Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Advertising
1 3Drvcb. A WELSH WEEKLY ESTABLISHED 1851. Issued Every Thursday Morning. THOMAS J. GRIFFITHS. Proprietor. ( UTICA. N. Y. IMPORTANT TO ADVERTISERS.—The attention of business men in general Is called to Y DRYCH as a superior adver- tising medium, being read by thousands who cannot be reached by any other pub- lication. It has a large circulation, with subscribers in every State and Territory of th. Union, in Great Britain and the British Dependencies. It is the recognized National Organ of the Welsh People.
CAMGYMERIADAU YR ARLYWYDD…
CAMGYMERIADAU YR ARLYWYDD WILSON GYDA MEXICO. Gan Dr. Joseph Roberts. Nid yw yn beth dymunol sylwi ar gamgymeriadau dynion cyhoeddus, yn enwedig rhai y mae cymaint o waith ar eu dwylaw ag Arlywyddion y wlad hon. Eto, rhaid i'r neb sydd yn sylwi; gydnabod fod Wilson wedi gwneyd camgymeriadau anesgusodol gyda Mexico. Yn wir, gwlanenaidd, ansef- ydlog ac eiddil a fu, ac yw, ei weinydd- iaeth dramor. A chaniatau fod y gwr yn casau rhyfel, fel y mae miliynau o bobl eraill, ni fedd, fel y dengys ei weinyddiaeth at Mexico, ddigon o as- gwrn cefn i amddiffyn deiliaid y wlad bon, eithr goddefa iddynt gael eu hys- beilio a'u mwrdro gan ysbeilwyr, y rhai eydd yn byw ar hyny. Nid haer- iadau yw y pethau hyn, ond ffeithiau —ffeithiau hanesyddol. Gadawer i mi sylwi ar rai o honynt. Ni hoffwn alw ei weinyddiaeth at Mexico yn "Mother Goose nonsense," fel y gwna Sidney Austin Witherbee, yr hwn a fu yn llysgenadwr am tuag ugain mlynedd yn y wlad hono. 1. Y camgymeriad cyntaf a wnaeth oedd gwrthod cydnabod Huerta yn Arlywydd. Edrychai arno fel bwystfil, llofrudd a meddwyn. Ond camarwein- iwyd ef yn hyn. Dyn o enedigaeth isel, ond un yn meddu galluoedd medd- yliol cryfion oedd Huerta. Llwyddodd i fyned i goleg milwrol y wlad. Gradd- iodd yn uchel ynddo, enwogodd ei hun fel milwr, a dyrchafwyd ef i'r naill swydd ar ol y llall nes y daeth yn gadfridog, a hyny yn hollol ar sail ei allu meddyliol. Pan y cododd gwrth- ryfel yn erbyn yr Arlywydd Madero yr oedd Huerta yn ymladd yn ffyddlawn drosto. Aeth y gwrthryfel yn rhy gryf, ac ymddiswyddodd Madero a'r is- Arlywydd Suarez, ac yn ol cyfansodd- iad y wlad daeth y gweinidog tramor —Pedro Lascurain, i'r Arlywyddiaeth. Wedi i'r gwr hwnw gymeryd ei lw a'i benodi i'r swydd, o herwydd ei anallu i ymgymeryd a'r gwaith, ymddiswydd- odd ei hun a phenododd Huerta yn ei le, fel yr unig ddyn yn Mexico, yn ol ei syniad ef, a allai gyfarfod a'r am- gylchiadau. Cadarnhawyd y dewisiad hwn gan Senedd y wlad. Pa beth a ddaeth o ,Madero? Yr oedd yn parhau i lechu yn y palas. Darparodd Huerta gerbyd i'w ddwyn ef i orsaf y rheilffordd i'w gymeryd i Vera Cruz, mewn trefn i'w gynorth- wyo i fyned o Mexico. Ond wrth geisio ei waredu, saethwyd ef. Medd- yliodd Wilson mai Huerta oedd yr ach- os iddo gael ei ladd, er fod ein Ilys- genadwr yn tystiolaethu yn wahanol, a llysgenadon gwledydd eraill yr un modd. Ar y cyfrif hwn, am fod Huerta yn Ilofrudd yn ngolwg Wilson, gwrthodai ei gydnabod yn Arlywydd y wlad, er ei fod wedi ei benodi yn rheol- aidd, ac er fod Prydain, Germani a Ffrainc yn ei gydnabod. Dyma gam- gymeriad mawr cyntaf Wilson o barth i Mexico, yr hwn a'i harweiniodd ef a'i weinyddiaeth i luaws o gamgymer- iadau eraill yn ddylynol. Cyn sylwi yn mhellach ar y rhai hyny, yr wyf yn edrych ar Wilson a'i weinyddiaeth yn gyfrifol am yr an- nhrefn, y tywallt gwaed, y lladrata a'r ysbeilio sydd wedi bod yn Mexico er's dros ddwy flynedd. 