Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

+c- *o 0 0 0 C 0 *t<>. t Y…

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

+c- *o 0 0 0 C 0 *t<>- t Y WERS SABOTHOL. t    ? Y WEM RYMGWLADWR!AETHOL f A Gan y Parch. D. OLIVER, D.D., t I Treffynnon. i. i t1 I +- -V TachwEDD igeg.-O Melita i Rufain.—Actau XXVU1. II-24, 30, 31. Y TESTYN EURAIDD. Canys nid oes arnaf gywilydd o Efengyl Crist: oblegid gallu Duw yw hi er iachawdwriaeth i bob un a'r sydd yn credu i'r Iddew yn gyntaf, a hefyd i'r Groegwr.' Rhuf. i. 16. RHAGARWEINIOIy. YiMAE Paul ar gael yr hyn a fawr awyddai, sef pregethu'r Efengyl yii Rhufain. Tebygol ydyw ei fod yn teithio ar hyd y ffordd Appiaidd--y briffordd oedd yn rhedeg rhwng Brundusium a Rhufain. Felly aeth i fewn i'r ddinas trwy borth Copena. Erbyn hyn yr oedd mewn gwth o oedran ac yn wannaidd ei iechyd, ac yn cael ei ddwyn i Rufain fel carcharor. Ymddengys hefyd ei fod yn isel ei ysbryd, ond calonogwyd ef gan ddyfodiad brodyr o Rufain i'w gyfarfod mor bell a Marchnad Appius a'r Tair Tafarn. Pan welodd Paul hwynt, efe a ddiolchodd i Dduw ac a gymerodd gysur. Wedi cyrraedd Rhufain arweiniwyd ef i'r Pretorium, lie y ced- wid gwarchodlu yr Ymerawdwr. Ymddygwyd ato yn dra thirion, ond oedwyd ei brawf am gryn amser. Yr oedd Rhufain yr adeg yma yn nyddiau ei gogoniant. Yr oedd Affrica a'r Hispaen, Macedonia a thir Groeg, yr Aifft a Syria, oil dan ei hawdurdod. Tybir fod ei phob- logaeth ar y pryd dros ddwy filiwn o eneidiau, ac edrychid arni fel prifddinas y byd. Nero ydoedd yr ymerawdwr-un o'r dynion creulonaf a mwyaf diegwyddor fu'n teyrnasu erioed. Yr oedd yn Rhufain eglwys Gristionogol er yn fore,, ond pa bryd a chan bwy y'i sefydlwyd sydd anodd ei benderfynu. Tair blynedd cyn hyn yr oedd Paul wedi ysgrifennu llythyr at yr eglwys hon ac yn awr dygid ef yn garcharor i Rufain am ei fod yn pregethu fod gobaith iachawdwriaeth i bob dyn-Iddew a Chenedl- ddyn. ESBONIADOL. Adnod 11.—'Ac wedi tri mis, yr aethom ymaith mewn llong o Alexandria, yr hon a aeafasai yn yr ynys a'i harwydd hi oedd Castor a Pholux.' Cyf. Diw., 'Arwydd yr hon oedd y Ddau Efaill.' Wedi tri mis. Tri mis o aros yn ynys Melita. Yr oedd yn rhy beryglus i hwylio. Yr aethom ymaith mewn llong 0 Alexandria. Llong yn hwylio o Alexandria i Rufain. Yr oedd wedi trol i'r ynys i aros stormydd y gaeaf fyned drosodd. Ei harwydd. Wrth yr hwn oedd i gael ei hadnabod ydoedd Castor a Pholux, neu'r Ddau Efaill. Gosodid yr arwydd ar y pen blaen i'r llong. Efeilliaid Jupiter oedd Castor a Pholux. Ystyrrid hwy fel duwiau amddiffynnol y morwyr. Adnod 12.—'Ac wedi ein dyfod i Syracusa, ni a drigasom yno dridiau.' I Syracusa. Dinas a phorthladd i'r de-ddwyrain i Sicily, tua phed- war ugain milltir i'r gogledd o Melita. Arosas- ant yma dridiau i ryw ddibenion masnachol, neu ynte i gael gwynt ffafriol. Adnod 13.