Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Hide Articles List
7 articles on this Page
ENGLYN
News
Cite
Share
ENGLYN I William Richards, Elim, Caerfyrddin, a foddwyd yn Llanstephan, efe a'i fab Bertie. Awst 26ain, 1915. O'R boddi oer byddi iach,—o Ii' m6r, William, mwy yn holliach; Heb allu marw bellach Byddi di a BArtie bach. BODFAN.
! YMADAWIAD Y PARCH H. 0 JONES.
News
Cite
Share
YMADAWIAD Y PARCH H. 0 JONES. ANAWDD canu'n ddibryderon, Pan ymedy hen gyfeillion Da fel hyn a'n hen gymdogaeth, Wedi blwyddi o wasanaeth. Hawddach inni yw galaru, Pan mae'n ffrindiau goreu'n cefnu; Tybiwn hyn wrth faint y pryder Welir heno'n Ebenezer. Hen ac ieitanc gymeriadau Goreu'r eglwys yn eu dagrau, Ar ol un fu'n wir arweinydd Iddynt gydag achos crefydd. Rhaid, er hyn, gael cwrdd anrhegu Y Parch Hywel Jones a'i deuln, Gan ddymuno gwynnach mynydd Iddynt eto'n sir Feirionydd. Er mai roll top desk a roddir Iddo heno gan y brodyr, Mwy yng ngolwg yr efrydydd Fydd na chloddfa aur Meirionydd. Pan ddaeth Hywel Jones o Chwilog I Frynaman yn weinidog, Nid oedd eglwys Ebenezer Ond ychydig bach mewn nifer. Eto'n eglwys fechan weithgar, A'i haelodan'n wir ymlyngar, Nes i'r hybarch wr o Chwilog Gael ei gofal fellgweinidog. A bu'n fugail ffyddlon iddi Am dros dair ar ddeg o flwyddi, A gwnaeth hi yn eglwys gyfan, Gyda'r oreu ym Mrynaman. Cerdded ei genhadau nerthol Gyda'i lafur byw, egniol, Eto'n gryfach fyth dros grefydd I'r eglwysi'n sir Feirionydd. I ;I GOHEBYDD 0 BRYNAMAN.
Advertising
Advertising
Cite
Share
Meddyginiaeth Ddyogel AT Anhwylderau'r Croen a'r Gwaed oil ydyoh yn dyoddef oddiwrth unrbyw afleokyd sydd vn oodi oddiar anmhuredd y gwaed, megys ECZEMA SCROFULA, GWENWYN Y GWAED, OLWYFAD o unrhyw natur, OHWYDDIADAU OBOENOL OLUNIAU DOLURUS, ORYDOYMALAU, GOUT, Ao dyleoh brofi gwerth Olarke's Blood Mixture y Gwaed Burydd ao Adferydd bydenwog. Gwarentir 1 glirio y Gwaed oddiwrth pob anmhuredd sydd yn GODI ODDIWBTH BOB AOHOS, SO y mae yn rhydd oddi. wrth bobpetb sydd yn niweidiol iilr oyfansoddiad mwyaf gwanaidd i un o'r ddau ryw, 0 fabandod hyd henaint Miloedd o dystiolaethau o bob parth o'r byd. Oddiwrth yr holl Fferyllwyr a'r Ystordai, 2s 90 y botel. Gofynwch am Clarke's Blood Mixture jOWTUIWCH HVXLYCMADAU DlWKKTB '? £
Advertising
Advertising
Cite
Share
Y RHYFEL. CYNNYG NEILLTUOL I DDARLLENWYR Y TYST.' Y BRENIN A'R YMERODRAETH STORI HEB EIRIAU. Y mae pob darllenydd o'r rhifyn hwn o'r TYST a hawl i dderbyn oddiwrth y MILLIAS PUBLISHING Co., 133-136, High Holborn, London, W.C., Gopi o Engraving prydferth yn dwyn yr enw Y Brenin a'r Ymerodraeth (HAWIJPRTENTIOIJ) Y MAE y Darlun prydferth hwn wedi ei baentio gan yr arlunydd adnabyddus ERNEST WALBOURN, ac y mae pob copi wedi ei cael argraffu yn" uniongyrchol oddiwrth y c o p i gwreiddiol (coppey-plote) ar bapur da (30 x 22). Nid oes un llun ag sydd wedi ei gynhyrchu yn ystod y rhyfel dinistriol presennol mor daraw- iadol, mor effeithiol, ac mor ddynol a hwn. Y mae