Hide Articles List

27 articles on this Page

" " ----- / FFYNON THE WAX…

DIRWEST.

BETHESDA A'l THRIGOLION. I

IYr Ymisodiad Penfibrdd ar…

---------------Eisteddfod…

--------Priodasol.

Advertising

----.---------ABERFFRAW.

.-------

BEAUMARIS.

---__-BODEWRYD.

CAERGYBI.

CAPELGWYN.

CEMAES.

-----.------LLANERCHYMEDD.…

News
Cite
Share

LLANERCHYMEDD. CVimoa Gerddorol.-Adeain brwydrau cerddorol sydd i'w glywed yn mhob man drwy'n pentref y dyddiau hyn, ac nis gallwn lai na i ganmol a i ed- mjim, O'r amrywiol ymladdfeydd cerddorol y bu Cor y Llan ynddynt, tebygol mai yn y rhai diwedd- af y dangoswyd y gallu caniadol ac, i raddau cerddorol; hefyd, cryfaf, ac vn un o'r rhai hyn yr enilhvrd yr urddas ucliaf o bob brwydr flaenorol. Daeth Cor y Jlan allan yn fuddugoliaethus o nifer luosog iawn o gystadleuon yn ystod ei dymor, o dan arweiniad llwyddianus Mr Owen Owens, ond nid o'r un ng y teimlid gymaint o ddyddordeb ag awydd buddugolin.eth a'r rhai diweddai. UymeroGd y frwydr gyntai le yn Eisteddfod Llangefni ddydd Llun y Nadolig, yn y prydnawn, o dan feirniadaeth Mr Wilfrid Jones, R.A. M., rliwng Corau Pendref, Bangor, a'r Llan yma, a nhrofodd y cyntaf yn fuddugol. Mewn cysylltiad a'r gystaclleuaeth hon, gallwn oddef i golli y frwydr. Oherwydd gor-hyder y cor, reu effeithiau naturiol cynhyrfiad-au brwydrol, collwyd mewn tonyddiaeth am ychydig fesurau, a thrwy hyny, wrth gwrs, collwyrd y fuddugoliaeth. Yn nghyfarfod vr hwyr, cafwyd eystadleuaeth gan yr un corau ar "Seren Unig" (Isalaw), ac aeth v wobr hon i Fangor, ond mewn perthynas a'r frwydr yma, cynghorem bawb i farnu drosto'i hun. Wedi cyrhaedd y Llan, nos Lun. disgwyliai pawb weled aeloda.u y cor yn galon-isel a phrudd-glwyfus, ond eiomwyd hwy. Nid dyna'r ffordd i ddisgwyl dewrion o'r frwydr. Dangosent i bawb fod af- lwyddiant y Llan wedi poethi ou rwaed a chodi ysbrydiaeth buddugoliaeth ddyfnach ynddynt, a thrwy hyny penderfynent bresenoli eu hunain yn Mangor y dydd Mawrth dilynol Dydd Mawrth ddaetb, ac yn Mangor y canfyddwyd y eor-pawb &'u calonan yn gyfan-gwbl vn y canu. Cymerodd y gystadleuaeth fawr le ar "Worthy is the Lamb" (Handel) rhwng Corau Pendref a Penuel, Bangor, a LIanerelym&dd. Wedi i Gor y Llan ganu dyma daranau o "encores" nes "synu, pensyfrdanu dyii." Daeth Mr W. T. Samuel i draddodi ei feirniadaeth, ac wedi manylu ychydig ar y ddau gor cyntaf, aeth at y trydydd, a dywedodd am gyd- doddiad y lleisiau, cyvvirdeb a aefydlogrwydd y donyddiaeth, grymusder ac ysbrydiaeth y soprano, alto, tenor, a'r bass, yn enwedigol felly y soprano a'r bass. Dvma v tro cyntaf iddo ef ei ohJywed yn Gvmraeg, a," sicr" ganddo fod cynaniad (pronuncia- tion) y geiriau ealedion CVmrcig yn ddiguro bron. Yr oedd cf, heb y rhithyn