2. Y camgymeriad a wnaeth yn Vera Cruz, pan yn gorchymyn i filwyr lanio yno. Yjt Ebrill, 1914, yr oedd milwyr Huerta wedi cymeryd meddiant o borthladd Tampico 'ar lan Mor Werydd ym erbyn milwyr Villa a Carranza. Ac ar y pryd, yr oedd rhai o longau rhyfel y wlad hon yn y porthladd o dan lyw- yddiaeth y morlywydd Mayo. Pan yr aeth nifer o'r milwyr i'r lan ar ryw fusnes, cymerwyd hwy i fyny, dygwyd hwy at y prif swyddog, yr hwn a'u gollyngodd hwynt yn rhydd, gydag ym- ddiheurad am y weithred. Gwnaeth Huerta ymddiheurad hefyd i lywodr- aeth y wlad hon. Gallasid meddwl y buasai hyny yn llawn ddigon, gan fod y porthladd eisoes o dan warchae. Ond nid oedd dim a foddlonai Wilson heb i lywodraeth Mexico gyfarch y faner (salute to the flag). Addawodd Huerta wneyd hyn, os gwnai y wlad hon yr un peth yn ol i flag Mexico. Ond nis mynent. Penderfynodd Wil-! son i ofyn i'r Gydgyngorfa roddi aw- durdod iddo i anfon milwyr yno i'w orfodi i gyfarch y faner. Ar hyny, daeth helbul newydd i'r golwg— llong Germanaidd wedi glanio yn mhorthladd Vera Cruz yn llwythog o arfau rhyfel i Huerta. Cyn cael can- iatad y Gydgyngorfa, gorchymynodd Wilson i'r Morlywydd Fletcher i fyned yno a chymeryd meddiant o'r porth- ladd. Gwnaeth hyn, er nad oedd gan- ddo ddigon o filwyr i'w ddal, a lladd- wyd un ar hugain o Americaniaid. Pan welodd y weinyddiaeth nad oedd ganddoFletcher-ddigon o nerth, anfonodd Funston yno gyda thair mil o wyr. Fel yr oedd y newydd yn ymledaenu dros Mexico fod yr Americaniaid wedi cymeryd meddiant o borthladd Vera Cruz, ac o'r tolldy, ymgynddeiriogai y bobl fel yr oedd bywyd yr American- iaid yn y perygl mwyaf. Gweithiai canoedd o honynt yn y ffynonydd olew, a lluaws eraill mewn goruchwyl- ion gwahanol. Ffodd nifer mawr, dros fil, meddir, i borthladd Tampico gan ddysgwyl cael noddfa ar fwrdq llongau rhyfel y wlad hon; ond gwrthodwyd hyny iddynt. Gorchymynodd y wein- yddiaeth i'r Morlywydd Mayo fyned i'r mor-hwylio o'r porthladd, fel y ga- dawyd yr Americaniaid, o fil i ddeu- ddeg cant at drugaredd y terfysgwyr, a buasent wedi eu lladd, oni buasai i longau Germani a Prydain gymeryd trugaredd arnynt. Dyna Wilson a'i weinyddiaeth wan. Rhyfedd iawn! Y gwr sydd yn udganu yn awr, "The Americans first" yn gwneyd busnes fel hyn! A fuasai rhyw un yn breudd- wydio am i longau rhyfel Prydain, Germani, Rwsia, neu longau rhyfel y wlad hon, yn gwneyd peth fel hyn o dan Roosevelt-gadael tua mil o'u dinasyddion yn nanedd marwolaeth a nofio allan o'r porthladd. Hyn a wnaeth Wilson. 3. Aeth gynadledd o gynrychiolwyr gweriniaethau y De yn Niagara yn fethiant cywilyddus. Casglodd yno gynrychiolwyr o Chile, Brazil, Ar- gentina, ac o'r wlad hon i drafod achos Mexico. Gwastraffwyd yno hyawdledd llifeiriol. Pa beth a ddaeth o honi hi? Diflanodd fel brasder wyn. Yn fwg y diflanodd hi. Ar ddiwedd y gynadledd, syrthiodd llywodraeth Huerta. a hyny, nid am fod galluoedd unol Villa a Carranza yn gryfach nag | ef, ond ar gyfrif fod Wilson a'i wein- yddiaeth yn ei erbyn, er ei fod wedi ei ddewis yn Arlywydd yn rheolaidd yn ol cyfansoddiad ei wlad. Caniateir i bob math o arfau rhyfel fyned yno o'r wlad hon; eto dywedodd