Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
[No title]
Ymson Hiraeth. Cyflwynedig i William E. Evans, West Pullman, Chicago, Ills., ar ol ei eneth, Anna. Mi gollais fy angel, Fy angel bach tlws, Fu'n canu, fu'n chwareu o gwmpas fy nrws; Gadawodd fi'n unig, Nis gwn i paham; Ond heddyw mae'n canu Wrth ochr ei mam. Fy Anna fach anwyl, A hedodd i'r nef; Dychymygaf er hyny Y clywaf ei lief; Mae eto yn canu Yn swynol ei thant A chlywaf yr eco, Yn ngharol y plant. Hiraethus wyf heno Am ngeneth fach wen, Ac Aunti* mewn galar A gofid dros ben; Ond rhaid yw tawelu 'R addewid sy'n gref, Fod gobaith caf eto Ei chwrdd yn y nef. *Ei Modryb, Ellen Evans. IDRIS O'R LLWYN. ——— o ——— Ein Dwyfol Dad. Ein Dwyfol Dad, Anfeidrol lor— Dwys gofia'th blant ar dir a mor; A'th eglwys hefyd ddwyfol graig, O! gwarchod hi rhag drygau'r ddraig. Mae'r bwystfil erch ar faes y gad Yn ruddo'r ddaear yn mhob gwlad; A dymchwel mae dy demlau mawr Ni thycia ef faint ddug i'r llawr. Y ddraig a'r bwystfil cadw draw Rkag i'r ddynoliaeth fynd o'th law; Cyfiawn, 0! Arglwydd, ydwyt Ti- Trugaredd rhad yw d' ewyllys Di. A chywir yw dy farnau'i gyd, Heb un wna d' ameu yn y byd. Tydi, yr Hollalluog Mawr— Yw Brenin nef a daear lawr; Mae dyn yn awr am fod yn ben- Tydi a wyr os ef yw'r pen. D. F. LEWIS. o Cerbyd Amser. I 0 holl gerbydau gwych y byd Yr amser ydyw'r goreu; Mae hwn yn myned yn ddibaid, Heb aros hwyr na boreu. Nid cyfoethogion gwych y byd Yn unig gludir ganddo; Ond hen ac ieuainc, tlawd a'r gwael, 'Does un dyn heb fod ynddo. A myn'd y mae bob dydd a nos 'Does atal i fod arno; Na dim i ddygwydd ar ei daith Ein Duw sydd yn ei wylio. Er hyned yw, mae eto'n mynd, Mae wedi cludo'r miloedd; Aeth rhai i wae o'r cerbyd hwn Ac eraill, do, i'r nefoedd. 'Rwyf finau hefyd yn y dorf 0 fewn i gerbyd amser; Ac 01 am fyw wrth fodd fy Nuw, Af adref yn ddibryder. Mae cerbyd amser ar ei daith Er's blwyddi maith yn teithio; Ond gwelaf awr a phen ei daith A'r teithwyr wedi glanio. Hyd foreu'r farn, mae hwn yn mynd, Rhaid newid y fan hono, Am gerbyd tragwyddoldeb maith Am byth i aros ynddo. 10AN EURON. Llwyd Sior. I (Gwobrwyedig) Sior oedd Gymro cyn ei eni; Cymry oedd ei holl rieni; Mae o foncyff enwog heini Cymro oedd erioed; Pan y'i ganwyd, Cymro ydoedd A'i holl ddoniau yn eu lleoedd; Daeth y rhai'n i Sior o'r nefoedd- Cymro oedd erioed. Cymro ar y bronau Cymry ei deganau; Yn ei en ac yn ei wen 'Roedd Cymru hen o'r dechreu; Yn ei athraw a'i addysgiant Yn ei ofid yn ei fwyniant, Cymru roddodd iddo'i lwyddiant- Cymro oedd erioed. Pan chwareuai gyda'r plantos, Gan eu denu byddai dangos Nodau beth oedd yn ei aros- Arwain byddai ef; Pan yn llencyn yn yr ysgol, Pan fai hyny yn ofynol, Gwnai ei ran yn ddigamsyniol- Arwain byddai ef; Dysgwyl fel mae dysgu Enfawr yw ei allu Mae ei sel ar bobpeth wnel Yn hywel i'w ryfeddu; Pan yn helbul blin arholiad Yn ymestyn byddai'n wastad I ragori dyna'i gariad- Arwain byddai ef. Wedi gafael yn y gyfraith, Aeth i drwsio ar ol treiswaith, A chadd enw da ar unwaith- Concro byddai ef; Soniwyd am ei roi'n y Senedd, Yno'r aeth ac nid oedd ryfedd, Gan fod ynddo'r fath gyfaredd- Concro byddai ef; Enill byddai yno 'N brydlawn 'byddai'n brwydro Dros ei wlad rhag trais a brad Ei galwad byddai'n gwylio; Curai'n burion yn mhob berw; Curai Joseph, gwr oedd arw; Carai hanos y cawr hwnw- Concro byddai ef. Tra boreuol i'r Boeriaid Rhodd ei enw'n rhydd a'i enaid I'w hanogi rhag anwariaid- Dyna'r dyn oedd ef; Aeth er gwaethaf gwawd hil gethin, G-wariodd i oleuo gwerin Am eu hachos am eu hochain- Dyna'r dyn oedd ef; Safodd a deisyfodd Gofwy byr a gafodd; Llu y gan oedd arno'n cau, Drwy onglau y diangodd; Rhyddid barn a lyffetheiriwyd; Bodau clodwiw nid arbedwyd; Llwyd o Gymru a ddirmygwyd- Dyna'r dyn oedd ef. Heddyw pan mae'r byd yn baeddu Gwyn i ddyn a gwae a gwaedu, Caed rhyw foddion i'w ryfeddu Gan y Cymro dewr; Llygredd aethus gwladwriaethol, Agwedd lesg y corff swyddogol Fu yn achos gwir ofynol Am y Cymro dewr; Gwelwch fel mae'n gwylio, Llywyddu mae a llwyddo; Ca y gwan ef yn y man I fynd i'r fan a fyno; 'R olaf gnoc ga doc ei dalu I'r du geisbwl dwl a'i deulu, Ac fe gwnir cor i ganu Am y Cymro dewr. Bydd yn llawer mwy na'r Wyddfa Pawb a'u llond heb ond am India 0 ddigelwydd ryddid Gwalia Mawr a fydd Llwyd Sior; Dyma'r gwr a rydd i'r Gwyddel Diwyd les a'i wlad fydd dawel, lach y byd ac ef fydd uchel Mawr a fydd Llwyd Sior; Os i'r nef yr elo, Os yw Duw am dano, Rhaid i ddor mawr yr lor I'w lawnled agor iddo Rhaid ei arddel a goegorddlu, 0 gymeriad ucha'r Cymry, Gabriel i'w fewnddwyn at Iesu Mawr a fydd Llwyd Sior. Bangor, Canada. L. GABRIEL.