Ueiaf o amheuaeth, yn rhoddi y wobr, sef 7p 7s a batliodyn aur i'r ar- wcinydd, i'r cor diweddaf, ac yna ail encoriwyd nes brim byddarn pawb. Daeth v cor gartref i'r Llan. 118'1' oedd tyrfa fawr o ddisgwyliedigion yn yr orsaf. Aethpwyd dros y diu*nau ar yr heol, ac aeth pawb yn liapus i'w gwahanol orpnwyTsfanau. Gresyn o both na roddai ieuenctyd y Llan gymaint o sylw i gerdidoriaeth ag a roddant i ganiadaeth, oherwydd cred pawb fod yma. ddefnyddiau Hleisiol ardderchog, a dengys beirniadaeth.au cerddorion galluog diweddar hyny hefyd. Fe wyr pawb fod ysbryd y gan, er yn annesboniadwy, yn un o brif nodweddion teulu'r Llan. Pa faint mwy, pe y gwelid ein hieuenctyd oil a'u liymgais at ddatblygu eu talentau cerddorol? iMyfyrier cerddoriaeth, yn vyddorol ac ymarfercl, ac vna gallwn edrych TO mlaen at yr adeg pryd y byd do canu corawl y Llan yn barod i roddi ei brescnoldeb mewn cystadleuon ar lwyfanau Eistedafodau Cenedlaethol.—R. J. Bwrdd y Gwarcheidwaid.—Cynhaliwyd cyfarfod misol y Bwrdd hwn ddydd Mercher, dan lywydd- iaeth Mr A. McKiilop. Y.H. Yr oedd hefya yn bresenol :-Mri C. F. Priestley, Y.H., Thomas Pri- ehard, Llwydiarth Esgob; O. Williams, Ty'ny- buarth; Edmund Roberts, Owen Griffith, R. L. Ed- wards, Lewis Thomas, Thomas Jones, W. Hughes Jones. J. Lewis Jones, D. J. Jones, John Elias, H. 0. Jones, William Owen, Robert Jones, H. T. Owen, Thomas Wilbams, a Edward Williams (co-opta- tive Guardians), a Thomas Hughes (clerc). Dar- Thomas Wilbams, a Edward, Williams (co-opta- tive Guardians), a Thomas Hughes (clerc). Dar- llenwyd llythyr oddiwrth y Parch 0. LI. Williams, rheithor Llanrhyddladj yn dweyd ei fod wedi synu [' yn fawr wrth weled llythyr yn y "North Wales Chronicle. yn mha un v dywedid "na tlvdwyd 'fees' unrhyw a,deg gan Nilarcheidwaid, yr undeb ¡ hwn am wasanaeth clerigwyr a chlochyddion yn nghynebryngau tlodion a gedwid gan y plwyf; yr hyn oedd jrn hollol anwireddus, canys or fiwyddyn 1852 i 1857 yr arferiad bob amser ydoedd talu i'r clerigwyr a wasanaetlvai a'r clochydd. Pa bryd vr ataliwyd yr arferiad hwnw nis gallai ddweyd, gan ei fod ef (yr ysgrifenydd) wedi gadael ilon yn 1857, ac ni ddychwelodd hyd ychydig flynyddau yn ol. a synid ef i ganfod fod y Gwarcheidwaid yn gwrthod talu. Sylwodd y Cadeirydd fod Mr Williams yn hollol anghywir, gan na thalodd y Bwrdd erioed. -Dywedodd y Clerc hefyd nad oeddynt wedi talu unrhyw "fees" yn ei amser ef. Penderfynwyd fod i'r clerc anfon am fanylion oddiwrth Mr WilUams. —Ysgrifenodd Mr John Asht.on, clerc Undeb Run- corn, yn anfon y penderfyniad canlynol a basiwyd gan vr undeb hwnw :■—"Fod cais yn cael ei wneud i Fwrdd Llywodraeth Leol, yn ngwyneb y-r anhaws- der cynyddol gaffai Byrddau Gwarcheidiioli i gael nyrses cyfaddas i