Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
[No title]
Y Caiser. Ha, shar fain rwy'n siwr fydd-i'r hen Gai Rhown gic i'r arch-ysbeilydd; Wedi y trais adra trydd-a o'i go Yuo i wrido dan waradwydd. o Anadl Oer Hydref. Fe dry anadl Hydref i ni—'n chwith Hen chwa oer ar dlysni; Tn ddi ddadl, anadl yw hi Go anrywiog yn rhewi. Cilia nodd ac wele nych-yn y dail Onid dwys yw edrych? 0, go lWYd a gwywol y'ch—uwch y mhen Y myrdd ddail addien mor ddel oedd- ynt! .'r dail dan gesail y gwynt—yna'n ol Yn nwylaw yr oerwynt; Edryohaf, treiddiaf trwyddynt, A gwelaf fy olaf hynt! DIDYMUS CERNYW. Randolph, Wis. -0- Penyd Serch. (Efelychiad). Bisteddwn i a fy Megan dlos, Ar lain o wyrdd un diwrnod; Me^an yn syn ei threm a'i gwedd, A minau mewn dwys fyfyrdod. 'R oedd oenig yn chwarae'n y ddol ger- llaw, A bywyd lond ei anian; A phan droes Megan ei phen i'w weld, Rhoes iddi ysgafnaf gusan. A deufin loes yn fy nghalon drom, Mi drois at y fun ddiffuant; "O! dywed f'anwylyd; pa beth rof yn iawn, Br enill dy fwyn faddeuant?" "Yn iawn," ebe hi, a direidi serch, Yn dw' ar ei hwyneb eirian; "Dy dynged drom o hyn allan, fy mab, Fydd cusanu neb ond Megan!" Randolph, Wis. TEGFRYN. --0- Cyfarchiad Priodasol I I Mr. a Mrs. W. O. Williams, Coal Creek, Lebo, Kansas. I'r Ooal Creek aeth bachgen o Gymro yn siwr Ac Edith a gipiodd fod iddi yn wr; A thystio mi allaf wrth Willie yn hy' I'r arwr gael cydmar rhagorol a ohu. Wel hapus a fyddoch fel gwraig ac fel gwr Yn byw mewn tangnefedd heb reiat na stwr; A bendith y nefoedd ddaw arnoch eich dau, Os gwneloch ymdrechu i hyn ufudd- hau. Un peth yw priodi, peth arall yw byw; Llong-ddrylliad fo'ch mordaith heb Dduw wrth y llyw; Gofalwch wtth ddechreu gyd-dynu yn nghyd Am Ie8u'n arweinydd drwy hyn o hen fyd. Myfi a'm hoff briod, dymunwn i chwi Bob llwyddiant a chysur fel par aijwyl cu; A llawer o flwyddi fo'ch rhan, Gymry glyd, Gy^-drigo'n gariadus o fewn hyn o fyd. WM. OWEN (Eu Hewythr). Olathe, Kas. "Yn v dechreuad yr cedd Gair." Yn eithafion tragwyddoldeb Cyn creu net na daear lawr; Yn y dechreu draw, diddechreu Gyda Duw y Gair oedd fawr; Mae drychfeddwl cryfaf Gabriel Yn rhy wan i fynd i daith Tua'r adeg pan nad ydoedd Dwyfol Air yn bod yn ffaith. Gadael nef a wnaeth pryd hwnw Er mwyn pechaduriaid tlawd; Teimlai dros eu truenusrwydd Fel y gwisgodd wisg o gnawd; Nid oedd bosibl iddo farw Heb gymeryd agwedd gwas; Trwy y marw ar Galfaria Cafodd dyn fywydol ras. Anhawdd yw i feddwl angel, Mwy anhawdd i feddwl dyn. Ddirnad cyfnod pan nad ydoedd •Gwir fodolaeth Duw ei Hun; Yn y dechreu, meddai loan, Y bodolai Duw a'r Gair; Nid o ddydd y genedigaeth Pan y daeth o lwynau Mair. Ond tuhwnt i'r annerfynol Lie na symud meddwl byw, Metha y dychymyg cryfaf Fentro i'r gagendor gwiw; Yno triga'r Trindorl Santaidd Tad, Y Gair a'r Yshryd Glan: Ni bu dechreu. ni bydd diwedd Byth i'r Duwdod diwahan! Youngstown, O. D. J. HUGHES. -(}-- Mair Magdalen ar lan v Bedd. Gwraig bryderus, ond gofalus A fu Mair mewn llawer lie; Wrth y groes ac wrth y beddrod Hoff oedd hon o Frenin ne'; Yn ei thristwch mawr a'i galar A'i elynion oil mewn hedd; Methodd Mair a bod yn dawel Tra ei Cheidwad yn ei fedd. Ar ei siwi'nai'n foreu boreu T'wyllwch yn gordoi ei thaith, At Ei fedcl y ceisiai fyned Tra ei dagrau redai'-n llaith; Hawdd yw canfod ei ffyddlondeb— Tystia dagrau gariad mawr; Cofio wnaeth y Groglith chwerw Claddu'r pur dros deulu'r llawr. Wedi cyraedd pen ei siwrnai Yn grynedig iawn a gwan; Er ei syndod mawr a'i gofid Gwelai'r maen oedd ar y lan; O! mor drist ei chalon bellach Nes ymgrymu oil i lawr, Tremia trwy ei dagrau yno Er cael gwel'd ei Phriod mawr. Tra yn dysgwyl ac yn ceisio, Gwclai rywun gyda'r wawr; Nid y garddwr, nid y gwyliwr, Ati daeth ei Hathraw mawr; Ceisiodd Mair o hyd nes derbyn Er fod pob peth iddi'n gudd; lesu byw, nid lesu marw, Welodd Mair ar doriad dydd. Yn y nef ac ar y ddaear 'Roedd llawenydd erbyn hyn; Bedd yn wag heb lesu ynddo Na chroes yn aros ar y bryn; Jam wedi adgyfodi, Dyma fywyd i'r holl fyd; Dos a'r newydd Mair ar unwaith "Galw'r brodyr oil yn nghyd." Hoff Ddyddanydd roes orchymyn, Troes ei galar iddi'n hedd; Mair yn gyntaf daeth a'r newydd Newydd da o lan y bedd; Enaid trist, gwna frys yn foreu Megys Mair at lesu gwiw; Paid ag oedi heb ei weled- Mae dy Geidwad heddyw'n fyw. IOAN EURON. New York Mills, N. Y. o Dail yr Hydref. Hudol lawn yw dail y wig Yn marw yn Amerig; Harddwch y rhew gyffyrddiad Hwn o fis gawn yn fwynhad. Diwedd Awst oedd ddewis deg-y dail Delynent yn fwyndeg; (hoen A Medi yn dwymn o deg Wedi y cynauaf adeg. Yma, sydyn yrr>o?ododd—v llwydrew Hyd a lledred gymrodd; Dail glaswiw amryliwiodd— Yn swynol Hydrefol drodd. Daweleci ydyw eilwaith—i liwgar I Amlygu y paentwaith; Hawdd yw gweld yn modd y gwaith Ei wedd hywel yn Dduw-waith. Ddirlon awd ddarluniadwy—mae'r ar- Mor eurol