Hide Articles List

13 articles on this Page

flEWYDDTON CYMRU. I *.AMU.…

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

flEWYDDTON CYMRU. I AM U  -Am ladrata llefrith oddiar fferm yn sir Benfro, dirwywyd dynes o Ros- crowther i ddeg swllt. Aeth i'r caeau a godrodd fuwch oddeutu haner awr wedi tri yn y boreu. —Y mae'r Parch. G. Ceidiog Ro- berts wedi rhoi bugeilio eglwys M. C. Salem, Llanllyfni, i fyny o herwydd afiechyd, ar ol bod yno chwe blynedd ar hugain. Yn y fynwent bono y mae llwch John Jones, Talysarn. -Drwg gan bawb glywed fod Mrs. Lloyd George wedi cael damwain wrth gychwyn y modur. Ysigodd ei braich, ond mae lie i ddysgwyl y bydd y ddwy fraich gystal a'u gilydd yn fuan. -Bu Lady Mostyn, gweddw'r di- wedar ISyr Pierce Wm. Mostyn, Tal- acre, farw yn ddiweddar yn Parkstone, ger Bournemouth. Hen deulu Cym- reig eu gwaed a Phabyddol eu ffydd. j -Mae pysgota ar y Sabboth yn dy- i fod yn beth cyffredin yn Nghymru. Cwynir yn dost o ardaloedd Dolwydd- elen fod Saeson yn dyfod yno i ddolurio I teimladau'r trigolion. Apelir at bwyll- gor y pysgodfeydd ond i ddim pwrpas. Creadur heb galon ganddo yw pwyll- gor, a chyfle i ddynion lechu rhag eu dyledswyddau. -Yn Mrawdlys Fflint, dedfrydwyd John Bellis-Cymro pump a thriugain j oed—i dairblynedd o benydwasanaeth am ymosod ar wraig y ty lie y lletyai —.Martha L. Griffiths, dynes 74ain oed —nos Calan. Gwellhaodd hi i raddau o'r niweidiau, idnd collodd ei synwyrau, a bu farw yn Ngwallgofdy Dinbych. -Llawen iawn i Gymry yw derbyn y newydd* am ddyrchafiad anrhydeddus Dr. Carey Evans, mab y Dr. R. D. Evans, Y. H., Llys Meddyg. Ffestiniog. Cafodd ei anrhydeddu a'r Military j Cross. Y mae amryw o lythyrau dy- ddorol o eiddo Dr. Carey Evans wedi ymddangos yn y "Drych." j —Cafwyd gweddillion dyn tal, yn j dal revolver yn esgyrn ei law ddehau, j wrth gloddio mewn gardd yn Pembrev, sir Gaerfyrddin. yn ddiweddar. An- hawdcl roi cyfrif o ddarganfyddiad fel yna yn Nghvmru. ond bydd pethau tebyg yn gvffredin ar y Cyfandir yn mhen vchvdisr flynyddoedd: er fod ein bechgyn wedi enill hedd, perffaith hedd. -Nid oes mwyach ond rhyw chwech i wythnos cyn amser cynal y Wvl Gen- edlaethol yn Aberystwyth, ac mae'r Pwvllgor wrthi'n brysur yn gwneyd y darpariadau. Yn ol pob argoel bydd llawer o gvstadlu yn y gwahanol gystadleuaethau, vn enwedig yn nghystadleuaeth y Corau Me rehed. Gan fod y brif gystadleuaeth gorawl wedi ei thori allan. mae'r ail gystad- leuaeth yn awr wedi ei chodi'n brif, a dysgwylir y bydd ymryson tyn am y wobr. -Yn nghyfarfod blvnyddol Undeb Annibynwyr Meirion, a gynaliwyd yn Arthog, cwynai'r Parch. J. Hughes, Ffestiniog, fod lleihad o fil yn rhifedi aelodau'r Ysgal Su). a nhenderfynwyd mynd o dy i dy i "guro'r twmpathau," fel y byddai un hen flaenor yn galw hela'r esgeuluswyr. Dewiswyd y Parch. Rhys Davies, Corris, vn llyw- ydd; Mr. J. R. Jordan, y Bala, yn drysorydd; Mr. T. O. Pritchard, Cor- wen. yn ystadegydd: a'r Parch. George Davies, Ffestiniog, yn ysgrifenydd. -Bu yn ddadlu poeth yn Mwrdd Gwarcheidwaid Bangor yn nghylch penodi meistr a meistres i'r tloty. Mr. a Mrs. Perkins, o dloty Horsham, a benodwyd, Saeson na fedrant air o Gymraeg, er i Mrs. Perkins. ar 01 y penodi, frolio y dysgai hi Gymraeg maes o law, ac y byddai'n barod i'w synu yn yr hen iaith yn mhen byr amser. Pleidleisiodd 15 o blaid y gweIliant-sef fod Mr. Greenly a Miss Roberts i barhau yn y swydd-a 16 o blaid y cynygiad; a thrwy bleidlais- droi y cadeirydd, y cariwyd yn ffafr y Perkinsiaid. -Yn mrawdlys Mon, rhoed John Ellas, amaethwr, Tyddyn Bach, Llan- faethlu, Mon, yr hwn sydd yn 78 mlwydd oed, ar ei brawf ar y cyhudd- iad o lofruddio ei fab ar y 13eg o Fai. Pan roddwyd y cynygiad yn ffurfiol, atebodd y cvhuddedig—"Naddo, Syr, yr wyf yn ddieuog." Y mae manylion yr iachos poenus hwn wedi eu cvhoeddi eisoes. •B'u y rheithwyr am awr yn ystyried y ddedfryd, a chafwyd yr hen wr yn euog, ond argymellwyd ef i dru- garedd y Brenin ar gyfrif ymddygiad ei fab tuag ato. Dywedodd y Barnwr, ar ol iddo roddi y cap du, fod y car- charor wedi ei gael yn euog o drosedd creulawn ac annaturiol. Yn ol cwrs natur nis gellid dysgwyl iddo fyw yn hir, ond llychwinodd ei fywyd gyda throsedd anfad. Pa un a allai tosturi y Goron gael ei estyn iddo ar gyfrif ei oedran mawr, neu mewn canlyniad i anogaeth y rheithwyr, ni alLai ddweyd, ond ei ddyledswydd ef yn wyneb y gyfraith oedd pasio dedfryd marwol- aeth arno. Safai pawb yn y Llys ar eu traed nan gvhoeddwyd y ddedfryd, yna dvwedodd y Ca,plan-Parch. T. Charles WiUrams—"Amen" mewn tawelwch dwfn. ♦«»

Advertising

Y DIWEDDAR JOSEPH EDWARDS.…

MARWOLAETH YN COLLINS- I VILLE.…

WILKES-BARRE, PA.I

Llovd Georere i Setlo v Cwestiwn…

Adroddiad Eglwys Suokane.…

MARWOLAETHAU.I

Advertising

ALLIANCE. OHIO. I

EMPLOYMENT BUREAU.

Advertising

NEW YORK A VERMONT