ysbvttai eu tlottai, i'r Bwrdd yn Llundain ystyriorl y priodoldeb o gychwjm sefydliad- au i'r pwrpas neillduol o hytforddi nyrses i'r cyfryw ysbyttai, ac fod copi o'r penderfyniad hwn yn cael ei anfon i bob Bwrdd Gwarcheidwaid yn Lloogr a Chymru, gyda gofyn am eu cefnogaeth." Ax- gynyg- iad Mr Thomas Prichard, yn cael ei eilio gan Mr Owen Griffith, penderfynwyd cefnogi yr u"hod, Darllenwyd llythyr oddiwrth Fwrdd Llywodtaeth Leol vn cadamhau y cytundebau am iiiebfrev-hl-i: vmaeth y Gwarcheidwaid gan Dr. Thomas Jones. am ddosbarth Amlwch. Parthed cytundeb cyffelyb I am ddosbarth Llanfechell, pwyntiodd y Bwrdd Llundeinig nad oedd eithr un orsa.f yn y dosbarth hwnw, ac y dylid, felly, leihau y tab—Derbyniwyd llythyr arall oddiwrth Fwrdd Llywodraeth Leol yn oadarnhau cynygiad y Gwarcheidwaid i gyfranu 5p am y fiwyddyn sy'n rhedeg tuagat granfa Cym- deitlias Addysg Gartref y Deillion, Bangor.—Ys- grifenodd Dirprwywyr y Gorphwylliaid yn dweyd fod swyddog iechydol dosbarth AmJwch yn ei ddychwelebau chwarterol o orphwylliaid ar y piwyf yn adrodd, parthed Isaac Jones, fod ei "gyflwr a'i amgylch oedd yn ffiaidd." Dywedodd un o r Gwar- cheidwaid fod yr hen wr hwn yn byw mewn cwt adfeiliedig yn agos i Ddulas, ac ni fyddai iddo byth ymadael o'r Ue yn fyw. Dywedodd y Clerc yr ystyrid yr hen wr vn orphwyU en blvnvddau. Gorchymynwyd i Mr Williams, yr arolygydd, i vm- weled a'r TIe a gwneud adroddiad. Ysgrifenodd Bwrdd Llywodraeth Leol yn mhellach yn dweyd eu bod yn awyddus i gael dychweleb parthed y nifer o dystysgrifau o wrthwynebiadau cydwybodol a dder- byniwyd dan Ddeddf Buchfrechiad. Dywedodd y Clerc na wyddai ef am unrhyw wrthwynebwyr cyd- wybodol. Yr oedd wedi derbvn bwndel 5 lyfrau r-t wasanaeth y swyddogion meddygol, pa, rei os y'i defnyddid a olygai wasanaeth clerc i bob swyddog. Yr oedd Dr. Evans wedi buchfrechu 64, Dr. Wil- liams 67, a Dr. Jones (Amlwch) 119.—Derbyniwyd llythyr o Undeb Burslem vn ffafrio buchfrechiad gorfodol. Cynygiodd y Cadeirydd eu bod yn mab- wysiadu y cynllun. Mr Priestley, wrth eilio, a sylwodd yr ymddangosai iddo ef fod rhai pobl wedi colli eu penau yn nglyn a'r cwestiwn hwn. Cariwyd y cynygiad. Daeth Dr. Evans, Llanerchymedd, a Dr. Williams, Llangefni, i'r cyfarfod. a dywedodd y a weddaf yr ystyriai y dylai v tal isaf am achosion o dan dair miUdir fod yn 5s vr un. Dywedai Dr. Evans nad allai beidio meddwl nad oedd y Ddeddf newydd eithr yn wrtliun. Bvddai gwaith enfawr o dan y Ddeddf newydd, ond nid oedd y tal yn rryf- atebol. Dywedodd y Clerc fod y Gwarcheidwaid yn y Valley y diwrnod bbvenorol wedi penderfynu fel y canlyn:—Am bob acho.i dan dair milldir 5i yr un, dros dair a than cluve' milldir 6s. a 7s am bob achos dros ddieng milldir. Dywedodd Th-. Evaus nad