HUMBOLDT PARK. CHICAGO. ILL.…
HUMBOLDT PARK. CHICAGO. ILL. Gan Wm. Ishmael Jones. Wele ddarlun pur gywir o wrthrych yr ysgrif hon, sef y diweddar frawd, Mr. Wm. G. Rowlands, 1816 Nebraska Ave., a chyda galar yr wyf yn ceisio cofnodi marwolaeth a chladdedigaeth un o ragorolion y ddaear, yr hyn a gymerodd le ddeng mynyd i chwech brydnawn dydd Mawrth, Meh. 12fed, yn ei gartref uchod. Wm. G. Rowlands. I Ganwyd ef Mai lOfed, 1848, yn Ysgubor Ddegwm, plwyf Llanddona, Mon, G. C., felly yr oedd yn 69 mlwydd oed pan fu farw. Mab ydoedd i Wil- liam ac Ellen Rowlands, efe y diwedd- af un o naw o blant; pedair chwaer a phedwar brawd wedi ei ragflaenu i'r ochr draw i'r lien. Ymadawodd o'i gartref pan tua pymtheg oed, gan ym- sefydlu yn Bethesda, Arfon, a thra yno dysgodd y greff t o blastrwr, &c., gyda'i ewythr, sef y diweddar Mr. Robert Jones (slater), ac yno hefyd ymbriod- odd a Gaynor Hughes, a daethant i'r wlad hon yn y flwyddyn 1873, ac ym- sefydlasant yn Chicago. Ganwyd idd- ynt ddeuddeg o blant, ond nid oes yn aros ond dwy ferch, sef Mrs. D. J. Evans a Mrs. R. R. Hughes. Bu farw un ferch Ann Jane yn dair oed; eu mab, Thomas, yn ddyn ieuanc, a William yn 43 oed; yr oil o'r plant eraill yn marw yn eu babandod. Tua pymtheg mis yn ol, cafodd ergyd par- lysaidd un noson, effeithiodd hyny ar ei ochr chwith, a bu yn analluog i ddy- lyn ei waith, ond daliodd yn galonog a gobeithiol y buasai yn cael adferiad, ond er pob dyfais ac ymdrech feddygol a gofal diflino ei briod a'r plant, gwaethygu fu ei hanes. Un boreu cwympodd yn y ty, a chafodd niwed i'w ben, a bu o hyny yn orweddog, ac yn mhen wythnos i'r diwrnod, galwyd ef adref at ei wobr. Ddydd Sadwrn, Meh. 16, daeth tyrfa fawr o bobl at y ty i dalu y gymwyn- as olaf iddo. Cynaliwyd y gwasan- aeth angladdol yn eglwys Hebron, oblegid bychanrwvdd capel Cymraeg Humboldt Park. Yr oedd cylch ei ad- nabyddiaeth mor eang, a dangoswyd hyny trwy i gynulleidfa fawr o bo-bl ymgasglu yn nghyd o bob cwr o'r ddinas, a llawer o'r tu allan, ac, yn wir, yr oedd yn deilwng o'r oil. Yr oedd yn aelod o Gyfrinfa Madoc o'r Gwir Iforiaid Americanaidd. Yr oedd cynrycniolaeth fawr o'r Iforiaid yn bresenol. Daearwyd yr hyn oedd far- wol o hono yn mynwent Forest Home, a gwasanaethwyd yn y ty, yn y capel, ac ar lan y bedd gan y Parch. J. C. Jones, D. D. Adroddwyd gwasanaeth angladdol yr Iforiaid gan Mr. Trefor Jones yn y capel ac ar lan y bedd; hefyd nodwyd Mr. John T. Jones i gymeryd rhan fel cydswyddog a'r ym- adawedig yn eglwys Humboldt Park am flynyddau meithion. Yr arch- gludwyr oedd chwech o hen gyfeillion mynwesol iddo: Mr. John T. Jones, Mr. George Evans, Mr. William Jones, Mr. Henry Jones, Mr. E. R. Owen, a Mr. William Hughes. Cyfeiriodd Dr. J. C. Jones yn daraw- iadol iawn at hanes ei fywyd fel milwr da i lesu Grist; hefyd am y profedig- aethau chwerwon a gafodd yn yr an- ialwch. Yr oedd wedi cael y fath brofiad fel yr oedd yn gallu byw uwchlaw amgylchiadau, yn ysbrydol ei feddwl, a llawen ei deimladau. Collodd y fam a'r plant briod a thad ffyddlon a gofalus; collodd yr eglwys un o'r colofnau mwyaf cadarn, a chollodd y genedl Gymro o'r iawn ryw. Hefyd gadawod.d saith o wyrion, sef Mary Eleanor Evans a David Roy Ev- ans; William, Jennie, Elmer a Gwlad- ys Rowlands, a'i brawd bach sydd wedi ei fabwysiadu gan Mr. Owen a'i briod, Charles City (brawd i'w fam yn hon fu farw ar enedigaeth y bachgen bach) hefyd llu mawr o berthynasau agos. Yr oedd Mr. Rowlands yn cadw busnes ei hun, sef plastro, er's blyn- yddau lawer, wedi ei dori allan i fod yn naturiol felly, bob amser yn brys- ur ac yn effro i'w ddyledswyddau; llawer iawn o fechgyn Cymru wedi dysgu y grefft gydag ef, a'r oil wedi troi allan yn grefftwyr rhagorol. Yr oedd hefyd yn gymeriad gwreiddiol iawn, doniol a hunanfeddianol, bob amser pan godai i siarad mewn un- rhyw gyfarfod, byddai ganddo destyn i wneyd pawb i wenu. Ni ddywedai bvth air gwael am neb, ac ni hoffai glywed neb arall yn gwneyd hyny. Yr oedd yn un o aelodau hynaf eglwys Gymreig Humboldt Park. yn flaenor, ac arweinydd am flvnyddau meithion, a theimlai bob amser yn gynes iawn at bethau crefydd. Yr oedd pi oes ef yn oes o aberth cymeradwy gan Dduw a goreuon dynolryw. Byddai ganddo adnod neu benill yn barod bob amser ar gyfer unrhyw amgylchiad. "Sicr- haodd i'w enw anfarwoldeb," a bydd ei goffadwriaeth yn fendigedig yn y ddinas hon. Yr oedd ei dy yn agored i bob pregethwr i fyned yno i aros, a chroesaw calon i bob achos teilwng. Yr oedd hefyd yn dderbyniwr cyson o'r "Drych," ac yn darllen llawer arno. Odlau hiraeth a gyfansoddwyd ac adroddwyd yn ei angladd gan Mr. John T. Jones, Hiraeth weithiau leinw'n calon Am ein hen gyfeillion cu Sydd yn gadael teulu Seion