—'Ac oddiyno, wedi mynedo ddi- amgylch, ni a ddaethom i Rhegium. Ac ar 01 un diwrnod y deheuwynt a chwythodd, ac ni a ddaethom yr ail dydd i Puteoli.' Rhegium. Dinas borthladdol ar benrhyn de-orllewin. Itali. Ac ar ol un diwrnod cyfodydd deheuwynt. Yr oedd hwn yn wynt ffafriol iddynt. A daethom yr ail ddydd i Puteoli. Trefiborthladdol yn y Bay of Naples. Adnod 14.—' Lie y cawsom frodyr, ac y dy- munwyd arnom aros gyda hwynt saith niwrnoa ac felly ni a ddaethom i Rufain.' Lle y cawsom frodyr. Brodyr yn yffydd-Cristionogion. Ac y dymunwyd arnom aros gyda hwynt. Dymun- wyd hyn gan y brodyr, a chaniataodd y can- wriad y cais. Arosasant gyda'r brodyr saith niwrnod. Ac a aethom i Rufain. Ar y tir yr oedd y daith hon. Adnod 15.—'Ac oddiyno, pan glybu y brodyr am danom, hwy a ddaethant i'n cyfarfod ni hyd Appii-fforum, a'r Tair Tafarn: y rhai pan wel- odd Paul, efe a ddiolchodd i Dduw, ac a gymer- odd gysur.' Ac oddiyno. Sef o Rufain. Pan glybu y brodyr am danom. Y brodyr yn Rhufain. Hwy a ddaethant i'n cyfarfod mar bell a March- nad Appius a'r Tair Tafarn. Yr oedd Marchnad Appius tua tair milltir a deugain o Rufain, a'r Tair Tafarn yn bendaiit tua tair ar ddeg ar hugain o filltiroedd o'r ddinas. Pan welodd Paul y brodyr hyn, ymgalonogodd, ac adfyw- iwyd ei ysbryd. Adnod 16.—' liithr pan ddaethom i Rufain, y canwriad a roddes y carcharorion at ben-capten y llu eithr cenhadwyd i Paul aros wrtho ei hun, gyda milwr oedd yn ei gadw ef.' Cyf. Diw.,1 'A phan aethom i Rufain, caniatawyd i Pau drigo wrtho ei hun gyda'r milwr oedd yn ei wylio ef.' Gadewir allan y canwriad a roddes,' &c. Mae'n debygol i Paul gael y ffafr hwn trwy ddylanwad y canwriad. Adnod 17. A digwyddodd, ar ol tridiau,.alw o Paul ynghyd y rhai oedd bennaf o'r Iddewon. Ac wedi iddynt ddyfod ynghyd, efe a ddywed- odd wrthynt, Ha wyr frodyr, er na wneuthum i ddim yn erbyn y bobl, na defodau y tadau, eto mi a roddwyd yn garcharor o Jerusalem i ddwylaw y Rhufeinwyr.' Cyf. Diw., 'A digwydd- odd, ar ol tridiau, efe a alwodd ynghyd y rhai oedd bennaf o'r Iddewon. Ac wedi iddynt ddyfod ynghyd, efe a ddywedodd wrthynt, Er na wneuthum i ddim, frodyr, yn erbyn y bobl, na thraddodiad ein tadau,' &c. Ar ol tridiau, Y rhai a dreuliwyd ganddo, y mae'n debygol, yng nghymdeithas ei frodyr Cristionogol, y rhai oedd wedi bod yn awyddus iawn i'w weled (gwel Rhuf. i. II). Y rhai oedd bennaf o'r Iddewon. Yr Iddewon mwyaf dylanwadol, a llywodraeth- wyr y synagog. Yr oedd am egluro iddynt ei safle fel carcharor, ac amddifiyn ei hun yn wyneb yr achwyniadau a allasent fod wedi eu clywed yn ei erbyn. Gan ei fod yn garcharor, nis gall- asai fyned atynt hwy. Er na wneuthum i ddim yn erbyn y bobl. Nid oedd Paul yn ystyried fod Cristionogaeth yn gwrthwynebu Iddewiaeth, ond mai datblygiad perffaith o Iddewiaeth ydoedd Cristionogaeth ac felly y mae'n honni nad oedd wedi gwneud dim yn erbyn y bobl na thradd- odiadau y tadau. Adnod 18.—' Y rhai, wedi darfod fy holi, a fynasent fy ngollwng ymaith, am nad oedd dim achos angeu ynof.' Y rhai. Ffelix, Ffestus ac Agrippa. Y mae'n amlwg nad ystyrient hwy Paul yn euog o un trosedd yn haeddu angeu ac onibai dylanwad yr Iddewon, gollyngasent ef yn rhydd. Adnod 19.