu ynddo. Pan yn ei hafiechyd a'i gwendid diweddar yr oedd yn dueddol i anghofio llawer o bethau, diweddar yn neilltuol, yr oedd crybwyll Penygraig yn dihuno hen atgof- ion, ac yn dwyn gweu siriol dros ei hwyneb a bywiogi ei holl natur. Yno y gwnaed yr argraff- iadau cyntaf, ac y mae clod yn ddyledus i Ben- ygraig am fagu a throi allan gymeriad mor bryd- ferth a gwerthfawr. Fel gwraig rinweddol.—Yr oedd y defnyddiau ynddi yn barod, ac nid oedd dim ond eisiau cyfle i'w datblygu. Rhoddodd ein eyfaill hoff, Mr John Anwyl, o dan arweiniad rhagluniaeth ddoeth yn ddiddadl, y cyfle hwnnw iddi, pan gymerodd hi yn wraig briod iddo ei hun, a bu yn ymgeledd gymwys iddo i wneud priod gwerthfawr a than rhagorol, a dyn da fel pregethwr, diacon a dinesydd. Bu ei Elen yn allu distaw a dylanwadol, a'i delw yn amlwg arno pan eisteddai gyda henuriaid y wlad.' Hi a wnaeth iddo les, ac nid drwg, holl ddydd- iau ei bywyd.' Pa ryfedd, ynte, ei fod heddyw mor ddrylliog ei deimladau yn ei hiraeth dwys a Ilethol ? Treuliasant gyda'u gilydd yn ymyl deuddeg mlynedd a deugain yn eithriadol o dded- wydd. Nid anniddorol yma ydyw dweyd sut y tarodd y ddeuddyn hyn ar eu gilydd. Aeth Elen o Benygraig yn ieuanc, cyn bod yn llawn 16 oed, i wasanaeth yn nheulu yr enwog Ddr Arthur Jones, Bangor, ac aeth gyda Dr Jones a'r teulu i Gaer; rhwng y ddau le bu gyda'r teulu am dair blynedd ar ddeg—deg o'r rhai hyn gyda Dr Jones, a thair gyda'i weddw ar ol hynny. Arferai y Doctor dawnus gynnal eyfarfodydd yn ei dy yng Nghaer er mwyn i bobl ieuainc y ddinas ymarfer eu dawn i fod yn gyhoeddus ac yn y cyfarfodydd hyn y daeth ein cyfeillion i adnabyddiaeth a'u gilydd. Aeth yn garwriaeth, ac ni pheidiasant o hynny allan. Fel hyn yr oedd Mrs Anwyl wedi cael manteision lawer i wneud gwraig rinweddol. Fel mam.—Yn hyn eto hi a ragorai. Mae'n debyg y disgwylia ymwelwyr a St. Paul's yn Llundain weled ymysg y cofgolofnau sydd yno un ragorolaf o'r oil i Wren, ei gynllunydd. Ond gosododd rhywun air i dawelu pob ymholiad-' Os am weld ei gofgolofn, edrychweh amgylch ogylch.' Afraid ydyw yma geisio darlunio medr a gallu Mrs Anwyl fel mam dda yn hytrach dywedwn, os am ei gweled hi, edrychwch o amgylch yn ei phlant y mae canfod gwerth ei chymeriad. Pwy sydd heb wybod am Syr Edward, yr ysgolhaig, a'r gwladgarwr, ac yn fwy na dim, y bonheddwr Cristionogol--ei hannwyl Edward a'i rhagflaen- odd o ddim ond ychydig gyda blwyddyn o amser. Byddai hanner awr, ddarllenydd, o adolygu ei fywyd a'i waith yn fwy o fendith na allaf fi ysgrifennu mewn gofod brin am dano. Ond pa beth bynnag ydoedd Syr Edward, yr oedd gan ei fam ran amlwg ym meithrin a diwyllio y dyn mawr a gwerthfawr hwnnw. Ond yn ychwanegol, y mae eu galluoedd arbennig a'u cylchoedd pwysig a'u rhinweddau amlwg yn perthynu i'r meibion eraill hefyd sydd bobun yn dwyn tyst- iolaeth i ddylanwad mam dda. William sydd yn dal safle bwysig o dan Mri Marshall a'i Fab yn hen dref henafol Gainsborough, ac yn swyddog yn yr eglwys Annibynnol yno a Hugh sydd yng Nghorwen, bob dydd yn dangos llwybr bywyd i blant yr ardal honno, ac yntau yn swyddog yn yr eglwys Annibynnol yno; a'r Parch Bodfan sydd yn