Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

0 FRYN I FRYN.

News
Cite
Share

0 FRYN I FRYN. Od/a'r Mwmbwls. ODFA'R Mwmbwls! Gair na phlyga i un penodiad ond a fo crefyddol yw odfa.' A oes odfeuon crefyddol yn y Mwmbwls ? Bid sicr, y mae odfeuon cref- yddol yn y Mwmbwls. Cystal lie am ei grefydd a lleoedd eraill ym Morgannwg yw y Mwmbwls, ond nid cystal yw y llon- yddwch a ga i grefydda a lleoedd eraill, ag eithrio Porthcawl. Ceir eithaf moesgarwch a sel grefyddol yn y lie, a danghosir ffydd- londeb a dyfalbarhad yn yr eglwysi, a phregethir yn efengylaidd a chryf gan y gweinidogion ond rhwystr i'r oil ydyw ymweliadau Sabothol pleser garwyr. Meddylir a siaredir mwy am y drwg a wna'r lie i'r ymwelwyr hyn nag am ddrwg y fath ymwelwyr i'r lie. Beth bynnag a welir yn y lie ar y Saboth sydd yn wahardd- edig a niweidiol, y mae yn perthyn i'r ym- welwyr, yn cael ei gadw a'i gynnal gan- ddynt, a hwynt-hwy yw ei achos. Y mae ymwelwyr y Sul a'r lie hwn yn ddamned- igaeth i'r lie, mor bell ag yr a cadwraeth y Saboth, o ganol y dydd hyd at hanner y nos. Rhoddir cymeriad i le, fel i berson, yn ol y defnydd wneir ohono ac mae'r defnydd wneir o'r Mwmbwls gan fwyafrif mawr o'i ymwelwyr Sul yn ei wneud yn un o leoedd mwyaf penrydd ac anghysegr- edig Cymru. Meddylier am eiliad am yr amrywiaeth geir o Saboth i Saboth yn yr ymwelwyr hyn. Ceir yn eu plith wyr mawr, yn wryw a benyw, fo ganddynt fodur a cherbyd ac olwyneg ac mae dod i'r lie yn gyfle yn iawn i'w treio ar y daith, a'u dangos i'r torfeydd. Wrth gwrs, ceir nifer dda o bob cant o'r rhai sydd yn ddiamcan ac yn annisgybledig eu bywyd, a beunydd yn cyrchu lie bo torf a mynd. Mor amlwg a rheiny yw pobl sydd yn benwan redeg ar ol chwant y cnawd a chwant y llygaid a balchter y bywyd. Mwy difrifol fyth yw E gweld aelodau crefyddol eglwysi'r cylch- I oedd yn eu plith yn ceisio, meddent, iechyd l mewn ychydig oriau, ac yn esgeuluso eu Hysgol Sul a moddion gras yr hwyr, ac mewn canlyniad yn colli yn fawr yr ysbryd- olrwydd a'r cydwybodolrwydd sydd yn perthyn i'w crefydd. Pe cawsid safle briodol o'r nen i weld yr holl sefyllfa hon ar y Saboth, yn ei hymdrochi a'i gorwedd- weddach a'i chwareuon a'i llymeitian a'i cherdded yn ol a blaen, heb son am ei hyfed a'i meddwi a'i rhegfeydd, buasai yn frawychtod ynddi ei hun. A hyn sydd wir ar amser rhyfel. Pery y papurau i ddweyd y ceir difrifwch a sobrwydd Ffrainc a Rwsia yn rhagori ar Brydain er Awst, 1914 ac am Germani dywedir The churches are crowded, and never had such congregations.' Y pwnc cyntaf i'w wneud a'r lleoedd atyniadol hyn yw, nid rhuthro arnynt fel pe buasent yn j uffern-leoedd, ond ceisio mewn pryd ac yn j ddibaid i ddarbwyllo'r cynulleidfaoedd o bechod pleser-deithio o'r fath ar y Saboth, gan y gellir bod yn sicr y ceir nifer luosog o'r Saboth-dorwyr hyn yn y cynulleidfa- oedd. Pe llwyddid i wneud hyn, ni buasai yr un lie yn fwy diolchgar am hynny na lleoedd fel y Mwmbwls a Phorthcawl. Pan yn son am gynulleidfaoedd ac eglwysi, golygwn y rhai hynny sydd o'r tuallan ac o amgylch y cyrchfaau pleser hyn. Cyll yr eglwysi yn eu sternness Piwritanaidd, ac nid ydynt yn foddlon derbyn y ffaith fod disgyblaeth a diarddeliad yn ddiwyg- iad anhepgorol mewn crefydd eglwysig ambell dro ac ambell fan. Modd bynnag, yn y Mwmbwls y caw- som odfa ar y Saboth gan y gwr nodedig, DR. FRANK BAIXARD, M.A., B.SC. Ei odfa ef ydoedd yr odfa hon. Gwna ef bob odfa roddir iddo yn odfa iddo ei hun. Un felly oedd hon yh wir. Un o brif ddadl- enwyr amddiffynnol Cristionogaeth ydyw Dr Ballard. Yn yr ystyr hwn nid oes ei amlycach ar lwyfan y dadleuydd crefyddol a Christionogol ac mae ei lyfrau mawrion a thrymion, 'fel ei ddadleuon a'i atebion, yn brofion o hyn. Tra y gellir oddiwrth ei lyfrau ffurfio syniad am deithi ei feddwl a'i hyddysgrwydd, nid mor hawdd oddi- wrthynt fuasai ei nabod fel siaradwr. Mwy clos a