Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

YMOFYNYDD PRYDERUS YN FATEROLWR.…

News
Cite
Share

YMOFYNYDD PRYDERUS YN FATEROLWR. Gan Dr. Daniel Williams. I Mae Y. P. wedi gosod o'n blaenau amryw ofyniadau yn y "Drych" erbyn hyn, a byddwn yn ameu pa un ai gofyn, er mwyn cael gwybod yr oedd, ynte er mwyn gosod ei syniadau ei hun o'n blaenau. Erbyn hyn, mae yn bur amlwg beth yw ei safle. Perthyn i'r dosbarth hwnw y mae a elwir Mater- olwyr, ni chred fod un sylwedd yebod ond sylwedd materol. Am fyd ysbryd- ol, bodau ysbrydol, &c., "lleoedd a bod- au dychymygol ydynt" yn ol ei syniad ef. (Gwel "Drych" Gorph. 20). Mae athronwyr a dysgedigion pob oes wedi dal fod dau sylwedd, mater ac ysbryd, ac a hyn y cydgordia dysgeid- iaeth yr Ysgrythyr. Mae Duw, yr an- gelion, ac enaid dyn, yn sylweddau ys- brydol, a chorff dyn, a'r anifeiliaid islaw dyn, a holl natur yn faterol. Mae cryn ogwydd yn yr oes ddiweddaf at Fateroliaeth. Materoliaeth, medd rhai, yw anffyddiaeth yr oes. Rhaid cyfaddef fod tuedd gref iawn at y cyfeiliornad yma yn y wlad hon, an- wybydda yr ysbrydol a'r meddyliol. Cwyna crefyddwyr Americanaidd fod yr oes hon yn oes fasnachol (commerc- ial age). Mae hyn yn wir, ac yn fwy felly, yn y wlad hon hwyrach na'r un wlad arall. Mae ein llywodraeth Am- ericanaidd yn anwybyddu crefydd. Mae yr Americanwr fel y cyfryw o gan- lyniad, yn colli golwg ar yr ysbrydol a'r meddyliol, ac yn gogwyddo i gyfeiriad y materol. Nid oes dim yn fwy amlwg na hyn i'r rhai sydd yn effro, ac yn edrych o'u cwmpas, fod y wlad yn gogwyddo oddiwrth yr ysbryd- ol at y materol. Sonir am addysg ym- arferol (practical education). Beth yw practical education. Wel, educa- tion wna gymwyso y bachgen at wneyd arian. Nid yw efrydu yr ieithoedd clasurol, athroniaeth y meddwl, eneid- eg, hanesyddiaeth, &c., o un dyben yn syniad llawer yn awr, o herwydd nad oes gallu yn y pethau yma i gymwyso dyn at wneyd arian. "Cymerwch add- ysg glasurol," meddai rhyw addysgwr yn ddiweddar, ac efallai y cewch sef- yllfa (position) ac efallai na chewch, ond cymerwch addysg fasnachol, ac yr ydych yn sicr o gael lie." Mae addysg yn y wlad hon yn di- rywio yn gyflym yn y cyfeiriad yna. Blaenor y criw yna oedd Eliot, cyn- lywydd Harvard. Mae llawer yn dyfod o'n colegau a'n hathrofau heddyw yn, deall Engineering, Dentistry, Agricul- ture, &c., ond yn deall dim arall, heb addysg gynwysfawr (comprehensive). Mae llu mawr yn graddio yn ein hath- rofau heb ond gw-ybodaeth brin iawn, o hanes y byd. Hawdd yw gwybod wrth eu clywed yn ymddyddan ac yn llefaru yn gyhoeddus, neu wrth ddar- llen eu hysgrifau, mai golwg gul, gyf- yng, sydd ganddynt ar y byd a'i hanes a'i bethau. Yr achos o hyn oil yw, fod yr addysg maent yn gael yn gyfynged- ig bron yn hollol i'r materol. Mae y byd meddyliol allan o'u cyraedd bron yn hollol, ac am grefydd ymarferol, neu grefydd yn hanes y byd, maent bron mor anwybodus a'r Chineaid neu drigolion canolbarth Affrica. Yr wyf yn ofni mai perthyn i'r dos- barth hwn y mae Ymofynydd Pryder- us. Nid oes prawf eto ei fod wedi cael addysg o fath yn y byd, ond os cafodd, mae lie i ofni fod yr addysg hwnw yn gyfyngedig at y materol. Ni fuaswn yn ystyried yn werth cymeryd amser i 'ysgrifenu fel hyn, a gofod y "Drych," ac amser y darllenydd, pe buasai Y. P. ar ei ben ei hun. Ond mae lie i ofni ei fod yn cynddrychioli dosbarth lied fawr, ac hwyrach, cynyddol. Dylai pob Cymro ddal ei afael yn dyn yn y gwirioneddau mawr am y byd meddyl- iol ac ysbrydol. Mae crefydd wedi bod yn hynod uchel gyda'r Cymry yn y can mlynedd diweddaf. Mae gan y Cymro well mantais o lawer fel hyn nag sydd gan yr Americanwr. Peth eywilyddus yw gweled Cymro yn colli ei afael yn y gwirioneddau mawr am y byd ysbrydol a meddyliol. Os yw Y. P. wedi syrthio i'r trobwll hwn, go- beithio y gall dynu ei hun allan a hyny ar fyr dro.

SCHENECTADY. N. Y.I

OAK HILL. OHIO. -I

LIEOEDD A PHETHAU. I

I GAIR 0 HAMILTON, N. Y.

LANSFORD. PA. I

SUL YN BETHESDA, UTICA. N.…

0 DALAETH WASH.I

TEITHIO DROS Y "DRYCH."

HUGHES vs. WILSON.