Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

.CYFUNDEB GOGLEDD MORGANNWG.…

News
Cite
Share

CYFUNDEB GOGLEDD MORGANNWG. I Cynhaliwyd Cyfarfod Chwarterol y Cyfundeb uchod yn Salem, Heolgerryg, Merthyr, dydd Mawrth, Hydref 12fed. Llywyddwyd gan y Cadeirydd, Mr. Thomas Thomas, Brynheulog, Penywern. Wedi i Mr. David Griffith, Dowlais, ddarllen adran bwrpasol o Air Duw, a'n har- wain mewn gweddi ato Ef am gymorth gyf- amserol i drefnu ynglyn a materion Ei Deyrnas fawr, cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod blaen- orol, a phasiwyd yn ddibetrus awgrymiadau y Pwyllgor Gweithiol. Pod cyfarfod Ionawr, 1917, i'w gynnal ym Methel, Miskin, Mountain Ash. Y Parch. George Evans, B.A., Heolgerryg, i bregethu yno ar Dangnefedd Iesu Grist,' a'r Parch. R. H. Davies, B.A., Cwmbach, i ddarllen papur ar Ymneilltuaeth a'r Cyfnod Newydd.' Fod y Parchn. T. Eli Evans, Aberdar, a D. R. Williams, Penywern, i ymweled a'r eglwysi ar ran y Genhadaeth Dramor, yn cael eu cy- northwyno gan nifer o weinidogion eraill a lleygwyr fel y flwyddyn ddiweddaf. Gohiriwyd hyd y cyfarfod nesaf yr un mater ag a ohiriwyd y tro diweddaf. Derbyniwyn y Parch. E. J. Rosser Evans, Bethania, Dowlais, trwy lythyr o Gyfundeb Dwyrain Caerfyrddin yn galonnog iawn. Llan- enydd mawr i'r Cyfundeb hwn yw cael Mr. Evans yn ol i'n plith. Dymunwn iddo lwydd- iant mawr i gasglu perlau i goron Iesu yn Nowlais megis y gwnaeth yno o'r blaen. Y Parch. T. Thomas, Noddfa, Godreaman.- Blin gennym golli o'r Cyfundeb frawd mor was- anaethgar ac mor annwyl; ond gan ei fod wedi ymadael, pasiwyd i'r Ysgrifennydd roddi llythyr i'w gyflwyno yn ol, gyda phob dymuniad da, i'w hen Gyfundeb yn Nwyrain Caerfyrddin. Ni a wyddom y bydd. yn gaffaeliad i unrhyw gylch ac yn ychwanegiad at nerth ysbrydol y maes yr arweinia Duw ef iddo. Diolch am ei gwmni yng Ngogledd Morgannwg am dros 12 mlynedd, ac am ei ymroddiad tra yma i'r achos goreu. Y Gronfa.—Darllenwyd. gohebiaeth oddiwrth y Parch. W. Ross Hughes ynglyn a hon, a siaradwyd ar y mater gan Mr. Mathew Owen. Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Clmru.-Der- byniwyd gohebiaeth ar y mater iichod oddi- wrth y Parch. D. A. Griffith. Pasiwyd ein bod yn gofyn i'r Parch. Gwilym Rees, B.A., i agor ymddiddan ar y pwnc yn ein cyfarfyddiad nesaf, ond fod y Parch. H. A. Davies a'r Ysgrifennydd i ohebu ynglyn a'r pwnc yn y cyfamser. Ein Milwyr.—A ganlyn ydyw cyfrif y nifer o'r eglwysi a'r cynulleidfaoedd sydd wedi ymuno a'r Fvddin a'r Llynges o'r Cyfundeb hwn o ddechreu Awst, 1914, hyd ddiwedd Medi, 1916, yn ol y Parch. T. B. Mathews, yr ystadegydd Y Fyddin, 1,173 y Llynges, 32. Cyfanswm, 1,205. Y Genhadaeth.