Hide Articles List

9 articles on this Page

RIYFEL YN EWROP

News
Cite
Share

RIYFEL YN EWROP RWSIA YN SYMUD YN MLAEN 0 HYD.—Y PWNC GWYDDELIG ETO. Y RWSIAID YN CYMERYD KOLO- MEA.-Y RHUTHR FAWR YN FFRAINC. Dedfrvdiad Dr. Carl Liebknecht.—Y Rhuthr fawr vn llwvddo.—Rwsia vn Hwngari. Fel yr awgrymasom droion o'r blaen, y mae byddinoedd y gwledydd cyngreiriol yn dechreu ymysgwyd gyd- a'r amcan o wneyd ymosodiad unol ar holl rengau y Germaniaid a'r Awstri- aid o Rwsia i Belgium. Y mae y rhuthriadau ar amgylchoedd Verdun yn ymlacau, y Germanraid yn ddiau wedi eu galw i amddiffyn eu hunan mewn lleoedd eraill. Y mae yr E.idal- iaid yn gyru yr Awstriaid yn ol yn hwylus, ac eisoes wedi cyraedd amryw leoedd newyddion-yr Awstriaid yn diau wedi eu cymeryd i wynebu y Rwsiaid sydd yn ysgubo y cyfan o'u blaen yn Bukowina a Galicia. 0" her- wydd hyny gwanheir y rhengau ar gyffiniau Rwsia a'r Eidal. Ymddengys y bydd yn rhaid i gyfran o'r fyddin Germanaidd ger Verdun droi i wynebu Rwsia a Phrydain yn Belgium a man- au eraill. Y mae y fyddin Brydeinig wedi dechreu gydag ymosodiad egniol ar rengau Germani ar y llinell Ffreng- ig-Belgiaidd. Y dyddiau diweddaf hyn daw ych- ydig adroddiadau o Berlin er gwrth- bwyso y newyddion calonogol o Petro- grad. Hysbysai gair ddydd Mercher fod y fyddin Germanaidd wedi atal y rhuthr Rwsiaidd yn Volhynia. Y Maeslywydd von Hindenburg arweinia y Germaniaid yn y cylchoedd hyny; nid yw ei gampau wyched ag yr oeddynt. Hysbysid ychydig garcharorion ac ych- ydig iawn o lwyddiant, yr hyn a aw- gryma fod Germani yn .colli tir. Cyf- addefa yr Awstriaid fod yr ymosodiad- au Rwsiaidd yn enfawr a'r tanbelen- iad yn echrydus-yn fwy tanllyd na dim yn hanes y rhyfel. Defnyddir cyrff mawrion o wyr ceffylau i weith- redu yn y man y daw cyfle, a thebyg mai drwy y rhai hyn y delir y carchar- orion ac adnoddau yr Awstriaid. Gwneir defnydd mawr hefyd -o fodur- igeir arfog lie y mae y ffyrdd yn can- iatau. 0 Caercy&tenyn daw adrodd- iadau bychain calonogol o luniad y Tyrciaid, ond nid llawer o goel sydd i'w roi iddynt. Dyna gysur y Tyrciaid a'r Germaniaid y dyddiau hyn. Y pwnc Gwyddelig eto sydd yn by- gwth rhwygo y weinyddiaeth, a hys- 'bysir er's rhai dyddiau fod rhai aelodj au yn ymadael, ond tebyg nadi yw mor ddrwg a hyny. Y drafferth yw ffurf hunanreolaeth i'r Werddon. Y mae rhai o'r Toriaid Undebol yn gwrth- wynebu cynllun D. Lloyd George a fabwysiadwyd gan y llywodraeth. Yr enwau a roddir o'r aelodau fygythiant ymadael yw yr Ardalydd Lansdowne, Walter Hume Long, a'r Arglwydd Cecil. Y mae yr olaf yn Dori o'r fath gyndynaf. Mae cyflwr y Werddon yn galw am lawer o synwyr cyffredin ar ran y Toriaid; ond fel rheol ni ddysga rhai o honynt ddim ar fiyd eu hoes. Ymddibyna heddwch a dedwyddwch dyfodol yr Ynys ar gynllun teilwng o wareiddiad ein hoes. Prawf y bradwr Gwyddelig, Syr Roger Casement, oedd ger bron yr u-chaflys yn Llundain, ond nid oedd ganddo obaith cyfiawnhau ei ymddyg- iad a'i gysylltiad dichellgar a Ger- mani. Y syndod yw y gwnai