yr Arlywydd yn ei araeth yn Indianapolis y dydd o'r blaen, "Nid yw y tywallt gwaed a'r; troseddau a gyflawnir yn Mexico yn ddim o'n busnes ni. Y mae ganddynt hawl i drefnu eu diffygion eu hunain, heb ein help ni." Felly, rhaid y bu- asai efe yn credu fod gan y Tyrciaid; hawl i ladd miliwn a haner o'r Armen- iaid diniwed, am eu bod yn meddu hawl i drefnu eu achosion eu hunain heb ymyriad neb arall. Wele ddwy ffaith arall. Trwy gan- iatad Carranza aeth pedwar ar bym- theg o ddinasyddion y wlad hon i ym- sefydlu yn Mexico; pobl heddychol, gonest, ond ysbeiliwyd a lladdwyd hwy bob un. A ddaliodd Wilson Mexico yn gyfrifol am y Ilofruddiaeth? Dim o gwbl. Y mae rhuthrgyrch ysbeilgar1 milwyr Villa i Columbus, tref fechan yn New Mexico ar derfyn y ddwy wlad, yn fyw o flaen meddwl pobl y wlad hon yn awr, lie y lladdwyd chwech ar hugain o'n cyd-ddinasydd- ion. Anfonodd y weinyddiaeth filwyr yno i ddal Villa, ac i gosbi y llofrudd- ion. Ond ni chaniatai Carranza idd- ynt ddefnyddio y rheilffordd, na'r tele- graff, na'r telephon, a da ydoedd idd- ynt gael benthyg vans olew John D. Rockefeller i gludo eu gynau trymion a'u celfi rhyfel. A fuasai rhyw un o'r Arlywyddion eraill yn goddef hyn? Pa le y mae Villa? Y mae heb ei ddal; yn casglu byddin o ysbeilwyr ato, a rhan fwyaf o'n milwyr ni wedi dych- welyd adref yn ol. Os wyt ti yn leicio y polisi hwn, ddarllenydd, pob peth yn dda. Nid wyf fi ei yn leicio, a phe bu- asai genyf gan mil o bleidleisiau, ni chawsai y meddal Wilson gymaint ag un o honynt.
OS YW PWYLLWYDDEG YN WIR.
OS YW PWYLLWYDDEG YN WIR. Gan H. W. Evans, Plainsville, Pa. A chymeryd yr os yn gadarnhaol, y mae Pwyllwyddeg yn wir. 0 herwydd hyny, y mae lleoliad yr ermigau yn y nen, yn dysgu y dylanwad ddylai y galluoedd meddyliol cysylltiedig a'r ermigau gael yn nghymeriad y dyn. Anhawdd cael prawf eglurach o wir- ionedd y wyddor hon, na darlun y peir- ianydd a'r cynllunydd Frank M. Wil- liams, o Albany, N. Y., ymddangosodd mewn "Cambrian" diweddar. Dyma lie gwneir cyflunedd a chaffaeliad yn orfawr, a lie y mae ermigau yn orfawr, y maent yn deall fel yn reddfol. Byddai gosod y darlun yn y "Drych" yn wers ardderchog i'r darllenwyr, er dangos talentau mawrion iawn yn chwyddo allan fel yr oedd seiniaeth yn y Dr. Joseph Parry. I Ar gais Mr. Evans yr ydym yn rhoddi gyda'r ysgrif y darlun o'r Anrh. Frank M. Williams. Mae sylwadau y Pwyllwyddegwr yn gymeradwyaeth neillduol iddo, ac i'w ymgeisiaeth am ail benodiad fel Peirianydd Talaeth New York. Yr wyf am argraffu yn ddyfnach ar feddwl y darllenydd fod y Crewr wedi gosod yr ermigau crefyddol ar gopa y pen, ac er deall teyrnas Dduw yn y dyfodol, rhaid geni dyn drachefn, oddi uchod, i lywodraeth y beirniadau moes- ol. Pan byddo cariad at Dduw a dyn wedi cael y llywodraeth uwchlaw y nwydau anifeilaidd, a'r serchiadau cymdeithasol, genir o'r newydd allan o lywodraeth hunanoldeb anifeilaidd y natur anianol, i ysbryd y cariad Dwyfol, fel yr eglurwyd yn mywyd a dysgeidiaeth Iesu Grist; gwasanaethu y wladwriaeth yn ysbryd yr efengyl. Nefoedd newydd a daear newydd yr ydym ni yn ei ddysgwyl, lie bydd car- iad a chyflawnder yn llywodraethu. Yn wir, y mae lie cryf i ofni mai un- debau hunanol yw undebau llafur hyd yn hyn, nid llawer o son sydd am les y mwyafrif, eithr ein lies ni. Y nwyd- au anianol yn awyddu am fwy o bleser