—Casglwyd yn y Cyfundeb y flwyddyn ddiweddaf £ 956/6/9, neu yn 01 1/5 yr aelod. Nifer yr eglwysi sydd heb gyfrannu, 6. Pasiwyd i awdurdodi'r Ysgrifennydd i drefnu a'r Parch. Robert Griffith i ymweled a'r Cyfundeb pan yn gyfleus iddo. Cydym dei ml a d.—Pasiwyd pleidlais o gydym- deiinlad pur a dau o'r brodyr sydd wedi bod mewn dyfroedd dyfnion yn ddiweddar, sef y Parch. J. Morgan Jones, Fochriw, a'r Parch. J. Seymour Rees, Cefn. Mynegwyd teimlad y Gynhadledd yn effeithiol gan y Parch. D. Huws Jones a Mr. Mathew Owen. Cadeirydd.—Etholwyd gydag unfrydedd a brwdfrynedd ,y Parch. D. Leyshon Evans, Bar- goed, i fod yn Gadeirydd am y flwyddyn ddyf7 odol. Gwr da a gair da iddo yw efe. Y Pwyllgor a-u.—Ein bod yn awdurdodi'r gwa- hanol bwyllgorau i fod mewn grym hyd Ionawr, 1917, ond eu bod erbyn hynny i fod yn barod i nodi'r personau sydd i fyned allan fel y gallo'r Gynhadledd ethol rhai yn eu lie. Y Genhadlaeth Genedlaethol. Cynygiodd y Parch. D. Huws Jones, ac eiliodd y Parch. D. Adams, B.A., B.D. Fod y Gynhadledd hon o Annibynwyr Cymreig Cyfundeb Gogledd Morgannwg yn dymuno datgan ei llawenydd yng 11 ghychwyniad y Genhadaeth Genedlaethol, ac hefyd ddatgan ei gwerthfawrogiad calonnog a diffuant o anercliiadati eglur a diamwys Dr. Ingram, Esgob Llundain, ac yn taer weddio am i'w hegnion fod yn llwyddiant digymysg. Ar- hosed bendith yr Hollalluog Dduw ar y mudiad.' Y penderfyniad i'w anfon i Dr. Davidson (Arch- esgob Caergaint) a Dr. Ingram (Esgob Llundain). Cenedlaetholi'r Fasnach Feddwol.—Cynygiwyd y penderfyniad canlynol gan y Parch. D. Ley- shon Evans, ac eiliwyd gan y Parch. W. S. Davies Ein bod fel Cynhadledd yn gwrth- wynebu'r syniad o genedlaetholi'r fasnach fedd- wol, gan y credwn nad doeth na diogel i unrhyw wladwriaeth roi ei hamddiffyniad a'i chefnog- aeth gyfreithiol i fasnach a chyfundrefn ag sydd yn euog o amlhau troseddau, afradloni adnoddau y genedl, lfygru arferion cymdeithas, dinistrio iechyd a bywyd y bobl, ac ein bod o'r farn mai yr unig feddyginiaeth i lwyddiant y deyrnas, moesau a chrefydd y wlad fyddai cael deddf- wriaeth yn gwahardd y fasnach feddwol yn y tir.' Fod copi o'r uchod i'w anfon i Mri. Clem Edwards, A.S., D. Lloyd Geogre, A.S., Edgar Jones, A.S., C. B. Stanton, A.S., Herbert Samuel, A.S., a'r Prifweinidog. Yn nesaf etholwyd y Parch. W. S. Davies i'r gadair tra y traddodi'r Cadeirydd ei anerchiad wrth ymddeol. Cymerodd yn destyn, Yr Eglwys Heddyw.' Ainhosibl cael un mwy up- to-date, na dim yn fwy amserol na'r hyn a draethwyd arno gan Mr. Thomas. Yr oedd disgwyliad mawr am yr anerchiad hwn, a chryn ymdrech wedi ei wneud gan am rai er bod yn