Yma yn yr anial du; William Rowlands, yntau giliodd Hwnt y lien i'r drigfan lan; Cawsom gyda'n gilydd wleddoedd Yn nghyfeillach plant y gan. Lesg bererin, ca'dd ollyngdod, Wedi dwys flinderog daith; Cefnodd, do, ar fyd y trallod Wedi diwrnod hir o waith; Melus bellach fydd gorphwyso Yn y deg baradwys draw, Lie na chlywir neb yn cwyno, Neb yn son am boen na braw. Canu bu mewn hwyl emynau Seion yma ar y llawr, Dysgodd hefyd ei hanthemau Tra yn ngwlad y cystudd mawr; Yn rhyferthwy'r storom enbyd Ar wyn donau'r garw for, Moliant Seion oedd ei wynfyd "Cyn cael telyn yn y cor." Wedi mordaith hir dymestlog, Cyraedd wnaeth i dir ei wlad; Yn ei ddysgwyl 'roedd coronog Deulu dedwydd ty ei Dad; Cwhwfanent eu banerau I'w groesawu, deithiwr blin; Caiff fod bellach heb ei ddagrau Ag emynau ar ei fin. Caru wnaeth hen iaith ei dadau, Yn angerddol berwai'i waed Dros iawnderau iaith y bryniau, Pan y byddai'n cael sarhad; Iddo ef 'doedd iaith fel hono Ddysgwyd iddo gan ei fam; Byth ni pheidiai a'i hanwylo; Yn ei galon ni cha'dd gam. Bellach wedi'r blin fordwyo, Caiff fod byth a'i draed yn rhydd, Ac mewn ieuanc nwyf caiff rodio Heirdd heolydd gwlad y dydd; Heb un ffon, na chloffni mwyach Mewn tragwyddol bur fwynhad Yn y felus fwyn gyfeillach Gyda phlant y nefol wlad. Bydd yn chwith genym weled ei le yn wag yn y capel. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad gan y frawdoliaeth nos Sul diweddaf a'r teulu yn eu prof- i edigaeth. Bydded i Dduw nerthu ei anwyl briod a'i blant i ddal y profedig- aeth hon. r
IYSGOLION SABBOTHOL UTICA,…
YSGOLION SABBOTHOL UTICA, ROME, A'R CYLCHOEDD. Gweithrediadau Pwyllgor y Gymarifa 1917-1918. Aelodau y Pwyllgor: Llywydd, John 0. Thomas, Moriah; is-lywydd, E. H. Owens, Rome; trys., Sam Ellis, Mor- iah; ysg., John S. Williams, R. D. 6, Rome, N. Y.; Humphrey J. Morris, Floyd; William J. Williams, Oriskany; E. Herber Evans, Moriah; Enoch W. Morris, New Hartford; Robert A. Wil- liams, Peniel; Parch. D. Morgan Rich- ards, Utica; Dr. R. T. Roberts, Rome. Pwyllgor Tafleni Canu, Robert A. Williams, Utica; E. Herber Evans, Utica; John Lewis, Rome. Cynelir y Gymanfa nesaf yn Rome, y trydydd Sabboth o Fai, 1918, a bydd tri cyfar- fod 10, 2 a 6 o'r gloch. Llywyddion, boreu, Parch. Robert Roberts, Floyd; prydnawn, William G. Thomas, Utica; hwyr, Evan T. Williams, Utica. Ar- weinydd canu, Proff. John Griffith Thomas, Utica; cyfeilwyr, Miss Irena Jones a Jay G. Williams, Rome. Beirniaid: Dos. 1, 2, 3, 4, a'r Traeth- odau, y Parch. J. W. Mathews, Bangor, Pa. Arholwyr: Dos. 7, "Hyfforddwr," Mrs. W. G. Thomas, Utica, a Jannett Humphreys, New Hartford. Arhol- wyr, "Rhodd Mam," Dos. 5-6, Moriah a Peniel, John Lewis, Rome, a Ellis G. Griffiths, New Hartford. Rome, Hugh J. Jones a William J. Roberts, Utica. New Hartford, Caleb E. Davies, Utica. Oriskany, Daniel I. Jones, Rome. Floyd, John S. Williams, Rome. Frankfort Hill, William R. Williams, Utica. Gofalwyr, Dosbarthiadau ys- griferiedig, yn Moriah a Peniel, Enoch W. Morris, New Hartford. Yn Rome, Sam Ellis, Utica. Yn New Hartford, Owen Hughes, Utica. Oriskany, Dan- iel 1. Jones, Rome. Floyd, J. S. Wil- liams, Rome. Frankfort Hill, Wm. R. Williams, Utica. Meusydd Llatur: Dos. 1, dros 25 oed, Efengyl loan, pen. 17; dos. 2, dan 215 oed, Efengyl loan, penod 11; dos. 3, dan 18 oed, Efengyl loan, pen. 12'; dos. 4, dan 15 oed, Efengyl loan, pen. 9; dos. 5, dan 15, "Rhodd Mam," 5 a'r 6 benad a'r adnodau. Dos. 6, dan 10 oed, "Rhodd :Mam," 5 a'r 6 heb yr adnodau. Dos. 7, dan 18 oed, Dysgu allan ac adrodd y 5ed benod o'r Hyfforddwr. Traethodau-I rai dros 2-5 oed, "loan yr Efengylwr fel apos- tol ac awdwr." I rai dan 25 oed, "Neillduolion gwahaniaethol Pedr, Iago ac loan." Yr oil o'r arholiadau ag eithrio "Hyfforddwr" i gymeryd lie Sabboth, Ebrill 2lain, yr arholiad ys- grifenedig, Dos. 1, 2, 3, 4, o ddau hyd bump o'r gloch, y "Rhodd Mam" yr adeg mwyaf cyfleus i'r Ysgolion. Yr Hyfforddwr ddydd y iGymanfa, ar ol cyfarfod y prydnawn. Gofynir i'r ym- geiswyr fod dan neu dros yr oedran a nodir ar ddechreu blwyddyn y Llafur f.Mai laf). Bydd y gofyniadau yn Gymraeg a Saesneg, a chaniateir eu hateb yn un o'r ddwy iaith, a cheir fair awr o amser, gyda Beibl (heb-nod nac esboniad). Y Traethodau i fod yn llaw yr Ys- grifenydd, heb fod yn dd!Weddarach na Mai 1. Yr wyf wedi gwneyd fy ngoreu i dalfyru rhag myned yn rhy faith. Bydd taflen y Meusydd Llafur allan mor fuan ag y gellir ei chael. Apeliwn at y rhieni ac athrawon yr Ysgolion Sabbothol am eu cydweith- rediad i geisio perffeithio yr arholiad, a'i wneyd yn beth cyffredinol, ac nid oes dim yn fwy hanfodol na dechreu yn brydlon. Ceir y gwobrwyon, a'r fantojen arianol yn y daflen.John S. Williams, Ysg.