weladwy; (wedd Dyma hud, ie, a mwy— Melodedd yw'n deimladwy. Ond curodd y dig gorwynt-ac hafoc Hyfawr wn ,lti'r Gogleddwynt; A bu Iwyr ysgubol wynt, Ar ei ol bu arw helynt. Dail y coed yw hil y Cwm-hyf Edrych ar eu codwm; (Hydref Ymgyffred am hawg offrwm Wna'r holl wig yn oer a llwm. Ha! gofnodol gyfnewidiad-hwyr ddoe Oedd wyrdd ir ei dremiad; Y drloe o fodd newydd fad, A'n heddyw mewn heneiddiad. Ond trefn natur fyn eto-ei mirain Dymorau i weithio; Achles yw dail, a chlws do I'r ar hen er hwyr huno. Y mae'r nodd wedi ei roddi—i'r gwraidd A'r gwres dwfn i'w noddi; Anian yw hyn, uniawn hi, Yn ei chwrs cawn wych wersi. Ar rynych hwyr raen a chriniant-y Mae delw dysgyrchiant; (dail Oes fer, las, o fawr lesiant I fwrw'u clau gysgodau gant. Hydrefol gydol gawodau—o'r dail Yr Duw i'w beddrodau; Yn hyn y cawn ninau Ei ebrwydd wers ar briddhau. Nid a dim i'r ar i farw—Arthan Sydd wrthi yn cadw; Ac Eilir fydd yn galw Nodd y dail i newydd dw! IFOR CYNIDIR PARRY. 1 I
ODDIAR LANAU'R TAWELFOR. ï
ODDIAR LANAU'R TAWELFOR. ï Gan Dewi. I Los Angeles, Hydref 7fed.-Un o gwestiynau mawr y dydd yn mhob rhan o dalaeth California ydyw, Pwy fydd drechaf, y syoh ynte y gwlyb? Dyna y cwestiwn sydd raid bellach ei benderfynu ar ddydd etholiad, y 7fed o Dachwedd nesaf, ac nid ydys yn pe- truso dweyd y byddai colli y frwydr hon yn drychinebus i'r dalaeth hon. Wrth gwrs, mae dwy ochr bob amser yn mhob brwydr, ac nid yr ochr iawn sydd bob amser yn fuddugoliaethus, ond yn hytrach yr ochr gryfaf. Gwyddom fod cyfiawnder ar un ochr, ac nid oes dim ond anwybodaeth a diffyg ystyriaeth all achosi iddi golli y dydd. Dywedir pe byddai i bob aelod eglwysig wneyd ei ddyledswydd, y dis- gynai yr ymdrechfa o'n tu. Credwn fod sobrwydd yn cael ei garu, ac yn dyfod yn fwy amlwg o ddydd i ddydd. Y mae milwyr dewrion Dirwest yn llawenhau, a Satan a'i filwyr yn tristhau wrth wel-ed y deyrnas feddwol yn myned i lawr. Bydded i ni daflu ein picellau a gloywi ein harfau, hyd nes cael ein talaeth yn dalaeth lan a phur, a'i chodi i sylw y wlad fel y talaethau eraill syddeisoes wedi cael llwyr oruchaf- iaetlfar y gelyn dinystriol hwn. Da yw gweled rhai o oreuon y wlad yn yr ymladdfa, ac yn areithio yn wrol yn er,byn y fasnach feddwol. Cafwyd cyf- arfod mawr yn y 1st M. E. y ddinas nos Lun, ac hefyd parhau i'w cynal bob nos hyd ddydd yr etholiad i'r dyben o wasgu y cwestiwn i galonau y bobl, i wneyd eu rhan y dydd mawr hwnw. Bwri-edir cael gorymdaith fawr y Sadwrn o fiaen yr etholiad, nas gwelodd y ddinas ei thebyg erioed. Cwestiwn mawr a phwysig arall sydd o flaen y wlad fawr ydyw, pwy fydd ein Harlywydd yn y dyfodol? Yn ol a gesglir, mae'n ymdrechfa galed, ond proffwydwn mai Charles E. Hughes aiff yn ddyogel i mewn. Hyn fydd yn glod ac yn anrhydedd 1 ni fel eenedl. weled Cymro yn r.heoli yr Unol Dalaethau. Cafodd Fairbanks dderbyniad croesawus a chalonogol yn Neheudir California, ac y mae yn areithydd llithrig neillduol. Nos Fercher diweddaf, cafwyd "Sock Social" yn y capel Cymraeg, o dan nawdd y Ladies' Aid Society, hyny yd- oedd, fed yr oil bron o'r Cymry drwy y ddinas yn derbyn pobo uli hosan drwy y llythyrdy, a rhoddi yn ol maint y troerl o sentiau ynddynt (a'u dyblu, os dewisir hyny), er talu eu ffordd i mewn i'r cyfarfod. Trodd hyny allan yn hynod Iwyddianus, pryd y daeth cyn- ulliad da yn nghyd, a mwynhawyd y rhaglen gampus a ganlyn, o dan lyw- yddiaeth Dr. R. H. Jones, y gweinidog. Adroddiad, Miss Leilah Ellis, "Cali- fornia Dry." Unawd gan Mrs. Vignes ( Cym raes loew), "Garden of my heart," ac ail ganodd, "Mother Machree." Adroddiad, Mrs. T. L. Jones, "Y dafarnwraig a'r meddwyn." Deuawd gan y ddwy chwaer, Miss Alice Evans a Mrs. Livingstone. Ad- roddiad gan y pen campwr, David Perkins, "Y Ffoadur;" ail alwyd arno, ac adroddodi "Corn poper" (Cynon- fardd) yn ddoniol iawn. Unawd. Miss Ella Powell. Deuawd, Mri. Gwilym Isaac a Dave Jones, "Y Ddau Wlad- garwr." Chwareuod E. W. Davies amryw o'r alawon ar y grythen yn fedrus. Adroddiad, Gwilym Morris, yn ddigrifol eto. ac unawd gan Gwilym Isaac, "The Wolf," ac i diweddu, can- odd y dorf y don "Huddersfield," nes crynu yr adeilad. Miss Marguerite Jones yn cyfeilio i'r oil o'r cantorion. Gwnaed elw o dros $43. Ymadawodd pawb wedi eu llwyr foddloni. Cof genym glywed ystori am un hen Gymro unieithog yn codi i fyny mewn oedfa Saesneg mewn un rhan o'r wlad, i gymeryd lie y cyhoeddwr rheolaidd, yr hwn ydoedd yn absenol o'r cwrdd, a gorfu i'r hen wr gyhoeddi y moddion goreu gallai yn y Saesneg, pryd y dy- wcdai rhywbeth tebyg i hyn. "Next Sunday, there will be no Sunday here, Painters yma splash all over." A dyna ydyw hanes yr eglwys Gymraeg hon y Sabboth nesaf, o herwydd ad- gyweiriadall tu mewn, yn atal y Cymry ad doll yn iaith eu mamau, ond dys- gwylir iddynt orphen erbyn y Sabboth dylvnol. Bwriedir gwneyd llawer o gyfnewidiadau, trwy