Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
Yr Annibynwyr Cymreig.
News
Cite
Share
Yr Annibynwyr Cymreig. Y GYMANFA. Efallai mai'r fwyaf poblogaidd gyda gwerin yr Enwad o'n holl wyliau yw'1' Gymanfa Breg- ethu. Ynddi hi y clywyd ar hyd y blynyddau brif bregethwyr yr Enwad. Sonnid am dani ar aelwydydd yr Enwad rai misoedd cyn iddi ddod. Gadawai'r amaethwr a'r siopwr a'r glowr a'r chwarelwr eu dyledswyddau tymhorol am y dydd hwniiw. Y neb a fynnai adnabod ein cenedl yn iawn, rhaid oedd ei- gweld ar ddydd y Gymanfa Bregethu. Cynhelid hi bob amser yn yr awyr agored, oddieithr pan fyddai'r meysydd yn wlybion. Codid math o lwyfan byehan i'r pregethwyr efallai mai nifer o hen gertwyni wedi eu dodi ynghyd fyddai'11 gwneud y llwyfan-»-lle i ychydig eistedd, ac i'r llefarwr sefyll yii y ffrynt. Mawr y golygfeydd gaed ym meysydd y Gymanfa a diangof fydd y prof- iadau gall filoedd o bobl oreu ein gwlad. Ni ddarperid Ue mawr i'r gwrandawyr eistedd. Saf ent, gaii mwyaf, oni ddygai un gadair neu ystol gydag ef ac nid oedd cerfyddwyr Cypru uwch- law gwneud hynny. Anaml y gwneid casgliad ar faes y Gymanfa. Cyfrannai holl eglwysi'r sir ryw gymaint at y draul o'i chynnal. Erbyn hyn nid yw'r Gymanfa mor boblog- aidd. Yn wir, aeth i lawr gryn lawer mewn ambell i sir. Ni chyll pobl ddiwrnod o waith i'w mynychu, ac ni theimlir yr un diddordeb ynddi. Paham, tybed ? Gall fod y wlad, oher- wydd cyflawnder o gyfleusterau eraill i wrando yr Efengyl, wedi dod i deimlo nad oes cymaint o angen y Gymanfa. Hefyd, nid yw pobl yn gallu colli diwrnod o waith heddyw mor rhwydd ag y gwneid gynt, ac ni fedd y werin yr un hamdden a'n tadau. Ond ai dyna'r cwbl ? Tybed nad all fod pethau eraill yn peryglu'r Gymanfa ? Y mae'r pregethwyr mor gymeradwy ag erioed, yn ol pob golwg, er efallai heb lawn eymaint o ddoniau'r Gymanfa ag oedd gan Hir- aethog, Ap Fychan, Tanymarian, Herber ac eraill. Eto i gyd, gall y pregethwyr heddyw dynnu cynulleidfaoedd, mae'n hawdd gweld. Oni all fod. dirgelwch y dirywiad ym materol- iaeth y trefniadau ? Onid aeth y Gymanfa yn gyfle i ambell eglwys wneud arian drwyddi ? Codir pabell fawr, a chodir tal trwm am fynd i honno i eistedd. Adeiledir hefyd oriel goed fawr oddeutu llwyfan y Gymanfa, a threthir y neb a fynno eistedd yn yr oriel hon. Cedwir draw bawb na thalo, fel pe na fai i wrando'r Efengyl, druan, ond o dan brotest. Rhaid iddo sefyll yn y pellter, fel gwr gwahanglwyfus—' yn aflan,' am nad oes swllt ganddo i'w roi am sedd yn yr oriel neu'r babell Yn sicr, cariwyd hyn i eithafion annheilwng mewn ambell sir ac oni roddir pen disyfyd arno, y mae'n sicr o ladd y Gymanfa. Nid rhyfedd fod dadleu ac ymgip- rys mawr yn y Cwrdd Chwarter am gael y Gymanfa.' Os mai gwneud arian yw amcan ardal neu eglwys, wel mynned eisteddfod, neu cynhalied ffair o dan yr enw basar--os yw'n ddigon dibris i hynny. Gadawed y Gymanfa'n llonydd, beth bynnag. Gobeithiwn y cyfyd y Cyfundebau, gan ddodi eu hwynebau fel callestr yn erbyn y dirywiad ffiaidd hwn. YMTID Y PIISGYN. Yn ofalus a chynnil, ac heb awydd yn y bNTd clwyfo neb, yr hoffem gyfeirio at y mater hwn. Nid yw'n fwy nodweddiadol o'r Enwad Anni- bynnol nag o'r enwadau eraill ychwaith. Ond ofnwn ei fod yn wir am danynt oil—eu bod yn colli'r grawn, ac yn casglu pethau salach yn dal y plisgyn ar draul colli'r cnewyllyn. Ynglyn ag addysg yr athrofeydd enwadol y dywedwn hyn. Nid oes neb a ddiystyrro ddysg, nac a fychano ddiwylliant, nac a gredo fod yn