Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
EHYFELYN EWROP
EHYFELYN EWROP GERMANI A'l CHYFYNGDERAUY! DRAFFERTH YN Y WERDDON. GROEG YN GRAIG RHWYSTR.— LLWYDDIANT YR EIDALIAID A'R SERVIAID. Berlin a'r Casgliad aur.—Llofruddiad Prifweinidog Awstria.—Grey a heddwch. Y dyddiau hyn y mae Berlin am ei bywyd yn llunio a thaenu anwireddau di sail er cadw pobl Germani mewn an- wybodaeth, fel y cadwyd hwy o'r de- chreu. Byddai yn berygl terfysg yn Germani pe y deuent yno i wybod fod Germani yn colli tir, ac yn debyg o ymollwng cyn bo hir. Yn awr er's dwy flynedd y mae y genedl wyoh Ger- manaidd wedi bod mewn ymdrech en- bydus a'r byd, a dylasai cenedl mor ddysgedig a'r Germaniaid ddrwgdybio erbyn hyn fod rhywbeth allan o le ar y peiriant yr ymffrostid ei fod yn anorch- fygol. Y newydd olaf yw fod y llyw- odraeth wedi gorchymyn i'r bobl roi i fyny eu haur a'u gemau i gynorthwyo eu gwlad ar ei throed olaf. Nid oes digon o synwyr yn y Germaniaid i symud am heddwch cyn ei llwyr ym- ollyngiad. Mae Germani yn rhy falch i gydnabod ei gorchfygiad sydd yn dy- fod. Er hyn oil, cawn blaid o'r Hwn- iaid yn cynyrfu y bobl wirion i ymlynu wrth y mesurau ffyrnicaf a chreulonaf i gyfarfod a'r gelyn—y rhai y mae Duw am eu dystrywio, y mae yn gyn- taf yn peri iddynt wallgofi. Dyna yr hen ddywediad, ac y mae yn ddesgrifiad o gyflwr Germani heddyw. Hysbysir gan y Rwsiaid fod Ilawer o'r carchar- orion Germanaidd ar yr ochr hono yn fechgynos a hen bobl, o'r rhai y mae y Kaiser erbyn hyn yn tynu ei gymorth 1 barhau y rhyfel. Fel y dywed un, "Y mae y Kaiser yn ysgubo y conglau, ac yn anfon y baw a'r llwch i'r ffrynt." Nid yw yr adroddiadau a ddeuant o Berlin y dyddiau hyn, ond anwireddau i gysuro a dyddanu y Germaniaid yn eu cyfyngderau. Y mae yr Hwniaid wedi eu tyngedu i ddystryw, a bydd yn fendith i wareiddiad. Y mae yr aroheb i'r bobl yn darllen fel hyn, a llawnodir hi gan y Cangell- ydd von Bethmann-Hollweg: "Ysgafn yw yr aberth a ofynir genych o'i gvirharu a'r gwaed dywelltir yn y ffrynt gan y meibion gwrol. Allan felly a'ch aur a'ch addurniadau o'r cist- iau a'r cypyrddau i'w toddi. Cynorth- wywch y bane ymerodrol ag arfau aur i orchfvgu y gelyn." Druan o Ger- mani anwaraidd a'i Chaiser ynfyd. Ar lanau y Somme y mae y German- laid yn da] ati yn gyndyn, oblegid y mae byg-vtbion y Kaiser uwch ben y trueiniaid a ddeuant yn ol o'r ffrynt yn fyw. Ei orchymyn ef yw iddynt ym- ladd hyd angeu, neu wynebu llys mil- wrol, cosb yr hwn yw eu saethu. Unig ddianerfa y trueiniaid yw dianc i ochr gwareiddiad. Dywedai un carcharor Germanaidd "fod yn anhawdd gan- ddynt ymadael a'u cartrefi tanddaear- ol lie v buont am ddwy flynedd." Pan ddaw y Prydeinwyr o'u hamgylch, din- vstrir eu trigfanau yn gyrbibion, fel y dinvstriasant hwythau Belgium. Ni fydd heddwch i Germani hyd nes y vipedv ag eiddo pobl eraill. Caled fydd ffordd y troseddwyr! Ceir cryn drafferth eto a'r Werddon, o herwvdd y gwrthwynebiad i ymrestr- iad. Mae y wlad yn parhau yn an- hywaith, a thebyg y bydd yn rhaid oedi y cvnllun o orfodaeth filwrol v mae v catrodau Gwyddelig o'r ffrynt yn galw am eu cvflenwi, ond nid yw y Gwvddelod yn ufuddhau. Annymunol yw pethau rhwng y llvwo^raeth yn Washington a Phrydain yn nglvn ag ymweliad y tanforolion Germanaidd yn ddiweddar. Cwyna Wilson a'i weinyddiaeth o herwvdd presenoldeb llongau gwarcheidiol Pry- dain ar lanau dwyreiniol y Talaethau, a chwryrnir weithiau, ond nid ydynt eto wedi amlygu anfoddlonrwydd i ymweliad yr U-53 a suddodd chwech o longau masnach. Y mae ymddygiad ein Harlywydd a'i Ysgrifenydd yn ddirgelwch. Y mae yr amgylchiadau yn ngwlad Groeg yn addfedu o hyd, fel nas gellir dysgwyl dim yno ar fyrder ond alltud- iad y Brenin, neu ei gyfyngiad i'w balas am y gweddill o'r rhyfel. Nid yw efe a'i gymdeithion ond Germani fach y tu cefn i'r fyddin unol yn y Balkancedd. Nid yw i'w goelio. Offer- yn yn nwylaw y Kaiser yw. Hysbysid ddydd Mercher fod milwyr y gwledydd cyngreiriol wedi glanio, ac yn symud i amgylchu ei balas, ac fod ei gyfeillion yn ei gymell i ffoi (os y gall). Y mae y cyn-brifweinidog Venizelos yn enill tir yn barhaus, a dysgwylir ar fyr y cyhoeddir annibyniaeth Groeg gyda Venizelos yn llywiawdwr ar y werin- iaeth. Ca y mudiad newydd hwn gefn- ogaeth aiddgar y Groegiaid drwy y Talaethau. Yn