geiriog a gorffenedig ydyw yn ei ysgrifennu nag yn ei siarad. Synnem i weled awdwr mor gryf ac aruchel yn siar- adwr mor agos a chartrefol. Nid oeddem yn coelio o'r blaen fod y fath efengylydd plaen yn y fath feirniad gwyddonol. Y mae agosrwydd yn ei bellter. Ni cheir 61 ei enwad neu ei urdd na'i swydd ynddo o gwbl. Aiff i'w bulpud a saif ger broil yn lleygol a gwerinol. Ei unig ddefosiwn de- chreuol yw mynd i'r pulpud, sefyll o flaen y bobl, a hwylio at ei waith. Dechreua ei odfa yn an-Wesleaidd, ond diwedda hi yn brydferth o ddefosiynol. Aiff ar ei union at ei Feibl, egyr ei glawr, a chaea ef yn ei ol ymeifl mewn llyfrau eraill to o'i gylch, a newidia eu lie gesyd ei law aswy yn ei logell dde i geisio am rywbeth, a gesyd ei law dde yn ei logell aswy i'r un amcan, gellsid meddwi. lyled aflonydd yn y modd hyn ydyw yn ei eiliad gyntaf. Ceisia am rywbeth fel petai o'i lyfr neu o'i logell ac yn sydyn, mewn llais gwan, swrth, dywed rif yr emyn. Athro ydyw'r dyn i gyd. Y mae safiad a sythiad a phlyg- iad athro ganddo, a llais athro ydyw ei lais ef. Y mae yn llais, ac eto rhyfedd mor ddilais ydyw ef. Y mae ganddo ddigon i ddweyd geiriau a dangos trem ar feddyl- iau. Diau ei fod yn clywed ei lais ei hun, ond nid yw yn rhoi llawer o bwys ar hynny ond nid heb drafferth y clyw y rhai pellaf o'i gynulleidfa ef, ond fe'i teimlir gan bawb. Y mae y dyn hwn yn fwy o lawer na'i lais. Athro ydyw ef. Llais main, gwan, gwichlyd ambell dro, ydyw llais Dr Ballard. Llais felly yw llais athro. Beth da i athro yw taranlais a bloeddlais a pherlais ? Cato pawb ofni mae pawb yn swn y daran. Ceir llawer o'r beirniad ynddo fel pregethwr ac ambell dro, wrth ddarllen ei Feibl, rhydd y fath ryddid i'w farn ac i'w feirniadaeth ar y gwahanol gyfieithiadau, nes peri i rywrai i ofni am wirionedd y Beibl ei hun. Beth sy'n bod gan fod dynioll mawr yn anghytuno fel hyn ? yw ei ymholiad. Sioniwyd ni i'r ochr oreu yn ei apel yng nghwrs ei bregeth. Ni ddisgwyliem i feirn- iad mor ddeallus fod a'i apel mor union- gyrchol a dwys. Ac apel Dr Ballard ydyw hefyd. Sonia lawer yn ei bregeth am le y deall mewn datguddiad, a rhydd ei bwys- lais ar gydymdeimlad. Ar yr un pryd, pan yn apelio at y bobl, apei ydyw ar iddynt ymdrechu deall gwirionedd yn well, a dod yn fwy i'r goleuni. Dyn deall yn y diwedd ydyw Dr Ballard, a chwery deall- twriaeth ganddo ef ran o bwys yn iach- awdwriaeth y byd. Mynych y dywed yn ei bregeth Meddyliwch ar ol hyn am hyn,' ac Os ydych heb ei ddeall, neu am ychwaneg o oleuni, dowch ataf fi ar y diwedd.' Ei bregeth ar y pryd oedd ar DUW, CARIAD Tri gair ei bwyslais oeddynt, Duw '— Cariad yw.' Nid oedd yn 'mofyn lleoli Duw, a di-le iddo ef oedd Cariad. Yr oedd y naill fel y Hall yn anneffiniol ac yn holl-bresennol. Pa mor bell gellid dweyd hyn am Gyfiawnder, Sancteidd- rwydd, Doetliineb ? Edmygem ef yn fawr am ei gartrefrwydd a'i dryloewder. Annwyl o homely ydoedd ar hyd ei odfa. Felly ydoedd ei ddarllen, ei weddi, ei emyn a'i bregeth. Un teulu bach oeddem, a safai yntau yn dad o'n blaen. Teithiai lawer yn ei bregeth ychydig oedd ei arosiadau. G a 1 w a i gyda Holl-bresenoldeb Duw Pechod Gwreiddiol Ble mae y rhai sydd yn marw yn y rhyfel yn mynd ? Poen a Dioddefaint Uffern ac eto yr oedd bob cam o'i eiddo yng ngoleuni Duw, Cariad yw.' Diau mai dyn i'w oes yw Dr Ballard. Yr ydym, rywsut, yn disgwyl i'n pregeth- wyr ysgolheigaidd i gyfarfod a gwrth- ddaddleuon y dydd, a'r nos o ran hynny. Y mae ganddynt y medr i hynny, a budd- iol fuasai hynny i bobl ieuainc darllengar ac yn ceisio am y gwir fel pe yn y niwl: Un a'r athro efengylaidd a gwerinol ynddo yw y Doctor hwn yn ei bregeth. Y mae ei briod-ddull i ni mewn rhai pethau yn safonol i'r dyddiau hyn, ac mae yn briod- ddull a etyb i'r eglwysi heddyw. Y mae yr hyglod wr, Dr Clifford, yn ddiweddar wedi bod yn mantoli pregeth- wyr mawr y wlad hon, megis Binney,