helaethu esgyn- lawr y pwlpud, er rhoddi yr organ yno, yn nghyd a cbor yr eglwys, hyny wna y canu cynuHeidfaol yn llawer gwell. T,-elly gwelir y bydd yma harddach ty i'r Arglwydd, a chro-esawiad cynesaf i'r oil o'r Welsh Tourists i gartrefu gyda'n cenedl tra yma yn gauafu y nrisoedd hyn. Tra yn darllen yn y "Drych" di- weddaf adroddiad Cymanfa Cynulleid- faolwyr Dwyrain talaeth Penna., can- fyddwn enw ein cvfaill ieuanc, Parch. J. M. Pritchard, Wilkes-Barre, wedi ei ddewis yn llywydd yn y dyfodol. Llongvfarchwn ef yn fawr. Hyn ddy- wedwn am dano, ei fod yn meddu ar gymeriad nas gellir ei brvnu er aur coeth lawer. Deehreuodd ei fyd dan amgylchiadau digon cyffredin, fel am- rvw o weinidogion y fro lie y'i codwvd. Yr oedd ei fachgendod yn debyg i'r eiddo eraill mewn pentref gwledig. ond caed arwyddion cynar ei fod yn berchen talentau, a sychedai am wy- bodaeth. Cymwysodd ei hunan i'r weinidogaeth, a llawenydd gan ei gyf- eillion ar hvd a lied v wlad glywed am ei lwvddiant. Hir oes, gyfaill. Hef- vd, gwelsom enw y cerddor Wilson Jones, yn bollogaid4 iawn yn nghwm- nnsoedl PlyTrouth, Pa., yntau wedi ei freintio yn uchel a'r dalent gerddorol. Cofiwn yn dda am dano yn arwain cor meibion y Glyn, ac yn fynych yn eu harwain i fuddugoliaethau caled iawn. fofivvf fel y byddai yn rhoddi y "finishing touch" ar oriau canol dydd yn y chwarel o flaen cystadleuaeth. deddfau amser a He wedi rhoi ffordd i ganu. Clywai Henry Owen (Meistr, chwedl y boys), un o aelodau y cor, y corn yn canu, "Wil Jos, Wil Jos," meddai. "mae'r corn yn canu," ac ebai Wil. "Cau dy geg. cau dv geg, 'rydym ninau yn canu hefyd." Wyt ti yn cofio Wilson ? Gwn y cofia Humphrey Griffith, Utica, yr amgylchiad yn dda. Da genym groesawu rhai fu oddi- wrthym am ysibaid yn ol atom eto, sef Mrs. Williams, Denver, a'r ferch, aros- ant yn Long Beach, tra mae Miss Williams yn athrawes yno. Hefyd, Mrs. Watkins sydd yma o Wilkes- Barre. ac a erys gvda'r teulu Edward R. Davies ar Orme Ave. Cawsom wlaw cvnar eleni. a hwnw yn mis Medi, vchvdig vn gynar i Ddeheudir y dal- aeth. Ofnir y gwna ddifrod mawr i gnydau y beans (lima) a'r grape, ond yn ffafriol i bob peth arall.
-COLUMBUS, 0.-I
COLUMBUS, 0. I Gan Thos. Roderick. I Hydref 14, 1916.-Bu farw Mrs. Mary Ann Evans, gweddw Thomas T. Evans, Awst 19eg, yn Shawnee, O. Merch ydoedd i'r diweddar Morgan ac Elizabeth Morgan. Ganwyd hi gerllaw Tregaron, sir Aberteifi, Mawrth 19, 1862. Daeth i'r wlad hon gyda'i rhieni yn 1870, a sefydlasant yn ardal Moriah, swydd Jackson, O. Yr oedd Mrs. Evans yn aelod ffyddlawn a gweithgar yn eglwys y M. C. er yn 13 oed. Yr oedd yn fam i bump o blant, pedair o honynt yn fyw. Bu farw ei gwr yn 1904. Yr oedd yn hynod o dda i'r cymydogion, yn wraig garedig, ac yn fam dyner a gofalus. Mae ei hanes yn fwy cyflawn yn ysgrifenedig ar galc/nau ei phlant. Gadawodd i alaru ar ei hoi ei phlant, Elizabeth, Thomas, Jane a Morgan i gyd gartref, a tri brawd, Evan yn Columbus, Morgan yn Jackson, 0., a Isaac yn Shawnee, a pedair o chwiorvdd, Mrs. Edwin Thom- as, Mrs. T. L. Davies, Miss Margaret yn Columbus, 0., a Mrs. Lizzie Wil- liams, Jackson, O. Fe gynaliwyd y gwasanaeth angladdol yn nghapel yr M. E., y Parch. Bowman a'r Parch. Roberts yn gweinyddu, ac fe ddaeth yn nghyd lond y capvl i dalu y parch olaf i'r ymadawedig a blodau lawer. Fe gladdwyd yr hyn oedd farwol o honi yn mynwent Shawnee, O. Mae Mr. a Mrs. Edwin Thomas a'u merch Gertrude a Mr. a Mrs. Gray, wedi myned yn eu modur i'r Gymanfa vn Cincinnati, O. Hefyd Mr. a Mrs. T. L. Davies, Lizzie Williams, Mrs. Mary Dickey, Mr. a Mrs. Dan T. Jones a Mrs. John Alban. Mae Mr. a Mrs. D. D. Lewis, Mr. a Mrs. Will Lewis a'u merch Marie wedi mynd gyda'r oto i gartref ei brawd, Mr. John Lewis, Seion, swydd Van Wert, 0., er bod yn bresenol yn mhriodas ei nith. Miss Mary Lewis. Yr oedd a eranlvn yn bresenol, Mrs. Hannah Owen a'i rrerch Irene John Alban a'i fab. Mrs. Jane Jones. Mae Mr. a Mrs. E. O. Davies wedi mynd ar ymweliad a ffryndiau i Ven-e- docia, O. Mae y brawd Evan Foster wedi bod vn bur wael, a'i gyfeiriad o hyn ydyw 13 3 6 E. Long St. Yn ighartref chwaer y briodasferch, 2418 Summit St., yn ngwydd Ilu o redhynasall a ffryndiau, y Parch. John L. Tait, o'r eglwys Bresbyteraidd Peisnig yn gweinyddu, priodwyd Tom G. Roderick, Canton, 0., mab Mr. a Mrs. John J. Roderick, Dover, 0., a Miss McNeill. Yr oedd Miss Helen Pickerell yn canu, a Miss Zella Ro- berts yn chwareu yr ymdaith briodasol ar y delyn. Yr oedd y cartref wedi ei addurno yn bardd. Fe fu y par ieu- anc yn efrydwyr yn yr Ohio State University. Ar ol mwynhau eu mis mel, byddant gartref i'w ffryndiau yn Canton, Ohio, lie mae y gwr ieuanc yn swyddorr yn v felin ddur. Yr oedd yn bresenol o fanau eraill Mr. a Mrs. Johni .T. Roderick, Dover. Ohio; Mvrtle Go't- nalI. Mount Vernon, 0., a Wm. Roder- ick, Canton.