Macedonia y mae y fyddin unol yn dal i symud yn mlaen, ond daw adroddiadau pur Germanaidd o Sofia, prif ddinas Bwlgaria, yn hys- bysu buddugoliaethau o'u tu hwy. Mae sicrwydd erbyn hyn fod y gelyn o dan y Cadfridog Falkenhayn wedi ei atal, a chydnabyddid hyny gan y Germaniaid. Gwnaeth Falkenhayn ymdrech fawr am dymor byr, ond hys- bysir fod ei adnoddau yn darfod, ond y mae wrthi eto. Ar gyffiniau Rwsia deil y ddwy ochr mewn ymdrech ofn- adwy, ond y mae arwyddion fod ad- noddau a milwyr Germani ac Awstria yn prinhau, a ryw ddydd bydd Rwsia yn tori drwodd. Difa, prinhau, dar- fod ac ymollwng fydd tynged Germani; ac ni cha orphwys bellach hyd nes y goddiweddir hi a hyny. Yn ol yr adroddiadau o Paris y mae y fyddin Eidalaidd yn symud yn ei blaen o hyd drwy bob gwrthwynebiad ac anhawsder, ac y maent yn llawer, i gyfeiriad Trieste, ac y mae y ddinas yn siwr o syrthio i'w meddiant cyn bo hir. AT ol tori drwy ei llinell amddiffynol olaf ar Fynydd Pasubio, cymerwyd caerfa i'r gogledd, ac y mae hon yn rheoli y wlad o amgylch. Mae yr un arwyddion o gyfeiriad yr Awstriaid, sef eu bod yn gwanhau ac yn prinhau mewn adnoddau. Dangosir hyn hefyd yn mhlith y Germaniaid, lie y maent yn gorfodi y Belgiaid i'w cynorthwyo drwy weithio yn y gweithfau. Ar- weinia hyn i gryn drafferth, oblegid cynorthwyir i borthi v Belgiaid gan y gwledydd cyngreiriol, ac os y'u gor- fodir i gynorthwyo y gelyn, y tebygol- rwydd yw, yr atelir y cymorth a gant yn bresenol. Yn ol y newydd ddydd Gwener, hys- bysid fod y Bremen, y tanforolyn ddys- gwylir i lanio yn America er's rhai wythnosau, yn debyg o fod wedi ei golli; wedi ei gymeryd, feallai, gan longau Prydain. Hysbysid hefyd sudd- iad y llong Alaunia, perthynol i gwmni y Cunard, yn agos i Loegr, ond achub- wyd y teithwyr oil a'r dwylaw hefyd oddigerth dau neu dri. Taro yn erbyn ffrwydryn wnaeth yn ol yr hanes. Y mae y gelyn yn colli eto ar der- fynau Rwmania, ac yn enwedig yn Macedonia, lie y mae y Serviaid yn ymwthio yn mlaen gan guro y Bwlgar- iaid yn ol. Y mae y Serviaid yn agos- hau at Monastir, a dysgwylir ei chwymp ar fyr. Y mae yr ymosodol dan y Cadfridog Germanaidd Falkan- hayn yn tori, a'r Rwmaniaid yn ail enill eto ac yn curo y gelyn yn ol, ond mae yr ymdrech yn ameus. Mae y ffaith fod Berlin yn tewi yn amlygiad digamsyniol fod y Rwmaniaid yn dal eu tir yn rymus hyd yma. Y mae yr ymdrech fawr yn Galicia rhwng y Rwsiaid a'r Germaniaid a'r Awstriaid am Lemberg wedi myned yn nghlo; y ddwy fyddin yn gyfartal ac yn methu symud y naill ochr na'r llall. Mae Berlin yn parhau i anfon ei hadroddiadau hithau allan, ond nid llawer o goel roddir iddynt. Yn ddi- weddar, cyhoeddodd yr hanes i'r ymos- odiad Zeplinaidd diweddar wneyd dys- tryw annghyffredin yn Llundain a'r amgylchoedd. Disgynodd ffrwydryn ar ben gweithfa a lladdwyd 400 o filwyr, a dinystriwyd y cyfan; un arall ar Regent St., Llundairi, gan chwalu y cvfan, ac achoswyd colled 0 $10.000,- 000. Coronir y eyfan a'r hanes chwer- thinus gan fod y gwartheg yn Lloegr wedi eu dyohrynu gymaint fel y mae y llaeth oil wedi suro. Dyma'r gwaith goreu wna Germani y dyddiau hyn, set llunio anwiredd. Yn ol yr hanes o Berlin y mae y casgliad aur drwy Germani yn myned vn ei flaen yn hwylus, a daw pawb a'r taclau aur sydd ganddynt i'w eyflwyno, i'r llvwodraeth. Hvsbvsir i'r Dvwysog- es Goronog drwy ei Hvstafellydd ddod i adeilad y Senedd gyda nifer fawr o lestri aur a gemau, ac eraill gyda hreichledau, cadwvnau, gwddfdlysau, •fee. Mae'r rhyfel hwn mor wancus, fel v traflvnea holl dlysau y wlad mewn vchvdig amser. Ysgoleisrion a dvsgawdwyr yw y "hai mwyaf divmadferth y dyddiau nvn. Yn mhlith v rhai hyn y mae Hueo Muensterberg, dysgawdwr Ger- manaidd, ac Athraw yn Mhrifvsgol Havnrd. Y mae efe yn gwneyd rhyw -v,rraint i gvnv-fu y rlwfr am heddwch, "nd v mae ei olvgiadau yn anobeithiol. i dvb ef yw y gellir cael Germani a Phrvdain i gvmorl a chyfamod a'u gil- '!dn, a chT-ed mai Wilson yw y dvn i'w tvnu at eu gilvdd; peth mor annheb- vgol y dyddiau hvn. "Gvda chvd- wplediad y dflwv, ebe efe. bydd hedd- wch v byd yn sicr." Gyda gorchfyg- ;nfi Germani yn unig bydd heddwch y ^vfodol yn .qir.r. Y mae hyn yn fwy l°b->'P-nl. Yn Germani y mae yr ysbryd ^rvraf o'r oil. Mae dwyn Germani a "h'-vinin at eu rrilydd fel cael cymod vhwng