WAR ATLASES.I
WAR ATLASES. Darllenwch yr hysbyslad am War Atlases ar tudalen 8 o'r rhifyn hwn. Bydd unrhyw un o'r tair yn gymorth sylweddol i ddylyn symudiadau y bvddinoedd yn y rhyfel presenol. Archebwch un yn ddioed.
Y GWIR ANRHYDEDDUS DAVID LLOYD…
Y GWIR ANRHYDEDDUS DAVID LLOYD GEORGE. A. S. Traethawd Buddugol yn Eisteddfod Los Angeles, Calif. Gan J. R. Williams, Long Beach, Calif. Mae'n ddiameu mai David Lloyd George ydyw y cymeriad mwyaf dy- ddorol, yn ogystal ag ardderchocaf mewn gwleidyddiaeth Frytanaidd heddyw. Rhodd Duw i'r genedl ydyw -yn ddyn o dalentau goruchel, ac eg- wyddorion ac argyhoeddiadau cryfion, yn meddu rhesymeg gyflym, gwelediad clir; a brwdfrydedd di-ildio dros gyf- iawnder, rhyddid ac iawnder, yr oil yn gymhleth ag hyawdledd argyhoedd- edig yn gyru'r genadwri adref i galon a deall y bobl. Fel yr oedd Paul yn Hebrewr o'r Hebreaid, gellir dweyd am ein gwrthrych ei foa yn Gymro o'r Cymry, yn -caru'n angerddol ein cenedl ni, ac fe gar bob Cymro y gwr a fag- odd Cymru yn mherson David Lloyd George. Fe ddywedodd A. G. Gardiner, golygydd y "Daily News," yn ei lyfr "The War Lords," "Os mai Mr. Asquith yw ymenydd y weinyddiaeth, a Syr Edward Grey ei chymeriad, Mr. Lloyd George yw ei hysbrydiaeth." Ganwyd David Lloyd George yn Manceinion lonawr 17eg, 1863. Mag- wyd ei dad, Wm. George, mewn car- tref hynod o grefyddol; Bedyddwyr oedd ei rieni, ac fe benderfynodd eu mab fod yn athraw. Dechreuodd ar ei waith yn Llundain, ac wedi hyny yn Lerpwl. Dychwelodd i Gymru yn 1852 yn athraw mewn ysgol Ramadegol yn Haverfordwest, ac yn y flwyddyn 1857 aeth yn ysgol feistr ar yr Ysgol Fry- tanaidd yn Mhwllheli. Dywedir am dano ei fod yn wr o argyhoeddiadau cryfion, ac yn anorchfygol mewn rhe- symeg a dadl. Yn y flwyddyn 1859, priododd foneddiges o lwyth Cymreig, merch i David Lloyd, Llanystumdwy, G. C. Gan uno egwyddorion dyrchaf- edig gyda barn addfed, profodd ei hun yn ymgeledd gymwys a delfrydol iddo. Yn 1863 cymerodd ysgol eang yn Man- ceinion, dan ei ofal, ac yno y ganwyd y gwron Cymreig, David Lloyd George. Cyn i'r 'bachgen gyraedd ei flwydd oed, gadawodd ei dad ei swydd fel athraw, a throdd at amaethyddiaeth. Bu farw o pneumonia yn 1864 yn 44ain mlwydd oed, gan adael Mrs. George a'i dau blentyn mewn amgylchiadau cyf- yng. Yn yr argyfwng yma, derbyniwyd y weddw a'i dau blentyn gan Richard Lloyd, brawd Mrs. George, i'w gartref yn Llanystumdwy, ryw ddwy filldir o Griccieth, a gosododd o'i flaen y gor- chwyl o addysgu plant ei chwaer fel dyledswydd gysegredig a goruchel. Xid oedd yn y cartref hwnw gyfoeth, ac yn ol tystiolaeth Mr. Lloyd George ei hunan, peth tra ameuthyn iddynt oedd haner wy i bob plentyn ar foreu Sul; ond er hyny, yr oedd yno ysbryd aberth ac annibyniaeth oedd yn werth- fawrocach nag aur coeth. Gellir dweyd am ein gwrthrych mewn gwir- ionedd mai "y bachgen oedd tad y dyn." Dysgodd wleidyddiaeth a chref- ydd oddiwrth ei ewythr, yr hwn oedd yn Ryddfrydwr cryf ac Ymneillduwr pybyr. Carai ein gwrthrych y coed a'r afonydd o gylch ei gartref, hoffai ei lyfr, ac amlygodd allu neillduol i gasglu gwybodaeth yn ieuanc iawn, Mynychai Ysgol Genedlaethol dan adclysg athraw o'r enw David Evans, ac yn naturiol iawn, yr oedd yr Ym- neillduwr ieuanc mewn Ysgol Genedl- aethol yn swmbwl yn y cnawd i Berson y plwyf, a'r Rhyddfrydwr ieuanc yn boen i wr y Plas. Cyfeiria Mr. Lloyd George yn fynych at Efail a berthynai i un Hugh Jones, gof y pentref, fel "ei senedd gyntaf," lie y dadleuent ac y penderfynent bob achos yn nglyn a'r eglwys a'r wladwriaeth. Yma dys- gyblodd Mr. Lloyd George y ddawn i jddadleu sydd erbyn heddyw wedi ei I hynodi yn ngolwg y byd. Cynyrchwyd hwydd ynddo'n foreu am fod yn gyfreithiol, yr hyn olygai iddo ef lafur diflino, a chynorthwy penderfynol ar ran ei ewythr. Pan yn 15eg oed, dechreuodd fel clerc, a phan yn 17eg oed, gweithiai gyda Mr. Casson, yr "agent" Rhyddfrydol dros Feirionydd, a pharth o sir Gaernarfon. Y pryd hwn dan y ffugenw "Brutus," ysgrifenai erthyglau ar wleidyddiaeth i'r papyrau lleol. Pan yn 21ain oed, pasiodd yn gyfreithiwr gydag anrhyd- edd. Yn fuan iawn, enillodd gymer- adwyaeth fel cyngorwr medrus a di- ofn, tra er mor galed y gyfraith, nid annghonai ei wleidyddiaeth, ac fe brof- odd fod dawn ymadrodd yn rhodd werthfawr mewn cymdeithas bob am- ser. Y mae ei bresenoldeb apeliadol, ei dalcen llydan lle'r eistedd brenines dysg mewn rhwysg, ei lygaid treidd- gar a byw, ei dafod arian, ei ateb parod, gyda'i adnabyddiaeth drwyadl o dymeredd ei wrandawyr—y mae'r oil yn ei wneyd yn feistr ar y ddawn dden- iadol hon. Yn Ionawr, 1888, priododd Mr. Lloyd George gynorthwyydd gwirion- eddol yn mherson Miss Maggie Owen, o Griccieth. Yn yr un flwyddyn dewis- iwyd ef yn ymgeisydd Seneddol gan Ryddfrydwyr Bwrdeisdrefi Caernar- fon. Enillodd y sedd, a throsglwydd- odd ei fusnes i ofal ei frawd, Mr. Wm. George, a dechreuodd ar unwaith ar y gwaith sydd wedi ei hynodi fel arwr gerbron y byd drwyddo draw. Cyn son am ei wasanaeth anmhrisiadwy i'r wladwriaeth, hoffem gyfeirio