Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

I NEW YORK A VERMONT.

News
Cite
Share

I NEW YORK A VERMONT. UTICA, N. Y., Gorph. 11, 1917.— Nos Lun nesaf, bydd y Radd Aelodol yn cael ei weithio ar 13 o ymgeiswyr gan Gyfrinfa Iforaidd "Goronwy." Gwahoddiad cynes i bob Ifor.—T. L. H. —'Bydd Ymdrechwyr Ieuainc Mor- iah yn cynal picnic yn Summit Park brydnawn Sadwrn nesaf. Y Sul diweddaf, yr oedd Wm. R. Williams, Steuben St., yn pregethu yn Remsen a Phenygraig. —Cydymdeimlir a Mr. a Mrs. Griff- ith Williams, 130 Leah St., yn eu trall- od ar farwolaeth eu merch fach, Elsie Frazer Williams, yn bum mis. —Pregethir yn Bethesda y Sul nes- af, gan y Parch. John Roberts, Cleve- land, Ohio. Hwn yw ymweliad cyntaf Mr. Roberts a'n dinas. —Cyfarfyddodd Miss Sarah Pryth- erch, Newell St., a damwain a barodd anaf drwg i'w garddwrn. Y mae ei chyfeillion yn dymuno iddi wellhad buan. -Yn ymweled a'i ferch, Mrs. John H. Roberts, Wall St., dros y Pedwer- ydd, bu Mr. John L. Davies, o Scran- ton, Pa., yn nghyd a'i fachgen bach, Glyndwr. -Y Parch. John Isaac Hughes fydd yn pregethu yn Frankfort Hill y Stil nesaf. Yn llanw y pwlpud y Sul diweddaf, yr oedd David C. Davies, Howard Ave. —Heno (nos Ferch er) am 8 o'r gloch, bydd dysgyblion y Proff. Samuel Evans yn rhoddi 'recital' olaf y tymor yn ystafelloedd capel y First M. E. Court St. -Yr oedd amryw o Gymry wedi dod i Utica i dreulio y Pedwerydd. Yn eu plith, gwelsom Bob Roberts (Cae- ff ridd), o Buffalo, a Thomas Owen, Louisa St., o Akron, Ohio. —Ddechreu yr wythnos hon, yr oedd Mrs. J. Elias Jones, Milwaukee, Wis., yn cychwyn oddi yma am Belle- ville, Pa., lie y bwriada aros ychydig wythnosau eto cyn dychwelyd i'w chartref yn Milwaukee. —Y Sadwrn diweddaf, cychwynodd Mr. a Mrs. Richard W. Owen, yn nghyd a'u merch, Jennie, 1219 Steuben St., a Mrs. W. R. Williams, a'i mab Irwin, 1222 Steuben St., am Scranton, Pa., yn oto Mr. Owen. Cawsant dywydd haf- aidd, a thaith ddifyr. —Bydd hysbys i bawb mai heno (nos Fercher) y cynelir y Lawn Fete o dan nawdd Cymdeithas y Willing Workers, Moriah, yn nghartref Mrs. Owen H. Jones, 7 Clarke Place. Bydd yr elw a wneir yn cael ei droi drosodd i'r Gymdeithas y Groes Goch. —Bu Albert Evans, 17 mlwydd oed, ma.) Mr. a Mrs. Lewis D. Evan! 1171 Knssuth Ave., am dro gartref dros y Pedwerydd. Y mae Albert er's oddeu- tu tri mis yn aelod o'r Canadian Avia- tion Corps, ac yn ystod yr amser yna wedi bod yn ehedeg ugain gwaith. Bydd yn rhaid iddo fyned i fyny eto 30 o weithiau cyn myned drosodd i Ffrainc. Mrs. Richard Owen. Yn nghartref el merch, Mrs. Wm. T. MacKenzie, 6% Warren Ave., o'r ddinas hon, bu farw Mrs. Catherine Owen, gweddw Richard Owen, gynt o West Street. Cymerodd yr amgylchiad le nos Sadwrn, Gorph. 7fed, ar ol oddeutu pum wythnos o gystudd trwm, yr hyn a ddyoddefodd yn hynod o ddi- rwgnach. Ganwyd Mrs. Owen yn Gog- ledd Cymru, yn y flwyddyn 1843, a daethant i'r wlad hon yn y flwyddyn 1885, gan sefydlu yn Utica. Ymbriod- odd a Richard Owen yn Nghymru cyn ymfudo i'r America. Yr oedd yn aelod parchus o eglwys Moriah, ac yn fawr ei pharch yn mhljth Cymry y ddinas. Yn aros i alaru ar ei hoi y mae y plant canlynol, Mrs. Wm. T. MacKenzie, Utica; Mrs. John Burdick, o Stratford, Conn.; Rich. Owen, Richfield (Springs, a Hugh T. Owen, New Hartford. Marwolaeth Sydyn Plentyn. t Yn un o ysbytai y ddinas, mewn modd hynod o annghyffredin, bu farw Stanley D. Williams, mab naw mlwydd oed Mr. a Mrs. Edward Williams, 1218 Kemble St. Cymerodd hyny le foreu Sadwrn diweddaf. Ymddengys fod y bachgen wedi ei gymeryd i'r ysbyty y boreu hwn er tori ymaith adenoids. Edrychai yn iach a chalonog cyn cael ei gymeryd i'r feddygfa, ond yn fuan wedi rhoddi iddo y cwsgbair, ym- ddengys i'w galon wanhau, a fbu farw ar unwaith. Dygwyddodd hyn, er na ddarganfyddwyd unrhyw wendid ar ei galon yn yr archwiliad a wnaed arno cyn rhoddi iddo y cwsgbair. Yr oedd y newydd am ei farwolaeth yn ergyd drom i'w fam ag oedd mewn ystafell arall yn aros am ei phlentyn. Cydym- deimlir yn ddwys a'r teulu, sef tad a mam, ac un brawd Cyril, yn eu galar. Griffith-Williams, Nos Sadwrn diweddaf, yn ei lety, gan y Parch. D. Morgan Richards, un- wyd mewn priodas Miss Annie Wil- liams, South St., Utica, a Thomas J. Griffith, Ilion (gynt o Granville, N. Y. Yn sefyll fel tystion o'r briodas yr oedd David J. Hughes a Mrs. Elizabeth Hughes. Y mae y briodasferch yn aelod o eglwys Moriah, a'r priodfab yn gweithio yn Tlion. Bydd iddynt gar- trefu yn Utica. Gwibdaith yr Ysolion Sul. Cyfarfyddodd pwyllgor gwibdaith Ysgolion Sul Utica a'r cylch, a dewis- iwvd y swyddogion canlynol: Llyw- ydd, Richard W. Owen; ysgrif-enydd, Ivor Jones; trysorydd, Griffith Jones. Ar bwyllgor y mabol-gampauo ceir E. Herber Evans (cadeirydd); John Evans, Ilion; Stanley Jones, Arthur M. Roberts, Trevor Hughes, Robert Wil- liams, Morris Pritchard a George Rowlands. Nid yw dyddiad y wib- daith wedi ei nodi eto. Marwolaeth Meddyg. Tra allan mewn oto nos Fercher di- weddaf, cymerwyd Dr. Herbert G. Jones, yn wael, a dygwyd ef i'r Trout Brook Inn, Trenton, lie y bu farw oddeutu deg o'r gloch o glefyd y galon. Ganwyd Dr. Jones yn Utica Mehefin 26, 1857; enwau ei rieni, John Frank- lin a Jane Williams Jones. Derbyn- iodd ei addysg foreuol yn ysgolion Utica, a'i gwrs meddygol yn athrofa dinas New York, a graddiodd oddi yno yn 1881. Daeth i Utica a gwasanaeth- odd ddwy flynedd fel meddyg y sefyd- liad yn St. Elizabeth Hospital, ac yn ddylynol yn gysylltiol ag ysbyty St. Luke's. Gwasanaethodd fel crwner am ddwy flynedd, ac fel meddyg i am- ryw o gwmniau a chymdeithasau, ac wedi dringo yn uchel yn y rhan fwyaf o honynt, ysgrifenodd lawer o bapyrau gwerthfawr ar faterion meddygol, y rhai sydd wedi eu cyhoeddi. Gedy mewn galar, ei briod, Katherine Elinor Parry Jones; dau fab, Harold S., o Utica; Stewart G., o Little Moose Lake; un ferch, Mrs. Arthur E. Snyder, Waban, Mass.; tair chwaer, Mrs. Ella Jones; Miss Minnie L. Jones a Mrs. W. W. Canfield, o'r ddinas hon; dau frawd, John, o Rochester, N. Y., a Milton, o Boston, Mass. Nodion o New York Mills. Gorphenaf 9fed.