tan a dwfr. fhlvnd Pnl synid v byd a'r newydd o "dinfTnd''i''etb Prifwpinidog Awstria -"n olvq-vdd ianvr o'r enw Dr. Tyiidwig r110". rvrpdeit^a^olwr. a thaflodd v --o-itVu.p v wlad 1 iJ-lvcnrvn. Yr oedd 'r Prifweini,lo Cownt Pteuerp-kh wedi vod vn amivrs- yn newladlvwiaeth ^stria am flvnvddoedd. Yctyrid "11m' vn IviehkTiPoht, Awstria. a "h..i()rlir y weithred i ddieofaint o "wvilf! vmddvgiad gorthrvmus y a'i wrthndiad i alw v vn nerhyd. Tehv e- fod y 110- f,ll p, t'h ron VTl dda ricTTt A -HT r 'V-thvlVnel'iad y bobl i'r rhyfel dinys- triol. Vo-iwpddir v npwyddion o Ffrainc a "hvffininu Awstria a Rwmania gan "flr1P- mansion fel mai anhawdd yw "■wvVcrf na snt v rnne pethau yn iawn. Iylun. hv-sT^sid fod y fvrll,, "nol ar lanau v Pomme eto yn symud yn mlaen, a ddydd Sadwrn ymwthiwyd am Bapaume gan gymeryd 1,000 o Germaniaid yn garcharorion, a gwrth- daflwyd yr oil o ymosodiadau y Ger- maniaid ddiwedd yr wythnos. Cydna- byddai Berlin hyn, ond dywedai fod colled y gelyn yn drom. Yn Dobrudja, hawliai Germani rhyw gymaint o fuddugoliaeth ar y Rwmaniaid a'r Rwsiaid, eto tra diwerth yw yr adrodd- iadau a thebyg y cuddir llawer o'r gweithrediadau. Ni chyhoeddir ond y newyddion mwyaf syml. Yn ol yr adroddiadau ddydd Mawrth, y mae y Germaniaid a'r Bwl- gariaid yn symud yn mlaen yn Dobrudja, ac ofnir y croesant i Rwmania dros yt afon Danub. Nid yw Rwsia a Rwmania yn llwyddo hyd yma i gadw'r gelyn yn ol. Hysbysid fod y Cadfridog von Mackensen wedi cipio Constanza, prif borthladd Rwm- ania ar y Mor Du a'r Danub. Ym- ddengys fod y gelyn ar yr ochr arall i'r gorllewin, yn symud yn mlaen i gyfeiriad Rwmania gan fygwth y cyffiniau. Yn Ffrainc, y mae y byddinoedd Prydeinig a Ffrengig yn dal i symud yn mlaen, y naill am Bapaume, a'r llall am Peronne. Mae y ddwy fyddin yn llwyddo i wrthdaflu pob ymosodiad o eiddo y Germaniaid gan symud yn mlaen ychydig bob dydd. I ddyn an- nghynefin a'r gelfyddyd o ryfela, nid llawer o ddyddordeb sydd yn yr ad- roddiadau, ac y mae yn sicr fod yr adroddiadau Germanaidd yn gorlunio a gorliwio pethau. 0 orllewin Mace- donia y daw y newyddion mwyaf dy- ddorol, lie y mae y Serviaid a'r fyddin gynorthwyol yn gwneyd gwaith go dda; ond gwrthdystiol iawn yw yr adroddiadau o'r gwahanol brif ddinas- oedd. Dyddir llawer o newyddion o Lundain na fuont yn Llundain erioed. Ambell i ddiwrnod, y mae yn anhawdd deall pa sut y mae pethau. Daw gair o'r pencadle Prydeinig yn Ffrainc fod y fyddin yn arbed llawer ar ei milwyr yn ddiweddar; o 25 i 50 y cant, fel yr hysbysir, islaw y golled Germanaidd. Priodolir llawer o'r ar- bediad i'r tanciau, neu y tyrau milwr- ol symudol newydd. Y mae dyfeision eraill mewn golwg erbyn y gwanwyn nesaf. Mewn araeth ddydd Llun yn Llun- dain, siaradodd yr Ardalydd Grey (Syr Edward gynt) ar bwnc heddwch ar ol terfyniad y rhyfel hwn, ond ni soniai ddim am heddwch yn awr. Deil yn ei olygiad, a golygiad y Ilywodraeth, na fydd heddwch cyn darostyngiad Ilwyr Germani, a dystrywiad ei hawydd am ryfela. Nis gellir cael heddwch gyhyd ag y pery balchder Germani. Gan mai Germani gychwynodd y rhyfel, nis gall hi geisio heddwch yn awr ond er achub ei hun, a chael ei hanadl i baro- toi ar gyfer rhyfel yn y dyfodol. Cadarnha Grey yr hyn a ddywedwyd eisoes gan y Prifweinidog, D. Lloyd George, ac eraill, sef nad oes heddwch i fod hyd nes y'i seilir ar Iwyr orch- fygiad Germani. Mae Germani er's tro yn cynllwyno i gael un o'r gwled- ydd cyngreiriol i geisio heddwch, ond yn aflwyddianus. Hyd yma, y mae y gwledydd yn dal gyda'u gilydd, ac ynfydrwydd fyddai i'r un o honynt wrando ar dwyll Ger- mani. Diau fod Germani er's amser yn awyddu am heddwch ac yn defn- yddio moddion dirgelaidd i demtio rhai gwledydd. Prydain yw asgwrn cefn undeb y gwledydd. Er fod Germani yn parhau i ym- ffrostio fod ganddi ddigonedd o ym- borth, hysbysir fod ei thatws yn myn- ed yn brin, ac y gorchymyna i'r bobl 'beidio eu digroeni, ac y cosbir pob un a wna hyny i dri mis o garchar gyda dirwy. Yn ol yr adroddiadau o Ffrainc, gwahaniaethir yn fawr yn nglyn a'r awyriaduron. Tystia y Germaniaid eu bod yn trechu yn rheolaeth yr awyr, tra y dywed adroddiadau o'r ochr Bry- deinig fod y Germaniaid o'r braidd yn amddifaid or Ilestri awyrol. Ond mae yn amlwg y collir nifer fawr o'r rhai hyn ar y ddwy ochr.
