Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Advertising
g Mr*gcb"- A WELSH WEEKL. ESTABLISHED 1851 Issued Every Thursday Morning. THOMAS J. GRIFFITHS. Procrietor. UTICA. N. Y. IMPORTANT TO ADVERTISERS.—The attention of business men in general is called to Y DRYCH as a superior adver- tising medium, being read by thousands who cannot be reached by any other pub- lication. It has a large circulation, with subscribers in every State and Territory of the Union, in Great Britain and the British Dependencies. It is the recognized National Organ of the Welsh People.
GWAREIDDIAD A CHRISTIONOGAETH…
GWAREIDDIAD A CHRISTIONOG- AETH YN NGOLEUNI Y RHYFEL PRESENOL. Cyd-fuddugol yn Eisteddfod Utica, Calan, 1916. Gan y Parch. David Jones, Scranton, Pa. Penod I.-Rhagair. Mae y maes a awgrymir gan y tes- tyn mor eang, a'r mater mor fawr fel mai gydag anhawsder y penderfynir ar y modd mwyaf hylaw i ymgodymu ag ef., Manteisiol yn ddiau ydyw cael deffiniad clir o'r termau a arferir yn y testyn, fel y byddo genym ddirnad- aeth am gysylltiad y naill a'r Hall, a'r goleuni a roddant ar eu perthynas a'u gilydd. Gwareiddiad.—Anhawdd i ddeiliaid gwledydd Cristionogol egluro a deffin- io, na gweled y gwahaniaeth sydd rhwng gwareiddiad a Christionogaeth am eu bod wedi arfer meddwl mai dy- lanwad yn cydfyned ac yn dylyn Cris- tionogaeth yw gwareiddiad. Dyma y wedd ar gymdeithas y maent hwy yn gyfarwydd a hi, ond y mae yn bosibl i genedl fod yn wareiddiedig heb fod y lluaws o'r genedl yn gwybod dim am Gristionogaeth. Cyflwr a greir gan ddylanwad addysg a diwylliant medd- yliol yw gwareiddiad, ac y mae yn bodoli ac yn ffynu mewn gwledydd nad ystyrir yn Gristionogol. Gall fod yn uwch ac yn well na' llawer o'r hyn ydym ni yn gyfarwydd ag ef. Gwar- eiddiad yw y cyflwr a'r dull y mae dyn a chymdeithas yn byw ynddo wedi cael manteision addysg a diwylliant. Maent yn byw mewn tai, trefi a dinasoedd, yn hytrach nag mewn ogofeydd a phebyll yn yr anialwch. Gwisgant ddillad ac ymddygant yn garedig a moesgar at eu g ilydd. Maent wedi dofi eu natur wyllt ac anwar, ac wedi eu dilladu ac yn eu hiawn bwyll. Bar- bariaid gwyllt ac anfoesgar oedd pawb fodolai tu allan i gyffiniau dinas yn ol barn y Groegwyr gynt. Mae y gair a arferir yn Seisnig am wareiddiad yn awgrymu hyny. Nodweddir personau, arferion ac ymddygiadau pobl wareidd- iedig gan fwynder, hynajwsedd a char- iad, yn gyferbyniol i erwinder, casineb a chreulondeb pobl anwareiddiedig a gwyllt. Dygir y cyfnewidiad oddi am- gylch yn raddol gan ddylanwad addysg a diwylliant ar ddynoliaeth. Heb fyn- ed 1 olrhain hanes, nac i fod yn rhy awdurdodol ar gyflwr gwreiddiol y natur ddynol, y mae yn amlwg fod rhai gwledydd a chenedloedd mewn sefyllfa lawer uwch yn ngraddfa bodolaeth nag eraill. Profir hyn gan eu dull o fyw, o wisgo a bwyta. Ceir rhai cen- edloedd yn byw yn debyg i greaduriaid afresymol, heb syniad ganddynt am ddeddf na threfn. Sonir am lwythau o bobl ydynt yn preswylio rhanau o gyfandiroedd tywyllion y byd yma yn anwaraidd a barbaraidd, am no yw eu hymddygiadau yn awgrymu y mesur lleiaf o ddiwylliant a gwybod- aeth. Cyffelyb ydynt i'r anifeiliaid-a ddyfethir. Ychydig neu ddim a wydd- ant am dynerwch a chariad. Bwystfil- ,aid,d ydynt yn eu hymddygiadau y naill at y llall. Ai dyma sefyllfa dynoliaeth ar y cyntaf, ai canlyniad dirywiad mwy a gwaeth yw fod y naill lwyth ,yn is na'r llall yn eu moesau a'u har- ferion? Ai ffrwyth dadblygiad neu ddirywiad mwy- yw y gwahaniaeth? Amlwg yw y gall personau, teuluoedd a chenedloedd gynyddu neu ddirywio, godi yn uwch, neu fyned yn is yn ngraddfa bodolaeth. Gallant esgyn neu ddisgyn, i sefyllfa berffeithiach neu lai perffaith o ogs i oes. Yr ydym yn honi fod gwareiddiad y cyfnod hwn yn oes y byd yn uwch nag y bu erioed, ond sut y mae esbonio gwareiddiad yn ngoleuni y rhyfel presenol, neu o'r tu arall sut y mae cyfreithloni y rhyfel hwn yn ngoleuni ein gwareiddla.d sydd anhawdd. Cristionogaeth.