WELSH BOY FOR ADOPTION.I
WELSH BOY FOR ADOPTION. WANTED for adoption, by a highly "esmectRhle family, a Welsh boy about four years of age. Fair complexion. address. Box F., "Drych" Office, Utica, N. Y. I
■ ^r, t iscb Meddwl ei Earn…
■ ^r, t iscb Meddwl ei Earn se I Eiot Barn el Llafar." Y Cyf-eithiad Eto. Mri. Gol.: Edmygaf S. D. Jones yn cyd- nabod cyffredinedd ei gyfieithiad. Yr ydym yn maddeu iddo am hyny. Mae ei linell gyntaf yntau mor ddilun ag eiddo Puntan a D. F. L. Gwelwch: A oes a chwyth ddienaid ddyn- Is there that blows a soulless man. Pe buaswn i yn feirniad buaswn yn eyngori y tri, Puntan, D. F. L. a S. D. Jones i roi eu ffidil gyfieithu yn y to. E. O. Pwv Yw. Mri. Gol.: Pan ar fy ymweliad yn ddiweddar a thalaeth Pennsylvania, y cwestiwn oedd yn cael ei ofyn i mi gan amryw o'r hen ardaloedd oedd pwy yw y dyn yma sydd yn ysgrifenu o dan yr enw "Coedglas" o'r Glasgoed a'r am- gylchoedd. Dywedais yn y fan mai ei enw yw William T. Williams, Pont-y- rhvddallt. "Wel, yn wir," meddant, "mae yn ysgrifenwr melus iawn, ac yn rhoi hanes yr hen ardaloedd i ni. Y peth cyntaf fyddwn yn wneyd ar ol derbyn y "Drych" fydd edrych am lith Coedglas, ac fe sicrhaf y cyfaill fod iddo le cynes yn mynwesau yr h-en ar- dalwyr; ac os byth y daw i'r wlad mae croesaw mawr yn ei aros. n ei aros. Diolchaf iddo unwaith yn rhagor ar ran fy bun a lluaws o dderbynwyr y "Drych" o'r hen ardaloedd sydd mor anwyl genym am ei ysgrifau rhagorol. HUMPHREY GRIFFITH. Utica, N. Y. Petli rhvfedd vn v wybren. Mri. Gol.: Y ma-e y Father Adams o'r Conzaga University, Spokane, Wash., yn darogan y bydd ymddangosiad wybrenol yn dygwydd Tach. 15, hyd 26, a bydd yn olygfa annghyffredin o'r aurora boreal is; tebyg i'r rhai ym- ddangosodd yn Awst 26 diweddaf yn Spokane. Y mae a ganlyn yn hanes yr olygfa hynod a gymerwyd o'r "New York Commercial Advertizer" am Tach. 13, 1833. Yr oedd yr awyrgylch yn hynod o glir ar noswaith yr ymddangosiad rhyfeddol. Cyn deuddeg o'r gloch yr oedd y ser saethawl i'w gweled yn syrthio gyda buander a gogoniant an- arferol. 0 bedwar i chwech o'r gloch yn y boreu, yr oeddynt amlaf a dys- gleiriaf. Nid oedd yr un cwmwl yn cuddio yr eangder dirfawr, a miloedd o wreichion yn gwau ei ffordd i bob cyfeiriad. G. At Shon v Dyrnwr. Mri. Gol.: Mae yn wir ddrwg genyf fod Shon y Dyrnwr un ai methu deall neu ynte yn methu cydweled a'm hys- grifau ar "Wres ac Oerni." "Mae gen i syniad go dda," meddai, "am y ddau ar wahan, ond nid wyf hyd yma wedi amgyffred sut deimlad yw'r ddau efo'u gilydd, fel tae!" Wei, nid wyf finau ychwaith, os nad yw y teimlad o glaearwch yn gymysgfa o'r ddau gyd- a'u gilvdd, fel tae. Gan mai cyfryng- au a fedd y corff i fesur tymeredd yw v teimladau hyn, nis gwelaf pa les a fuasai amgyffrediad o'r ddau gyda'u gilydd. Y peth nesaf i'r ddau deimlad gyd- a'u gilydd a brofais i erioed oedd eis- tedd ar aelwvd mewn hen gegin fawr vn yr Hen Wlad, lie byddai gwres y tan yn rhostio fy ngwyneb a gwynt oer o'r tu ol yn rhewi fy ngwar. Yr wyf yn diolch i Shon am ei sylw er hyny. A. H. WILLIAMS. Richards Abersrwaun a'r Diafol. Mri. Gol.: "Yr un peth a diafol yw pechod. Pechod wnaeth angel yn ddiafol, a diafol wnaeth bechod. Cyf- ansoddiad diafol yw pechod, ac a wnaeth bechadur a phechod. Mae pechod yn gynrychiolaeth weledig o ddiafol anweledig. Er mae gwirion- edd pob gwir wybodaeth am hyn, fel am bob peth arall, yw gair yr Ar- glwydd, eto mae hyn yn rbrawf anwad- adwy am ddiafol yn natur, egwyddor, cynwysiad, a niwed pechod, ac nis gall lai na bod, canys achos ac effaith yd- ynt. Mae yn hyn ddefnydd cryfach o vmresymiad nag y gall annghredin- iaeth mewn tegwch ei wadu, canys y mae yn dangos ei hun ac.yn profi ei hun yn mhob dyn ac at bob dyn yn y duedd a'r hawsdra iddo, ac yn yr an- nhuedd a'r anhawsdra i bob rhinwedd, yr hvn yw'r gwrthwyneb iddo. Os gwedir nad oes un diafol yn bod, fel wedir Bod anweledig, yr hwn a brofir yn bod, gan ei fod ei hun yn weledig. Yr un peth a Duw yw gras; hyny yw, pob gras. Efe yw Duw po;b gras. Effaith o Dduw, delw Duw, yw gras, gan hyny cynrychioliad o Dduw ar y ddaear yw gras Duw mewn dyn- !on. Wrth air yr Arglwydd mae adnabod flob gras, ac wrth bob gras Duw mae adnabod grasol. Os gwedir Duw a'i air gan annghrediniaeth annghredin- wvr, fe wedir achos a brofir yn anffael- cdig gan ei effaith. Ond peidied neb ryfeddu yn y gwadu hwn. canys hyny yw egwyddor llygredigaeth y natur ddynol yn rrhob dyn." GWILYM DDU 0 WENT. Lobscows Pitar Preis. Mri. Gol.: Beth am Bili y iBwli yn sincio y Liwsitenia a'r