a difyrwch, yn fwy amlwg na'r ysbryd brawdol Cristionogol i wasanaethu er lies y mwyafrif. Gellid meddwl, wrth edrych i lawr ar wleidyddiaeth y Democratiaid mewn cysylltiad a'r pwnc arianol, nad oes llawer o ysbryd Cristionogol a gwer- inol Abraham Lincoln, set arian y bobl, gan y bobl, er lies y bobl yn bodoli. Ond dyna ysbryd ceidwadol yr hen blaid wrthwynebodd y cefnau gwyrddion y pryd hwnw, er lies arian- wyr, a thrwy gymorth arianwyr Ewropeaidd a laddasant gynllun i dalu dyled y rhyfel cartrefol ag arian dilog y bobl, a gorfodwyd Lincoln a Stephens i dderbyn mesurau i newid arian y bobl am rwymebau sydd wedi caethiwo y werin a dyled caethfeistri y De. Cofier mai achos y rhyfel oedd caethfasnach, a'r bobl gyd-ddyoddefodd y pechod er mwyn elw, ddylasai dalu y ddyled, a thalodd Lincoln y rhan fwyaf o'r ddy- led ag arian papyr. Talwyd y glowyr am dori y glo ag arian papyr, a'r haiarn weithwyr am wneyd arfau rhy- fel ag arian papyr, a'r milwyr am orchfygu y De, talwyd hwythau a'r un fath o arian papyr, dyled ddilog y llyw- odraeth, yn sefyll yn erbyn holl gyf- oeth y wlad. Yr oedd llwyddiant mas- nachol y wlad yn adeg diwedd y rhy- fel, yn ddigyffelyb yn hanes y byd, glo- wyr yn cynilo arian i brynu tyddynod, neu adeiladu tai yn gartrefi, cwmniau yn agor glofeydd newyddion, rheil- ffyrdd yn cael eu gyru yn mlaen yn holl gyrau y gogledd. Yr arian papyr dyled ddilog y llywodraeth yn symud holl fasnach y wlad ag sbryd dadblyg- iad annghydmarol. und llwyddodd arianwyr y byd gyda y blaid Ddemo- crataidd i ddyfetha I' ddiant dyled ddilog, sef arian y bobl, cedd wedi lles- oli y bobl, a chodi cyflogau y bobl fel glowyr yn gallu enill Hog can dolar am flwyddyn mewn un dxwrnod o waith. Nid yw ein llwyadiant presenol trwy ddylanwad y rhyfel fawr Ewrop- eaidd wedi cyraedd nod uchel llwydd- iant yr arian papyr, pan oedd glowyr yn cael dros dolar y dunell am dori glo caled yn Luzerne, Pa. Paham y gor- foledda y Democratiaid yn y llwydd- iant presenol sydd yn syndod i mi. Yr oedd llwyddiant gwerinol amser di- wedd y rhyfel mor fawr. Pe buasai y Democratiaid wedi agor eu llygaid i weled gwerth Lincoln fel haul yn llewyrchu ar lywodraeth werinol? rhoddasent i ni fesur tirol i echwyna yr arian, cynilion y bobl am ddau y cant, i amaethwyr y wlad am dri y cant i wneyd gwelliai ^au amaethydd- ol. Yn lie hyny, rhoddir yr arian i arianwyr am ddau a hsner y cant, yna gall yr amaethwyr tlal-d sydd yn cyn- yrchu o bedwar i saitl cant y flwydd- yn, dalu chwech y ca; t y flwyddyn o log i arianwyr, am yr arian y mae y llywodraeth garedig Deemocrataidd yn talu dau y cant i weithwyr tlawd am eu cynilion. Rhyfedd yw dallineb y werin bobl, y bobl gyffredin. Ymladd yn erbyn hawliau c 'fartal dynion dan rith enw y werin bobl. Pe bu- asai ysbryd Lincoln yn cael y dylanwad haeddai, buasem yn talki pob dyled gen- edlaethol ag arian dilt. ac ni fyddai son am rwymebau cenedlaethol yn rhwymo yr holl bobl i gaethiwed llog i arianwyr. Nid op" 5th cyfiawnder mewn tau dyled uaijaaau amdJi- ffynol eiddo fodola yn y presenol, a rhwymebau i'w talu yn y dyfodol gan ein plant. Pa faint llai o ysbryd car- edigrwydd sydd yn y mesurau arianol sydd yn gwneyd bob gwelliantau trwy rwymebau ar eiddo y dyfodol gyda llog. Oni fyddai mwy o obaith cael arian y bobl, gan y bobl, er lies y bobl, gan blaid Lincoln.