-Dyma y grefydd a sylfaenwyd gan lesu o Nazareth. Cynwysa ei Berson, Ei esiampl, a'r eg- wyddorion a ddysgodd Efe i'r byd. Rhenir Cristionogaeth i dair rhan, set yr hanesiol, yr athrawiaethol a'r fyw- ydol. Y cyntaf yn cynwys hanes Crist, Ei enedigaeth, Ei fywyd cyhoeddus, Ei farwolaeth a'i adgyfodiad, mewn gair yr hyn a gofnodir yn y Testament Newydd o'i hanes Ef. Mae yr ail ran yn cael ei gwneyd i fyny o'r athraw- iaethau hyny a sylfaenwyd ar ffeithiau yn nglyn a Christ. Dechreuwyd traethu yr athrawiaethau yn yr epis- tolau a ysgrifenwyd gan yr awdwyr at eglwysi a phersonau unigol, y rhai a, gofnodir yn y Testament Newydd. Mae yr eglwys o oes i oes wedi rhoddi arbenigrwydd ar wirioneddau neill- duol oedd angen eu pwysleisio o bryd i bryd er dyddiau yr Apostolion hyd, yn awr. Cyfreithlawn a phriodol oedd gwneyd hyn, dim ond ymgais at. fod yn gyson a'r ffeithiau a groniclir o hanes Ei sylfaenydd. With Gristionogaeth fywydol (vital) y deallir yr ysbryd a ddangos- wyd gan Grist yn ei fywyd, a'r ysbryd a geisia efe gan ei ddysgyblion i'w efel- ychu. Egwyddorion Crist fel yr eg- lurwyd hwynt yn ei fywyd Ef, ac fel yr eglurir hwynt gan fywyd ac ymar- weddiad Ei ganlynwyr ffyddlawn yw y Gristionogaeth sydd ar ei phrawf. Nis gellir gwadu y cyntaf na'r ail, ond gellir ameu Cristionogaeth yn y wedd ymarferol, os nad yw ei phrc^feswyr yn byw i fyny a'i dysgeidiaeth, ac a'i hegwyddorion. Ond nid teg con- demnio Cristionogaeth fel y mae yn cael ei byw gan ei phroffeswyr, eithr, yn hytrach barner hi fel y mae wedi ei dysgu a'i byw gan Grist ei hun. Mae caredigion Cristionogaeth yn peri iddi gael ei chamfarnu a'i chollfarnu, am fod y byd yn barnu bywyd ac nid proffes, gweithredoedd ac nid geiriau y dysgyblion. Rhyfel.—Prin y mae eisieu darnodi y gair hwn. Gwyr pawb rywbeth am dano drwy hanes, ond y mae yr hyn a i ddywedodd y Cadfridog Sherman am ryfel yn gynwysfawr a chywir. "War is hell," meddai efe. Ein syniad am uffern yw lie sydd yn cynwys pob math o drueni yn ddigymysg. Yno y ceir tywyllwch heb rith o oleuni, casineb heb gariad, barn heb drugaredd, poen heb obaith ei leddfu, a syched heb fodd i'w dori. Dyma oedd syniad Sherman, ad y mae pob un sydd wedi gwybod trwy hanes, neu trwy brofiad am erchyllderau rhyfel yn ibarod i ddweyd y dystiolaeth 'hon sydd wir. Golyga yn fyr derfysg, annhrefn, ymrafael, trueni a dinystr annesgrifiadwy. Achosir hyn yn ami gan annealltwriaeth di- bwys a gyfyd rhwng talaethau, gwled- ydd a chenedloedd. Yn nghyfnodau boreuaf y byd, cyhoeddid rhyfel gan benaethiaid a breninoedd balch ac un- benaethol; a lleddid miloedd i geisio dial cam tybiedig a gawsant hwy oddi ar law rhywun annghyfrifol, ac er cywilydd i'r oes yr ydym yn byw yn- ddi, y mae llawer o ryfeloedd y blyn- yddau diweddaf wedi eu hachosi, a'u cyhoeddi gan nifer fechan o bobl per- thynol iT gwahanol wledydd; ac y mae cyfiiwr o heddwch neu o ryfel mewn llawer gwlad yn dibynu ar ewyllys a thymer dwsin neu lai o'r deiliaid. Eir i ymrafael, a defnyddir