Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Crugybar.

News
Cite
Share

Crugybar. Anrheg Dda. Yll ddiweddar anrhegwyd eglwys Crugybar a set gyflawn o lestri Cymundeb unigol gan Mr D. Williams, Prif Heddgeidwad dinas Caerdydd, a mawr yw diolchgarwch a llawenydd yr eglwys yn ei ymddygiad canmol- adwy. Un o Grugybar oedd ei ddiweddar dad, a bu yn ddiacon a thrysorydd yr eglwys am flyn- yddoedd. Yma, hefyd, y ganwyd ac y magwyd y bonheddwr anrhydeddus hwn ac er dringo ohono i safle gymdeithasol mor uchel a phwysig, nid yw wedi anghofio ei hen gyfoedion a mangre mebyd. Yn ddamweiniol, os nad. yn Rhaglun- iaethol, rywbryd tua mis Mai diweddaf talodd ei fam oedrannus ac yntau ymweliad a'r hen eglwys ar ei Saboth Cymundeb, a gwelsant yr hen lestri gynt a welsent yno erioed mewn arfer- iad parhaus ac yn ebrwydd ar ol hynny dan- fonodd y bonheddwr at y Parch D. B. Richards, y gweinidog, i ddweyd y byddai yn bleser mawr ganddo, ar gais ei fam, i gael anrhegu yr eglwys a'r llestri Cymundeb unigol yn 11awn (cups and plates, &c.), os byddai yr eglwys yn gweled yn dda eu derbyn. Ac nid oes eisiau crybwyll i'r eglwys ar unwaith dderbyn y cynnyg gyda gor- foledd a diolch. Erbyn hyn maent wedi dod i law, ac wedi bod mewn ymarferiad fwy nag unwaith, a phawb yn eu mwynhau a'u canmol. Nid yn unig mae'r llestri yn hardd, a'r rhodd yn brydferth a gwir ddefnyddiol ac yn ddio- gelwch i iechyd, ond coron yr oil yw calon dda y rhoddwr ei hun. Dyma ddisgybl arall wedi torri'r blwch enaint ar draed y Ceidwad. Yr oedd ei hen fam-eglwys yn meddwl yn uchel ohono erioed, ac yn llawenhau ac ymfalchio yn ei lwyddiant; ond mae'r rhodd werthfawr a theilwng hon wedi ei anfarwoli i edmygedd a serch ei hen gartref. Pa mor uchel bynnag y meddylia Caerdydd farw o'i Phrif Heddgeidwad, y mae Crugybar fach yn meddwl mwy ohono.

RHAI RHESYMAU

I Marwolaeth a Chladdedigaeth…

I Siloh, Aberdar.I

I Bryngwran, Mon.

I Tabernacl, Blaenrhondda.

IRhiwmatic ac Anhwyldeb yr…