IHUGHES vs. WILSON.I
I HUGHES vs. WILSON. I t Gan Gwladgarwr. I Nes.penelin nag arddwrn, a thewach gwaed na dwr sydd ddwy hen ddiareb adnabyddus. Y mae yn ddigon natur- iol i un deimlo yn foddhaus wrth wel- ed ei gydgenedl yn ymddyrchafu yn y byd, a gellir maddeu i un am ym- falchio tipyn, yn neillduol un o genedl fechan fel y genedl Gymreig, heb na gallu nac awdurdod o'i heiddo ei hun- an yn y byd, Wrth weled rhai o'i nifer yn llanw safleoedd o allu a dylanwad yn mysg cenedloedd y ddaear. Wrth son am y cyfryw byddwn yn teimlo ein bron yn ymchwyddo, ac megys yn teimlo fod rhan o'r clod perthynol idd- ynt yn eiddo ni ein hunain. Hawlia rhai fod cynifer a chwech a gyn-arlywyddion y Talaethau Unedig o darddiad Cymreig neu a gwaed Cym- reig yn eu gwythienau; ond ni allwn gael profion o werth, ac ni chydna- byddir y tu allan i ni ein hunain fod ond un, Thomas Jefferson, o darddiad Cymreig, ryw dro yn mhell yn y gor- phenol. Pa fodd bynag am hyny, yn yr ymgyrch Arlywyddol ibresenol, wele un ymgelsydd heb un cwestiwn a gwaed Cymreig ynddo, ac nid o oesoedd pell yn ol, ond gwaed tew, coch, ffres ein hoes ni. Gwir nad, ydyw yn Gymro cyflawn, ond gan fod ei hybarch dad yn Gymro Cymreig ac yntau yn cario enw Cymreig, fel Cymro y caiff edrych arno a'i gydna- bod. Os llwyddir i'w ethol, bydd y boddlonrwydd a rodda yn sylweddol, ac adlewyrchir anrhydedd uniongyrch-j 01 ar ein cenedl fechan, ac nid drwy hanes o'r gorphenol pell. Owna. Wilson a'i blaid lawer o'r cri a godant ei fod wedi ein cadw allan o ryfel, ac mai canlyniad ethol Hughes fydd rhyfel, o herwydd ei fod yn beirn- iadu gwladlywiaeth dramor y llywodr- aeth fel un eiddil ac ansefydlog. Gwelir arwyddion mewn rhai cyfeir- iadau fod y waedd yn cael effaith, ac am fod y Cymry yn genedl o deimlad- au ae ysbryd crefyddol cryf, ac felly yn un a werthfawroga heddwch bron o dan unrhyw amgylchiadau, nid yw yn anmhosibl i'r cri gael effaith arnom ninau, os na fyddwn wedi talu sylw digon manwl i'r ffeithiau. Mor belled ag y mae yn myned, nid ydym wedi ein cadw allan o ryfel, canys y mae ein milwyr ar dir Mexico ar hyn o bryd, ac wedi bod yno o'r blaen, ac nid ydym wedi cyraedd un dyben yr un o'r ddau dro ond aberthu ychwaneg o fywydau a'n hanrhydedd, ac hefyd golli ymddir- ied ac achosi gelyniaeth y Mexicaniaid, ac nid oes a wyr pe buasai y genedl anffodus hono yn gryfach beth fuasai y canlyniadau. Ond yn yr ystyr y ceisia Wilson roddi ar ddeall, nid ydyw wedi ein cadw allan o ryfel, am nad oedd resymau digonol dros i ni fod mewn rhyfel, ac fel y dywedodd Hughes yn dra phriodol, y buasai raid cael bwnglerwr diesgus i'n gyru i ryfel. Ac meddai Hughes yn mhell- ach, "Yr ydym oil yn dymuno hedd- wch, ond yr ydym yn dymuno i hedd- wch gael ei gadw yn anrhydeddus drwy wladlywiaeth gywir, trwy sefyll vn gadarn dros hawliau adnabyddus, a thrwy haeddu a derbyn parch y byd." Buasai Hughes wedi amddiffyn bywyd ein dinasyddion a meddianau Ameri- canaidd, a gwnaiff hyny hefyd os caiff y cyfleusdra, ac heb beryglu ein hedd- wch ychwaith. Arweinir ni i gredu fod rhai o'n cydgenedl, yn neillduol rai cydmarol ddiweddar o Gymru, yn teimlo fel i gefnogi Wilson am ei fod yn ymddang- os yn ffafrio Prydain yn y rhyfel. Y mae yn rhinwedd ynom i deimlo yn gynes tuag at wlad ein genedigaeth, ac y mae yn ganmoladwy ynom i ddy- muno iddi bob llwyddiant mewn rhyfel a heddwch. Ond y mae gosod ei budd- ianau yn safon ein gweithredoedd gwladyddol yn