arfau o'r fath a ddyfeisia talent a chelfyddyd i ladd miloedd, ie, miliyn- au i ddial cam; neu enill mantais y naill ar y llall. Nodir y rhyfel presenol yn y testyn, nid ydxm yn sicr beth sydd yn cyfrif am hyny, oddieithr fod cynydd gwar- eiddiad a Christionogaeth wedi arwain dynion i gredu a gobeithio fod rhyfel o'r fath ag sydd yn teyrnasu yn Ibre- senol yn anmhosibl. Mae y brwydrau mwyaf dystadi yn ymddangos yn an- nghydweddol a gwareiddiad a Christ- ionogaeth, ond yn sicr y saif y rhyfel presenol am byth yn amlwg yn nghroniclau yr amseroedd fel un o'r rhai hynotaf yn hanes y ddaear. Nid yw rhjfeloedd yr oesau a fu ond dys- tadl yn ymyl hwn. Saif ar ei ben ei hun yn lluosogmvydd y gwledydd sydd yn rhyfela, yn rhif y byddinoedd a'r milwyr sydd dan arfau, yn y moddion a'r cyfryngau a ddefnydgir i ladd a dinystrio. Dyma y gyflafan fwyaf ar- swydus gymerodd le mewn unrhyw oes. Cof genym yr argraff a wnaed an y byd wrth feddwl am yr ychydig fywydau gollwyd pan oedd yr Unol Dalaethau mewn rhyfel a'r Ysbaen; a dywedid wrthym y pryd hwnw fod rhyfela Iwedi codi i dir, nad oedd achos i lawer o fywydau i gael eu haberthu mwyach i benderfynu pwy oedd drech- af. Gwae ni na fuasai y broflftwydol- iaeth hono'n wir. Ond y mae hanes y frwydr hon yn brawr mai proffwydi gau oedd y bobl hyny, oblegid y niae; arfau a chynlluniau a darganfyddiadau celf a gwyddoniaeth yn cael eu defn- yddio i wneyd mwy o alanas ar fywyd- au dynol yn awr nag a fu erioed o'r blaen. Gofidus genym gryhiwyll gwar- eiddiad a Christionogaeth yn nglyn a rhyfel gan gymaint y dinystr a achosa, a'n hamcan yn y traethawd hwn yw ceisio dangos nad yw gwir wareiddiad a Christionogaeth yn ffafrio, cefnogi na chaniatau y fath ddifrod. Mae gwareiddiad y tybid ei fod y goraf yn yr holl fyd wedi ei barlysu gan y rhy- fel presenol, ac yn peri fod deiliaid gwledydd Annghristionogol yn ednych arno gyda dirmyg, ac yn tosturio wrth y miliynau sydd yn cael eu llywodr- aethu ganddo. "Drych o dristwch i edrych drosto" yw Ewrop heddyw, ac y mae y trueni wedi ei greu gan yr hyn a gamenwir yn wareiddiad. (I'w Barhau).
DYSGYRCHIANT.
DYSGYRCHIANT. I Gan Ðbn P. Davies. Parhad. Pa ddyn sylweddola lawer o wahan- iaeth rhwng swn ergyd o lawddryll pan danier ef un droedfedd oddiwrth y glust a phan danier ef ddwy droedfedd oddiwrth y glust? Er hyny, dywed deddf lleihad galluoedd canolog nad yw swn yr ail ergyd ond un rhan, o bedair o swn yr ergyd cyntaf, ae nad yw ond un rhan o naw ar dair troed- fedd, un rhan o un-ar-bymtheg ar hedair troedfedd, neu un rhan o gant ar ddeg troedfedd, etc. Dysgir y bydd- ai yr un peth yn wir pe cvmerem fod- fedd yn lie troedfedd. Faint bynag yw y sel a'r brwdfrydedd deimla Mr. W. dros y "ddeddf" fel dysgeidiaeth wyddonol, mi fentraf fy mywyd na chred ei bod yn cael ei gwireddu yn ymarferol yn yr engreifftiau uchod- Beth am dani, Mr. Williams? Un peth yw ei brofi trwy "fesuroniaeth," ond peth arall yw ei brofi yn ymarferol. Y gwir am dani yw hyn, y mae llawer o honiadau y ddamcaniaeth ddysgyrch- iol yn sylfaenedig ar, ac wedi eu cym- wyso i'r fesuroniaeth trwy yr hon y profir hwynt, felly nid yw ond gwaith rhwydd gwney'd hyny. Dichon yr ys- tyria fy ngwrthwynebwyr yr uchod yn honiad beiddgar, ond profwn ef i'r di- duedd cyn diwedd yr ysgrif. Ond nid wyf yn sicr y gwnaf hyny i bob gwrth- wynebwr. Ond nid yr hyn a nodir uchod, ac yn y man gyntaf o'r ysgrif, yw yr unig engreifftiau o annghyfatebiaeth rhwng dysgyrchiant a galluoedd