ato mewn perthynas a chrefydd. Fel y cyfeiriwyd, gwreiddiwyd ef yn ieuanc yn egwyddorion sylfaenol Annghyd- ffurfiaeth Cymru. Dechreuodd ei yrfa grefyddol gyda'r Bedyddwyr, a phery yn aelod gyda'r enwad parchus hwnw hyd heddyw, canys y mae ei enw ar lechres aelodau eglwys y Bedyddwyr1 Cymreig yn Castle Street, Llundain. Y mae Mr. Lloyd George wedi cvmeryd ei safbwynt ar yr un mynydd ag y tra- ddododd lesu Grist y bregeth sydd i fod yn rheol bywyd i oesoedd y byd, a seilia ei wleidyddiaeth ar egwyddorion tragwyddol, ac am hyny, y mae wedi enill ymddiriedaeth y genedl fel gwleidyddwr egwyddorol. Y mae cref- ydd y Groes yn cydredeg a phob act o'i fywyd, a dim rhyfedd felly i ryw hen frawd o Dyffryn Clwyd ddweyd am clano, "Nid man-made politician" ydio ond "God-mac}e politician." Dywedir am Mr. Gladstone ei fod bob amser yn gweddio cyn traddodi ei areithiau; yn troi at Dduw mewn gweddi: cyn troi at ddynion mewn araeth, a llawenydd yw sylwi ar deyrngarwch Mr. Llovd George i'w Dduw a'i ffyddlondeb i'w grefydd. Wedi dychwelyd o'n gwrth- rych o Gaernarfon i Griccieth un nos Sadwrn ar ol un o'i fuddugoliaethau etholiadol, ac er gwaethaf blinder a lludded, a llawenydd yr etholiad, gwel- wyd ef gyda'r cyntaf foreu dranoeth yn cymeryd ei le yn mhlith yr addol- wyr am 10 o'r gloch yn nghapel Berea. Ni chaniatai i'r byd fyned rhyngddo a'i Dduw. Ceisiai yn gyntaf deyrnas Dduw, ac yna gallai wneuthur cyfiawn- der ag hawliau dynion. (I'w orphen yn ein nesaf).
ISCRANTON. PA.
SCRANTON. PA. Diwrnod mawr yn Hyde Park.—Ym- weliad y Parch. T. Teifion Rich- ards a'r Gorllewin. Gan Ieuan Fardd. Diwrnod mawr fu y Pedwerydd yn Hyde Park, pan y codwyd b'aner ar- dderchog yn y Fellows Park yn ymyl cartref leuan Fardd! Nid oes angen ymhelaethu gan fod y cyfryw beth yn cymeryd lie mor gyffredin dros y wlad y dyddiau presenol, rhagor na dweyd mai y Barnydd H. M. Edwards oedd yn llywyddu y gweithrediadau, ac aeth trwy y gwaith fel arfer, ac fel efe ei hun. Yr uni,g fai ar y Barnydd, yn ol y Dr. H. O. Rowlands pan fu yma yn ddiweddar yw, ei fod yn cadw yn rhy ieuanc o'i ddosbarth, ac yr ydym ni ei gyfeillion a'i edmygwyr yn dweyd "Amen" hwyliog i'r gwirionedd. Gwnaeth ein cenedl ni ei rhan yn ar- dderchog iawn yn nglyn a'r fusnes, y Proff. David W. Phillips, mab y di- weddar Celyddon, yn traddodi araeth benigamp ar y Faner, y digymar Tom Beynon yn canu, a'r Proff. W. W. Jones, mab y diweddar loan Jones yn arwain y cor. Cafwyd anerchiad gan y Pabydd, yr hybarch Dad Andrew, a baich ei araeth oedd gwrhydri yr hen eglwys Rufeinig yn nglyn a'r wlad a'i rhyddid, swniai y peth yn ddyeithr i glustiau Eben P. a minau ar achlysur o'r fath. Yn ystod yr orymdaith cef- ais y fraint o eistedd ar ein dor- borth ni, rhwng Even P, ac Efrog; Eben ar y chwith, ac Efrog ar y dde, am mai clust chwith y bardd yw y craffaf o'r ddau! Yr oedd Efrog new- ydd ddychwelyd adref o Eaglesmere, Pa., lie bu yn treulio dau Sul yn pre- gethu i'r ymwelwyr hafol yno; edrycha yn dda ac yn lion a hwyliog ei ysbryd yr hyn a brawf i'r newid awyr fod yn fendithiol. Llwyddiant iddo yn mhob dim. Rhai nosweithiau cyn hyn, cefais y mwynhad o ddarllen yn mlaen llaw erthyglau Eben P. sydd i ymddangos yn y "Drych" yr wythnosau presenol, y rhai ydynt atebion, yn benaf, i Brymbo a W. H. Williams, ac yn addysg i'r lleill o honom. I'm barn i, y maent yn Amen ar y fusnes, a go- beithio y bydd y brodyr uchod a'u meddyliau yn agored i dderbyn yr eg- lurhadau a'r addysg. Y mae y Parch. T. Teifion Richards wedi derbyn gwahoddiad i dreulio mis Awst yn mhwlpud Eglwys Gyntaf y Bedyddwyr yn San Francisco. Nid oes angen udganu o flaen Teifion, gan ei fod yn bur adnabyddus. Cyfle rha- gorol fydd hwn i'n cenedl yn y Gor- llewin pell i wrando Teinon. Mae yn bregethwr da yn y ddwy iaith, yn siar- adwr hwyliog, dyddorol ac adeiladol. Mae ganddo hefyd, ddarlith amserol iawn ar y testyn, "On the Firing Line," canys yr oedd Teifion yn y Cyngrair Rhwngwladwriaethol ar lan Lake Constance yn yr Yswissdir pan dorodd y rhyfel allan. Ar ei "fis mel" yr oedd, ond ni fu hyny yn un rhwystr iddo, yn hytrach fel arall, gan fod ei wraig yn ddynes ieuanc synwyr- ol a thalentog, bu yn gynorthwy iddo i gael golwg gliriach a mwy ymarferol ar bethau. Anerchiad gwerth ei wran- do yw hyn, a chewch hwyl yn clywed Teifion yn ei draddodi. Ysgrifenir ar ei ran at y brodyr da yn Denver, Salt Lake, Portland, Seattle a Spokane, ac fe ga ein brodyr yn Oakland gyfle yn ystod mis Awst, ar noson waith. Mae fy nghofion goreu i'm cyfeillion a'm cymwynaswyr yn y lleoedd uchod. Chwi faddeuwch i mi am gymeryd y eyfle hwn i ddiolch o galon. i'r lluaws cyfeillion ysgrifenasant ataf mewn cydymdeimlad yn herwydd hir salwch y wraig. Hyderaf y derbyniant y sylw hwn fel y gwneir ef, gan nad oedd yn ddichonadwy i mi anfon atynt yn ber- sonol. Dolur y wraig ydyw "Rheu- matoid Arthritis," ac argoelion gwan sydd genym am ei gwellhad; fodd bynag, dysgwyliwn wrth y tywydd cynes gyda gobaith. Cofion at, a diolchau i bawb sydd yn teimlo drosom.
