Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

ADOLYGIAD Y WASG.

News
Cite
Share

ADOLYGIAD Y WASG. AM MEHEFIN. Yn "Nhrysorfa y Plant" y cawn ddarlun o Syr Victor Horsley, meddyg a fu farw yn Mesopotamia yn gweini ar y milwyr clwyfedig yno, a gellir ei gyfrif fel un o ferthyron y rhyfel echrydus hwn. Y mae yn y rhifyn hwn ddyddordeb i Americaniaid, oble- gyd gwelwn ynddo ddarlun o ddos- barth merched yn Lake Crystal,Minn., ac o Elizabeth Agnes, merch fach Mr. a Mrs. William O. Jones, Yorkville, N. Y., "yr hon sydd yn y nefoedd cyn gwybod am ystormydd y byd." Hefyd "Dysgedydd y Plant" gydag amryw fyrion ysgrifau dyddorol: Dir- west Rwsia, Dynion y dylai y plant wybod am danynt-Williams Panty- celyn yn y rhifyn hwn. Byddai cyf- res o'r fath yn ddysgeidiaeth i blant. Synwyd ni gan ymweliad y "Gor- lan," wedi bod yn hir yn aros yn rhywle. Ynddi cawn "Y Ddafad Goll- edig" gan y Parch. M. P. Morgan, Blaenanerch, Ysgol Sul Camden Town, Cenadaeth Poplar, &e. Y mae cynwysiad y "Cyfaill" fel y canlyn: Sacrament y Tymorau; Hau a Medi Cyfiawnder; Sylwadau ar Ddy- gwyddiadau y Mis; Yr achos Cymreig yn Minneapolis; Rywle yn yr Aifft; Adgofion am Seiad Fawr Lerpwl; Notes on C. E. Topics; Nodiadau Cen- adol; Cyfundebol; y Rhai a hunasant; Nodiadau Cyffredinol. Yn y "Dysgedydd" cawn yr ysgrifau a ganlyn: Yr Ysgol Sabbothol; Na- hum a'r Rhyfel; Cenedlaetholdeb a'r Byd; Adgofion am Hen Bregethwyr; Fy ngweinidogaeth; Congl yr Ysgol Sabbothol; Nodiadau Enwadol; Un- deb Eglwysi Lerpwl a'r Cylch; Hawl ac Ateb; Er cof am dani. Hefyd gyn- yrch yr awen. Yn "Hawl ac Ateb" gwelwn bwnc newydd a dyddorol na thalwyd ac na thelir fawr sylw iddo hyd yma "Paham nad yw Gwaed y Groes yn cadw'r corff fel yr enaid?" Achub enaid fu y cyfan. Y mae yn bryd talu sylw i'r corff. "Yn y "Drysorfa" gwelwn y Parch. T. Gwynedd Roberts, Cae Athro (gyda darlun); Gweddi; Ail ddyfod- iad Crist; Gwasanaethgarwch Eglwys Crist; Sel dy Dy; Mrs. Edwards, Llan- gefni; Yr Efengyl yn ol loan; Nod- iadau y Mis; Manion ac Amrywion. Fel hyn y dywed y Gol. yn Nodiadau y Mis:" "Y mae y dynion sydd yn gyfrifol am wleidyddiaeth ddiweddar Germani, o Bismarck hyd y Kaiser, yn arwyr yn eu golwg, ac y mae dyhead- au y Pan-Germans, fel y gelwir hwynt, yn ddyheadau y mwyafrif o'r genedl. Y mae yr Ellmyn yn barod i ryfela er mwyn mawredd Germani, ac er mwyn llwyddiant masnachol, ond y mae geir- iau fel rhyddid a brawdgarwch, geir- iau sydd fel clychau yn galw cenedl- oedd eraill i'r gad, yn gadael yr Ell- myn yn berffaith oer a didaro. Pwy glywodd am Germani erioed yn codi ei Ilais o blaid y gorthrymedig neu yn gwneyd aberth er mwyn rhyddid a chyfiawnder? A'r hyn nas gwna er mwyn eraill ni fedd y gwroldeb i'w wneuthur er ei mwyn ei hun." Y mae yn "Cymru" gyfres o ysgrif- au amrywiol eu dyddordeb: John Jones yn enili ei V. C.; Ser Alphonse Daudet; y Derwydd; Croes Ifori Gwenllian; Cwmwd Is Gwyrfai; Cronicl y Mis- oedd: Myddfai; Dau Beth Tlws: En- glynion, "Celvn" a "Gwen Mam," gan Cadle, Geiriau llafar Dwyr- ain Maldwyn; At Ohebwyr. etc. Yn "At Ohebwyr" gwelwn sylw am ryw Ddeio Shon Ddafydd ac erthygl ag y mae y Gol. newydd ei derbyn, ac arogl Brycheiniog arni. Wedi