yn ddiddadl yn ymdrech dda, hyd yn oed i un ag sydd eisoes yn uchel yn ei alwedigaeth. Y mae y darlun hwn yn rhwym o fyw fel tyst, nid yn unig o'r ymdrech fawr i ryddhau y cen- hedloedd, ond hefyd i ddangos yr ysbryd teyrn- garol a'r teimlad o degwch a gynhyrfai feibion Prvdain. Bydd yn gyfrwng i atgoffa y genhedlaeth bres- ennol a'r rhai dyfodol fod dynion a merched Prydain yn barod i wneud pob aberth er mwyn eu Brenin a'r faner. Y mae testyn yr arlunydd cystal a'r darlun. Dengys briod a thad yn canu ffarwel i'w wraig. Y mae wedi ymwisgo yn y dillad milwrol ydym mor gyfarwydd a hwy (khaki), ac yn cofleidio yr hon sydd iddo yn ymgeledd gymwys, tra y mae hithau yn ceisio cadw yn ol bob arwydd o ofid oddiwrtho. Y mae yr arwyddion ar ei hwyneb yn dangos yn amlwg ei theimlad. Dengys y milwr hefyd yr un arwyddion ond, fel y mae yn briodol i ddyn a milwr, ymdrecha ddangos yn gadarn a dibryder. Tu ol iddo, yn chware gyda'r dryll, y mae eu plentyn—ond yn rhy ieuane i wybod beth sydd yn cymeryd lie. Y mae y weledigaeth bortreadir yn y cysgod yn awgrymu eu bod yn eyd-weddio* ar Dduw am arweiniad ac amddiffyn. Ychwanegir at yr effaith gan yr olwg geir ar nifer o wyr, gwisg y rhai sydd yn mynegi eu bod wedi penderfynu gwneud eu goreu i amddiffyn en gwlad. Y mae y Darlun, Y BRENIN A'R YMERODRAETH, yn till ardderchog, a gellir dweyd am dano ei fod yn STORI HEB EIRIAU. Gall pob darllenydd o'r rhifyn presennol o'r TYST gael copi o'r Darlun hwn trwy dorri allan y Rliwymyn a'i anfon i'r Cwmni isod, gyda P.O. am 1/9, taladwy yn y General Post Office, London, E.C., neu 22 o llythyrnodau (stamps) er talu cost yr hawlfraint, a'r cludiad. Anfonir y darlun, wedi talu ei gludiad, i un- rhyw gyfeiriad yn y Deyrnas Gyfunol, ac wedi ei sypynnu fel ag i gyrraedd yn ddianaf. Torrwch allan y Rhwymyn isod YN A WR, ac anfonwch ef i'r cyfeiriad isod. Y.T. RHWYMYN. Y mae Bhwyrpyn hwn yn rhoi hawl i un Oopi o'r darlun prydferth- Y BRENIN A'R YMERODRAETH (HAWLFREINTIOL) a rbaid aufon gydag ef P.O. am 1/9 neu 22 o lythrnodau ceiniog i THE MILLIAS PUBLISHING CO., 133-136 HIGH HOLBORN, LONDON, W.C. D.S.-Nid yw yn agored ar ol Hydref 9fed, 1915. Dalier Sylw.-Rhaid anfon pob Rhwymyn i mewn ar neu cyn Hydref gfed, 1915 (darllenwyr Tramor YN UNIG, Rhagfyr iieg, 1915). RHAID anfon y Rhwymyn gyda'r archiad, neu gall y Darlun fyned i eraill yn amgen na darllenwyr y TYST. Anfonir un Copi yn gyfnewid am un RHWYMYN. NI DDANFONIR COPI OS NA BYDD RHWYMYN. Efallai nad ymddengys eto yn y papur hwn. PWYSIG.—Y mae nifer neilltuol o'r darlun prydferth hwn wedi eu hargraffu ar India Tint Paper, a'u HARWYDDO GAN YR ARI/UNYDD. Cyn- hygir hwynt am 5/- yr un. Pan bydd y nifer yma wedi eu gwerthu, ni arwyddir ychwaneg ohonynt, felly bydd y copiau arwyddedig o gryn werth cyn hir. Gellir cael copiau ar India Tint Paper, ond heb eu harwyddo, am 2/6. GeMir cael pris copiau wedi eu fframio yn ddestlus ond anfoa i'r cyfeiriad mchod. '■
Elim, Ffynnonddrain.