FOLLANSBEE. W. VA.
FOLLANSBEE. W. VA. Foreu ddydd Llun, Mehefin 25, bu farw Mrs. Walter Jones, o'r lie hwn, mewn canlyniad i oruchwyliaeth fedd- ygol yr aeth drwyddi oddeutu chwe awr cyn hyny. Daeth Wm. L. Jones, yr ynad heddwch o Lansford, a brawd i Walter Jones, yn nghyd a'r yswain Garrett, o Summit Hill, yma i'r ang- ladd. Claddwyd hi ddydd Gwener, a chafodd angladd parchus, gwreng a bonedd yno yn nghyd i'w hebrwng i'r gweryd oer. Fe ganwyd yn y Gym- raeg "Oleuni Mwyn," a rhai emynau eraill. Gedy mewn galar ei phriod a thri o blant, dau fab ac un ferch, a llu mawr o lberthynasau a chyfeillion. Yr oedd Mrs. Jones yn un o'r gwragedd mwyaf defnyddiol yn y parth hwn, a'i hysgwvdd yn dyn o dan arch Duw. Ganwyd hi yn Nhreforris, yn ymyl Abertawe, D. C. Ei henw morwynol ydoedd Clara Joseph. Claddwyd ei thad yn y Ddinas Frawdol, hen gymer- iad rhagorol yn ei ddydd. Boed i Mr. Jones godi ei olygon uwchlaw y byd hwn a'i helbulon yn y dyddiau tywyll ag sydd wedi ei gyfarfod.—Gwilym Ddu, Lansford, Pa. t I
Advertising
BETH AM HYN f Cynyslwn Gan Dolar o Wobr am unrhyw enRTaifft o Catarrh na ellir well a trwy gy- meryd Hall's Catarrh Cure. P. J. CHENEY & CO.. Toledo. O Yr ydym ni sydd a'n hmwau Isod yn ad- wspti F. J. Cheney er's 15 mlyrodd. ac yn credu el fod yn hollol anrhydeddus yn ei holl pysylltladau nmsn&chol, ac yn ddlgon cyfoethor i gario allan el holl ymrwymiaA- au. Cymertr Hall's Catarrh Cure yn fewnol ac eflfeithla yn unionjryrchol ar y gwaed ae arwynedebb fllenog y cyfans»*dlaA Anf- WALDING, KINNAM A MARVIN, Cyffer- wyr Cyfanwerthol, Toledo, O. oner am dyst!olaethan. AT werth gan xyfferw-yr, 75c. Cymerwch HaY'. Funlly Pllla at rwym-
:1"Rhvdd i Bob Meddwl ei Farn…
"Rhvdd i Bob Meddwl ei Farn ac i Bob Barn ei Llafar." Beth sydd i mi. Mri. Gol.: Y mae gan Gwili ysgrif fer yn y "Geninen," lie yr amddiffyna emyn Morgan Rhys, sef "Beth sydd i mi" drwy daflu y bai ar y bobl hoffant newid a gwella eiddo pobl eraill. Tebyg i M. R. ysgrifenu Beth sydd i mi yn y byd? Gorthrymderau mawr o hyd. Dyna fel y mae yn yr emyn fel yr ym- ddengys yn argraffiadau 1755 a 1764. Aeth rhywun yn dyoddef yn ddrwg dan walldreuliad, a rhoes "Ond" o fewn o flaen "gorthrymderau," ac achosodd lawer o feirniadu fel a ymddangosodd yn y "Drych" yn ddiweddar. Camgymeriad a cham ag emynwyr yw penodi pobl nad ydynt na beirdd na llenorion i adolygu a pharotoi llyfr- au emynau. Gwelwn gryn lawer o ol y rhai hyn ar ein hemynau yn ddiwedd ar. R, O. Esboniad Englynol. Mri. Gol.: Gwelais grybwylliad rhyw un yn yr Hen Wlad am Englynion Es- boniadol ar Epistol Paul at yr Ephes- iaid gan yr "Athro"- J. Young Evans, a'r peth cyntaf ddywedais oedd "Gwarchod pawb! i neb feddwl am es- bonio dim ag englyn." Yr oeddwn yn awyddus iawn am eu gweled a chefais fy siomi fel yr oeddwn yn dysgwyl. I mi y mae digon o dywyllwch yn yr Epistol at yr Ephesiaid yn barod heb ei roi yn strait waistcot y mesur- ion caethion. Ni ddylid esbonio dim ond a rhyddiaith. Fel hyn yr esbonia Eph. 1:3, "Ben- digedig fyddo Duw a Thad ein Har- glwydd Iesu Grist, yr hwn a'n bendith- iodd ni a phob bendith ysbrydol yn y nefolion leoedd yn Nghrist." Dyma'r esboniad: Waith buan! daeth bendithion — ddawn lleoedd Yn llewych nefolion; Nod hoffle saint a phlas Ion-blodau blydd Gardd gwyrddben geyrydd, gradd ban y goron. Tebyg mai "gaerydd" feddylir wrth "geyrydd." Gwna llawer o esboniad o fath yr uchod Epistol Paul at yr Ephesiaid i bob dyn am wybod rhywbeth yn ei gylch ymlynu wrth y gwreiddiol. DYSGYBL. Rhan o'r Argraffiad Newydd. "Hysbys yw fod yn mryd Annibyn- wyr Cymry ddwyn allan argraffiad newydd o'r "Caniedydd Cynulleidfaol," ac "onibai am y rhyfel" byddai wedi ei gyhoeddi eisoes. Tamaid i aros pryd yw hwn, ac ar gais un o'i Olygywyr yr anfonaf y gair yma am dano. Y Gol- ygwyr yw Hawen, Elfed, Penllyn, Ben Davies a J. J. Williams, a chyda'r fath Olygwyr y mae eisiau cryn ddewrder mewn adolygydd pwy bynag fo, a phrun bynag ai canmol ai beio a wnel, gan fod y Golygwyr hyn, at eu gilydd, yn mysg prif feirdd a phrif feirniaid ein gwlad. Y mae yn y Detholiad hwn 120 o emynau a 60 o Donau, ond nid oes yma Ddangoseg i'r naill na'r llall. Gwaith anbawdd mewn gwirionedd yw