canolog eraill. Yr 'unit' er mesur lleihad dys- gyrchiaivt y ddaear yw pedair mil o fill- diroedd, sef haner ei thrawsfesur; ond pan y mesurir lleihad swn, goleuni, ehedfaen, arogl, neu unrhyw allu can- olog arall, gellir defnyddio unrhyw 'unit', megys modfedd, troedfedd, llathen, milldir, neu fil o filldiroedd, sef unrhyw unit a ddewisir. Hefyd, er penderfynu Ileihad y galluoedd hyn, mesurir oddiar wyneb y ffynonell; ond er penderfynu lleihad dysgyrchiant deohreuir mesur bedair mil o filldir- oedd y tu ol i wyneb y ffynonell. (Y syniad cyffredin am ddeddf yw gweith- rediad unffurfiol ac annghyfnewidiol; ond dyma ddeddf (?) sydd yn medru "adjustio" ei hun i ofynion yr hyn a geisir ganddi. Cymerwn ganwyll Mr. Williams, Gwyr y brawd, fel y dywed yn "Nrych" Mawrth 1, fod y goleu yn dechreu gwanhau yr eiliad y gadawa y fflam, ac y dysgir nad yw ond un rhan o bed- air ar ben haner modfedd o'r hyn yw ar ben chwarter modfedd. (Dysgir fod yr un peth yn wir pe cymerem wyth- fed o fodfedtl un unit). Dysgir hefyd fod lleihad y goleu yn dechreu yn gywir yr un pryd ag y dechreuir mesur y pellder, tra y dysgir fod dysgyrch- iant y ddaear yn cynyddu am bedair mil o filldiroedd ar ol dechreu mesur y pellder! A oes rhyw gyfochrogaeth rhwng goleuni a dysgyrchiant yn hyn —egwyddor sylfaenol lleihad eu gallu- oedd? Cofied y darllenydd nad ceisio gwadu y ffeithiau uchod yw fy amcan, eithr ceisio pwysleisio yr annghyson- deb eithafol o gyfochrogi dysgyrchiant a galluoedd canolog eraill, a'r honiad anwyddonol eu bod yn ddarostyngedig ''i'r un ddeddf." Meddyliwn bod genym lamp dryda4- ol yn ddigon cryf i daflu ei phelydrau yn groes i'r mor i "rywle yn Ffrainc," bedair mil o filldiroedd i ffwrdd. Fel y dywedwyd, dechreua ei goleuni wanhau y foment y gadawa y fflam, neu y pwynt eirias-hoeth, a pharha i wanhau yn ol ysgwaredd y pellder pa unit bynag a ddefnyddiwn —modfedd, neu fil o ^ildiroedd. Ond ji fod yn benodol, ni a gymerwn bum cant o filldiroedd yn ( nit ein mesur- iad. Yn awr, nid yw ileuni y lamp ar ben mil o filldiroedd ond un rhan o lbedair o'r hyn yw ar ben y pum cant, un rhan o un-ar-bymtheg ar ben y ddwy fil, un rhan o dri deg a chwech ar ben y tair mil, ac un rhan o dpi- ugain-a-phedair ar ben y pedair mil, sef ysgwar yr Tvyth unit o bum cant o filldiroedd. Ond gadewch i ni yn awr gymwyso yr un ddeddf, ac yn ol yr un drefn, at ddysgyrchiant y ddae- ar; oblegid os yw yn ddeddf, fel yr hona Mr. \Vf. yn "Nrych" Mawrth 1, pan y dywed, "Dyma yw y ddeddf gyda phob gallu canolog," etc., dylai ei hamgylchiadau a;i gofynion fod yn gywir yr un fath pa allu canolog byn- ag y cymwysir hi ato. Sylwn yn gyntaf y dechreuir mesur pellder a Ileihad goleuni o'r un man, sef o'i ffynonell, y man y mae gryfaf; ond gyda dysgyrchiant, mesurir hwynt o ddau fan gwahanol—mesurir y pell- der o'r man. y mae dysgyrchiant wan- af, neu yn hytrach-or man lie nad oes dysgyrchiant, sef canol y ddaear; ond ni ddechreuir cyfrif ei leihad hyd nes y cyraeddwn bedair mil o filldir- oedd o'r man y dechreuasom fesur y pellder. Beth feddylia' y darllenydd am ddeddf sydd mor garedig a newid ei threfn i siwtio gofyniony gwyddon- ydd! Fel y gwnaethom gyda goleuni, gos- odwn yr unit yn bum can milldir, a dechreuwn fesur o ganol y ddaear. Yn lie lleihau o'r cychwynfan i ben yr unit cyntaf, fel y gwna goleuni, jr mae dysgyrchiant wedi cynyddu o fod yn ddim, yn y ma" y df .i-reuasom fesur y pellder, i fod yn feddianol ar gryn dipyn o nerth. Eto, yn