Arabic, a llof- ruddio canodd o wragadd a phlant mewn gwaud our? Mi fasach yn dis- gwul i Fewurth fund yn di-pia-Vlw-. grybibion. Beth nauth o? Ddaru o dynu i got gynffonog, a'i wasgod ser- enog, a thorchi llewus i grus? Ddaru o roi plwc yn nghynffon yr erur Americanaidd nes y daru hwnw roi pcrech oudd yn ddychrun i bob bwli o Mexico Citi i Berlin? Dyna fasa chi'n ddisgwul i ddun fel Fewurth neud ynte? Ddaru o? Naddo myn gwair i! Y cwbwl nauth Fewurth oudd tynu i law yn bwullog ar hud i locsun ddwu neu dair gwaith, ac ista i lawr wrth y teipreitar, a gweithio hwnw am dros wuth awr yn stedi! Mau'n dda i'r hen wr na tous gan y teipreitars ddim un- dab run fath a dynion y relwe neu mi fasa raid iddo fo iwsio'i ffywntan pen reit amal. Mau arpa i ofn fod rhwbath o le ar gvfansoddiad Fewurth. Fella mau twumun y gwair sudd arno fo, gadewch i ni obeithio na tydio ddim bud gwauth beth bynag. Rydw i shiwr mau nid clefud y galon sudd arno fo; na mau calon Fewurth yn i lie, ac yn curo'n gyson. Rydw i bron a chredu y dyla fo newid i Ddoctor, ac mau Doctor Huws fudd fwua tebig o dduall i ges o. Ond mi faswn yn lecio gwbod os ous rhiw wir yn y stori glywis i hefud. Fynwn i er dim i'r Doctor injectio dim mwu o licar i gyfansoddiad yr hen wr, aches mi wur pawb fod yno ormod o hwnw'n barod. Na nid licar faswn i yn recyrnendio iddo fo, ond tipin bach o jinjir. A deud y gwir i chi, synwn i ddim nad y peth gora ar les Sam fasa'i yru o i'r jag sanitariym at Doc- tor Hanli, a'i gadw fo yno nes y gnau o seinio'r pledj. Mi fasa'n well dun buth wedun yn shiwr i chi. Ond aros Pitar mau hi jyst yn hanar dudd, a thitha yn clebran fan yma o bud. Welsoch chi rotshiwn beth fel mau'r amsar yn mund wrth scwrshio. Diaist i, rhaid i mi fund, mi drof i ?awn e?o y dwrnod glawog cynta neith hi. Gwd bei efribodi. PITAR PREIS. Gonestrwydd. Mri. Gol.: Clywir llawer o bregethu ar ddirwest, cadwraeth y Sabboth, a dyledswyddau crefyddol eraill, ond pur anaml y clywir pregeth ar onestrwydd. Byddaf yn ameu crefydd dyn, os bydd llawer o gollectors yn galw yn ei dy, ond efallai mai erefydd brin sydd gan ei wraig. Beth yw yr achos fod cynifer o bobl yn gomedd talu eu dyledion, tybed? Credwn mai y prif achos ydyw diffyg darbodaeth a gwastraff. Y mae rhywbeth o le yn foesol ar deulu sydd yn methu talu eu dyledion. os na bydd afiechyd yn y teulu. Y mae'r drwgdahvyr yn dysgu mynd yn gelwyddwyr cywrain hefyd wrth lunio esgusodion. Beiant bawb ond hwy eu hunain am eu hanffodion, ac y maent yn casau eu cymwynaswyr yn waeth na neb. Hoff- wn glywed pregeth Sasiwn ar y pwnc rywdro, a sicrhawn y gwnawn fy rhan i gyflenwi yr "Amen" gofvnol. MELINYDD. Hen Armin. Mri. Gol.: Os yw Hen Armin yn hen, byr iawn yw ei wybodaeth. "Nid oes yr un Calfin yn credu etholedigaeth h-eddyw," meddai, "fel y credid hi gan John Calfin." Dyma frawddeg hollol gyfeiliornus. Y mae pob gwir Galfin cyn ac ar ol Calfin yn credu mewn eth- oledigaeth union fel y'i credid gan Calfin. Enw yw Calfiniaeth ar ddys- geidiaeth y Beibl am drefn y cadw. Dysgid hon yn eglur oesoedd cyn dydd- iau Calfin. Aeth yr enw Calfiniaeth arni o herwydd i John Calfin roddi es- boniad mwy cyflawn arni na neb arall yn amser y Diwygiad Protestanaidd. Buasai Calfiniaeth yr un yn union ag yw heddyw pe buasai Charles Hodge, Thomas Charles,, John Knox,' na John Calfin heb eu geni erioed. Enw arall ar athrawiaethau gras yw Calfiniaeth. Nid yw etholedigaeth gras yn ddim ond fod iachawdwraieth yn hollol o ras. "Credais i yn Nuw,' medd yr Armin, "felly yr wyf fi yn Gristion heddyw. Pe buasai John Hughes wedi credu, buasai yntau yn Gristion hefyd. Arno ef mae y bai, ac i mi fy hun y mae i mi ddiolch. Dyled oedd iachawdwriaeth i mi am gredu." "Ni fuaswn i byth yn credu," medd y Calfin, "oni bai i Dduw anfon ei Ysbryd I gynyrfu a chynorthwyo fy meddwl. Nid oeddwn i yr un mymryn gwell na John Hughes. Mae yr iach- awdwriaeth o ras i gyd." Gan fod yr Armin yn gwrthod ethol- edigaeth, mae yn gwrthod y pechod gwreiddiol, a.c felly yn gwrthod ail- enedigaeth, a'r angen am ail-enedig- aeth. Mae yn wir ei fod yn arfer y gair (pwy sydd yn son mwy am ail- } enedigaeth, regeneration, change of I heart, &c., na'r Arminiaid; ond er hyn oil maent yn gwrthod yr athrawiaeth. Moral suasion yw ail enedigaeth gan- ddynt, nid gallu creadigol Duw, yr hon yw athrawiaeth yr Eglwys. Mae yr Undodwr yn arfer y geiriau Crist yn Fab Duw, a'r Universalydd yn arfer y gair uffern, ond maent yn gwrthod yr athrawiaethau. Dyma 1 mi sydd yn ddinystriol mewn Armin- iaeth, ei bod yn gwadu yr athrawiaeth bwysig a hanfodol ailenedigaeth, ac vn ei gwneyd yn ddim ond moral suasion. Os cymer dyn ei berswadio i ymuno a'r eglwys, meddylia e1 fod yn Cristion ac yn barod i'r nefoedd. "Easy going" iawn! Yr hyn sydd yn bla ar ein heglwysi 11eddyw yw fod y syniadau Arminaidd .