golygu Llj fr Emynau, fel y gwn trwy brofiad ar raddfa gymharol fechan yn ddiweddar mewn dwy engraifft. Am a wn i nad Pwyllgor o un fyddai'r goreu, a gadael i hwnw gymeryd ei siawns yn wyneb pob clod ac annghlod. Ond wed'yn rhaid iddo yntau gofio ei fod yn casglu ei Lyfr nid er ei fwyn ei hun ond i gyfarfod a gofynion mil- oedd o bob dawn a chwaeth." TECWYX YN "BRYTHOX." "Beth sydd i mi." Mri. Gol.: Mae syniadau y penill i mi fel profiad Dafydd yn Salm 38. Gallesid meddwl fod y Salm edifeiriol hon fel yn eithafol i un Cristion er coffa i Dduw am ei gyflwr, felly mae Dafydd yn y weddi ostyngedig a galar- us hon yn dwyn ei gyflwr adfydus a phoenus ef, fel anogaeth i Dduw doo- turio wrtho, neu ynte er coffa iddo ei hun, wrth adolygu y salm ar ol hyn, ei berygl a'i drueni blaenorol, a rhy- fedd drugaredd Duw yn ei waredig- aeth, ac fel y gallai eraill hefyd gofio yr hyn a wnaethai Duw erddo ef. a'i folianu am hyny. Cyfeiria at boenau llymion yn ei gorff, a blinder trwm at ei feddwl. Felly yr oeddwn yn edrych ar yr emyn yn ddarnodiad cywir o brofiad y gall y Cristion fyned iddo ac i ganu a'r galon ac a'r enaid. Yr oedd un o'r brodyr yn cyfeirio fod angen llyfr new- ydd Americanaidd arnom. Beth sydd ar emynau anfarwol bendigedig Ann Griffiths gawsom engraifft o honynt yn ddiweddar yn y "Drych" gan Morien Mon Hughes, ac hanes yr awdures, gwylaidd a gorchestol? Hefyd, dywed y diweddar Dewi Wyn o Esyllt: "Mae yn ein hiaith lawer o awdl- au gorchestol, a phryddestau gwychion iawn; ond nid oes genym farddoniaeth gwerth cyfeirio ati fel peth cenedl- aethol fawr, oddieithr emynau Wil- liams Pantycelyn. Y mae y rhai hyn ynddynt ei hunain yn gorff o dduwin- yddiaeth iachus ac uniongred, heblaw eu bod yn cynwys y syniadau a'r meddylddrychau mwyaf dyrchafedig, arddunol, dyhewydus a phur, ac yn llawn o'r pathos mwyaf nefolaidd, dwfn, genuine, ac enaid-gynyrfol. Anhawdd cyfeirio at ysbrydoliaeth fwy dwyfol na'r un a gynyrchodd y rhai hyn: y maent yn anadlu gan fywyd o'r mwyaf ysbrydol. Mae y nef ei hun yn llifeirio yn ffrydiau bywiol drwyddynt; ac ynddynt y dygir tra- gwyddoldeb a ninau megys wyneb yn wyneb. Mae swn cerddediad v mawr, yr uchel, y pell, a'r tragwyddol yn mhob llinell o honynt. "Mae y pererin blin, y Cristion ffydd- iog, y sant tryloew, yr angel pur, a'r seraph tanllyd. yn canu ei solos bob yn ail ynddynt a thrwyddynt. Megys ag yr ymddyrchafa yr Himalaia a'r Andes uwchlaw holl fynyddoedd eraill y ddaear yr ymddyrchafa hymynydd- iaeth felus, fawr a goludog bardd Pantycelyn uwchlaw holl farddoniaeth gysegredig cenedloedd y ddaear, gyda'r eithriad o eiddo Perganiedydd Israel yn unig. "Yr ydym wedi darllen rhai o emyn- au Watts, Cowper ac eraill, ac y maent yn rhai hynod felusion; ond ni I welsom ni ddim eto o ddyfnder prof- iad-o fawredd, ardderchawgrw-ydd, arucheledd, ac ysbrydolrwydd syniad; purdeb a chyflawnder pwnc ac athraw- iaeth; y fath gydgorfforiaeth o deim- ladaeth grefyddol; y fath Cyclopaedia o farddoniaeth gysegredig ag eiddo Perganiedydd Cymru. "Ymddengys ar yr olwg gyntaf fel pe buasai yr awdwr a thuedd ynddo i fod yn ddibris ac esgeulus gyda chel- fyddydwaith ei gyfansoddiadau. Mae yr iaith weithiau yn sathredig a lled- rywiog-defnyddir llawer^ gair bas- tardol; ond wedi y cwbl, mae yn y geiriau hyny ryw gyfaddasrwydd hynod i drosglwyddo'r pathos i galon y darllenydd gydag effeithiolrwydd neillduol, ac i gyfleu y meddylddrych o flaen ei feddwl yn oleu ac yn eglur; a byddai defnyddio geiriau mwy clas- urol yn y cysylltiadau hyny, nid yn unig yn gwanychu y syniad, ond bydd- ai bron yn ddinystr hollol i'w fywyd, ac yni a'i effeithiolrwydd. Gwelsom yn rhai o'r argraffiadau diweddar, amryw gynygiadau at ddiwygio ieith- yddiaeth yr emynau hyn; ond y maent i'n tyb ni, yn fwy o anafau nag yd- ynt o ddiwygiadau; ac y mae llawer o'r ystwythder, y melusber, ac effeith- iolrwydd cyntefig a berthynai iddynt wedi cael mwy na'u haner ddiddymu trwy y fath anturiaeth ynfyd a di- angenrhaid." (I'w barhau). GWILYM DDU 0 WENT. Nodion D. P. Price. Mri. Gol.: Y mae mynegiad D. P. ei fod yn gwybod er's dros driugain mlyn- edd nad oedd y gair Duw-ddyn yn y Beibl, yn profi mai at y gair dyblyg yr oedd