lie lleihad ar ben mil o filldiroedd i un rhan o bed- air o'r hyn oedd ar ben y pum cant, fel yn achos goleuni, y mae dysgyrch- iant wedf cynyddu ar ei filfed a-mwy; ac yn lie gwanychu i un rhan o dri- llgain-a-phedair ar ben y pedair mil, y mae dysgyrchiant wedi cynyddu i'w lawn nerth, ac y mae yn awr yn barod i ddechreu lleihau gyda chychwyniad y nawfed unit o bum can milldir. Ond aroswch, beth a ddywedais? y nawfed unit o bum cant? 0 na, oddiyma all- an i'r lleuad yr unit i'w ddefnyddio yw pedair mil o filldiroedd, ac wrth yr unit hwn, meddynt, y penderfynir swm atdyniad y ddaear ar y lleuad, yn nghyd a chywirdeb (?) y ddamcan- iaeth ddysgyrchiol. Credaf fod yr annghysondeb o gyf- ochrogi dysgyrchiant a goleuni, yr hwn a awgrymais 4dro yn ol, yn sicr o fod yn dechreu gwawrio ar feddwl Mr. W. erbyn hyn. Addeiwais y pryd hwnw y gwnawn brofi yr annghyson- deb os na fedrai ddyfod o hyd iddo, a chredaf fy mod wedi gwneyd yn dda fy addewid.. Ofnwn ar ddechreu yr ysgrif nas gall- aswn ei gorphen mewn dwy ran, ac felly y mae wedi troi allan, oblegid y mae prif wendid y ddamcaniaeth heb ei gyffwrdd, a'r syndod yw fod y gwendid hwnw yn yr hyn a ystyrid ei chadernid mwyaf, sef y dybiaeth fod cwymp y lleuad oddiwrth gyffyrddlin (the fall of the moon from a tangent) a syrthiad gwrthddrych ar wyneb y ddaear yn dygwydd bod mewn un am- ser penodol, yn gyfatebol i'w pellder oddiwrth eu gilydd, yn brawf diymwad o gywirdeb y ddamcaniaeth; ond yn y rhan nesaf o'r ysgrif, ceisiwn ddangos nad yw hyn ond dygwyddiadi—hollol ar iwahan i leihad dysgyrchiant ar gyfrif pellder y lleuad oddiwrth y ddaear. (I Barhau.) ————
[No title]
Dyma feddargraff i Brydain a ym- ddangosodd mewn newyddiadur yn ddi- weddr: "Here lies a Race, of no armed foe afraid, Yet self-consigned to doom by craven fear Lest it should hurt the feelings of a Trade That seized its bread to drug its brains with Beer." Cafodd y gweithwyr tanddaearol lonydd rhag ymuno a'r fyddin am am- ser bellach; ond sonir yn awr fod yn rhaid i nifer fawr o honynt hwythau fynd. Dywed un Aelod Seneddol y gellir hebgor 120,000 o fechgyn ieu- ainc dibriod o'r pyllau glo, a'u bod yn dysgwyl am yr alwad. Faint bynag o wir sydd yn y gosodiad cyntaf o'i eiddo, pell ydym o gredu ei ail osod- iad. r
DUWINYDDIAETH AMLDDUW-IAETH.
DUWINYDDIAETH AMLDDUW- IAETH. Gan Plas Gwyn. Tery Esgob (Butler y pwnc ar ei ben pan y dywed "fod rtiyw ball reswm (mewn arfaeth) yn rhywle, lie bynag y mae, oblegid y mae mewn gwrth- darawiad a chyfrifoldeb moesol dyn." Y mae tynged ac arfaeth wedi eu had- eiladu ar resymeg feddyliol, ond y mae hefyd resymeg greddf. Greddf yw y sylfon, a phan y daw i wrthdarawiad ai duwinyddiaeth, gwelir yr olaf yn rhoi ffordd. "Pe y credai pawb mewn tynged neu arfaeth, lleddid pob ymddyhead mewn dyn." Un o bethau mwyaf dyddorol credinwyr mewn tynged ac arfaeth oedd, ac yw y goel y gellid os- goi ar benderfyniadau y ddwy. Ai gwirioniaid at y dewin i gael gwybod beth oedd i fod, ac yna osgoent hyny; a chawn Calfin ac arfaethwyr eraill, er y credent fod Duw wedi arfaethu i ddyn fod yn annghredwr, eto collfarn- ent ef, ac yn fynych defnyddient offer dirboenus, a hyd yn nod dan i'w argy- hoeddi. Ni chredent eu dysg eu .hunain, oblegid yr oedd rhyw reddf o'u mewn a dystiai nad oedd tynged ac arfaeth y peth y coelient hwy eu bod. Credai y naill nad oedd tynged yn dynged holl- ol; a'r llall nad oedd arfaeth yn hollol y peth y daliai efe ei ibod. Mor wir yw ymadrodd y gwr