Advertising
Sut y Meithrinir Babanod Iach a Chryf? Drwy roddi iddynt fwyd da, iach a maethlon yn eu plentyndod. Os na ellwch roi y fron i'ch baban, peid- iwch gwneyd arbrawfion arno gyda gwahanol fwydydd-rhodd- wch iddo ScuJlTSactfrb EAGLE BRAND CONDENSED MI UK THE ORIGINAL, Mae'r bwyd hwn yn ystod y tair cenedlaeth ddiweddaf wedi codi miloedd o fabandod yn fechgyn a genethod iach a chryf- Toror y Coupon hwn Heddyw, ac anfoner i D-10-26. Borden's Condensed Milk Company, New York City, N. Y. a derbyniwch yn rhad gyfarwydd- iadau yn Gymraeg yn dangos sut i'w ddefnyddio; hefyd lyfryn 52 tudalen, "Baby's Welfare," a eg- lura sut i gadw eich baban yn iach a chryf. Enw Cyfeiriad.
ALLAN O'R PAPYRAU CYMREIG.…
ALLAN O'R PAPYRAU CYMREIG. Clywais fod yr ymchwiliad y gwnaed cais am dano gan y Cadfridog Owen Thomas yn myned yn mlaen. Mae'r milwyr Cymreig wedi eu chwalu i bob cyfeiriad, a phob addewid a wnaed wedi ei thori! Anfonodd Cyngor Trefol Pwllheli at Mr. Lloyd George, ac addawa efe roi sylw i'r mater. Y mae y Parch. T. Elwy Williams, cyn-weinidog eglwys M. C. Bethania, Rhuthyn, wedi derbyn comisiwn yn y fyddin. Ymunodd Mr. Williams a'r adran Gymreig rai misoedd yn ol fel preifat. Mae Dr. James Walker Jones, M. B., mab Syr Henry Jones, Glasgow, wedi cael D. S. O. am wrhydri yn taflu pelen oedd ar ffrwydro, a thrwy wneyd hyny anafu ei hun ac achub bywydau eraill. Perthyn i'r Fyddin Indiaidd yr oedd. Mae'r tribunlys wedi ceisio terfynu'r helynt yn nghylch y ddwy ysgol yn Berriew drwy orchymyn i'r ddau ath- raw fyned i'r Fyddin! Dyma ffordd ragorol i derfynu llawer helynt enwad- ol, yn lie gadael i bobl gweryla gar- tref, eu danfon i Ffrainc! Mae nifer o garcharorion German-, aidd yn cymuno coed mewn rhanau o Gymru, a chanmolir hwy am eu hym- ddygiad gweddus a'u deheurwydd gyda'u gwaith. Diangodd tri o'r plant drwg, ond daliwyd hwy yn fuan. Dywedir fod y pwyllgor a benodwvd gan Lloyd George i drefnu'r caplaniaid a'u gwaith, eisoes wedi ei brofi ei hun yn gryn lwyddiant. Y mae llawer o reolau disynwyr ddigon yn nglyn a gwaith y caplaniaid, ac y mae'n hen bryd eu diddymu. Hysbysir fod John Lewis Thomas, 23ain mlwydd oed, brodor o Lanfair- fechan, wedi ei ladd ar faes y rhyfel. Hefyd, fod Richard Morris, Ebenezer, Llanberis, a William Jones, Llan- frothen, ar goll. Yr oedd y tri yn heddgeidwaid yn Bangor cyn ymuno a'r fyddin. Ychydig iawn a wyddis yn Nghymru nm y gwersyll mawr i garcharorion Germanaidd gerllaw'r Bala. Ond mae'n ddyddorol clywed i 983 o gar- charorion milwrol a saith o'r llynges fod yma'n aros am fisoedd. Ac yr oedd ganddynt 55 o ddosbarthiadau i ddysgu ieithoedd (nid oedd y Gymraeg 'n eu plitb). Yr oerld gan y carchar- orion glybiau, darlithiau, a bands, ac o fewn rhyw derfynau yn cael gwneyd fel y mynont. Canmol y trefniadau yr oedd y Trafnoddwr Americanaidd. Mae Ellis Griffith, K. C., wedi troi'n r-eg-ethwr teithiol. Bu drwy'r Gog- ^dd yn anerch cadeirwvr y Tribunlys- oedd a'r swyddogion. Pwynt ei araeth oedd fod angen rhagor o ddynion. Dy- gwyddai gohebydd basio pan oedd y cynulliad yn ymwahanu, ac ebai un amaethwr wrth y llall: "Diawcs i, yn 'doedd o'n siarad yn ddifri ofnadwy. Ddylias i ddim fod petha cweit mor ddrwg. Tharu o ddeyd yn bod ni weal colli mil?" Anffodus iawn yw Mr. Churchill o hyd. Dywedodd Lloyd George mai Winston Churchill oedd yn gyfrifol i rraddau pell am ddyfeisio'r "tanks" sydd wedi peri'r fath fraw i'r Almaen- iaid. Wed'yn dywedodd y Ministry of Munitions na ddylid rhoi'r clod i neb ar hyn o bryd, gan awgrymu, beth bynag, nad Mr. Churchill oedd pia'r cwbl. Cawn weled rhyw dro hwyrach, ond ar ol y rhyfel bydd llawer o bobl pur bwysig yn ffraeo'n dost yn nghylch llawer o bethau. Teg a'r awdurdodau milwrol yw dweyd eu bod yn y rhanau Cymreig yn gofalu am Gymry yn y prif swydd- feydd. Pan oedd Lieut. Einion Evans, mab Golygydd y "Cymro," ar gychwyn allan i'r Aifft, cynygiwyd iddo le yn Mhrif Swyddfa Wrecsam er gofalu am ohebiaethau Cymreig. Ond yr oedd efe wedi cael gorchymyn i fyned allan, a gwell oedd ganddo fyned gyda'i gatrawd, er y buasai y profiad maith a gafodd fel ysgrifenydd cyfrinachol y Cadfridog Owen Thomas o help mawr gyda materion Cymreig. ,Mae Myrddin John Evans (mab i Inspector a Mrs. Evans, Caerphili), wedi enill y 'Military Cross' am ddewr- der ar faes y frwydr yn Ffrainc. Ar y pumed ar hugain o Orphenaf, yn ystod yr ymgyrch ger Pozieres, cynygiodd fyned i gyrchu rhai clwyfedigion, oedd wedi gorwedd ar faes y frwydr am bymtheng awr. Arweinlodd bump o fllwyr i'w cyrchu, ond lladdwyd pob un ond ef, yn ogystal a'r clwyfedigion. Claddwyd ef dan y ddaear trwy ffrwydriad tanbelen. Canfyddodd cwmni arall ef yn mhen ychydig oriau, a chyrchwyd ef i'r 'base hospital.' Y mae yn awr yn Wandsworth Hospital. Gyda'r Australian Army Medical Corps yr ydoedd. Aeth allan i Aws- tralia yn Ehrill, 1914, ac ymunodd a'r fyddin ar doriad y rhyfel.