—' Eithr am fod yr Iddewon yn dywedyd yn erbyn hyn, mi a yrrwyd i apelio at Cesar nid fel petai gennyf beth i achwyn ar fy nghenedl.' Cyf. Diw., Ond pan lefarodd yr Iddewon yn erbyn hynny, bu gorfod arnaf apelio at Cesar, nid am fod gennyf ddim i gyhuddo fy nghenedl ohoho.' Eglura Paul yr amgylch- iadau o dan ba rai yr apeliodd at Cesar, ac y mae'n amlwg ei fod am eu cael i deimlo'n gar- edig ato. Er ei fod yn garcharor, honna nad ydoedd yn euog o un trosedd. Yr oedd wedi apelio at Cesar er mwyn aniddiffyn ei hun, gan na fynnai'r Iddewon ei ollwng yn rhydd. Er hyn oil, nid oedd am ddwyn yr un cyhuddiad yn erbyn ei genedl. Adnod 20.— Am yr achos hwn gan hynny y gelwais am danoch chwi, i'ch gweled, ac i ymddiddan a chwi: canys o achos gobaith Israel y'm rhwymwyd i a'r gadwyn hon.' Cyf. Diw., 'Am yr achos hwn, gan hynny, yr erfyn- iais arnoch fy ngweled ac ymddiddan a mi: canys oherwydd gobaith Israel yr wyf wedi fy rhwymo a'r gadwyn hon.' Am yr achos hwn. Set nad oedd ganddo ddim i gyhuddo ei genedl. 0 achos gobaith Israel. Gobaith Israel ydoedd dyfodiad y Messiah. Pel pob Iddew, yr oedd yntau yn meddu'r gobaith hwn ond yr oedd efe yn meddu ar ragor credai fod gobaith Israel wedi ei gyflawni yn nyfodiad Iesu o Nazareth, ac am ei fod yn pregethu hyn yr oedd mewn cadwyn, sef y gadwyn oedd yn ei gysylltu ef a'r milwr oedd yn ei wylio. Adnod 2I.A hwythau a ddywedasant wrtho, Ni dderbyniasom ni 1ythyrau o Judea yn dy gylch di, ac ni fynegodd ac ni lefarodd neb o'r brodyr a ddaeth oddiyno ddim drwg am danat ti.' Ni dderbyniasom ni lythyrau 0 Judea, &>c. Tybia rhai nad oeddynt yn dywedyd yr hyn oedd yn hollol gywir. Efallai nad oeddynt wedi cael gwybodaeth swyddogol, ond y mae'n rhyf- edd os nad oeddynt wedi clywed rhywbeth am berson mor hynod a Phaul. Sylwa Meyer nad oedd gan yr Iddewon yn J udea un achos i anfon hysbysrwydd yn ei gylch at yr Iddewon yn Rhufain. Cyn i Paul apelio at Cesar, ac wedi iddo apelio, prin y gallasent anfon hysbysrwydd cyn iddo ef gyrraedd yno ei hunan.' Dealler nad ydyw'r Iddewon yma yn dywedyd na chlyw- sant ddim erioed am dano. Adnod 22.—' Ond yr ydym ni yn deisyf cael clywed gennyt ti beth yr ydwyt yn ei synied oblegid am y sect hon, y mae yn hysbys i ni fod ymhob man yn dywedyd yn ei herbyn.' Yr ydym ni yn deisyf cael clywed. Pa fodd nad oeddynt yn gwybod am fodolaeth yr eglwys Gristionogol yn Rhufain ? Nid ydyw'n canlyn nad oeddynt yn gwybod, ond amlwg yw nad oedd ganddynt fawr o gydymdeimlad a Christ- ionogaeth, a bod graddau o ragfarn yn eu medd- yliau yn eu cadw rhag gwneud ymchwiliad. Ond cawsant gyfleustra yn awr i gael gwybod- aeth, a daliasant ar y cyfleustra. Yr oedd yr Iddewon o Jerusalem wedi gwneud popeth yn eu gallu i ddrwg-liwio Cristionogaeth fel cyfun- drefn yn erbyn Moses a'r gyfraith a'r deml. Y sect hon. Sect y Nazareniaid. Gwyddant fod yr Iddewon ymhob man yn wrthwynebol iddi, ond proffesent hwy fod eu meddyliau yn rhydd oddi- wrth ragfarn, a'u bod yn barod i dclerbyn goleuni a gwybodaeth. Adnod 