-(,di en lefeinio mewn modd mor ddi- frifol, fel rrai anmhosibl bron yw codi y bobl o'u difrawder hyd yn nod yn yr onwadau sydd yn proffesu eu bod yn Galfinaidd, megys y Presbyteriaid, yr AnnHwnwYf a'r T. C. i raddau pell iawn. Fe wel y darllenydd craffus mor gamddarluniol yw brawddeg olaf Hen Armin, lie y ceisia osod allan yr athrawiaeth hon. Ond dyma ddigoni hwyrach y tro hwn. DANIEL WILLIAMS. Gv/enyn Sellr. Mri. Gol.: Yn awr pan y mae mas- nach yn fywicg, llafurwyr yn brin a chyflogau yn uchel, ceir llawer o ddyn- ionach ag sydd yn rhy ddiog i weithio, yn cyniwait- o amgylch y wlad gan geisio byw ar enillion pobl eraill. Gwisgant yn dda, bywiant yn fras, ac yfant yn helaeth, ac "eto nid ydynt yn hau nac yn medi nac yn cywain i ys- guboriau. Siaradant yn deg, ymgrym- rnt yn foesgar; ymagweddant yn fur- flenaidd, a gwyn eu byd y gwyr na ddelir yn eu rhwydau. Anfonant gy'kblvthyrau, a hysbysebant yn y newvddiaduron gan geisio dal yr ?h,d a phluo y diniwed. Gwertha rhai o honynt ran-ddaliad- au (shares) mewn mwnau, a cheir eraill yn cymell mortgages ar eiddo (tybiecliz). Y mae amryw gwmniau dur wedi ymgorffori yn ddiweddar, a cheisiant ddenu pobl i fuddsoddi eu henillion ynddynt. Cyfeirient at y ffortiwn a wnaeth ami un er dechreu y rhyfel drwy berchenogi rhanau mewn cwmniau dur, megys Bethlehem St-eel Co. a'r cyffelyb, ond mae lie i gredu y bydd llawer o'r cwmniau yn edwino fel cicaion Jonah pan dderfydd y rhyfel. Peidi-ed neb ag ymfalchio pan ga sylw v dosbarth hwn, a meddwl yr edrychir arno fel dyn cefnog. Dim o'r fath beth! Y ffaith ydyw fod eich henwau ar y "sucker list." Y mae llawer o wragedd gweddwon yn dlawd yn eu henaint, o herwydd gwrando ar dwyllwvr anonest. Y mae y tra- chwantwyr hyn mor amddifaid o gyd- wybod ag ydyw y Kaiser o dosturi, ac er efallai fod gan rai o honynt rith duwioldeb, y maent wedi gwadu ei grym. Y mae rhai cylchgronau a phapyrau mwyaf cyfrifol ein gwlad yn gwrthod derbyn hysbysebau gan bersonau a clnvnmiai anymddiriedol, ond dywedir fod llawer o'r cylchgronau crefyddol j yn derbyn yr hysbysebjon hyn. Gobeithio mai yn eu hanwybodaeth y gwnant hyn. Nid ydyw plant y T,oleulli eyn galled a phlant y byd hwn ar faterion o'r fath bob amser. Ceir ffug feddygon yn addaw gwella bron hob afiechyd. Y maent yn manteisio ar ddyoddefaint ac anwybodaeth eu cyd-ddynion er mwyn budrelw. Dywedir fod anrhydedd yn mysg lladron, ond nid oes ronyn o anrhydedd "n y dosbarth hwn. Gochelwn rhag- ddynt. II SAM ELLIS.
I CINCINNATI, 0.
I CINCINNATI, 0. I Gymanfa y T. C. Gorllewinbarth Pa, ac Ohio. Cynaliwyd y cyfarfodydd nos Iau, Gwener, Sadwrn a dydd Sul; dydd mawr yr wyl; chwech o bregethau, a nhob pregethwr ar ei oreu, *a'r cor mawr dan arweiniad Proff. David Davies, yn rhoddi rhyw awch i bob cyfarfod, ac yn enwedig nos Sul, pryd y canwyd i ddiweddu y Gymanfa yr "Halleluah Chorus" mewn ysbryd teil- wng- o fedrusrwydd yr arweinydd. ^eth pawb adref gan ddweyd mai da oedd bod yno, ac mai hon oedd y Ovmanfa fivynf Ilewyrchus er ys am- ryw fiynyddoedd.' Haedda gwragedd a merched yr eg- lwys ganmoliaeth uchel am eu trefn- iadau yn darparu ymborth i'r cynrych- iolwyr drwy y cyfarfodydd, ac ar y cabboth i'r holl gynulleidfa. Hyderwn lod y cvnrychiolwyr wedi dychwelyd i'w cartrefi a gair da ganddynt am Cincinnati. Dneth llawer o ddyeithriad y cylch i'r Gymanfa, ac yn ei plith yr hybarch archddiacon Mr. Owen Jones, Pitts- burgh. Da oedd' genym ei weled yn edrych gvstal ac mor fywiog ag erioed, ac yn dal ati i drin materion pwysig y Gymanfa. Fe balla gofod i enwi eraill. Gwelsom Mrs. Dickey a'i chwaer, Winnie, a Mrs. D. T. Jones, Columbus, 0., yno, a rhaid oedd cael cyfarfod nos Lun yn mhreswylfod Proff. David Dav- es, 2212 Fulton Ave., fel math o re- union i'r tylwyth aeth gyda eu gilydd, flwyddyn yn ol i Eisteddfod fawr y Panama Exposition vn San Francisco, 7le y bu Proff. David Davis yn un o'r beirniaid cerddorol. Treuliwyd noson ddifyr yn myned dros y dygwyddiadau ar y daith i'r Gorllewin, a da oedd ychwanegiad Mrs. D. T. Jones at y cwmni. Gwnaeth hi ei rhan yn ardderchog, a chredwn iddi fwvnhau y storiau a draddodwyd gan Dafvdd Gerddor a Dafvdcf Lenor, yn lle-hyd a'r canu a'r piano solos gan Miss Jane Margaret Jones.-D. L.