HAERIADAU DISAIL GAN Y DEMOCRATIAID.
HAERIADAU DISAIL GAN Y DEMO- CRATIAID. Record Peirianvdd y Dalaeth yn Eu I Gwrthbrofi. Fe ddywedir y gellir gwyrdroi ffigyrau i olygu unrhyw beth a fwried- ir ei ddangos, ond ni ellir gwneyd hyn a ffigyrau swyddogol talaeth New York, os nad yw y gwr a'u defnyddia yn awyddus i ymwrthod a'r gwir, heb ystyried y daw rhywun o hyd i'r ffeith- iau cywir, a'u dwyn yn ei erbyn. Dengys y ffigyrau hyn ffeithiau o ddy- ddordeb neillduol yn nglyn a llywodr- aeth swyddfa Peirianydd y Dalaeth, ac y maent yn atebiad cryf i haeriadau rhai dynion siomedig a gollasant eu swyddi pan ddaeth Mr. W. i swydd yn Ionawr, 1915. Yn ystod ei ymgyrch yn 1915, tlddawodd Mr. W. lanw y swydd yr oedd yn ymgeisio am dani, mewn dull effeithiol a chynilgar, os yr etholid ef. Yn union wedi ei etholiad, dechreuodd gadw ei air i'r etholwyr, a thorodd i ffwrdd oddiar gyflog restr y dalaeth lu mawr o swyddwyr oeddynt yn dal ewyddi diangenrhaid o dan y weinydd- iaeth Ddemocrataidd. Yn ddiweddar, y mae nifer o'r dynion hyn a drowyd i ffwrdd wedi dechreu adrodd ystoriau eu bod wedi colli eu swyddi er gwneyd lie i Werinwyr. Mae ffigyrau swydd- ogol yn tystio maf celwydd hollol yw y fath ystori. Dengys y rheiny y can- lynol: Ar Awst 31, 1914, o dan y wein- yddiaeth Ddemocrataidd, yr oedd swyddfa y Peirianydd yn cyflogi 1081 jo ddynion i gyflawni gwaith y swydd- fa, tra yr un adeg y llynedd (1915) nid oedd ond 670 o ddynion yn gyflogedig; ar Awst 31, y flwyddyn hon, yr oedd 742. Mae y cynydd o 72 i'w briodoli i'r ffaith fod y Swyddfa, er pan ddaeth y$27,000,000 oddiwrth y rhwymebau i law, wedi gosod dros ddeg ar hugain o gytundebau newyddion er cwblhau y gamlas a'r penorsafoedd, ac fod pob ymdrech yn cael ei wneyd i sefydlu mordwyaeth ar y gamlas. rhwng llyn Ontario ac afon yr Hudson yn Mai nesaf. Mae anwiredd yr haeriad i Mr. W. droi i ffwrdd Ddemocratiaid er gallu penodi i'w Ueoedd ddynion o'r un blaid ag ef ei hun, yn cael ei brofi gan records y Civil Service Commission, y rhai ddengys na phenodwyd neb fel Peirianydd y Penorsafoedd, tri o is- beirianwyr, amryw o beirianwyr arosol na llu o swyddi is, ac na chrewyd un- rhyw swyddi newydd i gymeryd eu lie. Nid yw y stori Ddemocrataidd ond cel- wydd noeth. Drachefn, profir fod Mr. W. wedi cynilo llawer yn nghostau gweinyddiadol ei swydd. Yn ol llyfr- au Controler y Dalaeth, yr oedd y cost- au $530,876.18 yn llai yn 1915 nag yn vstod 1914, o dan y weinyddiaeth flaenorol. Nid yw y cynilo hyn, wedi effeithio dim ar ansawdd a swm y gwaith a gyf- lawnir. Er Ionawr, 1915, y mae Mr. W. wedi trol drosodd i Arolygydd y Gweithfeydd Cyhoeddus (Public Works), yr oil o gamlas Champlain, ac pdranau helaeth o'r camlesydd eraill. vn cynwys 87 milldir rhwng Water- ford a Jacksonburg, ar yr Erie. Mae wedi cwblhau nifer fawr o benorsaf- opdd, ac mae yn bwriadu rhoi i fyny nifer o luestai ar y penorsafoedd hyn, erbyn yr haf nesaf, pryd ybydd yn bosibl, am y tro cyntaf, fordwyo o for y Werydd i'r llynau mawrion drwy y o-amlas newydd. Saif Mr. W. ar ei record, a haedda gymeradwyaeth gyff- redinol yr etholwyr drwy gael ei ail- ethol i'w swydd.
I EGLWYS EISIEU GWEINIDOG.…
I EGLWYS EISIEU GWEINIDOG. I Dyrnuna eglwys Undebol Gymreig Humboldt Park. Chicago, Ill., wneyd vn hysbys ei bod yn barod i symud yn mlaen i roddi galwad i frawd i'w bu- zellio, ac os oes brawd teilwng heb eg- 1WYs o dan ei ofaL gall vmohebu a'r vsgrifenydd.-Tom Williams, 1833 N. Harding Ave., Chicago, 111.
