Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Diaconiaid Siloh, Glandwr,…

News
Cite
Share

Diaconiaid Siloh, Glandwr, Abertawe. (Parhad o'r Rhifyn diweddaf). Robert Mo;igey.C),faill calon i Mr. Mayberry, a bonheddwr yngwir ystyr y gair. Yr oedd ef a'i briod ymhlith yr aelodaxi cyntaf a dder- byniwyd i'r eglwys wedi ei ffurfiad yn 1828. Yr oeddynt mewn aingylchiadau gwell na'r cyff- redin, er nad mewn un modd yn rhai ellid ystyried yn ariannog. Bu Mr. Monger ar hyd ei oes yn arolygu inelin gopr yr Hafod o dan y Vivians. Perchid ef yn fawr ganddynt, a meddai lawer o ddylanwad ar y teulu, a bu'n gyfrwng i sicrhau llawer rhodd dywysogaidd ganddynt i symud dyledion y capel ac i adeiladu ysgoldai. Bu'n garedig iawn i lawer o deuluoedd. yr eglwys drwy sicrhau gwaith i'w plant, a chafodd yntau a'i feistri ad-daliad llawn drwy fod yr eglwys yn magu cymeriadau da i fod yn weithwyr gonest a sefydlog. Nid oedd yn siaradwr cy- hoedd-Lis--un o'r swyddogion distaw oedd. Cy- merai ran flaenllaw yn amgylchiadau'r eglwys, a bu ef a'i deulu o gymorth mawr iddi mewn llawer modd. Yr oedd yn gyfaill a chefnogydd ffyddlon i'r gweinidog ymhob symudiad. Bu farw lonawr iaf, 1868, yn 75 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn Llansamlet. Testyn ei bregetli angladdol oedd Dat. iii. 12, yr hon a draddocl- wyd gan y Parch. T. Thomas. William Hughes.—Gwr dieithr oedd efe. Er holi llawer o flynyddoedd yn ol, methais gael dim o'i hanes. William Williams (William. Alec), Byng-st. Gweithiwr o gylch y gweithfeydd glo oedd efe. Dyn bychan o gorffolaeth, llais gwanaidd, a'i ddoniau fel y diliau mel. Bu'n ffyddlon i holl foddion yr eglwys—y gyfeillach, y cwrdd gweddi, a'r Ysgol Sul. Dywedir iddo ddysgu to ar ol to o blant yn y wyddor a'r a b—ab, &c., heb allu i'w cymryd nemor pellach. Parhaodd i ddilyn yr Ysgol Sul hyd ddiwedd ei oes, a chofiaf ef yn dda yn cerdded o ddosbarth i ddosbarth a'i bwys ar ei ffon, gan ddiferu gair cefnogol i athraw a dosbarth. Cof gennyf am dano, ar fore gwaith yng ngwres haf a Diwyg- iad grymus 1859, pan gynhaliai gwvr y nos gwrdd gweddi am 8.30 y bore yn y Coleg bach, ac y rhedai bechgyn y gwaith alcam gerllaw i mewn yn eu crysau bach ac yn chwys i gyd. Y bore hwn yr oedd Newythr William, a'i lestr yn llawn ac yn llifo drosodd, yn taro i ganu mewn llesinair nefol a boddhaus, tra phawb arall yn gwrando- Mae fy nghalon yn 'sgrifennu, Ac yn adrodd wrthi ei hun, Enw hyfryd a rhinweddol Duw yn gwisgo natur dyn Yn y dyddiau gynt, yn absenoldeb gweinidog, efe fyddai'n arwain cyfeillach nos Sul, a braidd yn ddieithriad ei araith agoriadol fyddai'r hen bennill- Dyma Saboth wedi'i dreulio, Dyma'i waith e' wedi'i wneud Pwy a ddygwyd at yr Iesu Wedi'r cwbwl ga'dd ei ddweyd ? Mae diwrnod gwaith yn nesu, A'i ofidiau gydag e' o J na chawn ni weled Saboth Heb' un drannoeth yn ei le.' (I'w barhau.)

-.-Caerffili.I

Advertising

I AR FUDD SYDNEY WILLIAMS.

I DEIGRYN HIRAETH

[No title]

I Y Drysorfa Gynorthwyol.