WESTERN RESERVE. 0. I
WESTERN RESERVE. 0. Gan John M. Youngstown, Hydref 15.-Aeth yr haf a'r cynauaf heibio, a dyma ni ar ganol hydref. Dywed rhyw fardd fod y mis Hydref yn fath o bryddest flyn- yddol, yn arddangos holl ogoniant y tymorau. Beth bynag, mae'r byd Cym- reig yn dal ati fel arfer. Daw'r 'Drych' i law bob wythnos yn ei faint- ioli arferol. Mae'r hen Feibl Cymreig a'r hen lyfr emynau wrth law»- ac yn eu bias, yn nghyd a'r canu a'r gwasan- aeth Cymreig wythnosol yn dwyn gwynebau siriol hen gymydogion i'r golwg, ac yn dwyn adloniant adnew- yddol ar gylchdaith bywyd, a diolch am hyny. Sefydliad dyddorol yn nglyn a'r bywyd Americanaidd yw yr ymgyrch Arlywyddol ar ben bob pedair blynedd. Cymer holl olygwyr a gohebwyr y cyf- nodolion a'r newvddiaduron ryddid i feirniadu a chamfeirniadu holl weith- redoedd yr ymgeiswyr gwrthwynebol, heb un reol nac esgus, ond yn unig rbaid ysgrifenu rhywbeth dros ein plaid ac yn gefnogol i'n hymgeiswyr ni. Arferid dysgyblu miloedd i ddan- gos nerth y blaid, a gorymdeithio drwy v dinasoedd gyda sain udgvrn a chwyf- iad baneri. Cof da gan yr ysgrifenydd "an yn greenhorn yn nghwmni can- oedd eraill yn cael eu harwain a'u gyru drwy brif ffyrdd y ddinas gan Qa1'io clogyn a lamp a bloeddio "Hurrah! for Grant, &c., Colfax neu rywun arall, a theimlid fod hyny yn ddigrifwch neiUdud. Bll'r cynllun mewn arferiad am ddegau o flynyddau, ond dyma gyf- newidiad eleni. Ymddengys fod yr etholwvr na-i!] ai yn rhy brysur gvda'u gorchwylion, neu maent yn foddlon i'r papvrau dyddiol ddylanwadu ar y wlad a pharotoi meddyliau y Iluaws erbyn vr etholiad. Yn ystod deugain mlvn- edd neu ragor. arferai ein dinas fod vn llawn brwdfrydedd yn flaenorol i'r etholiad. Mqe yn wahanol eleni. Teimlai yr elf en Gymreig awydd dys- gyblu ein nerth a'n rhif. a ffurfio cor- nn i ganu clodvdd Hughes a'r blaid Werinol, ond rhaid cyfaddef fod peth- au yn lied ddifywyd. Da genym nodi fod gwaith a mas- nnch yn parhau yn fywiog iawn a'r cyflogau yn rhesvmol. Pris pyrllo yn bresenol yw $9.30 y dunell! Mae yn uwch nag v bu yn hanes y gwaith pen'r grefft. Hefyd, mae dinasoedd a thrpfi sydd o fewn cylch y dur a'r haiarn a rubber yn cynyddu yn gyflym iawn. Dywedodd rhyw goegvn cell- weirus fod "pob sefydliad yn cynyddu ar garlam ond yr eglwysi Cymreig." Wel. gellir nodi fod dau ddrws yn a<rored hyd yn hyn, sef Girard ac Elm St. Dvsewylir yr adnabvddus Barch. Mawddwy Jones, o Portland, Ore., i dalu ymweliad a'r cylch Cymreig yn fuan. Mae amryw o eglwysi gweigion yn y cvfundeb a fyddant yn falch i'w roesawu. Blin iawn genym orfod ymadael a'r hen gyfoedion a'r hen arweinyddion, y rhai fu yn ewasanaethu eu cenedlaeth, megys AnMadoc. Anthonv Howells, John D. Davies, Brookfield. ac eraill; pob un yn ei gylch yn rhoddi gwasan- aeth teilwng. Bu yr olaf o wasanaeth ymarferol i eglwys a chymydogaeth Brookfield. Dichon fod yno gryfach a gloewach meddyliau yn y cylch Cym- reig, ond nid oedd neb mor barod a chvmwys a tharawiadol bob amser. Bu yn ysgrifenydd yr eglwys am flyn- yddau. Medrai siarad yn eglur a llithrig, ac am adrodd stori, medrai guro Cymro Gwyllt. Bachgen rhad- Ion ac ystwyth, siriol a charedig oedd John; gwnaeth lawer o waith i gyn- orthwyo eraill heb ddysgwyl tal na diolch. Teimlir colled ar ei ol. Dyma un arall o'r hen sefydlwyr Cymreig wedi pasio yn 86 oed, sef, Joseph J. Edwards. Dygwyd ef i'r wlad hon gan ei rieni yn y flwyddyn 1832, pan yn flwydd oed, a buont fyw vn ardal Minersville, Pa. Yn 1867 y daeth Mr. Edwards a'i deulu allan i Ohio. Buont fvw o gylch i'r glofeydd vn Vienna, a Weathersfield, hyd i'r glo gael ei weithio allan, pryd y daeth i'r ddinas hon. Genedigol o Penycae, Mynwy, oedd. Magodd deulu lluosog o blant: pump merch ac un mab. yn fyw i alaru ar ol tad cvwir a rhadlon, un- iawn a thangnefeddus. Cynaliwyd yr ansrla^d ddydd Llun o dy ei ferch, Mrs. Wm. Hadlev. ger Holmes Road. Gwas- annethwvd gan y Parch. Lloyd Roberts, a daearwyd yn ymyl ei briod ar Oak Hill.