IYFOFYNim I
I YFOFYNim Gwneir ymofvniad yn nghylch mar- wolaeth Wm. Edward (brodor o Pen- vgroes, G. C.) a fu farw, fe ddywedir vvwle yn nhalaeth Pennsylvania oddeutu saith neu wyth mlynedd yn ol. Ymfudodd o Penvgroes, G. C., oddeutu 48 mlynedd yn 01, gan sefydlu i ddech- "eu yn New York. vn ddylvnol yn Cali- fornia, ac yn olaf yn Pennsylvania. Bvdd unrhyw fanvlion am dano yn I ^derbyniol gan "E," "Drych" Office, Utica, N. Y.
NEW YORK A VERMONT
NEW YORK A VERMONT UTICA, N. Y., Hydref 25, 1916.— Bydd y Parch. J. Isaac Hughes yn gwasanaethu eglwys Frankfort Hill brydnawn Sul nesaf; yr oedfa am 2 o'r gloch. -Y nos o'r blaen, yr oedd Herbert Jones yn gwasanaethu mewn cyngerdd yn Nelson, N. Y. —Bob V. Jones, y saer, oedd yma dros y Sul o Sherburne, N. Y. Arosai gyda Mr. a Mrs. W. R. Williams, Steu- ben St. —Yr oedd Wm. R. Williams, Steu- ben St., yn gwasanaethu eglwys Gym- raeg Waterville y Sul diweddaf, ac efe fydd yn llanw yr un pwlpud y Sul nesaf eto. —Mrs. E. L. Griffith, priod y cerdd- or a'r gwerthwr perdonegau adna- byddus, sydd wedi dychwelyd gartref i o California, lie y bu yn ymweled a pherthynasau. —Hysbysir ni fod Griffith W. Jones, o Cold 'Brook, N. Y. (gynt o Utica), yr hwn sydd er's tro yn ysbyty St. Luke's yn gwella yn dda, ar ol y weithred lawfeddygol a gyflawnwyd arno. —Trodd swper Ladies' Aid Moriah a gynaliwyd nos Fercher diweddaf yn Ilwyddiant eithriadol. Arlwyodd y merched wledd dda, ac eisteddodd dros 500 o bobl wrth y byrddau. —Yr oedd yn bleser i mi gael siglo Haw a Rowland Whittington, o Poult- ney, Vt., yr hwn alwodd yn y Swyddfa. Yr oedd efe yn Utica ar ymweliad a'i chwaer, Mrs. Reuben Jones, Bleecker St., ac amryw o gyfeillion eraill. —Mrs. John T. Jones a Mrs. Mary Williams, o Holland Patent, N. Y., fu ar ymweliad a Mr. a Mrs. S. D. Jones, 167 Hobart St. Bu Mrs. Jones ar ym- weliad a'i chwaer, Mrs. Esther Rees, yn Philadelphia yn ddiweddar. —Mrs. Edward Lewis sydd wedi gadael am ei chartref yn Lebo, Kansas, ar ol treulio yr haf gyda chyfeillion yn y cylchoedd hyn. Bydd yn tori ar ei thaith drwy alw yn Rochester a Gas- port. —Y Cymro John H. Jones, o Poult- ney, Vt., sydd ar ymweliad a'i gyfaill Lewis Davies, 423 Mary St., ac yn mwynhau amser difyr yn mhlith Cymry y ddinas. Mae Mr. Jones yn Gymro da, ac yn dderbynydd cyson o'r "Drych." —Nos Fercher diweddaf, pan yn dy- chwelyd gartref o swper Moriah, syrth- iodd Mrs. Wm. R. Williams, Howard Ave., a thorodd ei braich. Dyoddef- odd boenau mawrion o'r herwydd, ond y mae yn gwella gystal a'r dysgwyliad. —John Williams a H. H. Pugh, o Unadilla Forks, oedd yn ymweled a Mrs. Wm. R. Jones, Hart's Hill, y dydd o'r blaen.—Y Parch. Abram Jones, Plainfield, N. Y., oedd yn y ddinas y dydd o'r blaen yn ymweled a chyfeill- ion. —Tra i lawr yn y ddinas ar ymwel- iad ddiwedd yr wythnos o'r blaen, cymerwyd Miss Lois Davies, New Hart- ford, yn wael. Bu raid iddi fyned o dan lawfeddyginiaeth rhag blaen yn ysbyty Rome, a da genym ddeall ei bod yn gwella. -Y Parch. D. C. Roberts, o eglwys Goffa Coke, oedd yn pregethu yn Beth- esda y Sul diweddaf. Hysbysir hefyd y bydd yr Ysgol Sul yn cynal Rally y Sul wythnos i'r nesaf, a gwahoddir yr holl aelodau i fod yn bresenol. -Y Parch. Morris S. Jones, Remsen, fydd yn gwasanaethu eglwys M. ç. Moriah y Sul; y Parch. D. M. Richards yn Remsen a'r Nant, efe a Wm. R. Thomas wedi eu dewis gan y Cyfarfod Dosbarth i fyned i gynorthwyo eglwys y Nant i ddewis blaenoriaid. —Hysbysir priodas Llewelyn Davies, ma'b John Davies, Faxton St., ysgrifen- ydd a thrysorydd yr Utica Coal Co., a Miss Sue Elizabeth Gale, 1710 Whites- boro St. Cymerodd y seremoni le yn Syracuse, Gorphenaf lleg, y Parch. Albert C. Fulton, o'r eglwys Bresbyter- aidd Gyntaf, yn gweinyddu y sere- moni. Svnu Mr. a Mrs. Arthur Jones. Nos Fercher diweddaf, synwyd Mr. a Mrs. Arthur Jones, 1300 Neilson St., gan aelodau Cymdeithas Ymdrechol Bethesda. Yn ddiweddar, y mae Mr. a Mrs. Jones wedi dechreu ar y bywyd priodasol, ac aeth yr aelodau yno i longyfarch y par ieuanc, y rhai sydd yn aelodau gwerthfawr o'r Gymdeith- as. Cafwyd unawdau gan 'Miss Ellen Jones, ac Arthur, Harry ac Owen D. Jones. Rowland Williams a gyflwyn- odd i'r par ieuanc set o lestri hardd, a dymunodd yn dda iddynt ar ddechreu y bywyd newydd. Dylynwyd ef gan Thomas Jenkins, John Morgan a John M. Jones. Mrs. Thomas Vaughn. Ddydd Mawrth cyn y diweddaf, ar ol tymor hir o waeledd, bu farw y ehwaer dda Mrs. Matilda Davies, priod Thomas Vaughn, 1504 Dudley Ave. Ganwyd Mrs. Vaughn