annghyson ac yn an- nheilwng o honom fel dinasyddion Americanaidd. Mwy, y mae yn frad- wriaeth yr un mor wirioneddol ag yd- yw yn yr Ellmyn a gondemnir genym mor ddiarbed. Lies ein gwlad fabwys- iedig lie yr ydym yn gwneyd ein byw- iolaeth ddylai fod yn safon ein hym- wneyd gwladyddol, ac a ddylai lywodr- aethu ein pleidleisiau. Yr hyn sydd yn bwysig i ni ydyw fod ein gwlad yn cael ei llywodraethu yn y fath fodd fel y byddo bywyd ein dinasyddion ac eiddo ein gwlad yn ddyogel ar dir a mor, ein gweithwyr yn cael eu ham- ddiffyn rhag canlyniad dystrywiol y gorlifiad o nwyddau fydd yn cael eu gwthio arnom o Ewrop ar ol y rhyfel, ein sefydliadau rhydd yn cael eu cadw yn annifwynedig, a'n henw yn cael ei barchu a'i anrhydeddu gan holl gen- edloedd y ddaear. Os ydyw Wilson yn teimlo yn garedig at Brydain Fawr, y mae wedi bod yn fethiant i ofalu am fuddianau ei wlad ei hunan; ond yn ffodus y mae genym ddyn wrth law yn ddigon cryf i wneyd hyny, ac yn ngrym ei gyneddfau deallol ysblenydd a'i addysg ddwfn-dreiddiol, a all ym- godymu a'r cwestiynau mwyaf dyrus a all ein cyfarfod. Yn y dyddiau diweddaf hyn, ym- ddengys fod meibion "Cymru fechan dlawd" yn dod i'r ffrynt a'i bod yn dangos i'r byd y gallant gadw i fyny a neb pwy bynag ar ol dod yn rhydd 0 hualau gorthrwm y canrifoedd, a chael manteision addysg briodol. Y dydd o'r blaen darllenasom yn y "Daily Mail" Llundain fel yr oedd meibion "Gallant little Wales" yn rheoli masnach sych- nwyddau fan-werthol (retail) prif ddinas y byd. Mewn gwahanol gyrau o'r ddaear ceir Cymry yn llanw safle- oedd o anrhydedd. Mewn rhai gwled- ydd ceir hwy yn llywodraethu mewn gwahanol gyfeiriadau. Dyna y cad- fridog Sam Hughes yn weinidog mil- wrol yn Canada, ac wedi profi ei hunan yn ystod y rhyfel yn athrylith o radd uchel. Dyna William Morris Hughes, prif weinidog Awstralia, a ddaeth i amlygrwydd yn ystod y rhyfel, a dy- wed y "New York Independent" ei fod wedi dangos amgyffrediad o'r broblem ymerodrol fydd yn gwynebu Prydain ar ol y rhyfel y tu hwnt i neb. A dyna ein David Lloyd George yn brif allu ysgogol Prydain Fawr yn ystod y cyf- wng mwyaf a difrifolaf fu erioed yn ei hanes, ac a rhai mor bell a'i alw yn waradydd Prydain. Oni fyddai yn coroni y cyfan eto i ni gael y Cymro Charles Evans Hughes yn Arlywydd Unol Dalaethau yr Am- erica. Byddai cael Cymry yn allu Ilywodraethol y ddwy wlad alluocaf, gyfoethocaf a goreu fu erioed a" daear Duw yn ogoneddus o beth! Pwy wedyn feiddiai ddweyd fod Cymru fechan yn ddisylw ac anenwog; pwy wedyn welai fai ynom ymfalchio tipyn, bach? Gymry, na adawn un gareg heb ei throi er ethol dyn sydd yn gredyd i ddynolryw, ac er gallu dangos i'r byd beth all Cymru droi allan. megys ag y mae David Lloyd George yn "ddyn yr awr" yn Mhrydain Fawr yn ol cydna- byddiad cyffredinol, credwn fod holl amgylchiadau cydfynedol a'i ddygiad allan fel ymgeisydd yn profi fod Charles Evans Hughes wedi ei dyngedu gan Ragluniaeth i fod yn ddyn y cyf- wng sydd o'n blaen yn America.
NODIADAU CERDDOROL.