News
Cite
Share
Elim, Ffynnonddrain. Claddedigaeth Mr William Richards, Bryn- mefys, Caerlyrddin.-Blin iawn yw gennym orfod son am ein cyfaill annwyl, Mr William Richards, fel yr ymadawedig,' ac yntau ond 54 mlwydd oed. Taenodd y newydd am ei foddi yn I-ilan stephan, ddydd Iau, Awst 26ain, wrth geisio achub bywyd ei fab Bertie, brudd-der mawr a brawychus dros fro dawel a hynafol Elim. Aeth pawb Y11 fud gan fraw pan ddaeth y newydd trist i Bertie a'i dad foddi y dydd hwnnw. Gwr parchus a siriol oedd yr ymadawedig, ac yn flaenor diwyd a defnyddiol yn Elim. Cyweirnod ei fywyd oedd gofal am yr ieuainc. 'Roedd yn gyfaill i'r gweinidog a'r blaenoriaid, ond yn fwyaf neilltuol i'r bobl ieuainc a'r plant. Anwylid ef pa le bynnag y byddai ac i ni, ei gyfeillion ieuainc, yn awyrgylch yr Ysgol Sul a chyfarfod- ydd y bobl ieuainc, mae efe wedi marw yn llefaru eto.' 'Roedd yn wr meddylgar a galluog, a chawsom lawer papur diddorol iawn ganddo yng Nghymdeithas y Bobl Ieuainc. Pel ein llyw- ydd a'n harweinydd yn y cyfarfodydd hyn, mae ei goffadwriaeth yn anfarwol. Anawdd ydyw meddwl am gyfarfodydd y bobl ieuainc heb feddwl am William Richards. Meddai ar eiriau parod, ac yr oedd yn gemu llawer odfa, a dim ond ei garedigrwydd a'i sirioldeb oedd yn fwy na'i allu.' Felly nid rhyfedd fod ei enw yn odiaeth o eneiniedig yn ein plith. Mor fawr yw y bwlch, ac mor wag yw ei le Claddwyd ef ym mynwent Elim dydd Mawrth, Awst 31am, pryd y daeth tyrfa liosog iawn ynghyd i ddangos eu parch i'w goffadwriaeth. Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y Parchn D. Roberts, ei weinidog D. Evans, ficer Park Mill D. Williams, Aber- gwili Dyfnallt Owen, E. V. Thomas (B), D. J. Thomas a W. D. Rowlands (M.C), Caerfyrddin J. Bodfan Anwyl, Pontypridd Stephen Thomas Llandeilo; a D. Griffiths (B), Capel Iwan. Yr oedd yn bresennol lawer iawn o weinidogion ac offeiriaid eraill. Mae yn chwith gennym feddwl fod William Richards yn ei fedd. Diwedd go bruddaidd a thrist oedd iddo. Mor hoew yr ydym yn ei gofio Ond dyna-rhaid dygymod, er mor annymunol, a dymuno i'r hen gyaill cywir dawel orfiwysiad hyd fore'r codi. Arhosed bendith gyfoethog y Nef yn gysgod clyd i'r weddw a'r plant sydd ar ol, i barhau eto am flynyddoedd meithion yng ngwasanaeth ein Har- glwvdd Iesu Grist ac i fod yn urddas i ras y 1 nef. DAN Y DON.
iAfiechyd Cerddor. I
News
Cite
Share
Afiechyd Cerddor. Bydd yn flin gan lawer glywed am afiechyd Mr Meudwy Davies, y cerddor poblogaidd o Lanelli. Er's wythnosau bellach y mae'n dioddef oddiwrth anhwyldeb blin. Gorfodwyd ef i roi fyny am dymor ei swydd fel arweinydd ac organ- ydd eglwys y Tabernacl, ac y mae ar hyn o bryd yn Clifton yn gorffwys yn ol cyngor ei feddyg. Nicl yw seibiant gorfodol fel hyn mewn cytgord a natur ymrous Mr Davies, ac y mae'n chwith hebddo yng nghyfarfodydd Sabothol ac wyth- nosol yr eglwys. I ddangos eu cydymdeimlad a'u meddwl uchel am dano, casglodd cyfeillion y Tabernacl swm anrhydeddus er ei alluogi i gael triniaeth neilltuol yn Clifton, a da gennym ddeall ei fod yno yn adenill nertli. Hysbys ddigon i ddarllenwyr y TYST yw ei waith ym myd cerddoriaeth. Fel arweinydd cymanfa- oedd a beirniad eisteddfod gelwir am ei wasan- aeth o bob rhan o Gymru, ac nid oes ei hafal gyda'r gwaith. Colled cyffredinol, felly, yw ei fod yn gorfod torri ei ymrwymiadau yn ystod y misoedd hyn. Hydera ei fErindiau y ca yn fuan lwyr ymwared o'i afiechyd, i ddychwelyd eto at ei waith pwysig yn Idanelli.
. Yr Yswiriant ag 01-ddyled.…
News
Cite
Share
Yr Yswiriant ag 01-ddyled. I Geilw'r Dirprwywyr Yswiriant Cymreig sylw at y ffaith y bydd y cyfnod yn ystod yr hwn y caniateir clirio ol-ddyledion mewn cyfraniadau am y flwdydyn hyd Orffennaf, 1915, yn terfynu ar Hydref 3ydd, 1915 a dylai personau yswir- iedig a ddymunont osgoi cospau oblegid ol- ddyledioh felly stampio Cardiau Ol-ddyled (Arrears Cards) cyn y dyddiad hwnnw. Dyild dangos nifer yr ol-ddyledion eosbadwy (penalty arrears) fyddo'n sefyll yn erbyn person yswir- iedig yn ei Iyyfr Yswiriant. Dylai unrhyw berson yswiriedig y dengys ei Lyfr Yswiriant ei fod mewn ol-ddyled dderbyn hysbysrwydd oddiwrth ei Gymdeithas Gymeradwy ynghylch y modd y gall glirio'r ol-ddyled honno. j Dylaifgpersonau yswiriedig sydd hyd yn hyn heb dderbyn hys- bysrwydd felly, neu y sydd heb gael eu Llyfrau Yswiriant yn ol oddiwrth eu Cymdeithas, ohebu ar unwaith gyda'u Cymdeithas ynglyn a'r mater. Neuadd y Ddinas, Caerdydd, Medi 3ydd, 1915.