I NODION 0 NEW CASTLE. PA.
I NODION 0 NEW CASTLE. PA. Gan Brython. New Castle, Pa., Hydref 17.—Daeth v newydd blin fel taranfollt i New Castle foreu Sabboth fod y cyfaill an- wyl T. Owen Charles, golygydd y "Welsh-American," Pittsburgh, wedi gorphen ei daith ddaearol. Llanwodd ei oes a llafur caled a ffyddlon dros ei gydgenedl. Nid oedd neb yn meddwl pan yr oedd i fyny yn New Castle yn Aduniad y Cymry yn mis Gorphenaf diweddaf fod awr ei ymddatodiad mor ages. Yr o-edd yn edrych yn ddarlun o iechyd, a'i lais fel y gloch yn siarad yn yr awyr agored. Darfu iddo roddi araeth wir dda ar y Cymry a'u safon yn y byd cymdeithasol, gwleidyddol ai chrefyddol, a dywedodd fod y Cymry yn chwareu rhan bwysig i gario y byd yn mlaen y dyddiau hyn. Fe fydd yr hyn a ddywedodd yn aros yn hir ar feddyliau a chalonau y rhai ag oedd yn bresenol. Gellir dweyd fod y genedl Gymreig wedi cael colled anferth yn marwolaeth T. Owen Charles, a chyd- ymdeimla Cymry New Castle a'r per- thynasau yn eu galar. Yr wythnos yn dechreu Hydref 16, fe ymadawodd y Parch. Clifford S. Joshua, gweinidog yr Immanuel, am Philadelphia, er mwyn bod yn bresenol yn nghyfarfodydd neillduol a mawr enwad parchus y Bedyddwyr. Mae y gynadledd yn dechreu dydd Llun, Hydref 16, ac yn diweddu dydd Gwen- er canlynol. Fe fydd y Bedyddwyr yn bresenol yn y cyfarfodydd hyn o bob rhan o'r wlad fawr hon, ac o ranau o wledydd eraill. Fe aeth yn llwyr o'm cof i hysbysu yn y "Drych" yr wythnos o'r blaen, am ymweliad byr a di-rybudd eich goheb- ydd achlysurol, y cyfaill David Chappell, o ddinas y Cariad Brawdol, sef Philadelphia. Fe ddaeth at ein drws ni a churo ac ymholodd yn yr hen iaith anwyl os mai yno yroedd Brython yn byw, ac atebodd y wraig ei fod yn y ty iawn. CymeIIodd ef i fewn, ac wedi i ni ddod wyneb yn wyneb a'n gilydd, mi gefais fy siomi yn fawr yn maint- ioli y dyn. Yr oeddwn wedi arfer crerlu am David Chappell ei fod yn ddyn dros chwech troedfedd o daldra, ac fod ganddo ryw osgo awdurdodol yn perthyn iddo, ond fel arall y cefais ef, dyn bach rhy fyr o daldra i uno a'r King's Guards yn Llundain, serch hyny yr oedd yn ddyn pob modfedd o hono. yn llawn boneddigeiddrwydd, ac yn siarad yr hen iaith mor glir a deall- adwy, a neb a glywais. Cefais amser; hapus yn ei gwmni, ac fe ddarfu i ni alw i weled Samuel J. Thomas, un o dderbynwyr goreu v "Drych" yn y ddinas hon. Yr oedd y cyfaill Chappell ar ei ffordd tua dinas Youngstown i weled rai o'i dylwyth. Mae rhaglen Eisteddfod Nadolig yr eglwys Annibynol allan erbyn hyn, ac y mae yn rhaglen chwaethus gyda digon o amrywiaeth. Gellir cael y rhaglen. ond anfon at yr vsgrifenydd. Griff. Thomas, 405% E. Luther St., ac y mae yn dda genyf i allu hysbysu eu bod wedi IIwyddo i sicrhau i gael dyn- ion gwir gyfrifol i wasanaethu ddydd yr Eisteddfod. Llywydd, Anrh. W. Aubrey Thomas, Niles, Ohio: arwein- vdd, E. S. Griffiths, Cleveland, Ohio; beirniad y canu, Proff. C. D. Davies, Cleveland, Ohio; beirniad yr adrodd- istdau a'r cyfansoddiadau, E. L. Griff- iths- darluniadau, Proff. J. M. Hughes, New Castle; Prize Bags, Miss Emery, New Castle; cyfeilwyr, John M. Evans a Miss Annie Thomas, New Castle; ys- grifenydd cy north wyol, Sol Davies; trv?orvdd, Thomas Grey. Mae cylchlythvr blynyddol Urdd y Gwir Iforiaid Americanaidd am y flwyddyn hon wedi dod i law yn lied hrvdlon y tro hwn, ac ynddo y mae hanes gwir fanwl a chywir o boll weithrediadau y Gynadledd a gynal- iwyd yn Rome, N. Y., mis Awst di- weddaf, ac y mae yn edrych yn llvfr anrhvdeddus iawn, a dylai pob aelod o'r Urdd feddu un o honynt yn ber- sonol, a'i ddarllen yn bwyllog, ac yn fanwl. er mwyn i bob un gael gweled sefyllfa a safon yr Urdd yn y wlad hon. ac efallai y byddai i hyny roddi ysbryd newydd yn nghalonau y rhai hyny o'r aelodau sydd yn ddifater am lwydd- iant yr unig Urdd Gymreig sydd yn y wlad fawr hon. Dydd Llun, Hydref 16, fe ymadaw- odd v Parch. George Richards am Pittsburgh er rhoddi ei bresenoldeb yn angladd yr ymadawedig gyfaill T. Owen Charles, y gwasanaeth angladdol yn cael ei gynal yn nghapel y Pres- byteriaid Cymreig, Oakland, Pitts- burgh, ac yna ar ol y gwasanaeth y corff i gael ei gludo i ddinas Scranton er ei osod i orwedd yn nghladdfa y teulu yn y ddinas hono. Mae Benjamin Powell, goruchwvliwr y Pennsylvania Engineering Works, wedi gwella i'r fath raddau wedi y ddamwain gas a gafodd ddechreu 'y mis hwn gyda'r oto, fel y mae wedi dod yn ddigon cryf ac iach i fyned am dro gyda'i briod trwy dalaeth Ohio a New York, a phan y bydd yn troi yn ol fe fydd yn barod i waith.