yn Utica Medi 23, 1861; enwau ei rien'i oeddynt Ebenezer a Margaret Davies, hen Gym- ry parchus yn y ddinas flynyddau yn ol. Ymbriododd a Thomas Vaughn 32 mlynedd yn ol, a ganwyd dau o blant, sef Elmer T. a Ray H. Vaughn, o'r un- iad. Yr oedd yr ymadawedig yn aelod gweithgar o eglwys Olivet, ac yn fawr ei pharch gan ei chydnabod. Heblaw y plant a'i phriod gedy bedair chwaer. Mrs. Edward Holmes. Ilion; Mrs. E. T. Kirkland, Mrs. George Damrath, a Mrs. Charles F. Roberts, o Utica: dau frawd, Charles Davies, o Oakland, Calif, a Wm. Davies, o'r ddinas hon. Davies-Griffiths. Ddydd Mawrth, y 10fed cvfisol, yn mhersondy capel Moriah, y Parch. D. Morgan Richards yn gweinyddu, un- wyd mewn glan briodas Miss Marv E. Griffiths. 14 Clinton St.. a Robert Dav- ies, un o wasanaethyddion yr Utica State Hospital yn mhresenoldeb Robt. Griffiths, sef brawd y briodasferch. Treuliasant eu mis 111el yn Efrog New- ydd. a manau eraill yn New Jersey. Anrhegwyd y par ieuanc a lluaws o anrhegion gwerthfawr. Bwriadant wneyd eu cartref yn Utica. Yn Llwyddo vn v Gorllewin. Dywed un o newyddiaduron Spo- kane am lwyddiant neillduol John R. Jones (tenor), yr hwn a fu am dymor yn Utica. Y mae ar hyn o bryd yn ar- weinvdd y gan yn y Central Presbyter- ian Church, a chanddo gor o 50 o leis- iau, a chor o blant yn rhifo a5. Y mae ei gyflog wedi ei godi yn sylweddol yn ddiweddar, a gytundeb a'r eglwys mewn grym hyd Ion. 1918. Bazaar. I Nosweithiau Mawrth a Mereker, Hydref 31 a Tach. 1, bydd yr Ym- drechwyr Ieuainc yn cynal bazaar yn is-ystafell capel Moriah, a gwahoddir y cyhoedd yno yn gyffredinol er rhoddi help Haw i'r ieuenctyd. Y mae hwn yn sefydliad blynyddol gyda'r ieuenc- tyd, ac er cymaint o lwyddiant oedd yr un a gynaliwyd y llynedd, dywedir y bydd hwn yn curo pob peth. pris y I tocynau yw 10c. Y Cymreigyddion. I Neithiwr (nos Lun) cynaliodd y Gymdeithas uchod ei chyfarfod rheol- aidd, gyda E. L. Griffith yn y gadair. DerbyniwYd amryw o ohebiaethau yn nglyn a'r Eisteddfod, a phasiwyd am- ryw benderfyniadau yn nglyn a hwy. Rhanwyd hefyd rhaglen swyddogol yr Eisteddfod, a ddaeth allan o'r wasg yr wythnos hon. Hysbyswyd fod adeg1 cynaliad y Noson Seneddol wedi ei newid i Tach. 27ain, a chynelir cyfar- fod o'r rhai sydd i gymeryd rhan yn- ddo yn ystafell Thomas H. Williams nos Lun nesaf. Mrs. Richard D. Jones. I Brydnawn Gwener, Hydref 14, yn ei chartref ar 1037 Albany St., bu farw Elizabeth Pugh, priod Richard D. Jones, ar ol byr gystudd. Cafodd y chwaer anwyd, a throdd yn pneumonia arni, a daeth y diwedd yn bur sydyn er gofid i'w theulu a'i chyfeillion. Ganwyd Mrs. Jones yn Lerpwl, Lloegr, Mawrth 11, 1859; enwau ei rhieni, Hugh a Sarah Pugh. Ymfud- odd i'r wlad hon, gan sefydlu yn Utica pan yn 21 mlwydd oed, ac oddeutu 317 mlynedd yn ol, yn Whitesboro, ymun- odd mewn priodas a Richard D. Jones. Yr oedd yn aelod o eglwys Calvary. Gedy mewn galar, ei phriod a phedair merch, Alice Montgomery, Rose a Katherine Jones, yn y ddinas hon: Agnes Jones yn Fair Haven, Vt.; un brawd, Edward Pugh, yn Lerpwl, Lloegr. Ilion, N. Y. I Parhau i droi dynion i ffwrdd y maent yn y Remington Arms, a thros- glwyddir eraill i ranau arbenig yn y gwaith, fel nad yw pethau yn edrych yn addawol yma ar hyn o bryd. Cred- ir ar ol ail-drefnu y lie yn unol a bwr- iad y perchenogion, y bydd y He yn ei lawn yni o hyn i ben mis neu ddau. Mae y gweithydd eraill yn rhedeg fel arferol, ond y mae miloedd wedi ym- adael o'r dref, a gwelir Ilawer yn symud eu dodrefn i dai iselach eu rhent, a gellir rhestru amryw o Gymry yn eu plith, sef fod David Hughes, Lester Ave., wedi symud i East Clark St.; David Williams, o Phillip St., i Main St.: Bob Edwards ar Main St., a Richard Jones wedi cymeryd ty ar Phillip St. Daeth ei briod a'i fab yma o Granville yr wythnos diweddaf, a gobeithir y gwelont Gymry Ilion mor gymdeithasol a chydweithredol a'u harferiad, ac y byddant yn teimlo eu hunain mor gartrefol yma ac yn Gran- I ville. Owen Owens wedi symud o Third Ave. i Elm St., a John Elias Owen wedi penderfynu sefydlu yn Utica. Wrth I gwrs, golyga hyn fod y gwragedd a'r plant yn symud gyda'r oil o'r gwyr a enwyd uchod, ac y byddant un ac oil yr un mor gartrefol yn eu oartrefi newydd. Griff. Pierce Griffiths gafodd riyw- beth i'w lygad yr wythnos ddiweddaf wrth weithio, ond deallir nad oes dim perygl, ac y mae yn gwella yn fodd- haol. Y mae un o'r bechgyn ieuanc mwyaf ) adnabyddus yn mhlith Cymry Ilion a Granville yn awr yn wr priod, sef Llewelyn Owen, mab Mr. a Mrs. Jk>hn 