-Am 3 o'r gloch brydnawn ddydd Mawrth, Gorphenaf y 3ydd, yn Maples, Holland Patent, sef cartref y Parch. Richard Hughes, D. D., unwyd mewn glan briodas Miss Jennie M. Jones, Yorkville, a David J. Hughes, o'r ardal hon. Ychydig o wa- hoddedigion oedd yn bresenol,' Hugh Jones, sef tad y briodasferch; Mr. a Mrs. Lumley Davies, oedd y tystion o'r seremoni. Eraill oedd yn bresenol, Mr. a Mrs. Edward J. Jones, Mrs. Thomas Roberts a'r ferch fach, Myrtle, York- ville; Hugh S. Jones, New York Mills, a Mr. a Mrs. Thomas Owen, a Ed. J. Williams. Wedi byrbryd ymadawodd y par ieuanc am eu mis mel i New York a Hartford, Conn., ac ar eu dych- weliad yn ol byddant yn cartrefu yn Yorkville, lie mae y wraig ieuanc yn fawr ei pharch, yn nghyd a'r gwr ieu- anc. Mae Robert Hughes, Mill Place, yn ewythr i'r priodfab, ac yn hanu o deulu henafol yn Capel Curig, Arfon. Yr oedd y diweddar Robert Hughes, y Guide, yn daid i'w fam. Ac yr oedd y diweddar Barch. Thomas Jerman Jones y cenadwr, yn gefnder i ddiweddar fam y wraig ieuanc. Mae pawb yn dy- muno bywyd cysurus i'r par ieuanc, ac y byddant yn cael hir oes i gydfyw gyda'u gilydd yn y byd sydd yn llawn o ryfela a thywallt gwaed. Byddant gartref i'w cyfeillion ar ol diwedd yr wythnos hon. Mae yn chwith iawn genym golli o'n plith Robert Hughes, Yorkville, yr hwn sydd wedi ymadael am Toledo, 0., a bydd y teulu yn cychwyn ar ei ol yn mhen dwy wythnos. Pob llwyddiant iddo yn ei gartref newydd. Dydd Sadwrn, ymadawodd Mrs. John W. Roberts a'r bachgen bagh, Richard Earl, yn ol i Jersey City, ar ol bod ar ymweliad a'i brodyr a'i chwior- ydd am tua chwech wythnos, ac fe gaf- odd amser pur dda yn ei hen gartref ar Porter St. Da iawn oedd genyf gyfarfod a Mr. a Mrs. William B. Jones, Williams- town, Vt., sydd ar ymweliad a'i fam, Mrs. John B. Jones a'r teulu. Hefyd Robert S. Owens, Hartford, Conn., a William Hughes, o'r un lie, fu yn mwynhau awelon iach sir Oneida, ac wedi troi yn ol ddoe, ac wedi cael am- ser pur dda, meddant hwy. Nid yw Johnnie Jones, Elm St., yn teimlo yn dda y dyddiau hyn. Mae yn wael er's rhai blynyddau bellach, a chydymdeimlir yn fawr dros y teulu. Mr. a Mrs. John M. Jones, Prospect St.,sydd yn mwynhau eu hunain ar lan llvn Oneida yr wythnos hon. Mae Evan Hughes wedi gwella yn bur dda ar ol y salwch blin diweddar, ac wedi dechreu gweithio eto, ac mae yn di- olch o galon i bawb o Gymry yr ardal ac Utica am eu caredigrwydd tuag ato yn ei salwch. Cawsom Sabboth dymunol dros ben ddoe, y Parch. Richard Hughes, D. D., yn ei hwyliau goreu, a chynulliad da trwy y dydd. Mae yma gydymdeimlad mawr a Mr. a. Mrs. Thomas R. Jones, Chadwicks, yn eu profedigaeth a'i galar ar ol eu hanwyl fam.—R. W. Thomas. Ilion, N. Y. I Cyraeddodd William O. Jones yma o Granville am ychydig seibiant. Hef- yd Frank Edmunds a'i briod, a'i nith, Elizabeth Edmunds, o Rome, a fu yma am ychydig ddyddiau yn edrych am ei chwaer, y Gymraes. Miss El- eanor Roberts, Square St., Utica, yma dros y Sul, yn ymweled a pherthynas- au a chyfeillion. Da iawn oedd genym gyfarfod a R. Salisbury Owen, o Hartford, Conn., yma ar ymweliad dros y Pedwerydd. Mrs. Hugh R. Thomas sydd wedi myned am ychydig seibiant i ddyffryn y Mettowe, a Mrs. William Roberts wedi myned i Wallingford, Vt.—Cym- raes o Tlion. Helvntion Holland Patent. N. Y. Holland Patent, Gorph. 9.