gwneud gwasanaeth gwerthfawr mewn cysylltiad a Chymdeithas Mudion Morgannwg ym Mhontypridd, yn gystal ag i lenyddiaeth ei wlad. Er ei fwyn ef y symud- odd ei rieni yma o ddinas Caerlleon, lie y treul- iasant ddwy flynedd a deugain lawn o u bywyd priodasol mewn parch mawr. Ac nid llai ei gwerth ydyw eu hunig ferch, Miss C. M. Anwyl, sydd wedi bod mor ffyddlon a medrus yn ei gwasanaeth a'i gofal diflin am flynydoedd y mae yn y teulu fel afal aur mewn gwaith arian cerfiedig.' Pwy a fedr gael gwraig rinweddol ? Ei phlant a godant, ac a'i galwant yn ddedwydd ei gwr hefyd, ac a'i canmol hi. 0 na chaem ragor o famau fel y hi yng Nghymru heddyw ac yfory i droi Uif materoliaeth a di. [ frawder yn ol, ac i godi dynion, yn feibion a merched, i Grist a'i achos. lechyd canolig a gafodd yn ystod ei harhosiad ym Mhontypridd, a gwaelu yn raddol a wnaeth hyd nes yr hunodd yn yr Iesu bore dydd Mawrth, Medi *4eg a gorffwyso y mae oddiwrth ei llafur, a hi yn bedwar ugain oed. Mae ein cydymdeimlad ar un llaw a'i phriod, Mr John Anwyl, a'r plant yn eu galar a'u hiraeth a'n llawenydd ar y llaw arall eu bod wedi cael gwraig a mam mor ardderchog am cyhyd o amser, ac o gymaint help iddynt yn eu bywyd. Heddwch i'w llwch ym mynwent Glantaf, He yr hebryngwyd ei gweddillion dydd Sadwru, Medi i8fed, ynghanol arwyddion o barch a hiraeth dwys a distaw, gan ychydig o wahoddedigion, ac y gweinydd- wyd ar yr amgylchiad gan ei gweinidog, y Parch O. Lloyd Owen, yn gystal a'r Parch J. Williams, Hafod, a Tawelfryn Thomas, Groeswen. Gosod- wyd hi i orffwys yin medd ei mab, Syr Edward; ac er nad oes gyfrinach yno. y mae cymdeithas ym myd yr ysbrydoedd—'yn nhy y Tad, lie mae llawer o drigfannau.' HIR AE'£ HUS. Yr Ysgol Ra.made.gol.—Yn ddi-os, un o'r ysgol- ion rhagbaratoawl goreu yng Nghymru heddyw ydyw yr uchod, o dan arolygiaeth feistrolgar ein eyfaill Mr Jenkyn Jones, B.A. Mae Mr Jones yn un o'r athrawon goreu, ac yn hyn y mae wedi cael cyd-athraw dan gamp ac ysgolhaig addfed ym mherson Mr Goegre. Y prawf o hyn ydyw llwyddiant y myfyrwyr yn yr arholiadau amryw- iol. Yr wythnos ddiweddaf llwyddodd tri ohonynt yn yr arholiad i Goleg Aberhonddu— Mr G. J. Evans, Castellnedd, brodor o Benybont- fawr, ac wyr i'r diweddar Barch William Roberts; Mr R. L. Goodfield, Caerffili; a Mr R. D. Thomas, Abercrave. Yn arholiad Bangor aeth Mr T. J. Roberts, Aberfan, brodor genedigol o Ffestiniog, i fewn ar ben y rhestr a dilynwyd ar ei sodlau gan Mr T. J. Gwilym, Dinas, Rhondda. Llon- gyfarchwn yr athra a'r bechgyn, ac yn wir y Colegau ar eu der'^niad o fechgyn mor rhag- orol. Eiddunwn lwyddiant pellach i'r Ysgol a'r myfyrwyr. Gyda llaw, y mae swn yn eglwys Sardis fod ym mryd y gweinidog a'r swyddogion eraill urddo ein eyfaill Mr Jenkyn Jones yn wein- idog, fel y gall weinyddu yr ordinhadau Cristion- ogol yn y mynych eglwysi yr ymwela a hwynt. Adnabyddir ef gan filoedd o Annibynwyr fel pregethwr cryf, coeth a dawnus, a disgynna y fantell ychwanegol arno yn naturiol a mwy- y mae ef yn deilwng, a bydd hyn yn gaffaeliad i'r Enwad ac i'r eglwysi ac i grefydd. I CYFAIU,.

[No title]

Rhiwmatic ac Anhwyldeb yr…

Undeb Eglwysi Cymreig Lerpwl,…