hun- anamddiffyniad o gwbl, ac i neb ymi- gymeryd a dweyd gair drosto. Yr oedd tystiolaethau anorchfygol yn ei erbyn, ac nid yw ei gyfreithwyr wedi gallu gwneyd dim i'w gynorthwyo. Yr oedd yn ddigon iddo fyned i Germani, ac iddo lanio ar lanau y Werddon o danforolyn Germanaidd. Yn nghanol ei ymdrech i'w amddiffyn ddydd iMer- cher gorchfygwyd ei ddadleuydd pen- af gan wendid a syrthiodd yn swp i'w sedd. Rhoddwyd cyfle i Syr Roger am- ddiffyn ond yr oedd ei anerchiad yn blentynaidd ac aneffeithiol. Dranoeth cafwyd ef yn euog. Ddydd Iau hefyd daethai adroddiad- au byrion yn nglyn ag ymosodiadau y byddinoedd Prydeinig a Ffrengig; y fyddin Ffrengig yn enill oddiar y Ger- maniaid i'r gogledd o Fynydd 321, ac o amgylch Thiaumont. Ar y ffrynt Brydeinig nid oedd y rhuthr fawr wedi ei chychwyn yn iawn; gellid meddwl, ond hysbysir amryw fan enillion, fel rhagbrofiadau. Ma-e yr Eidaliaid yn dal i symud yn mlaen ar gyffiniau de- heuol Awstria, a'r fyddin yn teimlo yn galonog, ac yn llawn ysbryd newydd. Yn y Senedd ;Eidalaidd mabwysiadwyd penderfyniad o ymlyniad wrth y gwledydd cyngreiriol, gydag addewid i barhau gyda'r gwaith hyd gyraedd llwyr fuddugoliaeth ar y gelyn. Ddydd Mercher, yn ol adroddiad o Amsterdam, dedfrydwyd Dr. Karl Liebknecht yn Berlin i ddwy flynedd a haner o garchar dan y cyhuddiad o fath o fradwriaeth a gwrthnysigrwydd. Mae y Dr. yn erbyn y llywodraeth o'r cychwyn, ac ni fu arno ofn cyhucldo y llywodraeth Germanaidd o gychwyn y rhyfel hwn. Efe yw proffwyd puraf G-ermani hefyd, ac y mae yn fwy o werth na holl au-broffwydi ac athraw- on damnedig y wlad. Mae ganddo weledigaeth glir o'r cychwyn. Cy- huddid y Dr. o gynllunio y cyfarfod mawr ar y cyntaf o Fai, pan y clywid bloeddiadau o "I lawr a'r rhyfel" ac "I lawr a'r Kaiser," &c. Daw y Dr. gwr- ol hwn i fwy o fri eto ar ol y rhyfel. Ddydd Gwener hysbysai y wasg fod y Rwsiaid yn tori eu ffordd-drwodd am Kolomea. ar y ffordd i Lemberg, yr* Awstriaid yn parhau i encilio fuaned ag y gallent, ond y Rwsiaid yn eu goddiweddyd yn awr ac eto; yn ol yr hanes curodd y Rwsiaid yr Awstriaid rhwng yr afonydd Dniester a Pruth, gan gymeryd tair llinell o'i gwarch- ffosydd. Rhuthrodd y Rwsiaid ar lin- ell 25 milldir o led, a gyda'r hwyr yr oeddynt wedi tori drwodd, a chydna- hyddai yr Awstriaid yn swyddogol iddynt encilio o ger Kolomea tua'r de. Yn eu hymosodiad diweddar yn Vol- hyma a Galicia, ychwanegodd Rwsia 10,000 o garcharorion at eu nifer blaenorol, y rhai a rifant erbyn hyn 205.000. Nod y Rwsiaid yn awr yw Kovel a Lemburg, a bydd eu medrl- ianu yn goll llawer o Galicia i'r Ajvs- triaid, ac yn yriad y Germaniaid yn ol i Poland. Foreu Sadwrn yr oedd yr adroddiad- au yn hynod lwyddianus i'r byddin- oedd cyngreiriol o bob tu. Pery y Prydeinwyr a'r Ffrancod i wneyd rhuthriadau i rengau y Germaniaid; y Ffrancod yn enill yn ol gaerfa Thiau- mont a gymerwyd gan y Germaniaid wythnos yn ol. Cymerodd y Rwsiaid Kolomea, canoibwynt rheilfforddol, yn agor y ffordd iddynt i Lemberg, a phar- haai yr