oodd y swyddogion meddygol wedi dyfod i un- rhyw ben derfyniad yn eu plith eu hunain, ond yr oedd gwrthwynebiad i'r "mileage." DyweOodd Dr. Williams hefyd! fod y swm gyniygid yn awr yn anni- gcnol. Yn Undeb Bangor a Beaumaris rhoddid "fee" o 7s am bob achos. Pwynt pellaf Undeb Ban- gor ydoedd Pentraeth, pellder o bum' milldir. Yr oeddynt hwynt yn cael eu talu yn Uai na swyddog- ion meddygol Undeb Bangor a Bea.umaris. Byddai i'r gwaith o dan y Ddeddf newydd gynyddu wyth neu ddengwaith. Byddai yn well codi y "fee" isaf i 7s heb gynwys y "mileage." Dywedodd Mr Priest- ley fod Pwyllgor CylUdol Undeb Bangor a Beaumaris vn meddwl y byddai yn "check" hawddach. Yi oedd yn rliai(I i lan o'r meddygon fyned ddeg acun-ar- deg o filldiroedd. Aroldadleu pellach penderfynwyd ar y "fees" fel y canlyn s am achosion o da-r* dair milldir, 6s am achosion rhwng tair a chwe' mill- dir, o 7s am achosion dros chwe' niilldir.k(ITodd- odd y Meistr (Mr M. Thomas) fod y boneddigesau a'r boneddigion canlynol wedi rhoddi anrhegion. i ddeil- iaid y tlotty yn nglyn a'r Nadolig Dr. Evans, Mri Roberts (Gwredog) a T. Hughes (clerc), arian; Mrs Williams (Preswvlfa), bara brith a myglys; Miss Jones (Rheitliordy), India rock a melusion;, Miss Prytherch (Llythyrdy), aurafalau a. melusion; Miss Jones (fferyllydd), te, myglys, a melusion; Miss Thomas (Manceinion). melusion ac aurafalau Miss Griffiths (School House), melusion; Mrs Grif- fiths (Ty'nyffynon), melusion; Mrs Pritchard (Caer- gybi), toys, cnau, hancetsi poced, a melusion; Mrs Roberts (Market-square), hancetsi pooed Mrs Pritchard (Brynhyfryd), melusion; Mrs Parry Jones (Cae Mawr), aurafalau a chyfiath; M- Parry (Brvngoleu), bocs o ginger beer ac aurafalbu Mr Parry (fferyllydd), myglys; Mr Hughes (Bryn Cu- I helyn), aurafalau a chyflath Mr Roberts (Victoria House) aurafalau a melusion Mr Williams (Tan- yrhaU), aurafalau: Mr Williams (Railway Shop), torth frith. Nifer y deiliaid am yr wythnos yn diweddu Rhagfvr 26ain. 47, o'u oydmaru a. 40 yr j wythnos gyfatebol yni 1897; crwydriaid, dau. Ar gynygiad y Cadeirydd. yn cael ei eilio gan Mr Ro- bert Jones, pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwoh calonog i roddwyr anrhegion T Nadolig.—Dywedodd y Clerc fod y swm o 273p yn ddyl'edus i'r undeb oddi- wrth y trysorydd y diwrnod hwnw. Yr oedd am- ryw blwyfydd heb dalu y rhan gyntaf o'r "calls, ac yr oedd 1019p yn ddylodus ar yr 2il o Ionawr Pen- derfynwyd rhoddi saith niwrnod o rybudd i daiu yr ol-ddyledion, neu fe gymerid cyfraith yn eu herbyn.

» uLANFACHRAETH.

LLANFAIR P. G.

LLANFAIRYN GHORNW Y.

LLANFECHELL !

--------LLANGEFNI.1

LLANWENLLWYFO.

PEN CARNISIOG.

PENSARN, BERW.

PORTHAETHWY.

PORTH AMLWCH.

----------_-SOAR (Aberffraw).

STAFFORD.