y'i gwelwn, gallwn ddweyd mwy am dani a Deio. Dywed y Gol. ei fod yn debyg y gwna y "Drych" sylw ar gwestiynau ar hanes Deio yn yr Amerig. Cawn wel- ed. Dyddorol yw hanes '"John Jones yn enill ei V. C." heb ei gael o law y Brenin George, na chroesi y mor am dano. Y mae yn y "Geninen" (am Ebrill) gyflawnder o ddefnyddiau fel arfer: Isaac Carter; Iaith y Testament New- ydd; Nefoedd Newydd a Daear New- ydd; Beth sydd i mi; Caneuon; Bra- dvchu Ymneillduaeth; Eisteddfod'Gen- edlaethol Aberystwyth; Cwyn Coll am Alonydd; Geiriau Gwerin Sir Fon; Pan oeddwn yn brentis; Hywel Dda; Englynion Esboniadol ar yr Ephes- iaid: Hunangofiant Gwyndud; Thomas Matthews, M. A.; Araeth Pedr Hir; Cwyn Coll am yr Hybarch. Richard Lloyd; Richard Roberts, Melinycoed, Llanrwst: Dafi'r Esger; Daniel Dav- ies, y Ton; Rhamant y Rhondda; Bardd yr Englyn: y Canon R. T. Jones; Portread o'm Plwyf Genedigol; Goheb- iaethau, &c. Y mae y rhifyn drwyddo yn ddyddorol, a charem wneyd sylw helaethach o hono. Dylai plant Mor- ganwg fwynhau hanes plwyf Llan- gvfelach gan M. H. Charles: ac yn siwr dylai y Dicshonddafyddion, bawb o honynt, ddarllen "Araeth Pedr Oddiar y Maen Llog." Y mae y rhifyn yn werth ei fenthyca gan y Cymry na ant i'r draul o garu eu hiaith. "The Welsh Outlook" has the following: Notes of the Month; The Drink Problem; Edward Thomas, who fell in the Battle of Arras, Poet and Soldier; The Central Labor College; Labor Problems; War economy on the Heath; Gambetta and Lloyd George; Edward Richard; The Religion of the Future; Reviews, etc. In "The Relig- ion of the Future," by Professor D. Miall Edwards, we find the following remarks: "And further, war in itself involves an abnormal moral code-unless in- deed it were better to call it frankly a non-moral or immoral code, with (for instance) "Thou shalt kill" super- seding the accepted. "Thou shalt not kill" of normal life. Germany has given currency to the doctrine that "might is right" in all its unvarnished nakedness. Her "scrap of paper" theory of national responsibility con- stitutes a bankruptcy of moral credit. Her policy of "frightfulness" is an open disavowal of international law and a frank reversion to brutality. And all this has a tendency to force the other combatants to revert to similar methods of barbarism, in sheer self-defence. Verily the Ten Commandments and the Sermon on the Mount are in danger of being sub- merged in the sea of carnage. And the interim ethics or anti-ethics of war may, if we are not careful, permanent- ly lower our normal ethical standards, which are assuredly not too high. It will require all the earnestness and loftiness of spirit which religion in- spires to prevent the debased moral currency from becoming current coin, and to insure the reinstatement of the ideals of purity, sobriety, universal brotherhood and goodwill, not as mere external embellishments, but as vital and central principles in our private and public life. Hence the religion of the future must needs be intensely ethical.

INODION 0 NEW CASTLE, PA.

Advertising

Family Notices

Advertising

Family Notices

- MARWOLAETH CYMRAES DDA.…

MONTREAL, CANADA. )

[No title]

Advertising