NODIADAU CERDDOROL. Gan Peter Edwards, Mus. Bac. (Pedr I Alaw. Y Gymanfa Ganu.—Dyddorol ydoedd hanes y canu adeg Eisteddfod Genedl- aethol Aberystwyth, fis neu ddau yn ol. Darllenais fod Dr. Allen-un o'r beirn- iaid cerddorol, wedi ei fawr synu a'i wir swyno gan ganu y cor mawr yn y Gymanfa Ganu. Diau fod y canu yn wir dda, yn deilwng o honom fel rhai hen gynefin a thonau y cysegr. Y dydd o'r blaen, darllenais y bydd Cymanfa Ganu hefyd yn nglyn a'r Eisteddfod Genedlaethol nesaf yn Birkenhead (1917). Ond y cwestiwn yw: pa les geir o'r fath Gymanfa Ganu? Meddylier am adeg ei chynal- iad; a oes fymryn o le i ddysgwyl ar- ddeliad ar y canu? Nis tybiaf ddarfod i eneiniad y nef erioed ddisgyn ar un- rhyw ganu cysegredig heb fod ysbryd y cantorion yn barod iddo, ac yn dyheu am dano! Wel, pa ryw ddarpariaeth a geir, yn y cyfeiriad hwnw, adeg Eis- teddfod Genedlaethol? Onid yw y tor- feydd yno er mwyn cael "amser da a difyr?" Ydynt, wrth gwrs. Nid dwysder crefyddol ydyw nodwedd yr ysbryd Eisteddfodol-ac ni fwriadwyd iddo fod hyny. Nid ydyw awyrgylch yr Eisteddfod yn helpu i grefyddoli ys- bryd dynion; ac, felly, ni ddylid cynal Cymanfa Ganu yn nglyn a'r Eistedd- fod. Oes eisieu gwella canu y cysegr? Gellir gwneyd hyny yn y capel, gar- tref, ac yn y Gymanfa Ganu leol, &c. Y mae y Gymanfa Ganu yn debyg i winwydden neillduol a dyf yn Ffrainc -ac na thyf yn unman arall. 'Soil' y Gymanfa Ganu ydyw y cysegr: yno y tyf ac yr addfeda ei ffrwyth. Planer hi yn 'soil' yr Eisteddfod, ac ni cheir ganddi rawnwin o flas nefolaidd! Tybed fod fy marn ar hyn yn un gywir? Wel, dichon y bydd i lawer annghytuno a mi; ond y mae barn gwr profiadol fel Llew Tegid yn werth rhywbeth. Dywedodd, ar ol Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth, nad oedd eneiniad o gwbl ar y canu yn y Gymanfa yno; a diau fod y coll hwn, yn marn Llew Tegid, i'w olrhain i'r achos a grybwyllais. Chwi wyr Birkenhead, gwrandewch ar gyngor y "Drych!" Gadewch lon- ydd i'r Gymanfa Ganu adeg gwyl fawr y cystadlu. Y mae y don Gynulleidfaol yn beth rhy gysegredig i'w dwyn i lwyfan yr Eisteddfod, i fod yn gyfrwng addoliad. "Yn yr ysbryd" y cafodd Simeon y weledigaeth yn y deml-pryd y gwelodd Waredwr yn nhrem baban! "Yn yr Ysbryd" yr oedd y crefyddwyr yn Jerusalem, pan yn cynal cwrdd gweddi deng niwrnod, ac y teimlwyd nerth anorchfygol y Pentecost! "Yn yr Ysbryd" yr ydoedd loan pan y caf- odd y weledigaeth a groniclir yn llyfr y Dadguddiad! ac "Yn yr Ysbryd" yn unig y bydd y canu yn gyfrwng i ddod a'r gawod nefol i lawr! Y mae y don Gynulleidfaol yn beth anwyl, gysegredig iawn, genym ni, Gymry. Anhawdd ydyw ei dadgysylltu yn ein meddwl oddiwrtho y cysegr. Y mae ei hanes, yn ystod y blynyddau a fu, wedi bod yn un bendithiol iawn. Cododd ni, laweroedd o weithiau hyd ddrws y Nef; brydiau eraill, daeth a'r Nefoedd i lawr hyd atom! O! flodeuyn y Nef, na foed i ni geisio dy Manu mewn 'soil' lie na elli dyfu ac addfedu! Tenorydd Machno.—Clywais fod y cantor hwn-gynt o Chicago a Los Angeles, bellach yn Oshkosh, Wis., a'i fod yn rhoddi mawr foddlonrwydd i'r Americaniaid yn y capeli. Pob llwydd iddo. Carwn gael ychydig o hanes ei yrfa gerddorol, i'r golofn hon. W. N. Jones.—Nid wyf yn annghofio fod yn Oshkosh leisiwr rhagorol, yn mherson y gwr hwn. Clywais ef yn canu i dyrfaoedd gyda grym a dylan- wad mawr. Ofnaf ei fod yn rhy wyl- aidd i yru ei hanes cerddorol i mi! R. E. Jones.—Y mae y cerddor hwn, o Scranton, 'Pa., wedi ymsefydlu yn Oshkosh, Wis., fel athraw cerddorol, a chlywais ei fod yn llwyddo yn ei waith. Da iawn ydyw clywed am lwydd ein cydgenedl yn mhob man. "Y Cerddor."—Tybed fod yr awdur- dodau milwrol yn cadw y cyhoeddiad hwn yn ol? Ni ddaeth rhifynau Gor- phenaf, Awst, Medi a Hydref i law.
[No title]
Yn llys ynadon Llanrwst, dirwywyd Margaret J. Williams, Dolwen. Nebo, i ddeg swllt, am roddi nodded i ffoadur o'r fyddin. I
HUGHES vs. WILSON.