yn cyfeirio, fel y mae ei waith yn trawsfeddianu yr enw am ei gyn- wys er mwyn cael ateb nacaol i syl- feini ei undodiaeth ddychymygol arno, yn fath o droell ymadrodd. Gofidus genym weled fod D. P. yn dal at y dyn o hyd-y dyn Crist Iesu, er pob Ysgrythyr, a rhesymau, eglur a phenderfynol y Proffeswr Morris, pan y mae ei swydd cyfryngwr rhwng Duw a dynion, yn ei neillduoli oddiwrth y dyn-rhwng Duw a dyn; ac y mae gwaith y swydd a ibriodolir iddo. Dymunir i D. P. adystyried ei ddy- farniad ar Isaiah 9:6. Rhestra yr ad- nod yn ochr y ayn, am yr enw bach- gen a mab ynddi; pryd y cyplysir y bachgen a'r mab a Duw yn y geiriau cryfaf a mwyaf penderfynol posibl, "A bydd y llvwodraeth ar ei ysgwydd ef; a gelwir ei enw ef Rhyfeddol, Cyngor- wr, y Duw cadarn, Tad tragwyddoldeb, Tywysog tangnefedd." Ac y mae y cysylltiad yr un mor amlwg yn Epistol Paul at y Rhufein- iaid (1:3, 4): "Am ei Fab ef, lesu Grist ein Harglwydd ni, yr hwn a wnaed o had Dafydd o ran y cnawd; ac a eglurwyd yn Fab Duw mewn gallu. yn ol ysbryd santeiddiol, trwy yr adgyfodiad oedd wrth y meirw" Nid oedd, ac nid oes, neb ar y ddaear yma, yn adwaen lesu Grist yn well na'r Apostol: yn siwr, yn well na D. P. P. yn yr ugeinfed ganrif. Gwrthyd D. P. yr undeb yn y Duw- ddyn ar y tir nad ydyw y dyn Crist lesu yn cyfenwi ei hun yn Fab Duw yn hytrach na Mab y dyn. Syn iawn genym fod un o gyraeddiadau D. P. mor fvr ei ganfyddiad fel ag i fethu canfod y buasai hyn yn hollol anymar- ferol. ac mor annoeth dan yr amgylch- iadau fel na buasai odid i beth yw dangos yn fwy amlwg pad :dd ond dyn, fel y myn D. P. Ar vt pryd yr oedd dadgan hyn yn ddigoi cTfi^fel yr oedd ei wrthwynebwyr gelynol Yn gweled hyn yn amlwg. Ac yr oedd yn gorfod ffoi o fan i fan rhag cael ei labyddio cyn dyfod ei awr a'i groes, "Am hyn gan hyny yr Iuddewon a geisiasant yn fwy ei ladd ef, oblegid nid yn unig iddo dori y Sabboth. ond hefyd iddo ddywedyd fod Duw yn Dad iddo, gan ei wneuthur ei hun yn gyd- radd a Duw." H. P.
! BANGOR. SASK.. CANADA.
BANGOR. SASK.. CANADA. Derbyniais y dydd o'r blaen gopi o'r "Dyn Oddimewn," sef llyfr Index, ac y mae yn wir ddyddorQl, gyda gwersi buddiol i ni, y tuallanogiaid, ond gweithredu arnynt. Newyddion pryderus sydd yn dal i ddod yma yn barhaus, ein bechgyn yn syrthio ar faes y frwydr, er mawr alar i'w rhieni a chyfeillion hoff. Herbert Thomas, mab i William Thomas, gynt o Patagonia, wedi rhoddi ei fywyd i lawr. er mawr ofid a galar i'w fam a'i dad ei chwiorydd, ac un brawd sydd adref, ac un yn Ffrainc. Hefyd, mab i Mrs. Saunders ar goll, sef William Saunders. Daeth Mrs. Saunders yma yn wraig weddw o Patagonia, ond yn briod er's rhai blynyddau yn awr. Price Williams, mab Mr. a Mrs. Moses Williams, Patagonia, wedi cael ei glwyfo yn drwm iawn, ond yn araf hybu er llawenydd i'w rieni a'i gyfeill- ion oil. Mae yr amaethwyr yn lied gyffred- iIi 01 yncanmol y tywydd y dyddiau hyn. Yn ystod y tair wythnos ddi- weddaf, yr ydym wedi cael toraeth o wlaw nes y mae wedi adnewyddu gwyneb y ddaear yn gyfangwbl, yr hyn oeddym mewn gwir angen am dano; yr oedd wedi myned yn sych iawn. Mae gobaith eto i fyd ac anifail, os y deil am vchydig fel hyn. Mae y wlad yn bur gyffredinol mewn angen am wenith o ansawdd digon da i wneyd bara, am mai pur ychydig o un felly oedd i'w gael y llynedd, ac y mae y byd mewn angen gwirioneddol o achos y rhyfel anwar yma.—Thomas Evans, Y Bedol.
COALDALE. PA.
COALDALE. PA. Cofnodwn eto farwolaeth Mrs. Ann Williams yn 84 mlwydd oed. Bu farw foreu ddydd Gwener, Mehefin 29. Caf- odd ergyd o'r parlvs, yr hyn a derfyn- odd ei bywyd. Yr oedd yn aelod dich- lynaidd yn yr eglwys Gynulleidfaol gyntaf yn y lie, ac yn un o aelodau breiniol yr eglwys. Bu yn Gristion diwyd a ffyddlon. a chafodd gwinllan yr Arglwydd ei goreu bob amser. Y mae wedi gadael i alaru ar ei hoi ddau o feibion, a phump a ferched: yr oedd ei phriod wedi ei blaenu er's llawer blwyddyn. Claddwyd hi ddydd Llun ar Summit Hill yn mynwent y Gwron- iaid pan ddaeth torf luosog yn nghyd er talu y gymwynas olaf i'w gweddill- ion: y Parch. Mr. Pascoe yn gwein- yddu. Genedigol o Ferthyr Tydfil yd- oedd Mrs. Williams, ond wedi dod i'r wlad hon pan yn ieuanc iawn.—Gwil- ym Ddu.