hwnw "The doctrine of necessity has convinced no one; not even its authors." Y mae yn nglyn a pob athrawiaeth rywbeth a wrthdystia yn ei herbyn, a'r rhywbeth hwnw yw elfen reddfol o ymwybyddiaeth sydd i ymddadblygu ac agweddu ac yn ami ddyinchwelyd yr hen ddysg. Pan na chredai y duwinyddion mewn dadblygiad, ni ddaeth i'w meddwl beth oedd yr elfen neu y reddf wrthdystiol hon-parod oeddynt i goelio mai y diafol oedd, pan y dylasent gredu mai Crist bychn yn mhreseb yr ymwybyddiaeth oedd yno i oleuo y byd yn ei bryd. Yr oedd yr elfen hon, neu y reddf- resymeg hon, yn ddraenen yn ystlys yr arfaeth a'r etholedigaeth, oblegid pan y dadgenid fod Duw wedi arfaethu pob peth, gofynai hon "A phob drwg?" a thramgwyddai yr arfaeth. Dan law Calfin, edrychai yr arfaeth y ddwy ochr i bethau, ond cyn bo hir, aeth yn ddall o'r naill lygad, sef llygad yr ochr ddrwg a gwrthodedigaeth, ac aeth y duwinydd i anwybyddu yr ochr hono i'r pwnc. Cawsai y reddf- resymeg y trechaf arno i ddechreu. Maen tramgwydd a chraig rhwystr yr arfaeth yw bodolaeth pechod-y mae yn fagl na welsom neb yn dod yn agos at ei ddadrys. Amrywiai y Calfiniaid yn nglyn a chysylltiad yr arfaeth a phechod. "Arfaethodd Duw bechod," ebe un blaid. "Arfaethodd bechod yn oddefol," ebe'r blaid arall, beth bynag olygid wrth hyny. "Gwnaeth Duw fwy nag arfaethu pechod yn oddefol," ebe y mwyafri-f o'r hen Galfiniaid. "Arfaethodd Duw bechod yn achosol," ebe eraill; ac ebe un o dduwinyddion mwyaf Cymru, "Pechod yw yr unig beth nad yw Duw wedi ei arfaethu." Syniad rhyfedd iawn! Edrychir gan Galfiniaid o wahanol fathau yn y pum ffordd a ganlyn: Achosodd Duw ibechod; ni achosodd, eithr goddefodd ef; methodd a'i atal, ac annghofiodd neu ni wnaeth ddim yn nglyn ag ef, i'w achosi, ei oddef, ei atal &c. Ond y syniad hynotaf o'r oil yw eiddo Dr. L. Edwards, "Nid oes achos yn bod iddo." Eiddo Dr. Cynddylan Jones yw i Dduw arfaethu ei rwystro, ond iddo fethu, ond y llwydda i'w gael allan cyn y diwedd! I'r gofyniad pa fodd y gall Duw gael pechod allan, ac yntau wedi methu ei rwystro i fewn ei atebiad yw fod "ganddo foddion amgen i'w orchfygu nag oedd ganddo i'w atal." Felly fe welir nad oes gan Galfiniaeth fawr ddim goleuni i gadarnhau ei hathraw- iaeth fwyaf nodedig. Yr oedd Luther, Melancthon, Zwingli, Calfin a Beza yn priodoli an- genrheidrwydd diapiodol i bob peth sydd yn cymeryd lie, ac eto gwadent fod Duw yn awdwr pechod; ac ni wel- ent yr un annghysondeb yn y ddau' olygiad. Arweinient eu hunain yn syth i'r fagl mai Duw oedd achos pechod, ond mai ar yr effaith yr oedd y bai. Crewyd dyn i gymeryd yr euog- rwydd am bechod oddiar Dduw. Ni ellir osgoi casgliadau o'r fath; a phrofa y gwrthddadleuon cyndyn hyn na osodir yr athrawiaeth allan yn iawn gan Galfiniaid. Y syniad a arweiniodd y Calfiniaid i iawer o'u trafferthion oedd eu hoffder eithafol o'r gair "penarglwyddiaeth," ac ofnent i ddim ddianc na chai Duw y clod am dano. Nid yw y Beibl\mor gryf dros benarglwyddiaeth ag y bu Calfiniaeth, a hyny a'igwna yn llawer mwy boddhaol yn ei ddysgeidiaeth am Dduw. Cawn eylwi yn fanylach ar hyn eto. Un o ddrygau Calfiniaeth oedd ei heithafolrwydd. Dylynai resymeg yn rhy bell, nes tramgwyddo rheswm a greddf. Yn lie teimlo pryder yn ngwydd eithafolrwydd golygiadau y gyfundraeth, ymorfoleddent ynddynt, a gogonddent Dduw ag oeddynt yn ei amgylchu a chymylau duoji ameuaeth ac annghrediniaeth. Ymfalchient yn yr athrawiaeth a ddirmygai ac a sar- haai y reddf ddynol. Cymerer syniad