Eidaliaid i symud yn mlaen yn Trentino. Foreu Sul cyraeddodd y newvdd syl- weddol cyntaf am waith y rhuthr Bry- deinig-Ffrengig addawedig yn Ffrainc. rhwng Ypres a'r afon Somme, ar led o 25 o filldiroedd. Cymerodd y fyddin Brydeinig gyfundrefn warchffosydd gyntaf y Germaniad gyda phumip o leoedd—-Montaubau, Hebuterne, Serie, La Boiselle a Mametz—lleoedd caer- og; a chymerodd y Ffrancod chwech. Adenillasant hefyd y tir gollasant yn Verdun. Gyrwyd y gelyn yn ol ar hyd yr holl linell am bum milldir. Cymer- wyd 5,000, o'r Germaniaid yn garchar- orion. Symuda y Rwsiaid i'r de o Kolomea, a ddiwedd yr wythnos, cy- merasant amryw drefydd yn ychwan- egol, yn nghyd a lleoedd caerog wrth draed y mynyddoedd Carpathaidd ar gyffiniau Hwngari. Ddiwedd yr wyth- nos hefyd llwyddodd yr Eidaliaid yn nyffryn Arsa, a chymerasant gribyn arfog Mynydd Maio. Nid yw y fyddin yn Salonica eto wedi symud, ond si- brydir y gwna ar fyr. Cychwynwyd y rhuthr fawr foreu Sadwrn, a pharhaai drwy y Sabboth, ac adroddai y swyddfeydd yn Llundain a Paris symudiad yn mlaen sylweddol drwy y d.dau ddydd. Syrthiodd tref Fricourt i ddwylaw y Prydeinwyr, a chymerodd y Ffrancod dref Curlw, yn ychwanegol at y lleoedd eraill ddydd Sadwrn. Hawlia y fyddin unol 10>, 0 0 01 yn garcharorion oddiar foreu Sadwrn. Hysbysir fod yr ymosodiad cyngreiriol yn fwy dinystriol na dim yn eu hanes yn Ffrainc. Daw y rhuthr Ffrengig a hwy o fewn saith milldir i Peronne, drwy yr hon dref y rhed y brif reil- ffordd i'r fyddin Germanaidd yn Soisons a Noyon, prif gadfa y German- iaid yn St. Quentin. Caed caerfeydd y Germaniaid ar hyd ffordd y rhuthr yn chwilfriw. Y mae arwyddion fod y rhuthr i barhau am dymor hyd gyr- aedd rhan o gysylltiadau tramwyol y Germaniaid. Yn ol yr adroddiadau o Ogledd Ffrainc, y mae y Germaniaid yn an- alluog i atal y rhuthr Brydeinig- Ffrengig. Y mae y Germaniaid wedi eu gyru yn ol i'r gogledd a'r de o'r afon Somme. Mae y gwrthwynebiad yn gryfach o flaen y fyddin Brydeinig, na'r un Ffrengig; felly gwna y fyddini Ffrengig symudiad cyflymach. Ar y trydydd dydd o'r rhuthr yr oedd y Ffrancod wedi cyraedd o fewn tair milldir i Peronne, ei nod ar hyn o bryd, y ffordd yr a y rheilffordd i un o bencadleoedd y Germaniaid yn St. Quentin. Cymerwyd trefi eraill, a rhifai y carcharorion 14,000. N'id yw y Germaniaid wedi gallu dal hyd yn nod eu lleoedd crvfaf yn ngwyneb y rhuthr ofnadwy hon. Yn ol yr adroddiadau ddydd Mer- cher, yr oedd y Germaniaid yn cael ad- gyfnerthion cryfion, ac yn gwneyd gwrthwynebiad cadarn i'r fyddin IBfy-1 deinig. Pery yn ymdrech egniol hefyd o hyd ger Verdun. Cymerwyd amryw bentrefi oddiar y Germaniaid y ddau ddiwrnod diweddaf. Daw newydd calonogol hefyd oddi- wrth y Rwsiaid, y rhai sydd yn a.gos- hau at Lemberg, yr hwn le a gwymp ar fvrder. Hysbysid hefyd fod gwyr meirch Rwsia wedi croesi y mynydd- oedd i Hwngari.

Advertising

ALLAN O'R PAPYRAU CYMREIG.…

[No title]

NEW YORK A VERMONT

[No title]

ANRHEGU GWEINIDOG. I

Advertising

ALLAN O'R PAPYRAU CYMREIG.…