bresennol. Diolchwyd iddo ar ran y Gynhadledd am ei wasanaeth gwerthfawr fel Cadeirydd ar hyd y flwyddyn, ac hefyd am ei anerchiad byw, gwresog, gan y Parchn. D. Adams, B.A., B.D., T. Sinclair Davies, D. Leyshon Evans, J. R. Salmon, Mri. Thomas Williams (Dowlais), Rees Daniel Davies (Hirwaun) a'r Ysgrifennydd. Diolch am golofnau cedyrn o fath ein hannwyl frawd o dan achos yr Arglwydd. Boed iddo ddyddiau lawer i wasanaethu'r Arglwydd yn wresog yn yr ysbryd.' Am 2.30, wedi i'r Parch. J. Sulgwyn Davies yn ddefosiynol a thaer arwain mewn gweddi, galwodd y Cadeirydd ar Mr. Rees Daniel Davies, Hirwaun, i ddarllen ei bapur ar John Williams y Cenhadwr,' yr hyn a wnaeth yn ei ffordd naturiol yn dra effeithiol. Yna dilynwyd ef gyda phregeth y pwnc gan y Parch. E. J. Gruffvdd, Aberdar—' Yr Eglwys a'r Cyfnod Newydd.' Cafwyd pregeth gref a nerthol ganddo. Wrth y siarad ddilynodd, amlwg fod y gynulleidfa wedi ei chodi i dir uchel o fwynhad ysbrydol gan y papur a'r bregeth. Cymerwyd rhan yn y diolchiadau, oeddynt oil a thine gwresog ynddynt, gan y Parchn. D. Leyshon Evans, D. R. Williams, J. R. Salmon, Mr. Mathew Owen a'r Cynghorwr T. Lewis, Trecynon, Aberdar. Dywedodd Mr. Lewis ei fod yn cofio anthem goffadwriaethol am y cenhadwr, John Williams, Erromanga, ac addawodd (lalu am nifer o gopiau ohoni i holl eglwysi'r Cyfundeb, os gellid cael o hyd iddynt. Bydcl yr Ysgrifennydd yn ddiolch- gar iawn am unrhyw wybodaeth ynghvlch yr anthem honno. Gollyngwyd ni trwy weddi ddwys a gafaelgar o'r cyfarfod hwn gan y Parch. Arthur Jones, B.A., Ynysybwl. Am 6.30 pregethwyd gan y Parch. J. R. Salmon ar Y Genhadaeth ar gais y Gynhadl- edd, a chafwyd ganddo bregeth yn llawn o ysbryd Cenhadol. Diolchwyd iddo gan y rhai oedd yn bresennol. Pregethwyd hefyd yn yr oedfa hon gan y Parch. D. R. Williams, Pen- ywern, a, chlywsom fod y gwlith nefol yn ireiddio yr holl wasanaeth. Darparwyd yn helaeth ac estynnwyd fcroesaw dibrin gan gyfeillion Salem a'u gweinidog, a rhoddwyd mynegiad i deimlad diolchgar yr ymwelwyr iddynt gan y Parchn. J. R. Salmon a D. Leyshon Evans, a chafodd pawb ohonom gyfle i roi ychydig o vent i'n teimlad trwy y ffordd arferol. Nodweddid pob cyfarfod gan ddwyster ac angerddoldeb, gan ddifrifwch a llawenydd, a chan ysbrydolrwydd roddai fri a gogoniant ar y cwbl. Yr unig ffordd i gyfrif am hyn yw am fod Melchisedec hefyd, brenin Salem yno yn dwyn allan fara a gwin i'w ddeiliaid. Arhosed yno eto, a gwnaed ei babell (Salm lxxvi. 2) yn Salem Heolgerryg, a llywodraethed yno yn Frenin Cyfiawnder ac yn Frenin Heddwch hefyd IH ph vii.. Hirwaun. E. WERN WILLIAMS, Ysg. I

CYFUNDEB GORLLEWIN MORGANNWG.

Advertising