Toplady, Calfin eith- afol iawn: "Nid oes ameuaeth na allasai Duw atal pechod, oni buasai iddo arfaethu y Cwymp." Cymarer hyn a golygiad Dr. Cynddylan Jones, a'r casgliad naturiol ac anocheladwy yw, pe y dymunasai ei atal nis gallasai am iddo wneyd y camgymeryd o'i arfaethu er tragwyddoldeb, yr hyn a'i rhwymai i gael pechod i'r 'byd. Yr oedd hyn yn nodweddiadol o'r Calfin-. iaid eithafol, sef y rhwyment Dduw a chadwynau ei arfaeth, a dywed Calfin yn bendant na wyddai Duw y dyfodol ond yn ol fel yr oedd wedi arfaethu pob peth i fod! 'Pa fodd," ebe C., y gallasai Duw ragweled, oni buasai wedi arfaethu?" Pe buasai dyn yn rhydd i weithredu, ni wybuasai Duw beth a wnai, yn ol Calfin; ac felly er bod yn hollwybodol, rhaid oedd ar- faethu i ddyn fyned yn ol rhaglen ar- benig; ond ni fuasai hyny yn un rhwystr i Dduw arfaethu ataliad pech- od. Felly yn ol Calfin, nid oedd Duw yn hollwybodol; nid oedd yn sicr o'r dyfodol heb benderfynu pa bethau yn unig oedd i ddygwydd. Tebyg i'r darllenydd glywed son am lyfryn a gyhoeddwyd yn 1840 gan y Parch. Richard Williams, Liverpool, ac a fu mewn 'bri annghyffredin am flynyddau lawer gan y Calfiniaid. Ei enw oedd "Y Pregethwr a'r Gwran- dawr"; ac yr oedd y Pregethwr yn ymresymwr cryf, ac arweinia bob sylw i'r eithaf, a'r eithafolrwydd hwn oedd grym a swyn y llyfr. Dywedai Lewis Edwards am dano "ei fod yn cynwys rhesymau o blaid Calfiniaeth nas gellir ar frys eu gwrthbrofi." Fel hyn y dywed am Adda fel y llofrudd penaf fu yn y byd erioed (tud. 28) cyfeirio y mae at bechod Adda, drwy yr hwn y lladdodd bawb: "Yr oedd yno lofrudd- iaeth na fu ei bath erioed; y mae llaw- er wedi lladd eu miloedd a'li myrdd- iwn, ond Iladdodd Adda ei holl hiliog- aeth ag un ergyd," a gorfoleddai yr awdwr mewn eithafolrwydd o'r fath! Gellid ateb y cyhuddiad hwn a'i droi i lawr ar frys, oblegid pe y dygesid y cldedfryd ar Adda y dydd y pechodd, ni fuasai wedi lladd neb ond ei hunan. Yn lie hyny, rhoes Duw drugaredd iddo, ac oediwyd y ddedfryd, yr hyn a ddaeth a'r hiliogaeth i fewn. Felly nid oedd cyhuddiad ac edliwiad R. W. ond cyfeiliornad seiliedig ar gam- gymeriad. Peth peryglus ofnadwy yw duwin- yddiaeth yn nwylaw enwadaetil neu athroniaeth benboeth a dallbleidiol. Gwrthdystia y reddf ddynol a'r reddf- resymeg ddynol yn erbyn yr hpll olyg- iadau tramgwyddus uchod, a phan yn las lencyn dadleuai P. G. yn eu herbyn bob cyfle gai, a gyda phregethwyr y rhai a edrychent gyda dirmyg arno. Ai tybed na hoffai y darllenydd gael ymdriniaeth yn nglyn a'r pynciau uch- od ar ddalen y "Drych," o ba y daeth yr athrawiaeth o arfaeth i'r gyfun- draeth Gristionogaeth; pa ffordd y daeth; pa ham y daeth yn amser Luther a Calfin yn athrawiaeth mor dra-arglwyddiaethus o gref, y dechreu- odd wanhau a chilio, fel na sonir llaw- er am dani yn ein dyddiau ni, oddi- gerth yn achlysurol? Paham y diflan- odd athrawiaeth mor bwysfawr, a pha ham y diflanodd erioed athrawiaethau y tybid eu bod yn gynseiliau y gread- igaeth? A thybed hefyd yr hoffai glywed am gyffelybiaeth anianol a bortrea yr arfaeth yn y fath fodd fel na wna Dduw yn awdwr pechod er yn cadw ei benarglwyddiaeth goruwch pob peth, ac eto heb ei wneyd yn achos drwg, gan wneyd pechadur ei hun yn euog ac yn gyfrifol am jei ddrwg? Gan mai hwn yw y syniad Efengylaidd, teimlwn y byd,d ein heg- lurhad yn gaffaeliad duwinyddol, ac yn foddhad ac esmwythad i ganoedd o feddyliau a ddirdynwyd erioed ar ar- teithglwydi yr arfaeth.
I Y DINESTIJD AMERICANAIDD.