bosibl cael gweinidogaeth effeithiol heb fesur helaeth o'r cyfryw. Tybed, er hynny, nad yw'r athro- feydd enwadol—ysgolion y proffwydi-vn byw gormod o dan gyfaredd y prifysgolion, ac yn cyfaddasu eu hunain i gyfarfod a gofynion y cyfryw yn ormodol ? yn cymeryd eu rheoli i raddau rhy fawr gan ddylanwadau'r colegau cenedlaethol ac yn mabwysiadu delfrydau y rhai hynny iddynt eu hunain ? Yr hyn sydd gynier- adwy yng nghynteddau'r cenhedloedd sydd erbyn hyn yn dweyd yng nghynghorair'r deml, ac aeth ysgolion y proffwydi yn efelychwyr i sefydliadau addysgol y byd. Os oes ar yr Enwad eisiau rhywbeth heddyw, y mae arno eisiau dynion a dawn Duw ynddynt; dynion ag aiddgarweh cadarn o blaid y gwir ynddynt dynion ag angerdd y proffwydi yn eu heneidiau. Gallu i bregethu'n syml ac yn oleu a chynnes a gwir argyhoeddiadol sydd yn cael ei ddeisyfu yn anad dim. Nid aeth y wlad yn rhy ddysg- edig eto i wrando ar y cyfryw. Os y bydd yn efengylydd dirrodres, ac wedi ceisio ymgydna- byddu a Gair Duw, ynghyda'r ffordd o iawn gyfrannu gair y gwirionedd,' nid oes glust yn y wlad a drydd oddiwrtho. Pa faint all colegau ei wneud i sicrhau to o bregethwyr felly, anawdd yw dweyd. Nis gall yr un coleg ddodi talent mewn efrydydd a aned heb yr un, wrth gwrs: ac nis gall dynnu allan o fyfyriwr yr hyn nad yw ynddo o gwbl. Amhosibl gwneud preg- ethwr o bob llanc a lwydda i basio i'r coleg a ffol fyddai disgwyl dim o'r fath. Yr un pryd, nid ffol fyddai i athrofeydd yr Enwad lynu mwy wrth yr hen ddelfrydau a'i gwneud yn nod i droi allan ddynion ieuainc sydd wedi eu trwytho ag ysbryd y weinidogaeth yn hytrach na dim arall ac wedi cael y ddiwylliant ddefosiynol honno a'u cyfaddasa yn uniongyrchol i'w gwaith fel pregethwyr. Y mae diwyllio ysbryd y proff- wyd ieuanc yn llawn cyn bwysiced ag yw goleuo ei feddwl. Y mac ei hvfforddi ynglyn a, siarad, a daiilen, a chyfansoddi, a meddwl drosto ei hun, yng nghyfeiriad yr Efengyl, yn bwysicach na phasio holl arholiadau'r prifysgolion.-O'r Geninen,' cylchgrawn y genedl.
-I NODION.I
News
Cite
Share
'A rwyr Cymru.' ANODD meddwl am gyfrol fwy amserol a phwrpasol a hon i gyfarfod a r h a i agweddau i angen Cymru heddyw. Mae y rhyfel yn llyncu i fyny ein sylw fel nad oes gennym hamdden na bias i ystyried materion sy'n hanfodol i fywyd uchaf y genedl. Galwasom sylw yr wythnosau diweddaf at y lleihad difrifol sydd yn cymryd lie yn gyson flwyddyn ar ol blwyddyn yn rhengoedd pob enwad yng Nghymru. Ond ymddengys mai ychydig iawn yw rhif y bobl, hyd yn oed gweinid- ogion ac arweinwyr, sy'n barod i dra- fferthu eu hunain hyd yn oed i drafod y cwestiwn. Ac efallai mai un o'r rhesymau am hyn ydyw nad oes ganddynt unrhyw fec1.dyginiaeth i'w chynnyg ar gyfer y clwy. Yrydym ni yn hollol argyhoeddedig mai un feddyginiaeth dda fyddai trwytho ein plant a'n pobl yn ieuanc yn hanes a thradd- odiadau ein hynafiaid a'r arwyr dewr ymladdasant hyd at waed dros ein heg- wyddorion a rhyddid ysbrydol yn y dydd- iau gynt. Dyma gyfle rhagorol i ddwyn y stori ryfedd i sylw ein hieuenctyd. Ceir yn y gyfrol hon hanes cyffrous dewrion fel Penry, Cradoc, Morgan Ilwyd, Vavasor Powell, Stephen Hughes, Howell Harris, John Myles, Daniel Rowlands, Christmas Bvans, Morgan Rhys, Williams o'r Wern, Troad Allan 1662, Egwyddorion Ymneill- tuaeth, &c., a'r oil yn daclus a hylaw mewn cyfrol wedi ei rhwymo yn hardd a theilwng. Mae ein Cymdeithasau Llen- yddol, &c., yn darparu y dyddiau hyn ar gyfer y gaeaf. Ni ddylai fod prinder defn- yddiau ar yr un ohonynt bellach. Ceir yma storiau ddylai wneud en cyfarfodydd nid yn unig yn ddifyr a hwyliog ond hefyd o werth parhaol i grefydd ac Ym- neilltuaeth a chymeriad yr aelodau. Cy- hoeddir hi gan Undeb Cenedlaethol Efeng- ylaidd Cymru, a gellir ei chael oddiwrth y Parch James Bvans, B.A., 5 Partridge Road, Cardiff. 