Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

I Mynydd Seion, Ponciau.

News
Cite
Share

I Mynydd Seion, Ponciau. Ar ddiwedd yr ysgol yn y lie uchod Awst 2gain, cyflwynwyd nifer o lyfrau gwerthfawr ar ran yr eglwys gan y Parch J. Howell (gweinidog) i un o'i phlant, sef y Parch Fred Davies, ar ddechreu ei weinidogaeth yn eglwys Bethesda, Talybont, sir Aberteifi. Cyn y cyflwyniad galwyd ar Mr John Williams, Dover House-un o ddiaconiaid hynaf yr eglwys, i ddweyd gair ar yr achlysur. Dywedodd y dylai unrhyw eglwys fyddo'n ym- gymeryd a'r gwaith pwysig o godi pregethwr, benderfynu yr un pryd ei gefnogi ymhob ystyr posibl tuag at iddo wneud pregethwr a gwein- idog da a llwyddiannus. Credai na fu Mynydd Seion yn ol i unrhyw eglwys mewn gwneud hynny. Rhoddodd bwys mawr ar fod y brawd yn penderfynu bod yn bregethwr da. Buasai yn well ganddo fod yn bopeth gwael nag yn breg- ethwr gwael. Yr oedd yn sicr y byddai'r brawd ieuanc yn gwneud y defnydd goreu o'r llyfrau -yn bwyta y llyfr '—ac y cadwai mewn cof bob amser anrhydedd yr eglwys a'i cododd, ei anrhydedd ei hun, ac yn bennaf oil anrhydedd yr Efengyl. Dilynwyd ef gan Mr Howell mewn anerchiad fer a phwrpasol. Yr oedd yn cydfynd yn hollol a phopeth ddywedwyd gan Mr Williams, ac yn dymuno pwysleisio hynny. Gofaled y brawd ar bob cyfrif wneud ei oreu i feistroli y llyfrau yn drwyadl, ond buddiol fyddai iddo gofio yr un pryd fod un llyfr ag oedd yn bwysicach na'r oil olionynt, sef y Beibl. Dyna yw text book y preg- ethwr nid yw y llyfrau eraill i fod ond cynorth- wyon i ddeall hwnnw'n well. Gresynai unrhyw eglwys nad oedd yn cael ond gweiiiidogaeth y llyfrau ar wahan i Lyfr y llyfrau.' Yr oedd yn bleser ganddo gyfhvvno y rhod^.ion gwerth- fawr hyn iddo gyda dymuniadau goreu yr eglwys ar i'w yrfa yng ngweinidogaeth y Gair fod yn llwyddiant mawr ymhob ystyr. Diolchodd Mr Davies yn gynnes i'r eglwys a phawb am bob caredigrwydd dderbyniasai oddiar eu dwylaw er pan ddechreuodd bregethu, ac yr oedd yn benderfynol o wneud ei oreu i gario allan y cynghorion buddiol. I GOHEBYDD.

IPOB OCHR I'R HEOL.