—Teim- lwn fod yr wythnos ddiweddaf wedi bod yn wythnos fendithiol iawn, trwy ein bod wedi cael y fraint o gyfarfod a chymaint o hen gyfeillion y dyddiau gynt. Talodd Mr. a Mrs. Peter Wil- liams a'u merch a'r teulu, Mr. a Mrs. Owens a'u mab bychan o Whitesboro, ymweliad a ni; a'r Parch, a Mrs. IVL B. Morris o Clarksburgh, Va., y rhai sydd ar ymweliad a Mrs. Evan Morris a'r teulu. Y mae yr oil yn anwyl iawn genym, a bu yma amser prysurj iawn yn galw i gof droion y daith. Pur wanllyd y mae Mrs. Williams yn teimlo, ond y mae yn cael y gofal goreu gan y teulu. Y maent hwy fel ninau yn teithio i lawr tua'r Glyn, eto yn teimlo nad Glyn tywyll ydyw. Yr oedd y gymd-eithas rhyngom a'r Parch. Mr. Morris a'i anwyl briod yn fwy prudd trwy fod Mrs. Morris yn teimlo mor alarus ar ol ei hanwyl frawd, y diweddar Rolland D. Wil- liams, yr hwn a gyfarfu a marwolaeth mor echrydus yn Oklahoma City, Okl., yr hwn oedd mor anwyl genym oil; ond er y pryder, cawsom gymdeithas felus iawn a hir gofiwn trwy fod Mr. Morris bob amser yn terfynu ein cym- deithas trwy droi at Dduw mewn gweddi. Hyderwn eu gweled eto cyn y byddant yn dychwelyd i'w cartref. Trwy nad yw Mr. Morris yn teimlo yn goryf, y mae yn gorfod bod mor ofalus. Y mae ei anwyl ferch a'i phriod yn of- alus iawn o honynt, y rhai sydd yn bobl o nod mewn cylchoedd pwysig. Bu ein hanwyl Want o'r Court House Inn, Mr. a Mrs. R. D. Spencer a Mr. a Mrs. Harry C. Abbott, Utica, yn ymweled a ni, y rhai sydd bob amser yn ffyddlon iawn. Dydd Sadwrn daeth Mr. Ellis Grif- fiths am dro i Holland Patent, a gal- wodd i'n gweled. Tad-yn-nghyfraith i'n cyfaill John O. Thomas, Utica. Yr oedd efe fel ninau yn yr Eisteddfod gyntaf yn Utica. Diolch yn fawr iddo am alw. Cawsom gymdeithas ddifyr iawn am rai oriau. Galwodd Morris Jones a'i ffrynd o Syracuse, N. Y., i'n gweled wrth fyn- ed heibio i Trenton i ymweled a'i chwaer Mrs. William J. Roberts. Y mae yn fachgen ieuanc llwyddianus iawn mewn galwedigaeth bwysig. Yr oedd yn dda iawn genym weled Mrs. Mary Davies yn gallu myned i'r gwas- anaeth y Sabboth. Y mae y ddau frawd John a Benett Pugh o Genesee, Wis., ar ymweliad a'u perthynasau, John D. Lloyd, yma. Hefyd yn Prospect. Byddant yn dy- chwelyd yr wythnos hon. Y mae gol- wg dda arnynt. Yr oeddem yn falch i'w gweled. Boed iddynt bob llwydd- iant. Dr. W. Caradog Jones oedd yn gweinyddu y Sabboth, a chafwyd cyf- arfodydd da, a chynulliad da yn y prydnawn. Ni ddaeth cymaint yn yr hwyr. Drwg iawn oedd genym fethu myned i wrando Mr. Jones; nid oedd Wm. J. Jones yn teimlo yn ddigon cryf i fentro allan; ond gyda gofal, bydd yn alluog yn fuan. Diolch yn fawr iawn i Dr. Jones am alw i'n gweled. Da iawn oedd genym weled ei fod wedi gwella mor dda o'i aflechyd blin.—R. New Hartford. N. Y. Cynaliodd teulu Hugh Hughes eu chweched aduniad Gorph. y 4ydd, yn nghartref John J. Roberts, Paris Road, New Hartford. Mwynhawyd difyrion, ac anerchiadau, a chaneuon gan Ethel Roberts a Mary Hughes, ac eisteddwyd i fwynhau cinio rhagorol ag oedd wedi ei barotoi ar gyfer y cwmni. Darllen- wyd llythyrau oddiwrth Mrs. E. B. Jones, o Los Angeles, Calif.; Mrs. Jacob Schrempf, o Glendale, a R. W. Hughes, o Valatie, N Y. Dewiswyd yn swyddogion am y flwyddyn ddyfod- ol: Llywydd, Hugh Hughes; ysgrifen- yddes, Mrs. John Owen; trysorydd, Evan Hughes. Pasiwyd i gynal yr ad- uniad nesaf yn nghartref haf Hugh Hughes yn Paris Hill, N. Y.

RHTFEL TN E WROP

Advertising

I INFORMATION WANTED

I O'R PAPYRAU CYMREIG. 'I

MARWOLAETH JOHN R. PERRY.…

I GWESTY CYMREIG NEWYDD.

ARDALOEDD Y CHWAREU.

YR ORYMDAITH -FAWR.I

I -PWNC YMBORTH.

Advertising