'Llafurwyr Seion.' WELE lyfryn arall ddylai fod o gymorth mawr i ni fel Enwad yn yr argyfwng crefyddol yr ydym ynddo. Hanes Undeb Ysgolion Sabothol Annibyn- wyr Gogledd Penfro ydyw, wedi ei ysgrif- ennu yn ddifyr a chryno gan y Parch E. J. Lloyd, Llandudoch, a gellir ei gael oddi- wrtho ef am 6c. Cychwynnwyd yr Undeb gan gedyrn Penfro yn 1844, dynion fel Rees, Trewyddel Miles, Tyrhos Thomas, Trefdraeth; Davies, Gideon; Lewis, Brynberian a Simon Evans, Hebron, yn cael eu cynorthwyo gan leygwyr selog a ffyddlon. Gwelodd y brodyr > hyn mai trwy gyfluniaeth drefnus ac hy-. fforddiant cyson ynglyn a'r Ysgol Sul yr oedd cadw Penfro yn gryf ac iach ysbrydol y pryd hwnnw, ac mae'r Undeb wedi byw a gwneud gwasanaeth amhrisiadwy byth i oddiar hynny. Priodol oedd ysgrifennu ei stori. Teifl oleu ar fywyd crefyddol y sir am yr holl gyfnod. Ceir yma fywgraffiad byr o'r holl weinidogion ac arweinwyr fu ynglyn ag ef, ac mae'r cyfan wedi ei droi allan mewn llyfryn bychan, tlws, glan, rhad, a bydd ei ddarllen yn sicr o fod yn symbyliad i ymdrech a gwaith ynglyn a'r Ysgol Sul ym mhobman. í Ysfvaeon 0 Hanes Cymru.' IKRGRAFYIAD aewydd o lyfryn adnabyddms O. M. Edwards ydyw hwn, a da gennym weted y galw parhaus sydd am dano. Son am Arthur, Caradog, Gwenllian, Llywelyn, 0 w a i n Glyndwr, y Gwylliaid Cochion, y Beibl Cymraeg, Castell Penfro, Mary J ones, Bythod Cymru, &c., i'r plant y mae 0. M. yn ei ffordd a'i arddull dihafal ei hun. Mae'r iaith yn syml, y trefniant a'r cyn- nwys oil yn odidog, a dylai pob plentyn o Gymru ei gael a'i feddu. Hughes & Son, Wrexham, 6c. IY Beirniad.' RHIFYN cryf iawn yw un yr haf o'r Beirniad. Mae dwy ysgrif ynddo sydd yn ganmil mwy na gwerth y rhifyn, sef un yr Athro William Phillips o Goleg Caer- dydd ar y cwestiwn 'A Ellir Disgyblu'r Cof ? Y gyntaf ydyw o gyfres ar ddis- gyblu'r meddwl, ac mae'n ernes odidog o'r hyn sydd i ddod. Mae yn ffres, clir, difyr, a nodedig o fuddiol i'r neb gymer ddiddordeb yn ochr ymarferol meddyleg. Yr ail ydyw ysgrif gampus Mr Shankland ar Goronwy Owen.' Dyma'r drydedd o'r gyfres, ac mae wedi hen brofi fod angen bywgraffiad newydd o Goronwy, ac mai efe yw'r unig wr fedr ei ysgrifennu. The Welsh Outlook.' AMHEUTHUN blasus yw'r Outlook am Medi. Mae ysgrif Proff. Herford ar Freedom: English and German yn rhagorol, ac yn rhoi gwerth parhaol ar y rhifyn. Awgrym gwerth ei hystyried yw un y Golygydd ynglýn a diwygio'r Eisteddfod. Mae yn prysur fyned yn annhrefnus a difudd fel y mae, a thybia efe mai yr hyn a'i gweryd, ac a'i try i'w diben uchaf, yw ei chynnal yn adrannau-Llên, Celf, Cerdd, &c., a chyf- arfodydd unol i wobrwyo'r buddugwyr, &c. Yn sicr, mae'n bryd cael rhyw ddiw- ygiad, a dyma gynnyg ymarferol a chraff. Y Dysgedydd, &c. MAE tair ysgrif ddiddorol I iawn yn Nysgedydd Medi Undeb Merthyr gan Un Oedd Yno, 'Gwlad Du a Gwyn gan Gwjaia, ac adgonon am Heol y Capel, Treffynnon gan Brodor. Yn y Cennad Hedd, Yr Arlunydd Difai' gan Dyfnallt, a Robert J apheth Gwern- y-Sais,' gan O. Lloyd Owen, dynnodd ein sylw fwyaf. Mae'r Dysgedydd bach a'r Tywysydd yn llawn o arlwy dda i'r plant, a Chymru'r Plant yr un modd.