Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

NEWiDDIdN CYMRU. vp,iM I

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

NEWiDDIdN CYMRU. vp,iM I —Mae Mr. Ernest E. Neele, prif or- uchwyliwr chwarelau Dinorwig, yn ymneillduo. Dylynir ef gan Mr. T. Lloyd Williams, y goruchwyliwr cyn- orthwyol. -Y mae y Parchn. P. R. Thomas, Annibynwr, a D. Spencer Jones, Bed- yddiwr-y ddau o sir Gaerfyrd-din- wedi ymuno 41'r Eglwys Sefydledig, ac wedi eu hordeinio. I -Er eu bod wedi penderfynu yn erbyn chwareu golff ar y Sabboth, go- fynwyd i Gyngor Trefol Llandudno dalu 3s. y Sabboth, i'r gwr sy'. edrych ar ol y chwareu! —Gyda gofid yr hysbyswn am far- wolaeth y Parch. J. Tertius Phillips, Mount Pleasant, Scethrog, Aberhon- ddu, yr hyn a gymerodd le yn ddiwedd- ar, yn yr oedran cymarol gynar o 58ain mlwydd. —Yn Solfa, caed William John Thomas, Harbour View, 37ain mlwydd oed, wedi ymgrogi. Ymddengys ei fod wedi ei basic i'r fyddin, ac fod hyny wedi blino llawer arno. Yr oedd yn ddyn ieuanc parchus iawn yn y gym- ydogaeth. —Dirwywyd amaethwr yn Nhregar- I on i 15p. a'r costau am gymysgu margarine a'r ymenyn a'l werthu i bobl Abertawe fel ymenyn pur! Gall- esid meddwl fod amaethwyr yn elwa digon y dyddiau hyn heb dwyllo. —Y mae Madame Clara Novello Davies, y gantores Gymreig enwog, wedi dychwelyd i'r America ar ol aros- iad o ryw bythefnos yn y wlad hon. Ymddengys ei bod yn trefnu taith i gor o ferched Cymreig trwy Canada a'r, Unol Dalaethau, er budd cronfa gen- edlaethol y rhyfel. —Mae y Parch. Evan Davies, Trefriw, ebai un o'r newyddiaduron Ileol, wedi gadael cartref er mwyn gorphwys. "Dyma y tro cyntaf iddo wneyd hyn er pan y mae yma," ac y mae Mr. Davies yn Nhrefriw er ys 37ain mlynedd! -"Y Deyrnas." Dyna enw cy- hoeddiad misol newydd, gyda'r ar- wyddair "Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac ar y ddaear tangnefedd, i ddynion ewyllys da." Pan y mae ugeiniau o bapyrau a chylchgronau yn marw o newyn, dyma un yn cychwyn ei yrfa, ac yn anturio i ddanedd yr ystorm. Mae ei blyg. fel ei neges, yn ddyeithr yn llenyddiaeth Cymru, a golygir ef gan "fwrdd." —Drwg iawn genym hysbysu am farwolaeth y blaenor adnabyddus a'r lienor medrus, Mr. David Davies (Cashier yr Ocean Collieries), Ton, Ystrad, mewn oedran teg. Yr oedd Mr. Davies yn flaenor yn Jerusalem, Ton, ac yn un o'r Methodistiaid mwy- af adnabyddus yn y Deheudir. Yr oedd yn hynafiaethydd ac yn lienor gwych. —Cwynir yn fawr am hrinder pre- gethwyr a p-etrol yn rhai o'r ardaloedd gwledig yn awr, a'r anhawsderau sydd yn nglyn a theithio. Clywais am daith yn Ngosrledd Sir Aberteifi wedi bod heb bregethwr am agos i fis, ac am weinidog wedi methu a chadw ei gy- hoeddiad mewn capel pwysig yn y wlad am na chawsai drwydded i brynu petrol i'w beiriant ei hun, a gwasan- aeth y cerbydau cyhoeddus i'r lie pwvsig hwnw wedi ei gwtogi o her- wydd cvnildeb gyda golwg ar yr un defnydd. —Yn llys ynadon Rhyl, cyfeiriwyd at achos y Sergeant-Major John Phillies, o'r gatrawd Gymreig, am hawliad yn erbyn D. Lloyd George am y swm o bum punt am ddamwain i fisvcl yr achwynydd, trwy i gerbyd y diffvnvdd ddyfod yn ei erbyn. Hye- bysodd John Lloyd, cyfreithiwr, fod yr achwynydd yn dymuno tynu yr achos yn ol, ond gofvnai am t'r costau beidio cael eu rhodrti yn ei erbyn. Dyfarn- odd y barnwr fod yr achwynydd i dalu costau y diffynydd.

- - -_-::''':_-=''::_-':''''''_JI8.…

Advertising

Advertising

ARDALOEDD Y CHWAREU. I -I

Advertising

MARWOLAETTT PEIRIANYDDI -ENWOG..----__I…

CYMRO IEUANC 0 OREGON EISIEU…

Advertising

NEW YORK A VERMONT