HUGHES vs. WILSON. Gan Pennanttwrch. Nid fy mwriad yn hyn o ysgrif ydyw ateb "Gwladgarwr," a ysgrifena o dan y penawd hwn i'r "Drych." Hawdd canfod mai cyfieithiad bwngleraidd o'r truth dienaid a wasgerir gan fan boli- ticwyr ydyw ysgrifau amrwd "Gwlad- garwr." Buasai "plaidgarwr" yn add- asach ffugenw wrth yr ysgrifau. Cejs- iaf ymdrafod a phwnc yr etholiad agos- haol oddiar safle y pleidleisiwr anni- bynol. Y mae hanes a chymeriad Wil- son a Hughes yn wybyddus i bob dyn darllengar yn y wlad. Cydnabyddir* mai Hughes ydoedd un o'r Llywodr- aethwyr goreu gafodd talaeth N. Y. Meddai ddigon o wroldeb i herio poli- ticwyr llygredig ei blaid ei hun, yn ogystal a Tammany Hall. Gwnaeth waith da yn y dalaeth, hyd nes iddo gael ei apwyntio i'r Uchaflys. Cyffelyb ydyw hanes Wilson yn New Jersey. Gwnaeth yntau waith mawr, er gwrth- wynebiad y politicwyr, ac fel y gwydd- ir, cafodd ei ddewis i redeg am yr Ar- lywyddiaeth bedair blynedd yn ol er gwaethaf y dosbarth gwaelaf o'r blaid Ddemocrataidd. Gresyn na byddai mwy o ddynion tebyg i Hughes a Wilson yn mysg gwleidyddwyr ein gwlad. Yr oedd y ddeuddyn wedi enwogi eu hunain cyn ymgymeryd a gwleidydd- iaeth, y naill fel cyfreithiwr, a'r llall fel dysgawdwr. Canfyddir nodwedd- ion y dysgawdwr a'r cyfreithiwr yn- ddynt yn awr. Y mae areithiau Wil- son yn goeth ymresymiadol, a theg, ac y maent yn drysorau Ilenyddol. Tu- edda Hughes ar y llaw arall at ddull y cyfreithwyr o apelio at ragfarn y gwrandawyr, a cheisio cario ei bwynt ar draul anwybyddu, neu gamliwio, ei wrthwynebydd. Teg ydyw dadgan ei fod yn llawer mwy cymedrol yn ei ar- eithiau diweddaraf. Teimla a thystia Ilawer o'i blaid ei hun, mai camgymer- iad a wnaeth wrth guro mor ddiarbed ar Wilson, heb ddangos amgenach polisi ei hun. Credir gan lawer fod Hughes wedi gwneyd mwy o niwed. nag o les i'w achos, drwy ei areithiau er pan ddewiswyd ef yn Chicago. Am- wys a phen-agored ydyw ei areithiau, yn enwedig ar bwnc yr hyphen. Ceis- iodd y "New York Tribune," ac eraill o'i bleidwyr mwyaf selog, gael allan el eafle ar y pwnc hwn, ond hyd yn hyn, nid ydyw wedi dewis dod allan yn eg- lur a phendant ar y mater gwir bwysig hwn. Paham na ddel allan yn glir ar y mater sydd gwestiwn dyddorol ac amserol. Ai tybed ei fod yn ofni digio y German-Americans. Mae yn wy- byddus fod y Germaniaid wedi ym- dyngedu i orthrechu Wilson, ac y maent yn gweithio yn egniol o blaid Hughes. Pe gofod yn caniatau, gellid dyfynu o nifer o bapyrau Germanaidd i brofi eu bod yn cynllunio dymchwel- iad Wilson am iddo fod yn rhy lym gyda Germani, ac yn rhy lwfr .gyda Lloegr, meddant hwy. Tystia rhai Prydeiniaid fod Wilson wedi bod yit egwan yn ei ymwneyd a Germani, ac yn fanwl a llym yn ei ymwneyd a Phrydain. Y casgliad naturiol oddi- wrth y ddwy blaid ydyw, fod yr Ar- lywydd wedi rhodio llwybr canol, ac wedi gweithredu yn ddoeth a theg yn ystod y rhyfel. Y mae safle ein Har- lywydd wedi bod yn un galed iawn, ac nid oes ameuaeth nad ydym wedi gweithredu bob amser gydag urddas a buddiant ei wlad yn oruchaf yn ei feddwl. Dylid ystyried fod profiad y gorphenol yn help mawr iddo yn y dyfodol, ac onid ffolineb fyddai rhoddi dyn newydd yn y swydd cyn terfyniad y rhyfel. Gwelir arwyddion fod llyw- odraethwyr Germani a'r Cyngreirwyr yn dechreu dod i gydnabod fod Wilson yn gweithredu yn uniawn, ond y mae y Germaniaid cibddall yn y wlad hon, yn dal yn llawn cynddaredd ato, ac y mae eu hymddygiadau yn fradwriaeth eglur. A ydym ni fel Americaniaid am oddef i'r giwaid hyn benderfynu pwy gaiff fod yn Arlywydd ein gwlad? Credaf nad ydym, ac y dangoswn hyny drwy ethol ein Harlywydd am bedair blynedd arall i'r Ty Gwyn. Efallai y teimla Mr. Hughes o dan rwymau i foddio y rhai hyn, am fod ganddynt ran flaenllaw yn ei ddewis iad yn Chicago. Yr oeddynt yn ofni y dewisid Roosevelt gan y Gwerinwyr, a chan fod eu cas yn angerddol tuag ato ef yr adeg hon, gweithiasant fel un gwr dros Hughes er mwyn gorch- fygu Roosevelt. Nid oes dadl nad Roosevelt ydoedd dewisddyn y parti, ond Ilwyddwyd i'w orthrechu gan y bossis a'r hyphen. Y mae safle Roose- velt ar bwnc y hyphen yn wybyddus i _.&.