I Y DINESTIJD AMERICANAIDD. Gan Thos. J. Roberts, Yorkville, N. Y. Traethawd Cyd-Fuddugol yn Eistedd- fod Utica y Calan, 1916. Unrhyw un wedi ei eni yn y wlad, sydd ddinesydd. Gall fod ei dad yn enedigol o'r wlad, ac yntau wedi ei eni mewn gwlad arall, nid yw hyny yn ei amddifadu o'i ddinasyddiaeth, os na bydd iddo ymgartrefu yno weddill ei oes. Hyd yn ddiweddar pwysleisiai Prydain Fawr y ffaith—"Unwaith yn Brydeiniwr, dros byth yn Brydein- wr;" ni chaniateid iddo fod yn ddin- esydd o unrhyw wlad arall. Erbyn heddyw mae pethau wedi newid. Pwy bynag ewyllysia ymfudo o Brydain Fawr, a dyfod yn ddinesydd o'r wlad hon, byddai yn tori pob cysylltiad a'i wlad enedigol. Os bydd dyn yn awydd- us i ddyfod yn rhan o'r genedl Ameri- canaidd mae yn ofynol iddo ddangos hyny trwy ^irefniant rheolaidd o eiddo y llywodraeth. Rhaid iddo amlygu ei fwriad i aros yma, ei fod yn hyddysg yn mhrif symudiadau, a sefydliadau y wlad, ac wedi trigianu ynddi bum mlynedd. Ar derfyn yr amser a-nod- wyd, os bu iddo ddwy flynedd yn flaen- orol i hyn hysbysu ei fwriad i ddyfod yn ddinesydd, gall fyned ar ei lw ger bron barnwr yn un o brif lysoedd y wlad, ei barodrwydd i ufuddhau, a bod yn ffyddlawn i'r llywodraeth. Rhaid iddo fod o gymeriad moesol da, yn dangos dyddordeb yn mhethau cyfan- soddiadol a llywodraethol, a thori pob cysylltiad a'i wlad enedigol, trwy dyngu nad yw yn ewyllysio mwyach bod yn ddinesydd, nac yn ddeiliad ei brenin, neu ei llywodraethwr. Wedi cydvmffurfio a'r pethau a nodwyd, es- tynir iddo dystysgrif, pa un sydd gyflead o'r ffaith ei fod bob amser, o dan bob amgylchiad, yn eiddo yr Unol Dalaethau, ac yn ychwanegol, ei fod i dderbyn yr un hawliau, a breintiau, ac amddiffyniad, ag sydd yn nodweddu pob dinesydd arall. Nid meddianu hawliau yn unig wna y dinesydd, ond fe wna ddefnydd priodol o'r hawlfreintiau a estynir iddo. Mae y gwir ddinesydd yn can- fod cyfleusderau yn agor o'i flaen sydd yn ei symbylu i weithgarwch diflino dros ei deulu, dros gymdeithas, a thros ei wlad. Nis gellir dweyd fod dyn yn berchenog darn o dir am fod gwifren bigog yn cael ei chyflwyno iddo, neu alw dyn yn heliwr campus am ei fod wedi derbyn gwn yn anrheg, mwy nas gellir dweyd fod y dyn yn ddinesydd am iddo dderbyn ei hawliau. Nid gwobrwvon nac addurniadau yw hawl- iau, ond cyfleusderau, a chyfryngau trwy y rhai y bwriada y gwir ddines- ydd symud yn mlaen i gyflawni ei am- rywiol ddyledswyddau. Collir golwg yn fynych ar werthfawredd yr hawliau hyn, nes peri fod dynion yn annghofio fod gwir werth pob hawl yn sicr o godi jieu ddisgyn gyda'r defnydd neu y cam- ddefnydd a wneir o honynt. -lid oes dim ag mae y dinesydd Americanaidd yn ei werthfawrogi yn fwy na rhyddid barn a llafar. Rhaid iddo, serch hyny, gadw mewn golwg nad yw gwlad sydd fel hon yn rhoddi hawl iddo fyned dros ben yr hyn sydd fuddiol, a doeth. Gall siarad yn gy- hoeddus, a thraddodi anerchiadau, ffurfio barnau a'u hegluro yn y fhodd mwyaf tanllyd, ysgrifenu, a chyhoeddi llyfrau yn eu hegluro i'r byd, ond iddo beidio ymyryd a hawliau, neu iselhau cvmeriad ei gyd-ddyn, trwy y cyfryw foddianau. Ni chaniateir y rhyddid hwn yn Germani, cosbir yn drwm pwy bynag a_geir yn euog o ddweyd, ys- grifenu, neu argraffu unrhyw beth a fyddo llesol neu yn aflesol yn ei ber- thynas a'r wladwriaeth. Mae gair o enau y Caiser yn ddeddf, ac yn* derfyn ar bob dadl, nis gall ymddiried i'w ddeiliaid yr hawlfraint ag sydd yn nod- weddu bywyd yr Americanwr, am fod ganddo ofn i'w bobl godi cynwrf, neu wrthryfel o fewn ei deyrnas. Nid felly y mae yn yr Unol Dalaethau, yr hon sydd yn cael ei llywodraethu gan ei phobl, o dan reolau, deddfau, a'i chyf- reithiau ei hun. Caniateir i bob dyn ddweyd, ysgrifemi, neu argraffu un- rhyw beth a ewyllysia. ond iddo gadw o fewn y terfynau. Gall, os dymuna, feirniadu, a gweled bai ar bawb, a pbob peth yn y wladwriaeth, heb ofni gwg na gwen neb. ,Mae gan y dinesydd hawl i anfon llvthyr unrhyw adeg i unrhyw fan, heb i neb yn y wladwriaeth ymyryd ag ef, oblegid nis gellir yn gyfreithlon, hyd nod pe gallesid profi hyny yn rhesym- ol, hawlio llythyr o unrhyw lythyrdv, ond yn unig gan ysgrifenwr y llythyr ei hun, hyd nes y bydd iddo gyraedd