0. Owens, Granville. Enw morwynol ei briod ydoedd Emma Barden, New Hartford, a phriodwyd hwynt gan Dr. Topping, M. E. Church, nos Sad- wrn diweddaf. Ei frawd, Owen Owens, fel gwas a Hattie Thornley fel mor- wyn. Yn sicr y mae Llew yn gymeriad cyfeillgar a hwyliog ei ysbryd, ac yn ddiau, y mae Cymry yr holl fyd yn dy- muno iddo ef a'i briod hir oes o hapus- rwydd, iechyd a llwyddiant. Cartref- ant ar hyn o bryd gyda Mr. a Mrs. Hugh R. Thomas, Harter's Block, "and without o doubt," bydd Hugh a'r wraig yn sicr o'u rhoi ar ben y ffordd sut I ddechreu byw, a pha fodd i fwynhau bywyd priodasol, ac os cymerant es- iampl o'r natur yma, gwelaf oes o ddedwyddwch i Llew a'i briod. Un o'r thunderbolts fu yn ein mysg sydd wedi cefnu ar Ilion a N. Y. Mills a'i wyneb tua'r chwarelau, sef Ivor Hughes, brawd Ike Hughes. Ivor, cofia'r eisteddfodau gawsgan yn Ilion, a iach fyddi lle bynag y chwysi am dy fara, a phaid ag oglais iiawer ar yr asen hono gymerwyd oddiar ddyn er ei ddydanwch. Hefyd Wil Parry (Bryncyl) sydd yn awr tua New York, wedi ymadael oddi yma tuag wythnos yn ol. Fe wyr pawb erbyn hyn mai tenorydd yn y rheng flaenaf ydyw Wil, a deallir fod Caruso yn erbyn i Wil fyned i New York mor ami, ond mae ganddo fe ddigon o'r peth hwnw sydd yn fyr y dyddiau presenol, sef "Perseverance." I ddiweddu gyda y rhai sydd yn ym- adael o Ilion, rhaid i mi groniclo hanes y gohebydd ei hun, trwy ei fod a'i wyneb ar Detroit, Mich., neu ryw ran arall o'r talaethau gorllewinol. Gofid i mi ydoedd ffarwelio a'm holl gyfeillion yn Ilion a N. Y. Mills trwy ein bod mewn perffaith gydweithrediad a chydymdeimlad yn mhob symudiad. Ond er hyn oil, penderfynais geisio gwella fy amgylchiadau mewn lie arall, ac felly hon yw yr ohebiaeth ddiwedd- af i mi o Ilion. Lie bynag y byddaf yn sefydlu, os gwel y Golygydd yn dda, bydd yn bleser genyf gael anfon nodion i'r "Drych" er cyfarwyddyd, difyrwch a gwybodaeth i'm cydgenedl, yn unol a fy ymgeision gwael yn y gorphenol. Ni allaf derfynu heb ddiolch i Gymry Ilion a N. Y. Mills am eu dymuniadau da i mi ar fy ymadawiad o'u plith, a gobeithiaf y parhao y cyfeillgarwoh. wnaethpwyd hyd derfyn amser, a mawr obeithiaf y bydd i ryw gyfaill yn Ilion gymeryd y gwaith o ohebu i'r "Drych" i fyny, a chadw y golofn yn fyw ar bob cyfrif, fel y bydd colofn nion yn blaenori ar yr oil.—Nem Roberts. Rome.N.Y. Cafwyd hwyl ardderchog ar swper yn nghapel A. Court St., Rome, nos Fercher, y 18fed o'r mis. Dyma'r goreu eto o ddigon. Eisteddodd rhwng 350 a 400 wrth y byrddau. Gwnaeth y merched waith neillduol o dda, a darfu i amryw o w agedd o Bethesda, Utica, anfon swm da o fara brith i fyny. am yr hyn garedigrwydd y teimla y chwiorydd yr eglwys Court St. yn ddiolchgar iawn. (I'w barhau ar tudalen S).
Advertising
NEW TREATMENT THAT KNOCKS RHEUMATISM 50" BOX FREE TO ANY SUFFERER. Up in Syracuse, N. Y., a treatment for rheumatism has been found that hundreds of users say is a wonder, re- porting cases that seem little short of miraculous. Just a few treatments even in the very worst cases seem to accomplish wonders even after other remedies have failed entirely. It seems to neutralize the uric acid and lime salt deposits in the blood, driving all the poisonous clogging waste from the system. Soreness, pain, stiffness, swelling just seem to melt away and vanish. The treatment first introduced by Mr. Delano is so good that its owner wants everybody who suffers from rheumatism or who has a friend so afflicted, to get a free 50c. package from him to prove just what it will do in every case before a penny is spent. Mr. Delano says: "To prove that the Delano treatment will positively over- come rheumatism, no matter how severe, stubborn or long standing thei case, and even after all other treat- ments have failed, I will, if you have never previously used the treatment, send you a full size 50c. package free if you will send your name and address with 10c. to help pay postage and distribution expense to me person- ally." F. H. Delano, 726 Wood Bldg., Syracuse, N. Y. I can send only one Free Package to an address. ANNUAL CONCERT | MAUNDER S INSPIRING MALE CANTATA THE MARTYRS" PRESENTED BY THE HAYDN MALE CHORUS AUGMENTED BY THE FOLLOWING NEW YORK ARTISTS: Violet Dalziel, Dramatic Soprano, Joseph Mathieu, Jackson Clyde Kinsey, Tenor, Basso Cantante AID SYMPHONY ORCHESTRA. AVON THEATRE Monday Evening, Nov. 13th RESERVED SEATS, SI.00,$1.50 Tickets exchangeable at the Avon Theatre on and after November 6th, 1916