23.Ac -,vedi iddynt nodi diwrnod iddo, llawer a ddaeth ato ef i'w lety i'r rhai y tystiolaethodd ac yr eglurodd efe Deyrnas Dduw, gan gynghori iddynt y pethau am Iesu, allan o gyfraith Moses, a'r proffwydi o'r bore hyd yr hwyr.' Cyf. Diw., I'r rhai yr eglurodd efe y mater, gan dystiolaethu Teyrnas Dduw, a'u perswadio ynghylch Iesu.' Ac wedi iddynt nodi diwrnod- Nid oedd eto wedi myned i'w dy ardrethol, ond yn aros meNAii llety. Tybia rhai mai yn nhy Acwila a Priscilla, y rhai oedd ar y pryd yn byw yn Rhufain. Nid yn unig daeth y rhai pennaf o'r Iddewon, ond llawer o bob dosbartli. 1'r rhai yr eglurodd efe y mater. Egluro'r Ysgrythyrau, a dangos fel yr oeddynt wedi eu cyflawni yn Iesu o Nazareth. Cyii- hwysai'r mater ddau bwnc neilltuol, sef Teyrnas Dduw a phrofi mae'r Iesu oedd y Messiah. Danghosodd fod Teyrnas y Messiah i fod yn Devruas ysbrydol, ac mai'r Iesu oedd y gwir Fessiah, yr Hwn a lywodraetha yn y Deyrnas ysbrydol hon. Profai ei osodiadau o'r 'Ysgryth- yrau. Yna anogodd hwy i roddi derbyniad i'r Iesu fel y Messiah, fel y gallent fwynhau ben- dithion y Deyrnas yr oedd wedi ei sefydlu yn y byd. Adnod 24. A rhai a gredasant i'r pethau a ddywedasid, a rhai ni chredasant.' A rhai a gredasant. Ceir darluniad yma o effaith ei wein- idogaeth. Fel hyn y mae dynion yn ymddwyn at y gwirionedd ymhob oes. Cododd dadi rhwng yr Iddewon oedd yn credu a'r rhai oedd yn anghredu, a chymhwysodd Paul broffwydoliaeth Esaiah at y rhai oedd yn anghredu. Gan fod yr Iddewon yn gwrthod gwrando, yr oedd Paul yn benderfynol o bregethu i'r rhai oedd yn fodlawn gwrando. Adnod 30.—' A Phaul a arhoes ddwy flynedd gyfan yn ei dy ardrethol ei hun, ac a dderbyn- iodd bawb a'r oedd yn dyfod i mewn ato.' Cyf. Diw., 'Ac efe a breswyliodd ddwy flynedd gyfain yn ei dy ardrethol ei hun, ac a dderbyniodd bawb a aent i mewn ato.' Er ei fod yn cael byw yn ei clSr ardrethol ei hun, eto yr oedd yn garch- aror dan ofal milwr. Caniateid iddo ryddid i dderbyn pawb, ac i ymddiddan a hwy. Daeth llawer o'i gyfeillion i ymweled ag ef. Adnod 31.-2 Gan bregethu Teyrnas Dduw, ac athrawiaethu y pethau am yr Arglwydd Iesu Grist, gyda phob hyfder, yn ddiwahardd.' Gan bregethu Teyrnas Dduw, ac athrawiaethu y pethau. Dyma derfyn prydferth i Lyfr yr Actau yr Efengyl wedi cyrraedd o Jerusalem, prifddinas Iddewiaeth, i Rufain, prifddinas gallu a gwar- eiddiad y byd. Caniatawyd i'r Apostol ryddid ymadrodd, a gwnaeth yntau y defnydd goreu ohono. Yr adeg yma yr ysgrifennodd sei lyth- yrau at y Philippiaid, y Colossiaid, yr Ephes- iaid a Philemon. GOFYNIADAU AR Y WERS. 1. Wedi i Paul gyrraedd Rhufain, o dan awdurdod pwy y rhoddwyd ef ? 2. Pa fodd yr ydych yn eyfrif am y ffaith iddo gael aros wrtho ei hun ? 3. Paham y galwodd Paul ato y rhai oedd bennaf o'r Iddewon ? 4. Pa fodd y mae'n egluro'r ffaith ei fod yn garcharor yn Rhufain ? Pa ystyr neilltuol sydd i'r ymadrodd, Gobaith Israel' ? 5. Yn yr atebiad a rydd yr Iddewon i Paul, affoeddynt yn celu'f gwirionedd ? Pa fodd yr esboniwch adnod zi ? •!